Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 20 Medi 2005

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Mawrth, 20fed Medi, 2005

CYNGOR SIR YNYS MÔN

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Medi, 2005 (2:00 pm)  

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd J. Byast (Cadeirydd)

Y Cynghorydd J. Rowlands (Is-Gadeirydd)

 

Y Cynghorwyr Mrs B. Burns, W.J. Chorlton, E.G. Davies,

J.M. Davies, P.J. Dunning, J.A. Edwards, K. Evans,

C.Ll. Everett, P.M. Fowlie, D.R. Hadley, D.R. Hughes,

Fflur M. Hughes, R.Ll. Hughes, W.I. Hughes, A.M. Jones,

G.O. Jones, H.E. Jones, J.A. Jones, O.G. Jones, R.Ll. Jones,

T.H. Jones, D.A. Lewis Roberts, Bryan Owen, R.L. Owen,

G.O. Parry MBE, R.G. Parry OBE, G.A. Roberts, G. Winston Roberts OBE, John Roberts, W.T. Roberts, P.S. Rogers,

J. Rowlands, E. Schofield, H. Noel Thomas, H.W. Thomas,

K. Thomas, J. Williams, W.J. Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Rheolwr-gyfarwyddwr

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio ac Amgylchedd)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden)

Pennaeth Gwasanaeth (Polisi)

Cyfarwyddwraig Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro

Cyfreithiwr i'r Swyddog Monitro (RMJ)

Swyddog Cyfathrebu

Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgor

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorydd J. Arwel Roberts

 

 

 

 

Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd W.J. Williams, MBE

 

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Gwnaeth y Cynghorydd K. Thomas ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y Rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei frawd yn yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Gwnaeth y Cynghorydd C.L. Everett ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y Rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei chwaer yn yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol a hefyd yng nghyswllt ei waith fel Clerc ar Gyngor Tref Caergybi.

 

Gwnaeth y Cynghorydd G.O. Parry ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y Rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Cyllid.

 

Gwnaeth y Cynghorydd W.J. Williams ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas â'r drafodaeth a ddigwyddodd ynglyn ag eitem 7 o gofnodion y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd 23 Mai 2005 (Academi Fenter Menter Môn) ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod yr amser hwnnw.

 

Gwnaeth y Cynghorydd E. Schofield ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y Rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Addysg a Hamdden a chyflogaeth ei wyr yn yr Adran Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo.  Datganodd ddiddordeb hefyd yng nghyswllt unrhyw fater a fyddai'n codi ar gofnodion y Pwyllgor Gwaith yn ymwneud â'r CDU.  Gadawodd y cyfarfod pan roedd y CDU yn cael ei drafod ar gofndion y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2005.

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Bryan Owen ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y Rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch gan yr Awdurdod Addysg Lleol.

 

Gwnaeth y Cynghorydd O. Glyn Jones ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y Rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei wraig yn yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Robert Lloyd Hughes ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y Rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei fab yn yr Adran Briffyrdd.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd G. Allan Roberts ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y Rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei fab yng nghyfraith yn yr Adran Gyllid. Datganodd ddiddordeb hefyd yng nghyswllt Eitem 4a o gofnodion y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd 11 Gorffennaf 2005 (Safleoedd Tai - Safle T19, Tyddyn Bach, Caergybi), ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod y drafodaeth na'r pleidleisio arno).

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd T. Jones ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y Rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei fab yn yr Adran Archwilio Mewnol.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd A. Morris Jones ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y Rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei fab yn yr Adran Addysg a Hamdden.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd W.J. Chorlton ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y Rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Cynllunio ac Amgylcheddol.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd G.W. Roberts OBE ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y Rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd H.E. Jones ddatganiad o ddiddordeb yn Eitem 6 o'r cofnodion presennol (Pwyllgor Safonau) ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod y drafodaeth na'r pleidleisio.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd J.M. Davies ddatganiad o ddiddordeb yng nghofnodion Pwyllgor Penodi a gynhaliwyd ar 3 Mehefin, 12 Gorffennaf a 24 Awst 2005.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd R.L. Owen ddatganiad o ddiddordeb yn y drafodaeth a oedd wedi digwydd yng nghyswllt Eitem 14 o gofnodion y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd 25 Gorffennaf 2005 (Cae Sioe Môn) ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod unrhyw drafodaeth na phleidleisio.

 

 

 

Datganodd Ms. Lynn Ball ddatganiad o ddiddordeb yn Eitem 3 o gofnodion y Cyngor Sir a gynhaliwyd 3 Mai 2005 (Panel Penodi - 9 Rhagfyr 2004) ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod unrhyw drafodaeth na phleidleisio.

 

 

 

Gwnaeth Mr. R. Meirion Jones ddatganiad o ddiddordeb yn Eitem 9 o'r cofnodion hyn (Grantiau NOF) ac nid oedd  yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod unrhyw drafodaeth na phleidleisio.

 

 

 

DATGANIADAU GAN Y CADEIRYDD

 

 

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso cynnes i ddisgyblion ac athrawon Ysgol y Ffridd, Gwalchmai a oedd yn mynychu cyfarfod o'r Cyngor hwn am y tro cyntaf.

 

 

 

Ar ran y Cyngor fe ddatganodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad llwyraf â theulu'r diwedd Mr. Robin Hughes, oedd wedi gweithio fel Ymchwilydd Twyll yn yr Adran Cyllid am y ddwy flynedd diwethaf.  Datganodd hefyd ei gydymdeimlad gydag unrhyw aelod o staff oedd wedi profi profedigaeth ers cyfarfod diwethaf y Cyngor hwn.

 

 

 

Cyfeiriwyd hefyd at y digwyddiadau trist a ddigwyddodd yn Llundain ar 7 Gorffennaf a bod llythyr o gydymdeimlad gan y Cyngor wedi'i anfon i Mr. Ken Livingstone, Maer Llundain.  Cyfeiriodd y Cadeirydd hefyd at ddinistr oedd wedi digwydd yn fwy diweddar yn New Orleans, America o ganlyniad i Gorwynt Katrina.  

 

 

 

Mynegodd ei siom hefyd na fu bid Ynys Môn i gynnal Gemau'r Ynysoedd yn 2009 yn llwyddiannus.  Diolchodd i bawb oedd wedi gweithio'n galed er mwyn rhoi y bid ymlaen a dymunodd ddymuniadau gorau i Aland yng Ngwlad y Ffindir am ddigwyddiad llwyddiannus.

 

 

 

Llongyfarchwyd pawb yn Ynys Môn a oedd wedi bod yn llwyddiannus yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd yn Y Faenol mis diwethaf.

 

 

 

Hefyd i Mr. Dylan Edwards o'r Adran Eiddo wedi iddo ennill y dyfarniad 'Myfyriwr y Flwyddyn' ym Mhrifysgol John Moores, Lerpwl am yr ail flwyddyn yn olynol am ei gwrs B.Sc mewn Rheoli Tir.

 

 

 

 

 

 

 

LANSIAD Y CYNLLUN ADDYSG CYMRAEG 2005

 

 

 

 

 

Estynnwyd croeso cynnes i Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg oedd yn mynychu cyfarfod o'r Cyngor hwn am y tro cyntaf.  Diolchodd Meri Huws i'r aelodau am y cyfle i fod yn bresennol yng nghyfarfod heddiw er mwyn cael lansio yn swyddogol Gynllun Addysg Gymraeg 2005 a'i gyflwyno i'r Deilydd Portffolio John Meirion Davies ar ran y Cyngor Sir.

 

 

 

Ym Mehefin 1996, roedd Cyngor Sir Ynys Môn wedi cyhoeddi Cynllun yr Iaith Gymraeg yn unol a gofynion Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.  Dan Adran 5 o'r Ddeddf honno, roedd gofyn i'r Awdurdod Addysg Lleol ddarparu Cynllun Iaith Cymraeg fyddai'n delio gydag addysg yn arbennig.  Gelwir y cynllun yn Cynllun yr Iaith Gymraeg ac fe'i cymeradwywyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn Rhagfyr 1998.  Yn dilyn cyfnod o 3 blynedd o'r Cynllun Addysg Gymraeg, fe baratowyd y cynllun hwn fel ei olynydd.  Cafodd Cynllun yr Iaith Gymraeg ei gymeradwyo gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn Chwefror 2005.

 

 

 

Bwriad yr Awdurdod Addysg Lleol oedd darparu addysg o'r safon uchaf bosibl i bob disgybl, yn unol â'u hoed, gallu a'u diddordebau, fel eu bod yn datblygu i fod yn bersonoliaethau llawn, yn datblygu ac yn ymarfer eu holl dalentau ac yn llwyddo i ddod yn aelodau cyfrifol o gymdeithas ddwyieithog.

 

 

 

Roedd hyn yn cael ei adlewyrchu yn y polisi iaith diwygiedig a chynllun addysg Gymraeg cyntaf y Sir h.y. i sicrhau datblygiad dwyieithrwydd gwastad yn seiliedig ar oed i bob un o ddisgyblion y Sir, er mwyn eu galluogi hwy i ddod yn aelodau llawn o'r gymdeithas dwyieithog y maent yn rhan ohoni.  Roedd dwyieithrwydd gwastad yn seiliedig ar oed yn golygu fod gan ddisgyblion y sgiliau ieithyddol priodol yn Gymraeg a Saesneg.

 

 

 

Parthed y ddarpariaeth o wasanaethau arbenigol i ysgolion h.y. gwasanaethau cynghori a seicolegol, byddai'r Awdurdod yn parhau i weithio'n agos gyda'r Cyd-Bwyllgor AAA a Cynnal.  Byddid yn rhoddi blaenoriaeth uchel i gryfhau'r cysylltiadau gyda phartneriaid allweddol megis Mudiad Ysgolion Meithrin a Chymdeithas Grwpiau Chwarae Cyn Ysgol Cymru, CBAC, yr Urdd, Menter Iaith, Menter Môn, y Clybiau Ffermwyr Ifanc. Twf, ELWa a Cholegau Addysg Bellach er mwyn ymestyn y ddarpariaeth ddwyieithog / Gymraeg yng nghyd-destun ystyriaethau y tu allan i ysgolion, ar ôl 16 a dysgu gydol oes.

 

 

 

Diolchodd Meri Huws i'r Aelodau ac i'r Swyddogion am y gwaith oedd wedi'i wneud yn paratoi'r ddogfen hon law yn llaw gyda'r Bwrdd yr Iaith yng Nghaerdydd ac yng Nghaernarfon a hefyd am gynnal a chadw a chefnogi mentrau cymunedol trwy'r Ynys, ac roedd Bwrdd yr Iaith yn hollol ymwybodol o'r gwaith hwn.

 

 

 

Ar ran y Cyngor fe ddiolchodd y Deilydd Portffolio i Meri Huws am fynychu'r cyfarfod hwn a chyflwyno'r ddogfen i'r Cyngor.  Diolchodd iddi am ei chyfraniad a'r cymorth roddwyd i baratoi'r ddogfen.  Yn yr un modd diolchodd i Gyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden) a'i staff ac i Gloria Davies, Cynghorydd Iaith Gymraeg, CYNNAL am ei chyfraniad gwerthfawr.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

3

COFNODION

 

 

 

Cyflwynwyd i'w cadarnhau, gofnodion y cyfarfodydd canlynol o'r Cyngor Sir:-

 

 

 

Ÿ

3 Mai, 2005                    (Tudalennau 1 - 8 y Gyfrol hon)

 

 

 

Yn codi -

 

 

 

Eitem 3.  Cofnodion - Cofnodion Cyngor 3 Mawrth 2005 - Eitem 5.2 - Cofnodion y Pwyllgor Penodi a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2004

 

 

 

Roedd y Cynghorydd E. Schofield yn dymuno iddo gael ei gofnodi ei fod yn teimlo iddo gael ei gamddehongli yn y cyswllt hwn.  Nid oedd yn chwilio am unrhyw newid i gofnodion y Pwyllgor Penodi lle yr oedd ef a Chynghorwyr eraill wedi penderfynu cerdded allan mewn protest.  Y mater yr oedd wedi ceisio ei godi oedd y dylai yr adroddiad annibynnol gan Eversheds i'r honiadau a wnaed fod wedi bod ar gael i holl Aelodau'r Cyngor.

 

 

 

Ÿ

3 Mai, 2005   (Cyfarfod Blynyddol)  (Tudalennau 9 - 11 o'r Gyfrol hon)

 

 

 

Yn codi -

 

 

 

Eitem 3 Cynllun Gwella - Datgomisiynu Gorsaf Ynni Niwcliar y Wylfa

 

 

 

Cafwyd cais gan y Cynghorydd Aled Morris Jones y dylai'r cofnod adlewyrchu'r drafodaeth oedd wedi digwydd pan fu i'r aelodau dderbyn y dylai datgomisiynu'r Wylfa gael ei ddwyn i sylw'r Cyngor Sir.  Roedd yn ddiolchgar am y wybodaeth a ddarparwyd i'r Aelodau gan y Rheolwr-gyfarwyddwr ar ôl y cyfarfod ac roedd hefyd yn ymwybodol bod astudiaeth asesiad cymdeithasol / economaidd am effeithiau'r datgomisiynu yn cael ei wneud.  Derbyniodd y Cadeirydd y cywiriad hwn.  

 

 

 

Ÿ

23 Mehefin, 2005          (Tudalennau 12 - 14 o'r Gyfrol hon)

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd P.M. Fowlie am i'w gais blaenorol, wnaed yng nghyfarfod 3 Mai, ac yn ymwneud â chofnodi datganiad difrïol honedig gan aelod arall, gael ei gofnodi.  Dywedwyd nad oedd cofnodion y Cyngor na Phwyllgorau eraill yn rhai "gair am air" a'u bod yn cael eu recordio i ddangos penderfyniadau ym musnes y Cyngor, ac yn dilyn trafodaeth hir fe ofynnodd y Cadeirydd fod rhywun yn gwrando ar y tapiau ac i adroddiad ar hynny gael ei roi yng nghyfarfod nesaf y Cyngor Sir.

 

 

 

4

COFNODION Y PWYLLGORAU

 

 

 

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, ac i fabwysiadu'r argymhellion lle bo angen, gofnodion y Pwyllgorau a ganlyn a gynhaliwyd ar y dyddiadau a ddangosir:-

 

 

 

Tudalennau

 

4.1

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

gynhaliwyd ar y dyddiau canlynol:-

 

 

 

4.1.1

6 Ebrill, 2005                              36 - 54

 

 

 

4.1.2

11 Mai, 2005                              55 - 72

 

 

 

Yn codi -

 

 

 

Dyraniadau Grwpiau Gwleidyddol (Tudalen 55)

 

 

 

Roedd y Cynghorydd P.M. Fowlie yn dymuno iddo gael ei gofnodi, o gydnabod i gyfarfod ddigwydd rhwng yr Arweinydd ac Arweinyddion Grwpiau Politicaidd i drafod eu hanfodlonrwydd ynglyn â'r seddau a ddyrannwyd i bob Grwp Politicaidd ar y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion, a'i fod yn dal i ddisgwyl am ymateb ysgrifenedig gan yr Arweinydd ar y mater hwn.

 

 

 

Yn ei ateb, dywedodd y Cadeirydd i'r Arweinydd, yn dilyn y cyfarfod, ddweud wrth y Cyfarwyddwr am ysgrifennu ar ei ran i'r Cynghorydd Fowlie ynglyn â hyn.  Roedd llythyr yn egluro'r sefyllfa wedi'i anfon i'r Cynghorydd ar 20 Gorffennaf 2005, ac roedd ateb yn awr yn cael ei ddisgwyl.

 

      

 

4.1.3

1 Mehefin, 2005                              73 - 88

 

 

 

4.2

PWYLLGOR TRWYDDEDU

 

     gynhaliwyd ar 10 Mai, 2005                         89 - 91

 

      

 

4.3

PWYLLGOR TROSOLWG POLISI ADDYSG, IECHYD A LLES

 

     gynhaliwyd ar 11 Mai, 2005                         92

 

      

 

4.4

PWYLLGOR TROSOLWG POLISI DATBLYGU GWASANAETHAU

 

     SYLFAENOL AC ADNODDAU

 

     gynhaliwyd ar 11 Mai, 2005                         93 - 94

 

      

 

4.5

PRIF BWYLLGOR SGRIWTINI

 

     gynhaliwyd ar 11 Mai, 2005                         95 - 96

 

      

 

4.6

PANEL PENODI

 

     gynhaliwyd ar 3 Mehefin, 2005               (wedi'u dosbarthu ar wahân)                                        (wedi'u hatodi i'r cofnodion - tudalen 12)

 

      

 

4.7

CYSAG

 

     gynhaliwyd ar 13 Mehefin, 2005                         98 - 102

 

      

 

4.8

PWYLLGOR TROSOLWG POLISI DATBLYGU GWASANAETHAU

 

     SYLFAENOL AC ADNODDAU (CDU)

 

     gynhaliwyd ar 16 Mehefin, 2005                         103 - 108

 

      

 

4.9

PRIF BWYLLGOR SGRIWTINI

 

     gynhaliwyd 16 Mehefin, 2005                         109

 

      

 

4.10

PWYLLGOR TROSOLWG POLISI DATBLYGU GWASANAETHAU

 

     SYLFAENOL AC ADNODDAU

 

     gynhaliwyd ar 23 Mehefin, 2005                         110 - 111

 

      

 

4.11

PRIF BWYLLGOR SGRIWTINI

 

     gynhaliwy ar 28 Mehefin, 2005                         112 - 114

 

      

 

     Yn codi -

 

      

 

Cyflwyniad gan Gomisiynydd Gwybodaeth Cynorthwyol (Cymru)

 

 

 

Gwnaed cais gan y Cynghorydd E. Schofield fod cyfarfod o'r Panel Rhyddid Gwybodaeth yn cael ei alw fel mater o frys er mwyn ystyried y materion hynny oedd yn cael eu crybwyll yng nghofnodion y Pwyllgor uchod ynghyd â'r gweithdrefnau mewnol ar gyfer delio gydag apeliadau.  

 

 

 

Rhoddodd y Cynghorydd C.L. Everett (Cadeirydd y Prif Bwyllgor Sgriwtini) sicrwydd i'r Cynghorydd Schofield y byddai'r materion hyn yn cael eu hystyried gan y Panel Rhyddid Gwybodaeth yn bur fuan.  

 

4.12

PWYLLGOR ARCHWILIO

 

     gynhaliwyd ar 28 Mehefin, 2005                         115 - 118

 

      

 

4.13

PWYLLGOR TROSOLWG POLISI ADDYSG A LLES

 

     gynhaliwyd ar 28 Mehefin, 2005                         119 - 124

 

      

 

     Yn codi -

 

      

 

Eitem 3 - Ysgolion Cynradd Ynys Môn - Gweithgor Gormodedd Llefydd

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Mrs. B. Burns yn dymuno iddo gael ei gofnodi fod lle gwag ar y Gweithgor uchod a bod y Cynghorydd P.S. Rogers wedi'i apwyntio i lenwi'r bwlch hwnnw.

 

 

 

4.14

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

     gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf, 2005                    125 - 148

 

      

 

4.15

CYD-BWYLLGOR ANGHENION ADDYSG ARBENNIG

 

     gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf, 2005                    149 - 153

 

      

 

4.16

PWYLLGOR PENODI

 

     gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf, 2005               (wedi'u dosbarthu ar wahân)                                        (wedi'u hatodi i'r cofnodion - tudalen 13)

 

      

 

4.17

PRIF BWYLLGOR SGRIWTINI

 

     gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf, 2005                    155 - 156

 

      

 

4.18

PWYLLGOR TROSOLWG POLISI DATBLYGU,

 

     GWASANAETHAU SYLFAENOL AC ADNODDAU

 

     gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf, 2005                    157 - 159

 

      

 

4.19

PWYLLGOR SAFONAU

 

     gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf, 2005                    160 - 162

 

      

 

4.20

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

     gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf, 2005                    163 - 184

 

      

 

4.21

PWYLLGOR SAFONAU

 

     gynhaliwyd ar 15 Awst, 2005                         185 - 187

 

      

 

4.22

PWYLLGOR ARCHWILIO          

 

     gynhaliwyd ar 18 Awst, 2005                (wedi'u dosbarthu ar wahân)                                        (wedi'u hatodi i'r cofnodion - tudalennau 14 - 20)

 

      

 

4.23

PWYLLGOR PENODI

 

     gynhaliwyd ar 24 Awst, 2005          (wedi'u dosbarthu ar wahân)                                             (wedi'u hatodi i'r cofnodion - tudalen 21)

 

      

 

4.24

PWYLLGOR GWAITH

 

      

 

     gynhaliwyd ar dyddiau a ganlyn:-

 

      

 

4.24.1

29 Ebrill, 2005                         197

 

      

 

4.24.2

23 Mai, 2005                              198 - 205

 

      

 

4.24.3

6 Mehefin, 2005 (CDU)                    206 - 210

 

      

 

4.24.4

13 Mehefin, 2005                          211 - 216

 

      

 

4.24.5

20 Mehefin, 2005 (CDU)                    217 - 218

 

4.24.6

27 Mehefin, 2005                          219 - 226

 

 

 

Yn codi -

 

 

 

Eitem 20 - Safle Ailgylchu Gwalchmai - Rheolaeth Weithredol

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd R.G. Parry, OBE, bod angen i swyddogion hysbysebu'r ffaith bod gan y Cyngor gyfleusterau ailgylchu ar gael i'r cyhoedd yng Ngwalchmai, pa ddeunyddiau oedd yn bosibl i'w hailgylchu a hefyd oriau gweithio'r safle.  Roedd hefyd am gael cofnodi ei werthfawrogiad o'r Adran ac o'r staff am y gwaith sy'n cael ei wneud.  

 

 

 

4.24.7

11 Gorffennaf, 2005 (CDU)                    227 - 232

 

 

 

Yn codi -

 

 

 

Eitem 4 - Safleoedd Tai CDU - Safle T19 Tyddyn Bach, Caergybi

 

 

 

Roedd y Cynghorydd R.Ll. Jones yn dymuno iddo gael ei gofnodi ei fod yn ystyried bod nifer y tai (100) y bwriedir ei adeiladu ar y safle hon yn ormodol ac y dylai'r Pwyllgor Gwaith ailystyried y mater.

 

 

 

Dywedodd y Deilydd Portffolio, y Cynghorydd H.W. Thomas, y byddai cyfle i'r aelodau drafod y mater ymhellach pan fydd y Cynllun Datblygu Unedol yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor Sir i gadarnhau'r diwygiadau yn y dyfodol agos.  

 

 

 

4.24.8

25 Gorffennaf, 2005                         233 - 250

 

      

 

4.24.9

5 Medi, 2005 (CDU)                (wedi'u dosbarthu ar wahân)                                   (wedi'u hatodi i'r cofnodion - tudalennau 22 - 27)

 

      

 

4.24.10

12 Medi, 2005           (wedi'u dosbarthu ar wahân)                                        (wedi'u hatodi i'r cofnodion - tudalennau 28 - 33)

 

 

 

Yn codi -

 

 

 

Eitem 8 - Cefnogaeth Ariannol Tuag at Ddefnydd Cymunedol ar Ysgolion

 

 

 

Roedd y Cynghorydd G.O. Parry, MBE am dynnu sylw'r Cyngor at y ffaith bod y Pwyllgor Gwaith yn y cyfarfod uchod wedi gofyn i Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn ddigolledu'r gyllideb Addysg am y flwyddyn.   Roedd y Cynghorydd yn credu mai tasg statudol oedd hon fel rhan o'r cytundeb Addysg.  Awgrymodd y dylid chwilio am gyngor cyfreithiol ynglyn â hyn i hynny gael ei adrodd yn ôl i'r Panel trawsbleidiol a sefydlwyd gan y Pwyllgor Gwaith.

 

 

 

Yn ei ymateb dywedodd yr Arweinydd bod y Pwyllgor Gwaith wedi penderfynu gohirio rhoi ar waith y penderfyniad i dynnu'r gefnogaeth ariannol yn ôl am ddefnydd cymunedol o adeiladau ysgol ac i ailystyried y mater pan yn cynllunio cyllideb 2006/2007.  Roedd Panel trawsbleidiol hefyd wedi'i sefydlu er mwyn ystyried holl fater cefnogi gweithgareddau cymunedol yng nghyswllt sybsideiddio'r defnydd o adeiladau ysgol a neuaddau pentref.  Sicrhaodd y Cynghorydd Parry y byddai'r Panel yn ymchwilio i mewn i'r sylwadau a wnaed ynglyn ag oblygiadau statudol.

 

 

 

5     NEWIDIADAU I'R CYFANSODDIAD

 

      

 

     Adroddwyd gan y Cyfreithiwr i'r Swyddog Monitro - Fod gan y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Amgylcheddol) o dan y Cynllun Dirprwyo i Swyddogion bwerau a dyletswyddau yn ymwneud â Deddfwriaeth y cyfeirir ato yn yr Atodiad i'r Cynllun.  O dro i dro yr oedd yn angenrheidiol diweddaru'r rhestr trwy ychwanegu ati.  Ar yr achlysur hwn y ddeddwriaeth oedd i'w hychwanegu oedd Deddf Cymdogaethau Glân ac Amgylchedd 2005 a Deddf Rhwystro Llygredd a Rheolaeth, 1999.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cadarnhau argymhelliad canlynol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 12 Medi, 2005 yn y cyswllt hwn:-

 

      

 

Ÿ

Diwygio'r Cyfansoddiad trwy ychwanegu i'r Atodiad Cymydogaethau Glân

 

Ÿ

Cytuno i Dudalen ychwanegol 86a gael ei roi yn y Cyfansoddiad

 

 

 

6     AELODAETH O'R PWYLLGOR SAFONAU

 

      

 

     Adroddiad gan y Cyfreithiwr i'r Swyddog Monitro - Bod angen i'r Cyngor benderfynu p'run a oedd am ymestyn hyd cyfnod swydd y 6 aelod presennol o'r Pwyllgor Safonau yntau hysbysebu am aelodau newydd.  Y disgwyl oedd y byddai rheoliadau newydd yn dod i rym o fewn y 12 mis nesaf ac felly cafwyd cynnig fod yr aelodau presennol o'r Pwyllgor Safonau yn aros yn eu swydd a bod y Cyngor yn ymestyn eu tymor gweithredu o 4 i 6 mlynedd a byddai eu haelodaeth yn dod i ben felly ar 17 Rhagfyr 2007.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd C.L. Everett o'r farn - er nad oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad personol i'r cynrychiolydd Cyngor Tref/Cymuned presennol barhau ar y Pwyllgor Safonau hyd 2007, fe ddylid rhoddi cyfle i'r Cynghorau Tref/Cymuned i ystyried cynrychiolydd arall os mai hynny fyddai eu dymuniad.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cadarnhau'r argymhelliad canlynol wnaed gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 12 Medi yn y cyswllt hwn:-

 

      

 

     Bod y canlynol yn cael eu hapwyntio fel Aelodau Annibynnol o Bwyllgor Safonau'r Cyngor Sir i wasanaethu am gyfnod fyddai'n dod i ben ar 17 Rhagfyr 2007:-

 

      

 

Ÿ

Dr John Griffiths, Ty'n Ffridd, Brynsiencyn

 

Ÿ

Mr Gwynfor Jones, Cae Coch, Brynsiencyn

 

Ÿ

Dr Gwyneth Roberts, Yr Hen Ysgol, Llandyfrydog

 

Ÿ

Mr Jeff Cottrell, Gerlan, 5 Garreglwyd, Benllech

 

Ÿ

Dr John Popplewell, Kirkless, Glanrafon, Llangoed

 

 

 

Ÿ

Yn amodol ar beidio derbyn unrhyw enwebiad arall gan y Cymunedau Tref/Cymunedol fod Mrs Ceri Thomas, Tai Uchaf, Bodedern, yn cael ei hapwyntio fel cynrychiolydd Cynghorau Cymuned Ynys Môn ar Bwyllgor Safonau'r Cyngor Sir hyd 17 Rhagfyr 2007, neu nes y bydd yn peidio â bod yn aelod o Gyngor Cymuned, p'run bynnag fyddai'r cyfnod byrraf.

 

 

 

7

AILSTRWYTHURO

 

      

 

7.1

Cyflwynwyd - Adroddiad y Rheolwr-gyfarwyddwr fel ei hystyriwyd gan y Pwyllgor Gwaith ar 12 Medi, 2005 (Gweler Eitem 4 o'r cofnodion hynny os gwelwch yn dda) yn ymwneud â'r addasiadau arfaethedig i Strwythur Trefniadol y Cyngor.

 

      

 

7.2

Adroddwyd - Fod y Pwyllgor Gwaith wedi penderfynu argymell i'r Cyngor Sir fel a ganlyn:-

 

      

 

     'Ei fod yn lleihau nifer y Cyfarwyddwyr Corfforaethol trwy ddileu'r swydd o Gyfarwyddwr Corfforaethol Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo o'r Cyngor.

 

      

 

     Ei fod yn creu o'r 'newydd' Gyfarwyddiaeth Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol trwy uno'r gwasanaethau sydd ar hyn o bryd o fewn yr Adrannau Cynllunio ac Amgylchedd a Phriffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo.  

 

      

 

     Bod awdurdod yn cael ei roddi i Arweinydd y Cyngor i sefydlu Panel trawsbleidiol i ystyried materion arall sy'n codi o'r adroddiad.'

 

      

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ffordd o weithredu geir uchod.

 

 

 

8     ADRODDIAD BLYNYDDOL RHEOLI'R TRYSORLYS 2004/05

 

      

 

     Cyflwynwyd - Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) ar Weithgareddau Rheoli'r Trysorlys i bwrpasau monitro fel sy'n ofynnol o dan y Côd Ymarfer.

 

      

 

     Cafwyd manylion o fewn yr adroddiad ynglyn â'r canlynol:-

 

      

 

Ÿ

Y Portffolio Presennol

 

Ÿ

Gweithgareddau benthyca a pherfformiad yn erbyn y strategaeth

 

Ÿ

Gweithgaredd Aildrefnu

 

Ÿ

Gweithgaredd Buddsoddi

 

Ÿ

Allanoli benthyca a buddsoddiadau

 

Ÿ

Cydymffurfio gyda pholisïau a therfynau.  Roedd y Cyngor wedi gweithredu o fewn terfynau'r trysorlys a'r Dangosyddion Pwyllog a fabwysiadwyd.  Adroddwyd fod un toriad ar y terfynau buddsoddi ac o un ardal o risg wedi digwydd.

 

 

 

Roedd y strategaeth cytunedig yn 2005/06 yn seiliedig ar dybiaeth y byddai benthyca allanol tua £1m yn fwy na'r Gofynion Ariannu Cyfalaf ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf.  Gan i'r benthyca a wnaed fod ar y lefel ddisgwyliedig ond i gyfradd gyffredinol y portffolio fod ychydig yn llai na'r amcangyfrif, roedd hyn yn golygu arbedion ar y llog oedd yn daladwy.  

 

 

 

Roedd lefel benthyciadau yn golygu y dylai'r portffolio barhau yn ddigon diogel o fewn y terfynau a gymeradwywyd.  Nid oedd unrhyw reswm dros argymell newidiadau i derfynau'r Trysorlys ar hyn o bryd.  Roedd yr Adran ar hyn o bryd yn monitro'r sefyllfa ar fenthyciadau tymor hirach gan fod yna awgrym y byddai'r Bwrdd Benthycion Gweithiau Cyhoeddus efallai yn ailsefydlu benthyciadau hyd at 50 mlynedd yn dilyn rhyddhau gildiau tymor hirach yn ddiweddar.

 

 

 

Nid oedd gweithgaredd aildrefnu yn arbennig o ddeniadol y llynedd ond roedd yn parhau yn opsiwn pan oedd cyflwr y farchnad yn ffafriol.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi'r bwriad i barhau i aildrefnu'r portffolio pan yw cyflwr y farchnad yn ffafriol.

 

 

 

9     CYNLLUNIAU CYFALAF CYFLEUSTERAU CHWARAEON YSGOLION CRONFA CYFLEON NEWYDD

 

      

 

     Adroddwyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden) - Yn 2002, bu i N.O.F. gyflwyno rhaglen i wella cyfleusterau chwaraeon mewn ysgolion.  Dyrannwyd grant o £1.07m i Ynys Môn.  Roedd manylion am y grantiau oedd wedi'u clustnodi ar gyfer cynlluniau cyfalaf yn Ysgol David Hughes, Ysgol Syr Thomas Jones ac Ysgol Niwbwrch, ynghyd â chyfraniad y Cyngor wedi'u darparu o fewn yr adroddiad i'r Cyngor.

 

      

 

     Roedd tendrau wedi'u derbyn am y tri phrosiect gyda manylion am y rhain wedi'u hadrodd i'r Pwyllgor Gwaith ar 25 Gorffennaf, 2005.  Roedd tendr Ysgol Syr Thomas Jones o fewn y gyllideb ond roedd y tendrau ar gyfer Ysgol David Hughes ac Ysgol Niwbwrch yn sylweddol fwy na'r gyllideb.  Penderfynodd y Pwyllgor Gwaith fel a ganlyn :-

 

      

 

     "i awdurdodi swyddogion i ailwahodd tendrau am gae pob tywydd i Ysgol Niwbwrch; i geisio arbedion yng nghynllun Ysgol Syr Thomas Jones ac i awdurdodi swyddogion i drafod gyda'r tendrwr isaf yng nghynllun Ysgol David Hughes i geisio arbedion pellach yn y ffigwr sydd eisoes wedi'i nodi dros dro".

 

      

 

     "argymell i'r Cyngor Sir geisio cymeradwyaeth y Cynulliad i drosglwyddo tanwariant grant Ysgol y Graig SBIG 2005/06 i'w ychwanegu at gyllideb rhaglen NOF; ac i gadarnhau'r rhaglen NOF llawn ar yr amod y gall cae pob tywydd Ysgol Niwbwrch gael ei greu o fewn yr amcangyfrif gwreiddiol ac y gall yr holl raglen gael ei chyllido o fewn y gyllideb, gyda blaenoriaeth yn cael ei roi i i Ysgol David Hughes, Ysgor Syr Thomas Jones ac Ysgol Niwbwrch yn y drefn honno.

 

 

 

Roedd y manylion canlynol i'w cael o fewn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol:-

 

 

 

Ysgol Syr Thomas Jones - roedd arbedion pellach wedi'u nodi fyddai'n dod â chyfanswm y gost i lawr i £165,000 a byddai'r gwaith yn dechrau mor fuan ag sy'n bosibl.

 

 

 

Maes Pob Tywydd Ysgol Niwbwrch - gellid rhagweld, o newid y fanyleb, y gallai'r cynllun gael ei wneud o fewn y gyllideb wreiddiol.

 

 

 

Neuadd Chwaraeon Ysgol David Hughes - bu darparu neuadd chwaraeon i'r ysgol hon yn flaenoriaeth uchel gan y Cyngor ers 1996.  O'r 5 ysgol uwchradd, Ysgol David Hughes ac Ysgol Uwchradd Caergybi oedd yr unig ddwy ysgol heb Neuadd Chwaraeon fel rhan o gampws yr Ysgol. Y ddau brif reswm pam fod tendrau Ysgol David Hughes mor uchel oedd oherwydd y cyfleusterau cymunedol oedd wedi'u cynnwys gan fod N.O.F. yn mynnu hynny a'r oedi fu mewn paratoi cynlluniau a gwahodd tendrau.  Roedd pris dur hefyd wedi cynyddu yn sylweddol dros y 12 mis diwethaf.

 

 

 

Yn dilyn agor y tendrau gwreiddiol, rhoddwyd ystyriaeth fanwl i'r fanyleb ac roedd newidiadau wedi'u gwneud nad oeddynt yn cael effaith sylweddol ar y cynllun.  Roedd tendrau wedi'u derbyn ar y fanyldeb ddiwygiedig oedd yn rhoddi pris o £2.5m ar y prosiect.

 

 

 

Roedd y Cynulliad Cenedlaethol wedi cymeradwyo cais i symud y tanwariant tebygol o £855k yn 2005/06 ar brosiect Ysgol y Bont/Ysgol y Graig i brosiect Ysgol David Hughes.  Nid oedd unrhyw fygythiad mawr i unrhyw gynllun yn y gyllideb gyfalaf, ond trwy symud cyfran fawr o adnoddau cyfalaf addysg, byddai llai ar gael ar gyfer cynlluniau addysg, sydd heb eu henwi eto, mewn blynyddoedd i ddod.  Roedd gan y Pwyllgor Gwaith bwerau dirprwyedig i wneud addasiadau i'r gyllideb gyfalaf ond byddai'r mater hwn angen penderfyniad y Cyngor gan ei fod yn golygu trosglwyddo swm sylweddol fel eithriad o'r Cynllun Cyfalaf.

 

 

 

PENDERFYNWYD

 

 

 

Ÿ

Er mwyn caniatáu i'r rhaglen cyfleusterau chwaraeon NOF llawn gael eu rhoi ar waith, ac i arbed colli grant cyfalaf SBIG, i awdurdod i trosglwyddo swm net o £589k o gynlluniau cyffredinol ysgolion i gynlluniau addysg gorfforol i ddarparu cyllidebau fel a ganlyn i brosiectau David Hughes a Syr Thomas Jones :-

 

 

 

Ÿ

Syr Thomas Jones - Cyngor Sir £85,000, NOF £80,000

 

Ÿ

David Hughes - Cyngor Sir £745,000, NOF £900,000, SBIG £855,000

 

 

 

Ÿ

Fod trosglwyddo tanwariant SBIG yn y flwyddyn gyfredol yn cael ei wrthbwyso trwy ryddhau adnoddau cyfalaf y Cyngor ei hun yn y flwyddyn ariannol nesaf.

 

 

 

Ÿ

Y byddai'r defnydd cymunedol o'r cyfleuster newydd yn Ysgol David Hughes yn hunan ariannu ac na fyddai yn golygu unrhyw oblygiadau refeniw ychwanegol i'r Awdurdod hwn.

 

 

 

10

PWYLLGORAU SGRIWTINI / TROSOLWG - ADRODDIAD BLYNYDDOL 2004/05

 

      

 

     Cyflwynwyd adroddiad gan Gadeirydd y Prif Bwyllgor Sgriwtini - Fod Erthygl 6 o Gyfansoddiad y Cyngor yn dweud fod adroddiad Blynyddol angen ei chyflwyno i'r Cyngor ar waith Pwyllgor Trosolwg a Sgriwtini.  Roedd yr adroddiad blynyddol yn ymwneud â'r cyfnod rhwng Cyfarfodydd Blynyddol y Cyngor ar 24 Mehefin 2004 a 3 Mai 2005.

 

      

 

     Roedd yr adroddiad wedi'i baratoi gyda chydweithrediad Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Pwyllgorau Trosolwg a Sgriwtini.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn cynnwys adroddiad blynyddol y Pwyllgor Trosolwg a Sgriwtini am 2004/05.

 

      

 

11     DEDDF CYFIAWNDER TROSEDDOL A'R HEDDLU 2001, YFED ALCOHOL MEWN MANNAU CYHOEDDUS

 

      

 

     Cafwyd adroddiad gan y Rheolwr-gyfarwyddwr - Ar 1 Medi, 2001, daeth Adrannau 12 - 16 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a'r Heddlu 2001 i rym oedd yn rhoddi i Awdurdodau Lleol y pwer i fabwysiadu'r darpariaethau hyn i rwystro yfed cyhoeddus gwrthgymdeithasol mewn lleoedd cyhoeddus dynodedig ac yn rhoddi i'r Heddlu rym i orfodi'r cyfyngiad.  Ar yr un dyddiad, daeth Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Yfed Alcohol mewn Mannau Cyhoeddus) 2001 i rym gan roddi i awdurdodau lleol hawl i wneud gorchymyn yn gorfodi cyfyngiadau ar yfed cyhoeddus oherwydd niwsans neu darfu cysylltiol ar aelodau o'r cyhoedd neu gamdrefn.  

 

      

 

     Mae'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol wedi derbyn nifer o gwynion yn ymwneud ag yfed alcohol mewn mannau cyhoeddus yn Llangefni trwy'r Pwyllgor Trosedd ac Anhrefn, Cynghorwyr Sirol, Cyngor y Dref, Heddlu Gogledd Cymru, aelodau o'r gymuned fusnes yn cynnwys y Siambr Fasnach ac aelodau o'r cyhoedd.  Roedd Heddlu Gogledd Cymru a Phwyllgor Trosedd ac Anhrefn Llangefni yn dymuno gosod cyfyngiadau ar yfed alcohol o fewn ardal yn nhref Llangefni.  

 

      

 

     O dan Adran 13 o'r Ddeddf fe allai'r Cyngor Sir wneud gorchymyn yn cyfyngu ar yfed alcohol mewn ardal dynodedig cyn belled ag y bo tystiolaeth ddigonol fod niwsans neu darfu cysylltiol yn digwydd i aelodau o'r cyhoedd, neu anhrefn.  Roedd yr Heddlu wedi cael grymoedd newydd o dan y Ddeddf i ddelio gydag yfed gwrthgymdeithasol mewn ardaloedd oedd wedi'u dynodi mewn gorchymyn.  Yn dilyn proses fanwl a hir o ymgynghori gyda'r holl bartïon oedd â diddordeb, roedd y Cyngor Sir ar ran Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ynys Môn mewn sefyllfa i ystyried gwneud gorchymyn o dan Adran 13 o'r Ddeddf a hynny yn seiliedig ar y wybodaeth o fewn yr adroddiad.  Byddai unrhyw gostau cysylltiol gyda'r Gorchymyn yn cynnwys y broses ymgynghori ac arwyddion o fewn yr ardal ddynodedig yn dod o gyllideb Gwasanaeth yr Heddlu.

 

      

 

     PENDERFYNWYD

 

      

 

     Bod y Cyngor Sir yn ffurfiol yn mabwysiadu'r grymoedd a osodwyd yn Adrannau 12-16 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol yr Heddlu 2001.

 

      

 

Ÿ

Bod y Cyngor Sir yn rhoddi pwerau dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol mewn ymgynghoriad â'r Deilydd Portffolio Trosedd ac Anhrefn i wneud Gorchymyn Dynodiad o dan Adran 13 Deddf Cyfiawnder Troseddol a'r Heddlu 2001 ac yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Yfed Alcohol mewn Mannau Cyhoeddus) 2001 yn nhref Llangefni yn unol â'r ardal a nodir yn y cynllun sydd ynghlwm ac a oedd ynghyd â'r rhybudd cyhoeddus ond yn amodol ar newidiadau terfynol i'r ffin gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol mewn ymgynghoriad â'r Heddlu yn dilyn ystyried yr holl sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori statudol.

 

 

 

Ÿ

Bod dyddiad dechrau'r Gorchymyn Dynodiad yn cael ei nodi gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol yn dilyn cwblhau holl gyfnodau statudol y rhybuddion cyhoeddus.

 

 

 

12

YR ARWEINYDD YN DIRPRWYO

 

      

 

     Cyflwynwyd - Adroddiad gan y Rheolwr-gyfarwyddwr yn cyflwyno unrhyw newidiadau i'r cynllun dirprwyo ynghylch swyddogaethau'r Pwyllgor Gwaith ac a wnaed gan yr Arweinydd ers y Cyfarfod Cyffredinol diwethaf (Rheol 4.14.1.4 y Rheolau Gweithdrefn Trefniadau Gweithredol - Gweler 131 y Cyfansoddiad).

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

      

 

      

 

     Terfynwyd y cyfarfod am 4:25 p.m.

 

      

 

      

 

     Y CYNGHORYDD J. BYAST

 

     CADEIRYDD