Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 16 Medi 2008

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Mawrth, 16eg Medi, 2008

Cyfarfod o Gyngor Sir Ynys Môn  

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Medi, 2008

 

PRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Aled Morris Jones (Cadeirydd)

 

Y Cynghorydd O Glyn Jones (Is-Gadeirydd)

 

Y Cynghorwyr W J Chorlton, E G Davies, Lewis Davies,

Barrie Durkin, Jim Evans, K Evans, C Ll Everett, P M Fowlie,

D R Hughes, Fflur M Hughes, K P Hughes, R Ll Hughes,

W I Hughes, Eric Jones, Gwilym O Jones, H Eifion Jones,

Raymond Jones, R Dylan Jones, R Ll Jones, T H Jones,

Clive McGregor, Rhian Medi, Bryan Owen, J V Owen,

R L Owen, Bob Parry OBE, G O Parry MBE, Eric Roberts,

J Arwel Roberts, Peter S Rogers, Elwyn Schofield,

H W Thomas, Ieuan Williams, John Williams, John Penri Williams, Selwyn Williams.

 

WRTH LAW:

 

Rheolwr-gyfarwyddwr

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a’r Amgylchedd)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden)

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol a Phwyllgorau/ Swyddog Monitro

Pennaeth Gwasanaeth (Polisi)

Pennaeth Gwasanaeth (Datblygu Economaidd)

Cyfreithiwr i’r Swyddog Monitro (RMJ)

Pennaeth Rheoli Cynllunio (EGJ)

Cydlynydd Fframwaith Plant/Pobl Ifanc (GH)

Swyddog Cyfathrebu 

Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgor

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr T Ll Hughes, G W Roberts, OBE

 

Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd Gwilym O Jones.

 

 

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (2:00 pm - 2:20 pm)

 

Cafwyd cyflwyniad gan Mr Richard Fairhead, Uwch Reolwr Diogelwch Tân, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar hyrwyddo diogelwch tân i bobl sy’n byw ac yn ymweld ag Ynys Môn.  Cafwyd manylion ynglyn â’r nifer o farwolaethau damweiniol oherwydd tân ers 2001 yn ôl blwyddyn ariannol, y ffactorau oedd yn cyfrannu at y damweiniau, ymwneud asiantaethau eraill, a’r hyn y mae’r Awdurdod Tân yn ei wneud i daclo’r broblem a sut y gallai’r Cyngor hwn helpu trwy gydweithio.

 

Hefyd wrth law roedd y Mri Neal Gallagher a Gareth Griffiths ar ran y Gwasanaeth Tân ac Achub.

 

Yn dilyn y cyflwyniad fe gafwyd sesiwn o gwestiynau ac ateb.  

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r cynrychiolwyr o’r Gwasanaeth Tân ac Achub am eu cyflwyniad manwl a llawn gwybodaeth a dywedodd y byddai’r Cyngor hwn yn gwneud ei orau i helpu’r Gwasanaeth yn ei waith.  

 

 

 

 

 

 

 

 

4

 

4

 

4

 

1

DADATGANIADAU O DDIDDORDEB

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd A Morris Jones ddatganiad o ddiddordeb yn eitem 7 o’r cofnodion hyn ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod unrhyw drafodaeth na phleidleisio arni.

 

 

 

5

 

Gwnaeth y Cynghorydd H W Thomas ddatganiad o ddiddordeb mewn unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â gweithgareddau busnes ei wraig.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd W J Chorlton ddatganiad o ddiddordeb mewn unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Gwasanaethau Amgylcheddol.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd C Ll Everett ddatganiad o ddiddordeb mewn unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Personel.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Fflur M Hughes ddatganiad  o ddiddordeb mewn unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei mab yn yr Adran Addysg a Hamdden.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd E Schofield ddatganiad o ddiddordeb mewn unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei wyr yn yr Adran Briffyrdd.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd B Owen ddatganiad o ddiddordeb mewn unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei wraig yn yr Adran Addysg a Hamdden.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd R Ll Hughes ddatganiad o ddiddordeb mewn unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei fab yn yr Adran Briffyrdd.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd O Glyn Jones ddatganiad o ddiddordeb mewn unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei wraig a’i ferch yn yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Eric Jones ddatganiad o ddiddordeb mewn unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chartrefi preswyl y Cyngor.

 

 

 

2

DERBYN UNRHYW GYHOEDDIADAU GAN Y CADEIRYDD, YR ARWEINYDD, AELODAU’R PWYLLGOR GWAITH NEU BENNAETH Y GWASANAETH TÂL

 

 

 

Dywedodd y Cadeirydd am farwolaeth Mr Byron Williams, Cyfarwyddwr Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor ar 5 Medi, 2008.  Yn dilyn cyfnod byr o waeledd fe hunodd yn dawel yng nghwmni ei deulu.

 

 

 

Dechreuodd ei yrfa gyda Chyngor Gwynedd gan ddal nifer o swyddi gyda Chynghorau Môn a Gwynedd.  Fe’i hapwyntiwyd yn Gyfarwyddwr Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol yn 1995 ac yn Gyfarwyddwr Corfforaethol yn 2001.  Byddai pobl yn ei gofio fel dyn oedd yn parchu ei gydweithwyr, ei staff a defnyddwyr y gwasanaeth ac fel un a wnaeth ei orau bob amser i bawb.

 

 

 

Roedd gan Byron ddiddordeb mawr mewn Llywodraeth Leol ac roedd yn teimlo mai dyma’r ffordd i edrych ar ôl pobl.  Roedd wedi edrych ymlaen cymaint at agoriad swyddogol Canolfan Gofal Dydd, Blaen y Coed, ar gyfer cleientiaid Anabledd Dysgu yn Llangoed.  Mae’r Cyngor hwn yn ddiddadl yn lle tlotach hebddo.

 

 

 

Ar ran yr Aelodau a staff fe estynnodd ei gydymdeimlad llwyraf i wraig Byron, sef Marilyn, ei ferched Sara, Mari ac Anna a hefyd i’w fam a’i chwaer a’r holl deulu yn eu profedigaeth.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr-gyfarwyddwr “Fis yn ôl roeddwn yn siarad gyda Byron am y Gwasanaethau Cymdeithasol ac am fusnes y Cyngor Sir.  Mae’r staff a’r Tîm Rheoli yn dal mewn sioc oherwydd mor gyflym y digwyddodd pethau.  Fy mhleser i oedd bod wedi cyfarfod â Byron yn ôl yn 2003.  Roedd Bwrdd Iechyd Lleol Ynys Môn wedi gofyn i mi asesu rhywun ac roedd Lynn, Byron a minnau ar y Panel.  Fe gymerais i at Byron yn syth.  Roedd yn gymeriad gonest a’r hyn yr oeddech yn ei weld oedd yr hyn yr oeddech yn ei gael.  Cyn i mi ddechrau fy nyletswyddau ym Môn fel Rheolwr-gyfarwyddwr roeddwn i wedi cyfarfod â Graham Williams, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghaerdydd ac fe ddywedodd ar y pryd y byddwn mewn dwylo diogel, oherwydd bod Byron ymysg y Cyfarwyddwyr gorau yng Nghymru - par o ddwylo diogel.  Roedd hon yn deyrnged haeddiannol i Byron oherwydd mae gen i lawer o barch at Graham Williams hefyd.  Roedd Byron yn hynod o broffesiynol.  Roedd ganddo angerdd am ei waith ac yn ei rôl yn helpu pobl.  Byddai Byron bob amser yn rhoi pobl eraill yn gyntaf ac ef ei hun yn olaf.  Doedd dim malais yn gysylltiedig ag ef o gwbl, roedd yn wr bonheddig.  Roedd yn gweld y gorau ym mhawb ac yn gweld y potensial mewn pobl yn ogystal ac roedd hynny yn ochr dda eithriadol ohono.  Roedd ganddo egwyddorion cryf a brwdfrydedd dros hawliau pobl, hawliau’r unigolion ac am gyfiawnder.  Fel y dywedodd y Cadeirydd ynghynt, roedd yn angerddol dros y broses ddemocrataidd.

 

 

 

Roeddwn i yn yr angladd yn Nhalwrn ddydd Sadwrn.  Roedd yr Eglwys yn llawn ac roedd cannoedd y tu allan yn methu mynd i mewn.  Yr un fath yn yr amlosgfa ym Mangor.  Roedd pobl o bob man yng Nghymru wedi dod yno i dalu teyrnged i Byron.

 

 

 

Rwyf hefyd wedi derbyn niferoedd o lythyrau gan fudiadau yn talu teyrnged i Byron ac yn cydymdeimlo gyda’r Cyngor a’i deulu.  Byddaf yn pasio’r rhain ymlaen i’w deulu.  Bydd staff y Cyngor a’i holl deulu yn colli Byron yn fawr iawn.”

 

 

 

Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i Arweinyddion y Grwpiau Gwleidyddol i dalu’r teyrngedau a ganlyn:-

 

 

 

Cynghorydd W J Chorlton, Grwp Llafur - As the Managing Director has said, it is a difficult

 

time for everybody who has known Byron, and although I hadn’t known Byron for a very long time,

 

I did have the privilege of working with him for the last four years before the May elections. I got to know him quite intimately. I didn’t always see eye to eye with him since he had a strong point of view and he made sure that that point of view was heard. He had one of the most difficult Departments to run because he wasn’t dealing with commodities, he was dealing with people and it was hard to say no to people, especially when those people are vulnerable to start with and you want the best for them and are finding it hard to find the money to do it. Nine times out of ten, he found that money, one way or another, to help those vulnerable people. He used to say to me quite often ‘but for the grace of God go I’ and I think he really felt that. He had a strong feeling for his staff. I often said too strong a feeling for his staff. He defended them to the hilt, he wouldn’t take one cross word against them. I don’t know what he did behind closed doors but certainly with me when I was criticising the staff, he would stand up as their Champion.

 

 

 

He was a person that did feel for democracy, he was a person who fought for the community, he was a strong language person, the Welsh Language was very, very dear to his heart and he did whatever he could to promote it. He was one of the founder members of Community First, he was in the forefront there and I’m sure Arwel(Roberts) would agree that he played a major part in setting up the various bodies there, and you can see the fruits of these today.

 

 

 

He was adamant that Haulfre was going to be built. We had a difference of opinion as to where it was going to be built, but nevertheless it was going to be, and it is there now. It’s a shame that he isn’t here to see it and take part in the official opening, but there you are, these things happen and thank God we don’t know about it. It was a shock to us all and I’m sure it is going to be a big loss for everybody and my condolences to the family.”

 

 

 

Cynghorydd  R G Parry, OBE, Plaid Cymru - “Doedd Byron ddim yn siaradwr mawr ond roedd yna sylwedd bob amser yn yr hyn y byddai’n ei ddweud.  Rwy’n gwybod ei fod yn caru ei waith oherwydd fel y dywedodd John Chorlton roedd yn darparu gwasanaeth ardderchog i’r Sir hon.  Mae’r gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan y Gwasanaethau Cymdeithasol yn wahanol i holl wasanaethau eraill y Cyngor gan eu bod yn delio’n uniongyrchol gyda phobl sydd gyda phroblemau iechyd, yr henoed a hyd yn oed bobl ifanc.

 

 

 

Roedd Byron bob amser yn teimlo’n agos i’r bobl hynny ac yn aml iawn roedd yn gallu eu helpu hwy ac roedd yn falch iawn bob amser pan fyddai’n gwneud hynny.  Roedd yn caru ei staff - roedd yn meddwl y byd ohonynt.  Ar ôl yr angladd ddydd Sadwrn, roeddwn yn siarad gydag un person o’r Gwasanaethau Cymdeithasol, merch ifanc oedd ddim wedi bod yno am amser hir a’r hyn ddywedodd hi wrtha i oedd bod  Byron ‘ fel tad i ni i gyd.’  Roedd y drws bob amser yn agored i’r staff fynd yno i’w weld ac rwy’n meddwl bod hynny’n bwysig.  Does ond rhaid i chwi feddwl pwy oedd yno ddydd Sadwrn, o’r Adran, yn yr angladd, a’r dagrau a gollwyd drosto.  Mae’n golled enfawr i’r Cyngor hwn ond yn golled fwy byth yn y cartref yn Nhalwrn ac mae ein cydymdeimlad yn fawr iawn gyda’r teulu.  Y cyfan alla i ei ddweud yw “da was, da a ffyddlon.”

 

 

 

Y Cynghorydd P M Fowlie, Annibynwyr Gwreiddiol - “Gyd Aelodau, gydweithwyr i Byron sydd wedi mynychu’r cyfarfod hwn y prynhawn yma, nes i erioed feddwl mai un o’r tasgau cyntaf fyddai gen i fyddai wynebu Cyngor llawn yn talu teyrnged i Byron.  Os câi i ddweud fel Aelod gweddol newydd o’r Cyngor, roedd Byron wedi bod yma am ryw 10 mlynedd ac roedd bob amser yn barchus.  Yn y Pwyllgorau byddai bob amser yn eich galw’n Syr ac roeddwn i yn meddwl bod hynny bob amser yn rhywbeth i’w edmygu.  Roedd yna gyfeillgarwch oedd, roedd yna bresenoldeb, oedd.  Doedd ond rhaid i chwi weld y nifer o bobl ddaeth i’w angladd yn Nhalwrn ddydd Sadwrn.

 

 

 

Rydw i yn ddiolchgar iawn i mi ddod i’w adnabod.  Yn anffodus allwn ni wneud dim ynglyn â’n tynged.  Bydd yn cael ei golli’n fawr yn Ynys Môn am nifer o flynyddoedd i ddod.  Rydw i’n well person o gael ei adnabod, fel pob un ohonoch chi.  Rydym wedi cyfeirio at y gwaith a wnaed ond fe fyddwn i yn hoffi i chwi i gyd feddwl amdano fel person, dyna sut y byddwn ni yn hoffi ei gofio.  Hoffwn ddiolch i’r staff am fynychu’r pnawn hwn i ddangos eich cefnogaeth ac i dalu eich teyrngedau.  Diolch yn fawr iawn i chwi. “

 

 

 

Estynnodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad llwyraf â’r Cynghorydd B Durkin oedd wedi colli ei dad ac i’r Cynghorydd Peter Rogers oedd wedi colli ei fam.

 

 

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd hefyd at farwolaeth sydyn Mrs Cath Pari oedd yn gweithio yn yr Adain Gwasanaethau Pwyllgor.  Roedd Cath wedi gweithio i’r Cyngor Sir am nifer o flynyddoedd.  Roedd yn aelod distaw o’r staff ac yn boblogaidd gyda’i chydweithwyr a byddai’n cael ei cholli’n fawr yma yn y Cyngor Sir.  Estynnodd ei gydymdeimlad â’i phlant Sara a David a’r teulu oll yn eu colled.

 

 

 

Cydymdeimlodd y Cadeirydd hefyd gydag unrhyw aelod o’r Cyngor neu aelod staff oedd wedi cael profedigaeth.

 

 

 

Safodd yr Aelodau a’r Swyddogion mewn teyrnged ddistaw fel arwydd o’u parch.

 

 

 

Rhoddwyd llongyfarchiadau gan y Cadeirydd i Ysgol Glanaethwy am wneud mor dda yn dod yn ail yng nghystadleuaeth y BBC - Last Choir Standing.  Roedd yn glod i’r bobl ifanc hyn fod wedi cyflawni hyn ac roedd y Cyngor yn hynod o falch ohonynt am wneud mor dda.

 

 

 

Estynnwyd llongyfarchiadau hefyd i Fand Ieuenctid Gwynedd a Môn am gael eu dewis i berfformio yn y Prom Ysgolion Prydain yn Neuadd Albert, Llundain fis Tachwedd, dan arweiniad Mr Gwyn Evans.

 

 

 

Llongyfarchiadau i gymuned Cemaes oedd wedi ennill yn y categori Medal Aur yng nghystadleuaeth Cymru yn ei Blodau.

 

      

 

     Llongyfarchiadau i Meirion Edwards, Dewi Williams, Arwel Evans, Hedd Rhys, Dewi Francis Jones, Steven Owen, Richard Williams a Iestyn Harries ar gwblhau’r Her 3000 Cymreig - yr her oedd cerdded pob un o’r 15 copa dros 3000 troedfedd yng Nghymru o fewn 24 awr.  Fe gododd yr hogiau £1,900 i wahanol elusennau.

 

      

 

     Llongyfarchiadau hefyd i’r rhai o Ynys Môn oedd yn llwyddiannus yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd ac i Dyfed Edwards, yn wreiddiol o Langefni, ar ennill y fedal ddrama.

 

      

 

     Estynnwyd llongyfarchiadau i Barc Gwledig Morglawdd Caergybi oedd wedi’i roi ar y rhestr fer yn rownd derfynol Gwobrau 2008 Llecynnau Gwyrdd papur newydd y Times.  Roedd yn un o bump o atyniadau oedd yn cystadlu am y teitl llecyn agored gorau.  Roedd yr hen chwarel gerrig sy’n cael ei rheoli gan dîm Cefn Gwlad y Cyngor Sir yn awr yn Warchodfa Natur hardd.  Enwebwyd y Parc gan Gillian Oaks, Cheadle, Swydd Gaer a disgwylir cael y canlyniadau fis Rhagfyr.

 

      

 

     Rhoddwyd llongyfarchiadau hefyd i bawb o Ynys Môn oedd ar restr fer Gwobr Cymru Gwir Flas.  Diolchwyd am waith caled y Tîm Twristiaeth a’u cydweithrediad gyda darparwyr bwyd a bwytai ar Ynys Môn.

 

      

 

     Estynnwyd llongyfarchiadau hefyd i’r Cynghorydd G O Parry, MBE a Mrs Mary Parry ar ddathlu eu Priodas Aur yn ddiweddar ac i Arweinydd y Cyngor ar ei lwyddiant mewn Sioeau Amaethyddol, nid yn unig yng Nghymru ond trwy Brydain gyfan.

 

      

 

     Nododd y Cadeirydd hefyd bod Swyddogion o’r Cyngor Sir yn rhedeg ym Marathon Môn ddydd Sul a bod ffurflenni ar gael i’w noddi a byddai’r arian yn mynd tuag at Sefydliad y Galon Prydain, Marchogaeth i’r Anabl a Hospis yn y Cartref.

 

      

 

     Cymerodd y Cynghorydd Chorlton y cyfle i gyfeirio at Barc Gwledig y Morglawdd a bod angen i arian gael ei wario ar gyfleusterau gwell i’r bobl leol ac i’r ymwelwyr fel eu bod yn medru cael diodydd a bwydydd yno.  Roedd wedi siarad gyda’r Adran sawl gwaith yn gofyn am y gwelliannau hyn.  Ar hyn o bryd fe geir un adeilad yna sydd yn amgueddfa ac un arall yn gaffi.  Roedd y caffi yn rhy fach a’r amgueddfa’n rhy fawr.  Y cyfan oedd ei angen oedd ffeirio’r ddau.  Gofynnodd i’r Cadeirydd gymryd diddordeb personol yn hyn ac i symud y mater yn ei flaen.

 

      

 

     Nododd y Cadeirydd ei sylwadau.

 

      

 

3

COFNODION

 

      

 

     Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion y cyfarfod cyffredin a’r cyfarfod blynyddol o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 9 Mai, 2008.

 

      

 

4

CYNLLUN GWELLA 2008

 

      

 

     (i)  Cyflwynwyd - Adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi).

 

     (Copi eisoes wedi’i ddosbarthu i’r holl Aelodau fel rhan o bapurau’r Pwyllgor Gwaith ar gyfer 8 Medi 2008).

 

      

 

     (ii)  Adrodd - Bod y Pwyllgor Gwaith, ar ôl trafod yr uchod yn ei gyfarfod ar 8 Medi, 2008, wedi penderfynu fel a ganlyn:-

 

 

 

Ÿ

“Nodi a chymryd i ystyriaeth y sylwadau a wnaed gan y Prif Bwyllgor Sgriwtini a’r Pwyllgorau Trosolwg yn eu cyfarfod ar y cyd ar 27 Awst 2008 ar y prif risgiau i’r Cyngor.

 

 

 

Ÿ

Nodi na fydd y Strategaeth Rhesymoli Ysgolion wedi’i chwblhau erbyn Rhagfyr 2008 fel yr awgrymwyd gan y Prif Bwyllgor Sgriwtini.

 

 

 

Ÿ

Argymell i’r Cyngor Sir y dylid rhoi awdurdod i’r Pennaeth Gwasanaeth - Polisi, mewn ymgynghoriad gyda’r Arweinydd a’r Aelod Portffolio Perfformiad i roi trefn derfynol ar y Cynllun erbyn y dyddiad cau o 31 Hydref, 2008.”

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd H E Jones - os nad yw’r Pwyllgor Gwaith yn derbyn ei argymhelliad ei hun yn y Cynllun Gwella ac na fyddai’r Strategaeth Rhesymoli Ysgolion wedi’i chwblhau erbyn mis Rhagfyr, yna pa bryd y byddai wedi’i chwblhau.

 

 

 

Nododd y Cynghorydd E G Davies, Deilydd Portffolio, yn ei ateb y byddai’r broses ymgynghori gyda chymunedau’n dechrau fis Hydref ac yn cael ei chwblhau, fe obeithir, erbyn y Pasg.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd H E Jones yn disgwyl felly y byddai’r cyfeiriad yn Nhudalen 20 o’r Cynllun Gwella’n cael ei newid i adlewyrchu datganiad y Deilydd Portffolio.  Yn ail, ar dudalen 25 o’r Cynllun, roedd yn croesawu’r ffaith y byddai staff ychwanegol yn cael eu hapwyntio i’r Adain Eiddo, ond gofynnodd paham yr oedd y Cyngor angen ymgynghorwyr i gwblhau’r Cynllun Rheoli Asedau a pha bryd y byddai’r Cynllun yn cael ei gwblhau?

 

 

 

Wrth ymateb, diolchodd y Cynghorydd E Schofield i’r Cynghorydd Jones am y gydnabyddiaeth bod angen staff ychwanegol yn yr Adain fel y bod modd symud ymlaen gyda’r gwaith hwn.  Hwn oedd un o’r mannau risg mwyaf o fewn yr Awdurdod ac oherwydd nad oedd y broses Gwerthuso Swyddi wedi’i chwblhau eto, roedd y Cyngor angen cymorth o’r tu allan i symud y gwaith hwn ymlaen.

 

 

 

 

 

Yn olaf, dywedodd y Cynghorydd H E Jones bod y Cynllun Gwella yn gyfle i adolygu blaenoriaethau a gweledigaeth y Cyngor.  Gofynnodd i’r Arweinydd ddweud wrth y Cyngor am unrhyw flaenoriaethau newydd fel y gellir eu cynnwys yn y Cynllun.

 

 

 

Yn ei ateb dywedodd yr Arweinydd bod y Pwyllgor Gwaith newydd wedi mabwysiadu gwaith o’r cyfnod blaenorol a chadarnhaodd y byddai gan y Pwyllgor Gwaith newydd ei flaenoriaethau ei hun.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd W J Chorlton i’r Deilydd Portffolio Economaidd beth yr oedd yn ei wneud yn bersonol i sicrhau bod Wylfa B yn dod i’r Ynys?

 

 

 

Nododd y Cynghorydd B Owen, Deilydd Portffolio yn ei ateb bod y Cyngor hwn yn gefnogol i Wylfa ‘B’ a bod ei gefnogaeth yn parhau.  Roedd y Pwyllgor Gwaith yn lobïo Gweinidogion i wneud penderfyniad buan ynglyn â hyn.

 

 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhellion y Pwyllgor Gwaith a bod awdurdod yn cael ei roddi i’r Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) mewn ymgynghoriad gyda’r Arweinydd a’r Deilydd Portffolio Perfformiad i gwblhau’r Cynllun erbyn y dyddiad cau ar 31 Hydref, 2008.

 

 

 

5     PWYLLGORAU SGRIWTINI / TROSOLWG - ADRODDIAD BLYNYDDOL 2007/08

 

      

 

     Adroddodd cyn Gadeirydd y Prif Bwyllgor Sgriwtini, y Cynghorydd C L Everett bod Erthygl 6 o Gyfansoddiad y Cyngor, yn dweud bod yn rhaid cyflwyno Adroddiad Blynyddol i’r Cyngor ar waith y Pwyllgorau Trosolwg a Sgriwtini.  Roedd yr Adroddiad Blynyddol am 2007/08 gerbron y Cyngor heddiw yn cynnwys y cyfnod rhwng cyfarfod Blynyddol y Cyngor ar 1 Mai 2007 a 9 Mai 2008.  Roedd manylion am rai o’r materion a ystyriwyd gan y 3 Phwyllgor i’w gweld ym mharagraffau 6, 7 ac 8 o’r adroddiad.

 

      

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo cynnwys Adroddiad Blynyddol y Pwyllgorau Trosolwg a Sgriwtini am 2007/08.

 

      

 

6     NEWIDIADAU I GYFANSODDIAD Y CYNGOR

 

      

 

     (a) DIRPRWYO I REOLWR Y GWASANAETHAU CYFREITHIOL

 

      

 

     (i) Cyflwynwyd - Adroddiad gan y Cyfreithiwr i’r Swyddog Monitro.

 

      

 

     (ii) Adroddwyd - Bod y Pwyllgor Gwaith, ar ôl trafod yr uchod yn ei gyfarfod ar 8 Medi, 2008 wedi penderfynu fel a ganlyn:-

 

      

 

     (a)  PENDERFYNWYD bod y mater ynghylch dirprwyo grym i Reolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol mewn perthynas â thaliadau a wnaed dan Adran 92 Deddf Llywodraeth Leol 2000, yn cael ei gyfeirio i’r Cyngor Sir i’w benderfynu arno a gofyn i Gyfarwyddwraig y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro gynghori’r Cyngor llawn ynghylch a fyddai’n ymarferol dirprwyo’r cyfrifoldeb hwn i’r Pwyllgor Gwaith yn hytrach na’r Cyngor.

 

      

 

     Cyfeiriodd Cyfarwyddwraig y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro yr Aelodau at 3ydd tudalen yr adroddiad a’r argymhellion a geir o dan Bara 1.11.  Roedd hwn yn cynnwys ei hargymhellion i ychwanegu at bwerau’r Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol i’w galluogi, ynghyd â’r Pennaeth Gwasanaeth perthnasol, i wneud setliad ariannol i ddatrys cwynion o dan weithdrefn gwynion gorfforaethol y Cyngor h.y. yr achosion hynny lle y byddai’n briodol i wneud setliad ariannol yn fewnol o dan y weithdrefn gwynion, yn unol â’r Egwyddorion Unioni Cam, gyhoeddwyd gan yr Ombwdsmon, ond cyn i’r cwynion gael eu pasio ymlaen i’r Ombwdsmon.  Pan ddaeth yr adroddiad drafft hwn gerbron y Pwyllgor Gwaith, barn y Pwyllgor oedd cyn belled â nad oedd unrhyw gyfyngiad cyfreithiol, byddai’n well gan y Pwyllgor Gwaith wneud penderfyniad ei hun ar y setliadau ariannol hyn o dan y Weithdrefn Gwynion Gorfforaethol yn hytrach na’u dirprwyo hwy i’r

 

     Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol.

 

      

 

     Cadarnhaodd Cyfarwyddwraig y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro nad oedd unrhyw waharddiad cyfreithiol yn erbyn cynnig y Pwyllgor Gwaith a’i fod felly yn fater i’r Cyngor benderfynu pa un oedd yr opsiwn mwyaf ymarferol.  

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd C McGregor bod awdurdod yn cael ei roddi i’r Pwyllgor Gwaith i wneud taliadau yng nghyswllt cwynion a wneir yn erbyn yr Awdurdod mewn achosion o gamweinyddu o dan Adran 92 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.  Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd G O Parry, MBE.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd W J Chorlton a fyddai’r penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud yn gyhoeddus.

 

      

 

     Cadarnhaodd y Cyfarwyddwraig y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro y byddai adroddiadau a chofnodion o benderfyniadau yn gorfod cael eu cyhoeddi.  Byddai’r adroddiadau’n diogelu identiti’r unigolion ond fe fyddent yn rhoddi peth gwybodaeth am yr amgylchiadau ac am lefel y taliad.  

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd C L Everett o’r farn nad oedd yn bosibl mabwysiadu’r argymhelliad hwn heddiw hyd nes y byddai yna Weithdrefn Gwynion Gorfforaethol yn ei lle.  Roedd angen cael Swyddogion Cwynion Corfforaethol yn eu swydd.  Roedd yn rhaid cael rhywun fyddai â pherchenogaeth ar y cwynion o fewn yr Awdurdod.  Nid oedd yn deg cael Swyddogion Cwynion ym mhob Adran yn gyfrifol am y weithdrefn newydd hon.  Gofynnodd am i’r mater hwn dderbyn sylw fel mater o frys.

 

      

 

     (Roedd y Cynghorydd J V Owen yn dymuno iddo gael ei gofnodi nad oedd wedi cymryd unrhyw ran yn y trafodaethau na’r pleidleisio).

 

      

 

     PENDERFYNWYD dirprwyo’r pwer yng nghyswllt taliadau wneir o dan Adran 92 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 i’r Pwyllgor Gwaith.

 

      

 

     “(b)  PENDERFYNWYD, trwy fwyafrif, gofyn i’r Cyngor adolygu’r Cyfansoddiad drwy ychwanegu at y grym a ddirprwywyd I Reolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol, y cymal isod yn 3.5.3.6 :-

 

      

 

     12  Llofnodi unrhyw gontract, cytundeb, rhybudd neu unrhyw ddogfen arall i weithredu unrhyw benderfyniad a wneir gan y Cyngor, unrhyw un o’i Bwyllgorau neu Is-bwyllgorau cyfredol gan gynnwys eu holynwyr ac unrhyw bwyllgor arall a sefydlir o bryd i’w gilydd (a chan gynnwys y pwyllgorau a’r is-bwyllgorau cyfredol sef y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion, Pwyllgor Apeliadau, Pwyllgor Apeliadau Gwaharddiadau a Mynediad i Ysgolion, Pwyllgor Apeliadau Gwasanaethau Cymdeithasol, Pwyllgor Safonau, Pwyllgor Archwilio, Is-bwyllgor Llywodraethu a Rheoli Risg, Is-bwyllgor Canolbwyntio ar y Cwsmer, Pwyllgor Penodi a’r Pwyllgor Trwyddedu) neu gan y Pwyllgor Gwaith neu gan Aelod neu Swyddog yn gweithredu dan rym gweithredol neu sy’n angenrheidiol i weithredu ar gyfarwyddiadau a roddwyd gan neu ar ran unrhyw Benaethiaid Gwasanaeth mewn perthynas ag unrhyw fater a ddirprwywyd iddo/iddi.”   

 

      

 

     Dywedodd Cyfarwyddwraig y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro bod Paragraff 1.12 ar Dudalen 3 o’r adroddiad yn cynnwys ail elfen yr argymhelliad mewn perthynas â’r Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol.  Bwriad hwn oedd egluro pwerau’r Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol i weithredu ar benderfyniadau oedd mewn gwirionedd eisoes wedi’u gwneud gan y Pwyllgorau neu’r Swyddogion priodol gyda phwer dirprwyedig, i wneud contractau a llunio cytundebau ar ran y Cyngor.  Ei fwriad oedd cyfyngu ar y posibilrwydd y byddai unrhyw her gan drydydd parti ac roedd y cynnig hwn wedi derbyn cytundeb ac argymhelliad y Pwyllgor Gwaith.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd C McGregor - yng ngoleuni’r wybodaeth gafwyd heddiw, bod gan y Pwyllgor Gwaith yr awdurdod i gymryd cyfrifoldeb ar ran y Cyngor, roedd am gynnig bod y mater yn cael ei gyfeirio’n ôl i’r Pwyllgor Gwaith i’w ystyried ymhellach.  Roedd y penderfyniad a wnaed yn y Pwyllgor Gwaith ar 8 Medi wedi’i wneud heb iddo fod yn ymwybodol o’r wybodaeth hon.  Eiliwyd y cynnig gan yr Is-Arweinydd.

 

      

 

     Dywedodd Cyfarwyddwraig y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro bod angen i’r Cyngor llawn wneud penderfyniad ar y mater hwn ar y sail ei fod mewn ffordd yn newid y Cyfansoddiad.  Fe allai’r Pwyllgor Gwaith ystyried y mater drachefn ond gan y Cyngor yr oedd y penderfyniad terfynol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD yng ngoleuni’r wybodaeth gafwyd heddiw gan Gyfarwyddwraig y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro bod y mater yn cael ei gyfeirio’n ôl i’r Pwyllgor Gwaith i’w ystyried ymhellach cyn i’r Cyngor llawn ddod i benderfyniad arno.

 

      

 

     (b) TREFN GALW I MEWN SGRIWTINI

 

      

 

     (i)  Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfreithiwr i’r Swyddog Monitro.

 

      

 

     (ii) Adroddwyd - Bod y Pwyllgor Gwaith, ar ôl trafod yr uchod yn ei gyfarfod ar 8fed Medi, 2008 wedi penderfynu fel a ganlyn:-

 

      

 

     argymell i’r Cyngor Sir fod paragraff 4.15.16.3 o’r Cyfansoddiad yn cael ei ddiwygio er mwyn caniatáu i 5 aelod o’r Cyngor Sir nad ydynt yn Aelodau o’r Pwyllgor Gwaith i alw i mewn unrhyw benderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith.”     

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd C L Everett yn dymuno llongyfarch y Pwyllgor Gwaith gan ei fod yn teimlo mai dyma’r penderfyniad iawn i’w wneud.  Yn y Cyngor blaenorol yr oedd yn anodd i’r Wrthblaid alw i mewn unrhyw o benderfyniadau gan y Pwyllgor Gwaith.  Roedd hynny wedi newid yn awr, er gwell i’r Cyngor ar ddiwedd y dydd.

 

      

 

     Diolchodd y Cynghorydd H E Jones a W J Chorlton i’r Gyfarwyddwraig y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro am ei gwaith ar y mater hwn ac i’r Pwyllgor Gwaith am ei benderfyniad doeth.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo penderfyniad y Pwyllgor Gwaith yn y cyswllt hwn.

 

      

 

     (c)  DIRPRWYO I’R PENNAETH GWASANAETH (DATBLYGU ECONOMAIDD)

 

      

 

     (i)   Cyflwynwyd - Adroddiad gan y Cyfreithiwr i’r Swyddog Monitro.

 

      

 

     (ii)   Adroddwyd - Bod y Pwyllgor Gwaith, ar ôl trafod yr uchod yn ei gyfarfod ar 8 Medi, 2008 wedi penderfynu fel a ganlyn:-

 

      

 

     argymell i’r Cyngor Sir y dylid diwygio’r Cyfansoddiad drwy newid y pwer a ddirprwyir i’r Pennaeth Gwasanaeth - Datblygu Economaidd yn 3.5.3.2.3 ac ychwanegu’r cymal isod -

 

      

 

     cyflwyno ceisiadau am gyllid o ffynonellau yn yr Undeb Ewropeaidd ar ran holl adrannau’r Cyngor a sicrhau’r budd mwyaf i Ynys Môn o ganlyniad i hynny a drwy holl raglenni cyllido yr Undeb Ewropeaidd a’r holl raglenni cyllido allanol eraill, datblygu prosiectau ar y cyd naill ai drwy weithredu fel prif noddwr neu bartner prosiect.”

 

      

 

     Dywedodd Cyfarwyddwraig y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro bod yr argymhellion ar dudalen 2 o’r adroddiad yn cynnwys dwy elfen.  Yr elfen gyntaf oedd newid y cynllun dirprwyo er mwyn adlewyrchu’r newid yn yr eirfa o gyllid Amcan Un i gyllid cydgyfeiriant.  Nid oedd y cynnig hwnnw yn newid pwerau dirprwyedig y Pennaeth Gwasanaeth ac roedd yn cael ei argymell gan Swyddogion a gan y Pwyllgor Gwaith.  Roedd yr ail ran i’r argymhelliad yn ymestyn pwerau dirprwyedig y Pennaeth Gwasanaeth ac yn galluogi iddi gymryd rhan mewn prosiectau ar y cyd, yn cynnwys prosiectau ar y cyd gyda gwledydd dros y môr.  Roedd y pwer dirprwyedig ychwanegol wedi’i gytuno mewn egwyddor gan Swyddogion a gan y  Pwyllgor Gwaith.  Fodd bynnag, roedd un gwahaniaeth, sef bod Cyfarwyddwraig y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro a’r Cyfarwyddwr Cyllid yn argymell na ddylai’r Cyngor weithredu ar y pwerau hyn heb yn gyntaf dderbyn cytundeb y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro.  Roeddynt yn gofyn am i’r cymal hwn gael ei gynnwys fel y gallai materion ariannol a chyfreithiol gael eu nodi’n fuan ac y gellid delio â hwy fel rhan o’r broses negydu cyn y byddai’n rhaid gwneud unrhyw wariant sylweddol a gwastraffu amser.

 

      

 

     Roedd y Pwyllgor Gwaith, fodd bynnag, wedi cymryd agwedd wahanol gyda’r safbwynt y dylai’r cynnig gael ei fabwysiadu fel yr oedd yn sefyll heb ychwanegu’r cymal a hynny ar y sail bod cyfrifoldeb bob amser yn gorwedd gyda’r Pennaeth Gwasanaeth i benderfynu pryd ac os byddai angen ymgynghori ariannol a chyfreithiol.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Owen, Deilydd Portffolio, bod y Cyngor yn derbyn argymhelliad y Pwyllgor Gwaith i dynnu ymaith yr amod “yn amodol ar ganiatâd y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro”.  Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd C McGregor.  

 

      

 

     (Roedd y Cynghorwyr R Ll Hughes a G O Parry MBE yn dymuno iddo gael ei gofnodi iddynt atal rhag pleidleisio ar y mater hwn).

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhellion y Pwyllgor Gwaith ynglyn â hyn.

 

      

 

     (ch) RHYBUDDION YNGHYLCH CEISIADAU CYNLLUNIO SY’N GROES I BOLISI

 

      

 

     (i)   Cyflwynwyd -  Adroddiad a baratowyd ar y cyd gan y Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio), y Rheolwr-gyfarwyddwr a Chyfarwyddwraig y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro.

 

      

 

     (ii)   Adroddwyd - Bod y Pwyllgor Gwaith, ar ôl trafod yr uchod yn ei gyfarfod ar 8 Medi, 2008 wedi penderfynu fel a ganlyn:-

 

      

 

     argymell i’r Cyngor Sir ei fod yn gwneud y newidiadau a argymhellwyd i’r Cyfansoddiad yn Atodiad 2 adroddiad 18 Medi 2007 yn rhai parhaol.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd H W Thomas i hyn gael ei gyflwyno fis Medi llynedd i’w dreialu am gyfnod o 12 mis.  Credai na fyddai’n ddoeth i ddarllen gormod i mewn i’r union ffigyrau.  Roedd yn wir bod nifer y ceisiadau oedd yn tynnu’n groes wedi gostwng yn ystod yr amser hwn, ond roedd yr un mor wir bod y nifer o geisiadau cynllunio hefyd wedi gostwng yn ystod y 12 mis diwethaf.  Roedd yn teimlo mai camgymeriad fyddai gwneud hyn yn rhywbeth parhaol ac fe ddylai’r Cyngor fynd yn ôl i gyfnod treialu o 12 mis i gael ceisiadau oedd yn tynnu’n groes yn cael eu galw i mewn gan aelodau’r Pwyllgor Cynllunio ac wedyn i’r Cyngor gymharu’r ddau gyfnod o ddeuddeng mis.  Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Raymond Jones.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu wrth y Cyngor mai ei farn broffesiynol oedd y byddai’n annoeth ac yn gam yn ôl i’r Cyngor fynd yn ôl i’r sefyllfa cyn penderfyniad y Cyngor ar 18 Medi, 2007.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd H E Jones nad oedd hyn yn bolisi trwy Gymru gyfan ac nad oedd Awdurdodau eraill yn rhwystro Aelodau rhag galw i mewn geisiadau oedd yn tynnu’n groes .

 

      

 

     Pleidleisiwyd ar y gwelliant gan y Cynghorydd H W Thomas ond cafodd ei wrthod.

 

      

 

     (Roedd y Cynghorydd B Durkin yn dymuno iddo gael ei gofnodi iddo atal ei bleidlais ar y mater hwn).

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Gwaith ei fod yn gwneud y newidiadau oedd yn cael eu cynnig i’r Cyfansoddiad yn Atodiad 2 o adroddiad 18 Medi, 2007, yn rhai parhaol.

 

 

 

7

CONTRACT PRYDAU YSGOL

 

     (Y Cynghorydd O Glyn Jones, Is-Gadeirydd oedd yn y Gadair am yr eitem hon)

 

      

 

     Cyflwynwyd er gwybodaeth - Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden) yn unol â Pharagraff 4.5.16.10 y Cyfansoddiad yn nodi paham, yn yr achos hwn, nad oedd y drefn galw i mewn yn berthnasol yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith ar 7 Gorffennaf, 2008.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd H E Jones i’r Deilydd Portffolio a oedd yn ymwybodol bod llawer o’r staff yn yr ysgolion yn anhapus gyda’r gontract newydd ac mai ychydig iawn o gynnyrch lleol oedd yn cael ei ddefnyddio?

 

 

 

     Atebodd y Cynghorydd E G Davies, Deilydd Portffolio ei fod yn ymwybodol o’r hyn yr oedd y Cynghorydd Jones wedi’i grybwyll ac y byddai ef ei hun a’r Adran yn edrych i mewn i’r materion hyn.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd H E Jones am i ganlyniadau’r fath ymchwilio gael eu dwyn yn ôl i’r Cyngor Sir.  Cytunodd y Deilydd Portffolio gyda’r cais.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd W J Chorlton bod y fwydlen brydau ysgol yn un am 3 wythnos a bod yn rhaid i’r plentyn gymryd popeth oedd ar y fwydlen honno am yr wythnos.  Gofynnodd i’r Adran edrych i mewn i’r mater hwn.  

 

      

 

     Nododd y Deilydd Portffolio y sylwadau gan ddweud y byddai’n edrych i mewn i’r mater.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd D R Hughes bod yna bryderon ynglyn â’r contract hwn a bod y staff yn anhapus ynglyn â’r gwaith gweinyddol ychwanegol.  Gofynnodd a oedd rhai o’r cogyddion wedi rhoi rhybudd eu bod yn gadael eu swydd?

 

      

 

     Roedd y Deilydd Portffolio’n deall bod yna waith papur ychwanegol ond ni allai gadarnhau a oedd staff yn bwriadu terfynu eu swyddi.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd C Ll Everett a oedd swyddogion, o dan ofynion y Cyfansoddiad, wedi ymgynghori gyda Chadeirydd y Cyngor ynglyn â’r weithdrefn galw i mewn, oherwydd bod y Cadeirydd wedi datgan diddordeb ac na ddylai fod wedi bod yn rhan o’r penderfyniad hwnnw?

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd G O Parry, MBE nad oedd unrhyw ofyn ar y pryd i’r Cadeirydd ddatgan diddordeb.  

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd W J Chorlton a allai Aelodau dderbyn cadarnhad ysgrifenedig o hyn.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd P S Rogers bod pawb yn deall bod y contract yn dod i ben ddwy flynedd yn ôl.  Dylai’r pryderon a fynegwyd yng nghyfarfod heddiw gael eu cyfeirio i’w datrys gan yr Adran.  Gofynnodd a oedd nifer y disgyblion oedd yn cymryd cinio ysgol wedi mynd i fyny, yntau i lawr?  Pwy oedd â gofal am reoli ansawdd yn y diwedd?

 

      

 

     Atebodd y Deilydd Portffolio iddo nodi’r pryderon a fynegwyd.  Byddai yn ymchwilio iddynt.  Roedd data yn cael ei baratoi ar hyn o bryd ynglyn â’r nifer o blant oedd yn cymryd prydau ysgol.

 

      

 

     Cadarnhaodd yr Arweinydd y byddid yn edrych i mewn i’r pryderon gydag adroddiad yn dod gerbron y Cyngor nesaf.  Ar fater datgan diddordeb gan y Cadeirydd, dywedodd nad oedd angen datgan unrhyw ddiddordeb ar y pryd.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth.

 

 

 

8

CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL - GWERTHUSIAD O GYMERIAD ARDAL GADWRAETH LLANGEFNI

 

      

 

     (i) Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio) fel y cafodd ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ar 19 Mai, 2008.

 

      

 

     (ii) Adroddwyd - bod y Pwyllgor Gwaith, ar ôl trafod yr uchod yn ei gyfarfod ar 19 Mai, 2008 wedi penderfynu fel a ganlyn:-

 

      

 

     Cymeradwyo’r Gwerthusiad o Ardal Gadwraeth Llangefni a bod y ddogfen yn cael ei chyflwyno i’r cyfarfod nesaf o’r Cyngor llawn ar gyfer ei mabwysiadu fel Canllaw Cynllunio Atodol.”

 

      

 

     Yn ôl y Cynghorydd C L Everett, pan fyddai caniatâd cynllunio’n cael ei ganiatáu o fewn yr ardaloedd hyn, byddai angen rhaglen o blannu coed fel arfer.  Roedd yr un broblem wedi codi yn Llangefni fel yng Nghaergybi, lle nad oedd unrhyw un yn cymryd cyfrifoldeb am y coed a’u cynnal a’u cadw.  Roedd y coed hyn yn achosi problemau yn y ffaith eu bod yn cuddio cylch gweld y camerâu diogelwch. Yn aml iawn, yr Adran Briffyrdd oedd yn gorfod edrych ar ôl y coed hyn, er ei fod yn aml yn amod yn y caniatâd cynllunio a roddwyd ar y pryd i’r datblygwr.

 

      

 

     Nododd y Cadeirydd y sylwadau oedd wedi’u gwneud.     

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo penderfyniad y Pwyllgor Gwaith a bod y ddogfen yn cael ei mabwysiadu fel Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol.

 

 

 

9

CYNLLUN PLANT

 

      

 

     (i) Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden).    

 

      

 

     (ii)  Adroddwyd - Bod y Pwyllgor Gwaith, ar ôl trafod yr uchod yn ei gyfarfod ar 8 Medi, 2008 wedi penderfynu fel a ganlyn:-

 

      

 

     Cymeradwyo cynnwys y Cynllun ac argymell i’r Cyngor Sir ei fod yn mabwysiadu’r Cynllun fel dogfen strategol yn nodi bwriadau’r Cyngor ar gyfer y cyfnod 2008-2011.”

 

      

 

     Wrth gyflwyno’r adroddiad, talwyd teyrnged gan y Deilydd Portffolio, y Cynghorydd E G Davies i Mr Byron Williams gan fod yna olion o’i ddoethineb ac a’i wybodaeth yn rhedeg trwy’r ddogfen.  Roedd wedi cyfrannu cymaint tuag ati.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd P S Rogers yn ystyried bod un peth pwysig iawn wedi’i adael o’r adroddiad sef edrych ar ôl plant yng nghofal y Cyngor a’r pryderon o fewn cymdeithas pan fo’r plant hynny yn methu cael y cymhwyster perthnasol.  Roedd o’r farn ei bod yn anfantais fawr i fod yn gadael byd addysg yn gyfan gwbl heb unrhyw gymhwyster a heb unrhyw gyfarwyddyd.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd R Ll Hughes, Deilydd Portffolio, wrth ateb bod y mater hwn eisoes wedi codi yn y cyfarfod o’r Panel Rhiant Corfforaethol y diwrnod o’r blaen.  Roedd yn falch o allu dweud i’r plant oedd o dan ofal yr Awdurdod hwn dderbyn canlyniadau addysg ardderchog.  Ar wahân i un allan o un ar bymtheg, byddai’r cyfan ohonynt yn symud ymlaen i addysg bellach.

 

      

 

     Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden) bod cyfeiriad o fewn y Cynllun er mwyn sicrhau bod y bobl ifanc hyn yn cyflawni eu llawn botensial, er mwyn eu cadw mewn hyfforddiant neu addysg llawn amser ar ôl 16 oed.  Byddai’r Cyngor yn disgwyl i Hyfforddiant Môn gynnig prentisiaethau i’r mwyaf bregus ymysg y bobl ifanc hyn.  Roedd yn barod i ddarparu atebion llawn i’r pwyntiau oedd wedi’u codi gan y Cynghorydd Rogers.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo penderfyniad y Pwyllgor Gwaith yn y cyswllt hwn a diolch i’r Swyddogion am eu gwaith.

 

      

 

10     CYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL

 

      

 

     Cyflwynwyd -  adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) a Chyfarwyddwraig y Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro ar gydbwysedd gwleidyddol.

 

      

 

     Adroddwyd - Ers yr etholiad a’r cyfarfod o’r Cyngor Sir ar 9 Mai 2008 bu newid yn aelodaeth y grwpiau gwleidyddol ac mae'r Cyngor yn awr yn gorfod adolygu trefniadau cydbwysedd gwleidyddol ar Bwyllgorau’r Cyngor.

 

      

 

     Ynghlwm wrth yr adroddiad roedd dau dabl (Tabl A a Thabl B) yn dangos cydbwysedd gwleidyddol ar Bwyllgorau'r Cyngor gan gydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth uchod.  Roedd y tablau yn dangos y pedwar grwp gwleidyddol o 22, 8, 5 a 4 Aelod, gydag 1 Aelod Heb Ymaelodi ar wahân.  Yn wahanol i’r sefyllfa ar 9 Mai mae gan y Grwp Annibynnol Gwreiddiol yn awr “fwyafrif i holl Aelodau’r Awdurdod”.

 

      

 

     Roedd Tabl A yn dangos mai cyfanswm nifer y seddau i’w dyrannu yw 120.  Cafodd nifer y seddau ar y Panel Adolygu Cyflogau a Graddfeydd ei ostwng o 6 i 5.  Os yw’r Cyngor yn dymuno’r cadw’r status quo ynglyn â’r nifer o seddau ar y Panel Adolygu Cyflogau a Graddfeydd yna mae Tabl A yn dangos y dyraniad perthnasol o seddau.

 

      

 

     Fodd bynnag, os yw’r Cyngor yn dymuno cynyddu’r nifer o seddau ar y Panel Adolygu Cyflogau a Graddfeydd fel bod pob grwp yn cael ei gynrychioli arno, awgrymir y dylai’r rhif gael ei gynyddu o 5 i 7.  Os bydd y Cyngor yn penderfynu felly, yna bydd cyfanswm nifer y seddau sydd i’w dyrannu yn 122.  Tabl B fyddai’r ddogfen fyddai’n dangos y dyraniad perthnasol.

 

      

 

     Paratowyd y ffigyrau er mwyn sicrhau y bydd cydbwysedd gwleidyddol yn cael ei barchu “fesul pwyllgor” ond hefyd yn ei grynswth yn seiliedig ar y darpariaethau cyfreithiol.  Mae egwyddor (b) a ddyfynnir ym mharagraff 2 yn dweud bod yn rhaid i’r Grwp Annibynnol Gwreiddiol/Original Independent gael mwyafrif ar bob pwyllgor, sydd yn ymarferol yn rhoddi iddo fwy na siâr gymesur o’r seddau.  Nid yw ei hawl yn llai yn awr nag oedd ym Mai.  Gan ddilyn yr egwyddorion hyn yn ôl yr arfer, mae gweddill y seddau ar gael i’r aelodau sydd heb ymaelodi.  O ganlyniad i’r newidiadau diweddar, mae’r un Aelod Heb Ymaelodi yn colli pob sedd pwyllgor os yw cyfanswm nifer y seddau yn cael eu cadw ar 120, ond yn cael un sedd os yw cyfanswm nifer y seddau yn cael ei gynyddu i 122.  Mae hyn yn ganlyniad uniongyrchol i’r darpariaethau deddfwriaethol, sy’n rhoddi blaenoriaeth i grwpiau gwleidyddol dros aelodau heb ymaelodi.

 

      

 

     Atgoffwyd y Cyngor bod yn rhaid i ddyraniad cydbwysedd gwleidyddol y seddau gydymffurfio gyda’r gofynion statudol, oni bai bod penderfyniad gwahanol yn cael ei gymryd heb unrhyw aelodau’n pleidleisio yn ei erbyn.

 

      

 

     Yn ôl y Cynghorydd P S Rogers, roedd yn rhaid bod ffordd arall i wneud yr hyn oedd yn cael ei gynnig oherwydd pe bai Opsiwn B yn cael ei fabwysiadu heddiw ni fyddai ganddo ond 1 sedd ar Bwyllgorau’r Cyngor o’i gymharu â 3 yn dilyn cyfarfod o Gyngor mis Mai.  Dywedodd y byddai’n barod i ffurfio ‘Grwp Peter Rogers’ er mwyn datrys yr anghyfiawnder hwn.

 

      

 

     Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) nad oedd y ddeddfwriaeth yn crybwyll Aelodau Digyswllt ond yn hytrach Grwpiau Gwleidyddol.  Nid oedd yn bosibl cael Grwp o un aelod.  Pan nad oedd unrhyw Grwp gyda mwyafrif yn y gorffennol, roedd y Cyngor wedi dyrannu seddau i Aelodau Digyswllt oherwydd mai dyna oedd ar ôl wedi i hawliau’r grwpiau gael eu dyrannu i gyd.  Nid oedd gan Aelodau Digyswllt unrhyw hawliau ond y ddeddfwriaeth ei hun oedd yn gyfrifol am y gwahaniaethu hwn ac nid Cyfansoddiad y Cyngor.  Fodd bynnag, fe allai’r Cyngor hwn gynnig rhywbeth arall heb wrthwynebiad.

 

      

 

     Mynegodd y Cynghorydd Barrie Durkin ei bryderon gyda deddfwriaeth o’r fath, oherwydd bod aelod etholedig yn cael ei rwystro rhag cymryd rhan mewn pleidleisio ar faterion ac ni allai hynny fod yn iawn.

 

      

 

     Er mwyn dod dros yr anghyfiawnder hwn i’r Cynghorydd Peter Rogers, fe gynigiodd Arweinydd y Cyngor y dylai’r Cyngor gymryd pleidlais wedi’i chofnodi ar y mater i gadw pethau fel ag y maent h.y. i dderbyn y trefniadau cydbwysedd gwleidyddol fel ar 9 Mai, 2008.

 

      

 

     PENDERFYNWYD heb unrhyw aelodau’n pleidleisio yn erbyn, i gadw’r status quo a symud ymlaen yn unol â’r trefniadau cydbwysedd gwleidyddol ar 9 Mai, 2008 (h.y. bod y Cynghorydd Peter Rogers yn cadw’r 3 sedd oedd wedi’u dyrannu iddo).   

 

      

 

11     ETHOL HENADURIAID ANRHYDEDDUS

 

      

 

     Adroddwyd gan y Rheolwr-gyfarwyddwr - O dan Adran 249 Deddf Llywodraeth Leol 1972 fe all y Cyngor Sir gyflwyno’r teitl a’r anrhydedd o Henadur er Anrhydedd i rai sydd, ym marn y Cyngor, wedi rhoddi gwasanaeth eithriadol iddo.  Ar hyn o bryd, nid oes ond un Henadur yn awr ar ôl.

 

      

 

     Mae yna ewyllys ar hyn o bryd ymhlith yr holl grwpiau o fewn y Cyngor Sir i roddi statws Henadur er Anrhydedd i unigolion priodol, ac er mwyn gwneud hyn byddai angen galw cyfarfod arbennig o’r Cyngor Sir lle byddai unrhyw gynigion am y fath anrhydedd angen penderfyniad wedi’i basio gan o leiaf ddwy ran o dair o’r rhai sy’n bresennol yn y cyfarfod.  Byddai digwyddiad sifig ffurfiol yn dilyn ymhen ychydig o wythnosau wedi hynny.

 

      

 

     Gofynnwyd i’r Cyngor Sir gadarnhau’r meini prawf canlynol fel sail ar gyfer nodi rhai sy’n addas i dderbyn y statws:

 

      

 

Ÿ

Dylid cydnabod person fel Henadur er Anrhydedd lle bo’r unigolyn wedi rhoi gwasanaeth eithriadol a sylweddol i bobl Ynys Môn fel aelod etholedig o Gyngor Sir Ynys Môn ac un neu fwy o’r awdurdodau lleol a’i rhagflaenodd a thrwy benodiadau, swyddi a rolau eraill wnaed gyda chyrff, mudiadau a byrddau allanol fel aelod gweithredol o un o’r awdurdodau lleol perthnasol.

 

 

 

Ÿ

Fel rheol gyffredinol, ni fyddai cydnabyddiaeth o’r fath yn cael ei hystyried ar gyfer un a fu gynt yn aelod etholedig onid yw wedi cwblhau 25 mlynedd o wasanaeth parhaol fel aelod etholedig ar un neu fwy o’r awdurdodau lleol perthnasol.

 

 

 

Ÿ

Ni fydd y gydnabyddiaeth yn dibynnu ar aelodaeth o unrhyw barti na grwp gwleidyddol, ond yn hytrach yn adlewyrchiad o ddylanwad a chyfraniad tuag at gefnogi lles pobl Ynys Môn a gwella’u hamgylchiadau.

 

 

 

Ÿ

Bydd adolygiad o’r sefyllfa bresennol ynglyn â Henaduriaid er Anrhydedd ac ystyried unrhyw gynigion newydd am yr anrhydedd yn cael eu trafod yn dilyn pob etholiad i ethol Cynghorwyr i wasanaethu ar Gyngor Sir Ynys Môn (h.y. bob pedair blynedd).

 

 

 

Yn amodol ar unrhyw newid mewn darpariaeth statudol fyddai’n gofyn am adolygiad, bydd y meini prawf uchod yn aros ar gyfer unrhyw ystyriaeth yn y dyfodol.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd R G Parry, OBE a ddylai’r aelodau oedd â phrofiad o 25 mlynedd o wasanaeth ar y Cyngor, ddatgan diddordeb?

 

      

 

     Dywedodd y Cyfarwyddwraig y Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro nad oedd angen datgan y fath ddiddordeb.  

 

      

 

     Yn ôl y Cynghorydd P S Rogers, ar hyn o bryd roedd y wlad hon yn mynd trwy argyfwng economaidd mawr.  Roedd y Cyngor hwn yn awr yn bwriadu rhoddi mwy o gostau ar drethdalwyr Ynys Môn i noddi presenoldeb Henadur yng nghweithgareddau’r Cyngor.  Cynigiodd bod y penderfyniad yn cael ei ohirio hyd y byddai’r Cyngor wedi derbyn safbwyntiau pobl Ynys Môn eu hunain.

 

      

 

     Cytuno wnaeth y Cynghorydd H E Jones gyda’r Cynghorydd Rogers a’i sylwadau.  Nid oedd ond ychydig o sôn yn yr adroddiad am y manteision a ddeuai i Ynys Môn o greu’r fath swyddi, nac am gostau hynny.  Eiliodd gynnig y Cynghorydd Rogers i ohirio.

 

      

 

     Wrth ateb fe ddywedodd yr Arweinydd nad oedd y mater hwn wedi’i gwblhau’n llawn ond pe byddai’r Cyngor yn cytuno mewn egwyddor, fe ellid rhoddi ystyriaeth bellach i’r mater gan Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol, Cadeirydd y Cyngor Sir a’r Rheolwr-gyfarwyddwr i wneud y penderfyniad priodol.  Fodd bynnag, byddent yn gwrando ar y sylwadau wnaed yng nghyfarfod heddiw.

 

      

 

     Gofynnodd y Cadeirydd a oedd y Cyngor yn barod i dderbyn yr argymhellion oedd yn yr adroddiad gan gynnwys sylwadau wnaed gan y Cynghorwyr Rogers a H E Jones?  Byddai adroddiad ar ganlyniad y trafodaethau’n cael ei gyflwyno i’r Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD

 

      

 

Ÿ

Cymeradwyo’r meini prawf ar gyfer ystyried enwebiadau i greu Henadur er Anrhydedd.

 

 

 

Ÿ

Galluogi Cadeirydd y Cyngor a’r Rheolwr-gyfarwyddwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol, i ystyried a datblygu cynigion ar gyfer y fath anrhydeddau.

 

 

 

(Gofynnodd y Cynghorydd Rogers paham nad oedd y gwelliant wedi’i roddi gerbron ar gyfer pleidleisio arno?  Ymddiheurodd y Cadeirydd wrth ateb am yr amryfusedd ond dywedodd bod rhan sylweddol o’r cynnig wedi’i basio ac nad oedd yn gweld y byddai’r gwelliant yn gwneud unrhyw wahaniaeth yn awr).

 

 

 

 

 

12

SWYDDOGAETHAU A DDIRPRWYWYD I’R ARWEINYDD

 

      

 

     Cyflwynwyd - Adroddiad gan y Rheolwr-gyfarwyddwr yn nodi newidiadau i’r cynllun dirprwyo ynghylch swyddogaethau Gweithredol a gyflawnwyd gan yr Arweinydd ers y cyfarfod arferol diwethaf (Rheol 4.4.1.4 Rheolau Gweithdrefn Trefniadau Gweithredol - Tudalen 134 y Cyfansoddiad).

 

      

 

     Awgrymodd y Cynghorydd C L Everett y dylai’r aelodau lleol fod yn rhan o unrhyw broses ymgynghori o dan unrhyw awdurdod dirprwyedig yng nghyswllt y Rheolau Gweithdrefn Contract.

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad a bod Swyddogion yn gwneud trefniadau i gynnwys yr Aelodau Lleol fel rhan o’r broses ymgynghori yng nghyswllt unrhyw benderfyniadau wneir o dan y Rheolau Gweithdrefn Contract.

 

      

 

13     ADRODDIAD ADRAN 16 - BUDD-DALIADAU

 

      

 

     (a)  Cyflwynwyd - copi o adroddiad Adran 16 yr Ombwdsmon.

 

      

 

     (b)  Cyflwynwyd - adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) mewn ymateb i adroddiad yr Ombwdsmon.

 

      

 

     Yn ôl y Cynghorydd H E Jones, fe fyddai cwynion pellach yn dod i’r amlwg oni bai bod holl ddiwylliant yr Adran yn cael ei newid.  Roedd angen gwell rheolaeth a gwell hyfforddiant.  O dan adran 3.2 y Cynllun Gweithredu, yr oedd cyfeiriad at y systemau gwerthuso staff fel targed yn y tymor canolog.  Cynigiodd y dylai hyn ddod yn darged tymor byr ar draws yr holl Gyngor.

 

      

 

     (Roedd y Cynghorydd J V Owen yn dymuno iddo gael ei gofnodi nad oedd wedi cymryd unrhyw ran mewn unrhyw drafodaethau na phleidleisio ar y mater hwn).

 

      

 

     PENDERFYNWYD

 

      

 

Ÿ

Derbyn adroddiad yr Ombwdsmon a sylwadau’r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid).

 

 

 

Ÿ

Cyfleu ymddiheuriadau diamod y Cyngor a thalu’r iawndal a argymhellwyd gan yr Ombwdsmon i’r ddau achwynydd a chydnabod y camweinyddu yn y cyswllt hwn.

 

 

 

Ÿ

Awdurdodi Swyddogion i gytuno ar Gynllun Gweithredu gyda’r Rheoleiddwyr a’i fod yn cael ei gyflwyno i Swyddfa’r Ombwdsmon o fewn 3 mis.

 

 

 

Ÿ

Nodi bod y Weithdrefn Gwynion Gorfforaethol eisoes wedi’i hadolygu a’i diwygio gan y Cyngor Sir ers amser yr ymchwiliad.

 

 

 

Ÿ

Y dylid rhestru’r gwaith o werthuso staff ar draws y Cyngor fel amcan tymor byr yn hytrach nag amcan tymor canolog yn y Cynllun Gweithredu.

 

      

 

 

 

 

 

Terfynwyd y cyfarfod am 4:25 p.m.

 

 

 

 

 

Y CYNGHORYDD ALED MORRIS JONES

 

CADEIRYDD