Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 17 Hydref 2011

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Llun, 17eg Hydref, 2011

Ynglyn â

Dydd Llun, 17 Hydref 2011.
Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni.

Noder: Oherwydd natur rhai o'r dogfennau isod, nid yw pob un yn hollol ddwyieithog nac yn hollol hygyrch i bobl gydag amhariadau gweledol, ac ni fydd modd defnyddio 'darllenwr sgrin' i ddarllen y dogfennau hyn.

Agorir y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd R Dylan Jones

Rhaglen

1. Datganiad o ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad gan unrhyw Aelod neu Swyddog yng nghyswllt unrhyw eitem o fusnes.

2. Derbyn unrhyw ddatganiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor, Bwrdd Comisiynwyr neu Bennaeth y Gwasanaeth Tâl

3. Cynllun Gwella Corfforaethol 2010/11 (Adolygiad Perfformiad yn edrych yn ôl)

(a) Adroddiad bod y Bwrdd Comisiynwyr yn ei gyfarfod ar 3 Hydref, 2011 yn dilyn ystyried yr uchod wedi penderfynu fel a ganlyn:-

“Argymhell i'r Cyngor Sir ei fod yn derbyn cynnwys yr adroddiad a bod awdurdod yn cael ei roi i'r Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) mewn ymgynghoriad gyda'r Comisiynydd perthnasol i gwblhau'r ddogfen.”

(b) Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) fel y'i cyflwynwyd i'r cyfarfod o'r Bwrdd ar 3 Hydref, 2011.
(Papur A)