Dydd Iau, 17 Mai, 2012 am 9:30y.b
Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni
Noder: Oherwydd natur rhai o'r dogfennau isod, nid yw pob un yn hollol ddwyieithog nac yn hollol hygyrch i bobl gydag amhariadau gweledol, ac ni fydd modd defnyddio 'darllenwr sgrin' i ddarllen y dogfennau hyn.
Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.
Yn unol a'r Rheol 4.4.1.2 Rheolau Gweithdrefn y Pwyllgor Gwaith, derbyn gwybodaeth gan yr Arweinydd ynghylch enwau'r Cynghorwyr y mae ef / hi wedi'u dewis i fod yn aelodau o'r Pwyllgor Gwaith Cysgodol, ynghyd a'u cyfrifoldebau portffolio ac unrhyw wybodaeth bellach fydd ei hangen dan Reol 4.4.1.2; gan gynnwys penodi Dirprwy Arweinydd y Cyngor Sir (hyd yr Etholiadau Llywodraeth Leol nesaf ym Mai 2013).
Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau ailbenodi'r strwythur Pwyllgorau cyfredol canlynol fel y cyfeirir at hynny yn Adran 3.4 Cyfansoddiad y Cyngor, ynghyd a'r canlynol:-
Cyflwyno adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr Dros Dro.
(Papur 'A')
Ethol Cadeirydd i'r Pwyllgor hwn.