Dydd Iau, 10 Mai, 2012 am 10:30am
Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni
Noder: Oherwydd natur rhai o'r dogfennau isod, nid yw pob un yn hollol ddwyieithog nac yn hollol hygyrch i bobl gydag amhariadau gweledol, ac ni fydd modd defnyddio 'darllenwr sgrin' i ddarllen y dogfennau hyn.
Cyflwyno i'w cadarnhau a'u harwyddo, gofnodion y cyfarfod o'r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 6 Mawrth, 2011.
(Papur A)
Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog yng nghyswllt unrhyw eitem o fusnes.
Bydd y Cadeirydd yn rhoi anerchiad i‟r Aelodau ar y Fforwm Gofalwyr Maeth ar gais y Cynghorydd John Penri Williams.
Cyflwyno er gwybodaeth, gofnodion y cyfarfod o'r Bwrdd Cynaliadwyedd a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2012.
(Papur B).
Cyflwyno deiseb gan y Prif Weithredwr ar ran Llais y Cristion (Môn) yn unol â Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad.
(i) Cyflwyno penderfyniad canlynol y Bwrdd Comisiynwyr a wnaed yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Ebrill 2012:-
Penderfynwyd:-
(ii) Ceir cyflwyniad byr gan gynrychiolydd y Llu Awyr Brenhinol.
Bydd Mr. Michael Wilson, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau yn cyflwyno'r adroddiad blynyddol.
(Papur C)
Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.
(Papur CH)
Cyflwyno er gwybodaeth adroddiad blynyddol Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio.
(Papur D)
Derbyn adroddiad gan y Cynghorydd Aled Morris Jones, Is-Gadeirydd yr Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, ar gyfarfodydd a gynhaliwyd gan yr Awdurdod hwnnw rhwng 6 Mawrth 2012 a 30 Ebrill 2012.
(Papur DD)
Derbyn adroddiad gan y Cynghorydd P. S. Rogers, cynrychiolydd y Cyngor hwn ar Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru, ar gyfarfodydd a gynhaliwyd gan yr Awdurdod hwnnw rhwng 6 Mawrth a 30 Ebrill 2012
(Papur E).
Cyflwyno adroddiad y Prif Swyddog Safonau Masnach.
(Papur F)
(a) Adrodd bod y Bwrdd Comisiynwyr yn ei gyfarfod ar 19 Mawrth 2012 wedi penderfynu argymell i'r Cyngor Sir ei fod yn cymeradwyo'r canlynol:-
“y rhestr o'r materion allweddol yn Atodiad 2 yr adroddiad;
y weledigaeth a gyflwynir ym mharagraff 1.12 o'r adroddiad;
y rhestr o amcanion strategol yn Atodiad 3 yr adroddiad;
Yr opsiwn twf Tai ym mharagraff 1.14 yr adroddiad, h.y. 511 o unedau tai y flwyddyn yn ardal y Cynllun dros oes y Cynllun;
Yr opsiwn dosbarthu a gyflwynir ym mharagraff 1.16 yr adroddiad.â€
(b) Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd fel a gyflwynwyd i'r Bwrdd Comisiynwyr ar 19 Mawrth 2012.
(Copi wedi‟i ddosbarthu‟n flaenorol i‟r holl Aelodau fel rhan o bapurau‟r Bwrdd ar gyfer 19 Mawrth 2012).
(Noder: Y Comisiynwyr sy'n gyfrifol am y swyddogaeth o gymeradwyo newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor a byddir yn ceisio cael ei ganiatâd ar gyfer y newidiadau hyn, ond gofynnir i'r Cyngor gymeradwyo'r argymhellion y cyfeirir atynt yn 14.1 - 14.13 isod):-
14.1 Yr Arweinydd a‟r Pwyllgor Gwaith (Adrannau 2.7.3, 2.7.4, 2.7.5, 4.1.1 a 4.1.16)14.2 Y Gyllideb (Para. 4.3.2.2.6 a 4.3.2.27)
14.3 Cofnodion y cyfarfodydd (Para 4.1.19.4)
14.4 Gwasanaethau Democrataidd (Adrannau 2.12.5, 3.4.12, 3.5.3.23 a 4.1.1.2.12)
14.5 Pwyllgorau Sgriwtini (Adrannau a Para. 3.4.2, 2.6.1, 4.5.5.1, 2.6.2.1.4 a 4.1.2 a matrics).
14.6 Pwyllgor Archwilio (Para. 3.4.8.3.1, 3.4.8.3.2 a 3.4.8.3.3)
14.7 Dyrannu Cadeiryddion/Seddau Pwyllgorau (Adran 5.8.2)
14.8 Penodiadau i Gyrff Allanol (Adran 5.8.4)
14.9 Grwpiau Gwleidyddol (Adran 5.8.1)
14.10 Gweinyddu‟r “Gynghrair†(Adran 5.8.5)
14.11 Protocol ar weithrediad y Pwyllgor Gwaith (Adran 5.8.6)
14.12 Dirprwyo i Staff (Adran 3.5.3)
14.13 Y Cyfansoddiad ei hun (Para. 2.15.2.1)
(a) Adrodd - bod y Bwrdd Comisiynwyr yn ei gyfarfod ar 30 Ebrill 2012 wedi penderfynu derbyn cynnwys yr adroddiadau uchod a gofynnir am ganiatâd y Cyngor i benderfynu i gymeradwyo argymhellion y Bwrdd Comisiynwyr ac awdurdodi swyddogion i wneud unrhyw newidiadau dilyniadol i'r Cyfansoddiad.
(b) Cyflwyno adroddiad y Gweithgor Cyfansoddiad fel a gyflwynwyd i'r Bwrdd Comisiynwyr ar 30 Ebrill 2012.
(Dosbarthwyd copïau yn flaenorol i Aelodau fel rhan o Bapurau'r Bwrdd ar gyfer 30 Ebrill 2012).
Y Prif Weithredwr i ddarparu diweddariad llafar.
Cyflwyno adroddiad llafar gan Arweinydd y Cyngor.
Cyflwyno adroddiad llafar gan y Prif Weithredwr.
Ystyried mabwysiadu'r canlynol:-
“Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae modd cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf a'r Profion Budd y Cyhoedd eithriad ohoniâ€.
Bydd y Comisiynwyr Margaret Foster a Gareth Jones yn cyflwyno adroddiad llafar ar Adroddiad Cynnydd 4ydd Chwarter y Comisiynwyr.
Cyflwyno er gwybodaeth, gofnodion y Panel Ymchwilio a gynhaliwyd ar 18 Ebrill 2012.
(Papur FF)