Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 20 Mawrth 2003

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Iau, 20fed Mawrth, 2003

CYNGOR SIR YNYS MÔN

 

COFNODION Y CYFARFOD ARBENNIG A GYNHALIWYD AR

20 MAWRTH, 2003

 

yn breSENNOL:

Y Cynghorydd R.L.Owen (Cadeirydd)

 

Y Cynghorydd Mrs B.Burns (Is-Gadeirydd)

 

Y Cynghorwyr J.Byast, E.G.Davies, J.M.Davies, J.A.Edwards,

David D.Evans, C.L.Everett, P.M.Fowlie, D.R.Hughes, Fflur Hughes, Dr.J.B.Hughes, R.Lloyd Hughes, Trefor Ll.Hughes, W.I.Hughes, G.O.Jones, O.Gwyn Jones, Richard Jones, OBE, R.Llewelyn Jones, W.Emyr Jones, G.O.Parry, MBE, Gwyn Roberts, John Roberts, J.Arwel Roberts, W.T.Roberts, E.Schofield, Keith Thomas, G.A.Williams, John Williams, W.J.Williams.

 

 

WRTH LAW:

Rheolwr Gyfarwyddwr

Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden

Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro

Pennaeth Gwasanaeth (Hamdden a Chymuned)

Prif Syrfewr (TG)

Rheolwr Parciau a Maesydd (MO)

Swyddog Cyfathrebu (GJ)

Swyddog Pwyllgor (ATH)

 

 

YMDDIHEURIADAU:

Y Cynghorwyr W.J.Chorlton, R.J.Jones, Rhian Medi, R.G.Parry, OBE, G.W.Roberts, OBE, G.Allan Roberts, John Rowlands.

 

 

 

 

                  Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd John Williams.

 

1

DATGAN DIDDORDEB

 

Nododd y sawl a restrir isod ddiddordeb fel a ganlyn yn y mater oedd gerbron:

 

Y Cynghorydd D.R.Hughes yng nghyswllt ei gyflogaeth ym Medrwn Môn.

Y Cynghorydd O.Gwyn Jones ar sail y ffaith fod cae chwarae Niwbwrch ar dir Ymddiriedolaeth Neuadd Pritchard Jones yr oedd ef yn gadeirydd ohoni.

Y Cynghorydd Gwyn Roberts ar sail y ffaith ei fod yn ofalwr cae chware Pensarn yn rhinwedd ei swydd fel Clerc Cyngor Cymuned Llaneilian.

Y Cynghorydd W.J.Williams yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd Pwyllgor Cae Chwarae Plant.

Y Cynghorydd C.L.Everett yn rhinwedd ei swydd fel Clerc Cyngor Tref Caergybi.

Y Cynghorydd J.A.Edwards yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd Partneriaeth Morawelon

Y Cynghorydd K.Thomas yn rhinwedd ei aelodaeth o Bartneriaeth Morawelon.

 

2

DARPARIAETH CAEAU CHWARAE

 

Cyflwynwyd ar gais y Cyngor Sir yn ei gyfarfod ar 10 Rhagfyr, 2002 - Adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden a'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo mewn perthynas â chyflwr a datblygiad caeau chwarae cymunedol yn Ynys Môn, ynghyd ag argymhellion ar gyfer gwella'r ddarpariaeth.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden fod yr adroddiad uchod yn ymgorffori safbwynt gorfforaethol ynglyn â'r ddarpariaeth caeau chwarae yn yr ystyr fod ei gynnwys yn adlewyrchu'r holl ddidorddebau o ran swyddogion.Yn y cyfarfod hwn dymunai ganolbwyntio ar rai o'r agweddau pwysicaf ynghlwm wrth y mater fel a ganlyn:

 

 

 

2.1

Rhoddai'r cyfarfod arbennig hwn o'r Cyngor Sir gyfle i gymeryd trosolwg o'r ddarpariaeth meysydd chwarae a chyfleusterau hamdden yng nghyd-destun y sir gyfan yn hytrach nag yng nghyd-destun ardaloedd unigol.Erbyn hyn roedd yna wybodaeth fanwl wedi ei choladu ynglyn â phob maes chwarae unigol ar yr Ynys a byddai'r wybodaeth honno ar gael i'r sawl a fynegai dymuniad i'w gweld.Roedd y cyfarfod hwn hefyd yn gyfle i danlinellu pwysigrwydd y cyfleusterau yma ynghyd â'u rôl a'u cyfraniad i fywyd y gymuned.Bernid fod darparu cyfleusterau addas gogyfer plant a phobl ifanc yn arwydd o iechyd a ffyniant cymuned, ac mewn hinsawdd o amddifadedd cymdeithasol ac o ymddygiad gwrth-gymdeithasol, roedd  gwerth y cyfryw gyfleusterau fel cyfrwng i harnesio diddordebau a gweithgareddau pobl ifanc mewn ffordd gadarnhaol yn ystyriaeth bwysig iawn.

 

2.2

Bu i'r drafodaeth ynglyn â'r ddarpariaeth meysydd chwarae godi o bryder a fynegwyd mewn sawl fforwm, gan gynnwys dau o bwyllgorau craffu'r Cyngor, ynglyn ag ystyriaethau iechyd a diogelwch ynghlwm wrth gyflwr dirywiedig nifer o feysydd chwarae'r Ynys.Ysgogwyd y drafodaeth yn wreiddiol gan adroddiad a gynhyrchwyd gan swyddog o Medrwn Môn ynglyn â chyflwr y ddarpariaeth meysydd chwarae ym Môn yn sgîl arolwg a gynhaliwyd gan Tony Chilton, arbenigwr Chwarae Cymru, sef y sefydliad gogyfer chwarae plant yng Nghymru.Fodd bynnag, gwelwyd erbyn hyn nad yw'r sefyllfa cynddrwg â'r hyn a gyflewyd gan arolwg Tony Chilton oherwydd fod y dull arolygu a ddefnyddiodd yn golygu fod nifer o feysysdd chwarae wedi cael eu condemnio ar faterion technegol isel.Rhaid cofio hefyd fod arolwg Tony Chilton wedi cael ei gynnal yn 2000, a bod ei gasgliadau wedi ysbarduno nifer o gymunedau i edrych yn ofalus ar gyflwr eu meysydd chwarae ac i roi sylw i'r gwendiadau a amlygwyd, ac i  fuddsoddi ynddynt.

 

2.3

Ers cychwyn y drafodaeth ar y mater hwn ychydig fisoedd yn ôl, ac mewn paratoad wedyn ar gyfer y drafodaeth yn y Cyngor Sir, bu i swyddogion y Cyngor gynnal eu harolwg eu hunain o gyflwr caeau chwarae'r sir er mwyn asesu difrifoldeb y sefyllfa o safbwynt iechyd a diogelwch ynghyd â statws perchnogaeth a rheolaeth pob un.Er y canfuwyd nad oedd y sefyllfa mor ddifrifol ag y tybiwyd yn wreiddiol, roedd yna sefyllfaoedd a oedd yn peri risg, ac yn yr amgylchiadau hynny, cymerwyd camau i weithredu i ddileu'r perygl.Un o'r prif resymau dros i'r Cyngor weithredu a chymryd y camau ymyrrol hyn i wella'r sefyllfa oedd yr ystyriaethau iechyd a diogewlch a chyfrifoldeb lletach y Cyngor i warchod ac i hyrwyddo lles y gymuned gyfan.Tra bod disgwyl i gyrff sy'n rheoli meysydd chwarae gynnal archwiliad proffesiynol o'r offer, a'i gynnal a'i gadw mewn safon derbyniol, roedd y gofyn bellach yn fwy na mater o gynnal archwiliad blynyddol.Roedd angen goruchwyliaeth wythnosol ar y safleoedd, nid yn unig i fwrw trosolwg dros gyflwr yr offer, ond hefyd i sicrhau fod y safle yn ddiogel i blant chwarae ynddo.

 

2.4

Mae gan y Cyngor, drwy'r adrannau Hamdden ac Eiddo yr arbenigedd i gynnig arweiniad i gymunedau ar faterion diogelwch ac addasrwydd offer a chyfarpar i gyfarfod ag anghenion plant a phobl ifanc.Mae'r Cyngor yn ymwybodol hefyd fod rhai o'r cynghorau cymuned llai yn ei chael yn gynyddol anos i gael mynediad at y math o arbenigedd y mae ei angen i gynnal archwiliadau trwyadl o gyfarpar meysydd chwarae.Fodd bynnag, o gymryd cyfrifoldeb strategol dros arwain ar y mater hwn, bydd angen sicrhau fod adnoddau ychwanegol ar gael i gyfateb i'r cyfrifoldeb hwnnw.

 

2.5

Rhoddai'r adolygiad hwn gyfle i'r Cyngor yn ogystal i edrych ar y darlun tymor hir ac i  ystyried sut y byddid yn dymuno gweld datblygu adnodd cymunedol mor werthfawr.Rhaid  iddo bwyso a mesur a yw'r cyfarpar presennol bellach yn ateb gofynion plant a phobl ifanc o'u blynyddoedd cynnar hyd at eu harddegau, a pha fath gyfleusterau fyddai yn diwallu sbectrwm eang eu dymuniadau a'u hanghenion.Credir fod yma gyfle i sefydlu partneriaeth weithredol effeithiol rhwng y Cyngor Sir, y cynghorau tref a chymuned a'r sector wirfoddol nid yn unig at ddiben uwchraddio cyfarpar ond i gynhyrchu gweledigaeth ddeinamig ar gyfer y dyfodol.Mae all-lif cynyddol y boblogaeth ifanc o Fôn wedi bod yn un o themau cyson trafodaethau'r Cyngor yn ddiweddar a rhaid iddo ofyn i ba raddau mae diffyg cyfleusterau yn cyflyrru meddyliau pobl ifanc i ymadael â'r Ynys.

 

2.6

Yn wyneb y dystiolaeth a gyflwynwyd o sawl cyfeiriad ynglyn â chyflwr meysydd chwarae'r Ynys, cydnabyddir y bydd angen buddsoddiad cyfalaf sylweddol i'w codi i safonau cydnabyddedig, a bydd sicrhau'r cyllid hwn yn fater o flaenoriaethu ac o ganfod beth sydd ar gael o ffynonellau tu allan i'r rhai arferol.Bydd y dasg hon gymaint rhwyddach o sefydlu partneriaeth gadarn, egniol a brwd all ddenu incwm i mewn ac all ddwyn perswâd ar gyrff cyllido allanol fod y datblygiad hwn yn flaenoriaeth gymunedol wirioneddol.At hynny, bydd angen yn y lle cyntaf i adnabod cyllid ar gyfer sefydlu a chynnal y Bartneriaeth arfaethedig ac i sefydlu hefyd, Grwp Llywio i lunio cynllun strategol i ymgynghori arno.Rhaid cytuno hefyd ar yr egwyddor o gael swyddog datblygu i fynd â'r gwaith yn ei flaen a'i gyd-gordio, a swyddogion goruchwylio i sicrhau fod holl offer a chyflwr caeau chwarae'r Ynys mewn cyflwr derbyniol.Heb y mewnbwn arbenigol yma, ni fydd modd gwireddu'r weledigaeth. Mae'r argymhellion a gynhwysir yn yr adroddiad yn adlewyrchu'r gofynion hyn, ac isod rhoddir amlinelliad bras o’r hyn y rhagwelir y bydd costau refeniw’r cyfryw ofynion:

 

 

 

2.7.1

Gweinyddu’r Bartneriaeth

 

(cyfarfod a chostau cynnal a chefnogi’r Grwp Llywio)                       £5,000

 

2.7.2

Swyddog Datblygu Rhan-amser

 

Costau swydd (SO1 + on-cost x 0.5)                                             

 

Costau swyddfa                                                                               £12,000

 

2.7.3

Swyddi Goruchwylwyr Meysydd Chwarae

 

 

 

Costau swydd (APT Gr 4 + on-costs x 2)

 

Costau Teithio (cyfalaf 2 fan gwaith a thanwydd)

 

Cost cyfarpar ac offer                                     £50,000                                

 

Bu i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo ychwanegu’r sylwadau a ganlyn ynglyn â’r mater:

 

 

 

2.8

Rhaid i’r Cyngor ymagweddu’n gadarnahol tuag at ddatrys y mater hwn a phenderfynu cymryd camau gweithredol rhagblaen i fynd i’r afael ag ef fel na fydd rhaid ail ymweld â’r mater yn y fath ffordd mewn ychydig o flynyddoedd.Er mwyn gwneud hynny mae’n allweddol llunio strategaeth gadarn ac ymrwymo adnoddau digonol i gynnal a chefnogi’r strategaeth honno.

 

2.9

Rhagwelai y byddai’r strategaeth yn seiliedig ar 4 brif pennawd, sef ;

 

 

 

2.9.1

Sefydlu diffiniad manwl a chlir o rôl a chyfrifoldebau

 

2.9.2

Sicrhau fod yna berchnogaeth leol o’r ddarpariaeth

 

2.9.3

Darparu cefnogaeth o ran arbenigedd

 

2.9.4

Darparu’r adnoddau dynol priodol i alluogi cynnal y gefnogaeth a’r arbenigedd.Rhaid cael ymrwymiad i roi’r adnoddau cyllidol a staffio angenrheidiol i mewn er mwyn sicrhau’r weledigaeth a ddaw o'r strategaeth.

 

 

 

Bu i aelodau’r Cyngor ymateb fel a ganlyn i’r adroddiad uchod:

 

 

 

2.10

Croesawyd yr adroddiad uchod ynghyd â’r cysyniad o fynd i bartneriaeth gyda chynghorau tref a chymuned a’r sector wirfoddol i sefydlu darpariaeth chwarae o ansawdd gogyfer plant yr Ynys.Nodwyd fod nifer o’r cynghorau llai yn ei chael yn gynyddol anodd a beichus i ysgwyddo’r cyfrifoldebau am gynnal a chadw’r ddarpariaeth meysydd chwarae, a lle roedd cyngor tref neu chymuned yn mynegi dymuniad i uwchraddio’r cyfarpar, roedd yn aml yn wynebu anhawster i gael mynediad at y fath o adnoddau roedd eu hangen i gyflawni hynny. Cytunwyd fod angen mewnbwn cefnogol, arbenigol a strategol o’r canol i alluogi cymunedau i gymryd perchnogaeth dros y ddarpariaeth, a’i chynnal yn y dyfodol.Fodd bynnag, tra’n cydnabod pwysigrwydd strategaeth o’r fath i fynd â’r mater hwn yn ei flaen, nodwyd fod gofyn ymatal rhag bod yn rhy uchelgeisiol, ac osgoi llunio strategaeth gorymestynnol na all wedyn gyflawni’r hyn mae’n ei addo.

 

2.11

Roedd consensws ynglyn â’r pwysigrywdd o ymagweddu’n gyfartal tuag at bob ardal a chymuned yn hyn o beth, ac na ddylid cosbi’r cymunedau hynny sydd eisoes wedi gweithredu i wella’r ddarpariaeth, nac ychwaith y cymunedau hynny sydd yn derbyn cymorth  am eu bod eisoes wedi eu hadnabod a’u dynodi yn ardaloedd difreintiedig.

 

2.12

Nodwyd ei bod yn hanfodol bwysig bod unrhyw ddarpariaeth yn adlewyrchu dymuniadau a dyheadau plant a phobl ifanc yr Ynys, ac na ddylai adlewyrchu gweledigaeth unffurf y Cyngor a’i swyddogion.Awgrymwyd fod unrhyw gynlluniau gwella felly yn amodol ar ymgynghori gyda phlant a phobl ifanc ynglyn â‘u dymuniadau.

 

2.13

Tra’n derbyn fod llwyddiant unrhyw gynlluniau i wella cyflwr meysydd chwarae’r Ynys yn ddibynnol ar fewnbwn arbenigol ac ar staff cymwysiedig, mynegwyd anesmythdod ynglyn â  chyflogi staff o’r newydd, ac awgrymwyd y dylai’r swyddogion yr arfaethir eu cyflogi fod ar gyflogres y Cyngor neu Medrwn Môn.

 

2.14

Cyfeiriwyd at bolisi chwarae Llywodraeth Cynulliad Cymru a nodwyd y deëllir o ymatebion i gwestiynau a ofynnwyd ar lawr y Cynulliad fod swm gwerth £800,000 eisoes wedi ei ddyrannu i Ynys Môn gogyfer dibenion chwarae plant yn ogystal â £49,000 ar gyfer chwarae agored gan gynnwys swyddog datblygu.Gofynnwyd sut y defnyddiwyd y cyllid hwn.At hynny, nodwyd y deëllir fod yna hefyd Grwp Strategaeth Chwarae eisoes yn weithredol ar yr Ynys ac arno gynrychiolaeth o wahanol ddiddordebau, a holwyd oni ellir manteisio ar arbenigedd y grwp hwn i fynd â’r bartneriaeth yn ei blaen.

 

 

 

Mewn ymateb i bwynt 2.14 uchod, nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden nad oedd y swm o £849,000 y cyfeiriwyd ato  wedi ei ddynodi’n benodol ar gyfer gweithgareddau chwarae, a bod amrediad eang o gynlluniau yn gynwysiedig yn y swm megis cynlluniau Cychwyn Cadarn ac yn y blaen.Mae gan y Cyngor Sir Strategaeth Plant a Phobl Ifanc sydd yn ymwneud â chynlluniau cynhwysiad cymdeithasol, a thrwy’r strategaeth honno mae’r Cyngor yn denu adnoddau cyllidol sylweddol i mewn.O dan ymbarel y Strategaeth hon, mae nifer o is-grwpiau wedi’u sefydlu, gan gynnwys grwp ac arno gynrychiolaeth o blith y sector gwirfoddol sydd yn ymwneud â dyrannu arian at bwrpasau chwarae, ond byddai ei ddiffinio fel grwp strategaeth yn gamarweiniol am mai fel panel i ddosbarthu arian mae’n gweithredu. Un elfen gymharol fechan o fewn y strategaeth hon yw agweddau chwarae ac nid yw‘n gweithredu fel y math o bartneriaeth a arfaethir yn yr adroddiad ar gyfer datblygu’r ddarpariaeth meysydd chwarae sydd ag iddi weledigaeth cynhwysfawr ar gyfer yr Ynys gyfan.O ran y swyddog datblygu y cyfeiriwyd ato, mae’r Cyngor Sir wedi derbyn cyllid yn benodol i gyflogi swyddog i hyrwyddo cyfleoedd i alluogi pobl ag anabledd fanteisio ar gynlluniau chwarae agored.

 

 

 

O dderbyn yr eglurhad uchod, nodwyd o’r llawr os nad oes Grwp Strategol Chwarae yn bodoli ar yr Ynys yna dylir ei sefydlu a gwnaethpwyd argymhelliad i’r perwyl.

 

 

 

Penderfynwyd -

 

 

 

2.15     Fod y Cyngor Sir yn cadarnhau ei fwriad i gymryd cyfrifoldeb strategol am arwain yn gorfforaethol i greu Grwp Strategaeth Chwarae ar fyrder gyda Chynghorau Tref a Chymuned a chyrff gwirfoddol perthnasol o fewn y sir i lunio cynllun ar gyfer gwella safon ac uwchraddio a datblygu caeau chwarae’r Ynys er budd a lles plant a phobl ifanc.

 

        

 

2.16     Yn awdurdodi’r Rheolwr Gyfarwyddwr a’r swyddogion perthnasol o adrannau’r Cyngor i gymryd camau angenrheidiol, o fewn pwerau statudol y Cyngor, i sicrhau safonau Iechyd a Diogelwch ym mhob maes chwarae drwy symud offer peryglus ac is-safonol o dir ym mherchnogaeth y Cyngor a chyhoeddi rhybuddion mewn perthynas ag offer ar dir ym mherchnogaeth cyrff eraill.

 

2.17     Yn derbyn mewn egwyddor :

 

      

 

2.17.1     Yr angen i sefydlu Partneriaeth Datblygu Meysydd Chwarae , ac yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith roi ystyriaeth bellach i’r mater yng nghyd-destun blaenoriaethau strategol a chyllideb y Cyngor gan gynnwys ymgynghori â’r Cynghorau Tref a Chymuned a’r sector Gwirfoddol ar y mater cyn dod i benderfyniad;

 

2.17.2     Yr angen i sefydlu Swyddog Datblygu a Swyddogion Goruchwylio gan ofyn i swyddogion perthnasol y Cyngor Sir edrych yn y lle cyntaf ar y gallu yn fewnol i gyflenwi’r swyddi ac adrodd yn ôl ar y mater.

 

      

 

2.18     Yn awdurdodi’r Rheolwr Gyfarwyddwr a swyddogion perthnasol o’r adrannau i lunio cynllun strategol drafft ar gyfer gwella cyfleusterau y gellid ei ystyried i’w fabwysiadu maes o law gan y Bartneriaeth.

 

      

 

2.19     Yn awdurdodi’r Rheolwr Gyfarwyddwr a’i swyddogion i lunio bidiau i gronfeydd allanol am gyllid i wella cyfleusterau, yn amodol ar dderbyn argymhellion y Grwp Strategaeth Chwarae y penderfynwyd ei greu yn 2.15 uchod, ac ar ymgynghori ar fyrder  gyda phlant a phobl ifanc yr Ynys ynglyn â’u dymuniadau, gyda golwg ar fanteisio i’r eithaf ar y cynlluniau cyllid cystadleuol sy’n debygol o ddirwyn i ben yn fuan, ac i lunio argymhellion ar gyfer cynlluniau hir dymor y gellid ymgynghori ar eu cynnwys gyda’r Bartneriaeth cyn eu cymeradwyo gan y Grwp Strategaeth Chwarae.

 

 

 

             R.L.OWEN

 

   Cadeirydd