Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 13 Gorffennaf 2011

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Mercher, 13eg Gorffennaf, 2011

Ynglyn â

Dydd Mercher 13 Gorffennaf 2011, 11.30am.
Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni.

Noder: Oherwydd natur rhai o'r dogfennau isod, nid yw pob un yn hollol ddwyieithog nac yn hollol hygyrch i bobl gydag amhariadau gweledol, ac ni fydd modd defnyddio 'darllenwr sgrin' i ddarllen y dogfennau hyn.

Agorir y cyfarfod gyda gweddi a offrymir gan y Cynghorydd Eric Jones

Rhaglen

1. Datganiad o ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

2. Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor, y Bwrdd Comisiynwyr neu Bennaeth y Gwasanaethau Tâl

3. Ymgynghoriad Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru - Cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol 2017-2022

(a) Dweud bod y Bwrdd Comisiynwyr yn eu cyfarfod ar 20 Mehefin, 2011, wedi penderfynu “argymell i'r cyfarfod arbennig o'r Cyngor Sir llawn, a gynhelir ym mis Gorffennaf, bod yr Awdurdod hwn yn mynegi diddordeb mewn cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2017.”

(b) Cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr ynghyd â gohebiaeth ddyddiedig 1 Mehefin, 2011 a dderbyniwyd Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn y cyswllt hwn.
(Papur A)