Dydd Iau 8 Rhagfyr 2011 am 1.30pm.
Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni.
Noder: Oherwydd natur rhai o'r dogfennau isod, nid yw pob un yn hollol ddwyieithog nac yn hollol hygyrch i bobl gydag amhariadau gweledol, ac ni fydd modd defnyddio 'darllenwr sgrin' i ddarllen y dogfennau hyn.
Agorir y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd E G Davies.
Bydd Cadeirydd y Cyngor Sir yn cyflwyno Gwobrau Chwaraeon Ynys Môn am 2011 ar gyfer y categorïau isod:
Geneth y Flwyddyn
Bachgen y Flwyddyn
Tîm y Flwyddyn
Seren Chwaraeon y Flwyddyn
Gwirfoddolwr y Flwyddyn
Cyflwyno i'w cadarnhau a'u llofnodi, gofnodion y cyfarfodydd o'r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau isod:
Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y Rhaglen.
Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad.
5.1 Ychwanegiad at y ddeddfwriaeth yn yr Atodiad i‟r Cynllun Dirprwyo i Swyddogion ym Mharagraff 3.5.3.15
Dweud bod y Bwrdd Comisiynwyr ar ôl ystyried yr uchod yn eu cyfarfod ar 28 Tachwedd 2011, wedi penderfynu fel a ganlyn:
“Argymell i'r Cyngor a'r Gweinidogion Cymreig, y dylid diwygio Cyfansoddiad y Cyngor drwy ychwanegu at yr Atodiad yn y Cynllun Dirprwyo i Swyddogion yn 3.5.3.15 y ddeddfwriaeth yn CH 1.2 yr adroddiad ac awdurdodi Swyddogion i wneud unrhyw newidiadau canlyniadol i'r Cyfansoddiad.â€
5.2 Newid i‟r “Nodyn†sy‟n cyfeirio at y diffiniad o “Ddiwrnod†sy‟n dilyn y mynegai ar gychwyn y Cyfansoddiad
Dweud bod y Bwrdd Comisiynwyr ar ôl ystyried yr uchod yn eu cyfarfod ar 28 Tachwedd 2011, wedi penderfynu fel a ganlyn:
“Argymell i'r Cyngor ac i'r Gweinidogion Cymreig, y dylid diwygio Cyfansoddiad y Cyngor trwy newid y “Nodyn†i'r ffurf yn CH 2.3 yr adroddiad ac awdurdodi Swyddogion i wneud unrhyw newidiadau canlyniadol i'r Cyfansoddiad.â€
Cyflwyno adroddiad y Cyfreithiwr i'r Swyddog Monitro fel y cafodd ei gyflwyno i'r Bwrdd Comisiynwyr ar 28 Tachwedd 2011 mewn perthynas â'r newidiadau uchod.
(Papur D)
Cyflwyno adroddiad y Cyfreithiwr i'r Swyddog Monitro.
(Papur DD)
Cyflwyno Datganiad y Comisiynwyr ar Strategaeth Gyllidebol 2012-13.
(Papur E)
(a) Dweud bod y Bwrdd Comisiynwyr yn eu cyfarfod ar 28 Tachwedd wedi penderfynu fel a ganlyn:
“PENDERFYNWYD argymell i'r Cyngor Sir y dylid mabwysiadu'r Polisi Clystyrau Gwledig fel Polisi Dros Dro hyd nes y bydd y Cynllun Datblygu Lleol ar y cyd yn cael ei fabwysiadu yn 2016.â€
(b) Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd) fel y cafodd ei gyflwyno i'r Bwrdd Comisiynwyr ar 28 Tachwedd 2011.
(Papur F)
Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd).
(Papur FF)
Bydd y Prif Weithredwr yn cyflwyno er gwybodaeth, adroddiad yn nodi unrhyw newidiadau i'r cynllun dirprwyo mewn perthynas â'r swyddogaethau gweithredol a wnaed gan y Comisiynwyr ers y cyfarfod arferol diwethaf (Rheol 4.4.1.4 o Reolau Gweithdrefn y Cyfansoddiad).
(Papur G)
Derbyn adroddiad llafar gan y Cynghorydd Aled Morris Jones, un o gynrychiolwyr y Cyngor hwn ar Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru ar gyfarfodydd a gynhaliwyd gan yr Awdurdod hwnnw rhwng 1 Medi 2011 a 30 Tachwedd 2011.
Derbyn adroddiad llafar gan y Cynghorydd P S Rogers, cynrychiolydd y Cyngor hwn ar Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru ar gyfarfodydd a gynhaliwyd gan yr Awdurdod hwnnw rhwng 1 Medi a 30 Tachwedd 2011.
Ystyried mabwysiadu'r canlynol:
“Dan 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru'r wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem isod oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwmâ€.
(a) Cyflwyno adroddiad llafar gan y Swyddog Adran 151 Dros Dro.
(b) Bydd argymhellion y Pwyllgor Penodiadau a gynhaliwyd yn gynharach heddiw yn cael eu rhoi ar y bwrdd.
Cyflwyno adroddiad llafar gan y Comisiynydd Margaret Foster.