Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 12 Mai 2011

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Iau, 12fed Mai, 2011

Ynglyn â

Dydd Iau, 12 Mai, 2011, 10am.

Siambr y Cyngor, Swyddfa'r Sir, Llangefni

Noder: Oherwydd natur rhai o'r dogfennau isod, nid yw pob un yn hollol ddwyieithog nac yn hollol hygyrch i bobl gydag amhariadau gweledol, ac ni fydd modd defnyddio 'darllenwr sgrin' i ddarllen y dogfennau hyn.

Agorir y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd G O Jones

Rhaglen

1. Cofnodion

Cyflwyno i'w cadarnhau a'u harwyddo, gofnodion y cyfarfod o'r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 8 Mawrth, 2011.
(Papur 'A')

2. Datganiadau o ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog yng nghyswllt unrhyw eitem o fusnes.

3. Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, y Bwrdd Comisiynwyr neu Bennaeth y Gwasanaeth Tâl

4. Cwestiynau a dderbyniwyd yn unol â Rheol 4.1.12.2.1

Dim wedi'u derbyn.

5. Cyflwyno deisebau

Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad.

6. Newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor

(Noder: Swyddogaeth Gweinidogion Cymru yw cymeradwyo newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor a byddir yn gofyn am eu cymeradwyaeth ond gofynnir i'r Cyngor gymeradwyo'r argymhellion y cyfeirir atynt yn 6.1 - 6.4 isod)

6.1 Rhoddion a lletygarwch

(a) Adrodd bod y Bwrdd Comisiynwyr yn ei gyfarfod ar 26 Ebrill, 2011 wedi penderfynu fel a ganlyn:-

“Argymell i'r Cyngor a Gweinidogion Cymru, y dylid cymeradwyo'r Protocol yn Atodiad 2 a'r Ffurflen Ddatganiad yn Atodiad 3 a chymeradwyo eu hychwanegu at Gyfansoddiad y Cyngor yn rhan 5.9 ac awdurdodi swyddogion i wneud unrhyw newidiadau canlyniadol i'r Cyfansoddiad.

Gofyn i'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn gofyn iddynt lunio polisi rhoddion a lletygarwch safonol ar gyfer Cymru.”

(b)Cyflwyno adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro fel y'i cyflwynwyd i'r Bwrdd Comisiynwyr ar 26 Ebrill, 2011.

(Papur 'B')

6.2 Adolygu Rheolau Gweithdrefn Materion Cynllunio

(a) Adrodd bod y Bwrdd Comisiynwyr yn ei gyfarfod ar 26 Ebrill, 2011 wedi penderfynu argymell i'r Cyngor Sir ac i'r Gweinidogion Cymreig y dylid diwygio Cyfansoddiad y Cyngor am gyfnod prawf o 12 mis ar gyfer:

“Newidiadau i egluro'r rheolau ynghylch ceisiadau gan Aelodau/Swyddogion a'u perthnasau a'u ffrindiau agos y dylid eu cyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio am benderfyniad;

Newidiadau i'r rheolau - na ddylai Aelodau ar y Pwyllgor Cynllunio gael gwneud nac eilio argymhelliad na phleidleisio ar gais yn eu wardiau, a

Newidiadau i'r rheolau - na chaiff aelodau o'r Pwyllgor Cynllunio, ac eithrio pan fônt yn siarad fel Cynghorydd Lleol, gymryd rhan mewn cais yn y Pwyllgor os nad ydynt wedi bod yn bresennol pan gafodd y cais hwnnw ei ystyried yn sylweddol gan y Pwyllgor yn flaenorol. Mae hyn yn cynnwys unrhyw ymweliad safle swyddogol sydd wedi digwydd.

Nodi bod yr holl newidiadau i'r Rheolau i weithredu'r uchod wedi'u cynnwys yn yr atodlen i'r adroddiad a bod unrhyw fân newidiadau eraill i'r Rheolau wedi'u nodi yn yr atodiad i'r adroddiad.”

(b) Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd) a'r Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol y'i cyflwynwyd i'r Bwrdd Comisiynwyr ar 26 Ebrill, 2011.

(Papur 'C')

6.3 Y Cyhoedd yn siarad yn y Pwyllgor Cynllunio

(a) Adrodd yn ôl bod y Bwrdd Comisiynwyr yn ei gyfarfod ar 26 Ebrill, 2011 wedi penderfynu derbyn cynnwys yr adroddiad a'i fod yn argymell i'r Cyngor Sir ac i Weinidogion Cymru eu bod yn:

“Newid y protocol ar Siarad Cyhoeddus er mwyn adlewyrchu'r newidiadau sy'n angenrheidiol ar ôl y cyfnod prawf 12 mis.

Mabwysiadu'r protocol yn barhaol fel rhan o Reolau Gweithdrefn Materion Cynllunio fel y cânt eu nodi yn y Cyfansoddiad.”

(b) Cyflwyno adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio fel y'i cyflwynwyd i'r Bwrdd Comisiynwyr ar 26 Ebrill, 2011.

(Papur 'CH')

6.4 Cynrychioli Cynghorau Cymuned / Tref ar y Pwyllgor Safonau

(a) Bod y Bwrdd Comisiynwyr yn ei gyfarfod ar 26 Ebrill, 2011, wedi penderfynu fel a ganlyn:

“PENDERFYNWYD argymell i'r Cyngor ac i Weinidogion Cymru eu bod yn diwygio Cyfansoddiad y Cyngor trwy gynyddu'r nifer o aelodau sy'n cynrychioli Cynghorau Tref / Cymuned ar y Pwyllgor Safonau i ddau, ac awdurdodi swyddogion i wneud unrhyw newidiadau canlyniadol i'r Cyfansoddiad.”

(b) Cyflwyno adroddiad diwygiedig gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol/ Swyddog Monitro fel y'i cyflwynwyd i'r Bwrdd Comisiynwyr ar 26 Ebrill, 2011.

(Papur 'D')

7. Recriwtio Pwyllgor Safonau newydd

Cyflwyno adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro.
(Papur 'DD')

8. Indemniadau ar gyfer aelodau a swyddogion

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol.
(Papur 'E')

9. Cynllun Busnes Corfforaethol 2011-12

(a) Adrodd bod y Bwrdd Comisiynwyr yn ei gyfarfod ar 3 Mai, 2011 wedi penderfynu argymell i'r Cyngor Sir

“ei fod yn mabwysiadu'r Cynllun Busnes Corfforaethol drafft yn amodol ar yr isod:

Ei fod yn nodi'r atborth a dderbyniwyd ar y drafft cychwynnol o'r Cynllun Busnes Corfforaethol, yn amodol ar ymgorffori'r isod yn y ddogfen derfynol:

Cydnabod pwysigrwydd dinasyddion a chymunedau a phersbectif rhyngwladol i gefnogi amcanion a blaenoriaethau strategol y Cyngor;

Cydnabod pwysigrwydd adfywiad economaidd ac yn arbennig y Rhaglen Ynys Ynni ar lefel Gogledd Cymru, Cymru a'r Deyrnas Gyfunol;

Cadarnhau y dylid rhoddi blaenoriaeth yn 2011-12 i godi proffil Ynys Môn yn unol â'r uchod yn hytrach na rhoddi blaenoriaeth i reoli enw da ac y dylid canolbwyntio ar yr isod:

  • Gweithredu'n fwy effeithiol;
  • Rhaglen blaenoriaethau fforddiadwy;
  • Gwireddu'r cytundeb Canlyniadau
  • Adnewyddiad democrataidd.

Rhoi awdurdod i'r Swyddogion wneud unrhyw newidiadau pellach gan gynnwys manylion am dargedau a threfniadau monitro mewn ymgynghoriad gyda'r Comisiynwyr perthnasol;

Nodi'r bwriad i symud tuag at Gynllun Busnes Corfforaethol 3 blynedd o 2012 ymlaen i sicrhau aliniad gyda Chynllun Cymunedol diwygiedig a strategaeth ariannol ar gyfer y tymor canol. Fel rhan o'r dasg hon, cydnabod rôl bwysig Sgriwtini yn y broses.”

(b) Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth Polisi fel y'i cyflwynwyd i'r Bwrdd Comisiynwyr ar 3 Mai, 2011.

(Papur 'F')

10. CCA - Gwerthusiad Cymeriad Ardal Gadwraeth Llanfechell

(a) Adrodd bod y Bwrdd Comisiynwyr yn ei gyfarfod ar 26 Ebrill, 2011 wedi penderfynu argymell i'r Cyngor Sir fel a ganlyn:

“cymeradwyo'r Gwerthusiad o Gymeriad Ardal Gadwraeth Llanfechell a chefnogi cyflwyno'r ddogfen i'r Cyngor Llawn nesaf i'w mabwysiadu fel Canllawiau Cynllunio Atodol.”

(b) Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd) fel y'i cyflwynwyd i'r Bwrdd Comisiynwyr ar 26 Ebrill, 2011.

(Papur 'FF')

11. Cynllun Plant a Phobl Ifanc 2011-2014

(a) Adrodd bod y Bwrdd Comisiynwyr yn ei gyfarfod ar 26 Ebrill, 2011 wedi penderfynu fel a ganlyn:

“PENDERFYNWYD argymell i'r Cyngor Sir ei fod yn cymeradwyo cynnwys y Cynllun Plant a Phobl Ifanc ar gyfer 2011-14.”

(b) Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden)

(Papur 'G')

12. Cydbwysedd gwleidyddol

Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro.
(Papur 'NG')

13. Polisi'r Awdurdod Lleol mewn perthynas â'r Swyddfa Cofnodiadau Troseddol

(a) Adrodd bod y Bwrdd Comisiynwyr yn ei gyfarfod ar 26 Ebrill, 2011 wedi mabwysiadu'r Polisi yng nghyswllt staff, contractwyr annibynnol a gwirfoddolwyr ar ran y Cyngor ac;

(b) Wedi argymell i'r Cyngor Sir ei fod yn “mabwysiadu'r Polisi fel yr oedd yn ymwneud ag aelodau etholedig ac aelodau a gyfetholwyd fel y manylir ar hynny yn yr adroddiad.”

(c) Cyflwyno adroddiad yr Uwch Gyfreithiwr (Gwasanaethau Plant) fel y'i cyflwynwyd i'r Bwrdd Comisiynwyr ar 26 Ebrill, 2011.

(Papur 'H')

14. Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio

Cyflwyno er gwybodaeth, adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio.
(Papur 'I')

15. Enwebiadau i gyrff allanol

Cyflwyno adroddiad y Cyfreithiwr i'r Swyddog Monitro.
(Papur 'L')

16. Adroddiad ar gyflwr yr ardal

Cyflwyno adroddiad llafar gan Arweinydd y Cyngor.

17. Dirprwyo

(a) Bydd y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro yn cyflwyno adroddiad er gwybodaeth yn nodi unrhyw newidiadau i'r cynllun dirprwyo yng nghyswllt swyddogaethau'r Pwyllgor Gwaith a wnaed gan yr Arweinydd ers y cyfarfod Cyffredin diwethaf (Rheol 4.4.1.4 Rheolau Gweithdrefn y Pwyllgor Gwaith yn y Cyfansoddiad) a hyd at 16 Mawrth 2011.

(Papur 'LL')

(b) Adrodd na wnaed unrhyw ddirprwyo gan y Bwrdd Comisiynwyr rhwng 16 Mawrth, 2011 a dyddiad dosbarthu'r rhaglen hon.

18. Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru

Derbyn adroddiad llafar gan y Cynghorydd Aled Morris Jones, un o gynrychiolwyr y Cyngor hwn ar Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, ar gyfarfodydd a gynhaliwyd gan yr Awdurdod hwnnw rhwng 1 Mawrth 2011 a 31 Ebrill 2011.

19. Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru

Derbyn adroddiad llafar gan y Cynghorydd P S Rogers, cynrychiolydd y Cyngor hwn ar Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru ar gyfarfodydd a gynhaliwyd gan yr Awdurdod hwnnw rhwng 1 Mawrth a 31 Ebrill, 2011.

20. Cynigion a dderbyniwyd yn unol â Rheol 4.1.2.2.12 y Cyfansoddiad

Cyflwyno'r Rhybudd o Gynigiad canlynol gan y Cynghorwyr K P Hughes, Aled Morris Jones, Bryan Owen, G O Parry MBE ac Eric Roberts:

“Rydym ni sydd wedi arwyddo isod yn gofyn i'r Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro alw cyfarfod arbennig o Gyngor Sir Ynys Môn i drafod cyfarwyddyd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol dyddiedig 28 Mawrth, 2011 i adolygu ymhellach drefniadau etholaethol Ynys Môn.

Bwriedir i'r adroddiad terfynol gael ei gyflwyno i'r Gweinidog erbyn 30 Medi, 2011.

Ni fydd yr amserlen hon yn caniatáu cyfnod cychwynnol o ymgynghori gyda chymunedau Ynys Môn ar ddechrau'r adolygiad.”

21. Telerau ac amodau cyflogaeth y Pennaeth Gwasanaethau Tâl a Phrif Weithredwr presennol a deilydd y swydd yn y dyfodol

(a) Yn dilyn cefnogi yn gynnes ac yn unfrydol apwyntiad Mr Richard Parry Jones i swydd y Rheolwr-gyfarwyddwr, fe benderfynodd y Pwyllgor Penodi ar 3 Mai 2011 argymell i'r Cyngor Sir fel a ganlyn:

“Bod y Cyngor yn ail-ddynodi teitl swydd y Rheolwr-gyfarwyddwr yn un Prif Weithredwr;

Bod y Cyngor yn cymeradwyo Disgrifiad Swydd a Manyleb Bersonol swydd y Prif Weithredwr yn unol â'r dogfennau sydd ynghlwm wrth yr Adroddiad hwn;

Y bydd cyflog y Rheolwr-gyfarwyddwr / Prif Weithredwr sydd wedi'i apwyntio ar hyn o bryd ar bwynt sefydlog o £110k y flwyddyn;

Gofyn am Adroddiad ynglŷn â goblygiadau'r apwyntiad hwn i'r Gwasanaethau Addysg a Hamdden a bod trefniadau llanw addas yn cael eu gwneud ar frys yn achos swydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden) sydd yn wag;

Bod Adroddiad yn cael ei gyflwyno cyn diwedd 2011 i'r Pwyllgor Penodi i benderfynu ar drefniadau yn ymwneud â chyflog, telerau ac amodau, hysbysebu ac ati ar gyfer swydd y Prif Weithredwr nesaf sydd i'w benodi ar ôl Mai 2012.”

(b) Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid), y Swyddog Monitro a'r Rheolydd Gwasanaethau Adnoddau Dynol fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Penodi ar 3 Mai, 2011.

(Papur 'M') - aros am fersiwn Gymraeg

22. Gosod contractau

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid)
(Papur 'N')

23.Cynllun Lwfansau i Aelodau

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)
(Papur 'O')

24. Newidiadau i Gyllideb y Cyngor

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)
(Papur 'P')