Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 11 Rhagfyr 2008

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Iau, 11eg Rhagfyr, 2008

Cyfarfod o Gyngor Sir Ynys Môn

 

Cofnodion cyfarfod a gafwyd ar 11 Rhagfyr,  2008 (2:00pm)

 

PRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Aled Morris Jones (Cadeirydd)

 

Y Cynghorydd O.Glyn Jones (Is-Gadeirydd)

 

Y Cynghorwyr W. J. Chorlton, E. G. Davies, Lewis Davies,

Barrie Durkin, Jim Evans, P. M. Fowlie, K. P. Hughes,

R. Ll. Hughes, T. Ll. Hughes, H. Eifion Jones, Gwilym O. Jones, Raymond Jones, R. Dylan Jones, R. Ll. Jones, T. H. Jones,

Clive McGregor, Rhian Medi, Bryan Owen, J. V. Owen,

R. L. Owen, Bob Parry, OBE, G. O. Parry, MBE, Eric Roberts,

J. Arwel Roberts, Peter S. Rogers, Elwyn Schofield, J. Williams, John Penri Williams, Ieuan Williams, Selwyn Williams.

 

WRTH LAW:

 

 

 

 

 

Rheolwr-gyfarwyddwr

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Yr Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden)

Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol)

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro

Pennaeth Gwasanaeth (Datblygu Economaidd)

Pennaeth Gwasanaeth (Polisi)

Pennaeth Gwasanaeth (Addysg)

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol

Cyfreithiwr i’r Swyddog Monitro (RMJ)

Cyfreithiwr (RB)

Swyddog y Wasg

Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgor                                                 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

 

Y Cynghorwyr Keith Evans, C. Ll. Everett, D. R. Hughes, Fflur M. Hughes, W.I. Hughes, Eric Jones, G. W. Roberts, OBE,

H. W. Thomas.

_________________________________________________________________________________

 

 

Agorwyd cyfarfod y prynhawn gyda gweddi gan y Cynghorydd R. Ll. Jones

           

1

DATGAN DIDDORDEB

 

Gan y  Cynghorwyr L. Davies, B. Durkin, P.M. Fowlie, R.Ll. Hughes, R. Dylan Jones, C. McGregor, B. Owen, G.O. Parry MBE, R.G. Parry OBE, E. Schofield ac I. Williams cafwyd datganiad o ddiddordeb yn Eitem 5 y cofnodion hyn ac nid oeddynt yn bresennol yn y drafodaeth na’r pleidleisio.

 

Gan y Cynghorwyr P.M. Fowlie, T.H. Jones, A. Morris Jones, R.L. Owen, R.G. Parry OBE, E. Roberts a P.S. Rogers cafwyd datganiad o ddiddordeb yn Eitem 9 y cofnodion hyn ac nid oeddynt yn bresennol yn y drafodaeth na’r pleidleisio.

 

Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd W.J. Chorlton mewn unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Gwasanaethau Amgylcheddol.

 

Gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro cafwyd datganiad o ddiddordeb yn Eitem 5 y cofnodion hyn ac nid oedd yn bresennol yn y drafodaeth na’r pleidleisio.

 

 

 

 

 

1

DERBYN UNRHYW GYHOEDDIADAU GAN Y CADEIRYDD, YR ARWEINYDD, AELODAU’R PWYLLGOR GWAITH NEU’R PENNAETH GWASANAETH TÂL

 

 

 

Ar ran yr aelodau a’r swyddogion dymunodd y Cadeirydd yn dda i’r Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes ar ei ben-blwydd heddiw yn 60 oed.

 

 

 

Hefyd llongyfarchwyd Ryan Conolly a Leon Newall, o Ysgol Gyfun Llangefni, ar gael eu dewis i dwrnament dan 16 oed a chynrychioli Cymru yn y Sky Victory Shield Home Nations’.

 

 

 

Diolchwyd i bawb a oedd yn rhan o lwyddiant y Cyngor yn derbyn gwobr Buddsoddwyr mewn Pobl.  Eisoes roedd llythyr wedi’i yrru at yr holl staff, yr aelodau a’r Undebau Llafur yn dwyn eu sylw at y llwyddiant.  Llongyfarchiadau a diolch felly i’r holl staff am gyflawni’r gamp hon.

 

 

 

Hefyd llongyfarchwyd 9 o aelodau’r staff, ar ôl eu llwyddiant ar y Cwrs ‘Institute of Leadership Management Course’ yn Coleg Menai.  Cyflwynwyd Tystysgrifau iddynt gan yr Arweinydd a’r Rheolwr-gyfarwyddwr ddydd Mawrth diwethaf.

 

 

 

Achubodd y Cadeirydd ar y cyfle i gyfeirio at farwolaeth Gwilym Williams, Y Wenallt, Pen-y-sarn a fu’n Gyfarwyddwr Gweinyddol i’r hen Gyngor Bwrdeistref Ynys Môn rhwng 1974-1980. Cyn hynny roedd wedi gweithio i Gyngor Dosbarth Twrcelyn.  Cydymdeimlwyd gyda’i wraig Betty, ei fab Elfed a’r holl deulu.

 

 

 

Ar ran y Cadeirydd, cyfeiriodd y Cynghorydd G. O. Parry, MBE  at farwolaeth y Capten Drakley, a oedd gynt yn Swyddog Arforol gyda Chyngor Bwrdeistref Ynys Môn.

 

 

 

Yn ogystal cydymdeimlodd gydag unrhyw Aelodau neu staff a oedd wedi cael profedigaeth.  Safodd yr Aelodau a’r Swyddogion mewn tawelwch fel arwydd o barch.

 

 

 

2

COFNODION

 

 

 

Cyflwynwyd a derbyniwyd fel cofnod cywir gofnodion o gyfarfodydd y Cyngor Sir ar y dyddiadau a ganlyn:-

 

 

 

(i) Cofnodion  - 16 Medi,  2008

 

 

 

Yn codi :-

 

 

 

Eitem 10. Balans Gwleidyddol

 

 

 

Roedd y Cynghorydd J. Penri Williams yn dymuno nodi iddo gefnogi’r Cynghorwyr P. S. Rogers a B. Durkin yng nghyswllt yr hyn a ddywedasant am ddyrannu seddau i bwyllgorau’r Cyngor.

 

 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd W. J. Chorlton at y ddwy set o gofnodion gerbron y Cyngor heddiw a hynny am na chafodd ateb yng nghyswllt Parc Gwledig y Morglawdd (Eitem 3 y cyfarfod ar 16 Medi 2008) ac ateb gan yr Arweinydd yng nghyswllt datganiad o ddiddordeb gan Gadeirydd y Cyngor Sir.

 

Mewn ymateb dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi ymweld â’r Parc Gwledig gyda’r Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio) ac y buasai’n gohebu neu’n cael trafodaeth gyda’r Cynghorydd Chorlton ar y mater.

 

 

 

Yng nghyswllt datgan diddordeb, gadawodd y Cadeirydd y Siambr a chymerwyd y Gadair gan yr Is-Gadeirydd.

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn y Cynghorydd Chorlton dywedodd yr Arweinydd iddo gael ar ddeall bod

 

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro wedi rhoddi ymateb i’r Cynghorydd Chorlton ar y datganiad o ddiddordeb.

 

 

 

 

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd W. J. Chorlton iddo dderbyn ateb ysgrifenedig gan y Cyfreithiwr i’r Swyddog Monitro ond nad oedd yr ateb hwnnw’n ddigonol yn ei farn ef am na chafodd y wybodaeth y gofynnodd amdani.  Dywedodd iddo fethu â threfnu dyddiad cyfleus i’r ddwy ochr i drafod y mater gyda’r Arweinydd a hynny oherwydd bod yr Arweinydd yn aildrefnu dyddiadau y cytunwyd arnynt.  

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd yr Arweinydd bod ganddo o’i flaen gopi o atebion yr Adran Gyfreithiol i’r cwestiwn a roddwyd ac y buasai’n trefnu cyfarfod gyda’r Cynghorydd Chorlton a’r Adran Gyfreithiol - ni fedrai gofio am ganslo unrhyw gyfarfod.

 

 

 

Mewn ymateb soniodd y Cynghorydd Chorlton am ddau gyfarfod gyda’r Arweinyddion Grwpiau y bu’n rhaid eu canslo am nad oedd yr Arweinydd na’r Dirprwy Arweinydd ar gael ar y dyddiadau a drefnwyd.

 

 

 

Rhoes yr Arweinydd sicrwydd i’r Cynghorydd Chorlton y buasai’r cyfarfod yn cael ei gynnal unwaith y bydd ganddynt le gwag yn eu dyddiaduron.

 

 

 

Aeth y Cynghorydd Chorlton ymlaen wedyn i gyfeirio at y penderfyniad brys a wnaeth y Pwyllgor Gwaith yng nghyswllt cael gwared o eiddo’r Cyngor ar y disgownt.  Sut y gallai aelodau drafod mater fel hwn pan oedd Cadeirydd y Cyngor wedi cytuno i ddelio gydag ef fel mater o frys.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro bod Cadeirydd y Cyngor Sir wedi cytuno gyda phenderfyniad y Pwyllgor Gwaith ddydd Llun diwethaf i’w drin fel mater brys, nid fel mater y gellid ei alw i mewn, a hynny oherwydd bod amser cau 19 Rhagfyr, 2008 i gyfnewid contractau.  Wrth ganiatáu darpariaeth i alw i mewn buasai diwedd y cyfnod galw i mewn yn dwyn y cyfnod amser i 2 Ionawr a hynny’n golygu na ellid gwneud y busnes.

 

 

 

Ni fedrai’r Cynghorydd Chorlton ddeall beth oedd y brys mawr a gofynnodd a oedd y Cyngor yn cael gwared o’r swyddogaeth sgriwtini?

 

 

 

Fel eglurhad dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro bod raid delio ar frys gyda’r mater oherwydd y dyddiad cau i bwrpas cyllid Ewrop - cyllid yr oedd modd ei grafangu’n ôl onid oedd yn cael ei ymrwymo erbyn 19 Rhagfyr.  Yn wir cafodd tri eiddo allan o’r pedwar sylw yn y Pwyllgor Gwaith ar 11 Medi ac ar y pryd ni chawsant eu galw i mewn.

 

 

 

Ond anghytuno a wnaeth y Cynghorydd Chorlton, oherwydd credai y dylid bod wedi rhoi’r cyfle i aelodau edrych ar fanylion y contract a beth oedd gwerth hwnnw i’r Awdurdod.

 

 

 

(ii) Yn Codi ar hynny - Cofnodion - 30 Hydref, 2008 (am)

 

 

 

Ar fater Prydau Ysgol heriodd y Cynghorydd B. Durkin gywirdeb y cofnodion (Oherwydd datgan diddordeb ar y mater hwn cymerodd yr Is-Gadeirydd y Gadair unwaith eto oddi ar y Cadeirydd).

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd B. Durkin iddo siarad ddwywaith yn y cyfarfod ac nid oedd cofnod i’r perwyl hwnnw.

 

 

 

Cytunodd yr Is-Gadeirydd i ychwanegu’r geiriau a ganlyn i bwrpas cywiro’r cofnodion:-

 

 

 

“Dywedodd y Cynghorydd B. Durkin  bod y grwp oedd yn darparu gwasanaeth prydau ysgol yn newid i brynu cig o le arall a hynny’n dangos oherwydd y dyddiad 15 Hydref, 2008,  ar y memo bod trafodaethau manwl wedi’u cynnal gyda’r Arweinydd a’r swyddog dan sylw i newid pethau.  Yn y memo hwn o Eden dyddiedig 15 Hydref, dywedasant eu bod yn newid ac yn mynd am nifer fwy o gynhyrchion cigoedd oer a bod raid eu harchebu wythnos cyn eu danfon fel yr hen drefn gyda’r cig wedi’i rewi.  Ceid y cyflenwad cyntaf yn yr wythnos yn dechrau 27 Hydref a buasai’n rhaid ei archebu o ddydd Llun 20 Hydref.  Yn lle’r briwgig biff presennol ceid briwgig biff oer Red tractor; darnau sgwar o stêc chuck a darnau sgwar o stêc chuck Red tractor oer (darnau sgwar o Borc a darnau o Borc Red tractor yr ysgwydd a darnau o gig cyw iar amrwd gyda darnau o frest cyw iar Red Tractor a chig y goes.  Awgrymodd bod cam o’r fath yn un mawr iawn i’r Arweinydd a’r Swyddogion mewn ymgais i gywiro’r sefyllfa gyda chig a oedd fe ymddengys y broblem fwyaf.”

 

 

 

 

 

“Mewn ymateb i’r  Cynghorydd P. S. Rogers dywedodd y Cynghorydd B. Durkin  yng nghyswllt y clod a roes ef ei hun a’r Cynghorydd Ff. M. Hughes i’r camau a gymerodd yr Arweinydd ac na ddylid rhoddi sylw i’r cyhoeddusrwydd gan y Cynghorydd Rogers i’r mater.

 

 

 

Oherwydd iddo gael ei enwi gan y Cynghorydd Rogers dywedodd ei fod wedi edrych ymlaen at weld rhywfaint o wyleidd-dva yn y Siambr heddiw. Hyfryd yw medru edrych yn ôl yn ddoeth drannoeth ac ni fedrai rhywun ymosod heb hefyd roddi canmoliaeth pan fo canmoliaeth yn deilwng.  Roedd pawb yn derbyn bod problemau yn rhwym o godi gyda chontractau ar y cychwyn, yn enwedig pan fo’r contractau yn rhai mawrion.  Roedd hi’n ymddangos bod sylw uniongyrchol yn cael ei roddi i’r problemau a’r gobaith oedd y caent eu datrys yn llwyr.  Roedd yn rhaid bod yn ymwybodol o’r natur ddynol ac awgrymodd y buasai dôs dda o wyleidd-dva yn mynd ymhell iawn yng nghyfarfodydd y dyfodol beth bynnag fo’r cyfarfodydd hynny.”

 

 

 

(iii) Cofnodion - 30 Hydref, 2008(pm)

 

 

 

Roedd y Cynghorydd C. McGregor yn dymuno cywiro’r cofnodion - gynt roedd wedi gweithio yn y maes Deddf Diogelu Data nid yn y maes Deddf Rhyddid Gwybodaeth fel a nodwyd yn y cofnodion.

 

 

 

Roedd y Cadeirydd yn derbyn y cywiriad.

 

 

 

3

PWYLLGOR SAFONAU - CYNRYCHIOLYDD CYNGHORAU TREF A CHYMUNED

 

 

 

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro - Bod raid i’r Cyngor dan Ran III Deddf Llywodraeth Leol 2000 (fel y cafodd ei diwygio) sefydlu Pwyllgor Safonau ac arno o leiaf bump a dim mwy na naw o Aelodau a rhaid i un Aelod fod yn Gynghorydd Tref / Cymuned a hwnnw/honno wedi’i henwebu gan yr holl Gynghorau Tref a Chymuned.

 

 

 

Wrth iddo adolygu’r fframwaith gwreiddiol aeth y Cyngor ati i ddileu’r Cynghorwyr Sir oddi ar y Pwyllgor Safonau, ac yn awr roedd ar y Pwyllgor hwnnw bum aelod annibynnol / lleyg ac un aelod o’r Cynghorau Tref / Cymuned.

 

 

 

Daeth y Cynghorydd Cymuned Eric Roberts yn Gynghorydd Sir ar 1 Mai 2008 ac felly ni châi fod yn aelod dros y  Cynghorau Tref a Cymuned ar y Pwyllgor Safonau ac felly daeth y sedd yn wag.

 

 

 

Gofynnwyd i “Unllais Cymru” drefnu i’r holl Gynghorau Tref a Chymuned ar Ynys Môn enwebu un Cynghorydd Tref / Cymuned i’w benodi i’r Pwyllgor Safonau ac i lenwi’r sedd wag oedd wedi’i chreu.  Cytunwyd ar yr enwebiad hwnnw mewn cyfarfod a gafwyd ar 16 Gorffennaf 2008, sef y Cynghorydd Raymond Evans o Gyngor Cymuned Llanfihangel Ysgeifiog.

 

 

 

Gofynnwyd i’r Cyngor Sir, ar 13 Rhagfyr 2007 ystyried cadw Panel Dewis y Pwyllgor Safonau i bwrpas penodi swyddi gweigion a allai godi yn y dyfodol.  Penderfynodd y Cyngor - “Gadw’r Panel Dewis y Pwyllgor Safonau i bwrpas penodi swyddi gweigion a allai godi a hynny hyd oni fydd Panel newydd yn cael ei sefydlu yn 2011 (yn amodol ar Etholiad Mai 2008).”  Yn y cyfarfod ar 16 Gorffennaf penderfynodd y Cynghorau Tref a Chymuned enwebu’r Cynghorydd Alistar Grant o Gyngor Tref Biwmares fel Cynghorydd Tref/Cymuned i wasanaethu ar y Panel Dewis, yn lle’r Cynghorydd O. Gwyn Jones oedd yn wael.

 

 

 

Tri chynrychiolydd y Cyngor ar Banel Dewis y Pwyllgor Safonau oedd y Cynghorwyr John Chorlton, Phil Fowlie a John Roberts. Am nad yw John Roberts mwyach yn Gynghorydd Sir roedd angen penodi Cynghorydd Sir arall i’r Panel.

 

 

 

     PENDERFYNWYD

 

      

 

Ÿ

Bod y Cyngor yn penodi’r Cynghorydd Raymond Evans, o Gyngor Cymuned Llanfihangfel Ysgeifiog, o rwan tan 17 Rhagfyr 2011 yn gynrychiolydd i’r Cynghorau Tref / Cymuned ar y Pwyllgor Safonau, tra parhao yn Gynghorydd Tref / Cymuned.

 

 

 

Ÿ

Bod y Cyngor yn penodi’r Cynghorydd Alistair Grant o Gyngor Tref Biwmares fel  cynrychiolydd i’r Cynghorau Tref / Cymuned ar Banel Dewis y Pwyllgor Safonau, tra parhao yn Gynghorydd Tref / Cymuned.

 

 

 

 

 

Ÿ

Penodi’r Cynghorydd R. G. Parry, OBE i’r sedd wag ar Banel Dewis y Pwyllgor Safonau.

 

4

COFRESTR O SAFLEOEDD YMGEISIO

 

      

 

     Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a  Phennaeth y Gwasanaeth Cynllunio bod y Cyngor llawn yn ei gyfarfod arbennig ar 30 Hydref 2008, tra’n cymeradwyo cyhoeddi’r cynllun datblygu lleol (CDLl) cyn adneuol ar gyfer ymgynghori â’r cyhoedd, wedi penderfynu gofyn am adroddiad a chyngor ynglyn â nodi enwau’r rhai oedd wedi cyflwyno safleoedd i’w cynnwys ar y Gofrestr o Safleoedd Ymgeisiol (y Gofrestr).

 

      

 

     Yn ystod y cyfarfod arbennig fe ofynnwyd a fyddai enwau’r rhai a oedd wedi cyflwyno safleoedd i’w cynnwys ar y Gofrestr yn cael eu datgelu.  Roedd hi’n ymddangos bod dau brif reswm yn cael eu cynnig o blaid gwneud datgeliad o’r fath:

 

      

 

Ÿ

Byddai bod â’r wybodaeth honno yn caniatáu i aelodau asesu a fyddai ganddynt ddiddordeb i’w ddatgelu o dan y Cod Ymarfer.

 

 

 

Ÿ

Byddai’r ffaith bod y cyhoedd yn gwybod bod yr wybodaeth honno gan yr aelodau yn cryfhau hyder y cyhoedd yn y broses CDLl.  Nid oedd yn eglur a oedd yr aelodau yn dymuno i’r wybodaeth gael ei chyhoeddi iddynt hwy yn unig neu i’r cyhoedd yn gyffredinol.  

 

 

 

     Credai’r Swyddogion bod yma ddadleuon cryfion, os nad gorfodol, o blaid cadw’r wybodaeth yn gyfrinachol a manylwyd arnynt ar Dudalen 2 yr adroddiad.

 

      

 

     Roedd y cyngor yn arwyddocaol ac roedd y pwynt a awgrymai bod y wybodaeth hon yn amherthnasol i’r penderfyniadau i’w gwneud, fel yr awgrymwyd, yn un o arwyddocad eithriadol i aelodau pan fônt yn ystyried a oedd yn wybodaeth y dylent ofyn amdani ai peidio.  

 

      

 

     Fel rhan o’r adroddiad dygwyd sylw’r Aelodau at y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth / Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol; Deddf Diogelu Data; Deddf Llywodraeth Leol 1972 a Chyfraith Gwlad.  

 

     Daeth y swyddogion i’r casgliadau a ganlyn.

 

      

 

Ÿ

Nad yw enwau a chyfeiriadau’r rhai sy’n cynnig safleoedd ar gyfer y Gofrestr yn wybodaeth berthnasol wrth asesu addasrwydd y safle i’w gynnwys yn yr CDLl.  Felly nid oedd y wybodaeth hon yn angenrheidiol i’r aelodau i bwrpas cyflawni eu dyletswyddau yng nghyswllt y CDLl.

 

 

 

Ÿ

Roedd enwau a chyfeiriadau’r unigolion sy’n cynnwys safleoedd yn ddata personol o dan y Ddeddf Diogelu Data ac ni chafwyd awdurdod i’w cyhoeddi - ac i’r aelodau na’r cyhoedd.

 

 

 

Ÿ

Mae enwau a chyfeiriadau’r rhai sy’n cynnig y safleoedd yn wybodaeth eithriedig dan Restr 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 ac nad oedd unrhyw reswm hysbys fyddai’n peri i’r prawf diddordeb cyhoeddus beidio â dod i’r casgliad y dylai’r wybodaeth barhau’n eithriedig.

 

 

 

     Felly roedd y Swyddogion yn argymell na ddylai enwau a chyfeiriadau'r rhai sy’n cynnig safleoedd i’w cynnwys ar y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol fod ar gael i aelodau eu gweld.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Tom Jones o’r farn bod pwy bynnag sy’n cynnig tir dan y broses hon yn cynnig hwnnw’n wirfoddol heb unrhyw orfodaeth.  Bron nad oedd cynnig tir i’r pwrpas yn cyfateb i gynnig ar gyfer caniatâd cynllunio ac felly yn broses cwbl agored oherwydd bod perchenogaeth tir yn cael ei ddatgelu’n gyhoeddus.  Ni welai ef unrhyw rwystr o gwbl i roddir wybodaeth hon yn y maes cyhoeddus.

 

     .

 

      

 

     Cytuno yn frwd gyda’r Cynghorydd Tom Jones a wnaeth y Cynghorydd Rhian Medi a bod raid i’r Cyngor ymddangos yn dryloyw yng nghyswllt hyn.  Roedd hi’n bwysig gwybod a oedd aelodau o’r Cyngor yn berchenogion tiroedd ai peidio.  Efallai meddai hi y dylai aelodau gael cyngor gwahanol gan Gynulliad Cymru - gwahanol i hwnnw a roddwyd yn yr adroddiad.

 

      

 

     Credai’r Cynghorydd R. Ll. Jones y dylai’r wybodaeth fod ar gael i aelodau ond bod raid parchu cyfrinachedd y wybodaeth honno.  Yma cyfeiriodd yn benodol at y Cynghorau hynny oedd ddim yn gadael i’r Cynghorwyr gael enwau ymgeiswyr am safleoedd.  Roedd ef yn gwbwl gefnogol i fod yn dryloyw ac y dylai pob darn o dir ar y Gofrestr hefyd gynnwys enwau’r perchenogion.

 

      

 

     Credai’r Cynghorwyr@ J. Penri Williams a J. V. Owen bod tryloywder yn ystyriaeth o bwys mawr iawn.

 

      

 

     Fodd bynnag, credai’r Cynghorydd W. J. Chorlton na ddylai’r Cynghorwyr gael enwau’r unigolion ond dod i farn yn seiliedig ar ddefnydd tir a hynny’n seiliedig ar argymhellion y swyddogion.

 

      

 

     Anghytuno gyda’r Cynghorydd Chorlton a wnaeth y Cynghorydd K. P. Hughes oherwydd credai ef bod yr aelodau angen gwybod pwy yw’r perchenogion fel bod modd iddynt ddatgan diddordeb petai raid gwneud hynny.

 

      

 

     Yn ôl y Cynghorydd H. E. Jones roedd angen i’r aelodau fod yn gwbl dryloyw gyda’r materion hyn.  A gofynnodd am farn gyfreithiol ar ddehongli Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 yng nghyswllt gwybodaeth eithriedig.  Yn yr un modd, gofynnodd a oedd hi’n bosib rhoddi caniatâd ai peidio dan y Ddeddf Diogelu Data.

 

      

 

     Mewn ymateb i’r cwestiynau a ofynnwyd a’r sylwadau a wnaed dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol bod gofynion cyfreithiol penodol pan fo rhywun yn cyflwyno cais cynllunio yn mynnu bod y wybodaeth yng nghyswllt yr ymgeisydd yn cael eu gosod ar gofrestr gyhoeddus.  Ni chredai ef ei bod hi’n deg cymharu hynny gyda’r mater gerbron y Cyngor heddiw.  Ychwanegodd bod prif neges yr adroddiad yn glir iawn, petai’r Cyngor yn mynd yn erbyn argymhelliad y swyddog yna buasai’n rhaid nodi rhesymau manwl am y penderfyniad yn y cofnodion rhag ofn y buasai’r mater wedyn yn mynd gerbron y Comisiynydd Gwybodaeth.

 

      

 

     Hefyd credai’r Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol y buasai’n anymarferol mynd yn ôl at bob perchennog tir unigol yn gofyn a oedd yn fodlon rhyddhau ei enwi ai peidio i’r maes cyhoeddus.  Heb amheuaeth buasai hyn yn arwain at Gofrestr anghyflawn.

 

      

 

     Soniodd unwaith eto bod yr argymhelliad yn glir ac yn gryf ynghylch y risg o gyhoeddi gwybodaeth o’r fath a hynny’n arwain at dorri’r Ddeddf Diogelu Data ac y dylai’r Aelodau gyflwyno rhesymau clir o blaid unrhyw benderfyniad yn erbyn yr argymhelliad.  Nid oedd enw’r unigolyn un ai ar gais cynllunio neu fel un yn cyflwyno safle ymgeisiol ar gofrestr yn berthnasol i’r penderfyniad gerbron, sef a ddylid cynnwys y tir yn y cynllun.  

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd H. E. Jones dywedodd bod yr ateb yng nghyswllt Atodlen 12A eisoes yn yr adroddiad.  Yng nghyswllt y Ddeddf Diogelu Data, os oedd hanner yr unigolion a alwyd o blaid cyhoeddi a hanner yn erbyn, buasai hynny’n gadael y Cyngor mewn sefyllfa waeth ar ddiwedd y dydd.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd P. S. Rogers cafwyd cynnig i dderbyn yr adroddiad a chafodd ei eilio.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd T. Jones cafwyd gwelliant, sef y dylai’r wybodaeth fod ar gael i aelodau ond eu bod nhw yn parchu cyfrinachedd gwybodaeth o’r fath. Cafodd y gwelliant hwn ei eilio.

 

      

 

     Dan ddarpariaethau Rheoli 18.5 y Cyngor cytunwyd i gofnodi’r bleidlais.

 

      

 

     Yn gefnogol i weliant y Cynghorydd T. Jones (h.y. bod y wybodaeth ar gael i aelodau ond eu bod nhw yn parchu cyfrinachedd gwybodaeth o’r fath)

 

      

 

      

 

     O blaid : Y Cynghorwyr E. G. Davies, Jim Evans, K. P. Hughes, T. Ll. Hughes, A. M. Jones, G. O. Jones, O. Glyn Jones, Raymond Jones, R. Ll. Jones, T. Jones, Rhian Medi, J. V. Owen, R. L. Owen, Eric Roberts, J. Penri Williams, J. Williams, S. Williams.

 

     CYFANSWM = 17        

 

 

 

     Yn erbyn: Y Cynghorwyr W. J. Chorlton, P. S. Rogers.

 

     CYFANSWM = 2

 

      

 

Ymatal: Y Cynghorydd H. Eifion Jones                          CYFANSWM = 1

 

 

 

 

 

Felly fe garwiyd y gwelliant.

 

 

 

     PENDERFYNWYD, (yn groes i argymhelliad y Swyddog) bod y Gofrestr o Safleoedd Ymgeisiol ar gael i’r Aelodau ond eu bod nhw yn parchu cyfrinachedd y wybodaeth honno.

 

      

 

     (Y rheswm oedd tryloywder, fel bod pob Aelod unigol mewn sefyllfa i ddatgan diddordeb yn y broses).

 

        

 

6

LWFANSAU AELODAU

 

      

 

     Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) - Mai Atodiad A ynghlwm oedd ei adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith ar 17 Tachwedd ac Atodiad B yn cynrychioli Cynllun Lwfansau Diwygiedig i Aelodau, fersiwn ddrafft ar gyfer sylw’r Cyngor llawn.

 

      

 

     Uchafsymiau oedd y rheini a argymhellwyd gan y Panel Cydnabyddiaeth Ariannol.  Gan nad oedd y Pwyllgor Gwaith wedi cyflwyno argymhellion ar y symiau i’w mabwysiadu roedd y  Cyfarwyddwr Corfforaethol wedi drafftio Atodiad B yn seiliedig ar dalu’r uchafswm, neu’r swm a amlinellwyd yn Atodiad A ac olddyddio i 1 Mai 2008.  Roedd hyn yn dilyn arferion y Cyngor yn y gorffennol.

 

      

 

     Roedd modd talu’r lwfansau newydd hyn i aelodau pwyllgorau sydd â hawliau pleidleisio llawn ond heb fod yn Gynghorwyr.  Cyfeiriodd y Panel at Aelodau lleyg o’r Pwyllgorau Safonau a chynrychiolwyr llywodraethwyr eglwysig a’r rheini ar y Pwyllgorau Sgriwtini Addysg ond gan ychwanegu efallai bod rhai eraill hefyd.

 

      

 

     Yn ystod y drafodaeth yn y Pwyllgor Gwaith awgrymwyd bod dyletswyddau’r Aelodau hynny ar y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) - rhai nad ydynt yn Aelodau - yn cyfiawnhau talu lwfansau o’r fath i gyfetholedigion ac roedd y Pwyllgor Gwaith o’r farn y dylid talu’r lwfansau.

 

      

 

     Yn y cyfamser roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol wedi ymgynghori gyda’r Adain Gyfreithiol a swyddogion Llywodraeth Cynulliad Cymru ar y mater a chael cyngor nad yw aelodau CYSAG, fel unigolion, â hawliau pleidleisio llawn, ac o’r herwydd, ni fuasent yn gymwys i dderbyn lwfans cyfetholedigion.

 

      

 

     Yn codi o’r trafodaethau hyn, roedd amheuaeth hefyd ynghylch a ydyw aelodau eraill yn gymwys - rhai nad ydynt yn Gynghorwyr - am y lwfans, h.y. efallai bod mwy o bobl yn gymwys nag a dybiai’r Panel.

 

      

 

     Petai’r Cyngor yn mabwysiadu lwfansau i gyfetholedigion ni all wahaniaethu rhwng gwahanol gategoriau ohonynt - h.y. rhaid talu ar yr un raddfa i aelodau’r Pwyllgor Safonau, a chynrychiolwyr llywodraethwyr eglwysig a rhieni ar y Pwyllgor Sgriwtini a Throsolwg Addysg ac unrhyw gyfetholedigion eraill.  Buasai Cadeirydd y Pwyllgor Safonau â’r hawl i lwfans uwch y cyfetholedigion.  

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Aeth Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro ymlaen i grybwyll bod caniatâd arbennig yn bosib dan y Cod Ymddygiad fel bod aelodau yn medru trafod eu lwfansau eu hunain ac oherwydd nid oedd raid i neb adael y drafodaeth.

 

      

 

     Ni fedrai’r Cynghorydd T. Lloyd Hughes gytuno gyda’r hyn a argymhellwyd a dywedodd ei fod yn fodlon cyfrannu’r gwahaniaeth tuag at achos da petai’r Cyngor yn penderfynu felly.

 

      

 

     Pa benderfyniad bynnag a wneid ni fuasai’r Cynghorydd John Penri Williams yn hawlio dim ac eithrio codiad 1½%, gan mai hwnnw oedd ffigwr setliad Cynulliad Cymru am eleni.

 

      

 

     Aeth y drafodaeth i gyfeiriad y cwestiwn o ddarparu lwfansau i aelodau cyfetholedig a gofynnodd y Cynghorydd E. G. Davies a oedd raid iddo adael y Siambr gan mai ef oedd Cadeirydd CYSAG Ynys Môn?

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro nad oedd ganddo ddiddordeb rhagfarnol a bod ganddo hawl i aros yn y Siambr a bod yn rhan o’r cyfarfod.

 

      

 

     Credai’r Cynghorydd P. S. Rogers bod y wlad yn mynd trwy gyfnod drwg ac mai 1½% yn unig oedd setliad Cynulliad Cymru i’r Cyngor ac felly cynigiodd na ddylai’r Aelodau ychwanegu at eu henillion am eleni ac yn sicr beidio ac olddyddio y cynnydd i fis Mai diwethaf.  Dylai’r Cyngor arwain trwy esiampl.  Roedd modd ailystyried y sefyllfa unwaith y buasai’r amgylchiadau wedi newid.

 

      

 

     Soniodd y Cynghorydd B. Durkin bod angen annog pobl ifanc ar yr Ynys i ddod ymlaen a bod yn rhan o waith y Cyngor a bod yr opsiwn gan aelodau, ar ddiwedd y dydd, i dderbyn y cynnydd hwn neu beidio.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd W. J. Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn yr adroddiad a mater i’r unigolyn fuasai derbyn y cynnydd neu beidio.  

 

      

 

     Wedyn cafwyd gwelliant gan y Cynghorydd Tom Jones i gynnig y Cynghorydd Chorlton, sef yr adroddiad yn cael ei dderbyn ond peidio ag olddyddio i 1 Mai 2008 a’i fod yn dod i rym ar 1 Ionawr, 2009.

 

      

 

     Gofynnodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) a oedd y Cyngor yn fodlon derbyn lwfans i gyfetholedigion?

 

      

 

     Roedd yr Aelodau o’r farn na ddylid talu lwfans yn y cyswllt hwnnw.

 

      

 

     PENDERFYNWYD

 

      

 

Ÿ

Peidio â mabwysiadu lwfans i gyfetholedigion (cymal 6.5 Atodiad B).

 

 

 

Ÿ

Mabwysiadu gweddill o Atodiad B (cynllun Lwfansau diwygiedig i Aelodau) a’i gyflwyno ar 1 Ionawr, 2009.

 

      

 

7     RHEOLI’R TRYSORLYS - DIWYGIO’R RHESTR FENTHYCA GYDNABYDDEDIG

 

      

 

     Cafwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) - Bod raid i’r Cyngor Sir, dan Gyfansoddiad y Cyngor a gofynion statudol a phroffesiynol eraill, benderfynu ar rai agweddau o drefniadau benthyca a buddsoddi y Cyngor.  Roedd hyn yn cynnwys rhestr fenthyca gydnabyddedig.  

 

      

 

     Oherwydd diffyg hylifedd yn y marchnadoedd arian a methiant rhai cyrff ariannol, daeth yn amlwg bod rhaid cael rhagor o bwyslais ar sicrwydd a hylifedd y buddsoddiad dros yr incwm.  Felly roedd y  Cyfarwyddwr Corfforaethol wedi adolygu’r rhestr fenthyca gydnabyddedig.  Roedd hon yn rhestr o’r categoriau o sefydliadau ariannol a rhai eraill a gymeradwywyd i bwrpas buddsoddi gwargedion y Cyngor.

 

      

 

      

 

     Adolygir y rhestr hon yn achlysurol ac yn flynyddol mae’n cael ei chadarnhau fel rhan o’r adroddiad ar strategaeth y Trysorlys.  

 

      

 

     Tra bod y rhestr bresennol yn ddigonol ar gyfer y sefyllfa arferol gyda rhai banciau a chymdeithasau adeiladu yn diflannu oddi ar y rhestr, ond daeth yn amser sicrhau bod digon o wrthbartion sefydlog ar y rhestr. Roedd rhai Cynghorau wedi penderfynu cyfyngu eu buddsoddi i sefydliadau’r llywodraeth gan dderbyn graddfeydd llog isel iawn ar y buddsoddiadau hynny.   Nid oedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn argymell hynny.  Roedd llog ar fuddsoddiadau yn cyfrannu symiau sylweddol i gyllideb y Cyngor Sir:  tua £2f eleni’n unig.  Roedd yn argymell sicrhau cyfran uwch o fuddsoddiadau gyda’r llywodraeth neu mewn bondiau a’r posibilrwydd o gynyddu i 100% o’r buddsoddiadau petai raid.  Gellid cyflawni hyn trwy:

 

      

 

Ÿ

dileu’r uchafswm ar gyfer buddsoddiadau yn sefydliadau’r llywodraeth megis cyfrifon adneuol y Swyddfa Rheoli Dyledion.  Yr uchafswm presennol oedd £10m.

 

 

 

Ÿ

ychwanegu cronfeydd marchnad arian graddfa AAA at y rhestr gan ddefnyddio’r cronfeydd hynny sy’n buddsoddi mewn bondiau llywodraeth a phapur tebyg.

 

      

 

     Un o fanteision buddsoddi’n uniongyrchol yn sefydliadau’r llywodraeth yw’r sicrwydd a geir ond mae’r graddfeydd llog yn isel iawn.  Doedd cyfrifon o’r fath ddim wedi’u defnyddio hyd yma am y rheswm hwn ond gallai fod yn arf bwysig pe gwelid rhagor o ddirywiad yn y farchnad.

 

      

 

     Roedd modd buddsoddi’n uniongyrchol mewn giltiau ac ati ond nid yw hynny’n hwylus iawn, ac nid yw’n ateb y galw am hylifedd ar ein buddsoddiadau oherwydd gorfod dal gafael ynddynt nes iddynt ddod yn daladwy neu pe bai cyfle i werthu ar elw.   Roedd cronfeydd y farchnad arian yn ffordd o fuddsoddi mewn giltiau a bondiau eraill heb yr anfanteision hynny ac yn medru ennill graddfeydd llog uwch na’r adneuon - oddeutu 5% ar hyn o bryd.

 

      

 

     PENDERFYNWYD

 

      

 

Ÿ

Rhoi cymeradwyaeth i ddileu’r uchafswm ar gyfer benthyciadau i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol.

 

 

 

Ÿ

Ychwanegu cronfeydd y farchnad arian graddfa credyd AAA at y rhestr fenthyca gydnabyddedig.

 

      

 

8     CYFARWYDDYD CYNLLUNIO ATODOL - YR ARDAL O HARDDWCH NATURIOL EITHRIADOL A CHYFLEUSTERAU AILGYLCHU MEWN DATBLYGIADAU NEWYDD

 

      

 

     (a) Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio) - Bod y ddau Gyfarwyddyd wedi bod yn destun cyfnod o ymgynghori ffurfiol.

 

      

 

     Roedd y sylwadau a’r newidiadau arfaethedig wedi’u hystyried a’r newidiadau priodol wedi’u gwneud i’r ddwy ddogfen.  

 

      

 

     Roedd nifer fawr o ymatebion, yn arbennig ar y CCA AHNE.

 

      

 

     Yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus, roedd nifer o drafodaethau mewnol wedi'u cynnal ynglyn â newid y dogfennau.

 

      

 

     Roedd y newidiadau arfaethedig y cytunwyd arnynt yn ymddangos mewn llythrennau breision yn y dogfennau amgaeedig.  

 

      

 

     (b) Dywedwyd - Bod y Pwyllgor Gwaith, wedi iddo ystyried y dogfennau uchod yn ei gyfarfod ar 28 Tachwedd, 2008 wedi penderfynu “???.”.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo’r ddau Gyfarwyddyd fel Cyfarwyddiadau Cynllunio Atodol.

 

 

 

 

 

9

CONTRACT PRYDAU YSGOL

 

     (Ildiodd y Cadeirydd y Gadair y Gadair am yr eitem hon a chymerwyd hi gan yr Is-Gadeirydd).

 

      

 

     Er bod eitem ar yr agenda yn nodi y cai adroddiad ei gyflwyno dywedodd yr Is-Gadeirydd y buasai Arweinydd y Cyngor yn cyflwyno diweddariad ar lafar i’r aelodau.  

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd H. E. Jones yn pryderu nad oedd adroddiad gerbron y Cyngor heddiw er bod y Deilydd Portffolio, yn y cyfarfod diwethaf o’r Cyngor, wedi addo adroddiad ar gyfer trafodaeth.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd yr Arweinydd iddo siarad gyda’r Deilydd Portffolio, ar ôl derbyn y rhaglen, a hefyd gyda’r Cyfarwyddwr Addysg oherwydd credu bod gofyn am adroddiad yn gyfamserol hyd oni fydd y tymor llawn wedi rhedeg ei gwrs o fis Medi hyd at fis Rhagfyr.

 

      

 

     Fodd bynnag, dygodd sylw’r aelodau at rai datblygiadau a gafwyd ers y cyfarfod diwethaf.  Roedd Hybu Cig Cymru wedi derbyn gwahoddiad gan y Cyngor i ddod i mewn i gynorthwyo Eden, y cwmni sy’n darparu prydau ysgolion.  Bellach roedd y cyfan o’r cig yn gynnyrch lleol a’r bara yn cael ei brynu ar yr Ynys.  Rhoes sicrwydd i’r Cyngor y bydd rhagor o gynnyrch lleol ar fwydlenni’r ysgolion.  Ar ôl cyflwyno newidiadau i’r fwydlen roedd y niferoedd sy’n cymryd prydau ysgol wedi cynyddu a chafwyd cynnig ganddo bod y Cyngor yn cefnogi bwriad Eden i wneud cyflwyniad yn y flwyddyn newydd i aelodau’r Cyngor yn y Pwyllgor Trosolwg Addysg nesaf a gwadd holl aelodau’r Cyngor i’r cyflwyniad.  Cafodd y cynnig ei eilio.

 

      

 

     Wedyn câi adroddiad llawn am dymor yr ysgol ei gyflwyno a cheid trafodaeth agored yn y cyfarfod hwnnw.  Diolchodd i’r aelodau am eu cyfraniadau yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor a rhoes sicrwydd iddynt bod pethau’n gwella.

 

      

 

     Mynegi pryder a wnaeth y Cynghorydd W. J. Chorlton hefyd gan fod yr Arweinydd a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol wedi addo adroddiad i’r cyfarfod hwn o’r Cyngor.  Y Cyngor oedd y corff gyda’r pwer yn y pen draw nid y Pwyllgor Gwaith na’r Pwyllgor Trosolwg.  Er bod cwestiynau wedi’u gofyn nid oedd atebion ar gael.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd yr Arweinydd nad oedd esgusodion, mater o synnwyr cyffredin oedd hwn. Deuai’r tymor llawn i ben ddydd Gwener nesaf a chyflwynid adroddiad manwl i’r Pwyllgor Trosolwg gyda gwahoddiad i’r holl aelodau ddod iddo.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd H. Eifion Jones yn croesawu’r cyfle a roddid i holl aelodau’r Cyngor oedd yn bresennol yn y Pwyllgor Trosolwg i fynegi barn ar yr adroddiad ac i wrando ar gyflwyniad Eden.  Ond cafodd ei siomi am nad oedd adroddiad llawn gerbron y Cyngor heddiw fel y gofynnwyd am hynny.  Roeddid yn disgwyl am ateb ynghylch y gostyngiad yn nifer y disgyblion oedd yn cymryd prydau ysgol a hefyd faint yr oedd y cytundeb yn ei gostio i’r Cyngor petai Eden angen rhagor o arian oherwydd cynnydd yn y safonau.  Hefyd gofynnodd beth oedd yn cael ei wneud i gynyddu nifer y disgyblion oedd yn cymryd prydau ysgol.  

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd yr Arweinydd y cai adroddiad llawn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg unwaith yr oedd tymor llawn wedi mynd heibio.  Ar ôl eu cyflwyniad buasai Eden yn gadael y cyfarfod a hynny’n rhoi’r cyfle i aelodau drafod adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol.

 

      

 

     Teimlai’r Cynghorydd P. S. Rogers bod raid cymryd camau ar frys oherwydd pryderon Penaethiaid, staff cantin a rhieni ynghylch perfformiad y cantinau.  Heb amheuaeth roedd y bwyd wedi gwella.  Roedd yr arfer o fwyta bwyd da ac iachus yn newid addysgol rhagorol iawn.  Teimlai nad oedd y Cyngor yn hyrwyddo hyn ymhlith rhieni a phlant.  Roedd rhai ysgol bellach yn darparu rhagor o brydau oherwydd llwyddo i werthu’r syniad i rieni ac i blant ond bod angen i hyn ddigwydd ar draws yr Ynys ac roedd yn fater oedd yn haeddu sylw ar frys.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd yr Arweinydd bod y Pwyllgor Gwaith wedi gweithredu ar hyn ers diwedd Gorffennaf a rhoes sicrwydd i’r Cyngor bod y materion yn cael sylw mewn ffordd broffesiynol ac y cyflwynid manylion i’r Pwyllgor Trosolwg yn Ionawr. Cynigiwyd ac eiliwyd bod y camau a gyflwynwyd gan yr Arweinydd yn cael eu dilyn.

 

      

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd W. J. Chorlton am ateb ysgrifenedig gan y Swyddog Monitro yn nodi pa ran o’r Cyfansoddiad a ddefnyddiwyd heddiw er mwyn cau’r drafodaeth ar y mater.  Roedd hwn fel petai’n batrwm trwy’r holl Gyngor.  Yma roedd y Cadeirydd yn defnyddio’i bwerau i ruthro pethau trwodd a mygu’r drafodaeth.  

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Swyddog Monitro bod darpariaeth ar gyfer Rhybudd o Gynnig dan reolau gweithdrefnau’r Cyngor, cynigion gweithdrefnol i’w codi o’r llawr yn ystod y drafodaeth ac un o’r rheini oedd trosglwyddo pwnc trafodaeth i gorff gwahanol trwy benderfyniad mwyafrifol gan y Cyngor a hon oedd y ddarpariaeth a ddefnyddiwyd heddiw. Roedd hi’n fodlon cadarnhau hyn yn ysgrifenedig i’r Cynghorydd Chorlton.

 

      

 

     Ymatebodd y Cynghorydd Chorlton trwy ddweud nad oedd hyn yn gwbl gywir oherwydd bod y Cadeirydd wedi datgan ar ddechrau’r cyfarfod nad oedd trafodaeth i fod ac y buasai’n symud ymlaen yn syth i’r bleidlais.   Nid oedd ef wedi gweld hyn erioed mewn unrhyw Gyfansoddiad na Rheolau Trafodaeth.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Swyddog Monitro bod cynnig gweithdrefnol i ohirio wedyn yn mynd yn gynnig perthnasol i’w drafod.  Petai hynny heb ei gario yna buasai’n rhaid cael trafodaeth lawn.  Roedd hon yn ddarpariaeth gyfreithlon a buasai’n rhoi copi o’r Cyfansoddiad yn y cyswllt hwn i’r Cynghorydd Chorlton.

 

      

 

     Diolchodd y Cynghorydd Chorlton i’r Swyddog Monitro am ei hymateb ond dywedodd unwaith yn rhagor mai nid dyma a ddywedodd y Cadeirydd a’r Arweinydd ar ddechrau’r cyfarfod.

 

      

 

     PENDERFYNWYD i gytuno i gael cyflwyniad gan Eden yn y Flwyddyn Newydd i gyfarfod o’r Pwyllgor Trosolwg Addysg a bod holl aelodau’r Cyngor yn cael gwahoddiad iddo.

 

      

 

     (Oherwydd eu busnesau amaethyddol gwnaed datganiad o ddiddordeb yn y mater gan y Cynghorwyr P. M. Fowlie, T. Jones, R. L. Owen, R. G. Parry, OBE, E. Roberts, P. S. Rogers, a H. W. Thomas).

 

      

 

10

DIRPRWYAETHAU GAN YR ARWEINYDD

 

      

 

     Cyflwynwyd er gwybodaeth - Adroddiad gan y Rheolwr-gyfarwyddwr yn nodi unrhyw newidiadau i’r cynllun dirprwyo mewn perthynas â threfniadau Gweithredol a wnaed gan yr Arweinydd ers y cyfarfod arferol diwethaf (Cyfeirir at hyn yn Rheol 4.4.1.4 y Rheolau Gweithdrefnau Trefniadau Gweithredol ar Dudalen 131 ? y Cyfansoddiad).

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth.

 

      

 

     Wrth gloi’r cyfarfod dymunodd y Cadeirydd Nadolig Hapus a Blwyddyn Newydd Dda i’r Aelodau a’r Swyddogion.

 

      

 

     Wedyn darllennodd yr englyn isod a gyflwynwyd iddo gan Mr. R. Meirion Jones, Cyfreithiwr yn crynhoi beth oedd gwir ystyr y Nadolig:

 

      

 

     “Celyn a thelyn a thân - ar aelwyd

 

     A charoli diddan;

 

     A’r hen fyd i gyd yn gân

 

     O achos y Mab Bychan.”

 

                     (Robert Owen, Llanllyfni)

 

      

 

      

 

                                     

 

     Daeth y cyfarfod i ben am 3:45 pm

 

 

 

 

 

Y CYNGHORYDD ALED MORRIS JONES

 

CADEIRYDD