Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 10 Rhagfyr 2009

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Iau, 10fed Rhagfyr, 2009

CYFARFOD CYNGOR SIR YNYS MÔN

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr 2009 (2:00pm)

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd O. Glyn Jones - Cadeirydd

Y Cynghorydd Selwyn Williams - Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr W.J. Chorlton, E. G. Davies, Lewis Davies, Jim Evans, Keith Evans,  P. M. Fowlie, D. R. Hughes, Ff. M. Hughes, K. P. Hughes,  R. Ll. Hughes, W. I. Hughes, W. T. Hughes, Eric Jones, G. O. Jones, H. Eifion Jones, Raymond Jones, R. Dylan Jones, R.  Ll. Jones, T. H. Jones, Aled Morris Jones, Clive McGregor,  Rhian Medi, Bryan Owen, J. V. Owen, R.L. Owen, Bob Parry OBE,  G.O. Parry MBE, G. W. Roberts OBE,  P. S. Rogers, E. Schofield, Hefin W. Thomas, Ieuan Williams. John Penri Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid),

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol)

Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol)

Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro,

Pennaeth Gwasanaeth (Eiddo),

Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Amgylcheddol)

Cyfreithiwr i'r Swyddog Monitro

Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgorau,

Swyddog y Wasg

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr   T. Ll. Hughes, Eric Roberts

 

 

 

 

 

Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd John Penri Williams

 

1

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfodydd o'r Cyngor Sir a gafwyd ar y dyddiadau hyn:-

 

Ÿ

15 Medi, 2009 (am)

 

Yn codi -

 

Tudalen 7 - Ail Baragraff

 

Roedd y Cynghorydd J. Penri Williams yn dymuno cywiro'r cofnod trwy ddweud "bod y Llywodraeth wedi rhoddi £50b yn ychwanegol i'r system Fancio a hynny'n cyfateb i £55m o arian Ynys Môn" a bod y Gemau Olympaidd yn costio £12b (nid £112m fel a ddyfynnwyd).

 

Ÿ

15 Medi 2009 (pm)

 

Ÿ

6 Hydref, 2009

 

 

 

Yn codi -

 

Eitem 3 - Y Balans Gwleidyddol

 

 

 

Ni chredai'r Cynghorydd P. S. Rogers bod y cofnod yn ffeithiol gywir i'r geiriau a lefarwyd gan y Cynghorydd Durkin yn nhrydydd paragraff y cofnod o'r digwyddiad sef "There it is in black and white".  Gofynnodd i'r Cynghorydd Durkin gadarnhau ei fod yn gywir, am nad oedd ef yn ymwybodol o'r geiriau hyn yn ei gopi ef o gasgliadau'r Ombwdsmon.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd Durkin bod y cofnodion yn gywir ac yn adlewyrchu'r hyn a ddywedodd yn y cyfarfod.

 

 

 

Ÿ

27 Hydref, 2009

 

 

 

1

DATGAN DIDDORDEB

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd W. T. Hughes ddatganid o ddiddordeb yn Eitem 4(iii) y cofnodion, ac arhosodd yn y cyfarfod ond ni chymerodd ran yn y drafodaeth na'r pleidleisio.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd W. J. Chorlton ddatganiad o ddiddordeb yn Eitem 6(a) y cofnodion ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod am y drafodaeth na'r pleidleisio.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Ff. M. Hughes ddatganiad o ddiddordeb  yn Eitem 6(a) y cofnodion, arhosodd yn y cyfarfod ond ni chymerodd ran yn y drafodaeth na'r pleidleisio.

 

 

 

2

DERBYN UNRHYW GYHOEDDIADAU GAN Y CADEIRYDD, YR ARWEINYDD, AELODAU O'R PWYLLGOR GWAITH NEU'R PENNAETH GWASANAETH TÂL

 

 

 

Nododd y Cadeirydd bod y Cyngor wedi ennill sawl gwobr yn ddiweddar am brosiectau amrywiol.

 

 

 

Enillodd Ysgol y Graig wobr (Consortiwm Awdurdodau Lleol Cymru) - gwobr cynaliadwyaeth yn 2009.  Roedd Ysgol y Graig wedi ei dylunio gyda'r nod o arbed ynni ac ymgorfforwyd ynddi nodweddion gwyrdd ac roedd yn cynhyrchu dros 50% o'i thrydan.  Llongyfarchwyd y staff a oedd yn rhan o'r prosiect ar y llwyddiant hwn.

 

 

 

Yn ogystal roedd y Gwasanaeth Tai wedi derbyn gwobr dan y categori 'Darparu Gwasanaeth dan Arweiniad y Cwsmer' - gwobr a gyflwynwyd yn seremoni flynyddol y Sefydliad Siartredig i Dai.  Gwobr oedd hon yn cydnabod y gwaith a wnaeth y Cyngor i fodloni gofynion Safon Ansawdd Tai Cymru.  Y contractwr a wnaeth y gwaith hwn ar Ynys Môn oedd G Purchase Construction a hefyd rhoddwyd i'r cwmni y wobr fel "Contractwr a Ganolbwyntiodd fwyaf ar y Gymuned".

 

 

 

Llongyfarchwyd G Purchase Construction, ac aelodau'r tîm yn y Gwasanaeth am yr ymroddiad a'r gwaith caled a hefyd y tenantiaid hynny a fu'n cydweithio gyda'r swyddogion a G Purchase ar ddarparu'r gwasanaeth llwyddiannus hwn.

 

 

 

Yn ddiweddar hefyd roedd staff Canolfan Hamdden Caergybi wedi ennill y gystadleuaeth oedolion Dwr Polo Gogledd Cymru a rhoddwyd llongyfarchiadau iddynt.  Roedd y staff a defnyddwyr y ganolfan hamdden wedi ymdrechu'n lew yn erbyn saith sir arall yn y gystadleuaeth ym mhwll nofio Llandudno a mynd ymlaen i ennill y teitl i oedolion gyda buddugoliaeth yn y rownd derfynol o 3-0 yn erbyn Wrecsam.

 

 

 

Llongyfarchwyd Mr. Carwyn Jones AC ar ei ethol yn Brif Weinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru.  

 

 

 

Roedd Mr. Terry Jones, Pennaeth Gwasanaeth - yr Amgylchedd yn bwriadu ymddeol ar 23 Rhagfyr 2009, ar ôl 40 mlynedd o wasanaeth.  Ar ran yr Aelodau a'r Swyddogion diolchwyd iddo am ei lafur dros y blynyddoedd a dymuno iddo ymddeoliad hir a hapus.  Hefyd roedd yn dda iawn ei weld yn ôl yn y gwaith ar ôl cael adferiad llwyr yn dilyn llawdriniaeth.

 

 

 

Tristwch mawr i'r Cyngor oedd clywed am farwolaeth Leon Jamie Jones, 49 Tan yr Efail, Caergybi yn 21 oed ar ôl ei drywanu i farwolaeth y mis diwethaf ger ei gartref.

 

 

 

Newydd gwblhau Prentisiaeth Fodern oedd Leon ar drwsio cerbydau yn Hyfforddiant Môn a hefyd yn ei waith yn Moduron Maethlu, Llanfaethlu.  Dechreuodd ar yr hyfforddiant ym mis Gorffennaf 2005 a gweithiodd yn gydwybodol ar y rhaglen Adeiladu Sgiliau a symud ymlaen i'r brentisiaeth fodern sylfaenol ac ymlaen wedyn i'r Brentisiaeth Fodern.

 

 

 

Yn wir roedd Jamie yn batrwm o brentis da a phawb yn uchel ei barch iddo - ei gyflogwyr a'r staff - a bydd colled fawr ar ei ôl.

 

 

 

Ar ran y Cyngor cydymdeimlodd y Cadeirydd yn ddwys gyda Mrs Mary W. Jones, Swyddog Cefnogi Aelodau, ar golli ei mam yn ddiweddar.

 

 

 

Hefyd achubodd y Cadeirydd ar y cyfle i gydymdeimlo gyda'r aelodau hynny o staff ac aelodau o'r Cyngor a oedd wedi colli teulu yn ddiweddar.  Safodd yr aelodau a'r swyddogion mewn distawrwydd fel arwydd o barch.

 

 

 

Wedyn rhoes y Cadeirydd groeso i bawb ymuno ag ef am baned a mins peis ar ôl y cyfarfod.

 

 

 

 

 

 

 

Roedd y Cadeirydd yn dymuno cyflwyno'r datganiad a ganlyn i'r Cyngor:-

 

 

 

“Fellow Members and Officers, I would like to refer back to the meeting of the Council on 27th                March, 2009.

 

 

 

I was Vice Chairman at the time, but I Chaired part of that meeting.  

 

 

 

While I was in the Chair, a motion of confidence in the Chairman (Councillor Aled Morris Jones) was proposed and seconded.  

 

 

 

I asked for the views of the Monitoring Officer, who advised that the motion did not comply with the Council Procedure Rules, as it should have been put in writing before the meeting.

 

 

 

However, having received that advice, I allowed debate on the motion.  

 

 

 

Having had an opportunity to step back from my decision, and think about it objectively, I now appreciate that it was inappropriate for me to permit the debate to continue.

 

 

 

I therefore want to take this opportunity to apologise to all members of the Council, and to the Monitoring Officer, for the way in which I conducted that item of business.

 

 

 

I do not try to excuse my actions but I hope that members accept that they were neither deliberate nor wilful.  

 

 

 

I acted out of inexperience, compounded by the fact that the mood of the meeting was especially hostile.  This made it very difficult for me to process and consider advice whilst also trying to keep the meeting in order.

 

 

 

You will see before you today a report in the name of Group Leaders to strengthen the arrangements surrounding Council meetings.  These proposals have my full support and I hope they have yours.

 

 

 

If approved, and more importantly, adhered to they will make chairing future Council meetings somewhat easier and help Chairmen when faced with difficult decisions to take the right action.

 

 

 

I hope that this apology is accepted in the spirit in which it is offered”

 

 

 

 

 

 

 

Yn ogystal roedd y Cynghorydd Aled Morris Jones yn dymuno gwneud datganiad personol:-

 

 

 

“Mr Cadeirydd,thank you and Council, for allowing me to make this personal statement.

 

I refer to the events of the County Council meetings of the 5th and 27th of March.

 

 

 

I very much regret my action as Chairman when on the 5th of March, in the heat of the moment that I failed to give an appropriate opportunity for the Monitoring Officer to address the meeting.My motives were to enable the Council to move forward to minimise duplication of debate which I thought would be damaging to the Council. I now realise that although my intentions were honourable, my action was wrong. This was an error of judgment on my part.

 

 

 

Prior to the Council meeting of the 27th March, having received communication from the Monitoring Officer advising me that in my own personal interest not to Chair that meeting. I sought a second opinion from the Welsh Local Government Association, which opinion stated, that it was my choice and either option was acceptable, to Chair or not to Chair that meeting.

 

 

 

In the light of that advice I decided to Chair the meeting as it offered me an early opportunity to redress the less than satisfactory events of the 5th March Council meeting.

 

 

 

I assure the Council it was not my intention to stifle proper democratic debate but on reflection I realise that my action was a misguided attempt to minimise the damage to the Council.

 

 

 

I now ask you my fellow Councillors to view the events of the 5th and the 27th of March in the light of this statement and to judge my actions accordingly.

 

 

 

I assure you all that  my intentions were honourable but I now accept with the benefit of hindsight they could have been judged otherwise.

 

 

 

I do wish to take this opportunity to express my regret to Council my fellow Councillors and to the Monitoring Officer for any action by me that might have caused you distress”.

 

 

 

Ond roedd y Cynghorydd W. J. Chorlton yn anfodlon am nad oedd y datganiadau hyn yn gyhoeddiadau ond yn ymddiheuriadau ac roedd hynny yn fater hollol wahanol.  Roedd yn pryderu ynghylch y digwyddiadau yma heddiw oherwydd iddo ef gyflwyno cwyn i'r Ombwdsmon yng nghyswllt y digwyddiadau.  Nid oedd hi'n dderbyniol cuddio'r materion hyn - roedd angen trafodaeth lawn.  Nid oedd yn fodlon derbyn y datganiadau oherwydd credu bod yr hyn a ddigwyddodd ar y dydd yn gwbl annerbyniol.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Cadeirydd nad oedd y mater gerbron yn cael ei wthio o'r neilltu ac o'r golwg ac roedd hefyd yn cydnabod bod yr Ombwdsmon yn parhau i ymchwilio. Ond roedd ganddo ef fel Cadeirydd yr awdurdod i wneud cyhoeddiadau ac i ganiatáu i unrhyw un oedd wedi gofyn am ganiatâd wneud datganiadau.

 

 

 

4

CWESTIYNAU A DDERBYNIWYD DAN REOL 4.1.12.4

 

 

 

(i)  Cyflwynwyd y cwestiwn a ganlyn gan y Cynghorydd Keith Evans i Arweinydd y Cyngor:-

 

 

 

“In view of the reported changes in legislation, which are understood to have been adopted recently, what steps are planned by the County Council to revive efforts to achieve the ambitious marina project at Beaumaris, which would be a significant boost to activities on the Menai Straits and to the economy and tourism appeal of South-East Anglesey?”

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd Arweinydd y Cyngor:-

 

 

 

“I can confirm that The Marine and Coastal Access Act 2009 received Royal assent on 12th November 2009. This legislation opens the door for Developers to consider the siting of a Marina at Beaumaris along the lines proposed by ABC in 1999. The new legislation does enable the Minister, to vary or revoke Orders  made under the Sea Fisheries (Shellfish) Act 1997, such action could take place in instances where:-

 

 

 

Ÿ

Permission has been granted for the carrying out of any development in on or over any portion of sea shore to which an Order relates,

 

Ÿ

As a result of the development it will be impossible or impracticable to exercise any right of several fishery or of regulating a fishery in the affected area.

 

 

 

Provision is made in the Act for payment of compensation by the Owners of the affected area to any persons who are entitled to a right of several fishery in any part of the affected area

 

 

 

The passing of the Act now provides a new mechanism for the proposed Marina at Beaumaris to be reconsidered. To enable this to progress the developers will need to take steps to ensure relevant permissions are granted including Planning and FEPA consent. Currently all earlier approvals granted for the Gallows Point Marina have expired but an application to extend the period of Planning Consent has been lodged but not determined

 

 

 

Details of the proposed means of calculating compensation to those holding fishery rights are not yet clear. The commercial viability of the project may now depend crucially on the level of compensation required. Consultation on this matter will also be required with The Crown Estates. The Council and The Crown Estates would no doubt expect the developer to bear the cost of compensation payments.”

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Keith Evans a fuasai'n cael copi o'r ymateb ac aeth ymlaen i ddweud bod gwaith anorffenedig yn codi o Gyfnod 1 yr ymgyrch o blaid prosiect y marina a'r mater yn ymwneud â chyllid cysylltiedig.  Hyd y gwyddai ef nid oedd costau cyfreithiol sylweddol y Cyngor, hyd yma, wedi eu datgelu a gofynnodd pryd y bydd y wybodaeth honno ar gael oherwydd bod gan drethdalwyr Môn hawl i wybod yn union beth yw buddsoddiad y Cyngor hyd yma.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd yr Arweinydd bod y manylion ariannol ariannol yn cael eu sefydlu ar hyn o bryd gan obeithio y gellid eu rhyddhau erbyn Ionawr 2010.

 

 

 

(ii)  Cyflwynwyd y cwestiwn a ganlyn gan y Cynghorydd H. Eifion Jones i Arweinydd y Cyngor Sir:-

 

 

 

“In the Council’s Improvement Plan for 2009/10 we have agreed a core indicator for the percentage of enforcement complaints resolved within 12 weeks of receipt. Therefore, could you please provide a figure for our performance so far this year?”

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd Arweinydd y Cyngor:-

 

 

 

“The target set in the Council’s Improvement Plan for 2009-10 for percentage of Enforcement complaints resolved within 12 weeks of receipt  is 60%.During the first 6 months of this financial year we have recorded a performance rate of 70%.Staffing in this section for the last twelve months has been understaffed by 25%.In 2008/09 the target was also 60% but the performance was 44%."

 

 

 

Diolchodd y Cynghorydd H. Eifion Jones i'r Arweinydd am ei ymateb ond nododd hefyd bod rhai materion heb eu setlo yn yr Adran honno.  Cafwyd llithriad arall eto o 12 mis gyda gwaith y Cynllun Datblygu Lleol ers cyfarfod diwethaf y Cyngor a gofynnodd i'r Arweinydd beth oedd ef yn bwriadu ei wneud i gywiro sefyllfa'r adnoddau a blaenoriaethau'r Adran?

 

 

 

     Mewn ymateb dywedodd y Cadeirydd bod adroddiad wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith yn gynharach y mis hwn a'r adeg honno neilltuodd y Pwyllgor Gwaith adnoddau ychwanegol i sicrhau bod Adain Orfodaeth yr Adran Gynllunio yn ddigon cryf.

 

      

 

     (iii)  Cyflwynwyd y cwestiwn a ganlyn gan y Cynghorydd H. W. Thomas i Arweinydd y Cyngor Sir:-

 

      

 

     “What actions do you as Leader intend taking to ensure that the Smallholdings Estate on the Island is brought up to an acceptable standard, especially in view of      the fact that your recent request for support from the Assembly seems to have fallen on deaf ears?”

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd Arweinydd y Cyngor:-

 

      

 

     "It was disappointing that the SKIF application on behalf of our smallholding estate was not supported by the Assembly.

 

      

 

     As an Executive we need to take a long critical look at our Property portfolio and to that end the Portfolio holder is consulting with our partners in January 2010 on a range of options in relation to the County Smallholding Estate.

 

      

 

     As I have publicly stated this executive has no “sacred cows” as we consider the dire financial forecasts facing Local Authorities and will take appropriate action as the situation demands.

 

      

 

     You will be aware that we recently agreed to invest all the income from our smallholdings into the maintenance budget for those properties. This was to try and remedy gross underfunding in maintenance over a considerable number of years. The adoption of the Council’s Asset Management Plan later this afternoon will assist in establishing a planned maintenance regime if that is what will be considered to be the best option for this Authority."

 

      

 

     Wedyn gofynnodd y Cynghorydd H. W. Thomas a fedrai'r Arweinydd gytuno bod y polisi presennol ynghylch y mân-ddaliadau yn gwbl annigonol i bwrpas gwneud y gwaith hwnnw oedd angen ei wneud ar y stad.  Gan fod y pwnc hwn wedi ei nodi fel risg fawr i'r Cyngor gofynnodd i'r Arweinydd a oedd yn bwriadu sefydlu Panel ar draws y pleidiau gwleidyddol i gynorthwyo gyda'r gwaith o redeg y Stad?  Roedd hon yn dasg enfawr i'r Cyngor a chan fod arafwch ymddangosiadol gyda'r gwaith gwerthu eiddo dros y 18 mis diwethaf a hefyd oherwydd achos amlwg iawn o dorri cytundeb tenantiaeth yn ne'r Ynys.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd yr Arweinydd bod ganddo bob ffydd yn y Deilydd Portffolio ac y buasai hwnnw yn sicrhau bod y rhan hon o waith y Cyngor Sir yn rhedeg yn effeithiol ac yn gywir y tu mewn i'r gyllideb.  Ni châi dim ei ddiystyru mewn unrhyw ffordd.

 

      

 

5

CYFLWYNO DEISEBAU

 

      

 

     Ni chafwyd yr un ddeiseb dan Baragraff 4.1.11 y Cyfansoddiad.

 

      

 

6     NEWID I GYFANSODDIAD Y CYNGOR

 

      

 

     (a)  Lwfansau Gofal

 

      

 

     (a)  Dywedwyd - bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 10 Tachwedd 2009 wedi penderfynu fel a ganlyn:-

 

      

 

     "argymell i'r Cyngor Sir bod y Cyngor yn cymeradwyo diwygio'r Cyfansoddiad trwy ddileu ail frawddeg cymal 6.3.2 a chyflwyno'r newid arfaethedig i'r Gweinidog i'w gymeradwyo".

 

      

 

     (b)  Cyflwynwyd er gwybodaeth, adroddiad y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro fel y cyflwynwyd yr adroddiad i'r Pwyllgor Gwaith ar 10 Tachwedd 2009.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cadarnhau argymhelliad y Pwyllgor Gwaith.

 

      

 

     (b)  Ailstrwythuro Adran yr Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol

 

      

 

     (a)  Dywedwyd - bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 1 Rhagfyr, 2009 wedi penderfynu argymell i'r Cyngor Sir fel a ganlyn:-

 

      

 

     "diwygio'r Cyfansoddiad trwy gynnwys y newidiadau a ddangosir yn Atodiadau B, Ch a D, dileu 3.5.3.16, diwygio Rhan 7 (Atodiad Dd) ac ychwanegu'r rheoliadau ym mharagraff 6 (Rheoliadau Difrod Amgylcheddol) (Atal ac Adfer) 2009 ac Atodiad A.

 

      

 

     yn amodol ar Gyfarwyddyd Gweinidogion Cymru i ddiwygio'r Cyfansoddiad trwy gynnwys y newidiadau a ddangosir yn Atodiadau B, Ch a D dileu 3.5.3.16, diwygio Rhan 7 Atodiad  ac ychwanegu'r rheoliadau ym mharagraff 6 (Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer)) 2009 Atodiad A"

 

      

 

     (b) Cyflwynwyd - Adroddiad Cyfreithiwr y Swyddog Monitro fel y cafodd ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith ar 1 Rhagfyr 2009.

 

      

 

     (Roedd y Cynghorydd G. W. Roberts OBE am gofnodi nad oedd wedi pleidleisio ar y mater).

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Gwaith.

 

      

 

     (c)  Y Cyhoedd yn siarad yn y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

 

      

 

     (a)  Dywedwyd bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 1 Rhagfyr 2009 wedi penderfynu argymell i'r Cyngor Sir fel a ganlyn:-

 

      

 

     "Bod y Cyngor llawn yn cadarnhau eu penderfyniad o 13 Rhagfyr 2007 o gael siarad cyhoeddus yn y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am gyfnod dros dro o 12 mis i'w gyflwyno ar geisiadau i'w derbyn ar ac wedi 1 Ionawr 2010.  Bod y dogfennau yn yr Atodiad i'r adroddiad yma yn cael eu hychwanegu i'r Cyfansoddiad i alluogi'r trefniadau am siarad cyhoeddus."

 

      

 

     (b)  Cyflwynwyd - Adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio) a Chyfarwyddwr y Gyfraith/Swyddog Monitro fel y cafodd ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith ar 1 Rhagfyr 2009.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd H. E. Jones pam y cymerodd hi ddwy flynedd i symud ymlaen?

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd R. G. Parry OBE, Deilydd Portffolio, bod newidiadau wedi eu cyflwyno i aelodaeth y Pwyllgor Cynllunio a bod aelodau'r hen Bwyllgor cyn etholiadau 2008 wedi ymweld â Chyngor Wrecsam i gael golwg ar yr arfer o siarad cyhoeddus a chafodd aelodau presennol y Pwyllgor yr un cyfle.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Gwaith.

 

      

 

     (ch)  Codi am Swyddogaethau Derbynnydd (Oedolion Bregus - Gwasanaethau Cymdeithasol)

 

      

 

     Dywedwyd bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 1 Rhagfyr 2009 wedi penderfynu argymell i'r Cyngor Sir fel a ganlyn:-

 

      

 

     "Ychwanegu'r cymal a ganlyn at y Cyfansoddiad dan 3.5.3.20.3:-

 

      

 

     (x) diystyru'r tâl am reoli'r achos yng nghyswllt clientau sy'n dioddef caledi y mae tystiolaeth iddo"

 

      

 

     a gwahoddi y Cyngor yn amodol ar ddisgresiwn Gweinidogion Cymru, i ddiwygio'r Cyfansoddiad trwy chwanegu'r cymal uchod.

 

      

 

     Cyflwynwyd - Adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol) fel y cyflwynwyd ef i'r Pwyllgor Gwaith ar 1 Rhagfyr, 2009.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Gwaith.

 

      

 

7     CYMDEITHAS LLYWODRAETH LEOL CYMRU - Y RHAGOLYGON ARIANNOL I'R AWDURDODAU LLEOL

 

      

 

     Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad ar ymateb Prif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a hynny mewn llythyr dyddiedig 13 Hydref, 2009, ynghylch y rhagolygon ariannol i'r awdurdodau lleol.

 

      

 

     Yn y llythyr nodwyd bod y Gymdeithas wedi nodi pwyntiau'r Cyngor, sef cynlluniau cyfalaf cenedlaethol mawrion a chwestiwn cyffredinol ynghylch fforddiadwyaeth.  Roedd y Gymdeithas ar ddeall bod rhaglen y cerdyn adnabod yn mynd i gael ei hadolygu a bod y Gymdeithas a Chymdeithas Llywodraeth Leol Lloegr yn y gorffennol wedi mynegi pryderon ynghylch natur orfodol y cynllun ID a chostau cysylltiedig.  Ar 30 Gorffennaf, cyflwynodd yr Ysgrifennydd Cartref y cynigion terfynol ar gyfer dylunio'r cynllun ac nid oedd bellach yn orfodol a chyswllt cliriach rhyngddo â darparu pasbort biometrig.

 

      

 

     O ran Trident, nid oedd y Gymdeithas yn gyffredinol yn cynnig sylwadau ar bolisi amddiffyn na pholisi tramor ac wrth gwrs buasai'n rhaid i unrhyw Lywodraeth newydd a ddaw i rym ar ôl yr etholiad cyffredinol adolygu'r cynlluniau cenedlaethol mawrion i gyd yng nghyd-destun sefyllfa ddyrys cyllid cyhoeddus ac felly buasai blaenoriaethau yng nghyswllt gwariant amddiffyn yn bwnc perthnasol.

 

      

 

     (Roedd y Cynghorydd Rhian Medi yn dymuno cofnodi nad oedd wedi pleidleisio ar y mater hwn).

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi cynnwys ymateb Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

 

      

 

8     ADRODDIAD BLYNYDDOL AR REOLI'R TRYSORLYS AM Y FLWYDDYN ARIANNOL 2008/09

 

      

 

     Yn unol â'r Codau Ymarfer cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) ar yr adroddiad blynyddol yng nghyswllt rheoli'r Trysorlys am y flwyddyn ariannol 2008/09.  Cafodd yr adroddiad ei ystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 6 Hydref, pryd y PENDERFYNWYD "argymell i'r Cyngor Sir ei fod yn derbyn cynnwys yr adroddiad".

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn cynnwys yr adroddiad.

 

      

 

9     ADOLYGU'R DATGANIAD AR BOLISI'R DDEDDF GAMBLO

 

      

 

     Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (yr Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol) yn rhoi gwybod i'r Cyngor Sir am yr ymgynghoriad diweddar ar yr arolwg 3 blynedd statudol yng nghyswllt Datganiad y Cyngor ar Bolisi Gamblo yn unol â gofynion Deddf Gamblo 2005 ac yn gofyn am ganiatâd y Cyngor i'r drafft terfynol o'r fersiwn ddiwygiedig a diweddaraf o'r Datganiad Polisi Gamblo am y cyfnod 2010 - 2013.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo a mabwysiadu'r fersiwn ddrafft derfynol o'r Datganiad ar Bolisi Gamblo i ddibenion Deddf Gamblo 2005 ac am y cyfnod 2010 - 2013.

 

      

 

10     CYNLLUN RHEOLI ASEDAU

 

      

 

     Dywedwyd bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 1 Rhagfyr 2009 wedi penderfynu fel a ganlyn:-

 

      

 

     "argymell i'r Cyngor Sir ei fod yn mabwysiadu'r fersin ddrafft o'r Cynllun Rheoli Asedau".

 

      

 

     Cyflwynodd y Deilydd Portffolio adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Eiddo) fel y cyflwynwyd ef i'r Pwyllgor Gwaith ar y dyddiad uchod gan nodi bod rhai mân newidiadau i'r cynllun oherwydd y gwaith sy'n parhau i gael ei wneud arno.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Cynghorydd H. E. Jones yr Aelodau at Atodiad 4 y Cynllun ac wrth gymharu hwn gyda'r un cynllun a gyflwynwyd i'r Prif Bwyllgor Sgriwtini rai wythnosau'n ôl nododd bod rhai newidiadau sylfaenol wedi'u cyflwyno i'r ddogfen.  Yn gyntaf roedd y mân-ddaliadau, am ryw reswm, wedi eu gadael allan o'r Cynllun.  Gerbron y Pwyllgor Sgriwtini rhestrwyd 116 o ffermydd ac yn bwysicach na hynny cyfeiriwyd yng ngholofn 5 yr Atodiad at yr amcangyfrif i gostau cynnal a chadw dros y 5 mlynedd nesaf ac roedd yno ffigwr o bron i £5m.  Gofynnodd sut y bwriedid gwario'r arian hwn? Ac eithrio Clybiau Ieuenctid nid oedd yr un ffigwr arall yn y golofn hon.  Roedd y cyfanswm gerbron y Pwyllgor Sgriwtini yn £15m, h.y. y swm yr oedd yn rhaid ei wario ar tua 300 o eiddo'r Cyngor.  Petai'r holl symiau hyn yn cael eu hychwanegu at ei gilydd rhoddai ffigwr o £36m y bydd raid ei wario.  Holodd sut na sylwodd y Pwyllgor Gwaith ar y symiau hyn?

 

      

 

     Eglurodd y Deilydd Portffolio, wrth ymateb, na chafodd y mân-ddaliadau eu cynnwys oherwydd bod y Cyngor yn y broses o gynnal arolwg ar y stad gyfan a châi y ffigyrau hyn eu hychwanegu unwaith y byddant ar gael ac yn gyflawn.  Roedd y ffigyrau a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Sgriwtini yn 5 mlwydd oed ac yn y broses o gael eu diweddaru a hwn oedd y rheswm pam na chawsant eu cynnwys yn y ddogfen hon.  Câi y ffigyrau yn yr atodiad eu newid bob hyn a hyn wrth i wybodaeth newydd ddod o'r arolwg.

 

      

 

     Wedyn gofynnodd yr Arweinydd i'r Cyngor dderbyn y ddogfen heddiw fel cynllun o bwys mawr a châi ei ddiweddaru unwaith y bydd gwybodaeth newydd ar gael.

 

      

 

     Mynegi pryderon a wnaeth y Cynghorydd P. S. Rogers ynghylch cyflwr y Stad Mân-ddaliadau ac am nad oedd y Cyngor yn cymryd camau yn erbyn unigolion sy'n torri cytundebau tenantiaeth oherwydd cyflwr drwg y stad.  Hyd yn oed petai'r Cyngor wedi derbyn cymorth £5m o goffrau Cynulliad Cymru teimlai nad oed ganddo ddigon o staff i wario cymaint o arian.  Credai ef bod gadael y mân-ddaliadau allan o'r cynllun yn gyfateb i hunanladdiad.  Y Stad oedd ased pwysicaf y Cyngor.

 

      

 

     Yn ôl yr hyn a ddeallai'r Cynghorydd B. Owen roedd £7m ar ôl yn y Gronfa Cydgyfeiriant a bod yr awdurdod hwn wedi derbyn gwahoddiad i ail fidio.  Hefyd teimlai bod gan y Cyngor staff priodol i wneud y gwaith gan fod yr Adran Dai, ar hyn o bryd, yn gofalu am gontract werth £20m dros 4 blynedd ac yn ôl yr arwyddion roeddynt yn gwneud yn dda iawn.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd H. W. Thomas y dylid cael ateb i droi'n ôl ato petai'r ail fid yn methu.

 

      

 

     Er nad oedd yr awdurdod yn gwario ar y Stad ni chredai'r Cynghorydd W. J. Chorlton mai honno oedd y broblem ond yn hytrach nad oedd rheolaeth ddigonol dros y tenantiaid.  Ni chredai ef bod yr adroddiad yn barod a bod angen sefydlu Panel Mân-ddaliadau i fod o gymorth i'w rhedeg.

 

      

 

     Rheoli asedion yn gyffredinol oedd yr egwyddor gerbron y Cyngor heddiw yn ôl y Cynghorydd Schofield - nid y mân-ddaliadau yn unig.  Dros y blynyddoedd cafwyd sawl Panel Mân-ddaliadau ac nid oedd yr hyn a gyflawnwyd yn ddim i ymfalchio yn ei gylch o gofio am y sefyllfa yr oedd y Cyngor ynddi.  Petai modd cael trefn ar y Stad yna deuai tua £0.5m o refeniw yn flynyddol ohoni a buasai'r arian yn gymorth i gynnal yr eiddo.  Roedd yn rhaid i'r Pwyllgor Gwaith ystyried yn ofalus iawn beth oedd ei fwriadau gyda'r Stad a hynny fel rhan o'r gwaith sydd ar y gweill yng nghyswllt y rownd gyllidebol.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Cynghorydd H. E. Jones at Eitem 4 Tudalen 4 y Cynllun, sef Amcanion Corfforaethol i'r Gwaith Cynllunio ar Reoli Asedion a bod angen 'herio’r angen am yr eiddo y mae’r Cyngor yn berchen arnynt ar hyn o bryd, nodi eiddo nad oes eu hangen mwyach ac asesau sy’n tanberfformio ac argymell cynlluniau priodol I gael gwared arnynt er mwyn sicrhau nad yw’r portffolio Cyngor  yn fwy nag sydd angen iddo fod I ddarparu gwasanaethau effeithiol i’r cyhoedd'.

 

      

 

     Credai bod hwn yn fwlch enfawr yn yr adrodiad a bod angen ei gau ar fyrder.  Er bod y Pwyllgor Gwaith ar 1 Rhagfyr 2009 wedi penderfynu derbyn adroddiad arall ar y mater erbyn Mawrth 2011 credai'r Cynghorydd bod hynny'n rhy hwyr, ac er mwyn symud ymlaen gyda'r gwaith cynigiodd y dylid paratoi'r adroddiad hwn a'i gyflwyno erbyn Mawrth 2010.

 

      

 

     Yn ei ymateb dywedodd y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro ei fod ef ar ddeall y buasai'r Cynllun Rheoli Asedion drwyddo draw wedi'i gwblhau erbyn Mawrth 2011 ond yn y cyfamser roedd disgwyl y buasai'r amryfal arolygon yn cael eu cwblhau cyn y dyddiad hwn.  Nid oedd unrhyw fwriad i oedi'r arolygon tan y dyddiad uchod a'r briff a gyflwynwyd i swyddogion oedd i gwblhau'r arolygon cyn gynted ag y bo'n bosib.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd H. E. Jones yn dal i gynnig y dylid cwblhau, erbyn diwedd Mawrth 2010, yr arolwg ar eiddo sbâr y Cyngor.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd yr Arweinydd bod swmp sylweddol o waith i'w wneud eto ac roedd yn amharod i gaethiwo swyddogion yng nghyfarfod y Cyngor heddiw i amserlen nad oedd modd ei chyflawni gyda'r cyfryw swyddogion ac wedyn wynebu cyhuddiadau o fethu â chyflawni erbyn dyddiadau cau.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd H. W. Thomas cafwyd cynnig, ar ffurf gwelliant, i ohirio ystyried y mater heddiw a bod adroddiad arall yn dod i'r Cyngor ac yn hwnnw fwy o fanylion.  

 

      

 

     Methu a wnaeth y ddau gynnig a PHENDERFYNWYD mabwysiadu'r fersiwn ddrafft o'r Cynllun Rheoli Asedau.

 

      

 

     (Roedd y Cynghorydd Raymond Jones yn dymuno nodi nad oedd wedi pleidleisio ar y mater).

 

      

 

11     PROTOCOL YMDDYGIAD YNG NGHYFARFODYDD Y CYNGOR

 

      

 

     Cyflwynwyd - adroddiad gan y Grwpiau Gwleidyddol ar brotocol 'hunan-reolaeth' yng nghyfarfodydd y Cyngor Sir yn y dyfodol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD

 

      

 

Ÿ

Cymeradwyo'r cynigion yn yr adroddiad

 

 

 

Ÿ

Bod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Phwyllgorau/Swyddog Monitro yn llunio 'Protocol' i sefydlu'r trefniadau hyn yn gadarn a bod Protocol o'r fath yn cael ei ystyried i'w gynnwys yng Nghyfansoddiad y Cyngor.

 

 

 

Ÿ

Bod y rhaglen datblygu aelodau yn adlewyrchu'r angen i gefnogi pawb sy'n cadeirio cyfarfodydd ond yn arbennig y rheini sy'n cadeirio cyfarfodydd y Cyngor llawn, y Pwyllgor Sgriwtini a'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

 

 

12     DIWEDDARIAD YNGHYLCH YR AROLWG LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL

 

      

 

     Cyflwynwyd er gwybodaeth - Adroddiad gan y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro yn diweddaru'r Cyngor ar y cynnydd yng nghyswllt ymateb i'r argymhellion yn yr adroddiad Arolwg Llywodraethu Corfforaethol.  Roedd yr adroddiad yn rhoddi sylw arbennig i'r materion a ganlyn:-

 

      

 

Ÿ

Cynllun Gweithredu

 

Ÿ

Hunan-reolaeth

 

Ÿ

Hyrwyddo Atebolrwydd

 

Ÿ

Datblygu Gweledigaeth Strategol i'r Cyngor.

 

 

 

Gwnaed llawer o waith cynllunio eisoes ar ddatblygu'r Cynllun Gweithredu a nodi'r blaenoriaethau.  Cyflwynir adroddiadau pellach i'r Cyngor yn y misoedd nesaf. Bydd angen i'r aelodau nodi y bydd llawer o rhaglenni sy'n cyflwyno newidiadau yn ymwneud â'r ffordd y mae'r Cyngor yn gweithredu a, chydag Arweinwyr Grwpiau, byddwn yn ceisio sicrhau lefel uchel o ymwneud gan aelodau yn y gwaith o ddatblygu a mireinio'r Cynllun Gweithredu yn ogystal â'i weithrediad.

 

 

 

Diolchodd y Cynghorydd H. Eifion Jones i'r Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro am ddatrys y mater pwysig o sicrhau ymddiheuriad aelodau'r Pwyllgor Gwaith ynghylch camau'r Pwyllgor Gwaith dros y 12 mis diwethaf yng nghyswllt y Tîm Rheoli.  Roedd yn gobeithio'n fawr bod hyn wedi ei ddatrys a bod y ddwy ochr bellach wedi symud ymlaen mewn partneriaeth.  Hefyd diolchodd i'r aelodau hynny o'r Pwyllgor Gwaith a oedd wedi derbyn eu cyfrifoldebau a llofnodi'r ymddiheuriad.

 

 

 

Ond ni chredai'r Cynghorydd P. S. Rogers bod unrhyw welliannau wedi digwydd dros y misoedd diwethaf yng nghyswllt hunan-reolaeth.  Yma cyfeiriodd at ymyraeth honedig yn y broses o benodi Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio.  Hefyd soniodd bod llythyr o ymddiheuriad gan y Pwyllgor Gwaith i'r Tîm Rheoli wedi ei ddal yn ôl er bod pawb yn cynghori y dylai fod yn gyhoeddus, hyd onid oedd y cyn Reolwr-gyfarwyddwr wedi gadael.  Yn awr roedd y Bwrdd Adfer yn edrych ar argymhelliad yr Adroddiad Arolwg Llywodraethu Corfforaethol i gael cadeiryddion annibynnol i'r Pwyllgorau Sgriwtini. Credai ef y buasai unrhyw Gyfansoddiad cyffredin wedi rhodi sylw i'r broblem.  Yn ogystal roedd yn rhaid i'r Cyngor ystyried y costau hynny a hawliwyd gan Gynghorwyr aeth ar drip i dde Cymru - er eu bod wedi talu am y costau eu hunain cawsant yr arian yn ôl.

 

 

 

Mewn ymateb roedd y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro yn cydnabod y pwyntiau a wnaed ond yn sicr roedd y swyddogion hynny y câi Paragraff rhif 85 y llythyr effaith arnynt yn dymuno dwyn y materion i ben a bod y Cyngor yn symud ymlaen.  Wrth gwrs gallai'r Cyngor edrych tua'r gorffennol ond ni chredai bod peth o'r fath o gymorth i symud y Cyngor yn ei flaen.

 

 

 

Roedd y Cynllun Gweithredu a baratowyd ganddo yn rhoddi sylw i faterion pwysig a godwyd.  Ynddo rhoddwyd sylw i annibyniaeth ac i'r egwyddor o gryfhau'r Pwyllgor Archwilio a hynny'n cynnwys argymhellion i gael pobl annibynnol, heb gyswllt gyda'r Cyngor, i eistedd ar y Pwyllgor Archwilio.  Yn ogystal roedd Arweinyddion y Grwpiau wedi gofyn iddo edrych ar y trefniadau Sgriwtini ac ar sut i gryfhau o ran pwy fydd yn cadeirio'r Pwyllgorau Sgriwtini a hefyd o ran sicrhau gwell cefnogaeth gan  swyddogion.

 

 

 

O ran dal gwybodaeth yn ôl roedd yr Ombwdsmon yn dal i edrych ar y mater ac ni fedrai ef gyflwyno rhagor o sylwadau.

 

 

 

Nododd yr Arweinydd bod hwn y pedwerydd neu'r pumed tro, mae'n debyg, i'r Cynghorydd Rogers godi mater Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a chafodd atebion ar bob achlysur ac roedd yr atebion hynny wedi bod yn gyson ac yn onest.  Onid oedd y Cynghorydd Rogers yn medru derbyn yr atebion hynny yna efallai y dylai ailystyried ei sefyllfa y  tu mewn i'r awdurdod hwn.

 

 

 

Credai'r Cynghorwyr H. W. Thomas a W. J. Chorlton y dylai'r cyn aelod o'r Pwyllgor Gwaith a wrthododd lofnodi'r llythyr o ymddiheuriad i'r swyddogion dan sylw, ymddiheuro heddiw i'r Cyngor llawn.  Petai'n gwneud hynny buasai'n haws i'r Cyngor symud ymlaen.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd Schofield iddo fod yn aelod o'r awdurdod ers blynyddoedd lawer a bod pawb oedd yn ei adnabod yn gwybod na fuasai'n cilio oddi wrth y gwir fel y gwelai ef hwnnw.  Ond ar ddiwedd y dydd y peth pwysicaf oedd - a fedrai'r unigolyn fyw gyda'i gydwybod?  Roedd ef wedi datgan yn glir ac yn gyhoeddus ei fod wedi tynnu llinell dan bopeth a ddigwyddodd yng nghyswllt yr adroddiad Archwilio ac yng nghyswllt hyn rhoi sicrwydd i'r Arweinydd ac i'r Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro.

 

 

 

Roedd elfennau yn y llythyr o ymddiheuriad yr oedd, ef fel unigolyn, yn gwbl hapus gyda nhw ac roedd yn ofid ganddo yng nghyswllt y cyfnod hwnnw pryd yr oedd camddealltwriaethau amlwg yn digwydd.  Onid oedd dwy blaid yn medru cyrraedd cytundeb yna, yn anorfod, buasai peth cyfrifoldeb yn gorwedd ar y ddwy ochr.  Roedd yn derbyn hynny a chredai mai y ffordd ymlaen oedd tynnu llinell dan yr holl faterion hynny.  Roedd am ddweud yn glir nad oedd ef erioed wedi cyflwyno cwyn am run Swyddog nac Aelod o'r Awdurdod hwn.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn cynnwys yr adroddiad.

 

 

 

13     AWDURDOD HEDDLU GOGLEDD CYMRU

 

      

 

     Cyflwynwyd er gwybodaeth - adroddiad y Cynghorydd Peter Rogers cynrychiolydd y Cyngor ar Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru, yng nghyswllt cyfarfodydd yr Awdurdod Heddlu rhwng 1 Medi a 30 Tachwedd 2009.

 

      

 

     Yma cydiodd y Cynghorydd H. E. Jones mewn cyfeiriad yn yr adroddiad at y posibilrwyd o godi prasept 3% a gofynnodd am ragor o wybodaeth am y mater a hefyd gofynnodd pa waith ymgynghori gâi ei wneud gyda'r Cyngor hwn?

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd Rogers y buasai'r mater yn cael ei gyflwyno yr wythnos hon i Bwyllgor Sgriwtini Cyllidebol yr Heddlu.  Roedd sôn am bosibiliadau 2%, 3% a 5%.  Ni chredai ef y buasai cynnydd 5% yn dderbyniol yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni a hefyd credai bod 2% yn rhy isel.  Roed yn berffaith fodlon trafod yr opsiynau hyn gyda'r Pwyllgor Gwaith cyn i'r Awdurdod Heddlu bleidleisio'n derfynol ar y mater.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn cynnwys yr adroddiad.

 

      

 

14     AWDURDO TÂN AC ACHUB GOGLEDD CYMRU

 

      

 

     Cyflwynwyd er gwybodaeth - Adroddiad gan y Cynghorydd Aled Morris Jones, un o gynrychiolwyr y Cyngor ar Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, yng nghyswllt cyfarfodydd yr Awdurdod rhwng 1 Medi a 30 Tachwedd 2009.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd H. E. Jones bod cofnod blaenorol a wnaed gan y Cyngor yn nodi y buasai'r Cynghorydd Aled Morris Jones yn cyflwyno adroddiad yn ôl i'r Cyngor hwn ar y sefyllfa ariannol.  Gan nad oedd y wybodaeth hon yn yr adroddiad gofynnodd amdani.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones nad oedd yr Awdurdod Tân wedi cwblhau eu trafodaethau ar y mater ac y buasai'n cyflwyno adroddiad yn ôl i'r Cyngor unwaith y ceid y wybodaeth.  Fodd bynnag, roedd hi'n ymddangos y buasi'r Awdurdod yn gofyn am gynnydd o 2.5% neu lai.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn cynnwys yr adroddiad.

 

      

 

15     YR ARWEINYDD YN DIRPRWYO

 

      

 

     Cyflwynwyd er gwybodaeth - Adroddiad gan y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro yn nodi unrhyw newidiadau i'r Cynllun Dirprwyo yng nghyswllt swyddogaethau'r Pwyllgor Gwaith ac a wnaed gan yr Arweinydd ers y cyfarfod cyffredin diwethaf (Rheol 4.4.1.4 Rheolau Gweithdrefn Gweithredol y Cyfansoddiad).

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn cynnwys yr adroddiad.

 

      

 

     Ymddiheurodd y Cadeirydd i'r Cynghorydd Chorlton am na chafodd gyfle i siarad ynghynt fel Aelod Lleol pan gyfeiriwyd at farwolaeth Leon Jamie Jones. Ymddiheurodd am y camgymeriad.

 

 

 

      

 

     Daeth y cyfarfod i ben am 4:12pm

 

      

 

     Y CYNGHORYDD O. GLYN JONES

 

     CADEIRYDD