Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 20 Gorffennaf 2009

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Llun, 20fed Gorffennaf, 2009

Cyfarfod o Gyngor Sir Ynys Môn

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Gorffennaf, 2009

 

PRESENNOL:

 

Y Cynghorydd O. Glyn Jones (Cadeirydd)

Y Cynghorydd Selwyn Williams (Is-Gadeirydd)

 

Y Cynghorwyr W. J. Chorlton, E. G. Davies, Lewis Davies,

Barrie Durkin, Jim Evans, C. Ll. Everett, K. P. Hughes,

T. Ll. Hughes, W. I. Hughes, W. T. Hughes, Aled Morris Jones, Eric Jones, Gwilym O. Jones, H. Eifion Jones, Raymond Jones,  R. Ll. Jones, T.H.Jones,Clive McGregor, Rhian Medi, B.Owen,

J. V. Owen, R. L. Owen, Bob Parry, OBE, G. O. Parry, MBE, Eric Roberts, G. W. Roberts, OBE, P. S. Rogers, E. Schofield, Ieuan Williams,John Penri Williams.

 

WRTH LAW:

 

 

 

 

 

Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol)

Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol)

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro

Cyfreithiwr i’r Swyddog Monitro

Swyddog Cyfathrebu

Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgor

                                            

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr K.Evans, P.M.Fowlie, D.R.Hughes, Ff.M.Hughes, R.Ll.Hughes, H.W.Thomas.

_________________________________________________________________________________

                                                  

Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd G.O. Jones.

 

Rhoes y Cadeirydd groeso cynnes i Mr. Rod Alcott (Rheolwr Perthynas ac Arbenigwr Perfformiad, Swyddfa Archwilio Cymru) ac i Mr. Alan Morris (Rheolwr Perthynas, Swyddfa Archwilio Cymru).

      

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

    Dim i’w datgan.

 

2

YR ADRODDIAD AR YR AROLYGIAD LLYWODRAETH CORFFORAETHOL

 

Rhoes Mr. Rod Alcott gyflwyniad byr ynghylch cefndir y penderfyniad gan Swyddfa  Archwilio Cymru i gynnal archwiliad llywodraethu corfforaethol.  Dywedodd bod gan y Cyngor hwn hanes hir o ymddygiad amhriodol a gwrthdaro.  Amlygwyd y problemau cyson a methiant y Cyngor i’w datrys yn y Llythyr Blynyddol a ryddhawyd gan y Rheolwr Perthynas ym mis Ionawr 2009 a oedd yn argymell bod yr Archwiliwr Cyffredinol yn cynnal archwiliad o Lywodraethu Corfforaethol yn y Cyngor oherwydd pryderon bod anawsterau yn y berthynas weithio rhwng rhai Aelodau’r Pwyllgor Gwaith a rhai Uwch Swyddogion yn cael effaith niweidiol ar y Cyngor a’i allu i gyflawni ei ddyletswyddau a oedd yn rhoi gwerth gorau.

 

Derbyniodd yr Archwiliwr Cyffredinol yr argymhelliad a chynhaliwyd yr archwiliad yn ystod Ebrill 2009 gyda’r cylch gorchwyl o geisio ateb y cwestiwn a oedd y Cyngor yn cael ei redeg yn iawn ai peidio.

 

Daeth yr archwiliad i’r casgliad bod gan y Cyngor hanes hir o beidio cael ei redeg yn iawn o adeg ei sefydlu yn 1996 hyd heddiw.  Roedd hyn wedi cael effaith andwyol ar y modd yr oedd yn cyflawni ei swyddogaethau gan ei adael mewn sefyllfa wan i gwrdd â sialensiau yn y dyfodol.  Roedd hyn oherwydd bod hunan reoliad gwan a ymddygiad amhriodol a gwrthdaro wedi cael effaith niweidiol ac wedi gwastraffu adnoddau’r Cyngor gan ei adael mewn sefyllfa wan i gwrdd â sialensiau yn y dyfodol gan gynnwys ei ddyletswydd i sicrhau gwelliant parhaus a hynny oherwydd diffyg cyfeiriad, arweiniad ac atebolrwydd corfforaethol er bod rhai nodweddion da ym mherfformiad nifer o’r gwasanaethau.  

 

Roedd yr argymhellion yn yr adroddiad yn ymwneud â datrys problemau hir sefydlog yr oedd y Cyngor wedi methu rhoi sylw iddynt. Ym marn yr Archwiliwr byddai angen cefnogaeth a her allanol ar y Cyngor er mwyn sicrhau bod yr argymhellion hyn yn cael eu gweithredu.

 

Diolchodd Arweinydd y Cyngor i Mr. Alcott am ei adroddiad.  Talodd deyrnged i staff reng flaen y Cyngor a oedd, wrth gwrs, wedi cael eu brifo gan yr hyn a ddywedwyd yn yr adroddiad.  Roedd yn cydnabod yn llawn eu bod yn gwneud gwaith ardderchog ac roedd am i hynny gael ei gofnodi’n gyhoeddus.  Roedd yr adroddiad drafft a landiodd ar ei ddesg rai wythnosau’n ôl yn boenus i’w ddarllen.  Nid oedd y fersiwn derfynol a oedd gerbron y Cyngor heddiw wedi lliniaru dim ar y siom.  Roedd o’n teimlo bod y Cyngor wedi gadael trethdalwyr Ynys Môn i lawr.  Roedd yr adroddiad hwn yn amlygu ffaeleddau’r Awdurdod yr oedd o’n aelod etholedig ohono a bellach, yn Arweinydd.

 

 

 

Roedd o’n sicr bod nifer o’r rheini a oedd yn bresennol yn y Siambr heddiw ac eraill wedi rhannu ei anesmwythyd, embaras a dicter ynglyn â’r ffaith yr ymddengys bod yr Awdurdod yn ei gyfanrwydd wedi colli golwg ar yr hyn yr oedd gwasanaethu’r cyhoedd yn ei olygu mewn gwirionedd.  Sut fedrwn ni, fel Ynys gyda thraddodiad hir o weision cyhoeddus o fri, gael ein hunain yn y sefyllfa hon?

 

 

 

Roedd o’n cytuno’n llwyr gydag argymhellion yr Archwiliwr Cyffredinol.  Sut fedrai o beidio â chytuno?  Roedd o wedi sefyll o flaen yr etholwyr am y tro cyntaf fis Mai diwethaf ar lwyfan a oedd yn dadlau dros newid ac ad-drefnu.  Gwnaeth hyn oherwydd bod y cyhoeddusrwydd gwael cyson yr oedd y Cyngor yn ei gael yn y wasg a’r cyfryngau yn niweidiol i’r holl drigolion.  Nid oedd yn helpu pan oeddech yn cael sgwrs gyda rhywun a oedd yn gofyn i chwi o ble yr oeddech yn dod ac un yn dweud Ynys Môn a rheini’n ymateb trwy ddweud “dyna lle mae’r Cyngor llwgr”.  Go brin bod y math yna o sylwadau am fod yn anogaeth i bobl fuddsoddi ar yr Ynys.  Dyna oedd yr amgyffrediad yn ei wneud i’r dyn cyffredin yn y stryd.

 

 

 

Roedd o hyd yn oed wedi cael ei synnu gan raddfa’r newidiadau y byddai’n rhaid eu gwneud.  Roedd o’n cytuno gyda’r Archwiliwr Cyffredinol bod angen i ni ddangos arweiniad i’n cymunedau, bod angen gweledigaeth strategol cydlynol ar gyfer yr Ynys a bod materion yn ymwneud ag atebolrwydd yr oedd angen rhoi sylw iddynt.  Ond roedd o hefyd yn cytuno bod y rhain yn arwydd o fethiant cyffredinol nad oeddent wedi’u cyfyngu i’r weinyddiaeth a oedd wedi bod yn ei lle ers yr etholiad diwethaf.  Roeddynt yn fethiannau i un gweinyddiaeth a chyngor ar ôl ei gilydd.  Aelodau a Swyddogion oedd yn mynd yn ôl i 1966.  Ni wnaed pethau y dylid fod wedi’u gwneud.  Yr adroddiad oedd penllanw’r holl flynyddoedd o anweithredu.  A heuir a fedir.  

 

 

 

Roedd pawb yn y Siambr hon yn gysylltiedig i ryw raddau neu’i gilydd â’r problemau yn yr awdurdod ac oherwydd gyda llywodraethu da yr Ynys.  Roedd yr Archwiliwr Cyffredinol wedi nodi gwahanol ffyrdd y gallai’r Cyngor wella pethau.  Roedd wedi rhoddi i’r Cyngor hwn y cyfle i dynnu llinell, symud i ffwrdd o’r gorffennol a chanolbwyntio’n gadarn ar y dyfodol.  Cynnig arweiniad lle na fu arweiniad eisoes er mwyn bod yn atebol am ein gweithredoedd.

 

 

 

Roedd yr Arweinydd am bwysleisio ar ran y weinyddiaeth ac er gwaethaf yr hyn a honnwyd gan eraill yn y cyfryngau neu o bosib yn y Siambr hon, y byddai’r Cyngor yn derbyn cyfrifoldeb llwyr lle yr oedd hi’n amlwg bod y cyfrifoldeb yn gorwedd gyda ni.  Roedd o’n gobeithio y byddai eraill yn y Siambr yn gwneud yn yr un modd.  Ei amcan cyffredinol am weddill ei dymor fyddai adfer hyder y cyhoedd a’i hymddiriedaeth yn yr Awdurdod.  Ymhellach, byddai’n cynnig i’r cyhoedd ac i’r Awdurdod sicrwydd na fyddai’n goddef y math o ymddygiad a nodwyd yn yr adroddiad naill o fewn ei Grwp ei hun neu’r weinyddiaeth.  Roedd o’n gwneud ymrwymiad i wneud popeth a oedd yn angenrheidiol i sicrhau na fyddai hyn byth yn digwydd eto.

 

 

 

Roedd o’n gobeithio y gallai Arweinwyr y Gwrthbleidiau gynnig iddo’r un ymrwymiad.  O safbwynt ymateb i fanylion yr argymhellion, byddai ef a’r Dirprwy Arweinydd a’r Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro yn cwrdd â’r Gweinidog dros Lywodraeth Leol fory.  Roedd wedi derbyn gair gan y Gweinidog yn rhoddi amlinelliad o’i gynigion.  Gofynnodd i’r Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro sôn am y rheini wedi iddo gwblhau ei araith.

 

 

 

Ar ôl y cyfarfod gyda’r Gweinidog ac ar ôl ymgynghori gyda’r Awdurdod, byddid yn nodi’r camau gweithredu angenrheidiol a’r amserlen ar gyfer cyflawni hynny.  Ni fedrai’r Pwyllgor Gwaith ddatrys y problemau hyn ei hun.  Roeddynt yn fethiannau ar y cyd a oedd angen gweithredu ar y cyd i’w datrys.  Roedd angen cyfaddawdu a rhoddi yn eu lle fesurau a fyddai’n caniatáu sgriwtineiddio’n effeithiol benderfyniadau’r Cyngor heb ollwng gwybodaeth a heb bardduo.  Roedd yn golygu galluogi’r rheini y tu allan i’r Weinyddiaeth fel eu bod yn teimlo’n rhan o’r Cyngor hwn.  Roedd angen rheolaeth.  Yn bwysicach byth, roedd yn golygu gweithio gyda’n gilydd.  Unwaith eto, cynigiodd law cyfeillgarwch i’r rheini y tu allan i’r weinyddiaeth a gofynnodd iddynt weithio gyda’i gilydd er budd pobl Ynys Môn.

 

 

 

Roedd o’n credu’n gryf yn y cysyniad o wasanaeth cyhoeddus a oedd wedi’i arwain o drwy ei fywyd cyhoeddus.  Roedd yn parhau i’w arwain ers ei ethol y flwyddyn diwethaf fel aelod etholedig o’r Awdurdod hwn.  Nid oedd gwasanaeth cyhoeddus yn ymwneud â phwer na mantais ariannol ac nac ychwaith a gwneud i ffwrdd ag egwyddorion gwleidyddol hir sefydlog fel eich bod yn gallu parhau i ddal gafael ar yr hyn sydd gennych yn barod. Yn hytrach, roedd yn ymwneud ag arweiniad, gwneud yr hyn a oedd yn iawn i’ch cymuned, rhoi sylw i’r sialensiau mawr a oedd yn wynebu’r Ynys.  Roedd hefyd yn ymwneud ag ymddiried yno i wneud y pethau hyn a bod yn atebol.  Ond roedd y syniad wedi ei golli mewn niwl o fendetas dibwys, dialgar a phersonol am llawer rhy hir.  Roedd hi’n hen bryd i’r Cyngor ailddysgu hyn o’r newydd.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro wrth y Cyngor bod y llythyr gan y Gweinidog yn datgan ei fod wedi ystyried yn ofalus adroddiad yr Archwiliwr a’i fod yn cytuno gyda’r argymhellion i wella’r Cyngor hwn.  Roedd o’n cydnabod yn ei lythyr bod y sefyllfa hon yn un ddigyfellyb a newydd iddo ef a’r Cynulliad.  Roedd o’n rhoi tan ddiwedd y mis i’r Cyngor ymateb iddo ar bapur gyda’i sylwadau ar yr ymyriad.

 

 

 

Yn y lle cyntaf, roedd y Gweinidog yn bwriadu penodi Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro i redeg y Cyngor ac y byddai’n rhoi cyfarwyddyd i’r holl Gyngor gydweithio’n llawn gyda’r person hwnnw i gyflawni amcanion y Cynllun Gweithredu a fyddai’n rhoi sylw i’r gwendidau a nodwyd yn adroddiad yr Archwiliwr.  Byddai hefyd yn sefydlu Bwrdd arbenigol i fonitro sut yr oedd y Cyngor yn ymateb i’r gofynion yn ystod y 18 mis nesaf.  Fodd bynnag, byddai’r Gweinidog yn barod i ddefnyddio pwerau pellach petai ymateb y Cyngor yn ystod y cyfnod hwnnw yn annerbyniol.  Roedd cynnwys y llythyr yn newid yn sylweddol yr argymhellion a gyflwynwyd yn yr adroddiad a baratowyd gan y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro i’r Cyngor heddiw a byddai’n rhaid ei ddiwygio i adlewyrchu hyn.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd R.G. Parry, OBE, bod hwn yn ddiwrnod trist iawn i Ynys Môn.  Yn sicr, roedd angen gwneud rhywbeth ac roedd y Gweinidog wedi sylweddoli pa mor ddifrifol oedd y sefyllfa ym Môn.  Gyda gobaith, byddai modd i’r Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro roi sylw i’r sefyllfa.  Nid oedd dewis arall ar gael.  Onid oedd y Cyngor hwn yn gwella’r modd yr oedd yn ymddwyn ac yn gweithredu, yna byddai’r Gweinidog yn cymryd camau ychwanegol.  Ategodd at y sylwadau a wnaed yn gynharach gan yr Arweinydd ynglyn â’r gwaith a wnaed gan y staff mewn amgylchiadau anodd iawn.  Roedd y Gwasanaethau a ddarparwyd ar gyfer pobl Môn ymysg y gorau yng Nghymru a chydnabuwyd hynny yn adroddiad yr Archwiliwr.  Hoffai gofnodi ei werthfawrogiad i’r staff.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd H. Eifion Jones bod raid i’r Cyngor yn awr edrych ar newid y diwylliant i un o weithio mewn partneriaeth gyda chyd Gynghorwyr a Swyddogion fel ei gilydd.  Os oedd y Pwyllgor Gwaith cyfredol am aros yn eu swyddi, roedd o o’r farn bod angen edrych yn fyr ar eu perfformiad yn ddiweddar.  Daeth y Pwyllgor Gwaith cyfredol i rym heb faniffesto ac o’r herwydd, heb unrhyw bolisïau y cytunwyd arnynt.  Ddeuddeng mis yn ddiweddarach, doedd dim cyfeiriad byth.  Roedd y ffaith bod y berthynas rhwng y Tîm Rheoli Corfforaethol (TRhC) a’r Pwyllgor Gwaith yn rhwystro’r TRhC rhag gweithredu ar ei swyddogaeth gyfreithlon sef herio a cefnogi aelodau i ddatblygu polisi a chyfeiriad.  Roedd hyn wedi arwain at oedi gyda materion megis dyfodol ysgolion a chanolfannau hamdden ac anwybyddwyd y goblygiadau ariannol amlwg.

 

 

 

Dywedodd mai blaenoriaeth y Pwyllgor Gwaith oedd Graigwen, sef mater oedd o ddim consyrn i drigiolion Ynys Môn ond a oedd yn obsesiwn gyda rhai Cynghorwyr.  Arweiniodd hyn at erydiad ymddiriedaeth rhwng y naill ochr a’r llall ac, yn y pen draw, anfonwyd llythyr gan y cyn Arweinydd ar ran y Pwyllgor Gwaith at yr Archwilwyr yn hynod feirniadol o’r TRhC a dim ond ar ôl derbyn cais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth y cafodd y llythyr ei rannu gyda nhw. Roedd yr ymateb a gafwyd gan y TRhC yn dangos yn amlwg eu bod nhw o’r farn bod nifer o’r honiadau difrifol a wnaed yn anwir.  Fodd bynnag, methodd y Pwyllgor Gwaith a’u tynnu’n ôl neu hyd yn oed ddarparu ymateb ffurfiol.  Roedd o’n teimlo y byddai’n anodd symud ymlaen hyd oni fyddid wedi derbyn ymddiheuriad llawn.  Oherwydd y gost sylweddol sy’n debygol yn sgil ymyriad y Cynulliad, efallai y byddai angen hefyd ymddiheuro i Dreth Dalwyr y Cyngor.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Jones wedi teimlo ers peth amser y byddai system Bwrdd yn well i Ynys Môn lle yr oedd y rhan fwyaf o ymgeiswyr yn sefyll fel aelodau annibynnol ac o’r herwydd ddim wedi’u hethol i unrhyw Grwp, a lle yr oedd partïon gwleidyddol yn anaml yn canolbwyntio ar bolisïau.  Nid oedd yr opsiwn hwn yn yr adroddiad ond un argymhelliad allweddol oedd newid y trefniadau gwleidyddol ym mhen 12 mis er mwyn caniatáu cael Pwyllgorau a oedd yn hollol annibynnol ar y Pwyllgor Gwaith.  Yn ei farn o, dyma oedd yr unig ffordd ymlaen oherwydd rhaid i’r Cyngor weithio mewn partneriaeth ac ar sail gynhwysol gan ddefnyddio doniau pawb.  Rhaid derbyn adroddiad yr Archwiliwr yn ei gyfanrwydd a rhaid i’r Cyngor fod yn hollol ymrwymedig i weithredu ar sail barhaol a rhaid i’r Cynulliad sicrhau ei fod yn cydymffurfio’n llawn gyda’r adroddiad.  Er budd trigolion a staff, rhaid adfer enw da’r Cyngor.  Ni ddylid goddef ymddygiad neu berfformiad gwael yn arbennig gan y rheini sy’n cael eu talu.  Yn bennaf, roedd angen gwell arweiniad a chyfeiriad gwleidyddol ar y Cyngor a gyda gobaith, byddai Rheolwr-gyfarwyddwr newydd yn gyrru y broses o wella gwasanaethau i drigolion.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd T.Ll. Hughes ei fod yn derbyn cynnwys yr adroddiad ac eithrio’r ffaith y dylai’r adroddiad, er budd tryloywder, fod wedi enwi’r bobl hynny a oedd wedi achosi’r sefyllfa y mae’r Cyngor ynddi heddiw.

 

 

 

Cytunodd y Cynghorydd C.Ll. Everett gyda’r farn honno.  Cyfeiriodd hefyd at y ffaith ei fod wedi rhoddi Rhybudd o Gynigiad i’r Cyngor ar 30 Mehefin, lle yr oedd o, fel cyn Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio, wedi nodi bod yna swyddogion yn yr Awdurdod a oedd yn derbyn cyfarwyddiadau ar lafar gan Aelodau Portffolio ac y dylai fod cofnod ysgrifenedig o’r cyfarwyddiadau hyn.  Fodd bynnag, pleidleisiodd y Cyngor yn erbyn y cynigiad oherwydd ei fod o’r farn bod digon o brotocolau yn eu lle. Fodd bynnag, roedd Para 82 yn adroddiad yr Archwiliwr yn cadarnhau ei Rybudd o Gynigiad yn hyn o beth.  Roedd o’n gobeithio pan fydd y Cyngor yn ystyried y pwynt hwn eto, y byddai’n derbyn y cefnogaeth y mae’n ei haeddu.  Roedd o’n cytuno hefyd bod rhai materion yn mynd yn ôl dros nifer o flynyddoedd ond roedd o o’r farn bod yna faterion yn yr adroddiad y gellir yn amlwg eu priodoli i’r weinyddiaeth newydd.  Roedd yr ymyriad ar ddiwedd y dydd yn ymwneud â 40 aelod y Cyngor ac nid ar y modd y darperir Gwasanaethau.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd P.S. Rogers yn croesawu cynnwys yr adroddiad.   Gofynnodd pam nad oedd y Cyngor hwn wedi ceisio datrys rhai o’r problemau yn y cyfnod ers i’r Archwilwyr gyrraedd yn y Cyngor hwn oddeutu 16 wythnos yn ôl? Cyfeiriodd hefyd at y ffaith bod y Cynghorydd Everett, fel aelod o Wrthblaid wedi cael ei ddisodli o Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio gan Aelod Rhydd.  Os oedd y Cyngor hwn am symud ymlaen, roedd angen i Bwyllgorau Sgriwtini fod yn nwylo’r Wrthbleidiau fel bod ganddynt rôl yn y modd y mae’r Cyngor yn cael ei redeg. Roedd o hefyd yn credu y dylai’r Cyngor ddwyn i ben heddiw y mater o brynu Craigwen.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Rhian Medi o’r farn bod y problemau sy’n wynebu’r Cyngor hwn heddiw wedi cael eu trosglwyddo gan yr hen Gyngor Sir yn ôl yn 1996.  Roedd yna deimlad cryf ymysg rhai o’r aelodau ac ymysg y cyhoedd yn gyffredinol mai’r unig ffordd ymlaen fyddai i’r Cyngor hwn gael ‘madael o gynghorwyr trafferthus ac yna byddai’r problemau hynny’n diflannu.  Doedd hi ddim yn meddwl mai Pwyllgor Gwaith ac arno gydbwysedd gwleidyddol oedd ateb oherwydd rhwng 1999 a 2004 cafwyd clymblaid ar y Pwyllgor Gwaith oedd yn cynnwys trawsdoriad o wahanol wleidyddion. Wnaeth hynny ddim gweithio oherwydd daeth yn amlwg yn fuan iawn mai ymarfer sgorio pwyntiau ydoedd gydag agendas cudd.  Ar ddiwedd y dydd, mater o bersonoliaethau ydoedd, pobl ddim yn gallu gweithio gyda’i gilydd a hen hanes.  Nid oedd yr aelodau’n gallu trafod yn rhesymol na rhesymoli eu dadleuon.  Oherwydd y sefyllfa y mae’r Cyngor hwn yn ei wynebu yn awr, roedd pobl ifanc yn symud i ffwrdd o’r Ynys ac nid oeddynt eisiau dychwelyd.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Raymond Jones o’r farn y dylai’r Cyngor yn awr weithio gyda’i gilydd, rhoddi gwleidyddiaeth pleidiau i un ochr a pawb weithio er budd yr Ynys.  Roedd o’n cydnabod bod yna elfen drafferthus yn y Cyngor ac roedd o’n cytuno gyda’r datganiad y dylid enwi a chodi cywilydd ar yr aelodau hynny.  Roedd aelodau eraill y Cyngor yn cael eu hystyried yn yr un modd.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd John Penri Williams i’r Cyngor edrych i’r dyfodol a pheidio canolbwyntio ar y gorffennol.  Roedd ymddygiad priodol o du’r aelodau yn hanfodol os oedd y Cyngor hwn yn mynd yn ei flaen.  Byddai’n cywilyddus oni fedrai’r Cyngor hwn gyflawni o fewn 12 mis y targedau hynny a osodwyd yn yr adroddiad Archwiliad Corfforaethol.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd B. Durkin nad oedd wedi cymryd llawer heddiw i weld y diwylliant o feio yn amlygu ei hun yn y Cyngor hwn.  Os oedd codi materion gweithgareddau anghyfreithlon i gael ei drin fel modd o ddifenwi ac erlid, rhywbeth a ganiatawyd gyda’r sicrwydd o imiwnedd, oedd hi’n syndod o gwbl bod y Cyngor yn y sefyllfa hon heddiw.  Wrth dynnu llinell dan y gorffennol roedd o’n dal yn gobeithio y byddai modd datrys materion difrifol yr oedd dal angen sylw.  

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd W.J. Chorlton yn dymuno dweud o’r cychwyn ei fod yn derbyn cynnwys yr adroddiad.  Roedd o o’r farn bod yna nifer o bobl yn gweithio yn y cefndir yn achosi mwy o helbul nag y gallai ef byth ei achosi yn y Siambr hon ac yn defnyddio pobl eraill i wneud eu gwaith budr iddynt.  O leiaf roedd o wedi dod i mewn drwy’r drws ffrynt ac nid y drws cefn.

 

      

 

     Aeth ymlaen i ddweud bod raid i’r Cyngor roi pethau y tu ôl iddo ond roedd hyn yn anodd pan geir ymosodiadau megis yr un a wnaeth y Cynghorydd Durkin yn gynharach ynghylch Graigwen.  Oherwydd dyna oedd o yn cyfeirio ato.  Rwan, roedd pawb yn gwybod y gwnaed camgymeriad gyda Graigwen, ac roedd o’n bersonol yn dal ei ddwylo i fyny.  Fodd bynnag, camgymeriad technegol ydoedd ac nid oedd unrhyw beth llwgr neu anghyfreithlon wedi digwydd.  Roedd yn anghyfreithlon i’r graddau yr oedd Cyfansoddiad y Cyngor ynddi.  Os oedd y mater hwn am gael ei godi dro ar ôl tro, nid oedd y Cyngor am fedru symud ymlaen.  

 

      

 

     Mewn ymateb, dywedodd y Cynghorydd B. Durkin os oedd y Cynghorydd Chorlton yn meddwl ei fod yn cyfeirio at Graigwen, yna roedd o wedi gwneud camgymeriad trist.  Roedd y Cynghorydd Chorlton yn y Siambr dim ond yr wythnos diwethaf pan gyfeiriodd o [y Cynghorydd Durkin] at ffeil oedd ganddo yn llawn o faterion y mae angen rhoddi sylw iddynt ac sy’n rhai difrifol iawn, iawn.  Roedd o wedi treulio pum mlynedd yn codi’r materion hyn.  Roedd yr Archwilwyr wedi delio gyda’r materion ac wedi dweud yn union beth yr oedd o yn ei ddweud sef eu bod yn anghyfreithlon.  Yn ei farn o, nid y cyfarfod o reidrwydd oedd wedi gwneud y penderfyniad anghyfreithlon ond yr hyn a ddigwyddodd wedyn pan aeth Uwch Swyddogion at ei gilydd a phenderfynu bod pethau’n iawn, doedd dim ots bod y mater yn anghyfreithlon, dim ond symud ymlaen.  Dyna ddigwyddodd a doedd hynny ddim yn iawn ac nid oedd y mater wedi cael sylw.  Ond roedd yna faterion difrifol eraill, materion yr oeddem ni wedi’u gweld a materion y gwnaed rhaglenni teledu yn eu cylch yn codi materion ynghylch ceisiadau cynllunio a cheisiadau croes yn torri rheolau’r Cyfansoddiad a’r rheolau Gweithdrefn Cynllunio.  Ni ymdriniwyd â’r rhain ac roedd o’n hynod falch bod ymyriad yn digwydd oherwydd byddai’n caniatáu iddo wedyn ofyn i’r Bwrdd Ymyrraeth edrych ar y materion hynny.  Profwyd rhai o’r materion hynny gan bod y rheini a oedd yn gysylltiedig â nhw wedi cyfaddef eu bod yn euog ac eto, ni wnaethpwyd dim yn eu cylch.  Felly, os oedd y Cynghorydd Chorlton yn meddwl ei fod o yn cyfeirio at Graigwen, yna, fe ailadroddodd, doedd o ddim.  Roedd yna nifer o faterion yr oedd angen delio gyda nhw ac yn wir roedd yn rhaid delio gyda nhw.  

 

      

 

     Croesawodd y Cynghorydd G.W. Roberts, OBE, yr adroddiad.  Doedd hi ddim am fod yn hawdd ond roedd angen ymrwymiad o du’r holl bartïon.  Yn ôl yr adroddiad, roedd y berthynas rhwng y Pwyllgor Gwaith a’r TRhC wedi torri i lawr yn llwyr.  Derbyniodd bod gwrthdaro mewn personoliaethau dros y blynyddoedd ac roedd o’n cynnwys ef ei hun yn hynny.  Roedd yr amser a dreuliodd swyddogion yn ymchwilio i gwynion ar naill ochr a’r llall wedi gwastraffu amser ac adnoddau gwerthfawr.  Roedd cyfle yma heddiw i roddi mater Graigwen o’r neilltu.  Gofynnodd i’r Arweinydd gytuno nad oedd angen mynd ar ôl y mater ymhellach.  Roedd archwilwyr allanol a Heddlu Gogledd Cymru wedi dod i’r casgliad nad oedd unrhyw beth amhriodol wedi digwydd ar adeg prynu’r eiddo.

 

      

 

     Mewn ymateb, dywedodd yr Arweinydd ei fod wedi derbyn llythyr gan yr Heddlu yn dilyn eu hymchwiliad i’r mater a’u bod wedi bod i’r casgliad na fyddai ymchwiliad Heddlu i fater prynu Graigwen.  Aeth ymlaen i ddweud bod y llythyr yn dweud bod y mater, fe wyddys, wedi bod yn un cynhennus am beth amser ac wedi achosi dadleuon a beirniadaeth yn yr awdurdod.  Roedd yna faterion a oedd yn ymwneud â phrynu Graigwen y byddai’n fwy priodol i’r prosesau Archwilio Mewnol a Sgriwtini ddelio â nhw ac roeddynt y tu hwnt i faes gwaith yr Heddlu.  Nid oedd yr Heddlu wedi cynnwys mân achosion o dorri y Ddeddf Llywodraeth Leol gyda’r adolygiad o’r dystiolaeth.

 

      

 

     O safbwynt y Pwyllgor Gwaith, dyna ddiwedd y mater.  Roedd Graigwen wedi cau.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd G.W. Roberts,OBE, pam oedd y cyn Rheolwr-gyfarwyddwr wedi gadael yr Awdurdod?

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro wrth y Cyngor nad oedd mater cyflogaeth y cyn Rheolwr-gyfarwyddwr i’w drafod yn y Siambr heddiw.  Roedd y Cyngor wedi trafod y mater hwn yn llawn yn ei gyfarfod ar 27 Mawrth ac roedd amodau llym ynghlwm wrth y cytundeb hwnnw.  Nid oedd yn yr adroddiad unrhyw gyfeiriad o gwbl at y ffaith ei fod wedi gadael ac eto, roedd o o’r farn y byddai’n amhriodol trafod y mater hwn heddiw.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd W.J.Chorlton yn derbyn cynnwys yr adroddiad.  Fodd bynnag, roedd o’n herio’r datganiad a wnaed yn gynharach gan yr Arweinydd oherwydd nid oedd o’n meddwl bod y Cyngor yn llwgr mewn unrhyw fodd.  Roedd o’n gobeithio y byddai’r Arweinydd yn barod i dynnu’r sylwadau hynny’n ôl.

 

      

 

     Dywedodd yr Arweinydd mewn ymateb mai’r cyfan a wnaeth oedd ailadrodd yr hyn a ddywedwyd wrtho gan aelodau’r cyhoedd ac os mai dyna oedd ei amgyffrediad nhw, yna roedd yn ddrwg iawn ganddo.  Nid dyna oedd ei amgyffrediad o ond dyna oedd amgyffrediad nifer fawr o bobl o’r tu allan am y Cyngor.  Nid oedd o’n bwriadu tynnu’r hyn a ddywedodd yn ôl oherwydd mai amgyffrediad yn unig ydoedd.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Cynghorydd W.J. Chorlton at y ffaith y gwnaed haeriadau yn erbyn uwch swyddogion o’r Cyngor.  Dywedodd y Cynghorydd R.G. Parry ar y radio y diwrnod o’r blaen y byddai’n ymddiheuro i’r swyddogion hynny.  Roedd o’n gobeithio felly y byddai’r Pwyllgor Gwaith i gyd yn ymddiheuro i’r swyddogion hynny am yr hyn a ddywedwyd.

 

      

 

     Roedd Craigwen yn camgymeriad cyfansoddiadol ond nid oedd unrhyw beth llwgr neu anghyfreithlon wedi digwydd.  Yn ei farn o nid oedd y gwrthbleidiau wedi cael y cyfle i drafod rhai materion ac roedd angen gwneud hynny cyn y gallai’r Cyngor hwn symud ymlaen.  Unwaith eto, cynigiodd law cyfeillgarwch i’r blaid sy’n rheoli yn y gobaith y gellid symud ymlaen.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd J.V. Owen y bu gormod o adroddiadau damniol dros y blynyddoedd ynghylch ffaeleddau’r Cyngor.  Roedd o o’r farn mai’r prif fethiant oedd nad oedd y Gwrthbleidiau wedi cael y cyfle i sgriwtineiddio penderfyniadau a wnaed ers sefydlu’r Pwyllgor Gwaith.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd K.P. Hughes yn derbyn yr argymhellion a oedd yn yr adroddiad.  Gydag ewyllys da y mwyafrif roedd o’n meddwl ei bod hi’n bosibl i’r Cyngor gyflawni’r targedau hynny.  Gofynnodd i’r Cyngor beidio â bod yn rhy frysiog yn y cyswllt hwn oherwydd câi canlyniadau’r penderfyniadau hynny effaith ar ffyniant yr Ynys yn y dyfodol.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Bryan Owen yntau’n croesawu’r adroddiad.  Roedd o’n dymuno dwyn i sylw’r Cyngor bod cyn Arweinydd y Cyngor, cyn yr archwiliad hwn, wedi cyfarfod gyda’r Archwilwyr yn Llangefni ac y rhoddwyd y neges iddo ar y pryd nad oedd y Cyngor yn gweithio’n iawn a bod angen eu cefnogaeth er mwyn datrys rhai problemau.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd G.O. Parry, MBE, yn dymuno gwneud rhai cywiriadau i’r adroddiad sef pan oedd y cyn Bwyllgor Gwaith mewn grym a phan oedd hi’n amser pennu treth y Cyngor, roeddynt wedi gofyn i Gynulliad Cymru am ychwaneg o gyllid.  Cawsant gyfraniad ond yn lle ychwanegu at dreth y Cyngor, aethant ati i bennu un o’r trethi Cyngor isaf yng Nghymru ac roedd y 21 Awdurdod arall yng Nghymru yn chwerw iawn ynghylch hyn.  Hefyd, roedd tanwariant a oedd oddeutu £1.2m ar Wasanaethau Cymdeithasol ac nid oedd unrhyw gontract mewn lle ar gyfer prydau ysgol.

 

      

 

     Aeth ymlaen i gynnig bod yr adroddiad a’r argymhellion ynddo’n cael eu derbyn.  Roedd o’n ymwybodol bod y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro wedi rhoi argymhellion pellach yn ei adroddiad i’r Cyngor heddiw ond roedd o’n cynnig na ddylid cymryd unrhyw gamau pellach tan oedd y Cyngor yn gwybod beth oedd safiad y Gweinidog.  Gallai unrhyw beth y cytunwyd arno heddiw fod yn gynamserol a gallai lesteirio’r Cyngor rhag symud ymlaen o fewn ei Gyfansoddiad.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro yr Aelodau at Adran 2 ei adroddiad.  Roedd y drafodaeth yn y Siambr heddiw wedi ymwneud â pham yr oedd y Cyngor wedi cyrraedd y pwynt yma, roedd hi’n annhebygol y byddai cyfarfod arall o’r Cyngor cyn canol mis Medi.  Roedd hynny’n gyfnod rhy hir oherwydd roedd angen gwneud penderfyniadau yn y cyfamser er mwyn delio gyda rhai gwendidau a nodwyd yn yr adroddiad ar yr archwiliad.  Ers cychwyn yr Archwiliad 16 wythnos yn ôl, roedd aelodau a swyddogion wedi bod yn ceisio rhoi sylw i rai o’r gwendidau a nodwyd, y broses gyfathrebu, rheoli perfformiad, delio gyda chwynion ac ati.  Cynhaliwyd cyfarfodydd yn rheolaidd rhwng swyddogion ac Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol yn ystod y cyfnod hwnnw.  Roedd hi am gymryd amser i’r Gweinidog benodi Rheolwr-gyfarwyddwr interim a’r Bwrdd Ymyrraeth ac ni ddylai’r Cyngor heddiw, yn ei farn o, gytuno ar unrhyw beth a fyddai’n clymu eu dwylo.  Fodd bynnag, roedd rhai o’r argymhellion a oedd yn yr adroddiad Archwiliad yn dod i rym o 16 Gorffennaf, 2009 ac roedd y cloc o’r herwydd wedi cychwyn ticio.

 

      

 

     Aeth y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro ymlaen i gyfeirio’r aelodau at gynnwys ei adroddiad a oedd yn dweud bod yr Archwiliwr Cyffredinol, ar 15 Gorffennaf 2009, wedi cyhoeddi adroddiad ar lywodraethu corfforaethol yng Nghyngor Sir Ynys Môn yn dilyn archwiliad ar yr agwedd hon o waith y Cyngor gan y rheoleiddwyr ym Mawrth ac Ebrill 2009.  Cafwyd consensws ar draws y grwpiau gwleidyddol a’r Tîm Rheoli Corfforaethol y dylid croesawu’r adroddiad a derbyn yr argymhellion ynddo.  Ynghlwm wrth yr adroddiad hwn, er gwybodaeth, roedd copi o’r datganiad i’r wasg a ryddhawyd ar ran y Cyngor gan y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro.

 

      

 

     Yn ychwanegol at gyflwyno saith o brif argymhellion, penderfynodd yr Archwiliwr Cyffredinol hefyd i argymell i Weinidogion Llywodraeth Cynulliad Cymru y dylent roddi cyfarwyddyd i’r Cyngor gymryd y camau angenrheidiol i weithredu ar y cyfan o’r argymhellion o fewn 18 mis i gyhoeddi’r adroddiad ynghyd â chydweithio gyda’r Bwrdd a fydd yn cael ei sefydlu i oruchwylio’r gwaith o weithredu’r argymhellion hyn.

 

      

 

     Mewn datganiad i’r Cynulliad ar 15 Gorffennaf 2009, cyhoeddodd Dr Brian Gibbons, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol yng Nghymru, ei fwriad i ymyrryd yn y modd y câi’r Cyngor ei redeg.  [Roedd copi o’i datganiad ynghlwm wrth yr adroddiad hwn].  Ar adeg ysgrifennu’r adroddiad, nid oedd hi’n glir i ba raddau y byddai Llywodraeth y Cynulliad yn ymyrryd yn rhedeg y Cyngor.  Trefnwyd cyfarfod rhwng Dr Brian Gibbons AC, y Dirprwy Arweinydd a’r Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro ar 21 Gorffennaf 2009, ac roedd hi’n debygol y byddai canllawiau cychwynnol ychwanegol yn cael eu rhoddi yn y cyfarfod hwn ynghylch y cynigion ac y deuai’r mater yn gliriach dros yr ychydig wythnosau nesaf ac y byddai cyhoeddiad pellach yn dilyn gan y Gweinidog yn y Cynulliad yn gynnar ym mis Medi.

 

      

 

     Oherwydd yr ansicrwydd a amlinellir uchod, roedd hi’n anodd cyflwyno strategaeth benodol ar hyn o bryd i fynd i’r afael â’r argymhellion yn adroddiad yr Archwilwyr, ond wrth ystyried bod raid gweithredu ar ofynion yr argymhellion o fewn cyfnod penodedig fel y cafodd hynny ei nodi yn yr adroddiad, awgrymwyd bod angen i’r Cyngor roddi sylw i rai materion ar unwaith.

 

      

 

     Wrth ystyried yr angen i gymryd camau ar unwaith i fynd i’r afael â’r prif wendidau a nodwyd yng nghanfyddiadau’r adroddiad, argymhellwyd y dylai’r Panel sefydlu Panel arbennig ac arno gydbwysedd gwleidyddol i oruchwylio’r gwaith o lunio polisïau ac adolygu’r gweithdrefnau gyda uwch swyddogion ac adrodd ar gynnydd i’r Pwyllgor Gwaith a’r Cyngor Sir fel sy’n briodol.  Byddai brîff a swyddogaethau’r Panel hwn yn amodol ar y trefniadau a ddeuai i rym pan gâi’r Bwrdd Ymyrryd ei sefydlu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

 

      

 

     Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Mawrth 2009, penderfynodd y Cyngor Sir fel a ganlyn:

 

      

 

     “Bod y broses o recriwtio olynydd i’r  Rheolwr-gyfarwyddwr yn cael ei gyfeirio i’r Panel Apwyntiadau i’w ystyried ymhellach a gwneud argymhellion i’r Cyngor”.

 

      

 

     Fodd bynnag, ers adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn, dywedodd y Gweinidog y byddai’n penodi Rheolwr-gyfarwyddwr Interim ac roedd y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro o’r farn o’r herwydd nad oedd angen symud ymlaen ar hyn o bryd i benodi olynydd.

 

      

 

      

 

      

 

     Roedd hi’n amlwg y byddai angen adnoddau ychwanegol ar y Cyngor o safbwynt ariannol ac arbenigedd staff er mwyn ymateb yn llawn ac yn briodol i ofynion yr adroddiad.  Argymhellwyd y dylai Arweinydd y Cyngor gael yr awdurdod i drafod y gofynion hyn gyda’r Arweinydd a Phrif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a hynny ar unwaith gan bwysleisio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yr angen am gymorth ychwanegol i’r Cyngor yn y tymor byr. Byddai angen i’r Cyngor hefyd gymryd i ystyriaeth y posibilrwydd y bydd angen iddo efallai gwrdd â chostau llawn neu rannol y Bwrdd Ymyrraeth unwaith y byddai wedi’i sefydlu.

 

      

 

     Un o’r prif argymhellion yn adroddiad yr Archwilwyr oedd yr angen i’r Cyngor gryfhau’r modd yr oedd yn llunio ac yn sgriwtineiddio ei benderfyniadau ac y dylai ddatblygu prosesau gwneud penderfyniadau sy’n fwy cadarn a chynhwysol.  Argymhellwyd y dylai’r Panel Moderneiddio gychwyn ar y gwaith o ddiwygio’r rhannau perthnasol o Gyfansoddiad y Cyngor a fyddai’n ei alluogi i ddatblygu gwell gweithdrefnau ar agweddau sgriwtini ac adrodd i’r Cyngor ar ei gynnydd yn hyn o beth.  Yn yr un modd, roedd hi’n amlwg y byddai’n rhaid i waith y Panel Moderneiddio fod yn amodol ar y trefniadau y bwriedid eu cyflwyno ar gyfer y Bwrdd Ymyrraeth.

 

      

 

     Yn ystod yr wythnosau diwethaf, roedd y Pwyllgor Gwaith a’r Tîm Rheoli Corfforaethol eisoes wedi cychwyn ar y dasg o ymateb i rai o’r gwendidau penodol yn y trefniadau llywodraethu megis cryfhau’r trefniadau Cwynion Corfforaethol, gwella’r trefniadau Rheoli Perfformiad Corfforaethol, a hynny trwy ymateb yn fwy corfforaethol i ganlyniadau’r cyfarfodydd monitro chwarterol yn yr Adrannau a datblygu system fwy cynhwysfawr o reoli prif feysydd risg y Cyngor.

 

      

 

     Roedd y berthynas rhwng y Pwyllgor Gwaith a’r Tîm Rheoli Corfforaethol, a chyda arweinyddion y grwpiau gwleidyddol a’r uwch swyddogion hefyd wedi’i chryfhau drwy gyfarfodydd rheolaidd, rhai ffurfiol ac anffurfiol, i friffio aelodau ar agweddau o brif faterion busnes y Cyngor.

 

      

 

     Roedd yr Archwiliwr Cyffredinol wedi rhoddi rhybudd o fis i’r Cyngor ddatrys yr anawsterau mewnol mewn perthynas â phrynu eiddo Craigwen, yn Amlwch.  Argymhellwyd bod y Cyngor yn rhoddi awdurdod i arweinyddion grwpiau gwleidyddol a’r Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro, mewn ymgynghoriad gyda’r swyddogion perthnasol, i gydweithio ar ddatrys y broblem hon gyda golwg ar roddi gwybod i’r Archwiliwr Cyffredinol ym mhen mis a fydd modd sefydlu consensws i gau’r mater hwn unwaith ac am byth ac i adrodd ar gynnydd ar y trafodaethau hyn yn rheolaidd i Gadeirydd y Cyngor.

 

      

 

     Yn ei adroddiad dywedodd yr Archwiliwr Cyffredinol yn gryf nad oedd o’n feirniadol o safon y gwasanaethau rheng flaen a ddarperir gan y Cyngor i’r trethdalwyr a chymunedau Ynys Môn na’r staff oedd yn darparu’r gwasanaethau hyn.  Argymhellwyd bod y Cyngor yn rhoddi’r awdurdod i’r Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro ysgrifennu at holl aelodau’r staff yn nodi gwerthfawrogiad aelodau etholedig y Cyngor i’r gwaith a wnaed gan y staff yn y gwasanaethau a’u cymorth a’u teyrngarwch i’r Cyngor yn ystod y cyfnod anodd hwn.

 

      

 

     Gofynnwyd i aelodau’r Cyngor Sir drafod y materion uchod a phenderfynu ar yr argymhellion.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd G.O. Parry, MBE na ddylai’r Cyngor dderbyn yr argymhellion ym Mharagraff 2.1. (sefydlu Panel arbennig, ac arno gydbwysedd gwleidyddol, i oruchwylio’r gwaith o lunio polisïau a diwygio gweithdrefnau gydag uwch swyddogion) a 2.2 (penodi olynydd i’r Rheolwr-gyfarwyddwr) o’r adroddiad.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd W.J. Chorlton welliant sef “bod Bwrdd ac arno gynrychiolaeth o’r holl Grwpiau yn seiliedig ar gydbwysedd gwleidyddol yn cael ei sefydlu i weithio gyda’r Bwrdd Ymyrraeth i weithredu ar ofynion yr Achwiliad o Lywodraethu Corfforaethol a helpu i wella holl agweddau ar waith y Cyngor, ac y dylai’r Bwrdd hwn gael hawl i weithredu.  Dylai’r Arweinydd cyfredol a’i Ddirprwy wasanaethu ar y Bwrdd yn rhinwedd ei swyddi ac nad oedd raid iddynt fod yn rhan o’r clandriad o gydbwysedd gwleidyddol.   Ni ddylai swyddi’r Arweinydd neu Ddirprwy gael ei herio am o leiaf 12 mis fel y gall y Cyngor ganolbwyntio ar gael y Cyngor yn ôl ar y trywydd iawn heb unrhyw ymyrraeth gan aelodau eraill.”

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro bod yna wahaniaeth sylfaenol rhwng cynnig y Cynghorydd Chorlton a’r un a awgrymodd ef, oherwydd bod ei gynnig o yn ymwneud â sefydlu Panel hyd nes y byddai’r Bwrdd Interim wedi’i sefydlu.  Roedd cynnig y Cynghorydd Chorlton yn mynd ymhellach na hynny ac yn clymu dwylo’r Bwrdd Ymyrraeth.

 

      

 

     Roedd Cyfarwyddwraig y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro yn cynghori’n gryf yn erbyn cynnig y Cynghorydd Chorlton gan ei fod yn ymwneud â newid y Cyfansoddiad yn nhermau rhoi gwarchodaeth i Arweinydd a Dirprwy Arweinydd y Cyngor.  i wneud hynny, byddai’n rhaid  mynd drwy’r Pwyllgor Gwaith ac yna i’r Pwyllgor llawn.  Ni fedrid gwneud hynny ar sail y gwelliant a roddwyd ymlaen gan y Cynghorydd Chorlton.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd P.S. Rogers welliant i gynnig y Cynghorydd G.O. Parry, sef y dylai’r Cyngor dderbyn argymhelliad 2.1 yn adroddiad y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro, a hynny er budd symud pethau ymlaen hyd oni fyddai’r Bwrdd Ymyrraeth wedi cael ei sefydlu’n ffurfiol.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd R.G. Parry, OBE welliant pellach i gynnig y Cynghorydd G.O. Parry sef yn lle cyfeirio at sefydlu Panel yn argymhelliad 2.1, y dylid newid hynny i drefnu cyfarfodydd rheolaidd rhwng Arweinwyr y Grwpiau a swyddogion hyd oni fyddai’r Bwrdd Ymyrraeth wedi ei sefydlu.  Roedd y Cynghorydd G.O. Parry, MBE yn barod i dderbyn y gwelliant i’w gynnig gwreiddiol.

 

      

 

     Dan ddarpariaeth Rheol 18.5 y Cyngor, cytunwyd cofnodi’r bleidlais ar y mater hwn.

 

      

 

     O blaid y cynnig gan y Cynghorydd P.S. Rogers (sef derbyn yr argymhellion yn adroddiad y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro, ac eithrio argymhelliad 2.1 y dylid sefydlu Panel Apwyntiadau er mwyn symud ymlaen i wneud argymhellion i’r Cyngor ar beidio olynydd i’r Rheolwr-gyfarwyddwr):-

 

      

 

     O blaid: Y Cynghorwyr C.Ll.Everett, T.Ll.Hughes, J.Arwel Roberts, P.S.Rogers  Cyfanswm 4

 

      

 

     Yn erbyn: Y Cynghorwyr B.Durkin, E.G.Davies, L.Davies, Jim Evans, K.P.Hughes, W.I.Hughes,  A.Morris Jones, Eric Jones, O.Glyn Jones, G.O.Jones,T.Jones, C.McGregor, Rh.Medi, B.Owen, J.V.Owen, R.L.Owen, G.O.Parry,MBE, R.G.Parry,OBE, Eric Roberts, E.Schofield,I. Williams, J.Penri Williams, Selwyn Williams.                                  Cyfanswm 23

 

                                                                                                           

 

     Ymataliadau:Y Cynghorwyr W.J.Chorlton, W.T.Hughes, H.Eifion Jones, R.Jones, R.Ll.Jones, G.W.Roberts,OBE.                                                                                                  Cyfanswm 6

 

      

 

     Dan ddarpariaeth Rheol 18.5 y Cyngor cytunwyd cofnodi’r bleidlais ar y cynnig a roddwyd ymlaen gan y Cynghorydd G.O. Parry, MBE (sef derbyn cynnwys yr adroddiad ar yr Archwiliad o Lywodraethu Corfforaethol a’r argymhellion ynddo a hefyd derbyn yr argymhellion yn adroddiad y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro ac eithrio diwygio argymhelliad 2.1 fel y dylai Arweinwyr Grwp gyfarfod gyda’r Tîm Rheoli i drafod a symud materion yn eu blaenau a dileu argymhelliad 2.2. am y tro sef sefydlu Panel Penodi i wneud argymhellion i’r Cyngor ar apwyntio olynydd i’r Rheolwr-gyfarwyddwr):-

 

      

 

     O blaid:  Y Cynghorwyr W.J.Chorlton, B.Durkin, E.G.Davies, L.Davies, Jim Evans, C.Ll.Everett, K.P.Hughes, W.I.Hughes, W.T.Hughes, A.Morris Jones, Eric Jones, O.Glyn Jones, G.O.Jones, H.Eifion Jones, T.Jones, R.Jones, R.Ll.Jones, C.McGregor, B.Owen, J.V.Owen, R.L.Owen, G.O.Parry,MBE, R.G.Parry,OBE, Eric Roberts, G.W.Roberts,OBE, J.Arwel Roberts, E.Schofield,

 

     I. Williams, J.Penri Williams, Selwyn Williams.                                                   Cyfanswm 30                             

 

     Yn erbyn:Y Cynghorwyr T.Ll.Hughes, P.S.Rogers.                    Cyfanswm 2

 

      

 

     Ymataliad: Y Cynghorydd Rhian Medi                         Cyfanswm 1                                   

 

     PENDERFYNWYD

 

      

 

Ÿ

Derbyn canfyddiadau a’r argymhellion yn yr Adroddiad ar yr Archwiliad o Lywodraethu Corfforaethol.

 

      

 

Ÿ

Bod cyfarfodydd yn parhau i gael eu cynnal yn rheolaidd rhwng Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol a’r Tîm Rheoli Corfforaethol er mwyn goruchwylio’r gwaith o lunio polisïau a diwygio gweithdrefnau ac i adrodd ar gynnydd i’r Pwyllgor Gwaith a’r Cyngor Sir fel sy’n briodol.

 

 

 

Ÿ

Rhoddi’r awdurdod i Arweinydd y Cyngor drafod gydag Arweinydd a Phrif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yr angen am adnoddau ychwanegol, o safbwynt ariannol ac arbenigedd staff er mwyn ymateb yn llawn ac yn briodol i ofynion yr adroddiad archwilio.

 

 

 

Ÿ

Yn amodol ar drefniadau i’w sefydlu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, sefydlu Panel Moderneiddio ac arno gyfansoddiad gwleidyddol (yn cynnwys Aelodau a Swyddogion i gychwyn gweithio ar adolygu rhannau perthnasol o Gyfansoddiad y Cyngor fel y gall y Cyngor ddatblygu gwell gweithdrefnau ar agweddau sgriwtini ac adrodd yn ôl i’r Cyngor ar y cynnydd a wnaed yn hyn o beth.

 

 

 

Ÿ

Rhoi gwybod i’r Archwiliwr Cyffredinol y gwnaed cytundeb gan y Cyngor hwn i ddod â mater prynu eiddo Craigwen i ben.

 

 

 

Ÿ

Rhoddi’r awdurdod i’r Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro ysgrifennu at holl aelodau’r staff yn mynegi gwerthfawrogiad aelodau etholedig y Cyngor o’r gwaith a wnaed gan staff yn y Gwasanaethau ac am eu cefnogaeth a’u teyrngarwch i’r Cyngor yn ystod y cyfnod anodd hwn.

 

      

 

      

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.35 p.m.

 

 

 

 

 

Y CYNGHORYDD O. GLYN JONES

 

CADEIRYDD