Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 19 Medi 2006

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Mawrth, 19eg Medi, 2006

CYFARFOD O GYNGOR SIR YNYS MON

 

Cofnodion y cyfarfod ar  19 Medi, 2006 (2.00 p.m.)  

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghroydd J. Rowlands (Cadeirydd)

Y Cynghorydd W.J. Williams MBE (Is-Gadeirydd)

 

Y Cynghorwyr Mrs. B. Burns OBE, J. Byast, W.J. Chorlton,

E.G. Davies, J.M. Davies, P.J. Dunning, J.A. Edwards, K. Evans,

C.Ll. Everett, P.M. Fowlie, D.R. Hadley, D.R. Hughes,

Fflur M. Hughes, R.Ll. Hughes, W.I. Hughes, A.M. Jones,

G.O. Jones, H.E. Jones, J.A. Jones, O.G. Jones, R.Ll. Jones,

D.A. Lewis Roberts, Bryan Owen, R.L. Owen, G.O. Parry MBE,

R.G. Parry OBE, G.A. Roberts, G. Winston Roberts OBE,

John Roberts, J. Arwel Roberts, W.T. Roberts, P.S. Rogers,

H.W. Thomas, K. Thomas, J. Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Pennaeth Gwasanaeth Tal Dynodedig,

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid),

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Yr Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol),

Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol),

Pennaeth Gwasanaeth (Datblygu Economaidd),

Pennaeth Gwasanaeth (Polisi),

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro,

Cyfreithiwr i’r Swyddog Monitoro (RMJ),

Swyddog Cyfathrebu,

Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgorau.

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr T.H. Jones, H. Noel Thomas, E. Schofield.

 

 

 

 

Agorwyd y cyfarfod gyd gweddi gan y Cynghorydd E.G. Davies.

 

1

DATGANIADAU O DDIDDORDEB

 

Gwnaeth y Cynghorydd K. Thomas ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei frawd yn yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Gwnaeth y Cynghorydd G.O. Parry MBE ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ddwy ferch yn yr Adran Gyllid.

 

Gwnaeth y Cynghorydd D.R. Hughes ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Awdurdod Addysg Lleol.

 

Gwnaeth y Cynghorydd O. Glyn Jones ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei wraig yn yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Gwnaeth y Cynghorydd C.L. Everett ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei chwaer yn yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol a hefyd yng nghyswllt ei waith fel Clerc i Gyngor Tref Caergybi.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd R.Ll. Hughes ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei fab yn yr Adran Briffyrdd.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd A. Morris Jones ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei frawd yn yr Adran Addysg a Hamdden.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd G. Allan Roberts ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei fab-yng-nghyfraith yn yr Adran Gyllid.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd G.W. Roberts OBE ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Gwasanaethau Amgylchedd.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorwyr W.J. Chorlton, J.M. Davies, C.L. Everett, J. Arthur Jones, G.O. Parry MBE, G. Allan Roberts; y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) ar Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgorau ddatganiad o ddiddordeb yn Eitem 11.2 o’r cofnodion hyn ac nid oeddynt yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod y trafod na’r pleidleisio ar yr eitem.

 

 

 

Cafwyd datganiadau o ddiddordeb gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro yn eitem 11.2 y cofnodion hyn ac nid oeddent yn y cyfarfod am y drafodaeth nac am y pleidleisio.

 

 

 

Gwnaeth y Cyfarwyddwyr Corfforaethol (Cyllid), (Addysg a Hamdden), (yr Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol) datganiad o ddiddordeb yn eitem 5 y cofnodion hyn ac nid oeddent yn bresennol am y drafodaeth nac am y pleidleisio.

 

 

 

2

DERBYN UNRHYW GYHOEDDIADAU GAN Y CADEIRYDD, YR ARWEINYDD, AELODAU’R PWYLLGOR GWAITH NEU BENNAETH Y GWASANAETH TAL

 

 

 

Llongyfarchwyd holl ddisgyblion yr Ynys a fu'n llwyddiannus yn yr haf yn eu hastudiaethau Level 'A'.

 

 

 

Llongyfarchwyd Ray Williams o Gaergybi - codwr pwysau nodedig ac un a enillodd y fedel aur yng Ngemau Cymanwlad 1986 yng Nghaeredin - roedd Ray newydd ennill cystadleuaeth codi pwysau trwy'r byd i ddynion rhwng 45 - 50 oed yn Bordeaux, Ffrainc.

 

 

 

Llongyfarchwyd clwb i rai dros 50 oed Ynys Môn a ddaeth ynghyd i seremoni wobrwyo gan y Cyngor Sir yr wythnos diwethaf.  Y clwb buddigol oedd y Clwb Moelfre ac enillodd Clwb y Cob, y Fali wobr am brosiect gorau'r flwyddyn am 'Y Gampfa Werdd' a oedd yn annog rhai dros 50 oed i gadw'n heini ac yn iach trwy arddio.

 

 

 

I Reolwr-gyfarwyddwr y Cyngor Sir Mr. Geraint Edwards rhoddwyd dymuniadau gorau'r Cyngor ar ei ymddeoliad wedi iddo ymuno â'r Cyngor Sir yn 1999, ar ôl cyfnod gyda Chyngor Bwrdeistref Darlington.  Bu'n weithiwr cydwybodol  i'r Cyngor ac i'r Ynys dros gyfnod o 7 mlynedd a dymunodd y Cadeirydd yn dda iawn iddo yn y dyfodol.

 

 

 

Ar ôl cyfnod o 30 mlynedd roedd Mr. William Jones yn ymddeol o'r Adran Addysg ar ôl iddo ymuno â hen Gyngor Sir Môn ar 1 Ionawr 1973 ac yfory oedd ei ddiwrnod olaf un yn y gwaith.

 

 

 

Wedyn soniodd y Cadeirydd am y fraint a gafodd yn cynrychioli'r Cyngor Sir yn angladd Syr Kyffin Williams ym Mangor yr wythnos diwethaf.  Heb amheuaeth roedd Ynys Môn a Chymru wedi colli artist athroligar ac yn awr roedd pawb yn edrych ymlaen at sefydlu Oriel Syr Kyffin Williams yn Oriel Môn fel teyrnged addas iddo.

 

 

 

Trist iawn oedd clywed am ddau frawd bach a fu farw mewn tân yn ddiweddar yn Llanfaethlu a chydymdeimlwyd ar ran y Cyngor gyda theulu Konnor a Kyal Owen.

 

 

 

Cydymdeimlodd hefyd gyda'r staff a'r Cynghorwyr a gollodd aelodau o'r teulu yn ddiweddar.  Safodd yr aelodau a'r swyddogion mewn distawrwydd fel arwydd o barch.

 

 

 

Gyda chaniatâd y Cadeirydd cyfeiriodd y Cynghorydd G. O. Parry MBE at farwolaeth Kenneth Griffith - un â chysylltiadau cryf yn y byd ffilmiau gyda Huw Griffiths a oedd yn enedigol o'r ardal.

 

 

 

Yma achubodd y Cynghorydd A. Morris Jones ar y cyfle i longyfarch Clwb Ieuenctid Pen-sarn ar ennill dyfarniad Prydeinig am ei waith da.

 

 

 

Llongyfarch yr Adran Gynllunio a wnaeth y Cynghorydd H. W. Thomas ar eu llwyddiant yn y llys yn ddiweddar gydag achos Maes Carafannau Glanaber, Amlwch.

 

 

 

3

COFNODION

 

 

 

Cyflwynwyd i’w cadarnhau a’u harwyddo gofnodion y cyfarfodydd o'r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol :-

 

 

 

Ÿ

2 Mai, 2006 (Tudalennau 1 - 7 o’r Gyfrol hon)

 

Ÿ

2 Mai, 2006 (Cyfarfod Blynyddol) (Tudalennau 8 i 11 o’r Gyfrol hon)

 

Ÿ

13 Gorffennaf, 2006 (Arbennig) (Tudalennau 12 i 16 o’r Gyfrol hon)

 

Ÿ

21 Gorffennaf, 2006 (Arbennig) (Tudalennau 17 i 18 o’r Gyfrol hon)

 

Ÿ

11 Awst, 2006 (Arbennig) (Tudalennau 19 i 20 o’r Gyfrol hon)

 

 

 

Holodd y Cynghorydd P. M. Fowlie ynghylch arweiniad y Cadeirydd yn gynharach yn y dydd nad oedd yn fodlon cymryd cwestiynau ar gofnodion y Cyngor Sir onid oedd y cwestiynau yn ymwneud â chywirdeb.  Gofynnodd i'r Cadeirydd pa bryd y câi'r Aelodau gyfle i ofyn cwestiynau neu gyflwyno sylwadau ar y cofnodion ?

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Cadeirydd mai mater i'r Aelodau oedd ysgrifennu ato petaent yn dymuno codi cwestiynau yn y Cyngor.

 

 

 

Ond holodd y Cynghorydd A. M. Jones pam fod y system wedi ei newid, gan mai hon oedd y fforwm ddemocrataidd i'r Aelodau godi cwestiynau yn y Cyngor.  Onid oedd y partïon gwrthbleidiol yn cael cyfle i ofyn cwestiynau pa bwrpas oedd iddynt fynychu'r cyfarfod o gwbl ?  Yr hen arfer oedd caniatáu i Aelodau ofyn cwestiynau yn y Cyngor hwn ac onid oedd, felly, yn cael gwared o ddemocratiaeth ?

 

 

 

Yn ei ymateb dywedodd y Cadeirydd mai'r unig beth yr oedd ef yn ei wneud oedd glynu wrth y rheolau yng Nghyfansoddiad y Cyngor.

 

 

 

4

COFNODION PWYLLGORAU

 

 

 

Cyflwyno, er gwybodaeth, ac i gymeradwyo’r argymhellion lle mae angen, gofnodion y cyfarfodydd o’r Pwyllgorau isod ar y dyddiadau a nodir :-

 

 

 

Tudalennau

 

 

 

4.1

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION                              21 - 38

 

a gynhaliwyd ar 5 Ebrill, 2006

 

 

 

4.2

PWYLLGOR PENODI                                                 39

 

a gynhaliwyd ar 26 Ebrill, 2006

 

 

 

4.3

PWYLLGOR ARCHWILIO                                        40 - 46

 

a gynhaliwyd ar 27 Ebrill, 2006

 

 

 

 

 

4.4

PRIF BWYLLGOR SGRIWTINI                                        47 - 49

 

a gynhaliwyd ar 2 Mai, 2006

 

 

 

4.5

PRIF BWLLGOR SGRIWTINI (ARBENNIG)                                   50

 

a gynhaliwyd ar 2 Mai, 2006

 

 

 

4.6

PWYLLGOR TROSOLWG POLISI ADDYSG, IECHYD A LLES                         51    

 

(ARBENNIG) a gynhaliwyd ar 2 Mai, 2006

 

 

 

4.7

PWYLLGOR TROSOLWG POLISI DATBLYGU GWASANAETHAU                    52

 

SYLFAENOL AC ADNODDAU (ARBENNIG) a gynhaliwyd ar 2 Mai, 2006

 

 

 

4.8

PWYLLGOR TRWYDDEDU (ARBENNIG)                                               53

 

a gynhaliwyd ar 2 Mai, 2006

 

 

 

Yma nododd y Cynghorydd R. L. Owen bod y cofnodion yn dangos ei bresenoldeb ond heb ddangos ei fod wedi pleidleisio i'r Cynghorydd O. Glyn Jones pan dderbyniwyd dau enw am swydd Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

 

 

Hefyd nododd y Cynghorydd J. Arthur Jones fod enw'r Cynghorydd A. Morris Jones wedi'i gynnwys trwy amryfusedd yn rhestr o'r aelodau a bleidleisiodd i'r Cynghorydd O. Glyn Jones ac y dylid newid y cofnodion i gynnwys enw'r Cynghorydd R. L. Owen.

 

 

 

4.9

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION (ARBENNIG)                         54

 

a gynhaliwyd ar 2 Mai, 2006

 

 

 

4.10

PWYLLGOR ARCHWILIO (ARBENNIG)                                    55

 

a gynhaliwyd ar 2 Mai, 2006

 

 

 

 

 

4.11

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION                                56 - 71

 

a gynhaliwyd ar 3 Mai, 2006

 

 

 

4.12

PWYLLGOR PENODI                                              72 - 73

 

a gynhaliwyd ar 8 Mai, 2006

 

 

 

4.13

PWYLLGOR TRWYDDEDU                                         74 - 75

 

a gynhaliwyd ar 9 Mai, 2006

 

 

 

4.14

PWYLLGOR TROSOLWG POLISI DATBLYGU GWASANAETHAU                76 - 80

 

SYLFAENOL AC ADNODDAU a gynhaliwyd ar 24 Mai, 2006

 

 

 

4.15

PWYLLGOR TROSOLWG POLISI ADDYSG, IECHYD A LLES                     81 - 87

 

a gynhaliwyd ar 5 Mehefin, 2006

 

 

 

4.16

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION                               88 - 102

 

a gynhaliwyd ar 7 Mehefin, 2006

 

 

 

4.17

PWYLLGOR PENODI                                            103 - 104

 

a gynhaliwyd ar 8 Mehefin, 2006

 

 

 

4.18

PWYLLGOR TROSOLWG, POLISI DATBLYGU GWASANAETHAU              105 - 108

 

SYLFAENOL AC ADNODDAU (ARBENNIG) a gynhaliwyd ar 8 Mehefin, 2006

 

 

 

Yn codi :-

 

 

 

Eitem 4 - Cynllun Datblygu Lleol

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd R. G. Parry OBE nad oedd y tri Grwp gwrthbleidiol wedi mynychu cyfarfodydd y Panel Cynllun Datblygu Lleol a bod hynny wedi arwain at gwynion.  Nid oeddent yn mynychu oherwydd problemau y tu mewn i'r Awdurdod a gofynnodd i Arweinydd y Cyngor adolygu aelodaeth y Panel ac yn enwedig yn dilyn y rhaglen ar y teledu y noson cynt.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Cadeirydd câi ei gais ei nodi yn y cofnodion.

 

 

 

4.19

CYSAG a gynhaliwyd ar 12 Mehefin, 2006                             109 - 115

 

 

 

4.20

PWYLLGOR PENODI                                             116 - 117

 

a gynhaliwyd ar 12 Mehefin, 2006

 

 

 

4.21

PWYLLGOR TROSOLWG POLISI ADDYSG, IECHYD A LLES                   118 - 123

 

a gynhaliwyd ar 15 Mehefin, 2006

 

 

 

4.22

PWYLLGOR PENODI                                                   124

 

a gynhaliwyd ar 21 Mehefin, 2006

 

 

 

 

 

4.23

CYD-BWYLLGOR AAA                                            125 - 128

 

a gynhaliwyd ar 23 Mehefin, 2006

 

 

 

Yn codi :-

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd John Roberts i'r Cyngor ysgrifennu at Mr. Richard Coupe, a oedd yn Uwch Seicolegydd Addysg, ac a ymddeolodd y mis diwethaf.  Talodd deurnged iddo am ei wasanaethau i Anghenion Addysg Arbennig am dros ei yrfa ac ar ran y Cyngor gofynnodd i'r Cadeirydd ysgrifennu at Mr. Coupe.

 

      

 

     Penderfynwyd cytuno i'r cais.

 

      

 

4.24     CYD-BWYLLGOR AAA (ARBENNIG)                                      129

 

     a gynhaliwyd ar 23 Mehefin, 2006

 

      

 

4.25     PRIF BWYLLGOR SGRIWTINI                                    130 - 133

 

     a gynhaliwyd ar 27 Mehefin, 2006

 

      

 

     Eitem 3 - Trwyddedu Marchnadoedd ac Arwerthiannau Cist Car

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd G. O. Parry MBE iddo ddwyn sylw, yn y cyfarfod uchod, at drwyddedu marchnadoedd ac arwerthiannau cist car.  Roedd tri mis wedi mynd heibio a gofynnodd am adroddiad ar y sefyllfa ddiweddaraf i'r Deilydd Portffolio.

 

      

 

     Mewn ymateb addawodd y Cadeirydd y câi'r Cynghorydd Parry ateb ysgrifenedig.

 

 

 

     Yn Codi :-

 

      

 

     Eitem 5 - Eitem Ychwanegol a gyflwynwyd dan reol 4.5.9.1 y Cyfansoddiad

 

      

 

     Dygodd y Cynghorydd Aled Morris Jones sylw'r Cyngor at ail baragraff yr eitem ac awgrymodd bod angen diwygio'r geiriau 'swyddog allweddol' i 'Uwch Swyddog Iechyd a Diogelwch'.

 

 

 

     Penderfynwyd cytuno i’r newid.

 

      

 

4.26     PWYLLGOR TROSOLWG POLISI ADDYSG, IECHYD A LLES (ARBENNIG)         134 - 138

 

     a gynhaliwyd ar 27 Mehefin, 2006

 

      

 

4.27     PWYLLGOR ARCHWILIO                                       139 - 143

 

     a gynhaliwyd ar 29 Mehefin, 2006

 

      

 

4.28     PWYLLGOR TROSOLWG POLISI DATBLYGU GWASANAETHAU              144 - 147

 

     SYLFAENOL AC ADNODDAU (ARBENNIG) a gynhaliwyd ar 29 Mehefin, 2006

 

      

 

4.29     PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION                             148 - 166

 

     a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf, 2006

 

      

 

4.30     PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION                             167 - 183

 

     a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf, 2006

 

      

 

4.31     PWYLLGOR ARCHWILIO                                               184 - 187

 

     a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf, 2006

 

      

 

4.32     CYD-BWYLLGOR AAA (ARBENNIG)                                        188

 

     a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf, 2006

 

      

 

4.33     PWYLLGOR PENODI                                                   189

 

     a gynhaliwyd ar 8 Awst, 2006

 

      

 

4.34     PRIF BWYLLGOR SGRIWTINI                                     190 - 191

 

     a gynhaliwyd ar 31 Awst, 2006

 

      

 

     Ar yr adeg benodol hon gofynnodd y Cynghorydd R. Ll. Jones gwestiwn ynghylch cyfarwyddyd cynharach yn y cyfarfod gan y Cadeirydd a fuasai, dan reolau'r Cyfansoddiad, yn derbyn cwestiynau o'r llawr ynghylch Cofnodion y Gyfrol.  Ond daliai'r Cynghorydd Jones bod yr hawl hon yn bod dan Reol 4.1.12.1 y Cyfansoddiad.  Mewn ymateb cyfeiriodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro at dudalen 102, paragraff 4.1.19.1 Cyfansoddiad y Cyngor, lle'r roedd darpariaeth glir yn dangos mai'r unig agwedd o'r cofnodion y gellid eu trafod oedd cywirdeb ac nad oedd modd gwneud cynnig na thrafod y cofnodion onid oedd hynny'n cael ei wneud yn seiliedig ar gywirdeb.

 

      

 

     Yna cyfeiriodd yr aelodau at baragraff 4.1.12.2 ar dudalen 94 'Cwestiynau y rhoddir Rhybudd yn eu cylch yn y Cyngor Llawn' ac y gellid gofyn cwestiynau ar unrhyw bwnc ac roedd cyfres o gwestiynau o'r fath yn ymddangos dan eitem 12 y rhaglen.  Hefyd cyfeiriwyd at baragraff 4.1.12.1 lle mae darpariaeth i ofyn am gwestiynau ar adroddiadau y Pwyllgor Gwaith neu adroddiadau pwyllgorau.

 

      

 

     Dehongliad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro oedd bod yma ddarpariaeth yn ymwneud ag adroddiadau dan eitem 5 ymlaen dan y rhaglen hon ac nad oedd hyn yn ymwneud â'r cofnodion - roedd y paragraff arall yn ymwneud â'r rheini.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd R. Ll. Jones mai dehongliad Swyddog Cyfreithiol oedd hwn a bod dehongliadau eraill yn bosib.  Ni chredai ef bod ysbryd y gyfraith yn cael ei gadw er budd aelodau'r Cyngor.  Roedd darpariaeth o'r fath yn rhwystro trafodaeth a chredai ef fod hyn yn gam yn ôl.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd A. M. Jones am i'r cyngor a roddwyd heddiw gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro gael ei anfon yn ysgrifenedig at yr holl Gynghorwyr cyn gynted ag y bo'n bosib.

 

      

 

     Roedd Pennaeth y Gwasanaeth Tâl dynodedig yn cydnabod fod y pwnc yn un pur gymhleth ar ôl i'r Cyngor foderneiddio yn 2001 a mabwysiadu Cyfansoddiad newydd.  Dan y Cyfansoddiad hwnnw cafodd yr aelodau gyfle, mewn Pwyllgorau, i ofyn cwestiynau ac ychydig yn unig o faterion a ddaeth o'r Pwyllgorau hynny i'r Cyngor llawn eu hystyried neu eu mabwysiadu.  O ran y Pwyllgor Gwaith roedd gweithdrefn yn ei lle i alw penderfyniadau i mewn os oedd angen trafodaeth arnynt a hefyd roedd cyfle i Gynghorwyr gyflwyno cwestiynau ysgrifenedig ymlaen llaw sydd wedyn yn cael eu rhestru ar y rhaglen.  

 

      

 

     Er gwybodaeth yr oedd yr holl gofnodion yn cael eu cyflwyno yng nghyfrol y Cyngor a dyna oedd yn achosi'r cymhlethdod.  Nid oedd rhaid eu cynnwys yng nghyfrol y Cyngor ond maent yno i sicrhau bod yr holl aelodau yn cael darlun llawn.  Roedd modd anfon y cofnodion at aelodau yn becynnau ar wahân ac er gwybodaeth yn unig.  Ar ôl moderneiddio'r llywodraeth leol roedd y drefn yn wahanol i'r un draddodiadol a fodolai hyd at 2001 - pryd y cafwyd trefn newydd i hwyluso busnes y Cyngor, i gyflymu pethau a hefyd i sicrhau eglurder.

 

      

 

     Cytunodd y dylai'r Swyddog Monitro gyflwyno i'r holl aelodau gopi o'r cyngor a roddwyd heddiw yng nghyfarfod y Cyngor llawn.  Os oedd yr aelodau yn dal i fod yn anhapus roedd modd cynnal trafodaethau trwy gyfrwng y Panel Moderneiddio - Panel yn cynnwys croesdoriad o'r Grwpiau Gwleidyddol.  Ond heddiw roedd yn rhaid i'r Cyngor cydymffurfio gyda'r rheolau roedd ef ei hun wedi eu mabwysiadu dan y Cyfansoddiad presennol.

 

      

 

     Cytuno a wnaeth Arweinydd y Cyngor y dylai'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol/ Swyddog Monitro anfon llythyr o eglurhad at yr holl aelodau a chytunodd hefyd fod angen adolygu'r Cyfansoddiad a fabwysiadwyd gyntaf yn 2001.

 

      

 

 

 

4.35     PWYLLGOR GWAITH a gynhaliwyd ar y dyddiadau a ganlyn :-

 

      

 

4.35.1     ......       24 Ebrill, 2006                                          192 - 206

 

      

 

4.35.2            22 May, 2006                                   207 - 211

 

      

 

4.35.3           5 Mehefin, 2006                                   212 - 215

 

      

 

4.35.4            26 Mehefin, 2006                                   216 - 226

 

      

 

4.35.5            10 Gorffennaf, 2006                                   227 - 228

 

      

 

4.35.6            24 Gorffennaf, 2006                                   229 - 235

 

      

 

      

 

4.36     PWYLLGOR GWAITH                                        236 - 239

 

     a gynhaliwyd ar 31 Gorffennaf, 2006

 

      

 

4.37     PWYLLGOR PENODI                                        240 - 241

 

     a gynhaliwyd ar 19 Ebrill, 2006

 

      

 

5

SWYDD Y RHEOLWR-GYFARWYDDWR - TREFNIADAU DROS DRO

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) - yn dilyn ymddeoliad Mr. Geraint Edwards ar 31 Awst, 2006, ac yn wyneb y ffaith na fydd Mr. Derrick Jones ei olynydd yn dechrau ar ei ddyletswyddau fel Rheolwr Gyfarwyddwr newydd y Cyngor tan fis Tachwedd, mae’n ofynnol gwneud trefniadau i ymgymryd â gwaith dydd i ddydd y Rheolwr Gyfarwyddwr yn y cyfnod interim.

 

      

 

      

 

     Yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, mae’n ofynnol i’r Cyngor Sir ddynodi un o’r uwch Swyddogion yn Bennaeth Gwasanethau Tâl yr Awdurdod.  Yn dilyn ymgynghori gyda’r Cyfarwyddwyr Corfforaethol ac arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol y Cyngor, mae Mr. Richard Parry Jones, Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden), yn amodol i benderfyniad y Cyngor Sir, wedi cytuno i gyflawni’r swyddogaeth hon hyd nes y bydd y Rheolwr Gyfarwyddwr newydd yn cychwyn ar ei waith gyda’r awdurdod.

 

      

 

     Dylai’r Cyngor Sir nodi bod raid tybio, wrth wneud y trefniadau arfaethedig, y bydd dyletswyddau a chyfrifoldebau ychwanegol, er bod hynny am gyfnod byr yn unig, a bydd raid rhoi sylw i gydnabod yn ffurfiol y dyletswyddau a’r cyfrifoldebau ychwanegol hynny.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gymeradwyo’r trefniadau interim i gyflenwi dyletswyddau swydd y Rheolwr Gyfarwyddwr fel a amlinellir yn yr adroddiad.

 

      

 

6     PWYLLGORAU SGRIWTINI/TROSOLWG - ADRODDIAD BLYNYDDOL 2005/2006

 

      

 

     Dywedodd Cadeirydd y Prif Bwyllgor Sgriwtini - dant erthygl 6 Cyfansoddiad y Cyngor mae’n rhaid cyflwyno adroddiad blynyddol i’r Cyngor ar waith y Pwyllgorau Trosolwg a Sgriwtini.  Mae Adroddiad Blynyddol 2005/2006 yn ymwneud â’r cyfnod rhwng cyfarfodydd blynyddol y Cyngor ar 3 Mai 2005 a 2 Mai 2006.

 

      

 

     Paratowyd yr adroddiad mewn cydweithrediad gyda Chadeiryddion ac Is-Gadeiryddion y Pwyllgorau Trosolwg a Sgriwtini.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo cynnwys Adroddiad Blynyddol 2005/2006 y Pwyllgorau Trosolwg a Sgriwtini.

 

      

 

7     CYNLLUN GWELLA

 

      

 

     Penderfynodd y Prif Bwyllgor Sgriwtini ar 31 Awst, 2006 fel a ganlyn :-

 

      

 

Ÿ

“ Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r Trywyddau Gwella fel y cânt eu cynnwys yn Atodiad 2 yr

 

adroddiad;

 

Ÿ

Bod y Pwyllgor Gwaith yn ystyried y cynnig i ddwyn ymlaen yr amserlen ar gyfer cwblhau’r  Strategaeth hamdden erbyn Tachwedd 2006;

 

Ÿ

Gofyn i’r Pwyllgor Gwaith wneud penderfyniad mor fuan ag sy’n bosib ynghylch Gemau’r Ynysoedd a gynhelir yn 2013.”

 

      

 

     Er bod systemau cyllidol wedi cale eu hadnabod yn y lle cyntaf fel risg uchel, aeth y sgôr i lawr o ganlyniad i adolygiad pellach o’r fethodoleg a ddefnyddiwyd ac o’r herwydd, cadarnhawyd gan y Rheoleiddwyr bod y risg yn is.  O ganlyniad, daethpwyd i gytundeb bod yna pedwar yn hytrach na pump o feysydd yn peri’r risg uchaf, sef :-

 

      

 

Ÿ

TGCh

 

Ÿ

Ysgolion - Mynediad

 

Ÿ

Gwasanaethau Hamdden

 

Ÿ

Rheoli Gwastraff

 

      

 

     O ran y Gwasanaethau Cymdeithasol, ni ddaeth y broses Asesu Risg ag unrhyw faterion penodol i’r amlwg a oedd yn haeddu cael eu cynnwys ymysg y risgiau uchaf.  Roedd y Rheoleiddwyr wedi cadarnhau ei bod yn rhesymol disgwyl am ganlyniadau’r Adolygiad ar y Cyd cyn dod i gasgliadau.  Roedd y Cynllun Gwella drafft yn cynnwys cyfeiriad at yr Adolygiad ar y Cyd a’r angen i baratoi cynllun gweithredu o ganlyniad i hyn.

 

      

 

     Yn y cyfarfod Asesu Risg ar y Cyd, gofynnodd y Rheoleiddwyr i’r Cyngor ystyried ychwanegu “Datblygu Economaidd, Afywio a Thwristiaeth” at y categori risg uchaf, oherwydd yr effeithiau o bosib a gâi ffactorau allanol gan gynnwys digomisiynu Wylfa a’r posibilrwydd y byddai Alwminiwm Môn yn cau.  Er na ddaeth Datblygu Economaidd allan fel un o’r risgiau uchaf yn y broses asesu risg, roedd y Cyngor, gan fod canllawiau Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella yn canolbwyntio ar risgiau i’r awdurdod, yn cydnabod difrifoldeb y sialensau sy’n wynebu economi Ynys Môn.  Roedd hwn yn fater tymor hir a oedd o bwys i’r ardal gyfan ac yn flaenoriaeth uchel i’r Cyngor.  Dygodd y Cynllun Gwella sylw at y mater hwn ac amlinellwyd ynddo y camau yr oedd y Cyngor yn bwriadu eu cymryd.

 

      

 

     Cafwyd cytundeb cyffredinol o ran y risgiau corfforaethol sy’n croestorri sef :-

 

      

 

Ÿ

Rheoli Asedau a Rheoli Prosiectau Cyfalaf

 

Ÿ

Arfarnu Swyddi

 

Ÿ

Materion AD

 

Ÿ

Rheoli Perfformiad

 

Ÿ

Colli Adnoddau

 

      

 

     Cafodd copi o’r Cynllun Gwella drafft ar gyfer 2006/2007 ei gylchredeg ar achlysur o'r blaen ymhlith holl aelodau'r Cyngor fel rhan o adroddiad i'r Pwyllgor Gwaith ar 11 Medi, 2006.  Roedd y gwaith yn dal i fynd yn ei flaen ar gwblhau'r Cynllun ac roedd ambell fwlch yn y fersiwn ddrafft ond roedd yr Archwiliad ar Gynllun 2005/06 wedi bod o gymorth.

 

      

 

     Fel rhan o’r Fframwaith Rheoli Perfformiad, byddai Rhaglenni Gwaith yn cael eu monitro yn y lle cyntaf gan y Panel Rheoli Perfformiad a byddai’r Pwyllgor Gwaith yn cael adroddiad arnynt.

 

      

 

     Yn unol â’r Cyfansoddiad, y Cyngor Sir oedd yn gyfrifol am fabwysiadu’r cynllun a byddai angen iddo ystyried argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo y penderfyniadau canlynol a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith ar 11 Medi, 2006 :-

 

      

 

Ÿ

Nodi argymhellion y Prif Bwyllgor Sgriwtini a gyfarfu ar 31 Awst 2006 a diolch iddynt am eu gwaith yn hyn o beth a chadrnhau y dylid glynu wrth yr amserlen wreiddiol ar gyfer cwblhau’r Strategaeth Hamdden.

 

 

 

Ÿ

Nodi’r sefyllfa gyfredol o ran paratoi’r cynllun ar ei ffurf derfynol.

 

 

 

Ÿ

Bod y trywyddau Gwasanaeth a Gwella mewn perthynas â risgiau gwasanaeth a chorfforaethol yn cael eu derbyn a’u mabwysiadu gan y Cyngor Sir (cyfeiria Atodiad 11 yr adroddiad drafft at hyn).

 

 

 

Ÿ

Bod y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) mewn ymgynghoriad gyda’r Arweinydd a’r Aelod Portffolio ar gyfer Polisi, Perfformiad a Staff yn cael yr awdurdod i gwblhau’r adroddiad ar ei ffurf derfynol erbyn 31 Hydref, 2006 ar yr hwyraf.

 

 

 

8     ADRODDIAD BLYNYDDOL AR REOLI TRYSORLYS 2005/2006

 

      

 

     Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) ar y gweithgareddau Rheoli Trysorlys i bwrpas monitro fel sy’n angenrheidiol dan y Codau Ymarfer.

 

      

 

     Yn yr adroddiad cafwyd manylion am y materion a ganlyn       :-

 

      

 

Ÿ

Portffolio Cyfredol

 

Ÿ

Trafodion Bethyca a’r Perfformiad yn erbyn y Strategaeth

 

Ÿ

Gweithgaredd ad-drefnu dyled

 

Ÿ

Gweithgaredd Buddsoddi

 

Ÿ

Allanoli benthyciadau a buddsoddiadau

 

Ÿ

Cydymffurfio a pholisiau a therfynau.  Mae’r Cyngor y tu mewn i derfynau’r Trysorlys a’r Dangosyddion Pwyllog  sy’n ymddangos yn Natganiad Polisi Trysorlys y Cyngor. Cafwyd adroddiad ar ddau achos o dorri yr uchafsymiau buddsoddi ond nid oedd raid cymryd camau pellach.

 

 

 

     Roedd y strategaeth y cytunwyd arni i 2006/2007 yn seiliedig ar y dybiaeth y buasai’r benthyca allanol rhyw £3.7m yn fwy na’r Gofynion Cyllido Cyfalaf ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf.  Roedd y benthyca gwirioneddol fel a ddisgwyliwyd ond roedd y gofynion Cyllido Cyfalaf yn £6.7m yn llai na’r disgwyl oherwydd penderfyniadau cyllidol a wnaed ar ddiwedd y flwyddyn.  Yr effaith yw lleihau’r hyn a godwyd ar refeniw yn 2006/2007.

 

      

 

     Mae lefel y benthyca yn golygu y dylai’r portffolio aros yn ddigon diogel y tu mewn i’r terfynau cydnabyddedig.  Nid oes, ar hyn o bryd, unrhyw reswm i gynnig unrhyw newidiadau i Derfynau’r Trysorlys.  Nid oedd aildrefnu yn ddatblygiad deniadol y llynedd ond mae’n dal i fod yn opsiwn pan fo amgylchiadau’r farchnad yn ffafriol.  Gwnaed rhai trafodion eleni.

 

      

 

     Cafodd y cynnydd na ragwelwyd yn y graddfeydd sail yn gynnar yn Awst eleni ddylanwad cymysg ar y cynlluniau ariannol.  Bellech mae’r buddsoddiadau tymor hir sydd gennym yn cynnig barged salach nag a ragwelwyd, ond mae’r sgôp yng nghyswllt buddsoddiadau heb eu hymrwymo, a hefyd y cyfraddau isel a gafwyd ar fenthyciadau wrth ragweld yr anghenion cyfredol a rhai’r dyfodol, yn debygol o wneud iawn am yr anhawster hwn.  Cyflwynir adroddiad ar yr effeithiau i’r Pwyllgor Gwaith yn yr adroddiadau chwarterol ar y gyllideb refeniw.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r bwriad i barhau i ad-drefnu’r portffolio dyled pan fydd y farchnad yn ffafriol.

 

      

 

9     TAITH CONTRACT BWS 53J - BANGOR I FIWMARES

 

      

 

     Cyflwynwyd er gwybodaeth - Adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd a Trafnidiaeth)  ar gefndir y penderfyniad a wnaeth y Deilydd Portffolio Priffyrdd, Cludiant ac Eiddo yn dyfarnu contract gwasanaeth bysus fel mater o frys dan Baragraff 4.5.16.10 Cyfansoddiad y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi a chymeradwyo cynnwys yr adroddiad.

 

      

 

10     REFFERENDWM I GADW CAMLESI A DYFRFFYRDD MEWN PERTHNOGAETH CYHOEDDUS

 

      

 

     Cyflwynwyd - llythyr gan Ysgrifennydd Plaid Lafur Etholaeth Islwyn dyddiedig 13 Gorffennaf, 2006 yn gofyn am gefnogaeth y Cyngor hwn i gadw camlesi a dyfrffydd mewn perthnogaeth cyhoeddus.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cefnogi’r ymgyrch ond mynegu siomedigaeth y Cyngor hwn i Plaid Lafur Islwyn fod y llythyr yn uniaith Saesneg.

 

      

 

11     NEWIDIADAU I GYFANSODDIAD Y CYNGOR

 

      

 

11.1     TYSYSTGRIFAU DEFNYDD CYFREITHLON

 

      

 

     Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Yr Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol) - Bod Cyfansoddiad y Cyngor yn caniatau i swyddogion benderfynu ar geisiadau datblygu dan y Ddeddf Gynllunio a Deddfau eraill dan Adran 3.5.3.15.  Roedd y Cyfansoddiad hefyd yn rhoddi manylion am eithriadau - gyda’r rheini roedd rhaid cyflwyno ciesiadau penodol i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion eu trafod a chafwyd manylion am y rheini yn 3.5.3.15(5)(i) i (vi) y Cyfansoddiad.

 

      

 

     Nid oedd y ceisiadau a gyflwynwyd dan Adrannau 191 ac 192 y Ddeddf Gynllunio, rhai sy’n cael eu hadnabod yn gyffredin fel ‘Tystysgrifau Datblygiad Cyfreithlon’, yn geisiadau cynllunio fel y cyfryw ac nid yn ôl yr ystyriaethau cynllunio perthnasol ac arferol y gwnaed penderfyniad arnynt ond yn ôl yr ystyriaethau cynllunio perthnasol ac arferol y gwnaed penderfyniad arnynt ond yn ôl egwyddorion y gyfraith a ffeithiau a gyflwynwyd o blaid y cais.  Daeth hi’n amlwg nad oedd ceisiadau o’r fauth yn cydymffurfio gyda’r eithriadau y cyfeiriwyd atynt uchod a doedd dim modd o symud y penderfyniad ar rai o’r tystysgrifau hyn i fyny i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion lle ‘roedd ceisiadau’n cael eu cyflwyno gan aelodau, uwch swyddogion neu swyddogion a oedd yn rhan o’r broses gynllunio neu berthnasau agos iddynt.

 

     Roedd yr eithriadau y cyfeiriwyd atynt uchod wedi’u cynnwys yn y Cyfansoddiad i sicrhau tryloywder y broses gwneud penderfyniadau.  Roedd hyn yn arbennig o berthnasol pan roddwyd caniatâd i geisiadau cynllunio ar ôl dehongli polisi yn hytrach na gwneud hynny yn seiliedig ar ‘ffeithiau gyda thystiolaeth’ yn gefn iddynt.

 

      

 

     PENDERFYNWYD er budd tryloywder yn y broses gwneud penderfyniadau, y dylid defnyddio’r eithriad y manylir arno dan 3.5.3.15(5)(vi) yr adroddiad i’r Pwyllgor yn achos ceisiadau Tystysgrifau Datblygiad Cyfreithlon ac argymell i’r Cyngor Sir bod y Cyfansoddiad yn cael ei ddiwygio fel bod hyn yn bosib.

 

      

 

1.1

RHEOLAU SEFYDLOG

 

      

 

     Dywedodd y Cyfreithiwr i’r Swyddog Monitro - Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi gwneud rheoliadau sydd yn ei gwneud hi’n ofynnol i Awdurdodau Lleol ymgorffori darpariaethau penodol yn eu rheolau sefydlog ac sydd wedi’u trefnu yn y rheoliadau, Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydolog) (Cymru) 2006 yr oedd copi ohonynt ynghlwm fel Atodiad 1 yr adroddiad.

 

      

 

     Roedd y rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i Gyngor fabwysiadu’r rheoliadau hyn yn ei gyfarfod arferol cyntaf yn syth wedi i’r rheoliadau ddod i rym ar 3 Gorffennaf.  Cynhelir Cyfarfod Arferol Cyntaf y Cyngor ar 19 Medi ac o’r herwydd, roedd raid i’r Cyngor ymgorffori’r darpariaethau hyn yn y cyfarfod hwnnw.

 

      

 

     Roedd y darpariaethau yn y rheoliadau yn perthyn yn bennaf i gyflogaeth a phrosesau disgyblu ond roedd rhai newidiadau trefniadol llai hefyd.  Roedd llawer o’r darpariaethau hyn wedi cael eu hymgorffori’n barod yn Rheolau Sefydlog y Cyngor yn y cyfnod cyn derbyn y Rheoliadau hirddisgwyliedig ac o’r herwydd ni fyddai’r effaith mor ddramatig.  Roedd eisoes yn y Cyfansoddiad ym Mharagraff 4.10 (tudalen 195) Reolau Gweithdrefn Cefnogi Swyddogion.  Argymhellwyd bod y rheolau a oedd yn ymddangos yn Atodiad 2 yr adroddiad hwn, yn disodli’r rhai blaenorol a bod yn rheini’n cael eu hymgorffori yng Nghyfansoddiad y Cyngor.

 

      

 

     Roedd y newidiadau fel a ganlyn :-

 

      

 

     (a) Mae’r rheoliadau yn sefydlu’r rheolau i’r camau sydd i’w cymryd i benodi prif swyddog, pan fo ceisiadau o’r tu allan yn cael eu gwadd. (4.10.2.4 a 4.10.2.5).  Mae’r rhain yn debyg iawn i reolau presennol y Cyngor.

 

      

 

     (b) Ar hyn o bryd rhaid i o leiaf un aelod o’r Pwyllgor Penodi (3.4.9) fod yn Aelod o’r Pwyllgor Gwaith (4.10.3) ond yn awr ni chaniateir i fwy na hanner Aelodau y Pwyllgor Penodi fod yn Aelodau o’r Pwyllgor Gwaith.  Felly bydd rhaid newid 2.4.9 a 4.10.3.

 

      

 

     (c) Bydd disgyblu neu ddiswyddo Pennaeth Gwasanaeth Taledig, Prif Swyddog Cyllid neu Swyddog Monitor yn gorfod dilyn proses sydd yn cynnwys pwyllgor ymchwilio â chydbwysedd gwleidyddol yn cael ei ddilyn gan adroddiad gan berson annibynnol dynodedig.  Mae argymhellion y person annibynnol dynodedig yn gorfod cael eu hystyried gan y Cygnor wrth benderfynu ar y mater.  Mae diswyddiad Pennaeth Gwasanaeth Taledig yn gorfod cael ei gymeradwyo gan y Cyngor llawn.

 

      

 

     Er bod y Cyngor eisoes wedi penderfynu gwneud penodiadau ei hun (neu trwy Bwyllgor Penodi) yng nghyswllt Cyfarwyddwyr Corfforaethol a Pehnaethiaid Gwasanaeth dynodedig, roedd yr holl swyddi oedd o dan y rhai hynny yn gorfod cael eu penodi iddynt gan Bennaeth Taledig neu Swyddog a benodwyd gan Bennaeth y Gwasanaeth Taledig.  Daw’r newidiadau hyn i rym ar unwaith.

 

      

 

     PENDERFYNWYD :-

 

      

 

Ÿ

Nodi’r adroddiad oherwydd fod y rhain yn ofynion statudol;

 

 

 

Ÿ

Bod y rheolau Gweithdrefn Penodi Swyddogion diwygiedig yn 4.10 yn cael eu hymgorffori yn Rheolau Gweithdrefn y Cyngor i ddod i rym ar unwaith.

 

 

 

Ÿ

Bod manylion y Pwyllgor Penodi yn 3.4.9 yn cael eu diwygio.

 

      

 

12

CWESTIYNAU A DDERBYNIWYD YN UNOL A RHEOL 4.1.12.4

 

      

 

12.1     Gofynnwyd  y cwestiynnau canlynol gan y Cynghorydd P.S. Rogers :-

 

      

 

1.     I’r Cynghorydd G.W. Roberts OBE - Arweinydd y Cyngor : “Mae’r cwestiwn hyn yn dilyn yr ymholiadau blaenorol ynghyn â’ch methiant i ymateb i ohebiaeth o fewn cyfnod o amser derbyniol.  Roedd fy llythyr diwethaf i chwi wedi’i ddyddio 26 Gorffennaf; roedd eich cydnabyddiaeth yn cadarnhau eich bod wedi’i dderbyn, pa bryd, felly, allaf i ddisgwyl ateb i’r materion difrifol iawn yr oeddwn wedi’u codi yn y llythyr?

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd yr Arweinydd : "Pan fydd hwnnw wedi'i gwblhau".

 

      

 

     Wedyn cyflwynwyd y cwestiwn ategol hwn gan y Cynghorydd P. S. Rogers :-

 

      

 

     "Onid ydych yn credu bod hyn yn rhoi darlun llai na phroffesiynol o'r Cyngor ?  Rydych wedi cael dau fis ond byth wedi gwneud y gwaith"

 

      

 

     Ymatebodd yr Arweinydd :-  "Rydwyf wedi ateb eich cwestiwn".......

 

      

 

2.     I’r Cynghorydd Eifion Jones, Deilydd Portffolio Personel : “A yw Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Gareth Winston Roberts OBE wedi dweud wrthych am y llythyr a anfonais iddo ar 26 Gorffennaf ynglyn â diffyg gweithredu’r Adran Bersonel yn dilyn ymddiswyddiad y Cofrestrydd Genedigaethau, Priodasau a Marwolaethau, gweithiwr oedd wedi gwasanaethu’r Awdurdod hwn am 22 o o flynyddoedd?  Methodd y Rheolw-gyfarwyddwr a’i Reolwr Llinell, am resymau nad ydynt yn hysbys, gydnabod ei llythyr o ymddiswyddiad nes y bu i mi ymyrryd yn y mater bedwar diwrnod ar ddeg cyn iddi adael ei swydd.  Os ydych yn gwybod am hyn, pa gyngor ydych chwi  wedi’i roddi?”

 

     Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd eifion Jones :- "Rydwyf wedi cael gwybod am y llythyr a hefyd bod yr Arweinydd yn delio gyda'r mater".

 

 

 

     Hwn oedd y cwestiwn ategol nesaf a gyflwynwyd gan y Cynghorydd P. S. Rogers :-  "Y Cynghorydd Jones, mi wyddoch yn dda iawn yng nghyswllt terfynu'r swydd.  Fel Deilydd Portffolio oni ddylech fod wedi cymryd camau eich hun a gwneud ymholiadau a chanfod beth ddigwyddodd mewn gwirionedd ?".

 

      

 

     Dyma ymateb y Cynghorydd H. E. Jones :- "Mae'r Arweinydd yn delio gyda'r mater ar ran parch credaf y dylem ddisgwyl am ei atem ef".

 

      

 

3.     I’r Cynghorydd Gareth Winston Roberts OBE, Arweinydd y Cyngor : “Yn dilyn apwyntio Mr. Wynne Thomas, yn Rheolwr-gyfarwyddwr newydd i Gyngor Sir Ynys Môn, roedd y datganiad yn y wasg a rhyhawyd gan y Cyngor yn rhoi’r argraff bod y penderfyniad wedi’i wneud gan y Cyngor llawn.  A oedd hyn y ffeithiol gywir?”

 

      

 

     Ymatebodd yr Arweinydd :- "Credaf mai'r Cyngor Sir a wnaeth y penderfyniad ac fe wyr y bobl hynny sydd â phrofiad o'r Cyngor bod tueddiad i alw cyfarfodydd llawn o'r Cyngor Sir - felly rydwyf yn hapus gyda hynny".

 

      

 

     Cafwyd y cwestiwn atodol hwn wedyn gan y Cynghorydd P. S. Rogers :-

 

      

 

     "Y dydd y gwnaed y penodiad newydd roeddech chi fel Arweinydd yr Awdurdod hwn yn absennol.  O fwrw golwg yn ôl oni chredwch mai camgymeriad oedd gadael rhywun yma heb dderbyn eich croeso chwi na'ch dirprwy i swydd bwysig iawn y tu mewn i'r Cyngor Sir hwn ?"

 

      

 

     Atebodd yr Arweinydd fel a ganlyn :- "Mae gennyf bob ffudd yng ngallu y 30 o Gynghorwyr yn fras i ddewis y person.  Felly, credaf eich bod hefyd wedi cael pleidlais, a phawb wedi pleidleisio a mae hwnnw hefyd yn un o draddodiadau'r Cyngor.  Mi wn nad ydych wedi bod yma'n hir iawn".

 

      

 

4.     I’r Cynghorydd Gareth Winston Roberts OBE, Arweinydd y Cyngor : “ Er mwyn bod yn gynhwysol, tra’n apwyntio’r Rheolwr-gyfarwyddwr diwethaf newydd, beth oedd eich rhesymeg trwy beidio â chynnwys Cadeirydd y Panel Apwyntio yn y cyfarfod cyntaf ac Arweinydd Plaid Cymru yn y cyfarfod terfynol?”

 

      

 

     Ymateb yr Arweinydd oedd :- "Mi gefais gyfarfod hefo Arweinydd Plaid Cymru".

 

      

 

     Wedyn hwn yw'r cwestiwn ategol a roddwyd gerbron gan y Cynghorydd P. S. Rogers :-  "Onid y gwir yw eich bod wedi ei gau ef allan am nad oedd yn fodlon i lofnodi'r ddeiseb i benodi'r ail ddyn ?  Onid hynny yw'r gwir ?  Roeddech yn ceisio tawelu pethau!"

 

      

 

     Dyma oedd ymateb yr Arweinydd :-  "Bob parch, y Cynghorydd Rogers, ewch ar y ffeithiau.  NId oeddech hyd yn oed yn gwybod bod y Rheolau Sefydlog wedi ei newid yn 2004.  Siaredais gydag Arweinydd Plaid Cymru y diwrnod hwnnw a trafod y mater, a dyna fo.  Chi fel Cadeirydd (y Pwyllgor Penodiadau) dydych chi ddim yn Arweinydd yr un Plaid yma ac unwaith yr oedd eich Pwyllgor wedi gwneud y gwaith o argymell tri enw i'r Cyngor, wedyn roedd y joban honno drosodd".

 

      

 

5.     I’r Cynghorydd Keith Evans, Deilydd Portffolio Trafnidiaeth, Priffyrdd ac Eiddo : “Cafwyd problemau llifogydd yn Ucheldre, Niwbwrch, am bron i ddeng mlynedd.  Beth oedd y gost o redeg tanceri o Ucheldre i’r gylchfan ar Lôn Filltir yn ystod 2004 a 2005 i wella’r broblem: a beth yw’r gyllideb am y flwyddyn hon?”

 

      

 

     Yn ei ymateb dywedodd y Cynghorydd Keith Evans :- "Mi wn fod y Cynghorydd Rogers fel yr Aelod Lleol wedi dangos diddordeb mawr yn y mater hwn a gwn hefyd am yr ohebiaeth rhwng yr aelod a'r Adran a bu'r aelod mewn cyfarfod ar 20 Ionawr eleni gyda'r swyddogion perthnasol ar fy ngwahoddiad i pan drafodwyd nifer o faterion yn fanwl.  Yn dilyn hynny fe roes y swyddogion gadarnhad i'r aelod am y materion hynny.  Mae'r cwestiwn penodol hwn yn ymwneud â chostau yr aed iddynt oherwydd y problemau yn Ucheldre yn ystod 2004/05 ac mae'n gofyn hefyd am y gyllideb gyfredol.

 

      

 

     Yn ôl y wybodaeth ddiweddaraf sydd gennyf mae'r Gwasanaeth Priffyrdd wedi edrych yn fanwl ar y system dwr wyneb yn yr ardal dan sylw ac yn fodlon nad oes dim yn ei blocio dan y briffordd a'i fod yn gweithio fel y dylai.  Fodd bynnag, canfuwyd problem ar dir Scottish Power, yr orsaf fechan gerllaw, ac yn ddiweddar ar ôl cyfarfod arall ar y safle mae Scottish Power wedi rhoi addewis i wneud y gwaith trwsio cyn gynted ag y bo'n bosib.  Rydym yn disgwyl am ddyddiad.  Hefyd cefais wybod bod yr Adran Tai yn cydnabod y cyfyngiadau y tu mewn i libart eu heiddo nhw ger y safle ac maent yn gwbl ymwybodol o'r sefyllfa.

 

      

 

     Hefyd bu gohebu gyda Chyngor Cymuned Rhosyr.  Gan fod yma dri pharti yn rhan o trafodaethau, yr Adran Briffyrdd, yr Adran Dai a Scottish Power mae'n amhosib bron canfod gwariannau penodol ond credwn, ar ôl ystyried pethau'n ofalus, bod costau'r gwaith ar y tanceri hynny yr oedd yr aelod yn cyferio atynt y llynedd yn £600.  Sicr nid oedd cyllideb benodol yn yr amcangyfrifon am eleni.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cwestiwn atodol a ganlyn gan y Cynghorydd P. S. Rogers :-

 

      

 

     Wrth gwrs rydych wedi cymryd camau yn ystod y dyddiau diwethaf ond gallaf fynd yn ôl i 1996 yng nghyswllt gohebiaeth gan yr Aelodau Seneddol.  Ond gallaf ddweud fod 4 safle arall wedi eu crybwyll yn y cyfarfod hwnnw gyda chwi a gallaf eich sicrhau y byddaf yng nghyfarfod llawn nesaf y Cyngor yn gofyn yr un cwestiwn yn union eto gan obeithio y bydd hwnnw yn symud pethau yn eu blaenau.  Oni fuasech yn cytuno fod mis Hydref yn amser peryglus a thros y ddwy flynedd diwethaf cafwyd llifogydd ?".

 

      

 

6.     I’r Cynghorydd Keith Evans, Deilydd Portffolio Trafnidiaeth a Eiddo : “Fe adewais i chwi a’r swyddogion perthnasol wybod fod amrywiol bethau wedi’i symud ymaith yn anghyfreithlon o fân-ddaliad yn fy ardal i pan roddwyd y denantiaeth i fyny a gofynnais am i’r Heddlu gael gwybod.  Deallaf fod rhai o’r pethau hynny wedi’u dychwelyd ar ôl hynny.  A fu erlyniad yn dilyn hyn oll?”

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd Keith Evans :-  "Bydd y Cynghorydd yn cofio ymuno gyda mi a'r swyddogion, ar fy ngwahoddiad i, ar y safle mân-ddaliad penodol hwn ar 13 Mawrth 2006 pan ddygwyd pwyntiau yr aelod i'n sylw a'u trafod yn llawn ar yr achlysur hwnnw.  Dywed fy swyddogion nad oedd y tenant blaenorol yn byw yn y lle adeg yr ymweliad a chysylltwyd gydag ef yng nghyswllt rhai eitemau sydd ar goll o'r lle; mewn ymateb dywedodd fod yr holl eitemau yn y lle pan adawodd.  Hefyd gwelwyd y landeri oedd ar goll a chefais wybod na fu'r landeri ar y ty ers amser maith.  Ond credai'r Adran nad oedd pwrpas rhoddi eitemau newydd yn lle y rhai oedd ar goll gan fod y ty a'r adeiladau allanol yn mynd i arwerthiant cyhoeddus ac yn ôl y cyngor proffesiynol a gafwyd ni fuasai eitemau newydd yn codi gwerth y lle ar y farchnad agored.  Ni roddwyd gwybod i'r heddlu a hynny mae'n debyg am nad oedd tystiolaeth ac ni ellid oherwydd cymryd camau erlyn.  Pan werthwyd yr eiddo trwy arwerthiant ym mis Mehefin eleni cafwyd pris uwch o lawer na'r disgwyl, sef £70,000 yn fwy, a hynny'n awgrymu fod beth bynnag oedd ar goll mewn gwirionedd yn amherthnasol."

 

      

 

     Wedyn gofynnwyd y cwestiwn ategol hwn gan y Cynghorydd P. S. Rogers :-

 

      

 

     "A ydych chi, y Cynghorydd Evans, yn gyfarwydd â Thenantiaeth Busnes Fferm sydd tua 30 o dudalennau.  Pan na weithredwyd ar y denantiaeth honno pan ildiwyd y denantiaeth.  Pam na ddarparwyd rhestr i siecio ar yr eitemau ?  Ar y pryd roeddech yn cytuno ei bod hi'n ymddangos ar y pryd fel petai'r tenant wedi mynd yn annisgwyl ond mewn gwirionedd roedd wedi mynd i denantiaeth arall.  Oni chytunwch gyda mi bydd raid i'r Cyngor rhoi esiampl dda i eraill yng nghyswllt y mân-ddaliadau a sicrhau fod pobeth yn digwydd yn briodol arnynt a sicrhau y bydd y denantiaeth fusnes yn cael ei pharchu ?"

 

      

 

     Dyma oedd ymateb y Cynghorydd K. Evans : "Ym mhob achos mae cytundeb tenantiaeth rhwng y Cyngor a'r sawl sy'n dal y mân-ddaliad ac gwneir popeth bosib i weithredu ar amodau'r tenantiaethau hynny trwy gydol cyfnod y denantiaeth.  Pan fo tenantiaeth yn cael ei cildio mae'r swyddogion wedyn yn ymweld â'r lle, siecio'r sefyllfa, ac os ydyw popeth wrth eu bodd cytuno i dderbyn y denantiaeth yn ôl."

 

 

 

7.     I’r Cynghorydd Hefin Thomas, Deilydd Portffolio Cynllunio : “ Fe ddywedodd y Cynghorydd John Arthur Jones, yn dilyn ei ymddiswyddiad o fod yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio, bod aelodau o’r Pwyllgor Cynllunio yn gweithredu ar faterion personol yn hytrach na materion cynllunio.  Pa weithredu ydych chwi wedi’i wneud, neu yr ydych yn bwriadu ei wneud, i ymchwilio ac i ddisgyblu’r aelodau hynny?”

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd Hefin Thomas : "Penderfynir ar geisiadau cynllunio yn unol â pholisïau cynllunio a rhoddir sylw i faterion perthnasol eraill, fel enghraifft egwyddorion defnydd tir.  Yn ymddiswyddiad John Arthur Jones fe ddywedodd ef "rwyf yn derbyn bod penderfyniadau'n cael ei gwneud yn ddemocrataidd ond teimlaf fod anghysonderau mawr yn y dull o drin nifer o geisiadau oherwydd ystyriaethau personol ac oherwydd rhoddi gormod o bwyslais ar faterion amherthnasol".  Rydwyf o'r blaen wedi mynegi pryderon oherwydd perfformiad y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion, pryder sy'n cael ei deimlo hefyd gan y Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd.  Ar hyn o bryd mae Archwilwyr y Cyngor PWC yn edrych ar y maes hwn ar ôl inni ofyn iddynt wneud hynny ac rydym yn disgwyl adroddiad ganddynt ym mis nesaf".

 

 

 

     Cyflwynwyd y cwestiwn ategol a ganlyn gan y Cynghorydd P.S. Rogers :-

 

      

 

     "Onid yw'n wir eich bod chwi, menw achos lle'r aed â'r Cynghorydd Robert Hughes o flaen y Pwyllgor Safonau, yn brif dyst i'r datblygwr John Wood yng nghyswllt y cyhuddiadau hynny a wnaed yn ei erbyn am beidio â datgan diddordeb pan bleidleisiodd o blaid argymhelliad y swyddog ac oni ddylech chi gymryd yr un safiad yn erbyn y Cynghorydd John Arthur Jones?".

 

      

 

     Y Cadeirydd :  "Teimlaf eich bod allan o drefn yma".

 

      

 

     Pennaeth y Gwasanaethau Tâl dynodedig :  "Rhaid i'r cwestiwn godi o'r ateb a roddwyd.  Cyn belled ag y gwelaf nid oes cysylltiad rhwng yr ateb gwreiddiol roddwyd a'r cwestiwn ategol hwn.  Felly rhaid i mi ddweud bod y cwestiwn atodol allan o drefn".

 

      

 

     Mynodd y Cynghoryd Hefin Thomas roddi'r ateb a ganlyn : "Fel arfer nid yw'r Cynghorydd Rogers yn glynu wrth y pwynt ac mae'n methu â chael y canlyniadau iawn - mae bob amser yn edrych ar un ochr yn arbennig.  Gan eich bod wedi gofyn rydwyf am fwrw ymlaen i roi rhai enghreifftiau i chwi.  Mae yma aelodau sydd yn rheolaidd yn pleidleisio gyda'r swyddogion a rhai eraill sy'n pleidleisio yn erbyn.  Ond fel person rhesymol a chyfrifol rydwyf am ddisgwyl am adroddiad yr Archwilwyr cyn gwneud unrhyw beth - dyna yn fy marn i yw'r peth priodol i wneud.  Honno yw'r ffordd briodol ymlaen, nid erlid yn bersonol eich cyd-aelodau.  Petaech yn dymuno cael enwau'r tramgwyddwyr mwyaf mae'r rheini yma gennyf ac rydwyf yn berffaith fodlon ddatgelu'r tri gwaethaf a'r tri gorau. A dweud y gwir mi roddaf nhw i chwi".

 

      

 

     Cadeirydd : Na teimlaf eich bod allan o drefn yma.

 

      

 

8.     I’r Cynghorydd Gareth Winston Roberts OBE, Arweinydd y Cyngor : “Yn dilyn llawer o waith ymchwil manwl a chanfod gwybodaeth o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, mae’r cyn Gynghorydd Barrie Durkin wedi distrywio credinedd Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg Polisi Datblygu, Gwasanaethau sylfaenol ac Adnoddau sydd hyd yn oed yn defnyddio llythrennau dynodol ar ôl ei enw, er nad oes ganddo, fe ymddengys, unrhyw hawl iddynt. A ydyw’, felly, yn berson cymeradwy i fod yn Gadeirydd y Pwyllgor Trosolwg?”

 

      

 

     Dyma ymateb yr Arweinydd :  "Ydyw".

 

     Wedyn cafwyd y cwestiwn atodol hwn gan y Cynghorydd P. S. Rogers :- "Diolch yn fawr i chwi am yr ateb sydyn yna.  Y drwg yw pan fo rhywun yn defnyddio llythrennau ar ôl ei enw heb yr hawl i wneud hynny mae'n rhwym o greu argraff ddrwg, ac yn enwedig i'r Cyngor hwn - mae'n hollol warthus eich bod yn rhoi'r ateb hwn i mi.  Dyma eich barn chwi ac fel Arweinydd rydach chi'n rhoi esiampl i eraill.  Diolch yn fawr iawn i chwi".

 

      

 

     Dyma ymateb yr Arweinydd :- "Diolch i chwi am y geiriau yna.  Gobeithio'n wir fod y rheini yn gywir oherwydd mae'r cwbl ar y tâp.  Diolch i chwi".

 

      

 

12.2     Gofynnwyd y cwestiwn canlynol gan y Cynghorydd W.I. Hughes ar ran Grwp Plaid Cymru :-

 

      

 

     “Yn sgil y ffaith i amryw o lythyrau gael eu hanfon i Aelodau o’r Cyngor Sir a’r cyhoedd parthed y Cynghorwyr David Lewis-Roberts a W. Tecwyn Roberts, gofynwn pa fesurau mae Arweinydd y Cyngor a’r Swyddog Monitro yn ei gymeryd ynglyn a’r cynnwys?”

 

      

 

     Dywedodd yr Arweinydd mewn ymateb :-  "Diolch i chwi am y cwestiwn.  Bu'n brynhawn anodd a'r cwestiynau yn rhai dyrus.  Yn naturiol rydym wedi darllen y llythyrau hyn a bydd raid i ni sefydlu a ydynt yn gywir ai peidio, mae hynny'n bwysig.  Hefyd rydych wedi cael ateb ysgrifenedig gan Gyfreithiwr y Cyngor - ydi hynny'n gywir ?"

 

      

 

     Cyflwynwyd y cwestiwn ategol a ganlyn gan y Cynghorydd W. I. Hughes :-  "Mr. Cadeirydd mae gennyf yn fy meddiant lythyr oddi wrth y Swyddog Monitro ac mae'n groes i'r hun beth a ddywedwyd gennych yn gynharach.  Pan fo rhywun yn dymuno gofyn cwestiwn dywedasoch bod raid gyrru llythyr at Bennaeth y Gwasanaeth Tâl.  We yn ôl hyn bydd hynny ddim yn bosib.  Dyw'r drefn hon ddim yn caniatáu i ni gyflwyno cwestiynau i swyddogion".

 

      

 

     Cadeirydd :- "Mae yna gamddeallwriaeth yma ac mi ofynaf i'r Swyddog Monitro ymateb".

 

      

 

     Swyddog Monitro :- "Mae'n ddrwg gennyf fod fy llythyr wedi achosi cymaint o syndod i chwi.  Gyrrais ef gyda'r bwriad o geisio'ch cynorthwyo.  Yr hyn y cyfeiriodd y llythyr ato yw y weithdrefn cwestiynau y rhoddir rhybudd ohonynt yn y Cyfansoddiad.  Dywed bod modd cyflwyno cwestiynau, gyda rhybudd, a unrhyw fater i restr o wleidyddion unigol.  Yn fy llythyr dywedaf y bydd raid i'r cwestiynau hynny dan y weithdrefn o gyflwyno rhybudd fod yn gyfyngedig i Gynghorwyr sydd gyda swyddogaethau a chyfrifoldebau penodol.  NId yw'r weithdrefn hon ar gael i gyflwyno cwestiynau i swyddogion.  Yna aethum ymlaen i ateb eich cwestiynau yn ôl beth y tybiwn oedd y drefn briodol dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, ac felly rydwyf wedi ceisio bod o gymorth.  Fy mhwynt oedd bod raid cyflwyno cwestiynau ac atebion i wleidyddion, nid i swyddogion, a hwn oedd yr unig bwynt ac rydwyf yn berffaith hapus rhannu copi o'm hateb i'r holl Gynghorwyr eraill.  Rydwyf wedi rhoddi copïau i'r clarc gan obeithio fod hynny'n foddhaol."

 

      

 

     Y Cynghorydd P.M. Fowlie :- "Diolch i chwi Mr. Cadeirydd.  Yn awr hoffwn fynd yn ôl i fis Mai 2005 a chyfarfod cyntaf y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar ôl y Cyfarfod Blynyddol.  Cerddodd chwe o aelodau allan o'r Pwyllgor hwnnw am ein bod yn tybio nad oedd y balans gwleidyddol yn gywir.  Yn anffodus fe gymerodd flwyddyn a hanner i'r run mater godi eto yn poeni fel aelodau, ac roedd y rhaglen ar y teledu neithiwr yn codi cywilydd ar bob un ohonom, peth annifyr oedd ei gwylio a phrofiad digon chwithig oedd bod yma heddiw yr aelodau hynny o'r cyhoedd a welodd y rhaglen yn gofyn beth sy'n digwydd yma.  

 

      

 

     Felly hoffwn gofnodi heddiw fy mod yn eich atgoffa o'r chwe aelod a gerddodd allan oherwydd y tebygrwydd y buasai'r bleidlais yn 8-6 fel yr oedd pethau y diwrnod hwnnw pryd dewiswyd Cadeirydd ac Is-Gadeirydd, ac rydym wedi eu parchu ar ôl hynny, ond penderfynu cerdded allan wnaethom oherwydd anhapusrwydd gyda'r drefn a gobeithiaf yn fawr bod yr Arweinydd wedi gwrando ar sylwadau'r Cynghorydd Bob Parry yng nghyswllt y Panel.  Mae yma un grwp ac yn ffodus neu'n anffodus Mr.  Cadeirydd rydych yn aelod ohono.  Dim ond 4 sydd yn y grwp hwnnw a 3 ohonynt yn aelodau o'r Panel Cynllunio.  Nodwch os gwelwch yn dd beth a ddywedais".

 

      

 

     Cadeirydd : "Mi wnawn hynny, er nad ydio ar y rhaglen".

 

      

 

     Arweinydd y Cyngor :-  "Mr. Cadeirydd, credaf fod angen ateb y datganiad yna heddiw.  Diolch i chwi am y datganiad ond o safbwynt i, fel Arweinydd y Cyngor, rydwyf yma i weld ffeithiau.  Mae yna adroddiad o'n blaenau y no fuan rwan sy'n profi mor hawdd i'w pwyntio bys i'r llefydd anghywir.  Rydym wedi gweld hynny'n digwydd drosodd a throsodd heddiw, felly, unwaith y bydd pethau wedi eu clirio'n derfynol, byddaf yn gwneud y penderfyniad".

 

      

 

     Cyflwynwyd y cwestiwn ategol a ganlyn gan y Cynghorydd W. I. Hughes :-  "Rydwyf yn falch o ddeall bod yr Arweinydd a'r Swyddog Monitro yn ymchwilio i'r llythyrau hyn sy'n cael eu rhannu a gobeithio y cawn, yn y dyfodol agos, rhyw fath o ymateb, rhywfaint o arweinyddiaeth yn y Cyngor hwn.  Os ydyw'r cyhuddiadau hyn yn anghywir yna bydd raid gwneud rhywbeth yn eu cylch yn fuan a hynny er lles y Cyngor".

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd yr Arweinydd :-  "Hoffwn ddiolch i chwi am ddangos parch ac am eich doethineb wrth ddelio gyda'r sefyllfa.  Yr hyn sy'n lladd y Cyngor hwn yw chwarae o gwmpas yn y Siambr.  Gallaf ddweud yn bendant wrthych y byddwch, gyda hyn, yn derbyn canlyniadau fy ymholiadau i'r llythyrau hyn - mae'n bwysig i'r Cyngor Sir.  Gyfeillion byddwch yn ofalus ac ystyriwch eich sefyllfa eich hunain gyntaf, oherwydd rydwyf wedi stopio un Cynghorydd rhag gofyn cwestiynau.  Pam ?  Am ei fod wedi diystyru'r cyngor blaenorol.  Unwaith y bydd pethau yn glir nid oes unrhyw broblem mewn gwneud penderfyniad.  Fe wyddoch fy mod yn gwestiwn gwan, rydych i gyd yn gwybod hynny."

 

      

 

13

YR ARWEINYDD YN DIRPRWYO

 

      

 

     Cyflwynwyd - Adroddiad gan y Rheolwr-gyfarwyddwr ar unrhyw newidiadau i’r cynllun dirprwy ynghylch swyddogaethau’r Pwyllgor Gwaith ac a wnaed gan yr Arweinydd ers y cyfarfod cyffredin diwethaf (Rheol 4.14.1.4) y Rheolau Gweithdrefn Trefniadau Gweithredol - gweler tudalen 131 y Cyfansoddiad.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd E. G. Davies beth oedd hanes y bwriad i ailgyfodi'r Panel Mân-ddaliadau fel ffordd o ddiogelu asedion y Cyngor ?

 

      

 

     Yn ei ymateb dywedodd yr Arweinydd y bydd raid cael rhagor o drafodaethau gyda'r swyddogion i weld a oes angen gwneud hynny neu ar y llawr arall adael pethau fel y maent gyda'r Deilydd Portffolio.  Addawodd y buasai'n edrych ar y mater.

 

      

 

     PENDERFYNWYD

 

      

 

Ÿ

Nodi'r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

 

 

Ÿ

Yng nghyswllt yr ail dirprwyo ar fater tenantaieth y mân-ddaliadau nodi bod angen cywiro'r fersiwn Saesneg i ddarllen Brynsannan, Llantrisant - nid Fferm Chwaen Newydd, Llantrisant.

 

      

 

14     CAU ALLAN Y WASG A’R CYHOEDD (Gweler isod)

 

      

 

15     YSTYRIED DATGANIAD O RESYMAU GAN YR ARCHWILIWR A GYHOEDDWYD AR 26 MAI, 2006

 

      

 

     Cyflwynwyd - llythyr o Swyddfa Archwilio Cymru dyddiedig 22 Mai, 2006 yng nghyswllt gwrthwynebiad i gyfrifon Cyngor Sir Ynys Môn am y flwyddyn 2000/2001.

 

      

 

     Ar ôl ystyried y mater fel rhan o'r gwrthwynebiad i Gyfrifon y Cyngor am 2000/2001 roedd yr Archwiliwr penodedig wedi penderfynu peidio â chefnogi'r gwrthwynebiad a hynny am y rhesymau a roddwyd yn ei adroddiad ac a gyflwynwyd i'r Cyngor heddiw.

 

      

 

     Wedyn cafodd trafodaeth ar yr egwyddor o drafod yr eitem yn breifat.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at ei gohebiaeth ddyddiedig 11 Medi 2006 at yr holl aelodau - cyfeiriwyd yn yr ohebiaeth at rai materion a allai fod yn rhan o ddarpariaethau paragraff 12 y rheolau sy'n gwneud eithriad o wybodaeth yng nghyswllt materion a allai greu anfanteision i'r Cyngor.  Roedd y Swyddog Monitro yn argymell y dylid, yn y lle cyntaf, gynnal trafodaeth breifat ond gan ddibynnu ar y penderfyniad y deuai'r cyfarfod iddo buasai wedyn yn cynghori o blaid cynnal y trafodaethau'n gyhoeddus a rhyddhau'n gyhoeddus hefyd y cyngor cyfreithiol a roes ar 11 Medi.

 

      

 

     Dywedodd y Swyddog Monitro iddi gyflwyno cyngor i gyfarfod y Cyngor Sir ar 11 Awst y dylai nifer o Gynghorwyr adael y cyfarfod am y drafodaeth ar y mater hwn oherwydd bod cwestiwn ynghylch eu gwrthrychedd.  Gwnaeth yr aelodau dan sylw datganiad o ddiddordeb a gadael y cyfarfod.

 

      

 

     Pwysleisiodd Pennaeth dynodedig y Gwasanaethau Tâl y dylai'r Cyngor ystyried yn ofalus y cyngor cyfreithiol gan y swyddogion.  Ar ôl trafodaeth pendefynwyd cau'r wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod a hynny o 19 bleidlais i 11.

 

      

 

     Penderfynwyd o dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Paragraffar 7, 11 ac 12,  Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni. "

 

      

 

     Rhoes y Swyddog Monitro gyngor cyfreithiol i'r Cyngor Sir gan nodi y dylai'r Cyngor fod yn hynod wiliadwrus wrth wneud penderfyniad oherwydd y posibilrwydd y gallai arwain at ragor o wariant.

 

      

 

     Croesawu'r adroddiad a wnaeth Arweinydd y Cyngor ond bod angen rhoddi sylw i fater Stanley Crescent ond yn gyntaf roedd am weld trafodaeth rhwng Arweinyddion y Grwpiau Gwleidyddol a wedyn cyflwyno adroddiad yn ôl i gyfarfod arbennig o'r Cyngor Sir ar 24 Hydref 2006.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gwadd y wasg a'r cyhoedd i glywed yr argymhelliad a ganlyn gan y Cyngor Sir :

 

      

 

     PENDERFYNWYD

 

      

 

15.1     Derbyn adroddiad y Swyddog Monitro a'r farn gyfreithiol ganddi.

 

      

 

15.2     Trefnu i arweinyddion y Grwpiau Gwleidyddol gyfarfod gyda'r swyddogion perthnasol i drafod mater Stanley Crescent gyda golwg ar gyflwyno adroddiad i gyfarfod arbennig o'r Cyngor Sir ar 24 Hydref 2006.

 

 

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 4.45pm

 

 

 

Y CYNGHORYDD JOHN ROWLANDS

 

CADEIRYDD