Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 11 Awst 2006

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Gwener, 11eg Awst, 2006

Cyfarfod Arbennig o Gyngor Sir Ynys Môn

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar   11 Awst 2006 (1.00pm)  

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd J. Rowlands (Cadeirydd)

Y Cynghorydd W. J. Williams MBE (Is-Gadeirydd)

 

Y Cynghorwyr Mrs Bessie Burns, MBE, J. Byast, W. J. Chorlton, E. G. Davies, J. M. Davies, P.J. Dunning, J. A. Edwards, K. Evans, C. L. Everett, P. M. Fowlie, D. R. Hadley, D. R. Hughes, R. Ll. Hughes, W. I. Hughes, A. M. Jones, G. O. Jones, H. E. Jones, J. A. Jones, O. G. Jones, R. Ll. Jones, T. H. Jones, D. A. Lewis-Roberts, Bryan Owen, R. L. Owen, G. O. Parry MBE, R. G. Parry OBE, G. Allan Robets, G. Winston Roberts OBE, John Roberts, J. Arwel Roberts, W. T. Roberts, P. S. Rogers, E. Schofield, H. N. Thomas, H. W. Thomas, K. Thomas.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro

Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol

Swyddog Pwyllgor (MEH)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr Ff. M. Hughes, John Williams.

 

 

Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd Mrs B Burns MBE

 

 

1

DATGAN DIDDORDEB

 

Ar ôl derbyn cyngor Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro dywedodd y Cynghorwyr Mrs B Burns MBE, Keith Evans, C. Ll. Everett, D. Hadley, J. A. Jones, G. W. Roberts OBE, Keith Thomas na fuasent yn chwarae rhan yn eitem 4 am nad oeddent yn y cyfarfod o'r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 21 Gorffennaf 2006 pryd y cyfwelwyd yr ymgeiswyr am swydd y Rheolwr-gyfarwyddwr, ac o'r herwydd nid oedd modd iddynt fod yn wrthrychol wrth ddewis yr ymgeisydd nesaf i'r swydd.

 

Rhoddwyd cyngor cyfreithiol i'r Cynghorwyr W. J. Chorlton, J. Meirion Davies, C. Ll. Everett, J. Arthur Jones, J. O. Parry MBE, G. Allan Roberts, E. Schofield a H. Noel Thomas y buasai iddynt chwarae rhan yn y materion perthnasol yn peri pryder ynghylch eu gwrthrychedd ac nid oeddent yn y cyfarfod am y drafodaeth nac i bwrpas pleidleisio ar y materion hynny dan eitem 6 y cofnodion hyn.

 

Hefyd gwnaeth Mr. J. Gould, Rheolwr y Gwasanaethau Pwyllgor, ddatganiad o ddiddordeb yn eitem 6 y cofnodion hynny ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth na'r pleidleisio arnynt.

 

2

DERBYN UNRHYW GYHOEDDIADAU GAN Y CADEIRYDD, YR ARWEINYDD, AELODAU'R PWYLLGOR GWAITH NEU BENNAETH Y GWASANAETH TÂL

 

Dim i'w gyflwyno.

 

3

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

 

"Dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Paragraff 1, Rhan 1, Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni. "

 

 

 

 

4

PENODI RHEOLWR-GYFARWYDDWR

 

 

 

Ystyriwyd - Y swydd wag i'r Rheolwr-gyfarwyddwr.

 

 

 

Dywedwyd - bod Mr. Wyn Thomas wedi penderfynu peidio â derbyn swydd y Rheolwr-gyfarwyddwr, sef swydd a gynigiodd y Cyngor Sir iddo yn dilyn cyfweliad ar 21 Gorffennaf 2006.

 

 

 

Yn amodol ar dderbyn cadarnhad ysgrifenedig PENDERFYNWYD penodi ymgeisydd 'X' i'r swydd uchod os ydyw'n feddygol iach a'i chynnig yn unol â'r telerau a'r amodau penodi y cytunodd y Cyngor Sir arnynt yn ei gyfarfod ar 4 Mawrth 2006 a chytuno rywbryd eto ar y dyddiad cychwyn.

 

 

 

5

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

 

 

 

"Dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Paragraffau 7,11 a 12, Rhan 1, Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni. "

 

 

 

6

YSTYRIED DATGANIAD RHESYMAU YR ARCHWILIWR A GYHOEDDWYD AR 26 MAI 2006

 

 

 

Cyflwynwyd - Llythyr oddi wrth Swyddfa Archwilio Cymru dyddiedig 22 Mai 2006 yng nghyswllt gwrthwynebiad a dderbyniwyd i gyfrifon Cyngor Sir Ynys Môn am y flwyddyn 2000/2001.

 

 

 

Ar ôl ailystyried rhan o wrthwynebiad i gyfrifon y Cyngor am 2000/2001 roedd yr Archwiliwr penodedig wedi penderfynu peidio â derbyn y gwrthwynebiad dan sylw a hynny am y rhesymau a nodwyd yn ei adroddiad ac a gyflwynwyd i'r Cyngor heddiw.

 

 

 

PENDERFYWNYD gohirio ystyried y mater hwn tan y cyfarfod hwnnw o'r Cyngor Sir a geir ym mis Medi.

 

 

 

 

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 1.25 p.m.

 

 

 

 

 

Y CYNGHORYDD JOHN ROWLANDS

 

CADEIRYDD