Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 20 Ionawr 2010

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Mercher, 20fed Ionawr, 2010

CYFARFOD O GYNGOR SIR YNYS MÔN

 

Cofnodion y cyfarfod ymweliad safleoedd gafwyd ar 20 Ionawr, 2010.

 

PRESENNOL:

 

Y Cynghorydd O Glyn Jones - Cadeirydd

Y Cynghorydd Selwyn Williams - Is-Gadeirydd (Eitem 3 yn unig)

 

Y Cynghorwyr W.J.Chorlton; E.G.Davies; Lewis Davies;B.Durkin;Jim Evans; Ff.M.Hughes;K.P.Hughes;T.Ll.Hughes; W.I.Hughes; W.T.Hughes; Eric Jones;Raymond Jones;T.H.Jones; Aled Morris Jones; C.McGregor; Bryan Owen; J.V.Owen; R.L.Owen; Bob.Parry OBE; G.O.Parry MBE; Eric Roberts; J.Penri Williams

 

 

 

WRTH LAW:

 

Prif Swyddog Cynllunio (E.G.J)

Uchel Weithredwr Cynllunio (G.M.D) (Eitem 3)

Arweinydd Tîm Cynllunio (N.J) (Eitem 2)

Uwch Beiriannydd (JRWO)

Swyddog Rheoli Datblygu (R.E)

Uchel Beiriannydd (Rheoli Datblygu) (E.D.J)

Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgor

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr Keith Evans, Hywel Eifion Jones, R.Ll Jones, R.Dylan Jones.

___________________________________________________________________________

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Dim i’w ddatgan.

 

2

CAIS CYNLLUNIO RHIF 19C599X/ECON - CAIS LLAWN i YMESTYN Y STÔR ADWERTHU BRESENNOL, LLUNIO LLAWR MEZZANINE, CODI DEC PARCIO CEIR, FFURFIO MAES PARCIO STAFF A GWAITH ALTRO I’R FYNEDFA i GERBYDAU A CHERDDWYR YN SIOP TESCO, STAD DDIWYDIANNOLL, PENRHOS, CAERGYBI

 

Cafwyd cyfarfod o’r Aelodau a’r Swyddogion ar y safle a rhoddodd yr Arweinydd Tîm Cynllunio fraslun byr o fanylion y cais i’r aelodau.  Cyfeiriwyd yn arbennig at leoliad maes parcio oedd i’w godi i fyny ar ddec a darparu ffens acwstig 2m ar hyd rhan o’r terfyn gyda’r eiddo preswyl oedd ger y safle er mwyn lleddfu rhai o’r pryderon oedd yn cael eu codi.

 

Cyfeiriwyd hefyd at le croesi i gerddwyr ar Ffordd Cyttir i helpu cerddwyr ddod i’r siop o ardal Kingsland.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau weld y gwelliannau y bwriedir eu gwneud yn y groeslon ar Ffordd Cyttir, Ffordd Llundain er mwyn i draffig ychwanegol fedru llifo’n rhydd i faes parcio’r staff ac ar gyfer ei ddefnyddio fel maes parcio ychwanegol yn ystod y gwaith o greu’r estyniad i’r siop a hefyd i’r maes parcio ar y dec.

 

 

 

 

 

 

3

CAIS CYNLLUNIO RHIF 46C13E/1 - YMGYNGHORI - ADRAN YNNI A NEWID YN YR HINSAWDD - CODI GORSAF BIO-MASS i GYNHYRCHU TRYDAN YNG NGHWAITH PENRHOS, CAERGYBI

 

Cyfarfu’r Aelodau a’r Swyddogion ar y safle a rhoddodd yr Uchel Swyddog Cynllunio fraslun o fanylion y cais i’r Aelodau a dangosodd hefyd faint y lle oedd yn cael ei fwriadu i’w ddatblygu.

 

 

Eglurodd mai rôl y Cyngor Sir yn gyntaf oedd un o ymgynghorwr statudol allweddol, gyda gwahoddiad i gyflwyno sylwadau ac awgrymu amodau ar y cais i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni a Newid yn yr Hinsawdd fyddai’n gwneud penderfyniad ar y cais.

 

 

 

Nodwyd pethau fel agosrwydd yr A5, yr effaith ar nodweddion ecolegol o fewn y safle a rhoddwyd copïau i’r aelodau yn dangos sut y byddai’r datblygiad yn edrych ac i’w weld o wahanol lefydd.  

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

     

 

Daeth yr ymweliad safle i ben am 10:40 am

 

 

 

Y CYNGHORYDD  O GLYN JONES

 

CADEIRYDD