Dydd Iau, 10 Mai, 2012 am 2:00
Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni
Noder: Oherwydd natur rhai o'r dogfennau isod, nid yw pob un yn hollol ddwyieithog nac yn hollol hygyrch i bobl gydag amhariadau gweledol, ac ni fydd modd defnyddio 'darllenwr sgrin' i ddarllen y dogfennau hyn.
Ethol Cadeirydd Cyngor Sir Ynys Môn am 2012-2013.
(Cyfeirir yr Aelodau at Drefn y Busnes yng nghyswllt y seremoni i ethol Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y Cyngor Sir)
Ethol Is-Gadeirydd Cyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2012-2013.
Ethol Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn (hyd yr Etholiadau Llywodraeth Leol nesaf ym Mai 2013). (Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2.6 ac yn arbennig Paragraff 2.7.3 o Gyfansoddiad y Cyngor).
Ethol Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn (hyd yr Etholiadau Llywodraeth Leol nesaf ym Mai 2013). (Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2.6 ac yn arbennig Paragraff 2.7.3 o Gyfansoddiad y Cyngor).
Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd neu Bennaeth y Gwasanaeth Taledig.
Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb ynghylch unrhyw eitem o fusnes gan unrhyw Aelod neu Swyddog.
Yn unol â Rheol 4.4.1.2 Rheolau Gweithdrefn y Pwyllgor Gwaith, derbyn gwybodaeth gan yr Arweinydd ynghylch enwau'r Cynghorwyr y mae ef/hi wedi'u dewis i fod yn aelodau o'r Pwyllgor Gwaith Cysgodol, ynghyd â'u cyfrifoldebau portffolio ac unrhyw wybodaeth bellach fydd ei hangen dan Reol 4.4.1.2.
Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau ailbenodi'r strwythur Pwyllgorau cyfredol canlynol fel y cyfeirir at hynny yn Adran 3.4 Cyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â'r canlynol:-
Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau unrhyw rannau o'r Cynllun Dirprwyo y mae'n rhaid i'r Cyngor, yn unol â'r Cyfansoddiad, gytuno arnynt (fel y nodir ym Mharagraff 3.2 y Cyfansoddiad).
Cymeradwyo'r rhaglen ganlynol o gyfarfodydd cyffredin y Cyngor am y flwyddyn i ddod:-
27 Medi 2012 - 2:00pm
6 Rhagfyr 2012 - 2:00pm
5 Mawrth 2013 - 2:00pm
9 Mai 2013 - 10:30am a 2:00pm (Cyfarfod Blynyddol)