Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 18 Mehefin 2003

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Mercher, 18fed Mehefin, 2003

CYNGOR SIR YNYS MÔN

 

COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 18 MEHEFIN 2003

 

yn breSENNOL:

Y Cynghorydd Mrs B. Burns (Cadeirydd)

 

Y Cynghorydd J. Arwel Roberts (Is-Gadeirydd)

 

Y Cynghorwyr J. Byast, W. J. Chorlton, E. G. Davies, J. M. Davies, J. A. Edwards, D. D. Evans, C. L. Everett, P. M. Fowlie, D. R. Hughes, Ff. M. Hughes, Dr. J. B. Hughes, R. Ll. Hughes, W. I. Hughes, G. O. Jones, R. Jones OBE, R. Ll. Jones, W. Emyr Jones, Rhian Medi, R. L. Owen, G. O. Parry MBE, Bob Parry OBE, G. Roberts, G. A. Roberts, G. W. Roberts OBE, J. Roberts, W. T. Roberts, J. Rowlands, E. Schofield, H. W. Thomas, K. Thomas, J. Williams, W. J. Williams.

 

 

WRTH LAW:

Rheolwr-gyfarwyddwr

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a'r Amgylchedd)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo)

Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro

Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) (JHJ)

Pennaeth Gwasanaeth (Eiddo)

R. Meirion Jones (Cyfreithiwr)

Rheolwr Perfformiad a ChefnogaethBusnes (AD)

Cynorthwy-ydd Cyfathrebu

Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgor.

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

Y Cynghorwyr K. Evans, T. Ll. Hughes, H. Eifion Jones, O. Gwyn Jones, G. Allan Roberts, G. Alun Williams.

 

Cyn dechrau ar waith y Cyngor cyfeiriodd y Cadeirydd at farwolaeth y Cynghorydd Bob Jones o Wern Eithin, Llanfaelog a chyflwynwyd  teyrngedau gan yr Arweinyddion grwpiau.

 

Ÿ

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bob Parry OBE fod hwn yn ddiwrnod trwm iawn i'r Cyngor.  

 

Trysorai'r Cynghorydd Bob Jones bedwar o bethau'n arbennig, ei gartref, ei gymuned, y capel a'r Cyngor.  Bu'n uchel ei barch yn ei fro a gweithiodd yn galed i'w gymuned trwy gydol ei oes gan ddechrau ei yrfa yn 16 oed fel clerc i'r hen Gyngor Sir Ynys Môn a chyrraedd, ar ddiwedd ei yrfa, swydd Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Gwynedd.  Ar ôl ymddeol daeth yn Gynghorydd Sir gan edrych ar ôl buddiannau ei ward yn gydwybodol.  Mynychodd nifer o weithgareddau yn ei gymuned (gyda'i annwyl wraig Kitty), yn Aberffraw a Rhosneigr ond hefyd y tu draw mewn nifer o gymanfaoedd canu hyd a lled ar yr Ynys.

 

Roedd yn Flaenor mewn dau Gapel - Paran a Rehoboth - ac ef a'i wraig Kitty yn llawn ymroddiad i'r ddau Gapel ac yn hael iawn gyda'r ddau.  Yn 1999/2000 cafodd y Cynghorydd Bob Jones anrhydedd arall, sef ei benodi'n Gadeirydd y Cyngor Sir ac roedd hynny yn destun balchder eithriadol iddo.

 

Ÿ

Ar ran y Grwp Annibynnol cyflwynodd y Cynghorydd John Roberts deyrnged gan gydnabod safonau'r Cynghorydd Bob Jones a oedd gyda gwreiddiau dyfnion yn ei fro enedigol a'i gyfnod cynnar.  Cyfeiriodd at yr hyn yr oedd y Cynghorydd Jones wedi ei gyflawni yn ystod ei yrfa, y balchder mawr a deimlai pryd y penodwyd ef yn Gadeirydd y Cyngor Sir a medru gwasanaethu'r cyhoedd fel aelod o'r Cyngor.  Dyn distaw oedd y diweddar Bob Jones a gwnaeth ei orau i'w gymuned.  Roedd ei farwolaeth yn golled fawr i'r Cyngor a'r achlysur trwm heddiw yn gyfle yr oedd y Cynghorydd Roberts yn falch ohono i dalu ei deyrnged iddo.

Ÿ

Ar ran grwp Plaid Cymru dywedodd y Cynghorydd Fflur Hughes fod pawb yn trysori teimladau ac atgofion am y dyn arbennig hwn.  Y darlun a arhosai yn ei meddwl hi oedd rhywun oedd yn ofalus iawn, ac yn wrandäwr da, sef talent brin iawn.  Hefyd roedd y diweddar Gynghorydd â'r gallu i fynegi barn yn glir, yn gryno a châi i gofio am ei gymeriad unigryw.  Wrth ei gofio dylai'r Cyngor ymfalchïo yn ei gyfraniad dros y blynyddoedd mewn sawl maes a gallai pawb yn y cyfarfod ddysgu rhywbeth o rinweddau'r Cynghorydd Jones.

 

Ÿ

Wrth gloi dywedodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Mrs Bessie Burns, bod pawb wedi gobeithio, er gwaethaf gwaeledd difrifol y Cynghorydd, y buasai wedi medru dychwelyd a chyfrannu yng ngwaith y Cyngor ond yn anffodus fel arall y bu pethau.  Bu ei golli yn ergyd drom eithriadol iddi oherwydd bu'n gyfaill personol iddi ac fel y dywedwyd gan rai eraill roedd yn uchel ei barch, yn gadarn ei farn, ac ni chiliai pan oedd raid anghytuno. Roedd yn caru ei gartref, ei ardal, yr eisteddfodau ac yn enwedig y cymanfaoedd canu, ei gapel a'r Cyngor Sir.  Daeth ag urddas a pharch i swydd Cadeirydd y Cyngor Sir a mynegodd y Cadeirydd gydymdeimlad pawb oedd yn bresennol gyda gwraig y Cynghorydd Jones a'i deulu ar y golled fawr hon.

 

Safodd yr Aelodau a'r Swyddogion mewn tawelwch fel arwydd o barch.

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

 

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb gan yr Aelodau a ganlyn :-

 

 

 

Datganodd y Cynghorydd R. Ll. Hughes ddiddordeb mewn unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â gwaith ei fab yn yr Adran Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo.

 

 

 

Datganodd y Cynghorydd Keith Thomas ddatganiad o ddiddordeb mewn unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â gwaith ei frawd yn yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

 

 

Datganodd y Cynghorydd G. W. Roberts OBE ddiddordeb mewn unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â gwaith ei ferch yn yr Adran Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol.

 

 

 

Datganodd y Cynghorydd W. J. Chorlton ddiddordeb mewn unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â gwaith ei ferch yn yr Adran Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol.

 

 

 

Datganodd y Cynghorydd E. Schofield ddiddordeb  mewn unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â gwaith ei ferch yn Oriel Môn  a hefyd gwaith ei wyr yn yr Adran Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo.

 

 

 

Datganodd y Cynghorydd J. Arwel Roberts ddiddordeb mewn unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â gwaith ei wraig yn y Tolldy Penrhos, Caergybi.

 

 

 

Datganodd y Cynghorwyr D. D. Evans a D. R. Hughes ddiddordeb yng nghyswllt eitem 5 o'r cofnodion (Mynydd Parys) ac nid oeddynt yn bresennol yn y cyfarfod pan drafodwyd y mater a phleidleisio arno.

 

 

 

2

CYNLLUN GWELLA 2003/04

 

 

 

Cyflwynwyd - Adroddiad Arweinydd y Cyngor (Polisi) ar y Cynllun Gwella diwygiedig.

 

 

 

Adroddwyd :-

 

 

 

2.1

Ym mis Hydref 2002, penderfynodd Llywodraeth Cynulliad Cymru bod angen dull newydd radical o drin Gwerth Gorau.  Mae'r Cynllun Gwella yn disodli'r hen Gynllun

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Perfformiad Gwerth Gorau (CPGG) ac yn adlewyrchu gofynion y canllawiau newydd 'Rhaglen Cymru ar Gyfer Gwella' a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac a ddaeth i rym ar 4ydd Ebrill 2002.  Dan y canllawiau newydd, mae gofyn statudol ar bob awdurdod lleol i gyhoeddi Cynllun Gwella erbyn 30ain Mehefin yn flynyddol.  Mae'r Cynllun gwella yn ddogfen gyhoeddus sydd wedi ei hanelu'n bennaf tuag at y darllenydd gwybodus (e.e. aelodau etholedig, rheolwyr corfforaethol a'n partneriaid eraill).  Mae'r Cynllun Gwella yn gyfle i Gyngor Sir Ynys Môn adnabod a rhoddi sylw i faterion a gweithredoedd fyddai'n arwain tuag at welliant hir-dymor a pharhaol i fywydau'r cyhoedd a wasanaethir.  Mae'r cynllun yn cyflwyno cymysgedd ac amrediad o'r gweithredoedd ar gyfer gwelliant y mae'r awdurdod y n bwriadu eu dilyn ar gyfer sicrhau gwelliant parhaus, yn ogystal ag adrodd yn ôl ar berfformiad yn erbyn amcanion a thargedau'r Cyngor hyd yma.

 

 

 

Cyfeiriwyd at y materion a ganlyn yn y Cynllun Gwella

 

 

 

Ÿ

Cynllun Cymunedol

 

 

 

Ÿ

Nodau Strategol y Cyngor ynghyd â'r Gweithredu Arnynt

 

 

 

Ÿ

Adrodd ar Berfformiad 2002/03

 

 

 

Ÿ

Dadansoddiad Awdurdod Cyfan

 

 

 

Ÿ

Rhaglen a Thargedau 2003/04

 

 

 

2.2

Ar ôl ystyried y Cynllun Gwella, bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 9 Mehefin 2003 wedi:-

 

 

 

“Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Sir :-

 

 

 

(i)  Ei fod yn nodi’r sylwadau a wnaed gan bwyllgor Adnoddau’r Cyngor yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Mai 2003 ond y dylai’r targed ar gyfer cynnydd yn nifer yr ymwelwyr i Amgueddfeydd a Safleoedd Gwasanaethau Diwylliant fod yn 12% yn  hytrach na 20% ac y dylai’r targed ar gyfer y Gwasanaeth Trwsio a Chynnal Tai ostwng o 100% i 90%.

 

 

 

(ii)  Derbyn y wybodaeth yn atodiadau 1, 2, a 3, sef :-

 

 

 

      Atodiad 1 -     Crynodeb o’r cynnydd a wnaed yn dilyn archwiliad o gynllun 2002/03

 

 

 

     Atodiad 2 -      Crynodeb o’r cynnydd a wnaed mewn perthynas â’r rhaglen waith gorfforaethol ar gyfer 2002/03

 

 

 

     Atodiad 3 -     Rhaglen Waith Corfforaethol ar gyfer 2003/04

 

 

 

  ar yr amod bod yr amserlen ar gyfer gweithredu’r Ymarfer GweRthuso Swyddi ac M-Lywodraeth yn cael rhagor o sylw.

 

 

 

(iii)Bod y Cynllun Gwella yn cael ei fabwysiadu mewn egwyddor gan y Cyngor Sir.

 

 

 

(iv) Bod y Cyngor yn dirprwyo awdurdod i’r Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) roddi trefn derfynol ar y cynllun ar ôl ymgynghori gyda’r Arweinydd a’r Aelodau Porffolio ar gyfer Adnoddau’r Cyngor.”

 

 

 

Achubodd Arweinydd y Cyngor ar y cyfle i ddiolch i'r Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) a'i staff ar eu llafur yn y broses o ddwyn y Cynllun Gwella ynghyd.

 

 

 

PENDERFYNWYD :-

 

 

 

Ÿ

Bod y Cyngor Sir yn mabwysiadu'r Cynllun Gwella gyda'r diwygiad y cyfeirir ato ym mharagraff 2.2 (i) a (ii) uchod.

 

 

 

Ÿ

Rhoddi'r awdurdod i'r Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) gwblhau'r cynllun ar ôl ymgynghori gyda'r Arweinydd a'r Deilydd Portffolio gyda golwg ar gyhoeddi erbyn 30 Mehefin 2003.

 

 

 

3

CYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL

 

 

 

Cyflwynwyd adroddiad ar y cyd gan Gyfarwyddwraig y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro a'r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) ar gydbwysedd gwleidyddol y Cyngor yn sgil y newidiadau gwleidyddol diweddar a marwolaeth y Cynghorydd R. J. Jones, Llanfaelog.

 

 

 

PENDERFYNWYD :-

 

 

 

Ÿ

Nodi trefniadau newydd ar gyfer cydbwysedd gwleidyddol a'r nifer o seddi a roddir i bob Grwp, i'r Aelod Rhydd ac i'r sedd wag dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989;

 

 

 

Ÿ

Cytuno ar y niferoedd cyflawn o seddi a ddyrennir i'r Aelod Rhydd ac a adewir yn wag am y tro;

 

 

 

Ÿ

Atgoffa Arweinyddion y Grwpiau i ddarparu rhestrau o enwau cynrychiolwyr eu grwpiau ar bob Pwyllgor i'r Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgorau cyn gynted ag y bo'n bosib;

 

 

 

Ÿ

Nodi y bydd raid gwneud rhagor o waith adolygu ar y trefniadau cydbwysedd gwleidyddol ar ôl cynnal yr is-etholiad.

 

 

 

4

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

 

 

 

PENDERFYNWYD dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Paragraff 8, Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni.

 

 

 

5

MYNYDD PARYS

 

 

 

Cyflwynodd yr Aelod Portffolio (Priffyrdd, Trafnidiaeth a Camerâu Goruchwylio) adroddiad cefndirol ar y mater gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo).

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Eiddo) :-

 

 

 

5.1

Bod y Pwyllgor Gwaith  yn ei gyfarfod ar 9 Mehefin 2003 wedi trafod adroddiad yn mofyn arian ychwanegol i gwrdd â chostau uwch cynllun Mynydd Parys.  Roedd copi o'r adroddiad hwn gyda gwybodaeth gefndirol, ynghlwm fel Atodiad A o'r adroddiad i'r Cyngor.

 

 

 

Yn ystod y cyfnod rhwng drafftio'r adroddiad ar gyfer y Pwyllgor Gwaith a'r cyfarfod ar 9 Mehefin darparwyd rhagor o wybodaeth fanwl gan yr Ymgynghorwyr sy'n rheoli'r contract ar ran yr Awdurdod.   Cyflwynwyd yr adroddiad yma ar lafar i'r Pwyllgor Gwaith ar 9 Mehefin 2003.

 

 

 

Yn sgil y wybodaeth ddiweddaraf amcangyfrifwyd bod cost ychwanegol y gwaith wedi codi i £'x' ac nid £'y' fel a nodwyd yn yr adroddiad.  Roedd yr amcangyfrif newydd hwn yn cynnwys swm sylweddol ar gyfer digwyddiadau annisgwyl a allai, o bosib, dalu am unrhyw sefyllfaoedd nad oedd modd eu rhagweld yn ystod y prosiect.  Oherwydd natur y cynllun, roedd ansicrwydd ynghylch cyfanswm yr arian fydd ei angen i gwblhau'r prosiect.  O ganlyniad, roedd taliadau i'r

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

contractwr yn seiliedig ar gostau gwirioneddol y peiriannau, y defnyddiau a'r llafur ac o'r herwydd, yr amcangyfrif o wariant yw'r ffigwr £x a nodir uchod.  

 

      

 

     Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) y deuai cyfraniad ychwanegol o falansau cyffredinol.

 

      

 

5.2     Bod y Pwyllgor Gwaith, yn ei gyfarfod ar 9 Mehefin 2003 wedi PENDERFYNU fel a ganlyn :-

 

      

 

     PENDERFYNNWYD

 

      

 

5.1.1     Argymell i’r Cyngor Sir y dylid rhyddhau £50,000 ychwanegol ar gyfer y Cynllun.

 

      

 

5.1.2     O gofio’r costau ychwanegol a amcangyfrifwyd ac y rhoddwyd gwybod amdanynt i’r Pwyllgor, gofyn i’r Rheolwr Gyfarwyddwr wneud trefniadau ar frys mewn perthynas â chynnal cyfarfod rhwng Arweinydd y Cyngor a’r Aelodau Porffolio perthnasol / swyddogion gyda chynrychiolwyr Awdurdod Datblygu Cymru gyda golwg ar ofyn am ragor o gymorth ariannol er mwyn cwblhau’r cynllun (cyn codi’r mater gyda Sue Essex,+ y Gweinidog ar gyfer Cyllid Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, a fydd yn ymweld â’r swyddfeydd hyn ar ddydd Iau, 12  Mehefin).”

 

      

 

Diolchwyd i'r holl staff a fu'n ymwneud â'r prosiect a nodwyd hefyd bod yr Adran wedi derbyn gwobr Sefydliad y Peirianwyr Sifil am y gwaith oedd eisoes wedi ei wneud ar Fynydd Parys.

 

 

 

Yn ogystal diolchwyd i'r Cynghorydd John Williams am ei ymdrechion yn chwilio am gymorth ariannol gan Asiantaeth yr Amgylchedd, yn lleol ac yn genedlaethol, ac y dylid rhoddi pob gwybodaeth iddo am yr holl ddatblygiadau.

 

 

 

PENDERFYNWYD

 

 

 

Ÿ

Cytuno i ryddhau £50,000 ychwanegol i symud ymlaen gyda'r cynllun

 

 

 

Ÿ

Y dylid parhau gyda'r gwaith pwmpio beth bynnag fo'r amgylchiadau.

 

 

 

Ÿ

Bod y Cyngor yn parhau i fynd ar drywydd ceisio sicrhau rhagor o arian angenrheidiol i gwblhau'r prosiect o goffrau Awdurdod Datblygu Cymru, y Cynulliad ac unrhyw ffynhonnell allanol arall a allai fod ar gael a rhoddi'r awdurdod, yn y cyswllt hwn, i ddirprwyaeth fynd ar ran y Cyngor, sef Arweinydd y Cyngor, y Deilyddion Portffolio perthnasol, y Rheolwr-gyfarwyddwr a'r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo) i ymweld â'r Cynulliad cyn gynted ag y bo'n bosib.

 

 

 

Ÿ

Dirprwyo i Arweinydd y Cyngor, mewn ymgynghoriad gyda'r Deilyddion Portffolio a swyddogion perthnasol, y pwer i ryddhau arian ychwanegol o'r gronfa wrth gefn petai hynny'n angenrheidiol i symud ymlaen gyda'r gwaith hyd at ei gwblhau.

 

 

 

 

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 3.25pm

 

 

 

 

 

MRS B BURNS

 

CADEIRYDD