Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 8 Rhagfyr 2011

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Iau, 8fed Rhagfyr, 2011

Ynglyn â

Dydd Iau 8 Rhagfyr 2011 am 11.30am.
Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni.

Noder: Oherwydd natur rhai o'r dogfennau isod, nid yw pob un yn hollol ddwyieithog nac yn hollol hygyrch i bobl gydag amhariadau gweledol, ac ni fydd modd defnyddio 'darllenwr sgrin' i ddarllen y dogfennau hyn.

Agorir y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd EG Davies.

Rhaglen

1. Datganiad o ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

2. Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, yr Arweinydd, y Bwrdd Comisiynwyr neu Bennaeth y Gwasanaethau Tâl

3. Catrawd Frenhinol Cymru - Rhyddid y Sir

(a) Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi)
(Papur A)

(b) Bydd yr Uwchgapten Owain Luke, Bataliwn 1af Catrawd Frenhinol Cymru yn annerch y Cyngor.