Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 10 Rhagfyr 2002

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Mawrth, 10fed Rhagfyr, 2002

CYNGOR SIR YNYS MÔN

 

COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 10 RHAGFYR 2002

 

yn breSENNOL:

Y Cynghorydd R. L. Owen (Cadeirydd)

 

Y Cynghorydd Mrs B. Burns (Is-Gadeirydd)

 

Y Cynghorwyr J. Byast, E. G. Davies, J. M. Davies, J. A. Edwards, D. D. Evans, K. Evans, C. L. Everett, P. M. Fowlie, Ff. M. Hughes, D. R. Hughes, Dr. J. B. Hughes, R. Ll. Hughes, T. Ll. Hughes, W. I. Hughes, G. O. Jones, H. E. Jones, O. G. Jones, R. Jones OBE, J. Rowlands, G. A. Roberts, J. A. Roberts, W. T. Roberts, K. Thomas, G. A. Williams, J. Williams, W. J. Williams.

 

 

WRTH LAW:

Rheolwr-gyfarwyddwr

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden)

Cyfarwyddwraig y Gwasanaeth Cyfreithiol/Swyddog Monitro

Pennaeth Gwasanaeth (Polisi)(JHJ)

Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio (JW)

Swyddog Cyfathrebu (GJ)

Swyddog Pwyllgor (JMA)

 

 

YMDDIHEURIADAU:

Y Cynghorwyr W. J. Chorlton, R. J. Jones, G. Roberts, G. W. Roberts, J. Roberts, E. Schofield.

 

 

 

Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd P. M. Fowlie.

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb gan yr aelodau canlynol :-

 

Gwnaeth y Cynghorydd C. L. Everett  (fel Clerc i Gyngor Tref Caergybi) ddatganiad o ddiddordeb ynghylch eitem 10 ar y Rhaglen - Mabwysiadu Sylfaen Treth Cyngor.

 

Gwnaeth y Cynghorydd R. Ll. Hughes ddatganiad o ddiddordeb yng nghyswllt unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â gwaith ei fab yn yr Adran Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Rhian Medi ddatganiad o ddiddordeb ynghylch eitem yn cyfeirio at Ysgol y Bont, Llangefni sy'n rhan o Gofnodion CYSAG ar Dudalen 113.

 

Gwnaeth y Cynghorydd J. Arwel Roberts ddatganiad o ddiddordeb yng nghyswllt unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â gwaith ei wraig yn yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Gwnaeth y Cynghorydd G. Allan Roberts ddatganiad o ddiddordeb yng nghyswllt unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â gwaith ei fab-yng-nghyfraith yn yr Adran Gyllid.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Keith Thomas ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes ar y rhaglen a allai ymwneud â gwaith ei frawd yn yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

2

CYHOEDDIADAU GAN Y CADEIRYDD, YR ARWEINYDD, AELODAU'R PWYLLGOR GWAITH NEU BENNAETH Y GWASANAETH TÂL

 

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

 

 

 

Rhoes y Cadeirydd groeso i bawb oedd yn bresennol ond yn enwedig i'r Cynghorydd Richard Jones OBE a gafodd lawdriniaeth yn ddiweddar.  Oherwydd gwaeledd ni fedrai'r Cynghorydd Robert J. Jones fod yn bresennol ond roedd wedi cyflwyno ei ddymuniadau gorau i'w gyd-gynghorwyr dros y Nadolig.

 

 

 

Hefyd dymunodd y Cadeirydd adferiad iechyd llwyr a buan i Elin Mai Owen o Adran y Rheolwr-gyfarwyddwr ar ôl wynebu llawdriniaeth yn sgil damwain car.

 

 

 

Cydymdeimlwyd gyda holl aelodau'r staff a oedd wedi wynebu profedigaethau.

 

 

 

Aeth y Cadeirydd ymlaen i gyfeirio at Gyngerdd rhagorol a gafwyd yng Nghapel Hyfrydle Caergybi a diolchodd yn arbennig i Gwyn Hughes Jones o Lanbedr-goch a roes ei wasanaeth am ddim.

 

 

 

Rhoes y Cadeirydd ei longyfarchiadau i Ysgol Gynradd Cemaes am ennill y wobr gyntaf ac ennill Cwpan Ward mewn cystadleuaeth wyddoniaeth agored i Gymru gyfan; roedd hon yr ail flwyddyn yn olynol i'r ysgol ennill y wobr.  Roedd Llywydd Cymdeithas Naturiaethwyr Prydain, Dr. David Bellamy, wedi cyflwyno ei longyfarchiadau brwd i'r ysgol am gyflawni'r gamp hon, sef y gystadleuaeth uchaf i Ysgolion Cynradd trwy'r Deyrnas Gyfunol.

 

 

 

3

CWESTIYNAU A DDERBYNIWYD YN UNOL Â RHEOL 12.4

 

 

 

3.1

Dan Reol Gweithdrefn y Cyngor Rhif 12.4, derbyniwyd y cwestiynau canlynol oddi wrth y Cynghorydd W. J. Chorlton :-

 

 

 

3.1.1

Pwy sydd â'r hawl i ganiatáu neu wahardd eitemau ar raglenni pwyllgorau sgriwtini.  Yn dibynnu ar yr ateb, hoffwn ofyn cwestiwn atodol i'r perwyl y dylid newid y rheol i adlewyrchu'r ysbryd o fod yn agored ac yn dryloyw.

 

 

 

3.1.2

Hawliau Cynghorwyr i wybodaeth.  Beth ydyn' nhw a beth ydy'r diffiniad o wybodaeth eithriedig ?

 

 

 

3.1.3

A fu gohebu o natur gyfreithiol lle gwnaed honiadau difrifol o gamymddwyn yn erbyn dau swyddog o'r Awdurdod hwn ac os bu, pa gamau gymerodd y Cyngor mewn ymateb i'r honiadau hynny ? "

 

 

 

Cyflwynodd y Rheolwr-gyfarwyddwr adroddiad llafar yn dweud bod y Cynghorydd Chorlton wedi gofyn am dynnu cwestiynau 3.1.1 a 3.1.2 yn ôl.  Buasai'r Panel Moderneiddio yn rhoddi sylw i'r materion hyn.  I bwrpas egluro cwestiwn (a), dywedodd y Rheolwr-gyfarwyddwr bod angen cyflwyno iddo ef rybudd neu eitemau i'w rhoddi ar raglenni'r Pwyllgorau Sgriwtini er mwyn cydymffurfio gyda Chyfansoddiad y Cyngor.  Yn ei absenoldeb ef, ac i bwrpas hwyluso pethau yn ymarferol, buasai'r Swyddog Monitro yn delio gydag unrhyw rybuddion o'r fath.  Y Swyddogion Pwyllgor sy'n paratoi Rhaglenni, ond os cyfyd amheuaeth yna bydd y mater yn cael ei drafod gyda'r Rheolwr-gyfarwyddwr neu gyda'r Swyddog Monitro.  Efallai y bydd rhagor o ganllawiau yn cael eu gyrru at yr Aelodau yn dilyn trafodaeth ar y pwnc yn y Panel Moderneiddio.

 

 

 

Mewn ymateb  i gwestiwn 3.1.3 dywedodd yr Aelod Porffolio (Cyllid) fel a ganlyn :-

 

 

 

"Cyflwynwyd hawliad yn erbyn y Cyngor ym mis Hydref 2001 yn codi o anghydfod cynllunio yn seiliedig ar esgeulustod a methu â chyflawni dyletswydd statudol gan haeru fod swyddogion oedd yn gweithredu ar ran y Cyngor wedi bod yn fwriadol anonest trwy gamddefnyddio pwerau i amharu ar yr hawlwyr, oedi'r broses a chreu'r rhwystredigaeth........."

 

 

 

Mae'r Cyngor yn amddiffyn ei hun yn erbyn yr hawliad a than yr amgylchiadau buasai yn amhriodol cyflwyno rhagor o sylwadau ar y mater ar hyn o bryd.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr-gyfarwyddwr wrth y cyfarfod y bydd yn gyrru copi ysgrifenedig o'r ymateb hwn at y Cynghorydd Chorlton.

 

    

 

 

 

3.2

Dan Reol Gweithdrefn y Cyngor Rhif 12.4, derbyniwyd y cwestiynau canlynol i'w rhoi i Arweinydd y Cyngor oddi wrth y Cynghorydd R. Ll. Jones  :-

 

 

 

"Hoffwn dderbyn manylion o bolisi'r Pwyllgor Gwaith ar gynnig anogaeth frwd i gwmnïau sy'n dymuno cymryd prentisiaid yn y crefftau traddodiadol - rhai megis Trydanwyr, Gwaith Plymio, Towyr, Ffitwyr a Bricwyr.

 

 

 

Gan fod yr Iard Arforol a'r Hen Ysgol Dechnegol yng Nghaergybi wedi cau ers blynyddoedd ychydig o ddarpariaeth a wnaed i recriwtio pobl ifanc yr ardal a'u hannog i gydio yn y crefftau hyn a rhai eraill tebyg.  A oes modd ystyried sefydlu cyfleusterau lleol i Goleg Menai yn Amlwch, Caergybi a Biwmares er mwyn annog ein pobl ifanc i gydio yn y sgiliau hyn"

 

 

 

Ar ran yr Arweinydd cafwyd ymateb ar lafar gan y Deilydd Portffolio Addysg Gydol Oes a Hamdden yn dweud bod y Pwyllgor Gwaith yn gwbl gefnogol i hyfforddi prentisiaid ar yr Ynys.  Mae Hyfforddiant Môn yn darparu prentisiaethau i 151 o bobl ifanc - a lleoedd gweigion yn dal i fod ar rai cyrsiau.  Cyflwynwyd manylion am y nifer o brentisiaid ar yr amryfal gyrsiau - cyrsiau'n cynnwys Peirianneg, Trwsio Cerbydau ac Adeiladu.

 

 

 

Fodd bynnag, roedd yn cydnabod bod swyddogaeth y Cyngor yn llai nag y bu gan fod nifer o gyrff eraill megis Coleg Menai, ELWa a Chwmni Gyrfaoedd Cymru yn darparu hyfforddiant a chyngor i bobl ifanc; ond yn ychwanegol at y cynlluniau uchod mae'r ysgolion yn darparu cyngor gyrfaoedd i ddisgyblion ac yn codi ymwybyddiaeth y disgyblion yng nghyswllt yr amgylchedd gweithio ac yn dwyn eu sylw at benodiadau crefftau adeiladu.

 

 

 

Cyfeirir at brentisiaethau yn y Ddogfen Ymgynghorol a gyhoeddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol dan y teitl "Trywyddau Dysgu" i bobl 14 - 19 oed ac ymatebir i'r ddogfen hon yn y dyfodol.

 

 

 

Ychwanegodd y Deilydd Portffolio y buasai'n briodol i'r Pwyllgor Sgriwtini Addysg a Hamdden wadd cynrychiolwyr yr amryfal gyrff hyfforddi i fynychu'r Pwyllgor Sgriwtini a dweud wrth yr aelodau beth y maent yn ei wneud.   

 

 

 

4

CYFLWYNO DEISEBAU

 

 

 

Dim wedi eu derbyn amser anfon y Rhaglen allan o dan Reol 11 Gweithdrefn y Cyngor.   

 

 

 

5

UNRHYW FUSNES A ADAWYD HEB EI DRAFOD YNG NGHYFARFOD DIWETHAF Y CYNGOR

 

 

 

Dim materion yn codi.

 

 

 

6

DERBYN ADRODDIADAU A CHWESTIYNAU AC ATEBION YNG NGHYSWLLT Y TREFNIADAU AR Y CYD A SEFYDLIADAU ALLANOL

 

 

 

Dim i'w adrodd.

 

 

 

7

ADRODDIAD Y RHEOLWR-GYFARWYDDWR AR UNRHYW BWERAU GWEITHREDOL A DDIRPRWYWYD GAN YR ARWEINYDD

 

 

 

Cyflwynwyd a nodwyd er gwybodaeth, adroddiad gan y Rheolwr-gyfarwyddwr ynglyn â materion wedi eu dirprwyo i Arweinydd y Cyngor a phenderfyniadau a wnaed gan yr Arweinydd.

 

 

 

8

COFNODION

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 26 Medi 2002.  (Tudalennau 1 - 31)

 

 

 

9

COFNODION PWYLLGORAU

 

 

 

Cyflwynwyd er gwybodaeth, ac i fabwysiadu'r argymhellion lle bo raid, cofndion cyfarfodydd y Pwyllgorau a ganlyn a gynhaliwyd ar y dyddiadau isod :-

 

 

 

9.1

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION a gynhaliwyd ar 4 Medi 2002

 

Tudalennau 32 - 40

 

 

 

9.2

PWYLLGOR ARCHWILIO a gynhaliwyd ar 10 Medi 2002  Tudalennau 41 - 49

 

 

 

9.3

PWYLLGOR SGRIWTINI AMGYLCHEDD A CHLUDIANT a gynhaliwyd ar 12 Medi 2002     Tudalennau 50 - 56

 

 

 

Yn codi o'r cofnodion

 

 

 

Eitem 7 - Strategaeth Tir Llygredig

 

 

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio (Cynllunio a'r Amgylchedd) bod Asiantaeth yr Amgylchedd wedi tynnu Mynydd Parys o'r Strategaeth uchod.  Wedyn cafwyd gair o gadarnhad gan Gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chludiant y câi'r eitem ei gosod ar raglen cyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

 

 

9.4

PWYLLGOR SGRIWTINI CYMUNEDAU IACH A DIOGEL a gynhaliwyd ar 17 Medi 2002      Tudalennau 57 - 69

 

 

 

9.5

PWYLLGOR SGRIWTINI ADNODDAU'R CYNGOR a gynhaliwyd ar 19 Medi 2002 Tudalennau 70 - 73

 

 

 

9.6

PWYLLGOR SAFONAU  a gynhaliwyd ar 23 Medi 2002 Tudalennau 74 - 77

 

 

 

Yn codi o'r cofnodion

 

 

 

Dywedodd y Swyddog Monitro am y bwriad i alw cyfarfod o'r Pwyllgor Safonau ar 4 Tachwedd ond oherwydd bod angen rhagor o wybodaeth allanol yng nghyswllt un eitem o bwys ar y rhaglen i'r cyfarfod hwnnw penderfynwyd ei ohirio gyda chaniatâd yr Is-Gadeirydd (yn absenoldeb y Cadeirydd).  O'r herwydd nid oedd y Pwyllgor Safonau wedi cymeradwyo cofnodion 23 Medi eto.  Fodd bynnag, roedd bwriad i alw cyfarfod arall o'r Pwyllgor Safonau cyn cyfarfod nesaf y Cyngor Sir ym mis Mawrth 2003 a chyflwynir cofnodion Pwyllgor Safonau 23 Medi i'r Cyngor eu cymeradwyo ar y dyddiad hwnnw.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Everett bod gwahaniaeth rhwng y ddeddfwriaeth i Aelodau'r Cynulliad ar ddeddfwriaeth i Aelodau Awdurdodau Lleol gan nodi bod Aelodau Awdurdodau Lleol yn gorfod cydymffurfio gyda rheolau mwy caeth o lawer.  Yn y cyswllt hwn nododd y Rheolwr-gyfarwyddwr bod yr unigolyn wedi gofyn am ymateb ysgrifenedig i'r cwestiwn hwn.

 

9.7

PWYLLGOR SGRIWTINI CYNHWYSIAD CYMDEITHASOL a gynhaliwyd ar 24 Medi 2002   Tudalennau 78 - 84

 

 

 

Yn codi o'r cofnodion

 

 

 

Prosiect y Goleudy, Stryd William, Caergybi

 

 

 

Mynegodd y Cynghorydd Everett bryderon oherwydd bod y Prosiect Goleudy yn y lleoliad anghywir.  Wedyn cydnabu Cadeirydd y Pwyllgor Cynhwysiad Cymdeithasol y materion a godwyd a chadarnhau y bydd yn trafod y materion gyda'r Cyfarwyddwr Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol a chyda'r Aelod Portffolio.

 

 

 

9.8

PWYLLGOR SGRIWTINI DATBLYGU ECONOMAIDD a gynhaliwyd ar 30 Medi 2002 Tudalennau 85 - 89

 

      

 

9.9     PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION  a gynhaliwyd ar 2 Hydref 2002 Tudalennau 90 - 96

 

      

 

9.10     PWYLLGOR SGRIWTINI ADDYSG A HAMDDEN a gynhaliwyd ar 3 Hydref 2002Tudalennau 97 - 106

 

      

 

9.11     CYSAG a gynhalwiyd ar 14 Hydref 2002 Tudalennau 107 - 113

 

9.12        PWYLLGOR SGRIWTINI CYMUNEDAU IACH A DIOGEL a gynhaliwyd ar 25 Hydref 2002                                                                             Tudalennau 114 - 117

 

      

 

9.13     PWYLLGOR RHEOLI CANOLFAN J E O'TOOLE a gynhaliwyd ar 30 Hydref 2002

 

                                                                                                      Tudalennau 118 - 120

 

      

 

9.14     PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION  a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd 2002

 

                                                                                                      Tudalennau 121 - 132

 

9.15     PWYLLGOR SGRIWTINI AMGYLCHEDD A CHLUDIANT a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd 2002                                                                      Tudalennau 133 - 137

 

9.16     PWYLLGOR SGRIWTINI CYMUNEDAU IACH A DIOGEL a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2002                                                                      Tudalennau 138 - 144

 

      

 

     Yn codi o'r cofnodion

 

      

 

     Eitem 7.2 - Adroddiad ar Gynllun Meysydd Chwarae

 

      

 

     Mynegodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes bryderon ynghylch yr adroddiad ar gyflwr caeau chwarae Ynys Môn a chytunodd yr Aelodau yn unfrydol y dylid galw cyfarfod arbennig o'r Cyngor Sir i drafod y pwnc hwn a gwadd Mr. Tony Chilton o Chwaraeon Cymru i fynychu'r cyfarfod a chyflwyno ei adroddiad.

 

      

 

9.17     PWYLLGOR ARCHWILIO a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2002 

 

                                                                                                      Tudalennau 145 - 149

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Everett gwestiwn ynghylch lleoliad Safle Sbwriel Cyhoeddus yng Nghaergybi a holi a oedd caniatâd cynllunio wedi ei roddi ai peidio i'r safle.  Yn ei ymateb dywedodd yr Aelod Portffolio (Cynllunio a'r Amgylchedd) mai'r ffordd ymlaen oedd i Aelodau etholedig Caergybi gyfarfod gyda'r swyddogion perthnasol i gael eglurhad ar y sefyllfa.

 

        

 

9.18        PWYLLGOR SGRIWTINI DATBLYGU ECONOMAIDD a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd 2002                                                                      Tudalennau 150 - 153

 

      

 

9.19     PWYLLGOR SGRIWTINI CYNHWYSIAD CYMDEITHASOL a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd 2002                                                                      Tudalennau 154 - 158

 

      

 

9.20     PWYLLGOR SGRIWTINI ADDYSG A HAMDDEN a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd 2002    

 

      

 

     Yn codi o'r cofnodion

 

      

 

     Nodwyd y cais am gyfarfod arbennig o'r Cyngor Sir i drafod yr adroddiad ar gyflwr Caeau Chwarae Ynys Môn fel a amlinellwyd yn 9.16 uchod.

 

      

 

9.1

PWYLLGOR GWAITH  a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol :-

 

      

 

9.1.1

30 Medi 2002                                                                 Tudalennau 159 - 166

 

      

 

9.1.2

28 Hydref 2002                                                              Tudalennau 167 - 193

 

      

 

9.1.3

25 Tachwedd 2002                                                                   I DDILYN

 

      

 

Gofynnodd y Cynghorydd Everett am wneud nodyn nad oedd wedi derbyn y papurau ychwanegol, h.y. Cofnodion y Pwyllgor Sgriwtini Addysg a Hamdden a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd na Chofnodion y Pwyllgor Gwaith a gyfarfu ar 25 Tachwedd, 2002.  

 

 

 

 

 

 

 

10

MABWYSIADU SYLFAEN TRETH CYNGOR

 

      

 

     Cyflwynwyd i'w ystyried - adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) yn argymell sail y Dreth Cyngor am 2003/2004 i'w bennu.

 

      

 

Gwnaed y symiau yn ôl canllawiau sy'n dibynnu ar nifer y tai sydd yn y bandiau ar y rhestr brisio; hefyd defnyddiwyd pob disgownt ac eithriad perthnasol.  Mae disgresiwn gan y Cyngor, dan reoliadau a wnaed dan rhan 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 i osod disgownt i'r dosbarthiadau penodedig o anheddau (tai haf ac ail gartrefi y n bennaf).  Wrth i hyn gael ei gyflwyno penderfynodd y Cyngor osod disgownt o ddim i'r ddau ddosbarth penodedig ac mae'r penderfyniad wedi ei gadarnhau yn flynyddol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD :

 

      

 

Ÿ

I gadarnhau mai i bwrpas sail y dreth y disgownt a roddir i eiddo yn nosbarthiadau penodedig A a B am 2003/2004 fydd dim.

 

 

 

Ÿ

I gymeradwyo cyfrifiad sail y Dreth Gyngor gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) am y cyfan o'r ardal ac am rannau ohoni dros y flwyddyn 2003/2004.

 

 

 

Ÿ

Yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifiad o sail y Dreth Gyngor (Cymru) 1995 Rhif 2561 (a ddiwygiwyd gan Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth Gyngor) (Cymru) (Diwygio) 1999, Rhif 2935 (Cy.27)) y rhain yw'r ffigyrau y mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi eu clandro fel Sail y Dreth am 2003/2004 sef 26,605.95, ac am y rhannau hynny o'r ardal sydd wedi eu rhestru isod :-

 

 

 

 

 

 

Amlwch

1,307.51

 

Llaneilian

481.50

 

Biwmares

980.29

 

Llannerch-y-medd

422.21

 

Caergybi

3,523.27

 

Llaneugrad

160.48

 

Llangefni

1,693.34

 

Llanfair Mathafarn Eithaf

1,624.31

 

Porthaethwy

1,276.01

 

Cylch y Garn

312.00

 

 

Llanddaniel-fab

273.89

 

Mechell

506.18

 

Llanddona

266.52

 

Rhos-y-bol

387.32

 

Cwm Cadnant

1,023.17

 

Aberffraw

250.99

 

Llanfair Pwllgwyngyll

1,152.64

 

Bodedern

336.65

 

Llanfihangel Esceifiog

533.81

 

Bodffordd

350.23

 

Bodorgan

356.14

 

Trearddur

1,096.12

 

Llangoed

538.03

 

Tref Alaw

211.36

 

Llangristiolus & Cerrigceinwen

479.17

 

Llanfachraeth

197.88

 

Llanidan

346.50

 

Llanfaelog

972.10

 

Rhosyr

853.78

 

Llanfaethlu

238.29

 

Penmynydd

156.80

 

Llanfair-yn-neubwll

524.69

 

Pentraeth

461.31

 

Y Fali

897.36

 

Moelfre

547.25

 

Bryngwran

296.18

 

 

Llanbadrig

555.32

 

Rhoscolyn

311.78

 

Llanddyfnan

400.34

 

Trewalchmai

303.24

 

 

 

11

LWFANS AELODAU

 

      

 

     Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr-gyfarwyddwr ar bryderon yr aelodau etholedig yn dilyn cyhoeddi gwybodaeth; dywedodd bod y swyddogion ar hyn o bryd yn adolygu fformat a chynnwys y rhybuddion cyhoeddus yng nghyswllt Lwfansau Aelodau.

 

      

 

     Roedd y swyddogion yn y broses o baratoi mathau gwahanol o rybuddion a fydd yn bodloni gofynion y ddeddfwriaeth a châi'r rhybuddion diwygiedig hyn eu cyflwyno yn y man i'r Panel Moderneiddio eu hystyried.

 

      

 

     PENDERFYNWYD bod y Panel Moderneiddio yn ystyried dull diwygiedig (i'w fabwysiadu yng nghyfarfod nesaf y Cyngor Sir) o adrodd yn gyhoeddus ar Gynllun Lwfansau'r Cyngor i aelodau etholedig.

 

      

 

12

NEWIDIADAU AC YCHWANEGIADAU CYNLLUN PWERAU DIRPRWYOL - GWASANAETHAU AMGYLCHEDDOL - PENNAETH GWASANAETH

 

      

 

     Cyflwynwyd adroddiad Cyfarwyddwraig Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro ar bwerau penodol a ddirprwywyd i'r Pennaeth Gwasanaeth - Gwasanaethau Amgylcheddol, yn y Cyfansoddiad ac yn y Cynllun Dirprwyo i Swyddogion, sef dogfennau a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar 7 Mai 2002.

 

      

 

     Yn y cyfamser cyflwynwyd pwerau deddfwriaethol newydd ac ychwanegol sy'n debyg iawn i'r math o swyddogaeth sydd eisoes wedi ei dirprwyo i'r Gwasanaethau Amgylcheddol - Pennaeth Gwasanaeth, ac maent yn bwerau y buasai'n fuddiol ac yn ymarferol i'r Swyddogion hynny sy'n eu weithredu arnynt ar ran y Cyngor.  Hefyd, nodwyd bod nifer o bwerau deddfwriaethol eraill na chawsant eu cynnwys yn y Cynllun Dirprwyo wedi eu gadael allan o amryfusedd o'r rhestr a fabwysiadwyd fel rhan o'r Cynllun ar 7 Mai a bydd raid gwneud rhai newidiadau i Atodiad 1.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a rhoi'r awdurdod i ddiwygio'r Cynllun Dirprwyo ac ychwanegu ato i'r graddau a nodir yn y Rhestr yn yr adroddiad.

 

      

 

     Cyn cloi y cyfarfod dymunodd y Cadeirydd Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i'r aelodau a'r swyddogion a'u gwadd i gyd i ymuno ag ef mewn lluniaeth ysgafn i ddathlu'r Nadolig.

 

      

 

     Daeth y cyfarfod i ben am 3.20 p..m.

 

      

 

      

 

     Y Cynghorydd R. Ll. Owen

 

     Cadeirydd