Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 11 Rhagfyr 2003

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Iau, 11eg Rhagfyr, 2003

Cyngor Sir Ynys Môn

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr 2003

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Mrs. B. Burns (Cadeirydd)

 

Y Cynghorydd J. Arwel Roberts (Is-Gadeirydd)

 

Y Cynghorwyr W.J. Chorlton, E.G. Davies, J.A. Edwards, D.D. Evans, Keith Evans, C.Ll. Everett, P.M. Fowlie, Fflur M. Hughes,

D.R. Hughes, Dr. J.B. Hughes, R.Ll. Hughes, T.Ll. Hughes,

W.I. Hughes, G.O. Jones, H.E. Jones, O. Glyn Jones, R.Ll. Jones,

W.E. Jones, Rhian Medi, R.L. Owen, G.O. Parry MBE,

R.G. Parry OBE, G.W. Roberts OBE, Gwyn Roberts, J.A. Roberts,

John Roberts, W.T. Roberts, E. Schofield, John Williams,

W.J. Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Rheolwr-gyfarwyddwr

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a'r Amgylchedd)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden)

Cyfarwyddwraig Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro

Pennaeth Gwasanaeth (Adfywio Economaidd)

Pennaeth Gwasanaeth (Polisi)

Swyddog Pwyllgor (JMA)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr J. Byast, J.M. Davies, O. Gwyn Jones, G. Allan Roberts, H.W. Thomas, Keith Thomas, J. Rowlands, G. Alun Williams.

 

 

Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd John Williams.

 

Agorodd y Cadeirydd y cyfarfod trwy wahodd yr Aelodau i dalu teyrnged i'r diweddar Gynghorydd Richard Jones OBE.  Siaradodd y Cynghorydd John Roberts (ar ran Grwp Annibynnol) am gariad y diweddar Gynghorydd Jones tuag at ei bentref genedigol Llanfachraeth.  Roedd yn falch iawn o fod wedi cael ei ddwyn i fyny yn y Ty Capel, Llanfachraeth ac yn ei hunangofiant mae'n cyfeirio ato'i hun fel Dic Ty Capel.  Daeth ei bentref mabwysiedig Llanfechell hefyd i fod yr un mor bwysig iddo gyda'r tair prif flaenoriaeth yn ei fywyd sef ei deulu, y Capel a'i werthoedd a thegwch i bawb.  Treuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd ym myd addysg, gan ddysgu mewn nifer o ysgolion ar yr ynys.

 

Roedd yn arloesol yn ei agwedd at ddysgu gan gredu y dylai pobl ifanc gael y cyfle i gymryd rhan a chyfranogi yn ystod gwersi.  Roedd yn fardd o fri, wedi ennill y Gadair yn Eisteddfod Môn ac yn aml byddai'n llunio limrig neu greu englyn mewn munudau ar adegau priodol ar gyfer rhywun arbennig neu sefyllfa.  Roedd y gynulleidfa gref ddaeth i'w angladd yn dystiolaeth o'r parch mawr tuag ato nid yn unig yn lleol ond trwy Gymru gyfan.

 

Ategodd Arweinydd y Cyngor eiriau y Cynghorydd Roberts a chyfeiriodd at y ffaith iddo adnabod y diweddar Gynghorydd Jones ers sawl blwydd drwy ei ymwneud â'r Capel a'r Ysgol Sul.

 

Adroddodd y Cynghorydd Fflur M. Hughes (ar ran Grwp Plaid Cymru) y gerdd "If" gan Rudyard Kipling ddarllenwyd yn angladd y Cynghorydd Jones.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd G.O. Parry OBE at gyfraniad arbennig y Cynghorydd Jones tra oedd yn Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol.  Cyfeiriodd hefyd at y golled at ôl ffrind dewr.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd, wrth grynhoi ar ran y Cyngor Sir, at swydd y Cynghorydd Jones tros gyfnod o ddeng mlynedd fel Aelod o'r awdurdod hwn ac i'w gyfraniad amhrisiadwy fel Cynghorydd ac fel athro.  Estynnodd y Cadeirydd ei chydymdeimlad llwyraf â'i deulu, ei weddw a'i blant ac i'w deulu yn Llanfachraeth a Llangefni.  Wrth gloi, a chyn gofyn i bawb oedd yn bresennol sefyll fel arwydd o'u parch i'r diweddar Gynghorydd Richard Jones a'i deulu, adroddodd englyn welwyd ar raglen gwasanaeth angladd y Cynghorydd Jones ac a oedd yn ddarlun perffaith ohono:

 

Dic Ty Capel

Yn driw i Grist a'r awen

Gwreiddiau a llwybrau llên

A'i ing oedd pawb mewn angen.

R.J.

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Cafwyd datganiadau o ddiddordeb gan yr aelodau canlynol:

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Bob Parry OBE ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth partner ei fab yn yr Awdurdod Addysg Lleol.  Yn ogystal, gwnaeth ddatganiad o ddiddordeb yng nghyswllt Eitem 4.24.6 Cofnodion y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd 2003 mewn perthynas ag Ysgol Thomas Ellis, Caergybi.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd C.Ll. Everett ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei chwaer o fewn Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol ac mewn perthynas â'i swyddogaeth fel Clarc Cyngor Tref Caergybi.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd G.O. Parry MBE ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth  ei ferch yn yr Adran Gyllid.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd G.W. Roberts OBE ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Gynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd E. Schofield ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn Oriel Môn, a chyflogaeth ei wyr yn yr Adran Briffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo ac ar gyfer Eitem 4.1 ar yr Agenda - Pwyllgor Safonau.  Gadawodd y Cynghorydd Schofield y siambr yn ystod cyflwyno'r cofnodion hyn ac ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth ynddynt.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd J. Arwel Roberts ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei wraig yn Nholldy Penrhos, Caergybi.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd O. Glyn Jones ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei wraig yn yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd John Chorlton ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Gwasanaethau Amgylcheddol.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Rhian Medi ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag eitem 4.1 ar y Rhaglen - Pwyllgor Safonau.  Gadawodd y Cynghorydd Medi y siambr yn ystod cyflwyno'r cofnodion ac ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag eitem 8(3) ar y Rhaglen - Rhybudd o Gynigiad ynglyn â gwasanaeth y tu allan i oriau yn Ysbyty Penrhos Stanley, Caergybi.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd W.J. Williams ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem yn ymwneud â Menter Môn.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Robert Lloyd Hughes ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y Rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei fab yn yr Adran Briffyrdd.

 

 

 

Datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd Keith Evans mewn perthynas ag Eitem 9 - Sylfaen Treth Gyngor.  Gadawodd y Cynghorydd Evans y Siambr yn ystod trafod yr eitem.

 

 

 

Datganiad o didddordeb gan y Swyddog Pwyllgor mewn perthynas ag unrhyw eitem i'w drafod yn ymwneud â Heddlu Gogledd Cymru.

 

 

 

2

DERBYN UNRHYW GYHOEDDIADAU GAN Y CADEIRYDD, YR ARWEINYDD, AELODAU'R PWYLLGOR GWAITH NEU BENNAETH Y GWASANAETH TÂL

 

 

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso cynnes i dri chynrychiolydd "Llais Ni" i'r cyfarfod.

 

 

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso i John Gould, Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgor wedi iddo ddychwelyd yn ôl i'w waith yn dilyn llawdriniaeth.

 

 

 

Estynnodd y Cadeirydd ei dymuniadau gorau a'i llongyfarchiadau i'r canlynol:

 

 

 

Y Cynghorydd John Chorlton ar ddod yn daid am yr ail waith, wedi i'w ferch Nicola roi genedigaeth i ferch fach, Connie.

 

 

 

Y Cynghorydd Robert Llewelyn Jones ar ddod yn daid unwaith yn rhagor, ei ferch wedi rhoddi genedigaeth i fab, Harry.

 

 

 

Yr Adain Gyfathrebu ar eu gwaith yn cyhoeddi'r Papur Cymunedol ar y thema "Gofalu am ein Cymunedau" a ddosbarthwyd i Aelodau ar ddiwedd y cyfarfod.

 

 

 

Staff a disgyblion Ysgol Gynradd Cemaes, oedd wedi ennill, am y drydedd flwyddyn yn olynol, Gystadleuaeth Wyddoniaeth gynhaliwyd trwy Brydain Fawr - "Cwpan Ward mewn Gwyddoniaeth".  Roeddynt wedi derbyn clod uchel gan yr Athro David Bellamy (y thema eleni oedd astudiaeth o falwod).

 

Mr. Frank Heneghan a staff Hyfforddiant Môn; pump o lanciau ifanc ar Gynllun Prentisiaeth Môn fu'n llwyddiannus mewn "Cystadleuaeth Ffederasiwn Cyflogwyr Peirianyddol - Ardal Gogledd Cymru".  Cynhaliwyd y Seremoni Wobrwyo yn y Grand Hotel, Llandudno ar 30 Hydref 2003.  Diolchwyd hefyd i Alwminiwm Môn a BNFL Magnox sy'n rhoddi hyfforddiant yn seiliedig ar waith y dynion ifanc.  

 

 

 

Estynnodd y Cadeirydd hefyd gydymdeimlad diffuant ag unrhyw Aelod neu Swyddog oedd wedi cael profedigaeth ers cyfarfod diwethaf y Cyngor Sir.

 

 

 

3

COFNODION

 

 

 

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod o'r Cyngor Sir gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-

 

 

 

3.1

23 Medi 2003 - Cyfrol y Cyngor 11/12/03 - Tudalennau 1 - 15;

 

 

 

3.2

21 Hydref 2003 (Cyfarfod Arbennig) Cyfrol y Cyngor 11/12/03 - Tudalennau 16-20

 

 

 

Gwelliant - Datganiad o Ddiddordeb yn ymwneud ag Eitem 3 ar y Rhaglen.

 

Rhoi i mewn "Gwasanaeth yn y Gorffennol" yn lle "Cydbwysedd Gwleidyddol" fel a geir yn y cofnodion.

 

 

 

4

COFNODION PWYLLGORAU

 

 

 

Cyflwynwyd er gwybodaeth, ac i fabwysiadu'r argymhellion lle bo raid, gofnodion cyfarfodydd y Pwyllgorau isod a gynhaliwyd ar y dyddiau a nodir.

 

 

 

 

 

 

 

4.1

PWYLLGOR SAFONAU gynhaliwyd ar 19 Awst                    Tudalennau 21 - 23

 

 

 

Materion yn Codi

 

 

 

Gan sylwi ar faterion cyfreithiol yn ymwneud â'r mater drafodwyd yng nghyfarfod 19 Awst, 2003, penderfynodd yr Aelodau nodi cofnodion y cyfarfod.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd John Chorlton a oedd Aelodau Lleyg y Pwyllgor Safonau yn rhwym wrth yr un rheolau parthed Datganiad o Ddiddordeb ag yr oedd Aelodau y Cyngor Sir.  Cadarnhaodd y Swyddog Monitro fod Aelodau Lleyg yn rhwym wrth yr un Cod Ymarfer.

 

 

 

4.2

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION gynhaliwyd ar 3 Medi 2003 Tudalennau 24 - 34

 

 

 

4.3

PWYLLGOR ARCHWILIO gynhaliwyd ar 9 Medi 2003               Tudalennau 35 - 37

 

 

 

Materion yn Codi

 

 

 

Tynnwyd sylw gan y Cynghorydd Schofield na chaiff Aelodau Portffolio eu hysbysu pan fo ymchwiliad i wasanaeth yn digwydd ac roedd o'r farn y dylai'r person â chyfrifoldeb am y gwasanaeth gael ei hysbysu o unrhyw ymchwiliad.  Cadarnhaodd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio y byddai'n trafod hyn gyda'r Aelod Portffolio a Swyddogion perthnasol er mwyn cywiro'r sefyllfa.

 

 

 

4.4

PWYLLGOR SGRIWTINI AMGYLCHEDD A CHLUDIANT a gynhaliwyd ar 16 Medi 2003

 

Tudalennau 38 - 42

 

 

 

4.5

PWYLLGOR SGRIWTINI ADNODDAU'R CYNGOR gynhaliwyd ar 18 Medi 2003

 

Tudalennau 43 - 46

 

 

 

4.6

PWYLLGOR SGRIWTINI DATBLYGU ECONOMAIDD gynhaliwyd ar 22 Medi 2003

 

Tudalennau 47 - 51

 

Materion yn Codi

 

 

 

Tudalen 48 - Symud Swyddi'r Cynulliad i Ogledd Cymru

 

 

 

Mynegodd y Cynghorydd H. Eifion Jones bryder nad oedd y Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu sefydlu swyddfa ranbarthol yn Ynys Môn.  Mynegodd Arweinydd y Cyngor ei bryder nad oedd adeiladau ar gyfer swyddfeydd priodol ar yr Ynys a sicrhaodd yr Aelodau y byddai yn rhoddi sylw i'r pwynt fel mater o flaenoriaeth.

 

 

 

Tudalen 50 - Marina Biwmares

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd R.Ll. Hughes yn ymwneud â'r sefyllfa gyfredol parthed Trwyddedau ar gyfer Marina Biwmares, cadarnhaodd y Rheolwr-gyfarwyddwr nad oedd yr oediad i'w briodoli i unrhyw ddiffyg ar ran y Cyngor Sir ond yn hytrach oherwydd y ffaith nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol hyd yma wedi derbyn ymateb oddi wrth DEVRA ac felly nid oedd y Gweinidog Materion Gwledig mewn sefyllfa i wneud penderfyniad.

 

 

 

4.7

PWYLLGOR SGRIWTINI DYSGU GYDOL OES A DIWYLLIANT

 

gynhaliwyd ar 25 Medi 2003                         Tudalennau 52 - 63

 

 

 

4.8

PWYLLGOR SGRIWTINI CYNHWYSIAD CYMDEITHASOL ARBENNIG

 

gynhaliwyd ar 30 Medi 2003                         Tudalennau 64 - 65

 

 

 

 

 

4.8

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

gynhaliwyd ar 1 Hydref 2003                         Tudalennau 66 - 74

 

 

 

Gwelliant

 

Ni ddangoswyd fod y Cynghorydd John Roberts yn bresennol yn y cyfarfod yn y fersiwn Gymraeg o'r cofnodion; roedd angen cywiro hyn.

 

      

 

4.10

PWYLLGOR SGRIWTINI CYMUNEDAU IACH A DIOGEL

 

     gynhaliwyd ar 7 Hydref 2003                         Tudalennau 75 - 82

 

      

 

4.11

CYDBWYLLGOR YMGYNGHOROL LLEOL

 

     gynhaliwyd ar 17 Hydref 2003                         Tudalennau 83 - 84

 

      

 

4.12

PWYLLGOR SGRIWTINI CYNHWYSIAD CYMDEITHASOL

 

     gynhaliwyd ar 28 Hydref 2003                         Tudalennau 85 - 88

 

      

 

4.13

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

     gynhaliwyd ar 5 Tachwedd 2003                    Tudalennau 89 - 98

 

      

 

4.14

PWYLLGOR SGRIWTINI AMGYLCHEDD A CHLUDIANT

 

     gynhaliwyd ar 11 Tachwedd 2003 (a.m.)               Tudalennau 99 - 102

 

      

 

4.15

PWYLLGOR SGRIWTINI AMGYLCHEDD A CHLUDIANT

 

     gynhaliwyd ar 11 Tachwedd 2003 (p.m.)               Tudalennau 103 - 105

 

      

 

4.16

PWYLLGOR SGRIWTINI ADNODDAU'R CYNGOR

 

     gynhaliwyd 13 Tachwedd 2003                         Tudalennau 106 - 109

 

      

 

4.17

PWYLLGOR ARCHWILIO gynhaliwyd ar 20 Tachwedd 2003     Tudalennau 110 - 114

 

      

 

4.18

PWYLLGOR SGRIWTINI CYNHWYSIAD CYMDEITHASOL

 

     gynhaliwyd ar 25 Tachwedd 2003                    Tudalennau 115 - 118

 

      

 

4.19

PWYLLGOR SGRIWTINI DATBLYGU ECONOMAIDD

 

     gynhaliwyd 26 Tachwedd 2003                         Tudalennau 119 - 225

 

      

 

     Materion yn Codi / Gwelliant

 

      

 

     Tudalen 120 Penderfyniad 4.1 - ar ôl y geiriau "Uned Datblygu Economaidd", i gynnwys y canlynol: i adlewyrchu fod y Pwyllgor Sgriwtini wedi penderfynu yn unfrydol i geisio ychwanegiad o 2% yn y gyllideb.

 

      

 

     Cadarnhaodd yr Arweinydd y byddai mater y gyllideb yn cael ei gynnwys fel rhan o drafodaethau'r  gyllideb ar Agenda cyfarfod o'r Pwyllgor Gwaith sydd i'w gynnal ar 5 Ionawr 2004.  

 

      

 

4.20

PWYLLGOR SAFONAU gynhaliwyd ar 26 Tachwedd 2003        Tudalennau 126 - 130

 

      

 

     Nodwyd cofnodion y Pywllgor Safonau gynhaliwyd ar 26 Tachwedd 2003.

 

      

 

4.21

PWYLLGOR SGRWITINI DYSGU GYDOL OES A DIWYLLIANT

 

     gynhaliwyd ar 27 Tachwedd 2003                       Tudalennau 131 - 139

 

      

 

4.22

CYSAG gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2003               Tudalennau 140 - 146

 

      

 

4.23

PWYLLGOR SGRIWTINI ADNODDAU'R CYNGOR

 

     gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2003                         Tudalen 147

 

      

 

4.24.1

PWYLLGOR GWAITH gynhaliwyd ar:

 

      

 

4.24.1

15 Medi 2003                              Tudalennau 148 - 158

 

      

 

4.24.2

29 Medi 2003                              Tudalennau 159 - 171

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Gwelliant - Tudalen 159

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes yn bresennol mewn perthynas ag Eitem 12 ar yr Agenda ac nid Eitem 13; roedd angen newid hwn.

 

      

 

     Materion yn Codi

 

      

 

     Tudalen 160 - Gwasanaethau Plant

 

      

 

     Adroddod y Cynghorydd Gwilym O. Jones i'r Archwiliwr Tros Gymru roddi Ynys Môn fel yr arweinydd ym maes Gwasanaethau Plant trwy Gymru gyfan yn ei Adroddiad Blynyddol.  Estynnwyd llongyfarchiadau i'r Cyfarwyddwr Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol a'i Staff am eu gwaith ardderchog.

 

      

 

4.24.3

14 Hydref 2003                              Tudalennau 172 - 174

 

      

 

4.24.4

27 Hydref 2003                              Tudalennau 175 - 189

 

      

 

     Materion yn codi

 

      

 

     Tudalen 176 - Cartrefi Preswyl yn y Sector Gyhoeddus

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd H.E. Jones sawl gwaith yr oedd y Panel a sefydlwyd i edrych ar y mater hwn wedi cyfarfod.  Adroddodd yr Aelod Portffolio, y Cynghorydd Rhian Medi bod y Panel wedi cyfarfod ddwy waith.  Roedd swyddogion yn ymgymryd â rhai tasgau ac roedd trefniadau yn cael eu gwneud i gyfarfod â chyrff allanol.

 

      

 

     Tudalen 177 - Oriau Gwaith Hyblyg

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd H.E. Jones sawl gwaith y cyfarfu'r Panel sefydlwyd i ystyried y system oriau hyblyg.  Adroddodd y Deilydd Portffolio, y Cynghorydd Schofield nad oedd yn bresennol yn y cyfarfod pan drafodwyd y mater.  Adroddodd y Cynghorydd Chorlton iddo dderbyn cyfrifoldeb am yr eitem ar y diwrnod ac y byddai yn dilyn y mater i sicrhau bod y Panel yn gwneud y gwaith.

 

      

 

     Tudalen 181 - Y Drefn ar gyfer Llenwi Swyddi Gweigion

 

      

 

     Mynegwyd pryder gan y Cynghorydd H.E. Jones nad oedd adroddiad y cyfeiriwyd ato yn y penderfyniad yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor.  Roedd yr adroddiad i'w gyflwyno i'r Cyngor llawn fel y gellid rhoi sylw i newid y Cyfansoddiad fel y gallai'r Pwyllgor Apwyntiadau (neu bwyllgor gyda chydbwysedd gwleidyddol i'w sefydlu) gael pwerau wedi'u dirprwyo i benderfynu a ddylid llenwi swyddi ai peidio mewn achosion lle na all y swyddogion perthnasol a'r Aelod/au Portffolio ddod i gonsensws barn ar ôl i bob ystyriaeth arall gael ei thrafod.

 

      

 

     Cytunodd yr Aelodau i gefnogi'r cynnig mewn egwyddor.  Sicrhaodd Arweinydd y Cyngor yr Aelodau y byddai yn sicrhau y câi adroddiad llawn ar y mater ei roi gerbron cyfarfod nesaf y Cyngor Sir.

 

      

 

     Tudalen 182 - Eitem 11 - Ceisiadau Cynllunio wedi'u Hôlddyddio

 

      

 

     Cytunodd yr Aelodau bod y Cyngor Sir yn gwneud datganiad swyddogol i'r Wasg yn mynegi anfodlonrwydd y Cyngor yn y gwendidau yn y system orfodaeth gyfredol.  

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Eitem 186 - Eitem 18 - Plas Mona

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd H.E. Jones, adroddodd yr Aelod Portffolio, y Cynghorydd Rhian Medi bod y Panel wedi cyfarfod ac y byddai yn adrodd yn ôl i'r Pwyllgor Gwaith yn y flwyddyn newydd.

 

      

 

4.24.5

4 Tachwedd 2003                         Tudalennau 190 - 197

 

      

 

     Materion yn Codi - Rhagolygon Cyllideb 2004/05

 

      

 

     Mynegwyd pryder ynglyn â'r codiadau arfaethedig yn y trethi gan Heddlu Gogledd Cymru.  Adroddodd Arweinydd y Cyngor y byddai'r Cynghorydd H.E. Jones, cynrychiolydd y Cyngor ar Awdurdod yr Heddlu a'r Prif Gwnstabl yn cael gwahoddiad i fynychu cyfarfod o'r Pwyllgor Gwaith yn Ionawr 2004.

 

      

 

4.24.6

  24 Tachwedd 2003                         Tudalennau 198 - 211

 

      

 

     Yn codi

 

      

 

4.24.6.1

  Panel Rhiant Corfforaethol (tudalen 203)

 

      

 

     Penderfynwyd:

 

      

 

     Y dylid ychwanegu'r geiriau a ganlyn at y Cyfansoddiad ar ôl paragraff 3.1 ar dudalen 40:-

 

      

 

     "Ynghyd â'r cyrff uchod sy'n ymwneud â'r broses gwneud penderfyniadau a sgriwtineiddio penderfyniadau, gall y Cyngor, o bryd i'w gilydd, sefydlu gweithgorau a fedr gynnwys aelodaeth a swyddogion ac ymgynghorwyr allanol.  Bydd gweithgorau o'r fath yn amrywio o safbwynt eu meysydd gwaith a'r cyfnod amser y byddant mewn bodolaeth ond ni fydd gan yr un ohonynt y grym i wneud penderfyniad a byddant yn gweithio mewn rôl ymgynghorol yn unig.  Gweithgor o bwys penodol a fydd yn un parhaol fydd y Panel Rhiant Corfforaethol, a bydd gan y Panel hwnnw y swyddogaethau a'r cyfrifoldebau fel y cytuna'r Pwyllgor Gwaith arnynt o bryd i'w gilydd."    

 

      

 

4.24.6.2

  Rheolau Gweithdrefn Materion Cynllunio (tudalen 205)

 

      

 

     Penderfynwyd: "cymeradwyo argymhellion y Gweithgor a'r newidiadau arfaethedig i'r Rheolau Gweithdrefn yng nghyswllt Materion Cynllunio."

 

      

 

     Materion yn Codi

 

      

 

     Gwelliant - I gynnwys Datganiad o Ddiddordeb gan Bennaeth Gwasanaeth (Polisi) nas cofnodwyd yn y Cofnodion.

 

      

 

     Tudalen 210 - Diogelwch - Ysgol Thomas Ellis Caergybi

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes am i'r penderfyniad gael ei gyfeirio'n ôl i'r Pwyllgor Gwaith i'w ystyried ymhellach ac am wahoddiad i fynychu.  Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden ar gefndir y mater hwn ac ar y sefyllfa bresennol.  Cytunwyd ar i'r mater gael ei gyfeirio'n ôl i'r Pwyllgor Gwaith ei drafod ymhellach ac i'r Cynghorydd T.Ll. Hughes gael ei wahodd i fod yn bresennol.

 

      

 

     Tudalen 211 - Strwythur Staffio - Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

      

 

     Y dylai'r fersiwn Gymraeg o'r penderfyniad gael ei newid i ddarllen "Dileu swydd Swyddog Datblygu (36-39) a dileu ail swydd Prif Swyddog Datblygu (41-44).

 

      

 

      

 

      

 

      

 

5     DIRPRWYAETHAU WNAETHPWYD GAN YR ARWEINYDD

 

      

 

     Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr-gyfarwyddwr yn nodi'r newidiadau ynglyn â'r swyddogaethau gweithredol wnaethpwyd gan yr Arweinydd a'r Pwyllgor Gwaith ers y cyfarfod cyffredinol diwethaf (Rheol 4.4.1.4 o'r Rheolau Gweithdrefn - tudalen 131 o'r Cyfansoddiad).

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi'r cynnwys.

 

      

 

6     CWESTIYNAU A DDERBYNIWYD YN UNOL Â RHEOL 4.1.12.4

 

      

 

     Dim cwestiynau wedi'u derbyn.

 

      

 

7     CYFLWYNO DEISEB

 

      

 

     Cyflwynodd y Cynghorydd C.Ll. Everett ddeiseb ynglyn â gosod rampiau cyflymdra yn Stryd Cambria, Caergybi.  Roedd problem cerbydau'n gor yrru wedi gwaethygu yn dilyn gosod rampiau yn Lôn Garreglwyd  a Lôn Maeshyfryd trwy fod trafnidiaeth o ardal Llain-goch yn defnyddio Stryd Cambria er mwyn osgoi'r rampiau.

 

      

 

     Derbyniodd y Cadeirydd y ddeiseb gan y Cynghorydd Everett gan ei sicrhau y byddai'r ddeiseb yn cael ei chyflwyno i'r adran briodol i'w hystyried.  Ymhellach, pan gyfeirir y mater i'r Pwyllgor Gwaith, cytunwyd y dylai'r Cynghorydd Everett gael gwahoddiad i fod yn bresennol.  

 

      

 

8     RHYBUDD O GYNIGIAD

 

      

 

     Cyflwynwyd - y Rhybudd o Gynigiad canlynol o dan Baragraff 4.1.13 o Reolau Gweithdrefn y Cyngor gan y Cynghorydd C.L. Everett:

 

      

 

     1.  Bod y Cyngor Sir yn penodi dirprwyaeth i gael cyfarfod brys gyda'r Gweinidog Iechyd  yn y Cynulliad Cenedlaethol i drafod goblygiadau penderfyniad y Meddygon Teulu yng Nghaergybi i beidio darparu gwasanaeth allan o oriau mwyach i gleifion yn Ysbyty Penrhos Stanley, Caergybi.

 

      

 

     2.  Bod y Cyngor Sir yn gofyn i'r Bwrdd Iechyd Lleol ddod i gyfarfod arbennig o'r Cyngor Sir i drafod ei gynlluniau i gau'r uned mân anafiadauyn Ysbyty Penrhos Stanley.

 

      

 

     3.  Bod y Cyngor Sir yn gofyn am gyfarfod gyda Phrif Swyddog Ambiwlans Cymru i drafod unrhyw gynlluniau os o gwbl sydd gan y Gwasanaeth Ambiwlans i ddarparu gwasanaeth wrth gefn ychwanegol ar gyfer Caergybi.

 

      

 

     Mynegodd y Cynghorydd Everett ei siom a'i bryder mawr fod y penderfyniad i beidio darparu gwasanaethau tu allan i oriau yn Ysbyty Penrhos, Caergybi wedi'i wneud heb fath o ymgynghori gyda'r Bwrdd Iechyd Lleol ac roedd yn teimlo bod hwn yn fater ddylai gael ei gyfeirio i Ombwdsmon y Gwasanaeth Iechyd.  Pwysleisiodd bod y penderfyniad yn effeithio nid yn unig Caergybi ond y cwbl o Ogledd yr Ynys gan gynnwys pedair ardal Cymunedau'n Gyntaf ble nad oes gan ganran uchel o drigolion unrhyw fath o drafnidiaeth i drafaelio i Fangor i dderbyn triniaeth feddygol.  Roedd rhai aelodau o'r farn i'r Bwrdd Iechyd Lleol gamarwain y Cyngor Sir a galwyd ar i Gadeirydd y Bwrdd ystyried ei sefyllfa.  

 

      

 

     Cytunodd yr Aelod Portffolio, y Cynghorydd Rhian Medi gyda safbwynt y Cynghorydd Everett a galwodd am Bwyllgor brys gyda Jane Hutt yn y Cynulliad Cymreig.

 

      

 

     Pwysleisiodd y Cynghorydd John Chorlton hefyd bwysigrwydd gwrthwynebu'r penderfyniad ac anogodd gynrychiolwyr y Cyngor ar y Bwrdd Iechyd Lleol i ystyried eu sefyllfa.  Ymhellach, nododd y Cynghorydd Chorlton y dylai'r penderfyniad i dynnu yn ôl y gwasanaeth gael ei wyrdroi nes y cwblheir ymgynghori manwl.  

 

      

 

     Darparodd y Cynghorydd Gwilym O. Jones wybodaeth gefndirol o gyfarfodydd y Bwrdd Iechyd ond roedd yn cefnogi safbwynt yr Aelodau ac yn galw am gyfarfod brys yn y Cynulliad Cymreig.

 

      

 

     Mynegodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes ei bryder am y pwysau a roddai'r penderfyniad ar wasanaeth sydd eisoes o dan bwysau, sef y Gwasanaeth Ambiwlans.

 

      

 

     PENDERFYNWYD yn unfrydol i gefnogi y Rhybudd o Gynigiad ac y dylai'r Rheolwr-gyfarwyddwr ysgrifennu at Lywodraeth Cynulliad Cymru yn gofyn am gyfarfod brys rhwng dirprwyaeth o'r Cyngor Sir a Jane Hutt, Gweinidog Materion Iechyd.

 

      

 

9     MABWYSIADU SYLFAEN TRETH CYNGOR

 

      

 

     Cyflwynwyd er ystyriaeth - adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid yn argymell sylfaen Treth Cyngor i'w phenderfynu am 2004-2005.  Gwnaed cyfrifon yn barod yn ôl canllawiau fydd yn seiliedig ar y nifer o dai mewn bandiau amrywiol ar y rhestr brisio ar 31 Hydref gan nodi gostyngiadau a rhai wedi'u heithrio.

 

      

 

     PENDERFYNWYD:

 

      

 

     1)  cadarnhau, i bwrpas mabwysiadu sylfaen treth gyngor, y gostyngiad a roddir i anheddau yn nosbarthiadau penodol A a B am 2004/2005 yw DIM;

 

      

 

     2) fod gwaith clandro'r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) ar bennu Sylfaen Treth Gyngor ar gyfer y cyfan a rhannau o'r ardal am y flwyddyn 2004/2005 yn cael ei gymeradwyo;

 

      

 

     3)  yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Clandro Sylfaen y Dreth) Gyngor 1995 (Cymru)(Rhif 2561)(a ddiwygiwyd) y rhain yw'r cyfansymiau y mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi'u clandro fel sail y Dreth am 2004/2005 sef 27,887.14 ac am y rhannau hynny o'r ardal sydd wedi'u rhestru isod:-

 

      

 

      

 

Amlwch

1,314.18

 

Llaneilian

503.39

Biwmares

968.81

 

Llannerch-y-medd

440.71

Caergybi

3,531.28

 

Llaneugrad

166.97

Llangefni

1,768.60

 

Llanfair Mathafarn Eithaf

1,627.11

Porthaethwy

1,295.03

 

Cylch y Garn

327.76

Llanddaniel-fab

274.05

 

Mechell

515.29

 

Llanddona

278.59

 

Rhos-y-bol

395.16

Cwm Cadnant

1,028.45

 

Aberffraw

250.33

Llanfair Pwllgwyngyll

1,161.89

 

Bodedern

340.62

Llanfihangel Esgeifiog

533.87

 

Bodffordd

353.89

Bodorgan

358.21

 

Trearddur

1,101.42

Llangoed

540.03

 

Tref Alaw

216.13

Llangristiolus & Cerrigceinwen

485.61

 

Llanfachraeth

200.72

Llanidan

348.31

 

Llanfaelog

976.53

Rhosyr

863.77

 

Llanfaethlu

233.37

Penmynydd

159.43

 

Llanfair-yn-neubwll

526.62

Pentraeth

453.98

 

Fali

901.85

Moelfre

552.97

 

Bryngwran

303.84

Llanbadrig

560.00

 

Rhoscolyn

319.60

Llanddyfnan

400.19

 

Trewalchmai

308.58

 

      

 

10     CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL

 

      

 

     ASESIAD O GYMERIAD ARDAL CADWRAETH

 

      

 

     Cyflwynwyd - adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio yn gofyn i'r Cyngor Sir fabwysiadu Asesiad o Gymeriad Ardal Gadwraeth Bodedern fel Canllawiau Cynllunio Atodol ac yn yr un modd gyda'r newidiadau arfaethedig i'r ffiniau dynodedig gan fod Bodedern yn un o'r 11 Ardal Gadwraeth Ddynodedig (dynodwyd Hydref 1979).  I bwrpas cyflawni ei swyddogaethau dan y Ddeddf, bydd y Gwasanaeth Cynllunio yn cynnal arolygon parhaus ar bob un o'r 11 ardal dros y blynyddoedd nesaf.

 

      

 

     Mae'r canllawiau a'r polisi presennol yn argymell bod "paratoi archwiliadau ar y tirwedd a chynnal asesiadau ar gadwraeth yn fodd o gynorthwyo awdurdodau cynllunio wrth iddynt weithredu ar y swyddogaethau cynllunio a rheoli datblygu".  Maent yn argymell ymhellach bod "Awdurdodau yn ystyried defnyddio canllawiau cynllunio atodol fel ffordd o fanylu ar sut y gellir defnyddio polisiau Cynllun Datblygu Unedol dan amgylchiadau arbennig mewn ardaloedd penodol".  Ar ôl ei fabwysiadu bydd yr Asesiad hwn o Gymeriad Ardal Gadwraeth yn cefnogi Cynllun Lleol Ynys Môn 1996 (Polisi 40) a'r Cynllun Datblygu Unedol (Polisi EN13) newydd sy'n nodi y bydd cymeriad a gwedd yr holl Ardaloedd Cadwraeth dynodedig yn cael eu diogelu rhag datblygiad anghydnaws.

 

      

 

     Nododd yr adroddiad unrhyw newidiadau i'r terfyn presennol gan dynnu sylw at safleoedd o :

 

      

 

Ÿ

ddiddordeb pensaernïol arbennig

 

Ÿ

diddordeb hanesyddol arbennig

 

Ÿ

cymeriad

 

Ÿ

gwedd

 

Ÿ

cadwraeth

 

 

 

10.1

ASESIAD O GYMERIAD ARDAL GADWRAETH BODEDERN

 

      

 

     Yn dilyn ymgynghori cyhoeddus ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiad.  Sut bynnag, cyflwynodd y Cyngor Cymuned gynnig i gael estyniad posibl i ffiniau'r ardal ac ar ôl ymweld â'r safle a gwneud rhagor o ymchwil ar y cynnig hwn cysylltodd y Gwasanaeth Cynllunio gyda'r Cyngor Cymuned a phenderfynu yn erbyn awgrym y Cyngor am nad oedd modd ei gyfiawnhau gyda rhesymau cadwraeth.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo a mabwysiadu Asesiad o Gymeriad Ardal Gadwraeth Bodedern fel Canllawiau Cynllunio Atodol ac yn yr un modd y newidiadau i Ffiniau'r Ardal Gadwraeth.

 

      

 

10.2

ASESIAD O GYMERIAD ARDAL GADWRAETH PENTRE MYNYDD CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio ynglyn â Chanllawiau Cynllunio Atodol Asesu Cymeriad Ardal Gadwraeth Pentre Mynydd Caergybi.

 

      

 

     Roedd yr asesiad yn argymell newid y ffiniau presennol mewn un lle.  Derbyniwyd pedwar gwrthwynebiad a'r rheini'n cyfeirio'n bennaf at golli cymeriad yn yr Ardal Gadwraeth a thri gwrthwynebiad i ddiwygio ffiniau'r de.  Am y gweddill o'r sylwadau a'r awgrymiadau cyffredinol roeddynt yn cyfeirio at faterion y tu allan i faes y ddogfen hon.  Ymatebodd y Gwasanaeth Cynllunio yn llawn i'r holl wrthwynebwyr a rhoi gwybod iddynt am benderfyniad yr Adran Gynllunio na allai gyfiawnhau unrhyw newidiadau i'r ddogfen yn seiliedig ar resymau cadwraeth, ac eithrio un paragraff a newidiwyd rhyw fymryn yn sgil yr ymgynghoriad.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo a mabwysiadu yr Asesiad o Gymeriad Ardal Gadwraeth Pentre Mynydd Caergybi fel Canllawiau Cynllunio Atodol a'r newid i ffiniau'r Ardal Gadwraeth.

 

      

 

11     TRAFODAETH CYFLWR YR ARDAL

 

      

 

     Dywedodd yr Arweinydd mai pwrpas Trafodaeth Cyflwr yr Ardal ydyw adrodd ar y sefyllfa bresennol a'r dyfodol ar yr Ynys o wahanol agweddau gan gynnwys yr un Economaidd.  Cyfeiriodd at y diffyg cyfleon gwaith ar yr Ynys er gwaethaf ymdrechion y Gwasanaeth Datblygu Economaidd a dywedwyd hefyd bod rheswm i fod yn optimistaidd yn arbennig yng Nghaergybi ac yn dilyn cyflwyno cais am archfarchnad a Macdonalds ar yr Ynys gan gynnwys archfarchnad ychwanegol i Langefni.  Cyfeiriwyd hefyd at y cynllun Marina ac at ddatblygu ym Mhorthladd Caergybi.

 

      

 

     Mae'r Cynllun Adfywio Economaidd ar Ynys Môn wedi cynnal 26 Prosiect Amcan 1 werth £44.8m - mae deg cynllun ychwanegol yn disgwyl cael eu cymeradwyo.

 

      

 

     Ailadroddodd yr Arweinydd y pwysigrwydd o bwyso ar y Cynulliad i ddod â gwaith o Gaerdydd i Ynys Môn, gan gofio mai'r Ynys yw'r unig Sir yng Nghymru heb wasanaethau/swyddfeydd rhanbarthol Llywodraeth y Cynulliad.  

 

      

 

     Mynegodd yr Arweinydd ei bryder gwirioneddol ynglyn â phrinder tai fforddiadwy ar yr Ynys.  Dywedodd y byddai fel Arweinydd yn sicrhau y bydd tir adeiladu priodol ar gael yn yr ardaloedd gwledig, sydd ym mherchenogaeth y Cyngor, i'w ddatblygu o dan y "Cynllun Tai Fforddiadwy" sydd wedi bod yn y gorffennol yn llwyddiannus mewn ardaloedd eraill ar yr Ynys.  Roedd yn cydnabod pwysigrwydd  darparu gwaith a thai er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn parhau i fyw ar yr Ynys.

 

      

 

     Cyfeiriodd yr Arweinydd hefyd at bryderon ynglyn â'r Gwasanaeth Iechyd Lleol, ac yn arbennig at faterion godwyd yn nhrafodaeth y Cyngor ar brinder gwasanaeth nos yng Nghaergybi.  Tynnodd sylw at y Gwasanaeth Casglu Sbwriel a'r newidiadau arfaethedig i'r gwasanaeth casglu ar garreg y drws ar gyfer ailgylchu gaiff ei gyflwyno fel cynllun peilot yn Ne yr Ynys yn fuan yn 2004 mewn ymdrech i gyrraedd targed y Cynulliad o 15% erbyn 2004/5 a 25% yn 2006/7.

 

      

 

     Cyfeiriwyd hefyd at yr ymdrechion i sicrhau gwasanaeth hedfan cyhoeddus o'r Fali a hefyd drafodaethau gyda Babcocks i sicrhau swyddi yn Awyrlu'r Fali.  

 

      

 

     Pwysleisiwyd rôl allweddol Twristiaeth ac roedd yr Arweinydd yn falch o adrodd fod Canolfannau Twristiaeth y Sir yn cadarnhau fod ffigyrau ymwelwyr i'r Ynys yn uchel yn 2003.

 

      

 

     Mae'r Ynys yn edrych ymlaen at groesawu Eisteddfod yr Urdd a gynhelir yn lleol ym Mai 2004 ac mae ar droed ymdrechion i wahodd Gemau'r Ynysoedd i Ynys Môn, gyda'r ddau ddigwyddiad yn debygol o dynnu tyrfaoedd mawr o ymwelwyr i'r Ynys.

 

      

 

     Ymgynghorwyd gyda'r cyhoedd ar nifer o ddogfennau Polisi'r Cyngor ac ymgynghori pellach yn digwydd yn Ionawr 2004, gyda'r Sector Preifat a Chyhoeddus parthed Treth y Cyngor.  

 

      

 

     Wrth gloi cyfeiriodd yr Arweinydd at yr hyn ddylai, yn ei farn ef, fod yn brif flaenoriaethau'r Cyngor am 2004 sef:

 

      

 

Ÿ

Gwaith

 

Ÿ

Tai

 

Ÿ

Y Gwasanaeth Iechyd gorau bosib

 

Ÿ

Dysgu Gydol Oes

 

Ÿ

Trafnidiaeth Gyhoeddus yn cynnwys ffyrdd a rheilffyrdd

 

Ÿ

Cynllunio i'r dyfodol gydag eraill e.e. Gemau'r Ynysoedd.

 

 

 

 

 

Y CYNGHORYDD MRS. B. BURNS

 

CADEIRYDD