Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 15 Chwefror 2007

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Iau, 15fed Chwefror, 2007

CYNGOR SIR YNYS MÔN

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar  15 Chwefror 2007

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd John Rowlands - Cadeirydd y Cyngor

 

Y Cynghorwyr J. M. Davies, P. J. Dunning, E. G. Davies,

J. Arwel Edwards, P. M. Fowlie, Mrs Fflur M. Hughes,

H. Eifion Jones, Eric Jones,  J. Arthur Jones, O. Glyn Jones,

A. M. Jones, R. Ll. Jones, Bryan Owen, R. L. Owen, R.G. Parry OBE, G. W. Roberts OBE, John Roberts, John Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Y Rheolwr-Gyfarwyddwr

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Gwasanaethau Amgylcheddol a Thechnegol),

Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid,

Pennaeth Gwasanaeth (Polisi),

Cyfreithiwr (RB)

Swyddog Pwyllgor (JMA).

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr John Chorlton; K.Evans; D.R.hughes; W.I.Hughes; D.A.Lewis-Roberts; G.A.Roberts; W.T.Roberts; H.Thomas; E.Schofield

 

 

 

 

 

 

 

 

Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd Eurfryn G.Davies.

 

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Gofynnodd y Cadeirydd i’r Cyfreithiwr annerch yr Aelodau ynglyn â’u gorfodaeth i Ddatgan Diddordeb. Dywedodd y Cyfreithiwr fod gan yr Aelodau hynny sydd yn Aelodau o Gyd Bwyllgor Cwmni Gwastraff Môn Arfon  ddiddordeb i’w ddatgan o dan baragraff 5.1.3.3 o’r Cod ymddygiad i Aelodau gan eu bod wedi eu penodi yn Aelodau o Gorff gan yr Awdurdod ac felly o dan baragraff 5.1.3.7.(i) mae’n rhaid i Aelod gyda diddordeb ddatgan y diddordeb hwnnw ar y cychwyn. Mae’n rhydd i’r Aelodau aros yn y cyfarfod i drafod y mater ond ni allant bleidleisio ar y mater. Cyn i’r bleidlais gael ei chymeryd, rhaid i unrhyw Aelod sydd wedi datgan diddordeb adael y cyfarfod. Bydd hyn yn cael ei gofnodi.  Yn unol â’r cyfarwyddyd, bu i’r Cynghorydd Eurfryn Davies, P.M.Fowlie, R.Llewelyn Jones, J.Arthur Jones, R.G.Parry OBE, John Roberts a John Williams ddatgan diddordeb gan eu bod yn aelodau o Gyd-Bwyllgor Cwmni Gwastraff Môn Arfon.

 

2

DERBYN DATGANIADAU GAN Y CADEIRYDD, ARWEINYDD, AEODAU'R PWYLLGOR GWAITH NEU BENNAETH Y GWASANAETHAU TÂL

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Eric Jones, Aelod wedi ei benodi i gynrychioli Llanfihangel Ysceifiog, i’w gyfarfod cyntaf fel Cynghorydd a dymunodd yn dda iddo i’r dyfodol.

Mynegwyd cydymdeimlad â’r Cynghorydd R.L.Owen ar ei brofedigaeth diweddar o golli ei chwaer a gyda’r Cynghorydd P.M.Fowlie, yntau wedi colli ei nain yn ddiweddar. Diolchodd y ddau Aelod i’r Cadeirydd ac i’r Aelodau am eu llythyrau a’u negeseuon o gydymdeimlad. Yn ogystal, dyweddodd y Cadeirydd fod Ms June Williams, Adran y Rheolwr Gyfarwyddwr, wedi colli ei thad a bod Mrs Eileen Ann Thomas wedi colli ei gwr, Mr John Thomas.

Safodd yr Aelodau fel arwydd o barch tuag at bawb a oedd wedi dioddef profedigaeth.

 

 

 

 

3.   CAU ALLAN Y WASG A’R CYHOEDD

 

 

 

      Mabwysiadwyd y canlynol:-

 

 

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1974, cauwyd allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y cafodd gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Paragraffau 7,8,9 Atodlen 12A y  Ddeddf eithriad ohoni. “

 

 

 

4.  CWMNI GWASTRAFF MON ARFON

 

 

 

Cyflwynwyd a derbyniwyd - gopi o adroddiad gan KPMG fel a gyflwynwyd i Gyd-Bwyllgor Gwmni Gwastraff Mon Arfon a gynhaliwyd ar 9 Chwefror 2007 ynghyd â’r penderfyniad yn deillio o gyfarfod y Cwmni Gwastraff Môn Arfon gynhaliwyd ar 9 Chwefror 2007.

 

 

 

Dywedodd Cadeirydd Cwmni Gwastraff Môn Arfon wrth yr Aelodau mai pwrpas y cyfarfod o’r Cyngor oedd i ddiweddaru Aelodau ar y sefyllfa bresennol ac i ofyn eu caniatâd i barhau gyda thrafodaethau gyda KPMG. Pwysleisiodd nad oedd disgwyliad ar i aelodau ddod i  benderfyniad terfynol yn y cyfarfod ac y byddai cyfarfod pellach o’r Cyngor Sir yn cael ei alw unwaith y byddai’r holl wybodaeth berthnasol i law.

 

 

 

Rhoddwyd cyfle i’r Aelodau holi Cadeirydd y Cyd-Bwyllgor, Y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Amgylcheddol a Thechnegol) ac i fynegi eu barn ynglyn â’r sefyllfa bresennol.

 

 

 

     PENDERFYNWYD  :

 

 

 

4.1

  derbyn adroddiad KPMG;

 

4.2

  awdurdodi Cyd-Bwyllgor Cwmni Gwastraff Môn Arfon i symud ymlaen gyda’r trafodaethau ac y byddai adroddiad manwl, ynghyd â chynllun bwriad pum mlynedd yn cael ei eu cyflwyno i’r Cyngor Sir maes o law;

 

4.3

pe byddai angen, y byddai cyfarfod arbennig o’r Cyngor Sir yn cael ei alw i alluogi symud ymlaen gyda’r mater.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

CYNGHORYDD JOHN ROWLANDS

 

CADEIRYDD