Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 9 Rhagfyr 2004

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Iau, 9fed Rhagfyr, 2004

Cyngor Sir Ynys Môn

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar   9 Rhagfyr 2004

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd J. Arwel Roberts (Cadierydd)

Y Cynghorydd J. Byast (Is-Gadeirydd)

 

Y Cynghorwyr Mrs B. Burns, W. J. Chorlton, J. M. Davies, P. J. Dunning, E. G. Davies, J. A. Edwards, K. Evans, C. Ll. Everett, P. M. Fowlie, D. R. Hadley, D. R. Hughes, Fflur M. Hughes, R. Ll. Hughes, W. I. Hughes, A. M. Jones, G. O. Jones, H. E. Jones, J. A. Jones, O. G. Jones, R. Ll. Jones, T. H. Jones, D. A. Lewis-Roberts, Bryan Owen, R. L. Owen, G. O. Parry, M.B.E., R. G. Parry O.B.E., G. A. Roberts, G. W. Roberts, O.B.E., John Roberts, W. T. Roberts, P. S. Rogers, John Rowlands, E. Schofield, H. W. Thomas, K. Thomas, W. J. Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Rheolwr-gyfarwyddwr

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a'r Amgylchedd)

Pennaeth Gwasanaeth (Polisi)

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro

Cyfreithiwr (RMJ)

Swyddog Cyfathrebu

Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgor

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr H. Noel Thomas, John Williams

 

 

 

 

Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd John Roberts.

 

1

DATGANIADAU O DDIDDORDEB

           

     Gwnaeth y Cynghorydd Bob Parry O.B.E.0 ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth partner ei fab yn yr Adran Addysg a Hamdden.  

      

     Gwnaeth y Cynghorydd K. Thomas ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei frawd yn yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol.

      

     Gwnaeth y Cynghorydd C. L. Everett ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei chwaer yn yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol a hefyd yng nghyswllt ei waith fel Clerc i Gyngor Tref Caergybi.  Datganodd ddiddordeb hefyd yng nghyswllt eitem 14.5 o'r cofnodion hyn ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod y trafod a'r pleidleisio arni.

 

     Gwnaeth y Cynghorydd G. O. Parry MBE ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem  ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Gyllid.

      

      

      

      

      

      

     Gwnaeth y Cynghorydd J. Arwel Roberts ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei wraig yn Nholldy Penrhos, Caergybi.

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd E.  Schofield ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Addysg a Hamdden a chyflogaeth ei wyr yn yr Adran Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo.

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd Bryan Owen ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw  eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei fab yn yr Adran Datblygu Economaidd.

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd G. W. Roberts OBE ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag  unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol.  

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd O. Glyn Jones ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei wraig yn yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd W. J. Chorlton ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag eitem 15 o'r cofnodion hyn ac nid oedd yn bresennol yn ystod unrhyw drafodaeth na phleidleisio arni.

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd Robert Lloyd Hughes ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei fab yn yr Adran Briffyrdd.  Gwnaeth ddatganiad o ddiddordeb hefyd mewn cysylltiad ag eitem 14.5 o'r cofnodion hyn ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod unrhyw drafodaeth na phleidleisio arni.

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd G. Allan Roberts ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei fab-yng-nghyfraith yn yr Adran Gyllid.

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd T. Jones ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem  ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei fab yn yr Adran Archwilio Mewnol.

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd J. Byast ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag eitem 14.5 o'r cofnodion hyn ac fe arhosodd yn y cyfarfod yn nid chymerodd rhan mewn unrhyw drafodaeth na phleidleisio arni.

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd A Morris Jones ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei frawd yn yr Adran Addysg a Hamdden.  Fe wnaeth ddatganiad o ddiddordeb hefyd yn eitem 14.5 o'r cofnodion hyn, ac fe arhosodd yn y cyfarfod ond ni chymerodd rhan mewn unrhyw drafodaeth na phleidleisio ar yr eitem.

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd Fflur Mai Hughes ddatganiad o ddiddordeb yn eitem 14.5 o'r cofnodion hyn ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod unrhyw drafodaeth a phleidleisio arni.

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd B. Burns ddatganiad o ddiddordeb mewn eitem 14.5 o'r cofnodion hyn ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod unrhyw drafodaeth a phleidleisio arni.

 

      

 

     Gwnaeth Miss Lynn Ball (Cyfarwyddwraig Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro) ddatganiad o ddiddordeb yn eitem 4.6 a 4.10 ar y rhaglen ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod unrhyw drafodaeth na phleidleisio.  

 

      

 

     Gwnaeth Mr. Mike Barton, Pennaeth Gwasanaeth (Eiddo), ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag eitem 10(a) ar y rhaglen ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod unrhyw drafodaeth a phleidleisio arni.

 

      

 

I DDERBYN UNRHYW DDATGANIADAU GAN Y CADEIRYDD, ARWEINYDD, AELODAU O'R PWYLLGOR GWAITH NEU BENNAETH GWASANAETH

 

      

 

     Rhoddodd y Cadeirydd groeso cynnes i ddisgyblion Blwyddyn 6 Ysgol Bryngwran ynghyd âu hathrawon a chynrychiolydd o'r NSPCC oedd yn mynychu'r cyfarfod hwn am ychydig o amser.  Roeddynt yn sefydlu Cyngor Ysgol yn Bryngwran ac yn teimlo y byddai profiad o weithgareddau'r Pwyllgor yn ddefnyddiol iddynt, ac yn arbennig fanteision cael eu cyflwyno i ddemocratiaeth leol.

 

      

 

     Ar nodyn trist, cyfeiriodd y Cadeirydd at farwolaeth sydyn Mrs Maria Sinclair, Swyddog Datblygu Ardal yn yr Adran Datblygu Economaidd.  Roedd wedi dechrau ei dyletswyddau yn yr Adran rhyw 3 wythnos cyn iddi cael ei chymeryd yn wael.  Mynegodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad llwyr â'i gwr Fergus, ei theulu, a'i chydweithwyr yn yr Adran.  Safodd yr aelodau a'r swyddogion mewn distawrwydd fel arwydd o'u parch.

 

      

 

     Llongyfarchwyd Matthew Walker o Amlwch, prentis gydag Aliwminiwm Môn oedd newydd ennill Gwobr Prentis y Flwyddyn gan Ffederasiwn Cyflogwyr Peirianwaith Cymru, ar ei flwyddyn gyntaf yn astudio Peirianneg yng Ngholeg Menai.  

 

      

 

     Llongyfarchadwyd pob un a fu'n llwyddiannus yn y Seremoni Gwobrau Chwaraeon gynhaliwyd yn ddiweddar ym Miwmares.

 

      

 

     Estynnwyd llongyfarchiadau'r Cyngor hefyd i Mr. Geraint Edwards, Rheolwr-gyfarwyddwr oedd wedi dod yn daid ar 16 Tachwedd gyda genedigaeth ei wyr Findlay.    

 

      

 

1

COFNODION

 

      

 

      

 

     Cyflwynwyd i'w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod o'r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiad a ganlyn:-

 

      

 

Ÿ

21 Medi 2004                                                Tudalen 1 - 15

 

4

COFNODION PWYLLGORAU

 

      

 

     Cyflwynwyd, er gwybodaeth, ac i fabwysiadu argymhellion lle bo angen, gofnodion y Pwyllgorau a ganlyn a gynhaliwyd ar y dyddiadau a ddangosir :-

 

      

 

Ÿ

4.1  PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION                                               Tudalen 16 - 34

 

Ÿ

a gynhaliwyd ar 1 Medi 2004      

 

 

 

 

 

 

 

 

 

     Roedd y Cynghorydd R. Ll. Jones yn dymuno iddo gael ei gofnodi ei fod yn pleidleisio yn erbyn holl gofnodion Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion fel y'i ceid yng Nghyfrol y Cyngor gan fod ganddo bryderon fod y Pwyllgor ar nifer o achlysuron wedi gweithredu yn erbyn y cyfarwyddyd a'r cyngor dderbynwiyd gan y Swyddogion Cynllunio.  Gofynnodd i ddechrau am ddatganiad clir gan Arweinydd y Cyngor ynglyn â'r hyn ystyriai ef oedd yn mynd ymlaen o fewn y Pwyllgor Cynllunio.  Yn ail, beth os rhywbeth yr oedd yr Arweinydd wedi ei wneud am hyn.  Ac yn drydydd i aelodau'r Cyngor dderbyn rhestr o'r holl eithriadau a'u wardiau perthnasol ers ffurfio'r Cyngor newydd.  Galwodd ymhellach i Arweinydd y Cyngor roddi arweiniad ar y mater hwn ac atgoffa'r Pwyllgor Cynllunio o'r hyn yr oedd y Swyddogion yn ceisio ei wneud, sef cadw at Gynllun Lleol Ynys Môn, Cynllun Fframwaith Gwynedd a Pholisi Cynllunio Cymru, 2002.

 

      

 

Dywedodd y Cadeirydd bod y sylwadau uchod wedi eu nodi a'u cofnodi.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

4

PRIF BWYLLGOR SGRIWTINI                              Tudalen 35 - 38

 

a gynhaliwyd ar 16 Medi 2004

 

 

 

4

PWYLLGOR TROSOLWG POLISI                         Tudalen 39 - 44

 

ADDYSG, IECHYD A LLES

 

a gynhaliwyd ar 20 Medi 2004

 

 

 

4

PWYLLGOR TROSOLWG POLISI                         Tudalen 45 - 46

 

DATBLYGU, ISADEILEDD AC ADNODDAU

 

a gynhaliwyd ar 23 Medi 2004

 

 

 

4

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION                    Tudalen 47 - 64

 

a gynhaliwyd ar 6 Hydref 2004

 

 

 

4

PWYLLGOR PENODI                                   Tudalen     65

 

a gynhaliwyd ar 13 Hydref 2004

 

 

 

4

PWYLLGOR TROSOLWG POLISI                         Tudalen 66 - 68

 

DATBLYGU, ISADEILEDD AC ADNODDAU

 

a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2004

 

 

 

4

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHYMYNION                    Tudalen 69 - 86

 

a gynhaliwyd ar 3 Tachwedd 2004

 

 

 

4

CYD-BWYLLGOR AAA                                   Tudalen 87 - 94

 

4

 

a gynhaliwyd ar 5 Tachwedd 2004

 

 

 

4.10

  PWYLLGOR PENODI                                   Tudalen      95

 

a gynhaliwyd ar 5 Tachwedd 2004

 

 

 

Yn codi o'r cofnodion :-

 

 

 

Eitem 2 - Penodi Swyddog Monitro

 

 

 

     Penderfynwyd y dylid newid y gair 'honiadau' yn llinell olaf yr ail baragraff o'r cofnodion hyn i ddarllen 'pryderon'

 

 

 

4.11

CYSAG                                        Tudalen 96 - 101

 

a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd 2004

 

 

 

4.12

PWYLLGOR TROSOLWG POLISI                         Tudalen 102 - 109

 

DATBLYGU, ISADEILEDD AC ADNODDAU

 

(CDU) a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd 2004

 

 

 

4

PWYLLGOR TROSOLWG POLISI                         Tudalen 110 - 116 ADDYSG, IECHYD A LLES

 

     a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2004

 

 

 

4.14

PRIF BWYLLGOR SGRIWTINI                              Tudalen 117 - 120

 

     a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd 2004

 

 

 

     yn amodol ar gynnwys enw y Cynghorydd John Roberts oedd yn bresennol ar gyfer Eitem 5 yn unig o'r cofnodion hyn.

 

      

 

 

 

      

 

 

 

 

 

 

 

4

  PWYLLGOR GWAITH

 

   a gynhaliwyd ar y dyddiadau a ganlyn :-

 

 

 

4.15.1

     13 Medi 2004                                   Tudalen 121 - 129

 

      

 

4

     27 Medi 2004                                   Tudalen 130 - 142

 

 

 

4

     12 Hydref 2004 (CDU)                              Tudalen 143 - 144

 

 

 

4

     25 Hydref 2004                                   Tudalen 145 - 158

 

 

 

4

     1 Tachwedd 2004 (CDU)                              Tudalen 159 - 164

 

 

 

4

     15 Tachwedd 2004 (CDU)                         Tudalen 165 - 167

 

 

 

4

     22 Tachwedd 2004                                     Tudalen 16 - 35 o’r Gyfrol hon

 

      

 

     Materion yn codi :-

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd C. L. Everett yn dymuno iddo gael ei gofnodi ei fod yn bresennol yn y Pwyllgor Gwaith ar gyfer Eitemau 12 ac 18 yn unig, ac nid ar gyfer Eitem 13 fel a gofnodwyd.

 

 

 

4

     29 Tachwedd 2004 (CDU)                           Tudalen 36 - 39 o’r Gyfrol hon

 

6     MABWYSIADU SYLFAEN I'R DRETH

 

      

 

     Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol0 (Cyllid) - Dan Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifiad Sail y Dreth Gyngor) 1995 (Cymru) (Rhif 1995/2561) (a ddiwygiwyd) mae'n rhaid i awdurdod bilio benderfynu ar sail y Dreth Gyngor i'w ardal a hefyd, petai raid, i rannau penodol o'r ardal honno rhaid rhoi gwybod am y symiau hyn i'r cyrff sy'n codi trethi erbyn 31 Ionawr 2005.  Mae hynny yn fis yn hwyrach na'r arfer i ganiatau gwaith0 ychwanegol o ganlyniad i'r ail fandio.  Oherwydd yr effaith posibl0 ar y Cynghorau Tref a Chymuned, roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol wedi penderfynu cadw at yr amserlen arferol.

 

      

 

     Gwnaed y symiau yn ôl canllawiau sy'n dibynnu ar nifer y tai sydd yn y bandiau ar y rhestr brisio fel ar 24 Tachwedd a defnyddiwyd pob disgownt ac eithriad perthnasol (Atodiad A).

 

      

 

     Roedd disgresiwn gan y Cyngor, dan reoliadau a wnaed dan rhan 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ac wedyn dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 i osod disgownt i'r dosbarthiadau penodedig o anheddau (yn bennaf tai haf ac ail gartrefi (Dosbarthiadau A a B)).  Wrth i hyn gael ei gyflwyno penderfynodd0 y Cyngor osod disgownt o ddim i'r ddau ddosbarth penodedig A a B ac mae'r penderfyniad wedi ei gadarnhau yn flynyddol.

 

      

 

     Mae ffigyrau yn Atodiad A yn seiliedig ar gadarnhau disgownt o ddim ar Ddosbarthiadau A a B yn 2005/2006.

 

      

 

     Mae'r hyn sy'n cyfateb i Fand D neu'r "swm perthnasol" wedi ei addasu trwy wneud lwfans ar gyfer methu â chasglu 2.0% o'r dreth.  Mae hyn yn gynnydd o 0.5% ar flynyddoedd blaenorol i gymryd i ystyriaeth apeliadau llwyddiannus yn erbyn bandiau.  Gwneir lwfans hefyd ar gyfer tai sy'n eiddo i'r Weinyddiaeth Amddiffyn ac mae hyn yn rhoddi inni'r ffigyrau isod.  Cyfanswm y sail am 2005/2006 oedd £29,359.85.  Mae hyn yn cymharu gyda 26,887.14 am 2004/05 sydd yn gynnydd o 5.5%.

 

      

 

     PENDERFYNWYD :-

 

      

 

Ÿ     Cadarnhau mai i bwrpas sail y dreth y disgownt a roddir i eiddo yn nosbarthiadau penodedig A a B am 2005/2006 fydd DIM.    

 

Ÿ     Cymeradwyo cyfrifiad sail y Dreth Gyngor gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) am y cyfan o'r ardal ac am rannau ohoni dros y flwyddyn 2005/2006.    

 

Ÿ     Yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifiad Sail y Dreth Gyngor) 1995 (Cymru) Rhif 1995/2561 (a ddiwygiwyd) y rhain yw'r cyfansymiau y mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi eu clandro fel Sail y Dreth am 2005/2006 sef £28,359.85 ac am rannau hynny o'r ardal sydd wedi rhestru isod :-

 

 

 

 

Amlwch

1,407.14

 

 

Llaneilian

517.17

 

 

Biwmares

1,028.48

 

 

Llannerch-y-medd

481.32

 

 

Caergybi

3,515.89

 

Llaneugrad

180.87

 

 

Llangefni

1,750.30

 

 

Llanfair Mathafarn Eithaf

1,663.33

 

 

Porthaethwy

1,334.81

 

 

Cylch y Garn

372.60

 

 

Llanddaniel-fab

314.49

 

 

Mechell

532.26

 

 

Llanddona

330.72

 

 

Rhos-y-bol

421.35

 

 

 

Cwm Cadnant

1,121.94

 

 

Aberffraw

271.08

 

 

Llanfair Pwllgwyngyll

1,243.41

 

 

Bodedern

384.45

 

 

Llanfihangel Esceifiog

589.25

 

 

Bodffordd

387.15

 

 

Bodorgan

418.35

 

 

Trearddur

1,153.63

 

 

Llangoed

615.94

 

 

Tref Alaw

241.46

 

 

Llangristiolus & Cerrigceinwen

538.16

 

 

Llanfachraeth

212.14

 

 

Llanidan

368.56

 

 

Llanfaelog

1,072.11

 

Rhosyr

916.52

 

 

Llanfaethlu

255.40

 

 

Penmynydd

173.46

 

 

Llanfair-yn-neubwll

560.53

 

 

Pentraeth

483.14

 

 

Y Fali

925.99

 

 

Moelfre

569.68

 

 

Bryngwran

308.26

 

 

 

Llanbadrig

589.33

 

 

Rhoscolyn

334.26

 

 

Llanddyfnan

442.67

 

 

Trewalchmai

332.25

 

 

 

 

7     EFFAITH TYWYDD MAWR 22/23 HYDREF 2004

 

      

 

     Adroddwyd - Bod y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) wedi cyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor Gwaith ar 22 Tachwedd, 2004 ar effaith debygol y tywydd mawr ar 22/23 Hydref 2004, a'r achos y beipen yn byrstio ar 20 Hydref 2004, ar wasanaethau'r Cyngor.

 

      

 

     Adroddwyd y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn achlysurol yn pwyso ar gynllun "Bellwin" i roddi cymorth i awdurdodau lleol mewn ymateb i argyfyngau penodol i ymwneud â gwariant ar waith atgyweirio ac adfer ond heb gynnwys y gwaith gwella a'r gwaith cyfalaf.  Dan gynllun Bellwin, os ydyw gwariant awdurdod yn mynd y tu draw i drothwy y penderfynwyd arno, yna buasai'r Cynulliad yn cwrdd ag 85% o'r costau uwchben y trothwy fel arfer.  Trothwy'r Cyngor am 2005/06 oedd £189,000 ac roedd y gwariant cyfredol yn cael ei weld ar raddfa o fod yn fwy na hyn.  Petai'r Cyngor yn gwario £740,000 a chynllun Bellwin ar gael yna gallai'r Cyngor ddisgwyl derbyn o gwmpas £470,000 o gefnogaeth.  Heb cymorth o'r fath, ni fyddai'n bosibl gwario ar y gwaith adfer heb dynnu o gyllidebau eraill.

 

      

 

     Yn dilyn ymweliad y Gweinidog Cyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus â'r Cyngor ar 27 Hydref, fe ddygwyd i'w sylw raddfa'r storm a'r effeithiau ar Ynys Môn ac fe ddilynwyd hyn0 gyda chais i Lywodraeth Cynulliad Cymru am gael defnyddio cynllun Bellwin.

 

      

 

     Yn dilyn ystyriaeth bellach, argymhellodd y Rheolwr-gyfarwyddwr fod y Cyngor yn ryddhau £189,000 o'r balansau cyffredinol.

 

      

 

Ÿ

SWYDDFEYDD Y CYNGOR

 

 

 

Yn ei adroddiad, cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol hefyd at ddigwyddiad heb gysylltiad o gwbl â'r digwyddiad ar 22 Hydref pryd y byrstiodd prif beipen ddwr y Cyngor ac achsoi llifogydd yn taro'n bennaf ar y swyddfeydd Refeniw a Budd-daliadau yn yr Adran Gyllid ar y llawr isod.

 

 

 

Roedd costau gwaith clirio, glanhau, diheintio, symud offer a defnyddiau a chanfod swyddfeydd dros dro yn dilyn y tywydd garw ar 22 Hydref yn dal i gael eu hasesu ond disgwylir i'r costau hynny fod oddeutu £100,000 i £150,000.  Nid ar y gwasanaethau unigol y byddai'r costau hyn yn syrthio ond o drefniadau yswiriant a sefydlwyd gan y Cyngor (gan gynnwys hunan-yswirio).

 

 

 

Fodd bynnag, dylid nodi bod yswiriant wrth gefn y Cyngor fel yr oedd hwnnw'n ymddangos yn Natganiad Cyfrifon 2003-04 yn £1.21m ac yn cynnwys £0.4m mewn enw ar gyfer digwyddiad "catostroffig".  Er bod galwadau eraill ar y gronfa hon, roedd hi'n ddigon mawr i ddelio gyda'r sefyllfa bresennol.

 

 

 

Ers y digwyddiad, rhoddwyd sylw i'r posibilrwydd o wario mwy yn awr ar fesurau i liniaru effeithiau unrhyw ddigwyddiad tebyg yn y dyfodol.  Roedd opsiynau i rwystro'r llifogydd rhag dod i mewn i'r adeilad wrthi'n cael eu hadolygu.    Buasai unrhyw wariant ychwanegol yn cyfateb i "wella" a byddai y tu allan i unrhyw drefniadau yswiriant.

 

 

 

Byddai'r penderfyniad ar welliannau y tu mewn i'r adeilad yn cael effaith ar y gwaith a wneid, yn swyddfeydd y Cyngor cyn i'r staff symud yn ôl i mewn ac o'r herwydd, câi effaith ar yr amserlen iddynt ddychwelyd.  Roedd hi'n bwysig felly i wneud penderfyniad buan.  Petai unrhyw arian yn cael ei ryddhau i bwrpas "gwella" yna buasai hynny'n alwad gyntaf ar y gyllideb gyfalaf ac i bob pwrpas byddai'n cyfyngu ar yr arian fyddai ar gael ar gyfer cynlluniau eraill.

 

 

 

PENDERFYNWYD :-

 

 

 

Ÿ

Cymeradwyo penderfyniad y Pwyllgor Gwaith a rhyddhau £189,000 (trothwy Bellwin) o'r balansau cyffredinol.

 

      

 

Ÿ

Dirprwyo i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) mewn ymgynghoriad gyda'r Aelodau Portffolio priodol, yr awdurdod i ryddhau cyllid tuag at waith atal llifogydd neu i wella'r sefyllfa a hynny o fewn y cynllun cyfalaf.

 

      

 

Ÿ

Mynegi gwerthfawrogiad y Cyngor i aelodau'r staff oedd wedi bod wrthi gyda gweithgareddau glanhau wedi'r llifogydd.

 

 

 

8     WARDEINIAID CYMUNEDOL - CYNLLUN GRANT CYMELL PERFFORMIAD

 

      

 

     Yr eitem wedi ei dynnu'n ôl oddi ar y Rhaglen.     

 

      

 

9     DATGANIAD O BOLISI TRWYDDEDU

 

      

 

     Adroddwyd - Bod y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio ac Amgylcheddol) wedi cyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor Gwaith ar 22 Tachwedd 2004 ar ofynion Deddf Trwyddedu 2003, sy'n darparu system unedig ar gyfer rheoli, gwerthu a chyflenwi alcohol, adloniant cyhoeddus a lluniaeth hwyr gyda'r nos.

 

      

 

      

 

     Un o'r agweddau pwysicaf ar y gyfundrefn ydi'r ffaith y bydd raid i Awdurdod Trwyddedig wneud datganiad ar ei Bolisi Trwyddedu cyn y gall gyflawni unrhyw swyddogaeth mewn perthynas â chais a wnaed dan y  Ddeddf.  Mae'n rhaid i'r Awdurdod Trwyddedu baratoi, cymeradwyo a chyhoeddi ei Ddatganiad o Bolisi Trwyddedu ac wedi hynny bydd raid iddo ei adolygu bob tair blynedd; er bod rhaid adolygu'r Polisi'n barhaus a gwneud newidiadau ar sail atborth priodol os cyfyd yr angen.  Y dyddiad cau ar gyfer cymeradwyo a chyhoeddi'r Datganiad o Bolisi Trwyddedu yw 7 Ionawr 2005.

 

      

 

     Roedd y Datganiad o Bolisi Trwyddedu oedd ynghlwm fel rhan o'r adroddiad i'r Cyngor yn disgrifio sut y bydd Cyngor Sir Ynys Môn, fel Awdurdod Trwyddedu, yn gwneud penderfyniadau trwyddedu dan y Ddeddf.  Paratowyd y Polisi gyda golwg ar y Ddeddf a'r Canllawiau statudol a gynhyrchwyd gan yr Ysgrifenydd Gwladol dan y Ddeddf honno.  O dan y Ddeddf, y Cyngor Sir sy'n gyfrifol am gymeradwyo Datganiad o Bolisi Trwyddedu yr Awdurdod Trwyddedu.

 

      

 

     Roedd y Datganiad Drafft o'r Polisi Trwyddedu yn cyfeirio at sawl Atodiad sy'n ymwneud â materion megis Amodau Trwydded a Chanllawiau i Ymgeiswyr.  Mae'r rhain yn ddogfennau sy'n cael sylw cyson ac sy'n debygol o newid ac esblygu yn ystod oes y Datganiad o Bolisi Trwyddedu.  Awgrymwyd bod y Cyngor yn diprwyo'r grym 0i newid yr Atodiadau hyn i'r Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Amgylcheddol) mewn ymgynghoriad gyda'r Aelod Portffolio dros Drosedd ac Anhrefn, Gwarchod y Cyhoedd a'r Amgylchedd.

 

      

 

     Mae Pennod 14 o'r Datganiad Drafft o Bolisi Trwyddedu yn cyfeirio at y modd yr argymhellir dirprwyo swyddogaethau mewn pethynas â Phenderfyniadau Trwyddedu ac sy'n adlewyrchu cyngor a gafwyd gan y Llywodraeth.  Fe awgrymwyd bod y Cyngor yn cymeradwy'r camau dirprwyo hyn.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo penderfyniad y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd 22 Tachwedd, 2004 ac i gymeradwyo'r canlynol :-

 

      

 

Ÿ

Y drafft terfynnol o'r Datganiad o Bolisi Trwyddedu.    

 

Ÿ

Bod y grym i awdurdodi newidiadau i'r Atodiadau y cyfeirir atynt yn y Datganiad o Bolisi Trwyddedu yn cael ei ddirprwyo i'r Pennaeth Gwasanaeth - Gwasanaethau Amgylcheddol mewn ymgynghoriad gyda'r Aelod Portffolio dros Drosedd ac Anrhefn, Gwarchod y Cyhoedd a'r Amgylchedd.    

 

Ÿ

Dirprwyo swyddogaethau yn y modd a bennir ym Mhennod 14 y Datganiad Drafft o'r Polisi Trwyddedu.    

 

Ÿ

Gwned cais fod Arweinydd y Cyngor yn trefnu cyfarfod rhwng yr Arweinwyr a Swyddogion Cynghorau Môn, Conwy a Gwynedd er mwyn rhoi ystyriaeth i gydweithio ar faterion Trwyddedu.

 

 

 

10     NEWIDIADAU ARFAETHEDIG I GYFANSODDIAD Y CYNGOR

 

      

 

     (a)  Tir Comin - Dirprwyo i'r Pennaeth Gwasanaeth (Eiddo)

 

      

 

     Adroddwyd - Bod y Cyfreithiwr i'r Swyddog Monitro wedi cyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor Gwaith ar 22 Tachwedd 2004, ynglyn â phroblemau a oedd wedi codi ynglyn0 a tharfu ar dir comin.

 

      

 

     Yn yr adroddiad roedd yn awgrymu mai'r swyddog priodol i ddelio gyda'r gwaith hwn fyddai y Pennaeth Gwasanaeth (Eiddo)0 ac y dylid newid y Cyfansoddiad trwy roddi pwer dirprwyedig i'r swyddog hwnnw.  Cyfeiriwyd hefyd at Adran 9 o Ddeddf Cofrestru Tir 0Comin 1965 ac Adran 194 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925, yn yr adroddiad i'r Pwyllgor Gwaith.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo penderfyniad y Pwyllgor Gwaith gynhaliwyd ar 22 Tachwedd, 2004 ac i gymeradwyo'r newidiadau canlynol i'r drefn Dirprwyo i Swyddogion trwy :-

 

      

 

Ÿ

Ychwanegu i fanylion y Swyddogion Penodol (3.5) "19 - Eiddo - Pennaeth Gwasanaeth" 3.5.3.19 (25) i weithredu pwerau statudol y Cyngor o dan Adran 9 Deddf Cofrestru Tir Comin 1965.    

 

Ÿ

Ychwanegu i fanylion y Swyddogion Penodol (3.5) "19 - Eiddo - Pennaeth Gwasanaeth" 3.5.3.19 (26) i weithredu pwerau statudol y Cyngor o dan Adran 194 Deddf Cyfraith Eiddo 1925.    

 

Ÿ

Rhoi tudalen newydd 77A yn y Cyfansoddiad fel yn yr Atodiad i'r adroddiad hwn ac i ddarllen fel a ganlyn :    

 

Ÿ

3.5.3.19(25)  Gweithredu pwerau statudol y Cyngor o dan Adran 9 Deddf Cofrestru Tir Comin 1965.    

 

Ÿ

3.5.3.19 (26) Gweithredu pwerau statudol y Cyngor o dan Adran 194 Deddf Cyfraith Eiddo 1925.

 

 

 

(b)  Newidiadau ac Ychwanegiadau i Gyfansoddiad y Cyngor

 

 

 

Cyflwynwyd - Adroddiad gan gyfreithiwr y Swyddog Monitro ar newidiadau ac ychwanegiadau arfaethedig i Gyfansoddiad y Cyngor :

 

 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo penderfyniad y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2004, ac i gymeradwyo y newidiadau canlynol i'r Cyfansoddiad :-

 

 

 

Ÿ

Ychwanegu i Atodiad 1 (tudalen 83 i 87 o'r Cyfansoddiad) yng nghyswllt :-

 

      

 

Ÿ

Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003

 

Ÿ

Deddf Tân Gwyllt 2003

 

Ÿ

Deddf Trwyddedu 2003

 

      

 

Ÿ

Newid i Gyfansoddiad y Cyngor (Paragraff 3.2 - Tudalen 40) yng nghyswllt dileu "Cynllun Gwasanaeth Gorfodi Cyfraith Fwyd" a rhoi i mewn "Pwerau i gymeradwyo Cynllunio Partneriaeth Pobl Ifanc a Phartneriaeth Fframwaith Plant a Phobl Ifanc" a dileu y geiriau "sylfaen y dreth gyngor", ym Mharagraff 3.2.2.2 (Tudalen 4) fel bod yr adran yn darllen :

 

      

 

     "Mae y Gyllideb yn cynnwys dyrannu adnoddau ariannol i amcanion, gwasanaeth neu brosiectau penodol, cronfeydd wrth gefn heb eu dyrannu i amcan penodol, gwasanaeth neu brosiect penodol, sylfaen y dreth Gyngor, gosod treth y Cyngor a phenderfyniadau mewn perthynas â rheoli gofynion benthyca'r Cyngor, Strategaeth Rheoli'r Trysorlys, rheoli ei wariant cyfalaf a gosod terfynau ar gyfer trosglwyddo arian."

 

      

 

Ÿ

Talu Grantiau a Thaliadau Trosglwyddo (4.8.4.5)(tudalen 170) y fersiwn Gymraeg yn unig a dileu "i'r sawl sy'n talu" a gosod i mewn "i'r sawl sy'n derbyn taliad".

 

      

 

Ÿ

Polisi Rhannu Pryderon (5.5)(tudalen 239) (5.5.2) gosod i mewn cyn "derbyn gwybodaeth yn ôl" y geiriau "a lle bo'n addas ac yn amodol ar gyngor Swyddog Monitro'r Cyngor" fel bod y frawddeg yn darllen :-

 

      

 

Ÿ

"Darparu dulliau i chwi fynegi pryderon, a lle bo'n addas, ac yn amodol ar gyngor Swyddog Monitro'r Cyngor, i dderbyn gwybodaeth yn ôl ar unrhyw gamau a gymerir".

 

      

 

(c)  Amserlen y Gyllideb : Newid arfaethedig i Reolau Gweithdrefn y Gyllideb

 

 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) - Adeg llunio Cyfansoddiad presennol y Cyngor seiliwyd y weithdrefn i bwrpas llunio cyllideb yn Rheolau Gweithdrefn y Gyllideb yn fras ar fodel gan y Cynulliad, gydag ychydig o newidiadau yn ôl sut y rhagwelwyd, ar y pryd, y câi cyllidebau eu trin y tu mewn i'r strwythur gwleidyddol newydd.  

 

Yn y weithdrefn rhagwelwyd y buasai'r Pwyllgor Gwaith yn llunio cynigion cyllidebol cychwynnol manwl wyth wythnos cyn y dyddiad pryd y buasai'r Cyngor yn mabwysiadu'r gyllideb.  O'r herwydd roedd yn rhaid cael cyfarfod yn ystod wythnos gyntaf Ionawr.  Roedd hyn yn caniatáu digon o amser i'r chwe phwyllgor sgriwtini sgriwtineiddio'r cynigion hynny.  Tybiwyd y buasai'r gwaith ymgynghori gyda chydranddeiliaid allanol yn dilyn yr un amserlen.

 

 

 

Bellach mae gan y Cyngor Brif Bwyllgor Sgriwtini gyda chyfrifoldeb am sgriwtineiddio'r gyllideb, a chyfraniad llai yn dod o gyfeiriad y ddau bwyllgor trosolwg polisi, ac o'r herwydd mae llawer o'r cyfiawnhad a'r rhesymeg i'r cyfnod wyth wythnos wedi diflannu.  O'r herwydd, awgrymodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y dylid tocio i chwe wythnos y cyfnod hwnnw o wyth wythnos sydd yn y Cyfansoddiad.  Mae'r diwygiad arfaethedig i Reolau Gweithdrefn y Gyllideb (ynghlwm wrth yr adroddiad i'r Cyngor hwn) yn cynnwys y newid hwn a hefyd yn cyflwyno diwygiadau dilynol eraill.  Petai'r Cyngor yn rhoddi ei ganiatâd i'r newidiadau hyn, buasai'r cyfarfod a drefnwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar gyfer 4 Ionawr 2005 yn cael ei ohirio tan 17 Ionawr a'r Prif Bwyllgor Sgriwtini i 26 Ionawr, 2005.

 

 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r newidiadau arfaethedig i Reolau Gweithdrefn y Gyllideb.

 

 

 

11     DYFODOL Y PWYLLGOR ARCHWILIO

 

      

 

     Adroddwyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) - Iddo gael cais i ystyried dyfodol statws y Pwyllgor Archwilio a rhoddi arweiniad i'r Cyngor ar a ddylid glynu wrtho ai peidio yn gyfochrog gyda'r pwyllgorau sgriwtini a throsolwg.

 

      

 

     Mae hanes y Pwyllgor Archwilio yn mynd yn ôl i argymhelliad y Pwyllgor Adolygu Arbennig yn 1998 pan gafodd ei greu trwy gynyddu statws y Panel Archwilio a oedd gynt yn adrodd yn ôl i'r hyn a adwaenid ar y pryd fel yr Is-Bwyllgor Cyllid.  Mae'r cylch gorchwyl yn cyfeirio'n bennaf at fonitro gwaith archwilwyr mewnol ac allanol.  

 

      

 

     Cyngor y Cyfarwyddwr Corfforaethol i'r Cyngor oedd fod swyddogaeth o hyd i'r Pwyllgor Archwilio a honno, ar sawl cyfrif, ar wahân i'r swyddogaeth sgriwtini.  Yn bennaf ymwna sgriwtini â sicrhau bod y Pwyllgor Gwaith yn gyfrifol am y penderfyniadau gwleidyddol a wna yng nghyswllt polisïau a blaenoriaethau.  Ar y llaw arall, pennaf faes y swyddogaeth archwilio yw monitro cydymffurfiad gyda rheolau a gweithdrefnau cydnabyddedig ac asesu a rheoli yn erbyn y risgiau, a goruchwylio llywodraeth.  Wrth gwrs y mae'n bosib i'r Pwyllgor Archwilio fod â'r un aelodaeth â'r Pwyllgor Sgriwtini, ond mae'n bwysig bod ganddynt drefniadau i wybod yn glir pa swyddogaeth y maent yn gweithredu arni ar unrhyw adeg penodol.

 

      

 

     Buasai cylch gorchwyl a lunid heddiw ar gyfer Pwyllgor Archwilio (neu swyddogaeth archwilio y Pwyllgor Sgriwtini) yn dra gwahanol i gylch gorchwyl presennol Pwyllgor Archwilio y Cyngor hwn.  Er mwyn adlewyrchu rhai o'r patrymau a nodwyd uchod buasent yn rhoddi mwy o bwyslais ar reoli risg ac ar faterion llywodraeth.

 

     Fodd bynnag, roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn credu y dylid cael rhagor o drafodaeth ar y materion hyn yn yr Awdurdod hwn, a hynny yn cynnwys egluro'r berthynas rhwng y swyddogaeth archwilio a rhannau eraill o strwythur llywodraeth y Cyngor.

 

      

 

     Yn y cyfamser roedd yna ddyletswyddau y dylai'r Pwyllgor Archwilio ymgymryd â hwy.

 

      

 

     Yn gyntaf, bydd raid i'r materion y ceir adroddiad arnynt gan archwilwyr allanol y Cyngor ac yn codi o'r gwaith archwilio ar gyfrifon gael eu hadrodd i'r aelodau wneud penderfyniadau arnynt cyn 31 Rhagfyr.  Mae'r materion hyn yn ymwneud â chymeradwyo y Datganiad Cyfrifon, tasg nad yw'n bosib, (dan gyfraith gwlad) ei dirprwyo i'r Pwyllgor Gwaith.  Y llynedd, bu'n rhaid, i osgoi galw cyfarfod arbennig o'r Cyngor llawn yn y cyfnod union cyn gwyliau'r Nadolig, galw cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor Archwilio i gymeradwyo dull o drin eitemau yn y Datganiad Cyfrifon cyn dyddiad cau 31 Rhagfyr i gael barn archwilio.  Rhagwelir y byddai raid gwneud trefniadau cyffelyb y mis hwn.

 

      

 

     Yn ail, mae'r Llythyr Archwilio blynyddol yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Archwilio gan ddilyn ei gylch gorchwyl presennol.  Roedd cyfarfod wedi'i drefnu eisoes ar gyfer 11 Ionawr 2005.  Bydd raid i'r Pwyllgor sy'n gyfrifol am oruchwylio materion archwilio ystyried y Llythyr.  (Mae'n debygol y bydd y Llythyr Archwilio yn cael ei ymgorffori mewn llythyr ehangach ei faes gan y Rheolwr Cyswllt ond hyd yn oed dan yr amgylchiadau hynny bydd raid ystyried adroddiad yr archwiliwr allanol fel mater archwilio).

 

      

 

     O edrych ymhellach ymlaen roedd yr amserlen i bwrpas cymeradwyo y fersiwn ddrafft 0o'r Datganiad Cyfrifon cyn archwiliad yn cael ei dwyn ymlaen.  Yn y gorffennol mae'r rhain wedi'u mabwysiadu gan y Cyngor yn ei gyfarfod ym mis Medi ond oherwydd yr amserlen newydd bydd raid i'r aelodau ei chymeradwyo yn ystod y gwyliau - ac nid yw'n bosib dirprwyo'r dasg hon i'r Pwyllgor Gwaith.  Efallai y bydd y Cyngor angen pwyllgor a'r dasg hon wedi'i dirprwyo iddo.

 

      

 

     Er mwyn bodloni'r gofynion ar hyn o bryd roedd dau ddewis amlwg i'r Cyngor :-

 

      

 

     un ai

 

      

 

a.     glynu wrth y Pwyllgor Archwilio presennol hyd nes taflu mwy o oleuni ar ei swyddogaeth yn y dyfodol     

 

b.     enwebu aelodaeth bresennol y prif Bwyllgor Sgriwtini i gyfarfod fel Pwyllgor Archwilio a chyda chylch gorchwyl y Pwyllgor hwnnw.

 

 

 

Pa opsiwn bynnag yr eir amdano mae angen cryfhau'r cylch gorchwyl (paragraff 3.4.8 y Cyfansoddiad) trwy ychwanegu'r geiriau a ganlyn :-

 

 

 

"5.  i fod yn gyfrifol am faterion llywodraeth fel y cânt effaith ar gyfrifon ac archwilio;

 

 

 

6.  cymeradwyo'r Datganiad Cyfrifon ac unrhyw newidiadau iddo.  "

 

 

 

Hefyd bydd raid dileu cymal 3.2.3 (21) y Cyfansoddiad lle mae'r Cyngor llawn yn unig yn gyfrifol am gymeradwyo'r Datganiad Cyfrifon.

 

 

 

PENDERFYNWYD :-

 

 

 

Ÿ     Bod cylch gorchwyl y cyn Bwyllgor Archwilio yn cael ei drosglwyddo i'r Prif Bwyllgor Sgriwtini.

 

      

 

Ÿ     Ychwanegu i'r cylch gorchwyl y cymalau a restrir uchod o fewn yr adroddiad i'r Cyngor.

 

      

 

Ÿ     Dileu cymal 3.2.3 (21) y Cyfansoddiad.

 

 

 

12     GWELLA BYWYD MÔN - DRAFFT O STRATEGAETH GYMUNEDOL AR GYFER YNYS MÔN

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr-gyfarwyddwr fod yr aelodau yn gwybod am y gofynion statudol i gyhoeddi strategaeth gymunedol dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000 a than y cyfarwyddiadau ategol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.  Y bwriad gwreiddiol oedd cyhoeddi'r strategaeth ym mis Mai 2004 ond rhoddwyd rhagor o amser yn wyneb y cydweithio rhagorol oedd yn digwydd ar "Bywyd Môn".  Yn awr mae'r pwyslais yn y Strategaeth ar "Wella Bywyd Môn".  Bydd yn cael ei chyhoeddi ar y wefan cyn y Nadolig a threfnir lansiad mwy ffurfiol yn 2005 yr un pryd a lansio y Strategaeth Iechyd a Lles a'r Strategaeth Trosedd ac Anhrefn.

 

      

 

     Mae proses Cynllunio Cymunedol wedi datblygu'n raddol dros y pedair blynedd diwethaf ac yn ddiweddar rhoes y Bartneriaeth Sirol Strategol ei chefnogaeth i'r strategaeth gyda golwg ar gyhoeddi.  Roedd y ddogfen nawr yn cael ei chyflwyno i'r Cyngor Sir i'w chefnogi a'i chymeradwyo.  Byddai mwy o waith yn cael ei wneud ar fanylion y Cynllun Gweithredu yn ystod y gaeaf.

 

      

 

     PENDERFYNWYD :-

 

      

 

Ÿ     Cymeradwyo'r strategaeth a chytuno i'w chyhoeddi.

 

      

 

Ÿ     Pwysleisio y byddai gweithrediad y ddogfen yn dibynnu ar allu y partneriaid lleol i ganfod yr adnoddau angenrheidiol ar gyfer y tasgau a nodir yn ystod y Strategaeth.     

 

 

 

13     STRATEGAETH IECHYD, GOFAL CYMDEITHASOL A LLES

 

      

 

     Adroddwyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol) - I'r Pwyllgor Gwaith yn 0ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2004 (eitem 14 o'r cofnodion) gymeradwyo'r Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles am 2005/08 ac phenderfynu y dylai gael ei chyflwyno i'r Cyngor llawn i'w mabwysiadu'n ffurfiol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Strategaeth ffurfiol ar gyfer y cyfnod 2005/08.

 

      

 

14     CWESTIYNAU A DDERBYNIWYD DAN REOL 4.1.12.4

 

      

 

     14.1  Gofynnwyd y cwestiwn canlynol gan  y Cynghorydd R Ll Jones :-

 

      

 

     "Beth ydy cyfanswm nifer y tai yn Ynys Môn fydd yn gweld cynnydd yn eu band Treth Gyngor o ganlyniad i'r ymarfer ailbrisio a ddaw i rym fis Ebrill nesaf?

 

      

 

     O ganlyniad i ailbrisio eiddo yn Ynys Môn at ddibenion y Dreth Gyngor, fedr y Pwyllgor Gwaith roddi sicrwydd na fydd yn defnyddio'r ymarfer ailbrisio fel esgus i orfodi codiadau treth afresymol ar y trethdalwyr?"

 

      

 

     Yn ei ymateb dywedodd yr Arweinydd :

 

      

 

     "Yn ôl y rhestr drafft ar gyfer y Dreth Gyngor amcangyfrifir y bydd 18,204 eiddo yn aros yn yr un band a bydd 3,085 eiddo yn symud i fand is a bydd 11,154 eiddo yn symud i fand uwch.

 

      

 

     Gallaf sicrhau'r Cyngor nad yw'r Pwyllgor Gwaith yn edrych am esgusodion i gyfiawnhau ei benderfyniadau. "

 

      

 

     Gofynnwyd y cwestiwn atodol canlynol gan y Cynghorydd R. Ll. Jones :-

 

      

 

     "Rwyf yn bryderus ynglyn â'r tebygrwydd o drethi Cyngor uchel ar drethdalwyr mis Ebrill nesaf.  Yr hyn yr ydwyf fi ei angen yw i'r Cyngor llawn fod yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn sicrhau ein bod yn cael codiadau isel iawn.  Beth mae'r Pwyllgor Gwaith yn bwriadu ei wneud er mwyn cadw'r dreth Cyngor o fewn lefel rhesymol ac a ydynt yn mynd i ddefnyddio'r balansau i wneud hyn ?"

 

      

 

     Dywedodd yr Arweinydd mewn ateb :-

 

      

 

     "Mae'r Pwyllgor Gwaith yn y broses o edrych beth ellir ei wneud.  Mae'r cynnydd yn sail y Dreth Gyngor (a adlewyrchir ym mhapur A i'r Cyngor) yn cael ei fantoli gan golled yn y Grant Cymorth Refeniw, a fwriedir i hafaleddu adnoddau rhwng awdurdodau.  Caiff hwn yn ei dro ei ddiwygio gan y Cynulliad yn cyflwyno "lloriau" i warchod awdurdodau a fuasai fel arall wedi colli mwy o'r Grant Cymorth Refeniw.

 

      

 

     Mae'r Cyngor yn wynebu blwyddyn anodd yn 2005/06, gyda'r Cynulliad yn cynyddu ei gymorth dim ond 3.8%, tra roedd y Gweinidog yn awgrymu y busasai cynnydd o oddeutu 5% yn y gyllideb yn "rhesymol".

 

      

 

     Beth allwn ni ei gynnig yw hyn.  Dwi'n gwybod bod y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) wedi rhoi briff i gynrychiolwyr Cymunedau Tref a Chymuned yn y cyfarfodydd ar y gyllideb ac fe ellid trefnu cyflwyniad tebyg i aelodau'r Cyngor pebaent yn dymuno hynny yn fuan yn y flwyddyn newydd.  Cyn belled ac y mae defnyddio'r balansau yn y cwestiwn, mae'r Pwyllgor Gwaith yn edrych ar bob peth ac nid wyf yn barod i ymrwymo fy hun ar hyn o bryd."

 

 

 

     14.2  Gofynnwyd y cwestiwn canlynol gan y Cynghorydd Keith Thomas :-

 

 

 

     "Yn wyneb y ffaith y bydd 34.5% o aelwydydd ym Môn yn talu cryn dipyn mwy o Dreth Gyngor eleni, wedi mynd i fyny o leiaf un band yn sgil ymarfer ailbrisio Llywodraeth Cynulliad Cymru, a fedr yr Arweinydd roddi sicrwydd i'r cyhoedd yn Ynys Môn na fydd Treth Gyngor yr Awdurdod hwn yn codi gan ragor na 3%, sef y gyfradd y llwyddodd y cyn-Arweinydd a'i Gabinet lynu wrthi, heb dorri unrhyw wasanaethau?"

 

      

 

     Atebodd yr Arweinydd :-

 

      

 

     "Mae'r penderfyiad terfynol ar y Dreth Gyngor i'w wneud gan y Cyngor llawn ym mis Mawrth 2005, ac mae llawer i'w ystyried cyn hynny.

 

      

 

     Ffol iawn fuasai i mi roi'r fath sicrwydd rwan.

 

      

 

     Yn 2004-05 cynyddodd cymorth gan y Cynulliad (ar ôl addasu am drosglwyddiadau) gan 5%.  Eleni bydd y sefyllfa lawer gwaeth oherwydd dim ond 3.8% fydd y cynnydd.

 

      

 

     Blwyddyn ddiwethaf, buasai'r gyllideb sefyll-yn-llonydd wedi arwain at gynnydd Dreth Gyngor yn agos iawn at 3%.  Buasai'r gyllideb sefyll-yn-llonydd a ragamcanir ar hyn o bryd ar gyfer 2005-06 yn arwain at gynnydd 13% i drethdalwyr sy'n aros yn yr un band.  Mae bwlch o £1.8miliwn yn gwynebu'r Cyngor, ac nid yw'r rhagolygon i'r dyfodol fawr gwell.

 

      

 

     Mae'r dasg sy'n gwynebu'r Pwyllgor Gwaith a'r Cyngor am 2005-06 yn llawer gwaeth nac ar gyfer 2004-05, a buasai'n annoeth i mi roi'r sicrwydd y gofynnir amdano.  Gallaf sicrhau aelodau'r Cyngor y bydd y Pwyllgor Gwaith yn ystyried lefel y Dreth Gyngor ynghyd ag effaith yr ail brisio, yn ogystal ag effaith penderfyniadau cyllidol ar wasanaethau'r Cyngor, cyn cwblhau ei gynigion."

 

 

 

     14.3  Gofynnwyd y cwestiyn canlynol gan  y Cynghorydd Bob Parry OBE :-

 

 

 

     "Beth ar hyn o bryd ydy'r amcangyfrif o gost y difrod llifogydd i Swyddfeydd y Cyngor yn Llangefni?

 

      

 

     Dan y trefniadau hunan-yswirio, rydym ar ddeall bod oddeutu £1.2m yn y gronfa - a oes penderfyniad wedi ei wneud ynghylch uchafswm ar gyfer y gronfa?"

 

      

 

     Atebodd yr Arweinydd :-

 

      

 

     "Fel yr adroddwyd ym mhapur B ar gyfer eitem 7 ar y rhaglen, amcangyfrifir y costau i fod rhwng £100,000 a £150,000.

 

      

 

     Sefydlwyd y gronfa wrth gefn i gwrdd â chostau hunan-yswiriedig ar gyfer sawl math o yswiriant, gan gynnwys yswiriant atebolrwydd lle mae hawliadau yn cymryd amser i euddfedu.  Mae swm y gronfa wrth gefn yn adlewyrchu rhagamcanion o'r gost tymor hir, sy'n cynnwys hawliadau a ddigwyddodd ond heb eu hadrodd.  Mae'n debygol y bydd y gronfa wrth gefn yn parhau i dyfu er mwyn mantoli'r rhwymedigaethau amcan gyfrifedig.  O ystyried y disgwyliad ar awdurdodau lleol i gadw cronfeydd wrth gefn digonol, ni fuasai'n briodol i osod uchafswm mympwyol ar y swm.

 

      

 

     Mae'r £1.2miliwn yn £0.8miliwn tuag at gost ddisgwyliedig hawliadau yn ogystal â £0.4miliwn osodwyd o'r neilltu ar gyfer blwyddyn ddifrifol o wael - mae'r swm yma wedi ei ddatgan yn y Datganiad o Gyfrifon.  Gall hawliau atebolrwydd cyhoeddus ac atebolrwydd cyflogwr gymryd sawl blwyddyn i ddod i'r amlwg a chael ei setlo ac mae ansicrwydd sylweddol ynglyn â'u cost derfynol.  Mae'r "diwylliant hawlio" yn cynyddu rhif ar hawliadau yn erbyn awdurdodau lleol. Yn ôl pob tebyg bydd yr arian wrth gefn hwn yn cynyddu."

 

      

 

     Gofynnwyd y cwestiwn(au) ategol a ganlyn gan y Cynghorydd Bob Parry, OBE :-

 

      

 

     "Yn gyntaf, a yw'r ffigwr o rhwng £100 - £150k yn cynnwys adleoli staff, llogi ystafelloedd a chostau teithio ychwanegol ?

 

      

 

     Yn ail, o dan y cynllun yswirio.  Pam na all yr £189,000 ddod allan o'r Gronfa Yswiriant er mwyn gadael yr arian arall i geisio cadw'r Dreth Gyngor mor isel ac sy'n bosib ?

 

      

 

     Atebodd yr Arweinydd :-

 

      

 

     Mae'r ffigwr o £100 - £150k yn cynnwys costau adleoli a bydd y Pwyllgor Gwaith yn rhoddi ystyriaeth ofalus i ail gwestiwn y Cynghorydd Parry fel rhan o'r broses cynllunio'r gyllideb.  Bydd costau llawn y difrod wnaed gan y llifogydd yn cael eu darparu i'r aelodau yn y man."

 

      

 

     14.4  Gofynnwyd y cwestiwn canlynol gan y Cynghorydd Aled Morris Jones :-

 

      

 

     "Pa effaith fyddai disodli Treth y Cyngor gyda Threth Incwm Lleol yn ei gael ar gydlyniad cymdeithasol a lleddfu tlodi yn Ynys Môn ?

 

      

 

     A fyddai'r Cyngor Sir yn ystyried sefydlu Grwp Tasg i ymchwilio i ddulliau eraill o gyllido gwasanaethau lleol yn Ynys Môn a chyflwyno'r canfyddiadau i'r Cynulliad Cymreig ?  "

 

      

 

     Atebodd yr Arweinydd :-

 

      

 

     "Mae'r system trethiant lleol yn fater yn bennaf i Lywodraeth Prydain a Chynulliad Cymru.  Yn gynharach yn y flwyddyn, ymatebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) ar ran y Cyngor i ymgynghoriad y Cynulliad ar yr adolygiad balans cyllid, ac mi drefnaf i'r aelod gael copi o'r ymateb.  Byddwn yn parhau i gadw golwg ar ddatblygiadau cenedlaethol ac ymateb fel bo'n briodol, ond mae hwn yn annhebygol o fod angen Grwp Tasg.

 

      

 

     Mae'r effaith ar gydlyniad cymdeithasol a lleddfu tlodi yn anodd i'w ragweld.  Fodd bynnag, mae pryder ynglyn â'r defnydd isel o Budd-dal Treth Gyngor gan y sawl sydd â hawl iddo o fewn y system bresennol. Bydd yr Adran Waith a Phensiynau yn arwain ymgyrch i godi ymwybyddiaeth dros y gaeaf.

 

      

 

     Fe luniwyd yr ymateb i'r ymgynghoriad yn Ebrill 2004, yn ystod bywyd Pwyllgor Gwaith diwethaf.  Roedd yr ymateb yn gefnogol i'r Dreth Gyngor ond yn awgrymu rhai diwygiadau i ddisgowntiau.  Nid oedd yn erbyn y dreth incwm lleol ond roedd yn awgrymu fod angen adolygu treth gyngor a chyfraddau busnes yn gyntaf.

 

      

 

     Yn dilyn yr ymgynghori hwnnw, mae llywodraeth y DU wedi sefydlu adolygiad pellach (bron yn sicr nid i adrodd hyd ar ôl yr etholiad genedlaethol).  Byddwn yn disgwyl i'r Cynulliad Cymreig roddi mewnbwn o'r agwedd Gymreig i'r hyn.  Fe gaiff y Cynghorydd Aled Morris Jones wybodaeth lawn o'r holl ddatblygiadau yng nghyswllt hyn".

 

      

 

     Gofynnwyd y cwestiwn atodol a ganlyn gan y Cynghorydd Aled Morris Jones :-

 

     "Yn 1976 fe gomisiynodd y Llywodraeth Lafur adroddiad Layfield i gyllid llywodraeth leol.  Roedd yr adroddiad hwnnw yn gryf o blaid treth incwm leol.  Rhaid i ni dderbyn y byddai 7 allan o bob 10 cartref ar Ynys Môn yn well trwy'r dreth gyngor leol.  Mae pensiynwyr, rhieni sengl yn elwa, unrhyw un ar incwm sefydlog.  Byddwn yn cynnig drachefn i'r Arweinydd y dylem gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad ar hyn, fe ddylem ni arwain, ac nid dilyn eraill ar y mater hwn.  Mae hwn yn edrych tua'r dyfodol ar sut yr ydym yn ariannu llywodraeth leol.  Diau y dylem ni fod ar y blaen ac nid yn y cefn. "

 

      

 

     Atebodd yr Arweinydd trwy sicrhau'r Cynghorydd Aled Morris Jones y bydd y Pwyllgor Gwaith yn rhoi sylw i hyn a rhoddi gwybodaeth iddo am ddatblygiadau.

 

      

 

      

 

1

RHYBUDD O GYNIGIAD YN UNOL Â PHARAGRAFF 4.1.13.1 Y CYFANSODDIAD - GWASANAETH SGIPIAU CYMUNEDOL

 

 

 

     Rhoddwyd y rhybudd o gynigiad canlynol ymlaen gan y Cynghorydd C L Everett :-

 

      

 

     "Mae'r Cyngor hwn yn gresynu ynghylch y penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 22 Tachwedd i newid y gwasanaeth casglu gwastraff swmpus ar ôl gwneud i ffwrdd â'r gwasanaeth sgipiau cymunedol.  Mae'r Cyngor hwn yn awr yn bwriadu cyflwyno gwasanaeth casglu gwastraff swmpus yn rhad ac am ddim fel y nodir hynny yn opsiwn 2 yr adroddiad a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith yn0 ei gyfarfod ar 22 Tachwedd 2004.  Rwy'n gofyn ymhellach i'r Cyngor Sir gyfeirio'r cynigiad i'r Pwyllgor Gwaith yn unol â rheol gweithdrefn 4.1.13.2 y Cyngor."

 

      

 

     PENDERFYNWYD y dylai'r rhybudd o gynigiad gael ei gyfeirio yn ôl heb drafodaeth i'r Pwyllgor Gwaith i'w ystyried ymhellach.

 

 

 

1

DIRPRWYAETHAU GAN YR ARWEINYDD

 

 

 

     Cyflwynwyd - Adroddiad gan y Rheolwr-gyfarwyddwr yn cyflwyno adroddiad yn nodi unrhyw newidiadau i'r cynllun dirprwyo mewn perthynas â swyddogaethau Gweithredol a gyflawnwyd gan yr Arweinydd ers y Cyfarfod Arferol diwethaf (Rheol 4.14.1.4 o Reolau Gweithdrefn y Pwyllgor Gwaith - Tudalen 131 y Cyfansoddiad).

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

      

 

17

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

 

      

 

     "Dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Paragraff 1, Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni. "

 

      

 

     14.5 - CWESTIYNAU A DDERBYNIWYD O DAN REOL 4.1.12.4

 

      

 

     Yn unol â Rheol 4.1.12.4 o'r Cyfansoddiad fe ofynnwyd cwestiwn cyfrinachol gan y Cynghorydd P. S. Rogers.

 

      

 

     Yn ei ateb dywedodd y Cadeirydd y byddai y Cynghorydd Rogers yn derbyn ymateb ysgrifenedig gan y swyddogion.

 

      

 

      

 

     Terfynnwyd y cyfarfod am 4.10 p.m.

 

      

 

      

 

     Y CYNGHORYDD J. ARWEL ROBERTS

 

     CADEIRYDD