Dydd Iau 9 Mehefin 2011.
Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni.
Noder: Oherwydd natur rhai o'r dogfennau isod, nid yw pob un yn hollol ddwyieithog nac yn hollol hygyrch i bobl gydag amhariadau gweledol, ac ni fydd modd defnyddio 'darllenwr sgrin' i ddarllen y dogfennau hyn.
Agorir y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd K P Hughes
Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog yng nghyswllt unrhyw eitem o fusnes.
(a) Adrodd bod y Cyngor Sir yn ei gyfarfod ar 12 Mai, 2011 wedi penderfynu “i gytuno mewn egwyddor ar hyn o bryd bod y Cyngor yn dymuno mabwysiadu'r pŵer i roi indemniadau fel y darperir ar gyfer hynny gan y Gorchymyn, a bod adroddiad pellach ar y mater yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor yn y man.â€
(b) Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol.
(Papur A)
a) Ystyried adroddiad budd cyhoeddus ddosbarthwyd ar 25 Mawrth 2011 gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn dilyn ymchwiliad i gŵyn o gamweinyddu yn erbyn y Cyngor. (Cyfeirnod Achos yr Ombwdsmon 200901501).
(Papur B)
(b) Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro.
(Papur C)
(a) Adroddwyd - Bod y Rhybudd o Gynigiad canlynol wedi'i gyflwyno gan y Cynghorwyr K. P. Hughes, Aled Morris Jones, Bryan Owen, G. O. Parry, MBE ac Eric Roberts i'r cyfarfod o'r Cyngor Sir ar 12 Mai 2011:
“Rydym ni sydd wedi arwyddo isod yn gofyn i'r Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro alw cyfarfod arbennig o Gyngor Sir Ynys Môn i drafod cyfarwyddyd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol ddyddiedig 28 Mawrth, 2011 i adolygu ymhellach drefniadau etholiadol Ynys Môn.
Bwriedir i'r adroddiad terfynol gael ei gyflwyno i'r Gweinidog erbyn 30 Medi, 2011.
Ni fydd yr amserlen hon yn caniatáu cyfnod cychwynnol o ymgynghori gyda chymunedau Ynys Môn ar ddechrau'r adolygiad.â€
(b) Adrodd bod y Cyngor Sir, yn dilyn ystyried yr uchod, wedi penderfynu “gohirio ystyried y mater a bod trefniadau'n cael eu gwneud i alw cyfarfod arbennig o'r Cyngor Sir i drafod y mater mewn manylder o fewn y pythefnos/tair wythnos nesaf.â€
(c) Cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr Dros Dro.
(Papur CH)