Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 15 Rhagfyr 2005

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Iau, 15fed Rhagfyr, 2005

Cyfarfod o Gyngor Sir Ynys Môn

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2005 (2.00 pm)

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd J. Rowlands (Is-Gadeirydd) (Yn y Gadair)

 

Y Cynghorwyr Mrs B. Burns, W.J. Chorlton, E.G. Davies,

J.M. Davies, P.J. Dunning, J.A. Edwards, K. Evans,

C.Ll. Everett, P.M. Fowlie, D.R. Hadley, Fflur M. Hughes,

R.Ll. Hughes, W.I. Hughes, A.M. Jones, G.O. Jones,

H.E. Jones, J.A. Jones, O.G. Jones, R.Ll. Jones, T.H. Jones, D.A. Lewis Roberts, Bryan Owen, R.L. Owen, G.O. Parry MBE, R.G. Parry OBE, G.A. Roberts, G. Winston Roberts OBE,

John Roberts, W.T. Roberts, P.S. Rogers, H. Noel Thomas, H.W. Thomas, J. Williams, W.J. Williams MBE

 

 

 

WRTH LAW:

 

Rheolwr-gyfarwyddwr

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau Technegol)

Cyfarwyddwraig Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden)

Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol)

Cyfreithiwr (RMJ)

Swyddog Cyfathrebu

Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgor

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr J. Byast, D.R. Hughes, J. Arwel Edwards,

E. Schofield, K. Thomas.

 

 

 

 

 

Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd John Williams.

 

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Gwnaeth y Cynghorydd C.L. Everett ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y Rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei chwaer yn yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol a hefyd yng nghyswllt ei waith fel Clerc ar Gyngor Tref Caergybi.

 

Gwnaeth y Cynghorydd G.O. Parry ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y Rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Cyllid.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Bryan Owen ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y Rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch gan yr Awdurdod Addysg Lleol.

 

Gwnaeth y Cynghorydd O. Glyn Jones ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y Rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei wraig yn yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Robert Lloyd Hughes ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y Rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei fab yn yr Adran Briffyrdd.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd G. Allan Roberts ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y Rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei fab yng nghyfraith yn yr Adran Gyllid.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd T. Jones ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y Rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei fab yn yr Adran Archwilio Mewnol.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd A. Morris Jones ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y Rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei frawd yn yr Adran Addysg a Hamdden.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd W.J. Chorlton ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y Rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Cynllunio ac Amgylcheddol.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd G.W. Roberts OBE ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y Rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol.

 

 

 

(Gweler hefyd y datganiadau o ddiddordeb sy'n ymddangos o dan Eitem 5 o'r cofnodion hyn)

 

 

 

2

DERBYN UNRHYW GYHOEDDIADAU GAN Y CADEIRYDD, YR ARWEINYDD, AELODAU’R PWYLLGOR GWAITH NEU BENNAETH Y GWASANAETH TÂL

 

 

 

Roedd yr Is-Gadeirydd am longyfarch aelodau Cynghrair Iechyd Môn am eu hymateb cadarnhaol i Her Iechyd Cymru.  Roedd llythyr yn llongyfarch wedi'i dderbyn ar 19 Hydref, 2005, gan John Griffiths, AC (Is Weinidog gyda chyfrifoldeb dros Bobl Hyn, Llywodraeth Cynulliad Cymru).

 

 

 

Llongyfarchwyd y Cynghorydd Tom Jones oedd wedi derbyn dyfarniad HSBC Undeb Amaethwyr Cymru am wasanaeth ardderchog i'r Diwydiant Llaeth Cymreig a hynny yn ystod Sioe Laeth Cymru ar Faes Sioe y Siroedd Unedig ger Caerfyrddin ym mis Hydref.

 

 

 

Llongyfarchwyd Mrs Mary Parry, MBE, oedd yn ddiweddar wedi ennill Dyfarniad Gwirfoddolwr dros Gyfiawnder Gogledd Cymru, wedi'i roddi gan Fwrdd Cyfiawnder Troseddol Gogledd Cymru am ei gwaith gyda Phanel Atal Troseddu Caergybi.

 

 

 

Canmolwyd Lesley Ann Cave, o'r Adain Amgylcheddol, a hefyd Craig Davies o Gemaes (oedd yma ar leoliad gwaith ar y pryd) oedd wedi rhoddi ymgeledd i wraig oedd yn ceisio cyflawni hunan laddiad ar Bont Britannia.  Roedd y wraig yn ceisio dringo'r rheiliau pan fu iddynt ei pherswadio i aros ar yr ochr gywir i'r rheiliau ac wedyn fe wnaethant aros gyda hi hyd i'r Heddlu gyrraedd.  Diolchodd y Cyngor i'r ddau am eu doethineb mewn amgylchiadau anodd iawn.  

 

 

 

Llongyfarchwyd Mr Richard Yeoward, Rhosneigr hefyd, ar fod yn un o dri o bobl y dyfarnwyd iddynt Ddyfarniad Oes y Gymdeithas Cychod Hwylio Brenhinol gan y Dywosoges Frenhinol am eu hymrwymiad yn datblygu cyfleon ar gyfer hwylio.

 

 

 

Llongyfarchwyd plant Ysgol Gynradd Amlwch ar ennill cystadleuaeth Corau HTV trwy Gymru.

 

 

 

Estynnodd yr Is-Gadeirydd ei ddymuniadau gorau am adferiad buan i'r Cynghorydd John Byast, oedd heb fod yn dda yn ddiweddar.

 

 

 

Ar nodyn trist, cyfeiriodd y Cadeirydd at Farwolaeth yr Henadur Anrhydeddus Ann Lloyd Jones (Lloydie) a fu farw ar 22 Medi, 2005.  Bu yn aelod o Gyngor Bwrdeistref Ynys Môn dros ardal Penmynydd rhwng 1973 a 1987 ac fe'i hetholwyd yn Faer am 1984-85.

 

 

 

Hefyd marwolaeth Mr Idris Davies, OBE oedd yn Glerc i'r cyn Gyngor Sir Môn.  Bu Mr Davies yn gwasanaethu'r Cyngor am nifer o flynyddoedd rhwng 1947 a 1974 a bu yn was ufudd a theyrngar i'r Cyngor.

 

 

 

Ar ran y Cyngor, cymerodd y Cynghorydd W.I. Hughes y cyfle i ymestyn cydymdeimlad llwyraf y Cyngor â'r Cynghorydd R.G. Parry OBE a'r teulu ar farwolaeth ei fam yng nghyfraith.  Ar nodyn mwy hapus roedd am longyfarch y Cynghorydd R.G. Parry ar ddod yn daid gyda genedigaeth ei wyr Rhisiart Glyn yn ddiweddar.

 

 

 

Cymerodd y Cadeirydd y cyfle hefyd i gydymdeimlo gydag unrhyw aelod o'r staff oedd wedi cael profedigaeth ers cyfarfod diwethaf y Cyngor.  Safodd yr Aelodau a'r Swyddogion mewn teyrnged ddistaw fel arwydd o'u parch.

 

 

 

 

 

3

COFNODION

 

 

 

Cyflwynwyd i'w cadarnhau a'u harwyddo, gofnodion o gyfarfodydd o'r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau a ganlyn:-

 

 

 

Ÿ

20 Medi, 2005                                              (Tudalennau 1 - 33 o'r Gyfrol)

 

Ÿ

1 Rhagfyr, 2005 (Arbennig)                              (Tudalennau 33a a 33b)

 

 

 

 

 

4

COFNODION O BWYLLGORAU

 

 

 

Cyflwyno, er gwybodaeth, ac i gymeradwyo’r argymhellion lle bo angen, gofnodion y cyfarfodydd o’r Pwyllgorau isod a gynhaliwyd ar y dyddiadau a ganlyn :-

 

 

 

4.1

P........WYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

     a gynhaliwyd ar 7 Medi, 2005                              34  -  54

 

           

 

4.2  PWYLLGOR TROSOLWG POLISI - DATBLYGU

 

GWASANAETHAU SYLFAENOL AC ADNODDAU

 

     a gynhaliwyd ar 15 Medi, 2005                              55 -  61 

 

 

 

4.3

PWYLLGOR TROSOLWG POLISI ADDYSG

 

     IECHYD A LLES

 

     a gynhaliwyd ar 19 Medi, 2005                              62  - 68      

 

 

 

4.4

PWYLLGOR TROSOLWG POLISI - DATBLYGU

 

     GWASANAETHAU SYLFAENOL AC ADNODDAU

 

     a gynhaliwyd ar 22 Medi, 2005                              69  -  71       

 

 

 

     Yn codi -

 

 

 

Ÿ

Bod enw'r Cynghorydd John Roberts yn cael ei ychwanegu i'r rhestr o'r aelodau oedd yn bresennol.

 

 

 

Ÿ

Bod y gair 'land' yn y fersiwn Saesneg yn y drydedd linell o benderfyniad 3.1 yn cael ei newid am 'lane'.

 

 

 

Eitem 3.  Pont Britannia

 

 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd C.L. Everett at y cofnod lle roedd Mr Ieuan Wyn Jones, A.C. wedi dweud "y ffordd ymlaen gyda'r mater hwn yw gofyn i Mr Andrew Davies, A.C. gyfarfod gyda mi a dirprwyaeth o'r Cyngor Sir i ofyn i'r Cynulliad roddi yn eu cynigion cyllideb gynllun i leihau'r problemau traffig ar Bont Britannia."

 

 

 

Gan i'r Aelod Cynulliad fod ag ymwneud yng nghyllideb y Cynulliad roedd y Cynghorydd Everett am ofyn a oedd y mater hwn wedi'i godi ganddo ar y pryd.  Dywedodd y Rheolwr-Gyfarwyddwr yn ei ateb y byddai'n cynnal ei gyfarfod misol arferol gyda'r Aelod Cynulliad y dydd Gwener oedd i ddod ac y byddai'n codi'r mater hwn gydag ef.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Everett gais iddo gael gwybodaeth ynglyn ag ateb yr Aelod Cynulliad gan y byddai ef ei hun, yn absenoldeb y Cadeirydd, yn cadeirio cyfarfod o'r Pwyllgor Trosgolwg ym mis Ionawr, pan fyddai'r mater hwn yn cael ei drafod unwaith yn rhagor.

 

 

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd P.M. Fowlie fod y Rheolwr-gyfarwyddwr yn ysgrifennu i'r Cynulliad Cymreig cyn iddynt dorri am wyliau'r Nadolig yn gofyn am ymateb ysgrifenedig ynglyn â'r cynnydd a wnaed ynglyn â Phont Britannia yn dilyn ymweliad y Gweinidog â Llangefni ar 10 Tachwedd, a hynny cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor Trosolwg ar 24 Ionawr, 2006.

 

 

 

Roedd y Cadeirydd am roddi ei sicrhad y byddai'r Rheolwr-gyfarwyddwr yn ysgrifennu at y Cynulliad yn gofyn am ymateb ysgrifenedig erbyn dyddiad y Pwyllgor Trosolwg.

 

 

 

4.5

     PRIF PRIF BWYLLGOR SGRIWTINI

 

     a gynhaliwyd ar 27 Medi, 2005                         72  -  75                                          

 

4.6

PWYLLGOR ARCHWILIO          

 

     a gynhaliwyd ar 29 Medi, 2005                                     76                   

 

 

 

4.7

CYSAG

 

     a gynhaliwyd ar 3 Hydref, 2005                            77 -  82         

 

 

 

4.8

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION                                  

 

     a gynhaliwyd ar 5 Hydref, 2005                    83 - 105         

 

           

 

 

 

4.9

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION                               

 

     a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd, 2005                    106 - 122    

 

 

 

4.10

PWYLLGOR TROSOLWG POLISI ADDYSG,                                 

 

     IECHYD A LLES

 

     a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd, 2005                    123 - 131         

 

 

 

4.11

PWYLLGOR TROSOLWG POLISI - DATBLYGU                           

 

GWASANAETHAU SYLFAENOL AC ADNODDAU

 

     a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd, 2005                    132 - 134

 

 

 

Yn codi -

 

 

 

Eitem 4 - Gohebiaeth

 

 

 

"Argymell i'r Cyngor Sir bod Cadeirydd Busnesau ar Ynys Môn yn cael ei gyfethol fel aelod o'r Pwyllgor Trosolwg Polisi, Datblygu Gwasanaethau Sylfaenol ac Adnoddau."

 

 

 

PENDERFYNWYD y dylai'r mater gael ei gyfeirio'n ôl i'r Pwyllgor Trosolwg i'w benderfynu gydag argymhelliad bod y Cyngor hwn yn ystyried fod yna ddigon o aelodau a gyfetholwyd yn gwasanaethu ar y Pwyllgor ar hyn o bryd.

 

 

 

4.12

CYD BWYLLGOR ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG              135 - 140

 

     a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd, 2005                             

 

 

 

4.13

PRIF BWYLLGOR SGRIWTINI                                                         141 - 144

 

     a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd, 2005........

 

 

 

4.14

PWYLLGOR ARCHWILIO                                                                145 - 147

 

     a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd, 2005                                            

 

4.15

PWYLLGOR GWAITH

 

     a gynhaliwyd ar y dyddiadau a ganlyn :-

 

 

 

4.15.1

26 Medi, 2005                                                                    148 -  153

 

 

 

 

 

 

 

4.15.2

24 Hydref, 2005                                  154  - 156    

 

 

 

4.15.3

31 Hydref, 2005                                  157  - 169

 

 

 

4.15.4

21 Tachwedd, 2005                    (dosbarthwyd ar wahân)

 

          (wedi'i atodi i'r cofnodion hyn - tudalennau 15 - 26)

 

 

 

4.15.5

5 Rhagfyr, 2005                     (dosbarthwyd ar wahân)

 

          (wedi'i atodi i'r cofnodion hyn - tudalennau 27- 32)

 

 

 

Yn codi -

 

 

 

Eitem 7 - Llongau Hwylio Ynys Môn - Harbwr Amlwch

 

 

 

Holodd y Cynghorydd A. Morris Jones os oedd y diffiniad o le angori ymwelwyr wedi ei gwblhau eto a beth yn union oedd y prisiau i ymwelwyr.  

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Keith Evans, Deilydd Portffolio, wrth ateb bod y llongau ymwelwyr hyn yn gaddo yn dda i'r dyfodol ac roedd y Pwyllgor Gwaith yn awyddus i hyrwyddo hyn.  Ar yr un pryd roedd y Pwyllgor Gwaith yn ymwybodol fod Harbwr Amlwch eisoes yn llawn gyda phobl leol sy'n rhedeg cychod.  Oherwydd y cyfyngiadau o fewn yr harbwr roedd hynny'n golygu anawsterau angori.  Roedd y Cyngor gan hynny wedi bod yn ymchwilio i'r posibilrwydd o ychwanegu at y cyfleusterau yno a bod yr ymchwiliadau hyn yn mynd ymlaen.  Yr hyn benderfynwyd gan y Pwyllgor Gwaith ar 5 Rhagfyr oedd cyfaddawd ar hyn o bryd.  Fel Deilydd Portffolio roedd wedi gofyn i'r Adran ddiffinio'r gair 'ymwelydd', nid yn unig yng nghyd-destun yr harbwr yn Amlwch ond hefyd ynglyn â chyfleusterau morwrol eraill y Cyngor.  Byddai'r mater yn cael ei adrodd yn ôl i'r Pwyllgor Gwaith pan geid diffiniad fyddai'n dderbyniol.  

 

 

 

5     PENRHYN SAFNAS, GRIN Y PENTREF

 

      

 

     Adroddiad gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro - I'r Cyngor yn Hydref 2003, dderbyn cais i gofrestru tir ym Mhenrhyn Safnas, Biwmares fel grîn tref neu bentref o dan Dddeddf Cofrestru Tir Comin 1965.

 

      

 

Y Cyngor oedd yr Awdurdod Cofrestru i bwrpasau'r Ddeddf a hefyd berchennog y tir i safle'r cais.  Yn ychwanegol, roedd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Mawrth 2004, wedi dirprwyo'r hawl i roddi caniatâd cynllunio i ailddatblygu'r safle i Bennaeth y Gwasanaeth Cynllunio.  Roedd y caniatâd hwnnw wedi'i roddi.

 

 

 

Roedd penderfynu ar unrhyw gais i gofrestru tir newydd fel grîn tref neu bentref yn benderfyniad a ddirprwywyd i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.  Roedd y Cynllun Dirprwyo yn rhoddi i'r Gyfarwyddwraig Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro (y Cyfarwyddwr) yr hawl i ddelio gyda materion gweinyddol yn ymwneud â chais o'r fath.

 

 

 

Roedd y cais a'r dystiolaeth oedd yn ei gefnogi wedi'u hysbysebu ac roedd gwrthwynebiadau wedi'u derbyn.  Roedd y Cyfarwyddwr wedi cymryd cyngor cyfreithiol ar y cais a'r gwrthwynebiadau gan fargyfreithiwr oedd yn gwneud gwaith gyda griniau tref a phentrefi.  Roedd y cyngor hwnnw yn dweud fod y cais yn dangos fod yna achos prima facie.  Gan weithredu ar y Cyngor hwn, a thrwy weithredu ar y pwerau oedd wedi'u dirprwyo iddi fe wnaeth y Cyfarwyddwr y penderfyniad i ddilyn y dull arferol o weithredu yn yr achosion hyn a threfnu fod y cais i fod yn destun ymchwiliad cyhoeddus anstatudol.  

 

 

 

Cynhaliwyd yr ymchwiliad hwnnw yn Beaumaris rhwng 4 a 6 Gorffennaf 2005.  Roedd yr Arolygwr, yn dilyn gwrando cyflwyniadau a thystiolaeth o blaid ac yn erbyn y cais ac yn dilyn ymweld â safle'r cais, wedi paratoi adroddiad ysgrifenedig ac roedd hwn ynghlwm fel atodiad i'r adroddiad hwn.  

 

 

 

Roedd Adroddiad yr Arolygwr yn cael ei argymell yn ei gyfanrwydd i'r aelodau ac, yn arbennig, y casgliadau ym mharagraffau 51 a 52.  Argymhelliad yr Arolygwr oedd y dylai'r cais fethu ac na ddylai unrhyw ran o safle'r cais gael ei ychwanegu i Gofrestr Grinau Tref a Phentref.  Roedd Adroddiad yr Arolygwr wedi'i anfon ymlaen i'r ymgeisydd a'i gynrychiolwr ac i'r rhai oedd yn cynrychioli Adran Gwasanaethau Eiddo'r Cyngor fel perchennog y tir.

 

 

 

PENDERFYNWYD

 

 

 

Ÿ

Tynnu yn ôl oddi wrth y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ei bwerau dirprwyedig i benderfynu'r cais arbennig hwn.

 

Ÿ

Gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd gan yr Arolygwr yn ei Adroddiad a pheidio cofrestru unrhyw ran o safle'r cais yn y gofrestr o griniau tref a phentref.

 

 

 

 

 

(Y Cynghorwyr E.G. Davies, J.A. Edwards, P.M. Fowlie, R.Ll. Hughes, O. Glyn Jones, R.L. Owen, G.O. Parry MBE, John Roberts, W.T. Roberts, H.W. Thomas a W.J. Williams MBE, o nodi'r cyngor roddwyd yn yr adroddiad ynglyn â'r penderfyniad i roddi cais cynllunio i'r safle ar 3 Mawrth, 2004, nid oeddynt yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod unrhyw drafodaeth na phleidleisio arno).

 

 

 

 

 

6

CYFANSODDIAD Y CYNGOR - DIWYGIO'R RHEOLAU GWEITHDREFN CONTRACTAU

 

      

 

     Cyflwynwyd adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) a Chyfarwyddwraig Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 31 Hydref, 2005.

 

      

 

     Adroddwyd fod y Pwyllgor Gwaith ar ôl ystyried yr uchod wedi penderfynu :-  

 

      

 

     "Argymell i'r Cyngor ei fod yn cymeradwyo'r cynigion yn Atodiadau 1 a 2 o'r adroddiad, yn amodol ar ddiwygio Paragraff 4.9.2.4(i) i ddarllen fel a ganlyn :-

 

      

 

     "Os ydyw'r corff yr ymddiriedir y weithdrefn ynddo yn gorff sector cyhoeddus bydd rhaid rhoddi gwybod ymlaen llaw am y trefniant i'r Aelod Portffolio dros Gyllid a'r Aelod Portffolio dros y gwasanaeth perthnasol, a chael cymeradwyaeth y Cyfarwyddwr Cyllid Corfforaethol a Chyfarwyddwraig y Gwasanaethau Cyfreithiol ymlaen llaw a fydd yn y lle cyntaf, yn ystyried adroddiad yn manylu ar y gweithdrefnau cyffelyb a fabwysiadwyd gan y corff hwnnw"

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo'r dull uchod o weithredu.

 

      

 

      

 

7     STRATEGAETH DIOGELWCH CYMUNEDOL 2005-08

 

      

 

     Ystyried - Yr argymhelliad a wnaeth y Pwyllgor Gwaith ar 5 Rhagfyr, 2005:-

 

      

 

     "Argymell i'r Cyngor Sir ei fod yn mabwysiadu Strategaeth Diogelwch Cymunedol 2005-08"

 

      

 

     (Copi o'r adroddiad ac o'r fersiwn ddrafft o'r strategaeth eisoes wedi eu hanfon at Aelodau gyda phapurau Pwyllgor Gwaith ar gyfer 5 Rhagfyr, 2005).

 

      

 

     PENDERFYNWYD mabwysiadu Strategaeth Diogelwch Cymunedol 2005/08.

 

      

 

      

 

8     GWASANAETH AMBIWLANS AWYR

 

      

 

     Cyflwynwyd - llythyr dyddiedig 11 Hydref, 2005 oddi wrth Brif Weithredwr Cyngor Sir Stafford yn gofyn am gefnogaeth y Cyngor hwn i roi pwysau ar y Llywodraeth i ariannu'r gwasanaeth uchod o adnoddau canolog.

 

      

 

     Adroddwyd i Gyngor Sir Stafford yn ei gyfarfod ar 6 Hydref, 2005 benderfynu fel a ganlyn:

 

      

 

      

 

     "Staffordshire County Council recognise the value to life of the Air Ambulance Service and are aware of the 'golden four minutes' this provides. We are concerned that this vital, lifesaving service, currently, has to rely on charitable donations and we would urge the Government to fund the service from central resources.

 

      

 

     We also call on both the West Midlands and National Local Government Associations and all County, Metropolitan, Unitary, District, Borough and Parish Councils throughout the United Kingdom together with all Members of Parliament across all parties to support this proposal."

 

      

 

     PENDERFYNWYD gofyn i'r Rheolwr-gyfarwyddwr hysbysu Cyngor Sir Stafford fod y Cyngor hwn yn cefnogi ei gynnig, yn y gobaith, os bydd Cyngor Sir Stafford yn llwyddiannus, y bydd y gwasanaeth hwn yn cael ei gefnogi yn yr un modd gan Gynulliad Cymru.

 

 

 

 

 

9

RHEOLI IECHYD A DIOGELWCH YN Y GWAITH -

 

     CYFRIFOLDEBAU AELODAU ETHOLEDIG

 

      

 

     Adroddiad gan Bennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) - Yn dilyn ymweliadau archwilio gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch, fe wnaed cais i'r Cyngor Sir i adolygu'r dyraniad o gyfrifoldebau am Iechyd a Diogelwch o fewn y gwasanaeth - i swyddogion ac aelodau etholedig.

 

      

 

     Roedd Polisi Cyffredinol Iechyd a Diogelwch y Cyngor Sir yn nodi cyfrifoldebau'r aelodau etholedig fel corff corfforaethol.  Yn gyffredinol roedd y cyfrifoldebau hyn yn parhau yn rhai dilys - ac mewn gwirionedd yr unig newid arwyddocaol oedd ymrwymiad penodol gan yr aelodaeth yn gyffredinol i fynychu sesiynau hyfforddi ar faterion yn ymwneud â'u cyfrifoldebau.  Roedd angen, fodd bynnag,  adlewyrchu'r newidiadau ddaeth yn sgil moderneiddio a chyfansoddiad diwygiedig y Cyngor.

 

      

 

     Roedd y Gweithgor wedi derbyn adroddiad byr ar y mater hwn ac wedi nodi'r datganiadau oedd wedi'u paratoi ynglyn â'r aelodau etholedig.

 

      

 

     Roedd y dyfyniad perthnasol o'r ddogfen adolygu wedi'i atodi i'r adroddiad hwn, ac roedd yn ymwneud â'r canlynol:

 

      

 

     a)      siart yn nodi'r strwythur cyffredinol a rhaeadru'r cyfrifoldebau o fewn y mudiad (roedd datganiad cytunedig o ddyletswyddau a chyfrifoldebau ar gyfer pob swydd unigol neu grwpiau o swyddi oedd wedi'u nodi).

 

     b)     datganiad arfaethedig yn ymwneud â'r Cyngor Sir fel corff

 

     c)     datganiad arfaethedig yn ymwneud â'r Gweithgor fel corff

 

     d)     datganiad arfaethedig yn ymwneud â'r Deilydd Portffolio gyda chyfrifoldebau penodol dros faterion personel, polisi a pherfformiad

 

     e)     datganiad arfaethedig mewn perthynas â Deilyddion Portffolio unigol o fewn y Pwyllgor Gwaith.

 

      

 

     Roedd yr Aelodau o'r farn - er mwyn diogelu'r Cyngor yn llawn a'i weithwyr ar y mater hwn, y dylai'r eitem hon gael ei gohirio ac y dylid sefydlu Panel o Aelodau, yn cynnwys cynrychiolaeth Undebau Llafur, i ddelio'n benodol gyda materion Iechyd a Diogelwch.

 

      

 

     Ar yr amser hwn fe gyfeiriodd y Cynghorydd P.S. Rogers at gwestiynau y byddai yn eu gofyn yn nes ymlaen yn y Cyngor.

 

      

 

     Cododd y Cynghorydd J A Jones Bwynt o Drefn a gofynnodd am eglurhad p'run a oedd y Cynghorydd P S Rogers yn gofyn y cwestiynau hyn yn ei swyddogaeth fel Cynghorydd neu fel rhan o'i fusnes preifat ai peidio.  Roedd hyn yn cael ei ofyn oherwydd fod y Cynghorydd Jones yn dweud "mae'r hyn y mae wedi'i ysgrifennu i lawr yn y papurau hyn yn gamarweiniol ac yn gelwydd ac yn fwriadol felly."

 

      

 

     Dywedodd y Cadeirydd y byddai'n delio gyda'r mater hwn yn nes ymlaen.

 

      

 

      

 

     Cwynodd y Cynghorydd P S Rogers nad oedd y Cadeirydd wedi delio gyda'r Pwynt o Drefn ac roedd yn gwrthwynebu cael ei alw yn "un celwyddog".

 

      

 

     Gofynnodd y Cadeirydd i'r Cynghorydd P S Rogers eistedd i lawr a dywedodd y byddai'n delio gyda'r mater ar yr amser priodol ar y rhaglen.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried ac i roddi awdurdod i'r Arweinydd i sefydlu Panel o Aelodau i roddi ystyriaeth pellach i'r adroddiad cyn y Cyngor heddiw.  Canlyniad trafodaethau'r Panel i'w hadrodd yn ôl i'r Cyngor Sir yn y man.

 

      

 

 

 

10     CYNLLUN PERFFORMIO, GOFAL CYMDEITHASOL A GWASANAETHAU PLANT 2005-07

 

      

 

     Cyflwynwyd i'w fabwysiadu gopi o'r Cynllun uchod.

 

      

 

     Adroddwyd - Bod y Pwyllgor Gwaith ar ôl ystyried y pwnc uchod yn ei gyfarfod ar 5 Rhagfyr, 2005 wedi penderfynu fel a ganlyn:-

 

      

 

     "Argymell i'r Cyngor Sir ei fod yn cymeradwyo'r Cynllun Perfformiad, Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant 2005-07."

 

      

 

     (Copi o'r adroddiad ac o'r Cynllun Gwasanaeth eisoes wedi'u hanfon at Aelodau gyda phapurau Pwyllgor Gwaith 5 Rhagfyr, 2005)

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Cynllun Gwasanaeth am 2005/07.

 

      

 

      

 

11     DEDDF CYFIAWNDER TROSEDDOL A'R HEDDLU 2001 - YFED ALCOHOL MEWN MANNAU CYHOEDDUS - ARDAL DDIALCOHOL AMLWCH

 

      

 

     Adroddwyd gan y Rheolwr-gyfarwyddwr - Ar 1 Medi, 2001, fe ddaeth Adrannau 12 - 16 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a'r Heddlu 2001 i rym oedd yn rhoddi i Awdurdodau Lleol bwer i fabwysiadu'r darpariaethau hyn i rwystro yfed cyhoeddus a gwrthgymdeithasol mewn llefydd cyhoeddus wedi'u clustnodi ac i'r Heddlu bwerau i roi'r cyfyngiad hwn mewn grym.  Ar yr un dyddiad, fe ddaeth (Rheoliadau Yfed Alcohol mewn Lle Cyhoeddus wedi'i glustnodi) Awdurdodau Lleol 2001 i rym i alluogi awdurdodau lleol i wneud gorchymyn yn gorfodi cyfyngiadau ar yfed cyhoeddus oherwydd niwsans neu darfu cysylltiol ar aelodau'r cyhoedd neu gamdrefn.

 

      

 

     Roedd Partneriaeth Diogelwch Cymunedol wedi derbyn nifer o gwynion yn ymwneud ag yfed alcohol mewn llefydd cyhoeddus yn Amlwch a hynny drwy'r Pwyllgor Trosedd ac Anhrefn, Cyngor y Dref, Heddlu Gogledd Cymru, aelodau o'r gymuned fusnes yn cynnwys y Siambr Fasnach ac aelodau'r cyhoedd.  Roedd Heddlu Gogledd Cymru yn dymuno symud ymlaen a chyfyngu yfed alcohol ar gyfer ardal benodol o fewn tref Amlwch.

 

      

 

     O dan Adran 13 o'r Ddeddf, fe allai'r Cyngor Sir wneud gorchymyn yn cyfyngu ar yfed alcohol mewn ardal benodol cyn belled â bod yna ddigon o dystiolaeth bod niwsans neu darfu yn digwydd i aelodau'r cyhoedd, neu gamdrefn.  Roedd yr Heddlu wedi cael pwerau newydd o dan y Ddeddf i ddelio gydag yfed gwrthgymdeithasol mewn ardaloedd oedd yn cael eu nodi mewn Gorchymyn.  

 

      

 

     Yn dilyn proses hir a manwl o ymgynghori gyda'r holl bartïon oedd â diddordeb, roedd y Cyngor Sir ar ran Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ynys Môn yn awr mewn sefyllfa i ystyried gwneud Gorchymyn o dan Adran 13 o'r Ddeddf yn seiliedig ar y wybodaeth geid yn yr adroddiad.  Byddai unrhyw gostau fyddai'n gysylltiedig gyda'r Gorchymyn yn cynnwys y broses ymgynghori ac arwyddion o fewn yr ardal ddynodedig yn cael eu talu o gyllideb y Gwasanaeth Polisi.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD

 

      

 

     Bod y Cyngor Sir yn ffurfiol yn mabwysiadu'r pwerau geir yn Adran 12-16 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Heddlu 2001.

 

      

 

     Fod y Cyngor Sir yn rhoddi pwerau dirprwyedig i'r Rheolwr-gyfarwyddwr mewn ymgynghoriad â'r Deilydd Portffolio Trosedd ac Anhrefn i wneud Gorchymyn Dynodiad o dan Adran 13 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Heddlu 2001 ac yn unol â Rheoliadau (Yfed Alcohol mewn Llefydd Cyhoeddus Dynodedig) Awdurdodau Lleol 2001 yn nhref Amlwch yn unol gyda'r ardal a nodir yn y cynllun sydd ynghlwm ac a oedd ynghyd â'r rhybudd cyhoeddus ond yn amodol ar addasiadau terfynol i'r ffin gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol mewn ymgynghoriad â'r Heddlu yn dilyn rhoddi ystyriaeth i'r holl sylwadau dderbyniwyd yn ystod y cyfnod o ymgynghori statudol.

 

      

 

     Fod dyddiad dechrau'r Gorchymyn Dynodiad yn cael ei nodi gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn dilyn cwblhau'r holl gyfnodau o rybudd cyhoeddus statudol.

 

      

 

12     RHYBUDD O GYNNIG YN UNOL Â DARPARIAETHAU PARAGRAFF 4.1.13.1. Y CYFANSODDIAD

 

      

 

     Rhoddwyd y cynnig canlynol ymlaen gan y Cynghorydd C. L. Everett:-

 

      

 

     "Bod Cyngor Sir Ynys Môn yn cyflwyno cwyn at gynhyrchydd newyddion Chwech ITV Cymru am nad yw Ynys Môn yn ymddangos ar y llun agoriadol o Gymru pan fydd y newyddion chwech yn cael ei ddarlledu'n fyw".

 

         

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cynnig a bod y Rheolwr-gyfarwyddwr yn tynnu'r mater hwn i sylw ITV Cymru.  

 

      

 

13     YR ARWEINYDD YN DIRPRWYO

 

      

 

     Cyflwynwyd - Adroddiad gan y Rheolwr-gyfarwyddwr ar unrhyw newidiadau i’r cynllun dirprwyo ynghylch swyddogaethau’r Pwyllgor Gwaith ac a wnaed gan yr Arweinydd ers y Cyfarfod Cyffredinol diwethaf (Rheol 4.14.1.4 y Rheolau Gweithdrefn Trefniadau Gweithredol - gweler tudalen 131 y Cyfansoddiad).

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

      

 

14     RHYBUDD O GYNNIG I DDIDDYMU PENDERFYNIAD BLAENOROL Y CYNGOR SIR (01/12/05) YN UNOL Â PHARAGRAFF 4.1.17 O'R CYFANSODDIAD - CYNLLUN DATBLYGU UNEDOL

 

      

 

     Yn unol â Pharagraff 4.1.17 o Gyfansoddiad y Cyngor (Tudalen 100), roedd deg aelod o'r Cyngor wedi rhoi'r rhybudd o gynnig canlynol ymlaen:-

 

      

 

     "Bod y Cyngor yn tynnu'r CDU yn ei ôl ac yn symud ymlaen ar unwaith i baratoi'r Cynllun Datblygu Lleol.  Rhoi gwybodaeth i'r holl Gynghorau Cymuned, gwrthwynebwyr a chydranddeiliad am y penderfyniad a darparu iddynt gopi o'r rhaglen ar gyfer mynd â'r Cynllun Datblygu Lleol yn ei flaen.  Hyd y bydd y Cynllun Datblygu Lleol yn cael ei gymeradwyo bydd y Cyngor yn dibynnu ar Gynllun Lleol 1996 a Chynllun Fframwaith Gwynedd. "

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cynnig hyd y ceid trafodaethau pellach rhwng Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol a'r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau Technegol).

 

      

 

15     CWESTIYNAU A DDERBYNIWYD DAN REOL 4.1.12.4

 

      

 

15.1

Bydd y Cynghorydd R.G. Parry, OBE yn gofyn y cwestiynau canlynol i'r Cynghorydd   H. Eifion Jones, Deilydd Portffolio :-

 

 

 

"1) Ers cyhoeddi canlyniadau'r Panelau a benodwyd i gwblhau'r broses arfarnu a'r problemau a achoswyd gan eu penderfyniad, pa gamau ydych chi wedi eu cymryd i fynd a'r broses yn ei flaen?

 

 

 

2)  A yw'n wir i lythyr o ymddiheuriad gael ei anfon i bob aelod o staff?

 

 

 

3)  Beth yw cost wirioneddol yr Ymgynghorwyr a benodwyd i ddatrys y broblem?

 

 

 

4) Sut cyllidir costau'r Ymgynghorwyr?  Ydyw'n wir bod yr arian yn dod o'r cyllid a neilltuwyd i dalu am y codiadau cyflog i'r staff a fyddai'n cael cyflogau uwch?

 

 

 

Mewn ateb, dywedodd y Deilydd Portffolio:

 

 

 

1)  Mae llythyr diweddar y Rheolwr-gyfarwyddwr dyddiedig 9 Rhagfyr yn disgrifio beth sydd wedi'i wneud ers cyhoeddi'r sgoriau amodol.

 

                

 

2)  Mae copïau o fwletinau i staff wedi'u cynnwys gyda llythyr y Rheolwr-gyfarwyddwr.  Dywedodd bwletin ar 14 Hydref "Cydnabyddir y gallai'r cyhoeddi sgoriau amodol fod wedi ei drin mewn dull mwy sensitif".

 

 

 

3)  Mae cost y gwaith a wnaed hyd yma o gwmpas £10,000, ond dim ond cam cyntaf y gwaith oedd hwn.  Mae gwaith pellach ar y gweill a bydd cyfanswm y gost yn dibynnu ar sut aiff yr adolygiad ymlaen.

 

 

 

4)  Neilltuwyd swm o £250,000 y flwyddyn ers 2002-03 ar gyfer cost yr ymarferiad, a daw'r cyllid ar gyfer y gwaith presennol o'r ddarpariaeth hon.  Neilltuwyd hwn fel swm crwn i gwrdd â chostau gweithredu'r canlyniad a chostau gweinyddu'r ymarferiad, ill dau, ac mae'r unedau llafur yn cydsynio.

 

 

 

Gofynnwyd cwestiyn(nau) atodol gan y Cynghorydd R.G. Parry OBE:-

 

 

 

"Rwyf yn deall fod y gost o gwblhau'r gwaith gyda'r Ymgynghorwyr tua £50k.  Ydi hwnnw'n cael ei gapio?"

 

 

 

Atebodd y Deilydd Portffolio:-

 

 

 

"Dwi'n meddwl mi oedd yna gyfeiriad yn y llythyr Mr Geraint Edwards i'r ffigwr yna neu fe all o fynd i fyny hynny, ond tydio ddim wedi cael ei gapio.  Mae'n rhaid i ni asesu hwnnw fel y mae o yn mynd yn ei flaen.  Cam cyntaf yda ni wedi wneud ar hyn a £10,000 - desk top assessment mae nhw'n galw hwnna - mae 'na dipyn mwy o waith i'w wneud yn y flwyddyn newydd so allwn ni ddim dweud wrthach chi os ydio'n cael ei gapio ai peidio ond ga i ychwanegu un peth Cynghorydd Bob Parry i'r ateb rois i gyna, un o'r broblemau yr ydym ni wedi'i gael ar hwn ydi ein bod ni ddim wedi rhoi digon o adnoddau yn y mater a gai i atgoffa chi hefyd na tydi'r broses ddim wedi'i newid dim ers pan oeddech chi'n Arweinydd y Cyngor yma gyda bob parch a dwi'n cymryd eich bod chi'n fodlon gyda'r broses pan oeddech chi'n Arweinydd, 'da ni wedi newid y broses 'da ni'n trio symud ymlaen i orffen y sgors a pan mae'r sgors yn dod allan mae'n amlwg bod yna broblem yna ers blynyddoedd so gyda phob parch, dwi'n meddwl  bod chi ynghlwm â'r broses hefyd."

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd R. G. Parry OBE - "Dwi'n derbyn fy mod i'n rhan o'r broses pan oeddwn i'n i chychwyn hi ac mi oedden ni yn symud ymlaen ar y gwaith ond hefo pob gwaith mae 'na broblemau yn codi fel ydych chi'n mynd ymlaen yn y gwaith ac yn ystod y 15 mis diwethaf 'ma mae'n amlwg bod 'na broblemau wedi codi ac mae' teimladau y staff yn gryf iawn yn fan yma.  Y cwestiwn nesaf ydi oes pen rhywun yn mynd o achos hyn?  Chi ydi'r Deilydd Portffolio sydd yn gyfrifol am yr adran ac yn gyfrifol am yr adroddiad aeth allan.  Mi ddylai bod rhywun wedi'i ddarllen o yn fwy gofalus.  Dwi'n gwybod mae post numbers oeddan nhw ar yr adroddiad ond un o'r pethau cyntaf nes i ar ôl derbyn yr adroddiad oedd trio rhoi enwau a swyddi wrth y post yma a gweld yn union be oedd yn digwydd ac mi oedd yn gamgymeriadau mawr.  Mi ddylech chi fel Deilydd Portffolio fod wedi edrych trwy'r adroddiad  a gwneud yn saff ei fod o'n iawn cyn ei ollwng o allan i'r staff a creu wel dwn i ddim pa air i ddisgrifio fo ond mae hyder y staff yno ni fel Cynghorwyr a ni sy'n cael bai am hyn wedi mynd.  Dwi'n gofyn i chi fel Deilydd Portffolio ydach chi'n wedi cysidro riseinio am hyn?"

 

 

 

Y Deilydd Portffolio - "Wel gyda phob parch dwi'n meddwl y'ch bod chi'n gwybod yr ateb i'r cwestiwn yna Cynghorydd Bob Parry, mater i'r swyddogaeth ydi job evaluation, dydio ddim yn fater i'r Pwyllgor Gwaith ar ddiwedd y dydd.  Doeddan ni ddim yn involved yn y broses o gwbl dwi'n gwybod bod yna sore-thumbing exercise wedi cael ei wneud gan y swyddogion a mae'n amlwg bod hwnnw ddim digon da a dwi'n meddwl bod nhw'n teimlo bod ddrwg gyno nhw am hynny.  Dwi'n gobeithio ein bod ni am gael gweithio hefo'n gilydd a peidio sgorio points gwleidyddol, mae hwn yn fater rhy bwysig i stafff dwi'n gobeithio bod chi yn nodi hynny.  Rwan ta mae'r adroddiad yn dod allan i drio codi hyder y staff.  Newydd ddod allan mae o a mi rydan ni'n gweithredu'n gyflym iawn mewn mis am hyn.  Yn y Flwyddyn Newydd mi fydd yna fwy o waith yn cael ei wneud ar hyn.  Dach chi ddim yn disgwyl i mi ddweud wrthach chi o flaen y Cyngor bod yna bennau yn mynd i rowlio.  Mater i'r swyddogaeth ydi hyn a mi fydd yna fwy o fanylion yn dod allan os bydd yna newidiadau mawr ar ddechrau'r Flwyddyn Newydd mae'n rhy gynnar i ddweud ar hyn o bryd."

 

 

 

Y Cynghorydd R. G. Parry OBE - "Y ni fel Cynghorwyr sy'n rhedeg y Cyngor does dim iws rhoi bai ar y staff .  Tydw i ddim yn hoffi bod y staff yn gorfod cymryd y bai am hyn ac mi dawelai ar hynny."

 

 

 

15.2  Gofynnwyd y cwestiynau canlynol i'r Cynghorydd H. Eifion Jones, Deilydd Portffolio gan y Cynghorydd Tom Jones:-

 

 

 

"1) Beth oedd gwir gost apwyntio Hay Group Management i adolygu gwerthuso swyddi?

 

 

 

2) Pwy sydd yn awr yn derbyn y cyfrifioldeb am y prosiect Gwerthuso Swyddi a beth fydd y  mewnbwn gan Gynghorwyr?

 

 

 

3)  Ydi'r gwerthuso swyddi wedi derbyn cymeradwyaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg?"    

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Tom Jones: "Mae rhai o'r cwestiynau rydwyf i eisiau eu gofyn wedi cael eu gofyn yn rhannol gan y Cynghorydd R. G. Parry, OBE a dydw i ddim am fynd ar ôl fy nghwestiwn cyntaf sydd wedi cael ei ateb.  Y cwestiwn sydd yn dilyn o hyn yw pam na fyddech chi wedi dod ag arbenigwyr i mewn yn llawer iawn cynharach yn y broses yma?"

 

 

 

Atebodd y Deilydd Portffolio y cwestiynau yn y dref eu rhoddwyd, sef :-

 

 

 

1)  "Rydw i'n cyfeirio'r aelod at fy ateb cynharach i'r Cynghorydd R G Parry, OBE

 

 

 

2)   Y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cyllid sydd wedi cadeirio'r bwrdd prosiect ers yr haf ac yw'r Cyfarwyddwr Arweiniol a adnabyddir yn y Rhaglen Waith Gorfforaethol.  Mae amodau gwaith staff yn y pen draw yn fater i'r Cyngor Sir llawn (nid y Pwyllgor Gwaith), a bydd rhaid i'r Cyngor Sir gymeradwyo canlyniadau terfynol yr ymarferiad.  Mae hwnnw yn dal yn eithaf pell i ffwrdd.

 

 

 

3)  Naddo.  Mae'r ymarferiad Afarnu Swyddi yn ofynnol dan gytundeb cenedlaethol rhwng y cyflogwyr Llywodraeth Leol a'r undebau ac nid yw mewnbwn Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn angenrheidiol."

 

 

 

Gofynnwyd y cwestiynau atodol a ganlyn gan y Cynghorydd Tom Jones -

 

 

 

"Gai i ofyn i chwi unwaith yn rhagor pam na ddaethoch chi ag arbenigwyr i mewn yn llawer cynt. Os nad ydach chi yn meddwl i ddigon o adnoddau gael eu rhoi i mewn yn y broses, mae'n rhan o'ch rol chi i sicrhau bod yna ddigon o arian yn dod i mewn i'r prosiect."

 

 

 

Yn ei ateb dywedodd y Deilydd Portffolio:-

 

 

 

"Wel gyda pob parch i'r Cynghorydd Tom Jones, dwi'n meddwl fel ffarmwr, dach chi'n gwybod tan mae'r llo wedi cael ei eni dach chi ddim yn siwr iawn beth sy'n dod allan y pen arall.  Mae'r broses wedi bod yn mynd ymlaen ers blynyddoedd ac mae'r Cynghorydd Goronwy Parry wedi bod yn Arweinydd yn cychwyn y broses.  Mae'r Cynghorydd Bob Parry wedi mynd ymlaen hefo fo.  Tydi'r broses ddim wedi newid dim da ni jyst yn symud y broses ymlaen i gael canlyniad a pan dach chi'n cael canlyniad dydi pobl ddim yn hapus hefo ond tan roeddan ni'n gwybod beth oedd y problemau doedd yna ddim pwrpas i ni gael arbenigwr i mewn.  

 

 

 

Y Cynghorydd Tom Jones - "Jyst i glirio'r mater amaethyddol, pan mae buwch yn cario llo mi rydan ni yn ei ffidio hi hefyd ar yr amser hynny.  Be sydd yn raid i chi sylweddoli a'i gyfaddef ydi ein bod ni wedi gwneud dipyn o gawlach o hyn.  Difrifoldeb y sefyllfa ydi eich bod chi wedi dinistrio hyder y staff yn y Cyngor yma yn ystod y broses a rydw i'n meddwl ei bod hi'n gam mawr yn ôl i ni fel Cyngor.  Rydwyf yn deall hefyd fod y cyfarwyddiadau ar gyfer y gwerthuso swyddi i'w gweld yn y Llyfr Gwyrdd a bod yna newidiadau lleol wedi cael eu gwneud i'r Llyfr Gwyrdd yma yn ystod y broses.  Pe tasa na apel gan aelod o staff yn erbyn y marciau, wel mae'r newidiadau yma wedi tanseilio'r broses apel.  Dwi'n meddwl hefyd ei fod o'n bwynt sylfaenol yn ystod unrhyw apel bod y Panel oedd yn dyfarnu'r pwyntiau i'r swydd yr un Panel yn union fydd yn gwrando ar apel.  Rydw i eisiau sylwadau'r Deilydd Portffolio ar hyn.  Dwi ddim yn meddwl ei bod hi'n broses deg o gwbl.  Rhaid i'r Panel Apel fod yn annibynnol o'r rhai oedd yn gwneud y dyfarniad gwreiddiol"

 

 

 

Deilydd Portffolio - "Rydw i yn eich sicrhau chi y bydd yr adolygiad yn edrych ar y mater yna."

 

 

 

Y Cynghorydd Tom Jones - "Mae'n nhrydydd cwestiwn i, cyn belled ag y mae'r pwyslais ar yr iaith Gymraeg yn y cwestiwn yn y broses o Werthuso Swyddi.  Un o amcanion y Cyngor hwn ydi hyrwyddo yr iaith Gymraeg.  O fewn y cynllun yma fel ag y mae hi, mae'r iaith Gymraeg a'r sgiliau sydd ynglyn â hi wedi'u cynnwys yn y 'Knowledge and Skills' factors sydd yn gyfrifol am 16% o'r asesiad.  Mae'r defnydd o'r iaith Gymraeg yn cael ei roi yn yr 'Interpersonal and Communication' skills sydd yn gyfrifol am 7.8% o'r marciau.  Fedrwch chi roi sicrwydd i mi fel Deilydd Portffolio nad ydi'r iaith Gymraeg yn cael ei thrin yn israddol yn y broses yma ac y byddwn ni fel Cyngor yn gwerthfawrogi sgiliau yn yr iaith Gymraeg fel ag yn yr iaith Saesneg."

 

 

 

Y Deilydd Portffolio - "Gofynion y swydd ydan ni'n edrych arnyn nhw ac nid y person yn gwneud y swydd.  Unwaith eto mae o'n rhywbeth y bydd angen i ni edrych arno y flwyddyn nesaf.  Ga i eich sicrhau chi, cyn belled ag yr oedd yr iaith Gymraeg yn y cwestiwn, fe roddwyd parch mawr i staff oedd eisiau llenwi eu ffurflenni yn Gymraeg.  Dwi ddim yn gwybod pam fod angen i hwn gael ei gyfeirio i Fwrdd yr Iaith Gymraeg ond mi fydd yna bwys yn cael ei roi ar yr Iaith Gymraeg fel y buasech chi'n ei ddisgwyl ar Ynys Môn."

 

 

 

Y Cynghorydd Tom Jones - "Os gai ymateb os gwelwch yn dda gai awgrymu'n garedig i chi fel Deilydd Portffolio eich bod chi yn mynd â'ch cynllun i Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac efallai y gallan nhw ei wella fo i chi. "

 

 

 

Y Deilydd Portffolio - "Mi fydd yna Bwyllgor Sgriwtini yn y Flwyddyn Newydd ac mi ofynnwn ni i'r swyddogion ddod ag adroddiad i chi.  Os byddwn ni yn mynd â'r mater ymlaen gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg mae hyn yn mynd i slofi'r broses i lawr unwaith yn rhagor.  Mae'n rhaid i ni orffen pethau erbyn Ebrill 2007, ond mi fydd y mater yn cael ei adrodd i'r Prif Bwyllgor Sgriwtini os ydych chi'n dymuno."

 

 

 

15.3  Cadeirydd - "Cyn mynd ymlaen gyda'r cwestiwn, mae yna bethau wedi cael ei ddweud yn y Cyngor yma yn gynharach heddiw, rhwng y Cynghorydd John Arthur Jones a'r Cynghorydd Rogers.  Gai felly ofyn i'r Cynghorydd John Arthur Jones os ydi o yn tynnu ei eiriau yn ôl?"

 

 

 

Y Cynghorydd J. Arthur Jones - "Dim o gwbl, Mr. Cadeirydd, dwi'n dal i sefyll.  Dwi'n gofyn yr un cwestiwn eto i ni gael gwybod yn iawn.  Mae'r rheolau ma yn ei wneud o'n berffaith glir os ydi Cynghorydd yn camymddwyn mewn unrhyw ffordd yna mae'n rhaid iddo fod yn gwneud fel sy'n cael ei ddeud 'in an official capacity'.  Dwi'n gofyn y cwestiwn i'r Cynghorydd Peter Rogers, ydio yn actio 'in an official capacity' .  Mi ai wedyn i drafod y materion gyn belled a be mae o wedi ddeud.

 

 

 

Cadeirydd - "Gai ofyn i chwi drafod hwn y tu allan i'r Siambr os gwelwch yn dda."

 

 

 

Cwestiwn cyntaf  gan y Cynghorydd P. S Rogers:-

 

 

 

Y Cynghorydd P. S. Rogers - "Before I ask the question, can I clear the controversy over that. I am acting as a Councillor, it is very important, as a Councillor, my      neighbouring Councillor was ill, and the press cutting service will respond to that from the article in the Daily Post. I  don't remember the date when my neighbouring Councillor was ill and people rang me up about the

 

 

 

floods and also they rang me up about that because he was indisposed, so I am acting as a neighbouring Councillor because he was indisposed. The other thing I must make absolutely clear before I ask this question, it has come through to me this morning that you have a Barrister here today. I don't know whether it is Mr W. J, in the back here who is listening to what I'm saying."

 

 

 

Gofynnodd y Cadeirydd i'r Cynghorydd Rogers ofyn ei gwestiwn:-

 

 

 

Y Cynghorydd P. S. Rogers - "Thank you very much indeed. Last week a Cabinet Member was elected as Vice-Chairman of the Isle of Anglesey Charitable Trust - is it acceptable under the rules of the Constitution for a Councillor to remain in office after the public exposure that he issued a dishonoured cheque in attempt to settle a County Court Judgement made against him following work carried out by his Company on a contract awarded by this very Council?"

 

 

 

Cadeirydd - "Fe wnai ofyn i'r Arweinydd ymateb i hynna."

 

 

 

Arweinydd -  "I thank Councillor Rogers for his question.  In response to his first question, enquiries have revealed that the cheque referred to was issued by Cefni/Pentraeth Limited.  A private limited company.  As such, the Council within the constitution is not responsible for the business dealings of that company and is in no position to answer questions which should more properly be addressed to the company or its receivers/liquidators."

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd P. S. Rogers gwestiwn atodol, sef:- "This is not about a dishonoured cheque, Leader of the Council, this is about the failure to name the      Scaffolding Company, who in fact own the scaffolding that fell on the car. There was no need for this to have gone to Court. If that name had been disclosed the insurance company would have taken on the scaffolding company. This is an absolute disgrace what has happened. This is far (using) up a check (tape not clear). I will check that. I don't think you are correct about that but I will certainly check that. I will have the evidence to produce to you. What it is in fact that they failed, they would not disclose the name of the scaffolder and that is the dishonest part of it. In fact the people who should have been responsible, it is not the County Council, the people in fact should have been the agents who were paid a fee and the agents actually took no part, and

 

the gentleman that keeps interrupting me was at that time a Director of that Company."

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd P. S. Rogers ei ail gwestiwn - "You confirmed to me a few weeks ago that you investigated renovation works carried out under a Council renovation scheme on a Council property - when can I expect a response?"

 

 

 

Yr Arweinydd - "With regard to questions 2 and 3 Councillor Rogers is possibly referring to an issue of a resident in Gaerwen who has been provided grant funding to renovate his property.  Since the issue has apparently escalated into dispute between the resident and the contractor, it is not a matter in which this Council should be involved."

 

 

 

Cadeirydd - "Cwestiwn os gwelwch yn dda .."

 

 

 

Y Cynghorydd P. S. Rogers - "The question is are you aware that we are pursuing an insurance policy with the full support of the Council which is not correct and proper?"

 

 

 

Arweinydd - "No comment Mr. Chairman."

 

 

 

Cadeirydd - "Your final question please."

 

 

 

Y  Cynghorydd P. S. Rogers - "Can you confirm whether all County Councillors enjoy a special dispensation to deposit trade waste on Council run sites?"

 

 

 

Arweinydd - "The answer to that question is NO."

 

 

 

Y Cynghorydd P. S. Rogers - "Thank you very much. Well I would in reply say that certainly there is evidence that one Council member did that under the pretext of putting some hair on top of products from a hair dressing/beauty salon, I was wondering whether I could do the same thing Leader, by cutting my hair and putting (tape not clear) back."

 

 

 

15.4  Gofynnwyd y cwestiwn canlynol i'r Arweinydd gan y Cynghorydd R. Ll. Jones

 

 

 

"In view of the present world wide concern at the affect that CO2 emissions are having on global warming could the Council be informed as to how much CO2 and other greenhouse gases our Council activities create and what is being done in order to take a lead in reducing these emissions?"

 

 

 

Atebodd yr Arweinydd gan ddweud:-

 

 

 

"Councillor Bob Llewelyn Jones asks a very important question, one which is of concern to us all. Council Officers have been actively engaged for some time to combat the high energy usage and reduce CO2 emissions from Council Buildings. This work is complemented by research into the use of vehicles, street lighting, housing, waste management and the procurement of various goods and services which also contribute to CO2 and other greenhouse gas production. Today I am not able to provide detailed figures to take account of all such activities but the Council's Building Energy Efficiency Officer has prepared a Climate Change and Energy Policy for the Authority which, when combined with other plans and policies, will increase the effort to combat the production of greenhouse emissions and allow the Council to aim to achieve a 20% reduction on 1990 levels of CO2 emissions by the year 2010.

 

 

 

In the near future, and on behalf of the Council, I will be signing up towards a Welsh Declaration on Climate Change and Energy Efficiency which will commit the Authority, with all others in Wales, to work with the Assembly Government to deliver the UK Climate Change Programme in Wales. I am more than happy to provide a more detailed written response to Councillor Jones but you all might be interested in knowing that over the past two years the amount of electricity procured for the.Council's Property Portfolio from renewable sources has risen by 85% - and now are 100% supplied from 'green' sources. The Council's street lighting is also supplied from 100% renewable sources.

 

 

 

The Council is working with Carbon Trust and other organisations to ensure that energy efficiency is integral to all building design and maintenance. In the New Year, for example, an audit of energy efficiency for the Island's four Leisure Centres is being undertaken. As I said, further information about this and initiatives such as the Green Schools Initiative will be detailed in my letter. I will send you a letter and if members wish to have a copy of that letter, I am more than happy to send a copy to all members."

 

 

 

Rhoddwyd yr ymateb atodol canlynol ymlaen gan y Cynghorydd R. Ll. Jones:-

 

 

 

I think that this is probably the most important item before us today. I think we need to take a lead in this, we need to be a beacon for Wales as an Island because we've probably the most to lose out of this. We are a low-lying Island. Holyhead Mountain is probably the only place that will stand out . It's a very important item and all I'm asking Mr. Chairman is that we take it on board now, that we do have something in the foyer to show that we are a Green Island, that we are doing our bit. We could be promoting this and calling an all-Wales get together in Anglesey here, to ensure we are taking a lead on this. I propose that we do go for it and become a beacon for the rest of Wales."  

 

 

 

Dywedodd yr Arweinydd yn ei ateb:-

 

 

 

"I welcome the views of Councillor R. Llewelyn Jones and I will be taking these views onboard."

 

      

 

     Terfynwyd y cyfarfod am 3.45pm

 

      

 

 

 

     Y CYNGHORYDD JOHN ROWLANDS

 

     IS-GADEIRYDD