Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 9 Rhagfyr 2010

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Iau, 9fed Rhagfyr, 2010

Ynglyn â

Cyfarfod o Gyngor Sir Ynys Môn. Siambr y Cyngor, Swyddfa'r Sir, Llangefni. Dydd Iau, 9 Rhagfyr, 2010 am 2pm.

Noder: Oherwydd natur rhai o'r dogfennau isod, nid yw pob un yn hollol ddwyieithog nac yn hollol hygyrch i bobl gydag amhariadau gweledol, ac ni fydd modd defnyddio 'darllenwr sgrin' i ddarllen y dogfennau hyn.

Ar gychwyn y cyfarfod, offrymir gweddi gan y Cynghorydd Eric Jones

Rhaglen

1. Cofnodion

Cyflwyno i'w cadarnhau a'u llofnodi, cofnodion y cyfarfodydd o'r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau a ganlyn:

2. Datganiad o ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog yng nghyswllt unrhyw eitem o fusnes.

3. Derbyn unrhyw ddatganiadau gan y Cadeirydd, yr Arweinydd, aelodau'r Pwyllgor Gwaith neu bennaeth y gwasanaeth taledig

4. Cwestiynau a dderbyniwyd yn unol â rheol 4.1.12.4 y Cyfansoddiad

Bydd y Cynghorydd G O Parry yn gofyn y Cwestiwn canlynol i Arweinydd y Cyngor:

“Ers Mai 2010, faint o swyddi, parhaol, dros dro neu asiantaeth sydd wedi cael eu hysbysebu a'u llenwi? Beth oedd y costau hysbysebu a chostau blynyddol y swyddi hyn?

Faint o weithwyr sydd wedi gadael a faint o gyfweliadau gadael sydd wedi cael eu cynnal a'u cofnodi?”

Arweinydd y Cyngor i ymateb.

5. Cyflwyno deisebau

Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad.

Cafwyd deisebau mewn perthynas ag Eitem 6 isod ac yn arbennig felly, mewn perthynas â Maes Parcio Llyfrgell Rhosneigr a Maes Parcio Cemaes.

[Bydd y Cynghorwyr Bryan Owen a W T Hughes yn cael cyfle i gyflwyno deisebau i Gadeirydd y Cyngor Sir]

6. Mater a gyfeiriwyd i'r Cyngor Sir gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a Gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2010

Taliadau Parcio Ceir

Dweud bod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn ei gyfarfod ar 16 Tachwedd 2010, wedi ystyried cais i alw i mewn benderfyniad a wnaed gan yr Aelodau Portffolio Cyllid a Phriffyrdd, Trafnidiaeth ac Arforol fel y cafodd ei gyhoeddi ar 2 Tachwedd 2010 wedi penderfynu fel a ganlyn:

“cyfeirio pendefyniad yr Aelod Portffolio i'r cyfarfod o'r Cyngor Sir a gynhelir ar 9 Rhagfyr 2010 am y rhesymau a amlinellir yng nghynnig y Cynghorydd G O Parry MBE, sef:

(i) Mae'r penderfyniad yn tynnu'n groes i egwyddorion y Cyfansoddiad;
(ii) Cymesuroldeb - cost darparu'r gwasanaeth o gymharu â'r incwm a fyddai'n cael ei godi.
(iii) Ymgynghori annigonol
(iv) Er budd bod yn agored ac yn dryloyw
(v) Eglurder amcanion a'r canlyniadau a ddymunir”.

Rhoddi sylw i'r uchod.

7. Newidiadau i'r Cyfansoddiad - Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y cyd

(a) Argymell bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 30 Rhagfyr 2010 wedi penderfynu argymell fel a ganlyn i'r Cyngor Sir:

“Cymeradwyo'r Cytundeb yn Atodiad 1 ar gyfer Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y cyd a chymeradwyo mabwysiadu'r newidiadau cyfansoddiadol angenrheidiol gan y Cyngor llawn.

(ii) Dirprwyo grym i'r Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd) i wneud, mewn cydweithrediad gyda'r Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol, unrhyw fân-newidiadau angenrheidiol i'r cytundeb yn Atodiad 1 os oes angen ac arwyddo'r Cytundeb gyda Chyngor Gwynedd.

(iii) Gwneud (neu, lle bo'n berthnasol, dirprwyo i'r Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd) mewn ymgynghoriad gyda'r Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol, newidiadau i'r Cyfansoddiad a nodir yn Atodiad 2 er mwyn gweithredu'r argymhellion uchod.

(iv) Tynnu CDLl Ynys Môn yn ôl yn unol ag Adran 66 Deddf Cynllunio a Phryniant Gorfodol 2004 a dirprwyo awdurdod i'r Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd) gymryd yr holl gamau angenrheidiol sy'n codi o dynnu'r cynllun yn ôl.

(v) Cyflwyno adroddiad diweddaru i'r Pwyllgor Gwaith cyn pen 3 mis yn manylu ar gynnydd yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd,”

(b) Cyflwyno er gwybodaeth, adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd) fel y cafodd ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith ar 30 Tachwedd 2010. (Dosbarthwyd copi eisoes i'r holl Aelodau gyda'r papurau uchod).

8. Cydbwysedd gwleidyddol

Cyflwyno adroddiad a baratowyd ar y cyd gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro a'r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid).
(Papur 'C') - i'w ddosbarthu yn y cyfarfod

9. Polisi Cynllunio Interim - safleoedd mawr

(a) Adrodd bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 30 Tachwedd 2010 wedi penderfynu argymell fel a ganlyn i'r Cyngor Sir:

“(i) Cymeradwyo'r Polisi Tai Dros Dro ar gyfer Safleoedd Mawr i'w fabwysiadu fel Polisi Dros Dro hyd nes y bydd y CDLl wedi ei fabwysiadu.

(ii) Rhoi awdurdod i'r Pennaeth Gwasanaeth (mewn ymgynghoriad gyda'r Aelod(au) Portffolio perthnasol lle bo'n briodol) i wneud mân-newidiadau i'w gynnwys wedi i'r trafodaethau sy'n parhau ddod i ben, gan gynnwys y trafodaethau gydag Enfusion”.

(b) Cyflwyno er gwybodaeth, adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd) fel y cafodd ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith ar 30 Tachwedd 2010. (Dosbarthwyd copi eisoes i'r holl Aelodau gyda'r papurau uchod).

10. Y Grwp Llywio Adferiad

Cyflwyno adroddiad gan Is-Gadeirydd y Cyngor Sir.
(Papur 'CH ')

11. Adolygu'r Polisi Trwyddedu

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd).
(Papur 'D')

12. Aelodau'n derbyn rhoddion

Cyflwyno adroddiad gan Mr Jeff Cotterell, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau.
(Papur 'DD')

13. Mabwysiadu Rhaglen Datblygu Aelodau am y cyfnod 2010-2012

Cyflwyno adroddiad gan Gadeirydd y Gweithgor Datblygu Aelodau / y Pencampwr Datblygu Aelodau.
(Papur 'E')

14. Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru

Derbyn adroddiad llafar gan y Cynghorydd P S Rogers, cynrychiolydd y Cyngor hwn ar Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru ar gyfarfodydd a gynhaliwyd gan yr Awdurdod hwnnw rhwng 1 Medi 2010 a 30 Tachwedd 2010.

15. Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

Derbyn adroddiad llafar gan y Cynghorydd J V Owen, un o gynrychiolwyr y Cyngor hwn ar Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru ar gyfarfodydd a gynhaliwyd gan yr Awdurdod hwnnw rhwng 1 Medi 2010 a 30 Tachwedd 2010.

16. Cynigion a dderbyniwyd yn unol â rheol 4.1.2.2.12 y Cyfansoddiad

(a) Cyflwyno Rhybudd o Gynigiad isod gan y Cynghorydd R G Parry OBE:

“Y mae Cyngor Sir Ynys Môn yn apelio ar Fwrdd Ymddiriedolaeth Betsi Cadwaladr yn gyntaf, i gadw Ward Alaw yn Ysbyty Gwynedd ar agor fel Ward ar gyfer cleifion yn dioddef o Gancr. Yn ail, ystyried yn ddwys ailagor adran mân-ddamweiniau Ysbyty Penrhos, Caergybi yn ystod oriau 5.00 i 10.00 yr hwyr.”

Ystyried yr uchod.

(b) Cyflwyno Rhybudd o Gynigiad isod gan y Cynghorydd G W Roberts OBE:

“Bod y Cyngor hwn yn mabwysiadu polisi o dalu lwfans teithio ail ddosbarth yn unig ar gyfer aelodau'r Cyngor ac yn rhoi'r gorau i dalu lwfans teithio dosbarth cyntaf.

Bod y Cyngor hwn yn rhewi lwfans teithio i aelodau rhwng eu cartrefi a swyddfeydd y Cyngor yn Llangefni pan fyddant yn dod i gyfarfodydd Cyngor Sir Ynys Môn oherwydd yr hinsawdd economaidd gyfredol.”

Rhoddi sylw i'r uchod.

17. Dirprwyo gan yr Arweinydd

Bydd y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro yn cyflwyno, er gwybodaeth, adroddiad yn nodi unrhyw newidiadau i'r cynllun dirprwyo mewn perthynas â swydogaethau'r Pwyllgor Gwaith a wnaed gan yr Arweinydd ers y cyfarfod arferol diwethaf (cyfeirir at hyn yn Rheol 4.4.1.4 y Cyfansoddiad - Rheolau Gweithdrefn y Pwyllgor Gwaith).
(Papur 'F')

18. Gweithio mewn partneriaethau a diogelu gwasanaethau rheng flaen

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasnaeth (Polisi) fel y cafodd ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith ar 7 Rhagfyr, 2010.
(Papur 'FF')

(Bydd yr Arweinydd yn cadarnhau argymhelliad y Pwyllgor Gwaith yn y Cyngor)