Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 18 Medi 2007

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Mawrth, 18fed Medi, 2007

CYNGOR SIR YNYS MÔN

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Medi, 2007 (1.30 p.m.)

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd W.J. Williams MBE - Cadeirydd

 

Y Cynghorydd John Roberts - Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr Mrs. B. Burns MBE, John Byast, W.J. Chorlton,

J.M. Davies, E.G. Davies, J. Arwel Edwards, Keith Evans,

C.Ll. Everett, P.M. Fowlie, D.R. Hadley, D.R. Hughes,

Mrs. Fflur M. Hughes, R.Ll. Hughes, W.I. Hughes, Eric Jones,

G.O. Jones, H. Eifion Jones, J. Arthur Jones, O. Glyn Jones,

A.M. Jones, R.Ll. Jones, T.H. Jones, Bryan Owen, R.L. Owen,

G.O. Parry MBE, Bob Parry OBE, D.A. Lewis-Roberts,

G.W. Roberts OBE, J. Arwel Roberts, W.T. Roberts, J. Rowlands,

P.S. Rogers, E. Schofield, Hefin W. Thomas, John Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Rheolwr-gyfarwyddwr,

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid),

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden),

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Gwasanaethau Amgylcheddol a Thechnegol),

Cyfarwyddwraig Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro,

Pennaeth Gwasanaeth (Polisi),

Pennaeth Gwasanaeth (Eiddo),

Pennaeth Gwasanaeth (Datblygu Economaidd),

Pennaeth Gwasanaeth (Tai),

Pennaeth Gwasanaeth (Uned Darparwr)

Cyfreithiwr i’r Swyddog Monitro (RMJ),

Cyfreithiwr (RB),

Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgor,

Swyddog Cyfathrebu.

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr P.J. Dunning, G. Allan Roberts, K. Thomas.

 

 

 

Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd E.G. Davies.

 

1

DATGANIADAU O DDIDDORDEB

 

Gwnaeth y Cynghorydd E. Schofield ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei wyr yn yr Adran Priffyrdd a Thrafnidiaeth.  Hefyd gwnaeth ddatganiad o ddiddordeb yn eitem 7 y cofnodion hyn ac nid oed yn y cyfarfod am y drafodaeth na'r pleidleisio.  Yn ogystal roedd y Cynghorydd Schofield yn dymuno cofnodi iddo adael y Siambr pan oedd eitem 15 y cofnodion hyn yn cael eu trafod a phan bleidleisiwyd arnynt.

 

Gwnaeth y Cynghorydd G.O. Parry MBE ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ddwy ferch yn yr Adran Gyllid.

 

Gwnaeth y Cynghorydd O. Glyn Jones ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei wraig a'i ferch yn yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

 

 

 

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd R.Ll. Hughes ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei fab yn yr Adran Briffyrdd.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd J.A. Jones ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag Eitem 7 y cofnodion, ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod y trafod na’r pleidleisio ar yr eitem.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Fflur M. Hughes ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei mab yn yr Adran Addysg.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd H.W. Thomas ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag Eitem 7 y cofnodion,;ac arhosodd yn y cyfarfod ond roedd am i'r cofnod ddangos na phleidleisiodd ar y mater.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd C.Ll. Everett ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adain Adnoddau Dynol.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd W.J. Chorlton ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adain Gwasanaethau Amgylcheddol.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd A.M. Jones ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei frawd yn yr Adran Addysg a Hamdden.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd G.W. Roberts OBE ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag Eitem 15 y cofnodion, ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod y trafod na’r pleidleisio ar yr eitem.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd W.J. Williams MBE ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag Eitem 15 y cofnodion, ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod y trafod na’r pleidleisio ar yr eitem.  Aeth yr Is-Gadeirydd i’r Gadair ar gyfer yr eitem hon.

 

 

 

Gwnaeth Mr. J. Huw Jones, Pennaeth Gwasanaeth (Polisi), ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag Eitem 7 y cofnodion, ac nid oedd yn bresennol yn ystod y trafod na’r pleidleisio ar yr eitem.

 

 

 

Gwnaeth Mrs. Sasha W. Davies, Pennaeth Gwasanaeth (Datblygu Economaidd), ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag Eitem 7 y cofnodion, ac arhosodd yn y cyfarfod ond ni chymerodd ran yn y drafodaeth.

 

 

 

2

DERBYN UNRHYW GYHOEDDIADAU GAN Y CADEIRYDD, YR ARWEINYDD, AELODAU’R PWYLLGOR GWAITH NEU BENNAETH Y GWASANAETH TÂL

 

 

 

Rhoes y Cadeirydd ei longyfarchiadau i'r Cyngor ar gyrraedd rownd derfynol y 'National Training Awards' gyda'r rhaglen datblygu rheolwyr.  Câi enwau'r ennillwyr eu cyhoeddi mewn seremoni arbennig yn Neuadd Brangwyn, Caerdydd ym mis Tachwedd.

 

 

 

Llongyfarchwyd y rhai a ganlyn :-

 

 

 

Ÿ

Holl ddisgyblion yr Ynys a fu'n llwyddiannus yn eu harholiadau dros yr haf.

 

 

 

Ÿ

Robert John Hughes o'r Adran Briffyrdd ar ennill Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol John Moores, Lerpwl.  Hefyd enillodd wobr myfyriwr y flwyddyn.

 

 

 

Ÿ

Holl aelodau staff y Cyngor a enillodd raddau MA mewn Rheolaeth dros Newidiadau o Brifysgol John Moores a staff a fu'n llwyddiannus gydag arholiadau eraill.  Hefyd llongyfarchwyd y staff a oedd yn dysgu Cymraeg ac a lwyddodd yn yr arholiadau CBAC.

 

 

 

Ÿ

Y rhai hynny o'r Ynys a lwyddodd yng Ngemau'r Ynysoedd yn Rhodes ac yn arbennig yn y meysydd saethyddiaeth, hwylio ac athletau.

 

 

 

Ÿ

Y rhai hynny o'r Ynys a fu'n llwyddiannus yn Eisteddfod Genedlaethol yr Wyddgrug ym mis Awst.

 

 

 

Ÿ

Adran y Gwasanaethau Cymdeithasol ar dderbyn adroddiad eithriadol o dda yn dilyn yr Arolwg ar y Cyd.  Dywedodd Archwiliwr Cyffredinol Cymru, Jeremy Coleman "Anglesey is continuing to make progress in relation to its social services, thanks to significant investment and the hard work and determination of managers and staff."

 

 

 

Llongyfarchwyd y staff a fydd yn rhedeg yn râs 10km Ynys Môn ddydd Sul dan arweiniad y Rheolwr-gyfarwyddwr - Derrick Jones a fydd yn codi arian i elusennau y Cadeirydd - Marie Curie, y Samariaid a Chlwb Gateway Ynys Môn.

 

 

 

Aeth y Cadeirydd ymlaen i ddweud bod uned newydd Nant y Plas ym Mhlas Crugyll, Bryngwran wedi ei hagor yn swyddogol ddydd Mercher, 12 Medi.  O'r uned hon bydd cymorth ar gael i gleifion sy'n dioddef gyda dementia ac anhwylderau eraill yng nghyswllt y cof.

 

 

 

Rhoddwyd croeso'n ôl i'r Cynghorwyr Elwyn Schofield a W. T. Roberts ar ôl gwaeledd a hefyd dymunodd yn dda i'r Cynghorydd P. J. Dunning ar ôl iddo fod yn yr ysbyty yn ddiweddar.  Dymunwyd yn dda i wraig yr Arweinydd a fydd yn cael llawdriniaeth yn yr ysbyty fory.

 

 

 

Wedyn achubodd yr Is-Gadeirydd ar y cyfle i longyfarch y Cynghorydd John Byast ar ei briodas yn ddiweddar.

 

 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Peter Rogers at lwyddiant Ysgol Niwbwrch a fydd yn trafaelio i Gaerdydd heddiw ar ôl i'r ysgol gael ei rhoddi ar restr fer cystadleuaeth genedlaethol gan y Cyngor Ysgolion.  Yn wir roedd hyn yn adlewyrchu'n rhagorol ar yr Awdurdod Addysg a'r ysgol.

 

 

 

Yma cyfeiriodd y Cadeirydd at farwolaeth sydyn Osian Roberts tra'n teithio yn Awstralia - roedd yn fab i un o ofalwyr cartref y Cyngor a chydymdeimlodd gyda'r teulu yn Nhalwrn ar ran y Cyngor.

 

 

 

Gyda thristwch mawr clywodd y Cyngor am farwolaeth gwraig Graham Kidd, Eluned.  Ar ran yr Aelodau a'r Swyddogion mynegwyd cydymdeimlad dwys y Cyngor gyda Graham a'i deulu.  

 

 

 

Cydymdeimlodd hefyd gyda'r Aelodau a'r staff a oedd wedi colli rhai yn ystod y cyfnod dan sylw.

 

 

 

Ar ran y Cadeirydd, achubodd y Cynghorydd R. G. Parry OBE ar y cyfle i dalu teyrnged i'r Cynghorydd Eifion W. Griffiths a fu farw'n ddiweddar.  Ymddeolodd y Cynghorydd yn 1999 ar ôl un tymor ar y Cyngor Sir a chyn hynny bu'n aelod o'r hen Gyngor Bwrdeistref gan gynrychioli Benllech gan gynnwys Bryn-teg.  Bu Eifion Griffiths ar staff Adran Astudiaethau Crefyddol Coleg Normal Bangor hyd nes ymddeol yn 1980.  Roedd parch mawr iddo ymhlith ei gyd Gynghorwyr a'r Swyddogion ac roedd bob amser yn foneddigaidd.  Bydd hon yn golled fawr i ardal Benllech ac i gapeli'r Sir.  Cydymdeimlodd y Cyngor yn ddwys gyda'i wraig, ei ddau fab a'i ferch yn eu colled.

 

 

 

Safodd yr Aelodau a'r Swyddogion mewn distawrwydd fel arwydd o barch.

 

 

 

3

COFNODION

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd, cofnodion cyfarfodydd y Cyngor Sir a gafwyd fel a ganlyn :-

 

 

 

Ÿ

1 Mai, 2007

 

 

 

Yn Codi -

 

 

 

Eitem 2 Cyhoeddiadau - Pedwerydd baragraff

 

 

 

Ÿ

PENDERFYNWYD nodi y dylai fersiwn Gymraeg y cofnodion gyfeirio at dad-yng-nghyfraith nid mab-yng-nghyfraith y Cynghorydd Tom Jones.

 

Ÿ

Ar gais y Cynghorydd P. S. Rogers PENDERFYNWYD nodi yn y cofnodion farwolaeth Cofrestrydd yr Awdurdod hwn gynt, Mrs Annetta Jones.  Trwy gamgymeriad roedd hyn wedi'i adael allan o gofnodion 1 Mai 2007.

 

 

 

Eitem 10 - Cwestiwn a Dderbyniwyd Dan Reol 4.1.12.4

 

 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd P. S. Rogers at gwestiynau yr oedd wedi eu codi trwy rybudd yng nghyfarfod y Cyngor hwn a hefyd at benderfyniad y Cyngor y diwrnod hwnnw i roddi'r rheolau o'r neilltu dan Baragraff 4.1.12.4 y Cyfansoddiad, sef i beidio â derbyn cwestiynau.

 

 

 

Wedyn cyfeiriodd at y cyngor cyfreithiol a roddwyd yn y Cyngor hwnnw gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro a ddywedodd "The Council Constitution under Para 4.1.27 did permit that all Council Rules of Procedure, except those which were statutory, could be suspended but only for the duration of the meting.  It would therefore have  no effect beyond this meting unless Council Procedure Rules were changed.  This would require a further report to the Executive and full Council."

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Rogers am eglurhad unai gan y Rheolwr-gyfarwyddwr neu gan y Swyddog Monitro pam nad oedd y cwestiynau hynny wedi eu cynnwys ar y rhaglen heddiw ?

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Cadeirydd y câi y Cynghorydd Rogers ateb ysgrifenedig i'w gwestiwn.

 

 

 

Yna ychwanegodd y Cadeirydd y buasai'n symud at yr eitem nesaf ar yr agenda.

 

 

 

Y Cynghorydd P. S. Rogers - "You are in breach of the constitution Mr. Chairman.  I'm sorry, I've read this out to you."

 

 

 

Cadeirydd - "Will you sit down please".

 

 

 

Y Cynghorydd P. S. Rogers - "No I won't, because you are in breach of the Constitution and I'm in breach of the Constitution for standing up.  I think that the legal officer has got to answer this and the Managing Director.  What you ought to do is to adjourn for 5 minutes to take legal advice because you are breaking the Constitution.  You know very well you are, it's written down there."

 

 

 

Cadeirydd - "Are you accusing me of deliberately......"

 

 

 

Y Cynghorydd P. S. Rogers - "Yes, I am accusing you of being in breach of the Constitution with regard to the point I have raised."

 

 

 

Cadeirydd - "The Chair may move that the person be not heard further.  And I propose that.  Is there a seconder ?"

 

 

 

"Yes".

 

 

 

Cadeirydd - "Will you show.  Carried."

 

 

 

Ÿ

1 Mai, 2007 (Cyfarfod Blynyddol)

 

Ÿ

31 Mai, 2007 (Arbennig)

 

 

 

 

 

4

POLISI A STRATEGAETH RHEOLI TRYSORLYS GAN GYNNWYS YR ADRODDIAD BLYNYDDOL 2006/2007

 

 

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) - Yn ôl Cyfansoddiad y Cyngor Sir a gofynion statudol a phroffesiynol eraill, mae rhai agweddau o drefniadau benthyca a buddsoddi y Cyngor, yn cynnwys cynlluniau trothwyon a threfniadau eraill y mae'n rhaid i'r Cyngor Sir benderfynu arnynt.

 

 

 

O ganlyniad i adolygiad 2006/2007 yn yr adroddiad blynyddol, ac i benderfyniadau a wnaed neu faterion yn codi yn y flwyddyn, roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol wedi cynghori’r Pwyllgor Gwaith ar 10 Medi, 2007, bod angen rhai newidiadau i’r cynlluniau a’r trothwyon ar gyfer y flwyddyn gyfredol.  Daw’r rhain i’r Cyngor Sir nawr i’w cadarnhau.

 

 

 

Daeth cais o'r llawr am ohirio ystyried yr adroddiad hyd nes cael canlyniadau'r ymchwiliadau sy'n cael eu cynnal yng nghyswllt prynu'r eiddo hwn yn Amlwch ac y cyfeiriwyd ato dan Baragraff 3.3 (Benthyciad Digefnogaeth) yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid).

 

 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod yr adroddiad hwn yn diweddaru'r cynlluniau sydd gan y Cyngor yng nghyswllt penderfyniadau sydd eisoes wedi eu gwneud a bellach yn ffeithiau yn unig.  Nid oedd penderfyniad heddiw yng nghyswllt prynu'r eiddo yn Amlwch yn mynd i newid dim ar gynlluniau benthyca.  O'r herwydd gofynnodd i'r Cyngor am gymeradwyaeth i'r cynlluniau benthyca a hynny heb ragfarnu unrhyw drafodaeth arall heddiw.  Os oedd yr Aelodau yn anhapus gyda'r dull hwn o weithio roedd yn argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo gweddill yr adroddiad.

 

 

 

Cynigiwyd ac eiliwyd fod y bleidlais yn cael ei chofnodi ar yr egwyddor o dderbyn yr adroddiad neu beidio.  Dan ddarpariaethau Rheol 18.5 y Cyngor cytunwyd i gofnodi'r bleidlais.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd P. M. Fowlie o'r farn fod pawb a fu'n rhan o benderfyniad y Pwyllgor Gwaith ar 16 Gorffennaf 2007 i brynu'r eiddo i fod i ddatgan diddordeb a pheidio â phleidleisio heddiw.  Ar y mater gofynnodd am eglurhad gan y Swyddog Monitro.

 

 

 

Dywedodd y Swyddog Monitro bod yr adroddiad gerbron y Cyngor heddiw ar brynu'r eiddo yn adroddiad er gwybodaeth yn unig oherwydd bod y digwyddiad hwnnw wedi digwydd yn barod.  Gwnaed y penderfyniad yn y Pwyllgor Gwaith ar 16 Gorffennaf, prynwyd yr eiddo ar 19 Gorffennaf a chwblhawyd y pryniant ar 23 Awst 2007.  Ni chredai hi bod angen gwneud penderfyniad o gwbl heddiw a fuasai'n rhagfarnu Cadeirydd y Cyngor.  Wrth gwrs mater i'r Cadeirydd oedd penderfynu ond roedd hi'n cynghori'n bendant na ddylai ddatgan diddordeb.

 

 

 

I bwrpas symud ymlaen cynigiodd yr Arweinydd bod Argymhelliad 'c' yn adroddiad y Cyfarwyddwr ar Reoli'r Trysorlys yn cael ei ddileu a bod y Cyngor yn derbyn gweddill yr adroddiad.  Ceid trafodaeth ar y mater dan eitem 15 y Rhaglen.

 

      

 

     Cytunwyd i gymryd y camau hyn ac i gofnodi'r bleidlais.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn :-

 

      

 

     Y Cynghorwyr Mrs. B. Burns MBE, J. Byast, W.J. Cholton, J.M. Davies, E.G. Davies, J.A. Edwards,  K. Evans, C.Ll. Everett, P.M. Fowlie, D.R. Hadley, D.R. Hughes, Fflur M. Hughes, R.Ll. Hughes,  W.I. Hughes, Eric Jones, G.O. Jones, H.E. Jones, J.A. Jones, O.G. Jones, R.Ll. Jones, T.H. Jones,  A.M. Jones, B. Owen, R.L. Owen, R.G. Parry OBE, D.A. Lewis Roberts, J.A. Roberts, J. Roberts,  W.T. Roberts, P.S. Rogers, J. Rowlands, H.W. Thomas, J. Williams, W.J. Williams MBE

 

Cyfanswm (34)

 

      

 

     (Roedd y Cynghorydd G. W. Roberts OBE yn dymuno cofnodi nad oedd wedi pleidleisio ar y mater gerbron).

 

      

 

     (Roedd y Cynghorwyr G. O. Parry MBE ac E. Schofield yn dymuno cofnodi nad oeddent wedi cymryd rhan yn y drafodaeth nac wedi pleidleisio ar y mater gerbron).

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

     PENDERFYNWYD

 

      

 

Ÿ

Nodi yr adroddiad ar Reoli’r Trysorlys am 2006/2007.

 

Ÿ

Cymeradwyo newidiadau i’r Terfynau Pwyllog am  eleni.

 

Ÿ

Cymeradwyo’r rhestr ddiwygiedig - “Rhestr Fenthyca Gydnabyddedig”

 

 

 

Y Cynghorydd P. S. Rogers - "I cannot accept that under that item there you were asked to take instruction from the Legal Officer and the Managing Director, which you did.  When I asked you on the point I raised you did not take any advice and yet their advice is in the minutes.  You cannot just say you are going to send me a response, it has got to be done today - there isn't any room in the Constitution to report back to me in writing.  You have got to decide today or go against he Constitution."

 

 

 

Cadeirydd - "Item 5"

 

 

 

Y Cynghorydd P. S. Rogers - "I'm terribly sorry, you cannot act in this way".

 

 

 

Cadeirydd - "Will you sit down".

 

 

 

Y Cynghorydd P. S. Rogers - "You have an obligation to respond to me."

 

 

 

Chairman - "Item 5".

 

 

 

5

PWYLLGOR SGRIWTINI A THROSOLWG - ADRODDIAD BLYNYDDOL 2006/2007

 

      

 

     Adroddwyd gan Gadeirydd y Prif Bwyllgor Sgriwtini - Dan Erthygl 6 Cyfansoddiad y Cyngor mae’n rhaid cyflwyno adroddiad blynyddol i’r Cyngor ar waith y Pwyllgorau Trosolwg a Sgriwtini.  Mae Adroddiad Blynyddol 2006/2007 yn ymwneud â’r cyfnod rhwng cyfarfodydd blynyddol y Cyngor ar 2 Mai 2006 ac 1 Mai 2007.

 

      

 

     Paratowyd yr adroddiad mewn cydweithrediad gyda Chadeiryddion ac Is-Gadeiryddion y Pwyllgorau Trosolwg a Sgriwtini.

 

      

 

     Ond roedd y Cadeirydd yn dal i bryderu fod y Cyfansoddiad yn caniatáu i Aelod neu Gadeirydd/ Is-Gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini roddi eitem ar y rhaglen a'r Pwyllgor wedyn yn penderfynu a oedd am sgriwtineiddio'r mater hwnnw ai peidio.  Oherwydd cylch y Pwyllgor gallai gymryd hyd at 4 mis cyn cael trafodaeth ar y mater.  Roedd angen diwygio'r broses y tu mewn i'r Cyfansoddiad ar frys.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr-gyfarwyddwr ei fod yn ymwybodol o'r broblem a bod y swyddogion yn ymchwilio i ffyrdd o ddiwygio'r Cyfansoddiad er mwyn cael gwared o'r oedi.

 

      

 

     Penderfynwyd cymeradwyo cynnwys adroddiad blynyddol y Pwyllgorau Trosolwg a Sgriwtini am 2006/07.

 

      

 

6

NEWIDIADAU I’R CYFANSODDIAD

 

      

 

6.1     NEWIDIADAU I’R RHEOLAU GWEITHDREFN HAWL I WYBODAETH

 

      

 

     Adroddwyd - Bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 10 Medi, 2007 wedi ystyried yr uchod ac wedi penderfynu argymell i’r Cyngor Sir :-

 

      

 

     “Ei fod yn rhoddi’r Rheolau newydd yn lle’r hen Reolau Gweithdrefn Hawl i Wybodaeth (4.2) a hynny i bwrpas adlewyrchu’r sefyllfa gyfreithiol bresennol gan ddilyn y ddarpariaeth yn Atodiad A yr adroddiad hwn.”

 

      

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro fod yr adroddiad yn ymwneud â newidiadau cyfreithiol a fuasai'n newid dull Pwyllgorau'r Cyngor o ddelio gyda chau'r wasg a'r cyhoedd allan pan fo eitemau cyfrinachol gerbron.  Ar hyn o bryd roedd yn rhaid i'r Pwyllgorau nodi'r rheswm am gau allan a'r aelodau wedyn yn pleidleisio a oedd y rheswm hwnnw'n ddigonol ai peidio i gau'r wasg a'r cyhoedd allan.  Dan y rheoliadau newydd roedd yn rhaid i'r Pwyllgorau ddefnyddio Prawf Budd y Cyhoedd wrth gau allan onid oeddent yn derbyn cyngor cyfreithiol - dan amgylchiadau felly nid oedd angen Prawf o'r fath.

 

      

 

Yn ymarferol, y goblygiadau i hyn yw fod swyddog, wrth baratoi adroddiad, un sy'n debygol o gael ei eithrio gan y Pwyllgor, hefyd yn paratoi Prawf Budd y Cyhoedd a buasai'r prawf hwnnw yn ymddangos gyda phapurau'r rhaglen.  Buasai'r Prawf ei hun ar gael i'r cyhoedd ei ddarllen ond nid felly yr adroddiad.  Yn nesaf peth buasai'n rhaid i'r Pwyllgor edrych ar y Prawf a phenderfynu a yw hwnnw'n dderbyniol ai peidio cyn symud ymlaen i gau'r wasg a'r cyhoedd allan.

 

      

 

Penderfynwyd cymeradwyo argymhelliad uchod y Pwyllgor Gwaith a diwygio  Cyfansoddiad y Cyngor.

 

      

 

6.2     CEISIADAU CYNLLUNIO SY’N GROES I BOLISI (ADRODDIAD PWC)

 

      

 

     Adroddwyd - Bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 10 Medi, 2007 wedi ystyried yr uchod ac wedi penderfynu argymell i’r Cyngor Sir :-

 

      

 

     “Ei fod yn newid y cyfansoddiad yn unol â’r newidiadau arfaethedig yn Atodiadau 1 a 2 yr adroddiad.”

 

      

 

     Adroddwyd - Ym mis Rhagfyr 2006 cafodd y Cyngor adroddiad dan y teitl “Adolygiad o’r Gwyriadau o’r Cynllun o fewn y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio”, a baratowyd gan ei archwilwyr allanol, sef Pricewaterhouse Coopers LLP (PwC).  Yn yr adroddiad hwnnw cyflwynwyd 8 argymhelliad penodol ac yn eu tro fe’u trosglwyddwyd gan y Gwasanaeth Cynllunio i’w “Cynllun Gweithredu ar Welliannau”.  Y Cynllun hwn oedd y sylfaen i’r trafodaethau a gafwyd gydag aelodau mewn cyfarfod anffurfiol ar 5 Mehefin, 2007.  Roedd adroddiad PwC a’r “Cynllun Gweithredu ar Welliannau” wedi’u gyrru at aelodau.

 

      

 

     Manylwyd ar argymhellion PwC (argymhellion 5,6 a 8) yn yr adroddiad i'r Pwyllgor uchod.

 

      

 

     Penderfynwyd

 

      

 

Ÿ

Derbyn Argymhelliad R5 "Cyfrifoldeb y Cadeirydd" fel y mae hwnnw'n ymddangos dan Atodiad 1 yr adroddiad a symud ymlaen i ddiwygio'r Cyfansoddiad.

 

 

 

Ÿ

Delio gydag Argymhelliad R6 "Penderfyniadau'n groes i Argymhellion y Swyddogion" dan eitem 10.2 y cofnodion hyn (Rhybuddion o Gynnig)

 

 

 

Ÿ

Derbyn a diwygio'r Cyfansoddiad yng nghyswllt Argymhelliad 8 "Ceisiadau Croes i Bolisi" fel y mae yr argymhelliad yn ymddangos yn Atodiad 2 yr adroddiad ond gyda'r amodau a ganlyn :-

 

 

 

Ÿ

Bod y newid cyfansoddiadol hwn yn cael ei adolygu gan y Cyngor llawn ar ôl 12 mis o dyddiad cyfarfod y Cyngor hwn heddiw.

 

Ÿ

Bod y Cyngor yn mynd ati'n ddiymdroi i sefydlu Panel o Aelodau i sgriwtineiddio'r holl benderfyniadau cynllunio a wna swyddogion dan bwerau dirprwyol a hynny'n cynnwys ceisiadau sy'n mynd i Apêl.

 

      

 

     (Roedd y Cynghorydd E. Schofield yn dymuno cofnodi na chymerodd ran yn y pleidleisio ar y mater hwn).

 

6.3     TEITHIO BUSNES GAN SWYDDOGION

 

      

 

     Adroddwyd - Bod y Pwyllgor Gwaith wedi ystyried yr uchod yn ei gyfarfod ar 10 Medi, 2007, ac wedi penderfynu argymell i’r Cyngor Sir ei fod yn diwygio paragraff 3.5.2.8 ar dudalen 51 y Cyfansoddiad i ddarllen fel a ganlyn :-

 

      

 

     “Cymeradwyo presenoldeb gweithwyr mewn cynadleddau, cyrsiau hyfforddiant a chyfarfodydd proffesiynol yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon, a bydd cymeradwyaeth i’r fath bresenoldeb y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac Iwerddon yn cael ei rhoddi gan y Rheolwr-gyfarwyddwr, mewn ymgynghoriad efo’r arweinydd os ydyw hynny’n ymarferol.”

 

      

 

     Penderfynwyd

 

      

 

Ÿ

Cymeradwyo'r newid uchod i'r Cyfansoddiad ond dileu'r geiriau 'os ydyw hynny'n ymarferol' ar ddiwedd y paragraff hwnnw.

 

 

 

Ÿ

Bod swyddogion yn cyflwyno adroddiad chwarterol i'r Pwyllgor Archwilio yn manylu ar y mannau y teithiodd aelodau a swyddogion iddynt ar fusnes y Cyngor.

 

 

 

(Roedd copïau o'r adroddiadau uchod (6.1 - 6.3 uchod) eisoes wedi eu rhannu ymhlith yr holl aelodau fel rhan o bapurau y Pwyllgor Gwaith a gyfarfu ar 10 Medi 2007).

 

 

 

7

CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL - LLETY GWYLIAU

 

      

 

     Adroddwyd bod y Pwyllgor Gwaith wedi ystyried yr uchod yn ei gyfarfod ar 23 Gorffennaf, 2007 ac wedi penderfynu fel a ganlyn :-

 

      

 

     “Argymell i’r Cyngor Sir ei fod yn mabwysiadu’r CCA ar Lety Gwyliau.”

 

      

 

     Penderfynwyd cymeradwyo argymhelliad uchod y Pwyllgor Gwaith.

 

      

 

8     CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL - CYNLLUNIO A’R IAITH GYMRAEG

 

      

 

     Adroddwyd bod y Pwyllgor Gwaith wedi ystyried yr uchod yn ei gyfarfod ar 23 Gorffennaf, 2007 ac wedi penderfynu fel a ganlyn :-

 

      

 

     “Argymell i’r Cyngor Sir ei fod yn mabwysiadu’r CCA ar ‘Cynllunio a’r Iaith Gymraeg’ ar yr amod y gofynnir am ddatganiadau iaith gyda cheisiadau cynllunio o 1 Tachwedd, 2007 ynghyd ag Asesiadau Effaith Ieithyddol ar geisiadau perthnasol o’r un dyddiad.”

 

      

 

     Penderfynwyd cymeradwyo argymhelliad uchod y Pwyllgor Gwaith.

 

      

 

9

CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL - CYNLLUN RHEOLI ARDAL GADWRAETH CANOL TREF CAERGYBI

 

      

 

     Adroddwyd bod y Pwyllgor Gwaith wedi ystyried yr uchod yn ei gyfarfod ar 21 Mai, 2007 ac wedi penderfynu fel a ganlyn :-

 

      

 

     “Cymeradwyo’r Cynllun ar gyfer Rheoli Ardal Gadwraeth Canol Tref Caergybi a chefnogi cyflwyno’r ddogfen i’r cyfarfod nesaf o’r Cyngor Llawn i’w mabwysiadu fel Canllaw Cynllunio Atodol”.

 

      

 

Diolchodd y Cynghorydd Everett i'r Adran am y gwaith caled ond roedd yn pryderu am nad oedd arwyddion yn y dref, er bod bloc toiledau Sgwâr Swift yng Nghaergybi wedi ei adnewyddu, yn dweud wrth y cyhoedd yn lle yr oedd y toiledau ac nid oedd yr un arwydd ar yr adeilad ei hun.

 

Mewn ymateb rhoes y Deilydd Portffolio, y Cynghorydd H. W. Thomas, sicrwydd i'r aelod yr edrychid ar y mater.

 

 

 

Penderfynwyd cymeradwyo argymhelliad uchod y Pwyllgor Gwaith.

 

 

 

10     RHYBUDDION O GYNNIG YN UNOL A PHARAGRAFF 4.1.13.1 Y CYFANSODDIAD

 

      

 

     Mae’r rhybuddion o Gynnig canlynol wedi’u cyflwyno gan y Cynghorydd J.A. Jones :-

 

      

 

1.That all applicants, without exception, for planning permission or their appointed agents may if they wish address the Planning & Orders sub committee on their application. They shall be afforded up to 3 minutes to address the sub committee, however, the Chairman may at her/his discretion allow further time. Members of the Planning Committee may through the Chairperson ask questions of the applicant/ agent. When an applicant or their agent exercises this right to address, then in those cases only, any objectors to that application shall also be allowed to      address the sub committee on material planning matters only. Regardless of the number of objectors, the time afforded to address the sub committee will not exceed 3 minutes. No questions shall be put to the objectors and they for the record each will be required to provide their name and address. This provision to commence at the first Planning & Orders sub committee in 2008.

 

 

 

Dywedodd y Deilydd Portffolio, y Cynghorydd H. W. Thomas bod y Rhybudd dan sylw wedi'i gyflwyno'n rhy fuan a bod y Pwyllgor Cynllunio yn ei gyfarfod diwethaf wedi penderfynu enwebu un aelod o bob grwp gwleidyddol ar y Cyngor i ymweld ag awdurdod arall a chael y cyfle i weld sut yr oedd hwnnw'n delio gyda'r egwyddor o ganiatáu i'r cyhoedd siarad.  Wedyn bydd swyddogion yn cyflwyno adroddiad llawn i'r Pwyllgor Gwaith a'r Pwyllgor yn cyflwyno argymhellion i'r Cyngor Sir yn Rhagfyr.  Teimlai ef mai hon oedd y ffordd fwyaf diogel i symud ymlaen.

 

 

 

Cefnogi'r Deilydd Portffolio a wnaeth y Cynghorydd R. G. Parry OBE ond cafwyd gwelliant ganddo, sef y dylid cyflwyno'r adroddiad dan sylw i Banel y Cynllun Datblygu Lleol a'r Panel wedyn yn cyflwyno ei argymhellion i'r Cyngor Sir.

 

 

 

Fel Cadeirydd y Panel Cynllun Datblygu Lleol roedd y Cynghorydd H. W. Thomas yn gefnogol i'r syniad hwn.

 

 

 

PENDERFYNWYD bod adroddiad ar yr egwyddor o ganiatáu i'r cyhoedd siarad yn cael ei gyflwyno gan y swyddogion i Banel y Cynllun Datblygu Lleol a gofyn i'r Panel lunio argymhellion ar gyfer eu cyflwyno i gyfarfod y Cyngor Sir yn Rhagfyr.

 

 

 

2. That from the date of this meeting no Planning application, that is approved or refused by the Planning Committee and is contrary to officers recommendation, shall be brought back to the next or any committee meeting for reconsideration of the original decision. This policy shall have a 12 month      trial period after which time the matter shall be reconsidered.

 

 

 

PENDERFYNWYD peidio â derbyn y Rhybudd o Gynigiad uchod ac felly dderbyn Argymhelliad R6 "Penderfyniadau'n Groes i Argymhellion Swyddogion" fel y mae yn ymddangos dan Atodiad 1 adroddiad PWC (cyfeirir at hyn dan eitem 6.1 y cofnodion hyn) a diwygio'r Cyfansoddiad.

 

 

 

3. That this Council notifies Norwich Union Insurance that it proposes to seek alternative insurance providers for its Council tenants and preference may be given to those who are represented locally.

 

Mewn ymateb dywedodd y Deilydd Portffolio, y Cynghorydd W. J. Chorlton, mai 2 flynedd yn unig oedd yn weddill ar y contract hwn ac er bod contract rhwng y Cyngor a'r cwmni yswiriant presennol nid oedd raid i denantiaid y Cyngor gymryd y cwmni hwn i yswirio. Roedd y tenantiaid yn rhydd i benderfynu eu hunain ar gwmni.  Ond roedd y Cynghorydd yn fodlon edrych ar y mater a chyflwyno adroddiad yn ôl i'r Cyngor.  Pwy bynnag fydd yn cael y contract yn y dyfodol roedd yr aelodau yn teimlo y dylid annog y cwmni buddugol i agor cangen leol ar yr Ynys.  Hefyd dygwyd sylw at y problemau yr oedd tenantiaid y Cyngor yn eu hwynebu wrth ofyn am setliad yswiriant yn achos ffenestri a dorrwyd.

 

 

 

PENDERFYNWYD gofyn i'r Deilydd Portffolio Tai gyflwyno adroddiad yn ôl i'r Cyngor ar y mater hwn yn y man.

 

 

 

4. That from the date of this meeting all members shall if requested receive confirmation in writing of all tenancies let in their ward together with in each case full details of points awarded including total points, current address of applicant(s) (area only), number in family, property type allocated and time on waiting list.

 

 

 

Credai rhai o'r aelodau y dylai'r wybodaeth a gyflwynir iddynt gynnwys nifer y pwyntiau a hynny'n cynnwys y cyfanswm.  Dywedodd y Deilydd Portffolio, y Cynghorydd W. J. Chorlton bod raid i'r Cyngor fod yn ofalus wrth ryddhau gwybodaeth rhag ofn torri gofynion y Ddeddf Diogelu Data a chynigiodd na ddylid newid y system.

 

 

 

Wedyn dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol/y Swyddog Monitro ei bod hi'n berffaith resymol i Gynghorydd ofyn am wybodaeth am achos penodol os oedd anghydfod neu petai etholwr yn anfodlon.  Yn ogystal roedd hi'n rhesymol i aelodau siarad gyda'r bobl hynny oedd yn anfodlon ac egluro eu bod wedi edrych ar yr amgylchiadau a'u bod yn fodlon bod y pwyntiau a roddwyd yn deg ac yn briodol.  Ond gallai rhannu gwybodaeth am drydydd parti, gyda rhywun sy'n anhapus gyda'r pwyntiau, dorri gofynion y Ddeddf Diogelu Data.  Mae unrhyw wybodaeth meddygol yn perthyn i gategori data personol sensitif a buasai rhyddhau gwybodaeth o'r fath i drydydd parti yn fater o dorri'r ddeddfwriaeth mewn modd mwy sylweddol.

 

 

 

PENDERFYNWYD glynu wrth y trefniadau presennol fel y gwelir y rheini yn y ddogfen Polisi Gosod Tai.

 

 

 

(Roedd y Cynghorydd P. M. Fowlie yn dymuno cofnodi nad oedd wedi pleidleisio ar y mater hwn am nad oedd yn y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y pwnc).

 

 

 

5. That this Council writes to the Prime Minister and to the First Minister suggesting in the strongest possible terms that the bureaucratic burden on the farming industry is reduced to a level that is acceptable to farmers and which is conducive to making the industry more effective and efficient  in terms of producing food not paperwork.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd P. M. Fowlie am eglurhad cyfreithiol yng nghyswllt yr aelodau hynny oedd yn ymwneud â'r diwydiant amaethyddol ac a oedd raid iddynt ddatgan diddordeb ai peidio ?

 

 

 

Wrth ymateb dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro bod y rheini sydd mewn amaethyddiaeth â'r hawl i aros yn y Siambr, i drafod y mater a phleidleisio arno.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn y Rhybudd o Gynigiad a bod Cadeirydd y Cyngor Sir yn ysgrifennu ar y mater hwn at y Prif Weinidog, Gweinidog Cyntaf y Cynulliad ac Ewrop.

 

 

 

6. That this Council removes the following words (highlighted) from the Draft Interim Planning Policy and the Revised Document dated August 2007; ‘The proposed dwelling will be occupied by a local person ‘who does not already have a suitable home in the area’.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn y Rhybudd o Gynigiad uchod.

 

 

 

7. That this Council amends the Constitution as follows:-

 

 

 

Paragraph 4.6.4.3(iii) to the effect that; ‘Councillors who are members of the Planning Committee may discuss any planning application in their ward with any person(s) including the applicant(s) or objector(s) prior to determination by the Planning Committee but that they shall not give any indication of having reached a conclusive view on it until all matters have been put before the Committee’. The ward member will inform the Committee that discussions have taken place with interested parties. If the ward member decides to make known her/his conclusive views before the matter is considered by the Planning Committee then they may address the Committee on the application but not vote.

 

      

 

Roedd y Deilydd Portffolio, y Cynghorydd H. W. Thomas yn gefnogol i'r Rhybudd oherwydd bod yma gyfle i'r Aelod Lleol gynefino gyda'r cais gerbron a hynny'n fodd i gyrraedd penderfyniad cytbwys gyda'r amod nad yw'r aelod yn rhoddi unrhyw arwydd, ymlaen llaw, o ble y mae'n sefyll.

 

 

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro nad oedd un elfen yn y cynnig (brawddeg olaf y paragraff) yn adlewyrchiad priodol ar y sefyllfa gyfreithiol yng nghyswllt yr aelod lleol.  Roedd yr aelod lleol yn medru bod yn agored i lobïo, yn medru cwrdd ag ymgeiswyr, gwrthwynebwyr, cynrychiolwyr a chyrff tebyg ond ni ddylent fynegi barn hyd oni fydd y cais gerbron y Pwyllgor a hyd nes cael y cyfle i glywed yr holl dadleuon a hefyd weld yr adroddiadau.  Yn ôl cyfraith achosion roedd modd gwyrdroi penderfyniad os oedd pobl yn cael dylanwad ar y penderfyniad, er nad oedd y bobl hynny mewn gwirionedd yn pleidleisio ar y mater ei hunain, a'u bod yn dylanwadu gyda pheth rhagfarn (h.y. roeddent eisoes wedi penderfynu ar y mater cyn gweld y dystiolaeth).  Cafwyd argymhelliad ganddi fod y Cyngor yn dileu'r elfen hon yn y Rhybudd o Gynigiad.

 

 

 

Hefyd roedd hi'n pryderu y gallai Rhybudd o'r fath agor aelodau'r Pwyllgor Cynllunio i beth wmbredd o lobïo ymhlith etholwyr a hynny'n ychwanegu at risg o sialens neu o gwynion yn erbyn yr aelodau - hyd yn oed pan fo cwynion o'r fath yn ddi-sail.  Y mater arall i'w ystyried yw beth, mewn gwirionedd, sydd wedi ei ychwanegu at y broses a hynny oherwydd bod yr aelod lleol wedi cael rhyddid i wynebu lobïo a hefyd yn cael cyflwyno sylwadau yn y Pwyllgor.  Petai penderfyniad yn cael ei wneud o blaid rhoi'r hawl i'r cyhoedd siarad yn y Pwyllgor buasai  cam o'r fath yn lleddfu rhywfaint o'r pryderon hyn.

 

 

 

Ar ôl derbyn barn gyfreithiol cafwyd cynnig gan yr Arweinydd bod y mater yn cael ei drosglwyddo i sylw'r Panel Cynllun Datblygu Lleol a bod hwnnw wedyn yn cyflwyno adroddiad yn y man i'r Cyngor.

 

 

 

Roedd y Deilydd Portffolio, y Cynghorydd H. W. Thomas, yn hapus i dderbyn yr arweiniad hwn.

 

 

 

PENDERFYNWYD trosglwyddo'r mater i Banel y Cynllun Datblygu Lleol ei ystyried a bod y Panel wedyn yn cyflwyno adroddiad i'r Cyngor Sir ar ei sylwadau yn y man.

 

 

 

11

CWESTIYNAU A DDERBYNIWYD YN UNOL Â RHEOL 4.1.12.4

 

 

 

Cyflwynwyd y cwestiynau a ganlyn gan y Cynghorydd G. O. Parry MBE :-

 

 

 

1. At Arweinydd y Cyngor :-

 

 

 

Eitem 6 cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 23 Gorffennaf, 2007

 

 

 

Dan yr eitem trafodwyd cynigion yng nghyswllt Pont Britannia

 

 

 

"In view that the Council has submitted an application for the Telford Suspension Bridge and the Stephenson Britannia Bridge to be included on a list of World      Heritage Sites, has the Executive explored the possibility that structural changes to the bridge would negate such an application?

 

 

 

If not, would it be reasonable for it to consider such contact with the organisation that determines these applications before moving forward with current proposals to widen the roadway?"

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd yr Arweinydd: "The resolution to submit both Menai and Britannia Bridges as possible sites for inclusion on the list of World Heritage Sites as part of the Unitary Development Plan process was stopped when the Council decided not to proceed with the UDP.  The application was therefore not submitted."

 

 

 

Y Cynghorydd G. O. Parry MBE - "I am surprised that the UDP had stopped such an important application and I therefore request that the Council decided today that we re-apply for the two bridges to be listed as World Heritage Sites".

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd yr Arweinydd :  ”Britannia Bridge is a listed structure and this would have to be taken into consideration if there was any proposal to improve traffic flow to and from the mainland. Plans are being considered for the Britannia Bridge by WAG and this Council. We must maintain the character of the bridge. The point you make is fair, we must look after the bridges. There is an emergency meeting of the County Council next month and perhaps the matter of listing could be  raised at that meeting.”

 

 

 

Roedd y Cynghorydd G. O. Parry MBE yn fodlon dilyn y trywydd hwn.

 

 

 

Os ydyw'r Cyfansoddiad yn caniatáu PENDERFYNWYD fod adroddiad ar restru y ddwy bont fel Safleoedd Treftadaeth y Byd yn cael ei gyflwyno i gyfarfod arbennig o'r Cyngor Sir ar 18 Hydref 2007.

 

 

 

2. At y Rheolwr-gyfarwyddwr neu Arweinydd y Cyngor :-

 

      

 

Eitem 2 o gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 30 Gorffennaf, 2007 - Trefniadau Olynol Cynllun Datblygu Strategol

 

 

 

a) “How was an available budget of £175,500 towards grant aiding pump priming schemes aimed at supporting voluntary and community organisations inadvertently not discussed during the financial year 2006-2007?”

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd yr Arweinydd :  ”The Member appears to have misread the minutes of the 30th July. At it’s meeting on 30th July, 2007, the Sub-Committee agreed a package of grants from 2007/08 budgets according to normal timetables. This was also done in the summer of 2006/07. The only reference in the minutes to 2006/07 was the ‘power to act’ which had been delegated in that year, but had inadvertently not been put in place for the current year. This omission gave rise to the need for an urgent item on 30th July, 2007 to confirm the decision of the Sub-Committee in respect of 2007/08.”

 

 

 

Y Cynghorydd G. O. Parry, MBE - "Thank you".

 

      

 

b) How was the Economic Development Unit, on an island where the GDP is continuing to fall, able to accrue funds through slippage and transfer £50,000 to a project with no clear major employment outcomes?

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd yr Arweinydd :  “If we as a County Council want to develop tourism and businesses on the Island, there are different packages, sometimes employment, sometimes development to achieve this. We did this to develop the Amlwch Port scheme where for a £50k contribution from this Council, the Amlwch Heritage Trust would hopefully be able to draw down £1.4m match funding. This in itself will contribute to raising the Island’s GDP.”

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd G. O. Parry MBE :  I support  investments, we must have it. One problem which we encountered with Objective 1 was that the complexity of the forms put the private sector out of the equation. Under convergence we must simplify the process and promote local companies/businesses who are prepared to invest. I asked this on numerous occasions at the WLGA when I was Leader of the Council, that we simplify the process as they have done in Ireland in order to facilitate matters for everybody.”

 

 

 

Ymateb yr Arweinydd :  “ I agree with Councillor Parry. We cannot get answers from Cardiff on any convergence matters. There is a danger that the private sector do not get the support.”

 

 

 

3. Cyflwynwyd y cwestiwn a ganlyn gan y Cynghorydd A. Morris Jones i Arweinydd y Cyngor :

 

          “Following receipt of the comprehensive report recently received by all members of the County Council from the Line Amlwch Group when will you be able to respond to the full Council on the matter raised in their report that contradicts the previous report to the Council in this respect on the 6th March, 2007”

 

 

 

Dywedodd yr Arweinydd yn ei ymateb: ”Diolch i chwi am eich cwestiwn.  Gwnaeth y Cyngor llawn diwethaf benderfyniad llawn a phriodol ar ei ddewis ynghylch y defnydd o'r Lein yn y dyfodol".

 

      

 

     Y Cynghorydd A.Morris Jones “Fedrwch chi gadarnhau, syr, a oes ymchwiliad i'r adroddiad hwn ar hyn o bryd a chan bwy ?"

 

      

 

     Arweinydd “Diolch i chi am eich cwestiwn atodol.  Byddaf yn cyflwyno'r ateb priodol ac ysgrifenedig i chwi yn y man."

 

      

 

     Y Cynghorydd A.Morris Jones “Mr. Cadeirydd, mae hwn yn fater syml - Do neu Naddo.  Rydym yn byw mewn oes lle mae'n briodol i ni arbed papur.  Mr. Arweinydd rydych chi wedi ateb y cwestiynau eraill heddiw.  Fedrwch chi ateb fy nghwestiwn i os gwelwch yn dda.  A oes ymchwiliad.  Oes neu Nac Oes ?"

 

      

 

     Cadeirydd - “ Mae'r Arweinydd wedi rhoi ei ateb "

 

      

 

     Y Cynghorydd A.Morris Jones “ Diolch i chwi syr.  Bod yn agored ac yn dryloyw - clywsom am hyn yn gynharach y pnawn 'ma.  Mae'n resyn nad yw'n wir ymhob achos.  Hoffwn wneud un pwynt arall, na mae'n ymwneud â'r mater hwn."

 

      

 

     Cadeirydd “Gadewch i ni lynu wrth y rheolau, rydwyf yn siwr eich bod yn parchu'r rheini hefyd".

 

      

 

     Y Cynghorydd A.Morris Jones “ Pwynt o drefn, Mr. Cadeirydd"

 

      

 

     Cadeirydd “Ni fydd rhagor o gwestiynau ar y mater hwn."

 

      

 

     Y Cynghorydd A.Morris Jones “Hwn yw'r pwynt.  Aeth union flwyddyn heibio ers ein rhwystro rhag gofyn cwestiynau."

 

      

 

     Cadeirydd “Diolch i chwi."

 

      

 

     Y Cynghorydd A.Morris Jones “Dim ond nodi'r pwynt yna".

 

 

 

4. Cyflwynwyd y cwestiwn a ganlyn gan y Cynghorydd T. Jones i'r Deilydd Portffolio, Eiddo.

 

 

 

Why is the smallholdings estate not included within the Council’s corporate asset management       scheme?

 

 

 

Yn ei ymateb dywedodd y Deilydd Portffolio "I understand that all Members of the Council have been provided with a copy of the Council’s draft Asset Management Plan. Members will know therefore, that there is reference within the Asset Management Plan to the Smallholdings Estate. The Asset Management Plan is a high level document which will provide the framework for reviewing all Council properties but does not attempt to set out detailed policies for each of the Portfolios.”

 

 

 

Fel eglurhad i'r Aelodau dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro fod rhai penderfyniadau yn cael eu neilltuo i'r Cyngor llawn, eraill yn cael eu trosglwyddo i Aelodau neu i Bwyllgorau a bod y Pwyllgor Gwaith yn delio gyda'r gweddill.  Roedd y materion i'r Cyngor llawn yn faterion yr oedd yn rhaid i'r Cyngor ei hun roddi sylw iddynt a hefyd rai eitemau dewisol.  Roedd Cynllun Ad-drefnu'r Mân-ddaliadau yn perthyn i'r math dewisol o benderfyniad.  Efallai mai'r Cyngor oedd yn gofalu am y polisi mân-ddaliadau ond nid oedd y Cyngor wedi ei fabwysiadu yr un pryd â mabwysiadu'r Cyfansoddiad.  Roedd y Cynllun Rheoli Asedau yn ddogfen o bwys ac yn cynnwys cyfeiriadau at adeiladau eraill sy'n eiddo i'r Cyngor e.e. ysgolion a chanolfannau hamdden etc.  Roedd gan y rhain hefyd bolisïau ar wahân - yn yr un modd â'r mân-ddaliadau.  Nid oedd hwn yn fater wedi ei glustnodi a'i neilltuo yn y Cyfansoddiad i'r Cyngor llawn ond roedd modd dilyn trefn er mwyn ei gyflwyno i'r Cyngor llawn petai'r Aelodau yn dymuno gwneud hynny.

 

 

 

Cafwyd y cwestiwn ategol a ganlyn gan y Cynghorydd T. Jones :-  "Mae'n amlwg fod dryswch yn y fan yma.  Rhaid i ni fel Cyngor egluro'r sefyllfa.  Credaf fod penderfyniad wedi'i wneud yn y Pwyllgor Gwaith ar 21 Mai 2007.  Mae cofnodion y Pwyllgor hwnnw yn dangos fod cytundeb cyffredinol ar godi lefel i 40 acer.  Mae pob un ohonom wedi derbyn llythyr gan Fudiad y Ffermwyr Ifanc sy'n dweud yn hollol groes.  Dywedant hwy na chafwyd yr un cyfarfod gyda'r Undeb Amaethwyr Cenedlaethol na chyda'r Ffermwyr Ifanc.  Cafwyd cyfarfod gydag Undeb Amaethwyr Cymru ond heb yr un cyfeiriad at 40 acer.

 

 

 

Yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor Gwaith a ydych chwi fel Deilydd Portffolio am roi'r cyfle i'r 8 person ifanc a ymgeisiodd am denantiaeth Chwaen Newydd, Llanddeusant ?  Dim ots ganddynt am y fiwrocratiaeth, dim ond gofyn i chwi fel Cyngor roddi cyfle iddynt y maent, cyfle i ymgeisio am denantiaeth y fferm hon.  "

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Deilydd Portffolio, y Cynghorydd H. W. Thomas :  "Mae'r penderfyniad wedi'i wneud gan y Pwyllgor Gwaith.  Wrth gwrs roedd daliad arall o'r un maint rai misoedd yn ôl.  Yr adeg honno fe gysylltwyd gyda'r aelod lleol ac roedd hwnnw yn fodlon trwy ddirprwyaeth i ni werthu er mai yr un faint o aceri oedd y lle.  Rhaid i chwi dderbyn hynna.  Mae'n ffaith.

 

 

 

Gallaf gadarnhau y bydd panel yn cael ei sefydlu i edrych ar y mân-ddaliadau.  Byddwn yn cysylltu gydag Undeb Amaethwyr Cymru, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, Cymdeithas y Tirfeddianwyr, Ffermwyr Ifanc - pwy bynnag y dymunwch ei dynnu i mewn.  Byddwn yn llunio barn ond ar ddiwedd y dydd ni fel Cyngor fydd yn penderfynu.  Byddaf yn gofyn i'r Arweinydd sefydlu'r Panel hwn ar fyrder.  Mae Stad y Mân-ddaliadau o bwys i ni i gyd.  Rydym i gyd yn dymuno cynorthwyo ein pobl ifanc ond pan oeddem yn gosod y 2-3 fferm fawr yn ddiweddar ni ofynnodd neb o'r mân-ddaliadau bychain am gyfle i symud iddynt.  Byddaf yn edrych ar y mater.  Mae ffermio yn fy ngwaed ac rydwyf am i'r bobl ifanc gael cyfle.  "

 

 

 

12

DIRPRWYAETHAU GAN YR ARWEINYDD

 

      

 

     Cyflwynwyd - Adroddiad gan y Rheolwr-gyfarwyddwr yn nodi unrhyw newidiadau i’r cynllun dirprwyo mewn perthynas â Threfniadau Gweithredol a wnaed gan yr Arweinydd ers y Cyfarfod Arferol diwethaf (cyfeirir at hyn yn Rheol 4.4.1.4 y Rheolau Gweithdrefnau Trefniadau Gweithredol ar Dudalen 131 y Cyfansoddiad).

 

      

 

     Penderfynwyd nodi y wybodaeth sy’n gynwysedig yn yr adroddiad.

 

      

 

13

CAU ALLAN Y WASG A’R CYHOEDD

 

      

 

     Penderfynwyd dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth leol 1972, i gau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Paragraffau 7, 8 a 10 Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni.

 

      

 

14

ADOLYGU CWMNI GWASTRAFF MÔN-ARFON

 

      

 

     (Cyn y cyfarfod hwn roedd 7 Aelod sydd ar Gyd-Bwyllgor Gwastraff Môn/Arfon wedi cael cyngor cyfreithiol gan y Swyddog Monitro ar y mater gerbron, sef ei bod hi'n iawn iddynt aros yn y cyfarfod, cyfrannu yn y drafodaeth ond peidio â phleidleisio ar y mater).

 

 

 

     Cyflwynwyd adroddiad a baratowyd ar y cyd gan y Cyfarwyddwr corfforaethol (Yr Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol), y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) a’r Gyfarwyddwraig Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro ynglyn ar sefyllfa ddiweddaraf ynghylch yr adolygiad o Cwmni Gwastraff Môn/Arfon.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd R. G. Parry OBE, fel Cadeirydd Cyd-Bwyllgor Rheoli Cwmni Gwastraff Môn/Arfon cafwyd disgrifiad manwl o'r sefyllfa hyd yma.

 

 

 

     PENDERFYNWYD

 

      

 

Ÿ

Derbyn yr adroddiad interim Rhan 1 gan KPMG, a gyflwynwyd i Gyd-bwyllgor Cwmni Gwastraff Môn-Arfon ar 23 Gorffennaf, 2007, fel sail ar gyfer diddymu’n wirfoddol Cwmni Gwastraff Môn-Arfon.

 

 

 

Ÿ

Dirprwyo i aelodau Ynys Môn ar Gyd-bwyllgor Cwmni Gwastraff Môn-Arfon yr awdurdod i ddechrau camau i ddiddymu Cwmni Gwastraff Môn-Arfon ar sail wirfoddol, gan gynnwys penodi Diddymwr ac i bleidleisio ar y mater yng nghyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor.

 

 

 

Ÿ

Rhoi awdurdod i Gyfarwyddwraig y Gwasanaethau Cyfreithiol, mewn ymgynghoriad gyda’r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Yr Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol) a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) i gytuno ar yr holl ddogfennau cyfreithiol angenrheidiol gan gynnwys Cytundeb Gwahanu Gwirfoddol gan yr Aelodau.

 

 

 

15

PRYNU EIDDO

 

      

 

     (Er bod y mater hwn wedi'i nodi fel mater cyfrinachol ar y rhaglen penderfynodd y Cyngor, ar y dydd, y dylid ei drafod yn gyhoeddus a hynny er mwyn bod yn agored ac yn dryloyw).

 

      

 

     Yn unol â darpariaethau paragraff 4.5.16.10 Cyfansoddiad y Cyngor, adroddodd y Pennaeth Gwasanaeth (Eiddo) yn dilyn trafodaeth mewn perthynas â bwriad i brynu mewn ocsiwn tir a fyddai o wrth strategol i’r awdurdod, canfuwyd bod angen penderfyniad ffurfiol a chyllideb ar gyfer y pwrpas hwnnw.

 

      

 

     Yn dilyn cyfarfod rhwng y swyddogion perthnasol ar 9fed Gorffennaf, 2007, canfuwyd bod angen i’r Pwyllgor Gwaith wneud penderfyniad brys er mwyn sicrhau fod gan y swyddogion yr awdurdod i symud ymlaen i weithredu yn yr ocsiwn ar 19eg Gorffennaf, 2007.

 

      

 

     Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Yr Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol) i gyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 16eg Gorffennaf, 2007.

 

      

 

     Codwyd pryderon gan Swyddog Monitro’r Cyngor ynghylch y modd y cynhaliwyd y cyfarfod ac o’r herwydd,  cyflwynwyd adroddiad i'r Pwyllgor Gwaith ar 10 Medi 2007, pryd y penderfynwyd " penderfynwyd, yn dilyn ystyried adroddiad Cyfarwyddwraig y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro, cymeradwyo’r cofnodion a chadarnhau’r penderfyniad a wnaed yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith ar 16 Gorffennaf, 2007"

 

      

 

     Gan fod ymchwiliadau yn cael eu cynnal gan yr Archwiliwr Dosbarth cynigiwyd ac eiliwyd y dylid gohirio ystyried yr adroddiad a disgwyl am ganlyniadau'r ymchwiliadau.   Hefyd gofynnwyd am arweiniad ynghylch a ddylai'r aelodau hynny o'r Pwyllgor Gwaith a wnaeth y penderfyniad ar 16 Gorffennaf 2007 ddatgan diddordeb yn y mater a gadael y Siambr.

 

      

 

     Pa un a oedd y drafodaeth yn gyhoeddus neu'n breifat dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro mewn ymateb fod yr eitem ar y rhaglen gan fod raid i'r Cyngor dan y Cyfansoddiad, gael gwybod am unrhyw benderfyniad a gymerwyd nad oedd yn destun galwad i mewn.  Nid i bwrpas dadl na thrafodaeth y cyflwynwyd yr adroddiad ond i bwrpas ei roddi gerbron y Cyngor i'w dderbyn.

 

     Yng nghyswllt datgan diddordeb dywedodd nad oedd hi'n credu bod raid i'r rheini a fu'n rhan o'r penderfyniad ddatgan diddordeb a gadael a hynny gan fod y testun yr oedd yr adroddiad yn ymwneud â fo yn fater o dderbyn adroddiad yn oddefol yn unig.  Ond os oedd y Cyngor am drafod rhinweddau'r mater cyn cyhoeddi adroddiad PWC, ac er ei bod yn cynghori yn gryf yn erbyn hynny, yna buasai'n rhaid i'r rheini a oedd yn gyfranogol yn y penderfyniad ddatgan diddordeb a gadael.

 

      

 

     Ar ôl derbyn cyngor cryf y Swyddog Monitro a hynny'n cael ei ategu gan y Rheolwr-gyfarwyddwr heddiw cynigiodd y Cynghorydd T. Ll. Everett (a chafodd ei eilio) bod y Cyngor yn derbyn yr adroddiad fel y cafodd ei ysgrifennu.

 

      

 

     Dan ddarpariaethau Rheol 18.5 y Cyngor cytunwyd i gofnodi'r bleidlais ar y mater.

 

      

 

     O blaid y gwelliant gan y Cynghorydd C. Ll. Everett (i dderbyn yr adroddiad) :-

 

 

 

     O blaid : Y Cynghorwyr Mrs. B. Burns MBE, J. Byast, W.J. Cholton, J.M. Davies, K. Evans, C.Ll. Everett,D.R. Hadley, D.R. Hughes, G.O. Jones, H.E. Jones, J.A. Jones, D.A. Lewis-Roberts, J.A. Roberts,  J. Roberts, W.T. Roberts, J. Rowlands, H.W. Thomas, J. Williams.

 

Cyfanswm 18

 

      

 

     Yn Erbyn : Y Cynghorwyr E.G. Davies, J.A. Edwards, P.M. Fowlie, Fflur M. Hughes, R.Ll. Hughes,

 

     W.I. Hughes, Eric Jones, O.G. Jones, R.Ll. Jones, T.H. Jones, A.M. Jones, B. Owen, R.L. Owen,

 

     R.G. Parry OBE, P.S. Rogers.

 

Cyfanswm 16

 

      

 

     Ymatal : Dim

 

      

 

     O'r herwydd fe gafodd y gwelliant ei gario.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn cynnwys yr adroddiad.

 

      

 

      

 

     Daeth y cyfarfod i ben am 5.30 pm

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Y CYNGHORYDD W. J. WILLIAMS MBE

 

     CADEIRYDD