Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 13 Gorffennaf 2004

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Mawrth, 13eg Gorffennaf, 2004

Cyngor Sir Ynys Môn

 

Cyfarfod Arbennig o Gyngor Sir Ynys Môn ar 13 Gorffennaf 2004

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd John Byast - Is-Gadeirydd yn y Gadair  

 

Y Cynghorwyr Mrs. B. Burns, W.J. Chorlton, J.M. Davies,

P.J. Dunning, E.G. Davies, J.A. Edwards, K. Evans, C.Ll. Everett,

D.R. Hughes, R.Ll. Hughes, W.I. Hughes, G.O. Jones,

H.E. Jones, J.A. Jones, O.G. Jones, A.M. Jones, R.L. Owen,

R.G. Parry OBE, D.A. Lewis Roberts, G.W. Roberts OBE,

John Roberts, W.T. Roberts, P.S. Rogers, J. Rowlands, E. Schofield,

H. Noel Thomas, H.W. Thomas, K. Thomas, John Williams,

W.J. Williams.  

 

 

 

WRTH LAW:

 

Rheolwr-gyfarwyddwr

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a'r Amgylchedd)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden)

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro

Pennaeth Gwasanaeth (Polisi)

Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol

Cydlynydd Gwerth Gorau a Pherfformiad (NE)

Cyfreithiwr (RMJ)

Swyddog y Wasg 

Swyddog Pwyllgor (MEH)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr Keith Evans, P.M. Fowlie, D.R. Hadley, Fflur M. Hughes,

R.Ll. Jones, Bryan Owen, G. Allan Roberts, J. Arwel Roberts.

 

 

Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd John Roberts

 

1

DATGANIADAU O DDIDDORDEB

 

Cafwyd Datganiadau o Ddiddordeb gan yr Aelodau a ganlyn:

 

Gwnaeth yr Cynghorydd J. Byast ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag eitem 4 a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio ar yr eitem hon.  Etholwyd y Cynghorydd Mrs. B. Burns i'r Gadair am yr eitem.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Bob Parry OBE ddatganiad o ddiddordeb yng nghyswllt unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â phartner ei fab sy'n gweithio yn yr Adran Addysg.

 

Gwnaeth y Cynghorydd G.W. Roberts OBE ddatganiad o ddiddordeb mewn unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â gwaith ei ferch yn yr Adran Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol.

 

Gwnaeth y Cynghorydd O. Glyn Jones ddatganiad o ddiddordeb mewn unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â gwaith ei wraig yn yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd W.J. Chorlton ddatganiad o ddiddordeb mewn unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â gwaith ei ferch yn yr Adran Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol.

 

 

 

2

CYHOEDDIADAU

 

 

 

Cydymdeimlodd yr Is-Gadeirydd gyda'r aelodau a'r staff a oedd wedi cael profedigaeth.

 

 

 

Llongyfarchwyd y staff a ganlyn ar ennill graddau M.A.:-

 

 

 

Anwen Davies (Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol)

 

Liz Jones (Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol)

 

Barbara Williams (Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol)

 

Nicola Day (Adran Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo)

 

Rhian Hughes (Adran y Rheolwr-gyfarwyddwr)

 

Meirion Edwards (Yr Adran Gynllunio a'r Amgylchedd)

 

 

 

Dywedwyd bod Mr. Thomas Edwards (Yr Adran Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo) wedi derbyn gwobr yr Arholwyr Allanol am y myfyriwr Lefel 1 gorau ar gwrs Rheoli Stadau ym Mhrifysgol John Moores, Lerpwl.

 

 

 

Dymunwyd yn dda i'r Cynghorydd Dennis Hadley a fydd, gyda phump o rai eraill, yn rhwyfo o gwmpas arfordir Ynys Môn gan ddechrau ar 19 Gorffennaf a chwblhau'r daith cyn pen 24 awr.  Roeddynt yn codi arian 'Row for Dough' i brynu offer chwaraeon i bobl ifanc sy'n bwriadu cystadlu yng Ngemau'r Ynysoedd 2009.

 

 

 

Dymunwyd yn dda i Mick McConville o Gaergybi a fydd yn rhan o Dîm Saethu Colomennod Clai Cymru ym Mhencampwriaethau'r Byd ar 15 - 17 Gorffennaf.

 

 

 

Llongyfarchwyd y rhai a ganlyn :-

 

 

 

Rhys Jones (17 oed) o Dalwrn ar fod yn Bencampwr Ieuenctid Prydain yng nghyfarfod diweddar Cymdeithas Saethyddiaeth Genedlaethol Prydain.

 

 

 

Andrew Goswell o Glwb Codi Pwysau Caergybi ar ennill Medalau Aur, Arian ac Efydd ym Mhencampwriaethau'r Gymanwlad ym Malta.  

 

 

 

Erbyn diwedd yr wythnos roedd y Cynghorydd Keith Thomas yn mynd i'r ysbyty a dymunodd yr aelodau yn dda iddo.

 

 

 

Wedyn cyhoeddodd Arweinydd y Cyngor ei fwriad i sefydlu Panel Adolygu Gweithdrefnau gyda  chydbwysedd gwleidyddol.  

 

 

 

3

CYNLLUN GWELLA 2004/2005

 

 

 

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) ar y pwnc uchod.

 

 

 

Dywedwyd bod raid i bob un o'r 22 Cyngor Unedol yng Nghymru, trwy gyfraith, gynhyrchu Cynllun Gwella bob blwyddyn a nodi yn y cynllun hwnnw amcanion, blaenoriaethau, targedau gwella a gwybodaeth am berfformiad.  

 

 

 

Ynghlwm wrth yr adroddiad hwn roedd atodiad - un a gyflwynwyd i'r Pwyllgor hwn, ac a oedd wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith ar 18 Mai 2004 ac a aeth wedyn i'r Cyngor Sir ar 27 Mai pan benderfynwyd:-

 

 

 

"     a.     'derbyn yr amserlen  ddiwygiedig ar gyfer cynhyrchu'r Cynllun Gwella;

 

 

 

b.     rhoi awdurdod i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo, mewn ymgynghoriad gyda'r Arweinydd, i barhau a bwrw ymlaen gyda'r gwaith o gwblhau'r Cynllun Gwella.

 

 

 

c.     bod y Cyngor yn derbyn a mabwysiadu'r Fframwaith Cynllunio Corfforaethol.  

 

 

 

ch.     dan y pennawd 'Gwella trwy Adfywio Cymunedau' yn Atodiad 2 y Fframwaith Cynllunio Corfforaethol y cyfeirir ato uchod, newid y frawddeg olaf i ddarllen fel a ganlyn:-

 

 

 

     'Datblygu diwylliannau a diogelu'r Iaith Gymraeg mewn cymunedau.'

 

 

 

d.     bod ymateb y Cyngor  i'r Asesiad Gwella Corfforaethol (AGC) yn cael ei ymgorffori yn y Cynllun Gwella.

 

 

 

dd.     derbyn y Fframwaith Rheoli Perfformiad (Atodiad 3 yr adroddiad i'r Pwyllgor hwn) mewn egwyddor  yn amodol ar ddatblygu ymhellach ac egluro'r cyfrifoldebau ar lefel Gorfforaethol a lefel Gwasanaeth.

 

 

 

e.     nodi y bydd adroddiad pellach ar Gytundebau Polisi yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith yn gynnar ym mis Gorffennaf 2004."

 

      

 

Yn ei gyfarfod ar 5 Gorffennaf, 2004 rhoes y Pwyllgor Gwaith newydd ragor o sylw i'r fersiwn ddrafft o'r Cynllun Gwella ar gyfer 2004/2005 a phenderfynu fel a ganlyn:-

 

 

 

Ÿ

Argymell i'r Cyngor Sir ei fod yn ailgadarnhau y penderfyniad a wnaed ganddo ar 27 Mai 2004 ynghylch paratoi'r Cynllun fel y manylir ar hynny ym mharagraffau 1-6 fel y cânt eu cynnwys dan baragraff 1.2 yr adroddiad i'r Pwyllgor hwn.

 

 

 

Ÿ

Nodi y bydd y Cynllun Drafft yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor Sir ar 13 Gorffennaf 2004.

 

 

 

Ÿ

Rhoddi'r awdurdod i'r Arweinydd ac i'r Aelod Portffolio (Staff, Polisi a Pherfformiad) i benderfynu ar yr aelodau etholedig a fydd yn gwasanaethu ar y Panel Rheoli Perfformiad.

 

 

 

Wedyn cafwyd cyflwyniad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo), y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) a'r Cydlynydd Gwerth Gorau a Pherfformiad ar gefndir y Cynllun Gwella ac ar y fersiwn ddrafft o'r Cynllun a gyflwynwyd i'r Cyngor.

 

 

 

Ar ôl sesiwn o gwestiynau ac atebion PENDERFYNWYD :-

 

 

 

3.1

cadarnhau penderfyniad y Pwyllgor Gwaith ar 5 Gorffennaf, 2004.

 

 

 

3.2

rhoi'r awdurdod i Arweinydd y Cyngor, y Deilydd Portffolio (Personel, Polisi a Pherfformiad) a'r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo) symud ymlaen gyda'r Cynllun Gwella.

 

 

 

4

CYNLLUN LWFANSAU CADEIRYDD AC IS-GADEIRYDD Y CYNGOR

 

 

 

Cyflwynwyd - adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) ar arolwg o'r lwfansau a delir i Gadeirydd ac Is-Gadeirydd y Cyngor Sir.

 

 

 

Dywedwyd bod y ddau lwfans yn cael eu talu dan Adrannau 22 a 24 Deddf Llywodraeth Leol 1972 ac yn hynny o beth yn wahanol i'r lwfansau eraill a delir i aelodau.

 

 

 

Hyd at 2000, talwyd lwfansau £4,000 i'r Cadeirydd a £1,500 i'r Is-Gadeirydd.  Yn dilyn trafodaeth ym Mhwyllgorau Gwaith 27 Mawrth a 17 Ebrill 2000, lleihawyd y cyfraddau hyn i £3,000 i'r Cadeirydd a £1,000 i'r Is-Gadeirydd.  Nid oedd yr arolwg gan y Cynulliad Cenedlaethol yn 2002 yn cael unrhyw effaith ar y cyfraddau hyn ac eithrio i'r graddau bod mynegeio i gydfynd â chwyddiant wedi'i gyflwyno yn achos y lwfansau hyn a hefyd y rhai eraill.

 

 

 

Ar ôl codi'r lwfansau i gyd-fynd â chwyddiant talwyd £3,068 i'r Cadeirydd a £1,023 i'r Is-Gadeirydd yn 2003/04.  

 

 

 

Roedd y rhain yn lwfansau trethadwy a'r bwriad oedd ad-dalu'r sawl sydd yn y swyddi am gostau fyddai fel arfer yn drethadwy.

 

 

 

Roedd costau eraill yn gysylltiedig gyda dyletswyddau dinesig Cadeirydd y Cyngor.  Roedd gan y Cyngor "Gronfa i'r Cadeirydd", sydd, yn ôl traddodiad ac arfer, wedi bod ar gael i Gadeirydd y Cyngor i gefnogi achosion haeddiannol yn ôl ei ddisgresiwn.  Rhoes y Cyngor y gorau i dalu arian o'r fath yn uniongyrchol i'r Cadeirydd rai blynyddoedd yn ôl.  Hefyd roedd y gyllideb "Ddinesig a Seremonïol" yn cwrdd â chostau'r swyddogaethau dinesig.

 

 

 

Fel rhan o'r adroddiad i'r Cyngor amgaewyd arolwg a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Gyngor Sir Caergrawnt o Lwfansau'r Maer a'r Dirprwy Faer.  Yng Nghymru roedd y wybodaeth a gafwyd gan y rhan fwyaf o'r awdurdodau yn dangos bod y lwfansau yn amrywio ond ar y cyfan yn uwch na'r lwfansau a dalwyd gan awdurdodau Lloegr, gyda'r Maer/Cadeirydd yn derbyn lwfans oddeutu £9,000 ar gyfartaledd.  Roedd lwfans Ynys Môn yn un o'r rhai isaf yng Nghymru.

 

 

 

Petai'r Cyngor yn dymuno codi'r lwfans i'r Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd buasai'n rhaid cadw mewn cof mai dim ond i gwrdd â threuliau'r swydd y gellid yn statudol awdurdodi'r fath daliadau ac roedd y rhan fwyaf o'r treuliau yn cael eu talu'n uniongyrchol gan y Cyngor.    'Doedd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol ddim tystiolaeth o dreuliau uniongyrchol y Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd a rhoes gyngor yn erbyn caniatáu cynnydd sylweddol yn y lwfans oni bai bod tystiolaeth ar gael i gefnogi hynny.  

 

 

 

Fodd bynnag, petai'r Cyngor yn dymuno codi'r lwfans er mwyn ad-dalu'r Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd am eu hamser a'u cyfrifoldeb y ffordd iawn o wneud hynny fyddai talu lwfans cyfrifoldeb arbennig hefyd.  Byddai hwnnw wedyn yn cyfrif yn erbyn uchafswm nifer y Lwfansau Cyfrifoldeb Arbennig ac efallai yn arwain at ddileu Lwfansau Cyfrifoldeb Arbennig eraill dan y cynllun.  Buasai'n rhaid adlewyrchu costau unrhyw newidiadau yn y Gyllideb Lwfansau Aelodau.  Roedd "trosiant" 2004-05 yn debygol o gynnwys hyn yn y gyllideb ond buasai'n rhaid ei chynyddu yn y dyfodol.

 

 

 

O'r herwydd rhoes y Cyfarwyddwr Corfforaethol wahoddiad i'r Cyngor ystyried y materion a ganlyn:-

 

 

 

Ÿ

symiau diwygiedig i'r ddau lwfans;

 

 

 

Ÿ

a ddylid ôl-ddyddio'r taliad i ddyddiad cyfarfod blynyddol y Cyngor;

 

 

 

Ÿ

a ddylid mynegeio'r lwfansau yn y dyfodol yn yr un ffordd â'r lwfansau cyfrifoldeb arbennig.

 

 

 

Roedd Arweinydd Grwp Plaid Cymru yn ystyried bod y lwfans yn iawn fel yr oedd gan ychwanegu y buasai y Grwp yn pleidleisio yn erbyn y tâl a argymhellwyd.  

 

 

 

Ar ôl trafodaeth PENDERFYNWYD

 

 

 

Ÿ

Neilltuo £5,000 a £2,000 i Gadeirydd ac Is-Gadeirydd y Cyngor Sir

 

 

 

Ÿ

Y buasai'r ffigyrau hyn yn cael eu cyflwyno o ddyddiad y cyfarfod cyffredinol blynyddol ar 24 Mehefin 2004 a'u mynegeio yn yr un ffordd â'r lwfansau sylfaenol yn y dyfodol.

 

 

 

5

PWYLLGOR SAFONAU -  AELODAETH

 

 

 

PENDERFYNWYD

 

 

 

5.1

gohirio ystyried yr eitem hon

 

 

 

5.2

nodi y bydd y Panel Adolygu Gweithdrefnau a sefydlwyd yn delio gyda'r eitem hon yn y man ac wedi hynny'n cyflwyno adroddiad i'r Cyngor llawn.

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 3.20 p.m.

 

 

 

Y CYNGHORYDD J. BYAST

 

     IS-GADEIRYDD