Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 14 Medi 2010

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Mawrth, 14eg Medi, 2010

Ynglyn â

Cyfarfod o Gyngor Sir Ynys Môn Siambr y Cyngor, Swyddfa'r Sir, Llangefni Dydd Mawrth, 14 Medi, 2010 am 2pm

Noder: Oherwydd natur rhai o'r dogfennau isod, nid yw pob un yn hollol ddwyieithog nac yn hollol hygyrch i bobl gydag amhariadau gweledol, ac ni fydd modd defnyddio 'darllenwr sgrin' i ddarllen y dogfennau hyn.

Agorir y cyfarfod â gweddi gan y Cynghorydd Fflur Hughes.

Rhaglen

1. Cofnodion

Cyflwyno i'w cadarnhau a'u llofnodi, gofnodion y cyfarfodydd o'r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:

2. Datgan Diddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

3. Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, yr Arweinydd, Aelodau'r Pwyllgor Gwaith neu Bennaeth y Gwasanaethau Tâl

4. Cyflwyno deisebau

Derbyn unrhyw gyflwyniad yn unol a Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad.

5. Adroddiad Blynyddol Pwyllgorau Trosolwg A Sgriwtini 2009/10

Cyflwyno adroddiad Blynyddol Trosolwg a Sgriwtini a rhoi diweddariad ar gynnydd gan Bennaeth Dros Dro Sgriwtini a'r Swyddog Sgriwtini.
(Papur 'CH')

6. Disgrifiadau Rôl a Manylion Personol i Aelodau

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Adnoddau Dynol.
(Papur 'D')

7. Newid y Weithdrefn Cwynion a Chanmoliaeth Gorfforaethol

Cyflwyno adroddiad y Cyfreithiwr i'r Swyddog Monitro fel a gyflwynwyd ac a gadarnhawyd yn y cyfarfod o'r Pwyllgor Gwaith ar 7 Medi 2010.
(Papur 'DD')

8. Sefydlu Grwp Llywio Adferiad y Cyngor Llawn

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro.
(Papur 'E')

9. Adroddiad Blynyddol ar Reoli'r Trysorlys

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) fel y cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 7 Medi, 2010.
(Papur 'F')

10. Newid gyda chael gwared o dir ym Mhenucheldre

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol). (Papur 'FF')

11. Ynys Ynni

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Datblygu Economaidd).
(Papur 'G')

12. Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol I Gymru

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro.
(Papur 'NG')

13. Stadau Gwasanaeth Llysoedd ei Mawrhydi

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro (Papur 'H') ynghyd â dogfen Ymgynghori (Dogfen ar wahân).

14. Lein Amlwch

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd a Chludiant)
(Papur 'I')

15. Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru

Derbyn adroddiad llafar gan y Cynghorydd P. S. Rogers, cynrychiolydd y Cyngor hwn ar Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru ar gyfarfodydd a gynhaliwyd gan yr Awdurdod hwnnw rhwng 1 Mai, 2010 a 31 Awst 2010.

16. Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru

Derbyn adroddiad llafar gan y Cynghorydd J. V. Owen, un o gynrychiolwyr y Cyngor hwn ar Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, ar gyfarfodydd gynhaliwyd gan yr Awdurdod hwnnw rhwng 1 Mai 2010 a 31 Awst 2010.

17. Dirprwyo gan yr Arweinydd

Bydd y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro yn cyflwyno, er gwybodaeth, adroddiad yn nodi unrhyw newidiadau i'r cynllun dirprwyo mewn perthynas â swyddogaethau'r Pwyllgor Gwaith wnaed gan yr Arweinydd ers y cyfarfod cyffredinol diwethaf (fel y cyfeiria Rheol 4.4.1.4 o Rheolau Gweithdrefn y Pwyllgor Gwaith yn y Cyfansoddiad). (Papur 'L').