Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 9 Mai 2008

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Gwener, 9fed Mai, 2008

CYFARFOD BLYNYDDOL A CHYFFREDIN O GYNGOR SIR YNYS MÔN

 

Cofnodion y cyfarfod ar 9 Mai, 2008 

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorwyr W.J. Chorlton, E.G. Davies, Lewis Davies,

Barrie Durkin, Jim Evans, K. Evans, C.Ll. Everett, P.M. Fowlie,

D.R. Hughes, Fflur M. Hughes, K.P. Hughes, R.Ll. Hughes,

W.I. Hughes, Eric Jones, Gwilym O. Jones, H. Eifion Jones,

O.Glyn Jones, Raymond Jones, R. Dylan Jones, R.Ll. Jones,

T.H. Jones, Aled Morris Jones, Clive McGregor, Rhian Medi,

Bryan Owen, J.V. Owen, R.L. Owen, Bob Parry OBE,

G.O. Parry MBE, Eric Roberts, G.W. Roberts OBE,

J. Arwel Roberts, Peter S. Rogers, Elwyn Schofield, H.W. Thomas, Ieuan Williams, John Williams, John Penri Williams,

Selwyn Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Rheolwr-gyfarwyddwr,

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid),

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol),

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol),

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden),

Cyfarwyddwr Cyfreithiol a Phwyllgorau/Swyddog Monitro,

Pennaeth Gwasanaeth (Polisi),

Pennaeth Gwasanaeth (Datblygu Economaidd) (Eitem 19),

Pennaeth Gwasanaeth (Eiddo) (Eitem 19),

Cyfreithiwr i’r Swyddog Monitro (RMJ),

Pennaeth Rheoli Datblygu (EGJ) (Eitem 19),

Swyddog Cyfathrebu,

Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgorau.

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorydd T.Ll. Hughes.

 

 

 

 

Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd John Williams

 

1

CADEIRYDD

 

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Aled Morris Jones yn Gadeirydd Cyngor Sir Ynys Môn am 2008/2009.

 

Wrth dderbyn yr anrhydedd o gael ei benodi fe addawodd i'r Cyngor y byddai'n ymgymryd â'r dyletswyddau hyd eithaf ei allu.  Cymerodd y Cynghorydd Jones y cyfle i dalu teyrnged i'r Cadeirydd oedd yn ymddeol, y Cynghorydd W. J. Williams MBE am ei ymrwymiad yn cynrychioli'r Cyngor Sir trwy gydol ei gyfnod yn y swydd.

 

Diolchodd y Cynghorydd W. J. Williams MBE, sef y Cadeirydd oedd yn ymddeol, i'r holl aelodau ac i swyddogion y Cyngor am eu cefnogaeth a'u cydweithrediad yn ystod cyfnod ei swydd.  Rhoddodd hefyd grynodeb o'i ddyletswyddau fel Cadeirydd yn cynrychioli'r Cyngor Sir mewn gwahanol weithgareddau trwy gydol y flwyddyn.  Mynegodd ei ddymuniadau gorau i'r Cynghorydd Jones a'i wraig Olwen gan obeithio y byddent hwythau hefyd yn mwynhau cyfnod hapus a llwyddiannus iawn yn y swydd.

 

2

IS-GADEIRYDD

 

 

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd O. Glyn Jones yn Is-Gadeirydd Cyngor Sir Ynys Môn am 2008/2009.

 

Diolchodd y Cynghorydd Jones i'r aelodau am eu hyder ynddo a diolchodd i'r aelodau am eu geiriau caredig.  Mynegodd ei fwriad i gydweithredu ac i gefnogi'r Cadeirydd newydd.

 

 

 

3

CYFLWYNIAD I’R AELODAU SY’N YMDDEOL GAN Y CADEIRYDD NEWYDD/ RHEOLWR- GYFARWYDDWR

 

 

 

Talodd y Cadeirydd deyrnged i'r Cynghorwyr canlynol oedd wedi datgan eu bwriad i ymddeol fel Cynghorwyr cyn etholiadau'r Cyngor :-

 

 

 

Y Cynghorydd P.J. Dunning

 

 

 

Mae’r Cynghorydd Peter Dunning wedi cynrychioli etholaeth Trearddur ers 2004.  Bu’r Cynghorydd Dunning yn gymorth mawr i’r Adran Briffyrdd gyda’r cynlluniau i gryfhau amddiffyniadau’r môr ym Mae Trearddur, gan gofio fod y broses wedi dechrau gydag ymgynghori gyda’r cyhoedd nol yn 2004.  Deallwn fod Peter am dreulio llawer o’i amser yn y dyfodol tua Phortiwgal a dymunwn yn dda iddo ef a’r teulu yno.

 

 

 

Y Cynghorydd J. Arwel Edwards

 

 

 

Mae’r Cynghorydd John Arwel Edwards fel aelod o Grwp Plaid Cymru wedi cynrychioli etholaeth Gwyngyll ers 2001.  Bu yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ac yn ystod yr amser yma roedd yn gefnogol iawn yn y Pwyllgor Cynllunio i’r polisïau ac i’r staff.  Bu hefyd yn weithgar a rhoddodd wasanaeth gwerthfawr fel Is-Gadeirydd y Panel Tâl a Chyflogaeth.

 

 

 

Y Cynghorydd G. Allan Roberts

 

 

 

Yn anffodus nid yw’r Cynghorydd Allan Roberts yn gallu bod gyda ni heddiw i dderbyn y rhodd yma a'n diolchiadau am ei wasanaeth.  Mae wedi cynrychioli etholaeth Parc a’r Mynydd ers 1998.  Bu’n aelod o’r Pwyllgor Safonau rhwng Medi 1998 a Rhagfyr 2003.  Cafodd ei ethol gan aelodau’r Cyngor Sir fel aelod fyddai’n ddiduedd i’w cynrychioli ar y Pwyllgor.  ‘Roedd y cyfnod yma yn adeg prysur iawn i’r Pwyllgor Safonau ac ‘rydym yn diolch iddo am ei gyfraniad.

 

 

 

Y Cynghorydd John Rowlands

 

 

 

Dechreuodd ei ddiddordeb mewn llywodraeth leol yn 1961 pan gafodd ei ethol yn Gynghorydd Cymuned dros Llanddona.  Bu’n aelod o Gyngor Gwynedd rhwng 1984 - 1996 ac yna daeth i Gyngor Sir Ynys Môn yn 2000.  ‘Roedd yn aelod o’r Pwyllgor Gwaith am ddwy flynedd a bu yn Gadeirydd y Cyngor Sir yn 2006-07.

 

 

 

Y Cynghorydd Keith Thomas

 

 

 

Mae’r Cynghorydd Keith Thomas wedi cynrychioli etholaeth Ffordd Llundain ers 1999.  Bu yn Ddeilydd Portffolio Priffyrdd ac fe roedd yn gymorth i gael y Gang Gymunedol gyntaf yng Ngogledd Orllewin yr ynys, fel arbrawf.  Profodd yr arbrawf yn llwyddiannus iawn a nawr mae yna bum gang, h.y. dros bob rhan o’r ynys.

 

 

 

Y Cynghorydd W.J. Williams MBE

 

 

 

Mae’r Cynghorydd W.J. Williams wedi cynrychioli etholaeth Llanddyfnan ers 1960.  Mae ei holl gyfraniad i lywodraeth leol yn rhy niferus i'w rhestru.  Yn gyn Faer y Cyngor Bwrdeistref a chyn-Arweinydd y Cyngor Sir roedd heddiw yn sefyll i lawr fel Cadeirydd.  Mae wedi cyfrannu’n sylweddol fel Cadeirydd TAITH a hefyd fel cynrychiolydd Cymru ar Bwyllgor y Rhanbarthau ac wedi bod yn llysgennad ardderchog i ni yn Ewrop.  

 

 

 

Diolchodd y Cadeirydd yn fawr i’r chwe aelod am eu cyfraniad gwerthfawr a dymunodd yn dda iddynt ar gyfer y dyfodol.

 

 

 

Ar ran y Cyngor Sir cyflwynodd y Cadeirydd blac gwydr gyda logo'r Cyngor arno fel gwerthfawrogiad i'r aelodau o'u gwasanaeth i Lywodraeth Leol.

 

 

 

Talodd arweinwyr y pedwar Grwp Gwleidyddol eu teyrnged eu hunain i Mr. W. J. Williams am ei gyfraniad gwerthfawr i  weithgareddau'r Cyngor Bwrdeistref a'r Cyngor Sir dros y blynyddoedd.

 

 

 

PENDERFYNWYD cofnodi gwerthfawrogiad y Cyngor i bob un o'r chwe Cynghorydd am eu gwasanaeth gwerthfawr i Lywodraeth Leol ac i'w cymunedau dros y blynyddoedd.

 

 

 

4

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd E. Schofield ddatganiad o ddiddordeb mewn unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei wyr yn yr Adran Priffyrdd a Thrafnidiaeth.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd G.O. Parry MBE ddatganiad o ddiddordeb mewn unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ddwy ferch yn yr Adran Gyllid.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd O. Glyn Jones ddatganiad o ddiddordeb mewn unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei wraig a’i ferch yn yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd R.Ll. Hughes ddatganiad o ddiddordeb mewn unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei fab yn yr Adran Priffyrdd.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Eric Jones ddatganiad o ddiddordeb mewn unrhyw  fater a allai godi mewn perthynas a chartrefi preswyl y Cyngor.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd R.Ll. Jones ddatganiad o ddiddordeb mewn unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Addysg.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Fflur M. Hughes ddatganiad o ddiddordeb mewn unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei mab yn yr Adran Addysg.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd C.Ll. Everett ddatganiad o ddiddordeb mewn unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Hawliau Dynol.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd A.M. Jones ddatganiad o ddiddordeb mewn unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei frawd yn yr Adran Addysg a Hamdden.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorwyr W.J. Chorlton, E.G. Davies, P.M. Fowlie, A. Morris Jones, O. Glyn a R.L. Owen ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag Eitem 16 ar y cofnodion ac nid oeddent yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod unrhyw drafodaeth na phleidleisio arno.  ( y Cynghorydd T. Jones oedd yn y Gadair am yr eitem hon).

 

 

 

Yn dilyn derbyn cyngor cyfreithiol ar y diwrnod,  fe arhosodd y Cynghorwyr W. J. Chorlton ac R. L. Owen (sef cynrychiolwyr y Cyngor hwn ar Bwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd Cymru) yn y cyfarfod ar gyfer eitem 19 o'r cofnodion hyn, a chaniatawyd iddynt gymryd rhan yn y drafodaethau ond ni wnaethant bleidleisio ar y mater.

 

 

 

5

COFNODION

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd, cofnodion y Cyngor Sir a gafwyd ar 4 Mawrth, 2008.

 

 

 

6

DERBYN UNRHYW GYHOEDDIADAU GAN Y CADEIRYDD, YR ARWEINYDD, AELODAU’R PWYLLGOR GWAITH NEU BENNAETH Y GWASANAETH TÂL

 

 

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso cynnes i aelodau etholedig newydd y Cyngor Sir.

 

 

 

Llongyfarchwyd y Cynghorydd Peter Rogers ar ei benodi'n Uchel Siryf Gwynedd a dymunwyd yn dda iddo am ei flwyddyn yn y swydd.  Hefyd Mrs Sian Arwel Davies, gwraig y Cynghorydd E. G. Davies ar gael ei phenodi'n Llywydd y Bedyddwyr yng Nghymru.

 

 

 

Diolchodd y Cynghorydd P. S. Rogers i'r Cadeirydd am ei eiriau caredig a chymerodd y cyfle i dalu teyrnged i'r broses ddemocrataidd, ac i'r ffaith fod 14 o aelodau newydd wedi eu penodi i'r awdurdod.  Roedd am ddymuno pob llwyddiant iddynt yn eu gwaith.

 

 

 

Dywedodd y Cadeirydd bod y Gwasanaeth Cynllunio wedi penderfynu cyflwyno gwobr er cof am Sion Hardy, Myfyriwr oedd yn gweithio yn yr Adran ac a laddwyd yn Lerpwl ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf.  Cyflwynwyd y wobr i Linda Lee am gael y marciau uchaf yn ei harholiadau cynllunio ôl-raddedig.  Roedd y cwrs yn cael ei noddi gan y Cyngor.

 

 

 

Roedd y dydd heddiw hefyd yn gyfle i ddathlu blwyddyn o amser ers agor Maes Awyr Ynys Môn.  Dadorchuddiodd Mr. Ieuan Wyn Jones, Aelod Cynulliad, blac i gofio'r achlysur.  Roedd dros 14,000 o bobl wedi defnyddio'r gwasanaeth hyd yn hyn - roedd yr awyrennau yn hedfan ar 80% o gapasiti (canran uwch nag unrhyw wasanaeth arall tebyg).  Y gobaith yw y bydd y gwasanaeth yn cael ei ymestyn yn y dyfodol.  Estynnwyd dymuniadau gorau iddynt.

 

 

 

Cynhaliwyd Pencampwriaeth PGA Proffesiynol Ifanc Agored Cymru Cwpan Ryder yng Nghlwb Golff Porth Llechog Ynys Môn y mis diwethaf.  Roedd y digwyddiad yn cael ei gefnogi gan Gyngor Sir Ynys Môn a Chomisiwn Digwyddiadau Gogledd Orllewin Cymru ac fe ddenodd fwy o ymgeiswyr nag erioed o dlith chwaraewyr proffesiynol trwy Brydain gyfan gyda 132 o gystadleuwyr.  Estynnwyd llongyfarchiadau i'r rhai oedd wedi cymryd rhan a diolchwyd i'r holl staff oedd wedi bod ynglyn â pharatoi ar gyfer y digwyddiad.

 

 

 

Dymunwyd dymuniadau gorau i bawb oedd yn cystadlu yn Eisteddfod Môn (Eisteddfod Llandegfan) heno ac yn Rali'r Ffermwyr Ifanc.

 

 

 

Dymunwyd dymuniadau gorau am adferiad llwyr a buan i'r Cynghorydd T. Lloyd Hughes yn dilyn ei ymweliad â'r ysbyty yn ddiweddar.

 

 

 

Cyfeiriwyd hefyd at farwolaeth yr Henadur Thomas Dryhurst-Roberts yn ddiweddar.  Roedd yn aelod o hen Gyngor Sir Môn ac yn aelod o Gyngor Bwrdeistref Ynys Môn rhwng 1976 a 1987.  Etholwyd ef yn Faer yn 1983-84.  Roedd hefyd yn aelod o Gyngor Sir Gwynedd.  Estynnwyd cydymdeimlad y Cyngor i'w fab John a'r holl deulu.

 

 

 

Mynegwyd cydymdeimlad â theulu Mr. Raymond Williams oedd wedi marw yn ddiweddar.  Roedd wedi gweithio yn Adain Trafnidiaeth yr Adran Amgylcheddol a Gwasanaethau Technegol ers 1996 hyd ei ymddeoliad yn 2004 a dychwelodd i'r gwaith fel ymgynghorydd am ddiwrnod yr wythnos nes iddo gael ei daro'n wael yn Hydref 2007.  Cyn hynny, ers 1988, roedd wedi gweithio i Gyngor Gwynedd.

 

 

 

Mynegodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad gydag unrhyw aelod o'r Cyngor neu aelod o staff oedd wedi colli perthynas.

 

 

 

Safodd yr aelodau a'r swyddogion mewn teyrnged ddistaw fel arwydd o'u parch.

 

 

 

7

ARWEINYDD

 

 

 

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd P.M. Fowlie yn Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn.

 

 

 

(Dan Baragraff 4.1.1.2.6 ac yn arbennig dan Baragraff 2.7.3 Cyfansoddiad y Cyngor).

 

 

 

Diolchodd y Cynghorydd Fowlie am y fraint o gael ei apwyntio yn Arweinydd y Cyngor.

 

 

 

8

DIRPRWY ARWEINYDD

 

 

 

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd R.G. Parry OBE yn Ddirprwy Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn.

 

 

 

(Dan Baragraff 4.1.1.2.6 ac yn arbennig dan Baragraff 2.7.3 Cyfansoddiad y Cyngor).

 

 

 

Diolchodd y Cynghorydd R.G. Parry OBE am y fraint o gael ei apwyntio yn Ddirprwy Arweinydd y Cyngor.

 

 

 

9

DIRPRWYO GAN YR ARWEINYDD/AELODAU’R PWYLLGOR GWAITH

 

 

 

Yn unol  â Rheol 4.4.1.2 Rheolau Gweithdrefn y Pwyllgor Gwaith, enwodd Arweinydd y Cyngor y canlynol fel aelodau yr oedd wedi eu dewis i wasanaethu ar y Pwyllgor Gwaith, ynghyd â'u cyfrifoldebau portffolio :-

 

 

 

Dywedodd yr Arweinydd y byddai'n enwi 8 o'r 9 Deilydd Portffolio heddiw ac y byddai, dros yr ychydig wythnosau nesaf, yn egluro eu cyfrifoldebau portffolio.

 

 

 

Y Cynghorydd R.Ll. Hughes          -     Aelod Portffolio Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Y Cynghorydd Bryan Owen          -     Aelod Portffolio Datblygu Economaidd

 

Y Cynghorydd E.G. Davies          -     Aelod Portffolio Addysg a Hamdden

 

Y Cynghorydd G.O. Parry MBE     -     Aelod Portffolio Cyllid

 

Y Cynghorydd R.Ll. Jones          -     Aelod Portffolio Cynllunio

 

Y Cynghorydd C. McGregor          -     Aelod Portffolio Priffyrdd

 

Y Cynghorydd R.G. Parry OBE     -     Aelod Portffolio Amgylchedd

 

     Y Cynghorydd Ieuan Williams     -     Aelod Portffolio Personnel a Perfformiad

 

      

 

10

CADARNHAU’R PWYLLGORAU

 

      

 

     Cadarnhaodd y Cadeirydd ailfabwysiadu strwythur presennol y Pwyllgorau y cyfeirir ato yn Rhan 3.4 Cyfansoddiad y Cyngor.

 

      

 

11

CADARNHAU’R CYNLLUN DIRPRWYO

 

      

 

     Cadarnhaodd y Cadeirydd unrhyw ran o’r Cynllun Dirprwyo y dywed y Cyfansoddiad bod raid i’r Cyngor gytuno arno.

 

      

 

12

RHAGLEN CYFARFODYDD CYFFREDIN Y CYNGOR SIR

 

      

 

     PENDERFYNWYD cadarnhau y rhaglen isod o gyfarfodydd cyffredin y Cyngor Sir am y flwyddyn :-

 

      

 

     16 Medi, 2008                    -     2.00 p.m.

 

     11 Rhagfyr, 2008               -     2.00 p.m.

 

     3 Mawrth, 2009                    -     2.00 p.m.

 

     5 Mai, 2009 (Cyfarfod Blynyddol)     -     2.00 p.m.

 

      

 

13

BALANS GWLEIDYDDOL

 

      

 

     Cyflwynwyd - tabl yn dangos y cydbwysedd gwleidyddol ar Bwyllgorau’r Cyngor gan gydymffurfio gyda’r ddeddfwriaeth Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.

 

      

 

     Roedd y tabl yn dangos 4 Grwp Gwleidyddol 20, 8, 5 a 4 Aelod, gyda 3 Aelod Heb Ymaelodi ar wahân. Roedd nifer y seddau oedd i'w dyrannu bellach yn  120.

 

      

 

     Roedd y ffigyrau wedi'u paratoi er mwyn sicrhau cydbwysedd gwleidyddol ar sail aelodaeth o'r Pwyllgorau yn ogystal â chyfanswm yn seiliedig ar y darpariaethau deddfwriaethol.  Roedd dyraniad theoretig o 120 sedd yn dangos dyraniad o 12 sedd i Môn Ymlaen, 24 sedd i Plaid Cymru, 60 sedd i'r Grwp Annibynnol Gwreiddiol, 15 sedd i'r Grwp Llafur a 9 sedd i Aelodau Digyswllt.

 

      

 

     Ni allai pob grwp gwleidyddol ar y Cyngor ond dyrannu'r seddau yr oedd wedi ei dderbyn o dan y trefniadau cydbwysed gwleidyddol i'w aelodau ei hun ac ni all ddyrannu i Gynghorydd nad oedd yn aelod o'r un grwp gwleidyddol hwnnw.  

 

      

 

     (Roedd y Cynghorydd W. J. Chorlton yn dymuno iddo gael ei gofnodi bod y Grwp Llafur yn anhapus gyda'r ffaith nad oedd ganddo gynrychiolaeth ar y Panel Tâl a Graddfeydd).

 

 

 

     PENDERFYNWYD

 

      

 

Ÿ

bod y nifer o seddi ar y Panel Tâl a Graddfeydd yn cael ei ostwng o 6 i 5.

 

 

 

Ÿ

nodi’r trefniadau newydd ar gyfer cydbwysedd gwleidyddol a’r nifer o seddi a roddir i bob Grwp a’r Aelodau Heb Ymaelodi dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989;

 

 

 

Ÿ

cytuno ar y niferoedd cyflawn o seddi a ddyrennir i’r Aelodau Heb Ymaelodi;

 

 

 

Ÿ

gofyn i Arweinyddion y Grwpiau ddarparu rhestr o enwau cynrychiolwyr eu Grwp ar bob Pwyllgor i'r Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgor mor fuan ag sy'n bosibl a gorau oll, yn union ar ôl y cyfarfod hwn o'r Cyngor Sir.

 

 

 

Ÿ

Gofyn i’r 3 Aelod Digyswllt benderfynu ymysg ei gilydd ynglyn â pha Bwyllgorau y maent yn dymuno bod yn aelodau ohonynt yn unol â’r trefniadau Cydbwysedd Gwleidyddol geir o fewn yr adroddiad i’r Cyngor hwn.  Pe baent yn methu dod i gytundeb ynglyn â hyn, rhoi awdurdod i Arweinydd y Cyngor benderfynu ar y dyraniadau .

 

      

 

14

Y DREFN GWYNO

 

      

 

     Adroddwyd - bod y Pwyllgor Gwaith ar ôl ystyried yr adroddiad uchod yn ei gyfarfod ar 25 Mawrth, 2008, wedi penderfynu fel a ganlyn :-

 

      

 

     “Derbyn penderfyniad y Pwyllgor Archwilio ar 13 Chwefror, 2008 y dylid anfon y Siart Llif o’r Drefn Gwyno Amlinellol i’r Cyngor Sir ar 9 Mai, 2008 i’w fabwysiadu fel newid Cyfansoddiadol.”

 

      

 

     Cyflwynwyd er gwybodaeth - gwybodaeth gefndirol yn codi o gyfarfod yr Is-Bwyllgor Canolbwyntio ar y Cwsmer a gynhaliwyd ar 5 Chwefror, 2008, a chopi o ymateb y Tîm Rheoli.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd C. L. Everett na allai'r gweithdrefn gwynion symud ymlaen oni bai bod Swyddog Gofal Cwsmer yn cael ei benodi gan y Pwyllgor Gwaith.  Roedd yn teimlo y dylai'r materion yr oedd y Tîm Rheoli wedi eu nodi gael eu cyfeirio'n ôl i'r Is-Bwyllgor Canolbwyntio ar y Cwsmer neu i'r Pwyllgor Gwaith i'w hystyried.  Cynigiodd ymhellach y dylai'r Cyngor fabwysiadu'r siart llif fel ffordd i ddelio gyda chwynion yn y cyfamser.

 

      

 

     PENDERFYNWYD

 

      

 

Ÿ

Mabwysiadu siart llif y Weithdrefn Gwynion.

 

 

 

Ÿ

Gofyn i'r Pwyllgor Gwaith roddi ystyriaeth ar frys i benodi Swyddog Gofal Cwsmer neu ofyn os gall y Tîm Rheoli nodi aelod o'r staff presennol i wneud y dyletswyddau.

 

 

 

Ÿ

Gofyn i'r Is-Bwyllgor Canolbwyntio ar y Cwsmer neu'r Pwyllgor Gwaith edrych ar y materion a godwyd gan y Tîm Rheoli.

 

      

 

15

GORCHYMYN AWDURDODAU LLEOL (MODEL CÔD YMDDYGIAD) CYMRU 2008

 

      

 

     Adroddwyd - bod y Pwyllgor Gwaith ar ôl ystyried y mater uchod yn ei gyfarfod ar 14 Ebrill, 2008, wedi PENDERFYNU argymell :-

 

      

 

Ÿ

Bod y Cyngor yn mabwysiadu’r Côd Enghreifftiol drafft o 9 Mai, 2008.

 

 

 

Ÿ

Bod y Cyngor yn mabwysiadu’r Côd Enghreiffiol drafft yn y ffurf a ddangosir yn Atodiad 1 i’r adroddiad hwn.

 

 

 

Ÿ

Bod y cyngor yn cadarnhau’r terfyn ariannol ar gyfer cofrestru rhoddion a lletygarwch, sef £20.00 (ugain punt).

 

      

 

     Cyflwynwyd er gwybodaeth, adroddiad gan y Cyfreithiwr i’r Swyddog Monitro fel y cafodd hwn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ar 14 Ebrill, 2008.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhellion y Pwyllgor Gwaith ar y mater.

 

      

 

16

OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU - DYFARNIAD O GAMWEINYDDU

 

      

 

     (a) Cyflwynwyd - Adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio) ar ymchwiliadau a wnaed i faterion Priffyrdd a Chynllunio yn dilyn cyfarfod rhwng swyddfa’r Ombwdsmon, Arweinydd y Cyngor, Arweinyddion y Grwpiau Gwleidyddol a’r swyddogion perthnasol.

 

      

 

     (b) Cyflwynwyd er gwybodaeth - copi o adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio) mewn ymgynghoriad gyda’r Rheolwr-gyfarwyddwr a’r Swyddog Monitro, fel y cyflwynwyd i’r Cyngor Sir yn ei gyfarfod ar 4 Mawrth, 2008.

 

      

 

     (c) Cyflwynwyd - Argymhelliad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar ôl y dyfarniad o gamweinyddu yng nghyswllt mater cynllunio (Rhif Achos yr Ombwdsmon 200700051).

 

      

 

     PENDERFYNWYD cyfeirio'r mater i'w benderfynu yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (16 Mai 2008).

 

      

 

     (Roedd y Cynghorydd Eric Jones yn dymuno iddo gael ei gofnodi ei fod yn gwrthwynebu'r penderfyniad a'i fod o'r farn y dylai'r Cyngor heddiw dderbyn a gweithredu'r argymhelliad yn unol ag adroddiad yr Ombwdsmon).

 

 

 

17

DIRPRWYAETHAU GAN YR ARWEINYDD

 

      

 

     Cyflwynwyd - Adroddiad gan y Rheolwr-gyfarwyddwr yn nodi unrhyw newidiadau i’r cynllun dirprwyo yng nghyswllt Swyddogaethau Gweithredol - newidiadau a gyflwynwyd gan yr Arweinydd ers y Cyfarfod Cyffredin diwethaf (Rheol 4.4.1.4 y Rheolau Gweithdrefn Trefniadau Gweithredol - Gweler Tudalen 135 y Cyfansoddiad)

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth.

 

      

 

18

CAU ALLAN Y WASG A’R CYHOEDD

 

      

 

     PENDERFYNWYD

 

      

 

     “Dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Lleol 1972, cau y wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei datgelu, gwybodaeth a ddiffinnir ym Mharagraff 16 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno.”

 

      

 

19

DATBLYGIAD Y MARINA - PENRHYN SAFNAS, BIWMARES - ACHOS DATGANIADOL

 

      

 

     Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Eiddo) yn dilyn penderfyniad yr Uchel Lys, cadarnhau’r hyn a wnaed gan y Swyddogion hyd yma a sefydlu fframwaith ar gyfer penderfyniadau yn y dyfodol mewn perthynas â’r mater hwn.

 

      

 

     Cynigiwyd ac eiliwyd bod y mater yn cael ei gyfeirio i'r cyfarfod nesaf o'r Pwyllgor Gwaith i'w benderfynu a bod gwahoddiad yn cael ei roi i unrhyw aelod o'r Cyngor i fod yn bresennol i siarad ar y mater.

 

      

 

     Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro mai oherwydd problemau amser y ceir argymhelliad o fewn yr adroddiad y dylai'r penderfyniad terfynol i apelio ai peidio gael ei ddirprwyo i'r Pwyllgor Gwaith.  Pe byddai yna benderfyniad i symud ymlaen i apêl, yna byddai'n rhaid i'r papurau fod yn yr Uchel Lys yn Llundain erbyn dydd Gwener 23 Mai, 2008.

 

      

 

     (Roedd y Cynghorwyr W. J. Chorlton, R. L. Owen a Rhian Medi yn dymuno iddo gael ei gofnodi eu bod wedi ymatal rhag pleidleisio ar y mater hwn).

 

      

 

     PENDERFYNWYD

 

      

 

Ÿ

Dirprwyo i'r Pwyllgor Gwaith y penderfyniad terfynol a ddylid gwneud apêl ai peidio yng ngoleuni'r cyngor cyfreithiol sy'n cael ei geisio ar hyn o bryd, gan gynnwys unrhyw awdurdodi gwariant fydd ei angen.

 

 

 

Ÿ

Bod gwahoddiad yn cael ei ymestyn i unrhyw aelod o'r Cyngor Sir sydd â diddordeb i fynychu ac i siarad yn y cyfarfod.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

 

 

      

 

      

 

     Terfynwyd y cyfarfod am 4.25p.m.

 

      

 

      

 

     Y CYNGHORYDD ALED MORRIS JONES

 

     CADEIRYDD