Dydd Mawrth 13 Medi 2011.
Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni.
Noder: Oherwydd natur rhai o'r dogfennau isod, nid yw pob un yn hollol ddwyieithog nac yn hollol hygyrch i bobl gydag amhariadau gweledol, ac ni fydd modd defnyddio 'darllenwr sgrin' i ddarllen y dogfennau hyn.
Agorir y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd E G Davies
(i) Y Cadeirydd ar ran y Cyngor i estyn croeso cynnes i'r Henadur Mrs M A Edwards MBE, cyn aelod o Gyngor Rhanbarth Gwledig Aethwy a Chyngor Bwrdeistref Ynys Môn ar achlysur dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed ar 2 Awst 2011.
(ii) Bydd y Cadeirydd yn cyflwyno gwobrau i Aelodau'r Tîm llwyddiannus o Ynys Môn gymerodd ran yn ddiweddar yng Ngemau'r Ynysoedd ar Ynys Wyth.
(iii) Ceir cyflwyniad gan Mr Howard Davies, Prif Weithredwr, Cymdeithas Genedlaethol yr Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol.
Bydd cyfle hefyd i'r aelodau gael sesiwn cwestiwn ac ateb yn dilyn y cyflwyniad.
Cyflwyno i'w cadarnhau ac i'w llofnodi, gofnodion y cyfarfodydd o'r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:
Derbyn unrhyw ddatganiad gan unrhyw Aelod neu Swyddog yng nghyswllt unrhyw eitem o fusnes.
(a) Cyflwyniad gan y Comisiynydd Alex Aldridge.
(Adroddiad wedi'i gylchredeg eisoes i aelodau ac ar gael yma)
(b) Cyflwyno ymateb Carl Sargeant AC, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Llywodraeth Cymru i'r adroddiad.
(Papur DD)
Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad.
(Noder: Gweinidogion Cymru sy'n gyfrifol am gymeradwyo newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor a byddir yn ceisio eu cymeradwyaeth i'r newidiadau hyn, ond gofynnir i'r Cyngor gymeradwyo'r argymhellion y cyfeirir atynt yn 6.1 a 6.2 isod.)
(a) Adrodd i'r Bwrdd Comisiynwyr yn ei gyfarfod ar 25 Gorffennaf 2011 benderfynu fel a ganlyn:
“Argymell i'r Cyngor Sir a Gweinidogion Cymru eu bod yn derbyn y newidiadau yn Atodiad 4 o reolau gweithdrefn y gyllideb a chymeradwyo eu hychwanegiad i Gyfansoddiad y Cyngor yn 4.3 ac i awdurdodi Swyddogion i wneud unrhyw newidiadau dilyniadol i'r Cyfansoddiad;â€
Cyflwyno Atodiad 4 adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) fel y'i cyflwynwyd i'r Bwrdd Comisiynwyr ar 25 Gorffennaf 2011.
(Papur E)
(a) Adrodd bod y Bwrdd Comisiynwyr yn ei gyfarfod ar 5 Medi 2011 wedi penderfynu argymell i'r Cyngor Sir ac i Weinidogion Cymru fel a ganlyn:
(b) Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)
(Papur F)
(a) Adrodd i'r Bwrdd Comisiynwyr yn ei gyfarfod ar 5 Medi 2011 yn dilyn ystyried yr uchod, benderfynu “bod y mater yn cael ei gyfeirio'n ôl i'r Cyngor Sir i'w ystyried a bod awdurdod yn cael ei roddi yn y cyfamser i'r Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) ymgynghori ymhellach gydag arweinwyr y grwpiau i baratoi ymateb i'r ymgynghoriad.â€
(b) Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) fel y'i cyflwynwyd i'r Bwrdd Comisiynwyr ar 5 Medi 2011.
(Papur 'FF')
Yn unol â pharagraff 4.5.16.10 o Gyfansoddiad y Cyngor, cyflwyno, er gwybodaeth, adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd).
(Papur G)
[Noder: Ymdriniwyd â'r mater hwn fel mater brys yng nghyfarfod y Bwrdd Comisiynwyr ar 25 Gorffennaf 2011. Mae'r Cyfansoddiad yn dweud bod yn rhaid i benderfyniadau a gymerwyd fel mater o frys gael eu hadrodd yn ôl i'r cyfarfod nesaf o'r Cyngor i roi'r rhesymau am y brys].
Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid).
(Papur NG)
Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd)
(Papur H) Dogfen ar wahân
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi).
(Papur I)
(a) Ystyried diddordeb cyhoeddus ryddhawyd ar 29 Mehefin 2011 gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn dilyn ymchwiliad i gŵyn o gamweinyddu yn erbyn y Cyngor. (Cyfeirnod Achos yr Ombwdsmon 200902138).
(b) Cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr.
(Papur L)
Bydd y Prif Weithredwr yn cyflwyno er gwybodaeth, adroddiad yn nodi unrhyw newidiadau i'r cynllun dirprwyo mewn perthynas â swyddogaethau Gweithredol wnaed gan y Comisiynwyr ers y cyfarfod Cyffredin diwethaf (Rheol 4.4.1.4 y Cyfansoddiad yng nghyswllt Rheolau Gweithdrefn)
(Papur LL)
Derbyn adroddiad llafar gan y Cynghorydd Aled Morris Jones, un o gynrychiolwyr y Cyngor hwn ar Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, ar gyfarfodydd a gynhaliwyd gan yr Awdurdod hwnnw rhwng 1 Mai 2011 a 31 Awst 2011.
Derbyn adroddiad llafar gan y Cynghorydd P. S. Rogers, cynrychiolydd y Cyngor hwn ar Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru, ar gyfarfodydd a gynhaliwyd gan yr Awdurdod hwnnw rhwng 1 Mai a 31 Awst 2011.