Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 16 Mawrth 2010

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Mawrth, 16eg Mawrth, 2010

CYNGOR SIR YNYS MÔN

 

Cofnodion y Cyfarfod Arbennig a gynhaliwyd ar 16 Mawrth 2010

 

PRESENNOL:

 

Y Cynghorydd O. Glyn Jones - Cadeirydd

Y Cynghorydd Selwyn Williams - Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr W.J.Chorlton; E.G.Davies; Lewis Davies;

Barrie Durkin; Jim Evans; Keith Evans; Fflur M.Hughes; K.P.Hughes; R.Ll.Hughes; W.I.Hughes; Eric Jones. G.O.Jones; H.Eifion Jones; Raymond Jones; R.Dylan Jones; R.Ll.Jones; T.H.Jones;

A.Morris Jones; C.McGregor; Bryan Owen; J.V.Owen; R.L.Owen; Bob Parry OBE; Eric Robers; Ieuan Williams; J.P. Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Rheolwr-gyfarwyddwr Interim;

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden);

Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol)

Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid);

Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol);

Pennaeth Gwasanaeth (Polisi);

Uchel Gyfreithiwr (ORH);

Cyfreithiwr i’r Swyddog Monitro (MJ);

Swyddog Pwyllgor (MEH).

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr C.Ll. Everett, P.M. Fowlie, T.Ll. Hughes, W.T. Hughes,

Rhian Medi, G.O. Parry MBE, G.W. Roberts OBE, J. Arwel Roberts,

P.S. Rogers, H.W. Thomas.

 

 

 

 

Agorwyd y cyfarfod gyda Gweddi gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod na Swyddog yng nghyswllt unrhyw eitem ar y rhaglen.

 

2

DERBYN UNRHYW GYHOEDDIADAU GAN Y CADEIRYDD, YR ARWEINYDD, AELODAU O’R PWYLLGOR GWAITH NEU’R PENNAETH GWASANAETH TÂL

 

Roedd y Cadeirydd am ddymuno’n dda i’r Cynghorwyr Jim Evans a J.V. Owen ar eu pen-blwydd.

 

Mynegodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i’r Cynghorydd J.P. Williams ar ei ddyweddiad yn ddiweddar.

------------------------------------------------------------

 

Roedd y Cynghorwyr Fflur M. Hughes ac Eric Jones yn bryderus nad oedd ‘Trefn y Gweithgareddau’ oedd wedi’i ddosbarthu yn y cyfarfod wedi’i gyfieithu i’r Gymraeg.  Roedd yr Aelodau yn dymuno iddo gael ei gofnodi eu bod yn gobeithio y byddai’r ‘Trefn y Gweithgareddau’ i’w gael yn y ddwy iaith yn y cyfarfod nesaf o’r Cyngor Sir.

 

 

3

PANEL ANNIBYNNOL AR GYDNABYDDIAETH ARIANNOL - ADRODDIAD BLYNYDDOL RHAGFYR 2009

 

 

 

Cyflwynwyd - Adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) gafodd ei ohirio yn y cyfarfod o’r Cyngor Sir ar 4 Mawrth, 2010 ynghyd â’r adroddiad ategol gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid).

 

 

 

Dywedodd yr Arweinydd - bod Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol wedi cyhoeddi Adroddiad Blynyddol 2009 ar 12 Chwefror, 2010, ac yn hwnnw nodir beth yw’r cyfraddau uchaf bosibl ar gyfer Lwfansau Aelodau yn y flwyddyn ariannol 2010-11.  

 

 

 

Fel datganiad o fwriad, penderfynodd y Cyngor Sir ar 15 Medi 2009, na ddylai cyfanswm costau Lwfansau’r Aelodau godi dros y tair blynedd nesaf.  I adlewyrchu hyn ni roddwyd cynnydd chwyddiant ar gyfer lwfans yng nghyllideb 2010-11 fel y saif honno ar hyn o bryd.  Fodd bynnag, mae’n rhaid ystyried y mater yn flynyddol yng nghyd-destun argymhellion y Panel Cydnabyddiaeth Ariannol Annibynnol. Roedd manylion yn yr adroddiad am yr argymhellion yng nghyswllt y canlynol:

 

 

 

Ÿ

Lwfans Sylfaenol 

 

Ÿ

Lwfansau Cyfrifoldeb Arbennig

 

Ÿ

Lwfans Gofal

 

Ÿ

Lwfans i Gyfetholedigion 

 

Ÿ

Lwfansau Teithio

 

Ÿ

Lwfansau Cynhaliaeth

 

 

 

Roedd manylion yn yr adroddiad hefyd ar ffurf tabl yn nodi’r symiau sy’n cael eu talu ar hyn o bryd, a’r uchafswm sy’n daladwy yn 2010-11.  Buasai codi’r lwfansau ar yr uchafsymiau yn costio £54k yn ychwanegol.  Ond oherwydd penderfyniad y Cyngor, rhaid tybio y byddwn yn rhewi’r cyfraddau presennol i’r lwfansau yn 2010-11.

 

 

 

Ond, bydd raid diwygio cynllun y Cyngor i roi’r gorau i dalu lwfans i Is-Gadeiryddion y Prif Bwyllgor Sgriwtini a’r Pwyllgorau Trosolwg.  Mae yma arbediad £16,602.

 

 

 

Gan fod yr awdurdod hwn wedi lobïo i gynyddu lwfans Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio, ac mae’r Panel wedi cytuno i hyn, buasai’n rhesymegol yn awr i ni gynyddu’r lwfans hwn – nid i’r un uchafswm £9,708 ond i’r lefel o £8,304 a delir ar hyn o bryd i Gadeiryddion eraill yn yr un band, a’r gost ychwanegol yn £2,770.  Nid oedd gorchwyl y Panel yn cynnwys lwfans i Gadeirydd ac Is-Gadeirydd y Cyngor.  Ond, os ydyw’r lwfansau’n gyffredinol yn cael eu rhewi, yna dylid rhewi'r rhain hefyd.

 

 

 

Nododd bod y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) - yn wyneb trafferthion gyda dod o hyd i lety yn Llundain a Chaerdydd efallai y dylid mabwysiadu yr uchafsymiau newydd ar gyfer cyfraddau cynhaliaeth dros nos, sef £150 i Lundain a £120 i Gaerdydd, gan ddilyn argymhelliad y Panel.

 

 

 

Y tu mewn i gyllideb na chafodd ei newid, mae tua £13k ar gael i newidiadau eraill, os oes raid.  Efallai, y bydd yr Aelodau yn dymuno rhoddi rhagor o sylw i lwfansau’r cyfetholedigion, ac nid yw hynny wedi’i fabwysiadu hyd yma gan yr Awdurdod hwn.

 

 

 

Argymhellwyd hefyd y dylid newid geiriad y Cyfansoddiad fel bod yn rhaid cefnogi pob hawliad gyda derbynebion am y gwariant a chyfyngir hyn i  ad-dalu’r  gwariant.

 

 

 

Nododd y Cynghorydd H Eifion Jones iddo son yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor am fater teithio dosbarth cyntaf.  Roedd yn credu y dylid gwneud i ffwrdd a theithio dosbarth cyntaf oherwydd sefyllfa ariannol y Cyngor.  Nododd yr Arweinydd y bydd y mater yn cael ei drafod ymhellach.

 

 

 

PENDERFYNWYD

 

 

 

Ÿ

Nodi argymhellion Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

 

 

 

Ÿ

Derbyn y lwfansau cynhaliaeth newydd a argymhellwyd gan y Panel am aros dros nos yn Llundain a Chaerdydd.

 

 

 

Ÿ

Cytuno gyda’r cynnydd a gynigir gan y Panel yng nghyswllt lwfans cyfrifoldeb arbennig i Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio ar y cyfraddau sy’n daladwy ar hyn o bryd gan y Cyngor hwn.

 

 

 

Ÿ

Dileu’r lwfans sy’n daladwy i Is-Gadeiryddion y Prif Bwyllgor Sgriwtini a’r Pwyllgor Trosolwg yn unol ag argymhellion y Panel.

 

 

 

Ÿ

i beidio symud ymlaen ar hyn o bryd gyda thalu lwfansau i gyfetholedigion.

 

 

 

Ÿ

Bod cyfraddau presennol y lwfansau i aelodau yn cael eu rhewi am 2010/11 ac i dderbyn y lwfansau canlynol am  2010/11 tra bo strwythur presennol y Pwyllgorau’n parhau a bod adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Cyffredinol Blynyddol y Cyngor yn nodi unrhyw newidiadau fydd eu hangen i’r Strwythur Pwyllgorau i gryfhau’r Cyngor :-

 

 

 

 

O 1 Ebrill 2010 ymlaen

Lwfans Sylfaenol

£12,960

Lwfans Cadeirydd y Cyngor                                 

£7,170

Lwfans Is-Gadeirydd y Cyngor

 

£5,121

Lwfansau Cyfrifoldeb Arbennig :

 

Arweinydd y Cyngor

£27,679

Is-Arweinydd y Cyngor

£15,223

Aelodau eraill o’r Pwyllgor Gwaith

£13,839

 

 

Cadeirydd Prif Bwyllgor Sgriwtini a Phwyllgorau Trosolwg Polisi

£8,304

Cadeirydd Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

£8,304

Cadeirydd Pwyllgor Trwyddedu

£8,304

Arweinydd Grwp y Prif Wrthblaid

£8,304

Cadeirydd Pwyllgor Archwilio

£8,304

Lwfans Gofal (os yn daladwy)                             

£4,836

 

Lwfans Teithio (y filltir) :

 

Cerbydau Preifat :hyd at 10,000 milltir

40c

Cerbydau Preifat :dros 10,000 milltir

25c

Beiciau Modur preifat

24c

Beiciau

20c

Ychwanegiad teithiwr – y teithiwr y filltir

5c

 

 

Lwfans Cynhaliaeth :

 

 

Absenoldeb (dim yn  cynnwys absenoldeb dros nos o’r cartref) o fwy na 4 awr :-

 

 

Lwfans dydd

£28

Absenoldeb tros nos (24 awr) -

 

Llundain

£150

Caerdydd

£120

Arall

£95

Gyda ffrindiau neu berthnasau

£25

 

 

 

                                                               

 

Ÿ

Bod y Cyfansoddiad yn cael ei newid yn unol â’r argymhelliad ar Lwfansau Gofal trwy ychwanegu ar ddiwedd Cymal 6.3.2:-

 

 

 

“Rhaid cefnogi pob hawliad gyda derbynebion am y gwariant a chyfyngir hyn i ad-dalu’r gwariant.”

 

 

 

Ÿ

bod Panel bychan yn cael ei sefydlu, gyda’r Arweinydd, yr Is-Arweinydd ac Arweinydd yr Wrthblaid i drafod y lwfansau sy’n daladwy i Gadeirydd ac Is-Gadeirydd y Cyngor Sir a bod adroddiad ar hynny’n cael ei gyflwyno i’r Cyngor llawn fis Mai, 2010.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd B Durkin yn dymuno iddo gael ei nodi iddo gynnig bod yr holl lwfansau cyfrifoldebau arbennig yn cael eu stopio am gyfnod treialu o 12 mis; byddai hyn yn arbed tua £126,000.  Gofynnodd y Cynghorydd W.J. Chorlton paham yr oedd gwelliant wedi’i gynnig i benderfyniad yr oedd y Cyngor wedi’i pleidleisio arno ac wedyn gofyn am i hynny gael ei gofnodi.  Dywedodd y Rheolwr-gyfarwyddwr Interim bod y cynnig wedi’i roi gerbron a’i gario ac nad oedd felly yn briodol i roi cynnig arall gerbron.  Nid oedd y Cynnig felly yn ddilys.

 

 

 

Nododd y Cynghorydd Durkin ei fod yn ystyried y dylai’r Aelodau gael mwy o amser i ymateb i eitemau oedd yn cael eu trafod cyn y ceid pleidleisio ar y mater.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

4

COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL CYMRU - CYNIGION DRAFFT

 

 

 

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) mewn perthynas â’r uchod.

 

 

 

Nododd yr Arweinydd bod Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru wedi cyhoeddi ei gynigion drafft yng nghyswllt trefniadau’r dyfodol ar gyfer rhanbarthau etholiadol y Cyngor Sir; mae’n gwadd sylwadau erbyn diwedd Mawrth 2010 arnynt.  

 

 

 

Yn wyneb y gwahoddiad cytunodd holl arweinyddion y grwpiau gwleidyddol i sefydlu panel o aelodau i lunio ymateb i’r cynigion drafft.  Cyfarfu’r Panel hwnnw ar ddydd Mawrth, 9 Mawrth 2010.

 

 

 

Yn y drafodaeth ar y mater roedd aelodau’r Panel yn nodi cyfarwyddiadau statudol y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol (Llywodraeth Cynulliad Cymru)(manylion ym Mharagraff 3 yr adroddiad).

 

 

 

Hefyd, atgoffwyd yr aelodau o ganllawiau sylfaenol y Comisiwn Ffiniau sef bod “gwerth” bob pleidlais yn gyfartal (roedd Paragraff 4 o’r adroddiad yn cyfeirio at hyn).

 

 

 

Er gwaethaf dymuniadau cofnodedig y Cyngor ynghylch adrannau etholiadol aml-aelod,nid oedd hwn yn  fater i’r Cyngor Sir ond yn fater i’r Gweinidog benderfynu arno ar ôl derbyn cyngor y Comisiwn.

 

 

 

Roedd aelodau’r Panel yn cydnabod bod y cynigion, fel y cawsant eu cyflwyno, wedi eu paratoi i adlewyrchu a chefnogi buddiannau’r Ynys trwy –

 

 

 

Ÿ

Diogelu y nifer uchaf bosib o aelodau etholedig.

 

Ÿ

Yn pwysleisio nad oedd modd sicrhau na chynnal yr egwyddor 30 aelodau / 1750 o bleidleiswyr ar yr Ynys.

 

Ÿ

Gan fod ardaloedd gwledig sylweddol ar yr Ynys, nifer fawr o bentrefi bychan a threflannau ac ambell i ardal drefol fawr mae’r cynigion i bob pwrpas yn adlewyrchu dyhead y Comisiwn i gael darpariaeth fydd yn hybu llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

 

 

 

Dywedwyd wrth y Panel am beryglon posib mynd ar drywydd cynigion sy’n gorfodi newidiadau sylweddol ar hyn o bryd - er enghraifft buasai mynnu ar gynnal yr adrannau etholiadol sy’n gwyro’n sylweddol o’r cyfartaledd arfaethedig o 1451 o etholwyr yn gallu golygu bod y Comisiwn yn cefnu ar y cynigion presennol ac yn gorfodi cynllun arall ar yr Awdurdod - cynllun a allai fod yn fwy anfanteisiol ac yn fwy anfoddhaol i’r Cyngor ac i etholwyr yr ynys na’r cynigion presennol.

 

 

 

Nodwyd y materion canlynol gan yr Aelodau :-

 

 

 

Ÿ

ni chafodd argymhellion y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 30 Mehefin, 2009 eu cyflwyno i’r Comisiwn Ffiniau ar y pryd;

 

Ÿ

cais i’r Comisiwn Ffiniau ymweld â’r Cyngor Sir i drafod pryderon yr aelodau etholedig ynglyn â’r newidiadau arfaethedig i’r ffiniau etholiadol;

 

Ÿ

nodi bod Awdurdod arall yng Ngogledd Cymru, Cyngor Sir Fflint ac Awdurdodau eraill yn Ne Cymru wedi mynegi anfodlonrwydd gyda chynigion y Comisiwn Ffiniau;

 

Ÿ

mynegi anfodlonrwydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru nad yw’r cynigion presennol yn sicrhau atebolrwydd Aelod/Pleidleisiwr;

 

Ÿ

nid yw ffiniau etholaethol aml-aelod yn dderbyniol;

 

Ÿ

dylid gohirio’r adolygiad etholaethol i gydfynd ag adolygiad ffiniau Cynghorau Tref / Cymuned yn 2016;

 

Ÿ

mae Cynghorau Cymuned yn y wardiau gwledig yn teimlo na fu digon o ymgynghori ar y broses ac na roddwyd digon o gyhoeddusrwydd i’r holl fater.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr-gyfarwyddwr Interim i ddogfen ymgynghori ffurfiol gael ei derbyn gan y Comisiwn Ffiniau ac y bydd yn rhaid iddynt ddangos eu bod wedi gwrando’n deg ar sylwadau’r awdurdod.  Roedd yn tybio y byddai’r Comisiwn yn ei chael yn anodd i wrthod cais gan yr Awdurdod hwn i ymestyn y cyfnod ymgynghori a chael trafodaeth lawn.

 

 

 

PENDERFYNWYD:-

 

 

 

Ÿ

bod y Cyngor yn gweithio’n gadarnhaol ac yn adeiladol gydag adolygiad y Comisiwn Ffiniau ond gan herio mewn dull cadarn y ffordd nad yw’r Comisiwn yn gweithredu o fewn termau’r ddeddfwriaeth a’r cyfarwyddyd Gweinidogaethol fel y gwahoddwyd ef i wneud gan y Gweinidog.

 

 

 

Ÿ

gwahodd y Comisiwn Ffiniau i ymweld â’r Cyngor i drafod her y Cyngor ac i oedi gyda symud ymlaen gyda’r bwriadau i Ynys Môn hyd nes terfynu’r trafodaethau hynny.

 

 

 

Ÿ

pe bai estyniad i’r cyfnod ymgynghori’n cael ei wrthod gan y Comisiwn; rhoi caniatâd i’r Panel a sefydlwyd i drafod y mater hwn ac i anfon ymateb ysgrifenedig ymlaen ar ran y Cyngor.

 

 

 

Ÿ

annog Cynghorau Tref/Cymuned i wneud sylwadau yn lleol i’r Comisiwn Ffiniau yn y cyfamser ac i sicrhau cefnogaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i safiad y Cyngor.

 

 

 

5     CAU Y WASG A’R CYHOEDD

 

      

 

     PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-

 

      

 

     “Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm".

 

      

 

6     AILSTRWYTHURO ADRAN Y RHEOLWR-GYFARWYDDWR

 

      

 

     Cafwyd adroddiad gan y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro - Bod newidiadau sylfaenol i strwythur yr Adran yn gofyn am newid cyfansoddiadol, a hynny yn ei dro yn gofyn am argymhelliad gan y Pwyllgor Gwaith.

 

      

 

     Yn yr Adroddiad Arolwg Corfforaethol cafwyd argymhelliad bod y Cyngor yn adolygu a phan fo’n briodol yn cryfhau hefyd strwythur ei wasanaethau corfforaethol gan gynnwys y rheini sy’n uniongyrchol atebol i’r Rheolwr-gyfarwyddwr.  Yn yr adroddiad hwn cynigir cyflwyno newidiadau i Adran y Rheolwr-gyfarwyddwr a sefydlu Swyddfa’r Rheolwr-gyfarwyddwr fydd yn canolbwyntio ar y tri maes strategol – Polisi, Perfformiad a Chyfathrebu.  Cyflwynir nifer o argymhellion ynghylch trosglwyddo rhai swyddogaethau i adrannau eraill.  Gyda’r newidiadau hyn daw rhagor o fanteision ac o gyfleon datblygu i’r Cyngor a hefyd fwy o gydlyniad rhwng y gwasanaethau.  Mae’r ailstrwythuro hwn a newidiadau eraill ategol yn bodloni gofynion argymhellion llywodraethu corfforaethol.

 

      

 

     Wrth i’r Cyngor symud ymlaen i wella trefniadau llywodraethu bydd raid iddo sicrhau bod canol y sefydliad yn addas i bwrpas cefnogi’r brif dasg o ddarparu arweinyddiaeth strategol y tu mewn i’r sefydliad, y tu allan iddo yn y cyfnod presennol a hefyd yn y dyfodol; hefyd bydd raid rhoddi pwyslais ar wella ac ar atebolrwydd pan fod disgwyliadau cynyddol ymhlith y cyhoedd i gael gwasanaethau mwy atebol a mwy o ymwneud â’r cymunedau lleol.

 

      

 

     Mae’r strwythur, a disgrifiad bras o’r swyddogaethau, yn ymddangos yn Atodiad 1 ynghlwm wrth y ddogfen hon.

 

      

 

     Yn bennaf mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar newidiadau i’r strwythurau presennol a chreu swyddfa lai i’r Rheolwr-gyfarwyddwr yn lle Adran y Rheolwr-gyfarwyddwr.  Mae rhai newidiadau arfaethedig yn ymwneud â symud rhai swyddogaethau a rhai cyfrifoldebau i le arall yn y sefydliad.

 

      

 

     Roedd Atodiad 2 o’r adroddiad yn nodi’r gwasanaethau/swyddogaethau oedd i’w cadw gan Swyddfa’r Rheolwr-gyfarwyddwr a’r rhai oedd i’w datblygu mewn adrannau eraill.  Roedd ymatebion wedi’u derbyn i’r ymgynghoriad ond nid oeddynt yn effeithio ar egwyddor na strategaeth y cynnig.  

 

      

 

     Holodd y Cynghorydd R Ll Jones beth fyddai arbedion / costau’r ymarfer hwn.  Nododd y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro beth fyddai’r costau a dywedodd y byddai’r cyfnod talu yn ôl yn 2 flynedd.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Gwaith ynghynt yn y diwrnod:-

 

 

 

Ÿ

yn amodol ar gyfeiriad y Gweinidogion Cymreig, cymeradwyo’r bwriad i drosglwyddo’r gwasanaethau a swyddogaethau yn cynnwys dileu swydd Pennaeth Gwasanaeth o Adran y Rheolwr-gyfarwyddwr er mwyn creu swyddfa Rheolwr-gyfarwyddwr fyddai’n fwy llyfn ac yn canolbwyntio ar gyfathrebu, polisi a pherfformiad;

 

 

 

Ÿ

awdurdodi’r Rheolwr-gyfarwyddwr i ddatrys materion unigol fyddai’n codi o’r ymgynghoriad;

 

 

 

Ÿ

awdurdodi swyddogion i wneud unrhyw newidiadau dilynol fyddai’n angenrheidiol i’r Cyfansoddiad fel yr uchod  yn cynnwys y Strwythur Rheoli yn Rhan 7 a’r Cynllun Dirprwyo ym mharagraff 3.5 yn cynnwys trosglwyddo swyddogaethau’r Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) a dileu’r swydd honno.

 

 

 

      

 

      

 

     Terfynwyd y cyfarfod am 3.45 p.m.

 

      

 

Y CYNGHORYDD O. GLYN JONES

 

CADEIRYDD