Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 21 Medi 2004

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Mawrth, 21ain Medi, 2004

Cyngor Sir Ynys Môn

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Medi 2004

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd J. Arwel Roberts (Cadeirydd)

 

Y Cynghorwyr Mrs B. Burns, W. J. Chorlton, J. M. Davies, P. J. Dunning, E. G. Davies, J. A. Edwards, K. Evans, C. Ll. Everett, P. M. Fowlie, D. R. Hadley, D. R. Hughes, Fflur M. Hughes, R. Ll. Hughes, W. I. Hughes, A. M. Jones, G. O. Jones, H. E. Jones, J. A. Jones, O. G. Jones, R. Ll. Jones, T. H. Jones, D. A. Lewis Roberts, Bryan Owen, R. L. Owen, G. O. Parry, M.B.E., R. G. Parry O.B.E., G. A. Roberts, G. W. Roberts O.B.E., John Roberts, W. T. Roberts, P. S. Rogers, John Rowlands, H. W. Thomas, K. Thomas, John Williams, W. J. Williams.

 

 

 

 

WRTH LAW:

 

Rheolwr-gyfarwyddwr

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a'r Amgylchedd)

Cyfarwyddwraig Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro

Pennaeth Gwasanaeth (Polisi)

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol

Pennaeth Gwasanaeth (Datblygu Economaidd)

Cyfreithiwr (RMJ)
Swyddog Cyfathrebu

Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgor

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr J. Byast, E. Schofield, H. Noel Thomas.

 

 

 

 

 

 

Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd John Williams.

 

1

CYFLWYNIAD GAN FWRDD IECHYD LLEOL YNYS MÔN

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso cynnes i Dr. W. Roberts, Cadeirydd y Bwrdd Iechyd Lleol ac i Mrs Lynne Joannou, Prif Weithredwr, a roddodd gyflwyniad ar waith y Bwrdd Iechyd Lleol ar Ynys Môn.

 

Yn dilyn, cafodd cynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd Lleol gyfle i ymateb i nifer o gwestiynau a godwyd gan aelodau'r Cyngor.

 

Wrth grynhoi, diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd Lleol am eu hamser yn mynychu'r Cyfarfod o'r Cyngor ac am eu parodrwydd i ateb y cwestiynau a godwyd gan yr aelodau.

 

2

DATGANIADAU O DDIDDORDEB

 

Gwnaeth y Cynghorydd Bob Parry O.B.E. ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth partner ei fab yn yr Adran Addysg a Hamdden.  

 

Gwnaeth y Cynghorydd K. Thomas ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei frawd yn yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd C. L. Everett ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei chwaer yn yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol a hefyd yng nghyswllt ei waith fel Clerc i Gyngor Tref Caergybi.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd G. O. Parry MBE ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem  ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Gyllid.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd G. W. Roberts OBE ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag  unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol.  

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd O. Glyn Jones ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei wraig yn yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd W. J. Chorlton ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem  ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Robert Lloyd Hughes ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei fab yn yr Adran Briffyrdd.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd G. Allan Roberts ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei fab-yng-nghyfraith yn yr Adran Gyllid.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd T. Jones ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem  ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei fab yn yr Adran Archwilio Mewnol.

 

 

 

3

I DDERBYN UNRHYW DDATGANIADAU GAN Y CADEIRYDD, ARWEINYDD, AELODAU'R PWYLLGOR GWAITH NEU BENNAETH GWASANAETH

 

 

 

Mynegodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad llwyr â'r Cynghorydd R. Ll. Hughes ar golli ei fam yn ddiweddar.

 

 

 

Mynegodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad llwyr â theulu Mr. Terry Brown a fu farw fis Awst.  Roedd wedi cychwyn ar ei ddyletswyddau gyda'r Cyngor hwn yn 1996 ac fe'i penodwyd yn Bennaeth Gwasanaeth (Trafnidiaeth) yn 2000.  Yn 2002 fe'i penodwyd yn Gyfarwyddwr Prosiect Cynllun Trafnidiaeth ac Amgylcheddol Caergybi.

 

 

 

Mynegodd ei gydymdeimlad hefyd  â theulu Mrs Janet Williams a fu farw ar 8 Medi.  Dechreuodd weithio yn Adran Gyfreithiol yr hen Gyngor Bwrdeistref 16 mlynedd yn ôl ac roedd yn dal i weithio yn yr Adran hyd ei salwch rai misoedd yn ôl.

 

 

 

Cydymdeimlodd hefyd â Mrs Maureen Bennett, sydd ar hyn o bryd yn cael ei chyflogi yng Nghanolfan J. E. O'Toole, Caergybi wedi iddi golli wyr a mab-yng-nghyfraith mewn damwain ffordd yn Ffrainc fis Awst.

 

 

 

Estynnodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad llwyr ag unrhyw aelod o staff oedd wedi cael profedigaeth ers  cyfarfod diwethaf y Cyngor.

 

 

 

Safodd yr aelodau a'r Swyddogion mewn distawrwydd fel arwydd o'u parch.

 

 

 

Estynnwyd croeso cynnes yn ôl i'r Cynghorydd Keith Thomas yn dilyn llawdriniaeth yn ddiweddar yn Ysbyty Lerpwl.  Dymunwyd adferiad buan i'r Parch Idwal Jones, brawd y Cynghorydd G. O. Jones oedd yn gwella yn Ysbyty Gwynedd yn dilyn llawdriniaeth.

 

 

 

Llongyfarchwyd y Cynghorydd Bob Parry ar fod yn daid unwaith yn rhagor yn dilyn genedigaeth merch i'w fab Gethin a'i bartner Elena.

 

 

 

Llongyfarchwyd Ysgol Gynradd Cemaes am dderbyn gwobr o £1,500 gan Gwmni Legal and General am eu gwaith yn astudio hen felinau gwynt Môn.

 

 

 

Hefyd i Mr. Eifion Môn, 14 oed, o Fynydd Llaneilian ar ennill Pencampwriaeth y Byd gyda chychod 'Toppers'.  Mae'n aelod o Grwp Hwylio Traeth Coch, ac roedd yn orau o 252 o gychod yn y gystadleuaeth a gynhaliwyd yn Ffrainc yn ddiweddar.

 

 

 

4

COFNODION

 

 

 

Cyflwynwyd i'w cadarnhau, gofnodion o gyfarfodydd y Cyngor Sir gynhaliwyd ar y dyddiadau a ganlyn :

 

 

 

Ÿ

27 Mai 2004 (Arbennig)                              Tudalen           1 - 11

 

 

 

Ÿ

24 Mehefin 2004 (Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol)               Tudalen          12 - 17

 

 

 

Ÿ

13 Gorffennaf 2004 (Arbennig)                         Tudalen           18 - 22

 

 

 

Gyda'r amod fod enw'r Cynghorydd G. O. Parry, MBE yn cael ei gynnwys ar restr yr aelodau oedd yn bresennol ac i ymddiheuriad am absenoldeb fod wedi ei gyflwyno gan y Cynghorydd Keith Evans.

 

 

 

5

COFNODION PWYLLGORAU

 

 

 

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, ac i fabwysiadu argymhellion lle bo angen, gofnodion y Pwyllgorau a ganlyn a gynhaliwyd ar y dyddiadau a ddangosir :-

 

 

 

5.1

  PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

a gynhaliwyd ar 2 Mehefin 2004                         Tudalen          23 - 36

 

 

 

5.2

  PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf 2004                    Tudalen          37 - 52

 

 

 

5.3

  PWYLLGOR SGRIWTINI

 

a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf 2004                    Tudalen          53 - 54

 

 

 

5.4

  CYSAG

 

a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf, 2004                    Tudalen           55 - 59

 

 

 

5.5

  PWYLLGOR TROSOLWG POLISI DATBLYGU,

 

ISADEILEDD AC ADNODDAU

 

a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf, 2004                         Tudalen           60 - 61

 

 

 

5.6

  PWYLLGOR TROSOLWG POLISI ADDYSG,

 

IECHYD A LLES

 

a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf, 2004                    Tudalen           62 - 63

 

 

 

5.7

  PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf, 2004                    Tudalen          64 - 79

 

 

 

 

 

5.8

  PRIF BWYLLGOR SGRIWTINI

 

a gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf, 2004                    Tudalen          80 - 82

 

 

 

5.9

  PRIF BWYLLGOR SGRIWTINI

 

a gynhaliwyd ar 4 Awst, 2004                         Tudalen          83 - 84

 

Yn amodol ar i enw'r Cynghorydd W. I. Hughes gael ei

 

gynnwys yn y rhestr o'r rhai oedd yn bresennol.

 

 

 

5.10

  PWYLLGOR SAFONAU

 

a gynhaliwyd ar 19 Awst, 2004                         Tudalen           85 - 86

 

 

 

5.11

  CYD BWYLLGOR AAA

 

a gynhaliwyd ar 3 Medi, 2004                         Tudalen          87 - 90

 

 

 

5.12

  PWYLLGOR ARCHWILIO

 

a gynhaliwyd ar 7 Medi, 2004                    Tudalennau 10 - 15 o’r Gyfrol hon

 

 

 

5.13

  PWYLLGOR GWAITH

 

a gynhaliwyd ar y dyddiadau a ganlyn :-

 

 

 

5.13.1

          18 Mai, 2004                         Tudalen          91 - 98

 

 

 

5.13.2

                   5 Gorffennaf, 2004                    Tudalen          99 - 105

 

 

 

5.13.3

                    15 Gorffennaf, 2004                    Tudalen          106 - 108

 

 

 

5.13.4

                    26 Gorffennaf, 2004                    Tudalen          109 - 127

 

 

 

Materion yn codi -

 

 

 

Eitem 4.3 - Cynnal Adeiladau

 

 

 

PENDERFYNWYD cytuno â chais y Cynghorydd C. L. Everett fod y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol) yn darparu copi i holl aelodau'r Cyngor o restr cynnal a chadw arfaethedig y Cyngor ar gyfer 2004/05.

 

 

 

6

CYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL

 

 

 

Adroddiad Cyfarwyddwraig Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro - yn dilyn penderfyniad diweddar y Cynghorydd John Rowlands i adael Plaid Cymru/The Party of Wales ac ymuno â Môn Ymlaen/Anglesey Forward, roedd angen i'r Cyngor adolygu ei drefniadau cydbwysedd gwleidyddol ar Bwyllgorau'r Cyngor.  Mae'r tabl sydd ynghlwm gyda'r adroddiad hwn yn egluro cydbwysedd gwleidyddol Pwyllgorau'r Cyngor yn unol â Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.  Roedd y tabl yn dangos tri grwp gwleidyddol gyda 23, 7 a 5 o aelodau a 5 aelod unigol rhydd gyda chyfanswm nifer y seddau i'w dyrannu yn 104.

 

 

 

Er mwyn sicrhau cydbwysedd fesul pwyllgor ac i gael rhifau cyfan fel mater o ymarferoldeb fe dalgrynwyd y seddau i 60 (Môn Ymlaen), 19 (Plaid), 13 (Annibynnol Gwreiddiol) a 12 i'r aelodau rhydd.

 

 

 

PENDERFYNWYD :

 

 

 

Ÿ

Nodi y trefniadau cydbwysedd gwleidyddol newydd a nifer y seddau a ddynodwyd i bob grwp a'r aelodau rhydd o dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989;

 

Ÿ

Cytuno ar nifer y seddau i'w dyrannu i'r Aelodau Rhydd.

 

 

 

7

TREFNIADAU SGRIWTINI A THROSOLWG - GWEITHGAREDDAU ADDYSG

 

 

 

Adroddiad Cyfarwyddwraig Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro - I'r Cyngor Sir ar 24 Mehefin 2004 ystyried adroddiad yn ymwneud â "Trefniadau Sgriwtini a Throsolwg a Chydbwysedd Gwleidyddol".  Ynghlwm wrth yr adroddiad roedd Atodiad 'A' ac fe'i mabwysiadwyd yn lle 2.6.2 o Erthygl 6 ar dudalen 19 y Cyfansoddiad.  Yn anffortunus roedd y cyfeiriad at gynrychiolwyr llywodraethwyr yr eglwys a'r rhieni lywodraethwyr wedi ei adael allan.

 

 

 

Roedd yn anghenraid statudol o dan Restr 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, paragraffau 8-11, os y byddai dyletswyddau'r Pwyllgor Trosolwg a Sgriwtini yn ymwneud yn gyfan gwbl neu yn rhannol ag unrhyw weithgaredd addysgol, penodi cynrychiolwyr llywodraethwyr ar ran yr eglwys a'r rhieni.

 

 

 

Yn dilyn gohebiaeth gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn ceisio caniatâd y Gweinidog i'r trefniadau newydd, fe eglurwyd nad oedd yn angenrheidiol cael cymeradwyaeth y Gweinidog gan fod yr anghenrhaid yn un statudol.

 

 

 

Ynghlwm wrth yr adroddiad hwn roedd atodiad i gymryd lle yr un a gymeradwywyd cyn hynny.

 

      

 

     PENDERFYNWYD - Bod trefniadau y Pwyllgor Sgriwtini a Throsolwg presennol yn 2.6.2 o Erthygl 6 y Cyfansoddiad a gymeradwywyd ar 24 Mehefin yn cael ei newid am y Model  yn yr Atodiad ynghlwm wrth yr adroddiad hwn.

 

      

 

8     ADRODDIAD BLYNYDDOL RHEOLI'R TRYSORLYS 2003/2004

 

      

 

     Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) ar weithgareddau Rheoli'r Trysorlys i bwrpasau monitro fel sy'n ofynnol dan y Côd Ymarfer.

 

      

 

     Adroddwyd - I'r Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 26 Gorffennaf 2004 benderfynu pasio'r adroddiad hwn ymlaen i'r Cyngor Sir a'r Prif Bwyllgor Sgriwtini yn unol â phenderfyniad y Cyngor y dylai adroddiad o'r fath gael ei gyflwyno i'r Cyngor i'w gadarnhau erbyn 30 Medi bob blwyddyn.

 

      

 

     Dywedwyd mai adroddiad blynyddol oedd hwn ar y flwyddyn ariannol 2003/04 oedd yn adolygu cydymffurfiaeth gyda strategaeth Rheoli'r Trysorlys ac yn adrodd ar fenthyca a pherfformiad buddsoddiadau yn ystod y flwyddyn.  Roedd yn rhaid cyflwyno'r adroddiad i'r Cyngor erbyn 30 Medi.  O dan y Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai roedd yn angenrheidiol fod pob awdurdod lleol yn gosod ac yn nodi rhai cyfyngiadau ar fenthyca ym mhob blwyddyn.  Roedd y Cyngor wedi cadarnhau y cyfyngiadau ar gyfer 2003/04 ar 4 Mawrth 2003 ac roedd yr adroddiad yn cadarnhau i'r cyfyngiadau gael eu parchu drwy'r amser.

 

      

 

     Ar 31 Mawrth 2004 cyfanswm benthyciadau'r Cyngor oedd £93.415 miliwn a buddsoddiadau o £26.521 miliwn.

 

      

 

     Dim ond un cytundeb benthyca tymor hir a wnaed yn ystod y flwyddyn, sef benthyciad aeddfediad 30 mlynedd o £3.5m gyda'r PWLB ar raddfa llog parhaol o 4.7%.

 

     Roedd benthyca tymor byr yn cael ei gyfyngu i ddefnydd achlysurol o gyfleuster gorddrafft y Cyngor gyda'i brif fancwyr.  Fe gyflawnwyd benthyca graddfa sefydlog ar raddfa oedd yn agos i bwynt isaf yn nhri chwarter olaf y flwyddyn.

 

      

 

     Fe wnaed nifer o ymarferion aildrefnu yn ystod y flwyddyn ac fe adroddwyd amdanynt i'r Pwyllgor Gwaith yn unol â Pholisi'r Trysorlys.

 

      

 

     Roedd y Cyngor yn gweinyddu ei fuddsoddiadau yn fewnol ar y pryd gan fuddsoddi gyda'r gwrth bartïon oedd ar y rhestr fuddsoddi gydnabyddedig am gyfnodau hyd at 364 o ddiwrnodau.  Roedd canlyniadau gweithgaredd meincnodi yn 2002/03 yn dangos fod dychweliadau ar fuddsoddiadau ychydig yn well na'r cyfartaledd.

 

      

 

     Roedd y strategaeth gytunedig ar gyfer 2004/05 wedi ei seilio ar dybiaeth y byddai tua £6.6m o gwota PWLB oedd ar gael yn cael ei ddefnyddio yn 2003/04.  Roedd y benthyciad gwirioneddol yn £3.1m yn llai na'r hyn a dybiwyd - ac ar lefel lle'r roedd benthyca yn matsio'r gofynion cyllid cyfalaf arfaethedig.  Roedd y raddfa portffolio gyfartaleddog ychydig yn uwch na'r rhagamcan.  Golygai hyn arbedion ar y llog oedd i'w dalu a disgyn yn brin yn y llog a dderbyniwyd - roedd yr effaith gyfan gwbl ar y flwyddyn hon yn dibynnu ar gyflwr y farchnad ond roedd o fewn y gwahaniaethau normal ar gyllidebau costau dyledion.

 

      

 

     Roedd y lefel lai o fenthyca yn golygu y dylai'r portffolio barhau yn weddol ddiogel o fewn y cyfyngiad a gymeradwywyd - roedd yn debygol y byddai angen benthyca ar y sail dros dro.  Nid oedd unrhyw reswm i  argymell unrhyw newidiadau i Gyfyngiadau Trysorlys ar hyn o bryd.  Ers drafftio'r strategaeth ariannol, roedd graddfeydd llog tymor byr a rhagamcanion cyfradd llog wedi cynyddu yn sylweddol.  Byddid yn adolygu'r cyfleon aildrefnu yn ystod y flwyddyn.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi'r bwriad i barhau i ad-drefnu'r portffolio dyled pan fydd cyflwr y farchnad yn ffafriol.

 

      

 

9     DATGANIAD O GYFRIFON 2003/2004

 

      

 

     Cyflwynwyd Datganiad Cyfrifon drafft y Cyngor ar gyfer 2003/04 i'w mabwysiadu cyn archwiliad.

 

      

 

     Adroddwyd - Fod y Datganiad o Gyfrifon yn egluro sefyllfa ariannol Cyngor Sir Ynys Môn yn ystod y flwyddyn ariannol 2003/04 a'i sefyllfa ariannol ar ddiwedd y flwyddyn honno.  Roedd yn dilyn safonau cyfrifo ac roedd o reidrwydd yn dechnegol mewn rhannau.  Roedd rhagair gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) yn crynhoi y prif nodweddion.

 

      

 

     Roedd cyllideb refeniw y Cyngor am 2003/04 yn cynnwys peth twf gwirioneddol ar y flwyddyn flaenorol, wedi ei ariannu yn rhannol gan grantiau y Cynulliad Cenedlaethol a chynnydd yn y Dreth Gyngor.  Roedd y cyllid gafwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnwys Grant Cymell Perfformiad y mae'r Cyngor wedi ei roddi o'r neilltu tuag at wella perfformiad.  Roedd y gyllideb hefyd yn cynnwys rhai cyfrifoldebau newydd, yn arbennig y fenter Cefnogi Pobl.

 

      

 

     Roedd canlyniad gwariant y gwasanaeth yn agos i'r gyllideb ym mhob un gwasanaeth.  Fel mewn blynyddoedd cynt, roedd pryder ynglyn â lefel y gwariant ar integreiddio disgyblion gydag anghenion addysgol arbennig, lle cafwyd cynnydd eto yn 2003/04.  Ar y cyfan, roedd mwy o danwario nag o orwario gyda'r canlyniad fod cyfanswm yr arian wrth gefn wedi cynyddu dros y flwyddyn.

 

      

 

     Cafwyd manylion o fewn yr adroddiad am y prif eitemau yn y gyllideb gyfalaf.  Roedd gwario ar waith adeiladu y rhaglen fawr ar gyfer Datblygu Trafnidiaeth ac Adfywio yng Nghaergybi wedi dechrau yn ystod y flwyddyn ac roedd Rhan 1 o brosiect Cyswllt Môn i ddod â chyfleuster Bandllydan i'r Ynys wedi ei wneud i raddau helaeth.  Roedd ystod a lefel y gwariant ar brosiectau a wnaed yn ystod y flwyddyn yn debyg iawn i 2002/03.  Roedd lefel llithriad wedi parhau i ddisgyn ond roedd yr oedi cyn gwneud penderfyniadau ariannu trwy grant gan noddwyr allanol yn parhau i fod yn broblem.

 

      

 

     Newidiodd y Cyngor ei gynllun cyfalaf yn ystod y flwyddyn i ollwng adnoddau ychwanegol o £0.36m er mwyn cwblhau cynllun Ffordd Gyswllt Llangefni yn dilyn mynd dros gostau.  O ganlyniad i newid yng nghynlluniau Hawl i Brynu yr Adran Dai a'r graddfeydd llog isel, roedd gwerthiant tai y Cyngor wedi cynyddu 77% dros y flwyddyn flaenorol, gan ryddhau £0.9m ychwanegol ar gyfer gwariant cyfalaf mewn blynyddoedd i ddod.

 

      

 

     Yn ystod y flwyddyn, roedd pasio Deddf Llywodraeth Leol 2003 wedi cyflwyno'r Fframwaith Pwyllog yng nghyswllt arian cyfalaf mewn awdurdodau lleol ac roedd y Cyngor yn dwyn hyn mewn cof yn ei gynllunio ariannol.  Trwy ddwyn y Côd Pwyllog i ystyriaeth roedd yn bosibl cymryd agwedd fwy hyblyg tuag at amseru benthyciadau.  Gan adlewyrchu hyn, roedd Polisi Rheoli'r Trysorlys a'r cyfleon gyflwynwyd gan y farchnad yn ystod y flwyddyn yn galluogi'r Cyngor i leihau ei ddyled allanol o £98m i £94m gan aildrefnu neu ad-dalu £13.5m o ddyled mewn nifer o weithgareddau.  Roedd y Cyngor hefyd wedi derbyn cyfraniadau eraill i gefnogi ei raglen gyfalaf.

 

      

 

     Roedd yr ymrwymiadau cyfalaf oedd ar ôl ar ddiwedd y flwyddyn yn £3.7m.  Roedd swm o £7.0m wedi ei gadw wrth gefn ar gyfer yr ymrwymiadau hyn a phrosiectau eraill oedd wedi eu rhaglennu ar gyfer blynyddoedd i ddod.  Byddai'r ymrwymiadau oedd ar ôl yn cael eu hariannu o grantiau a gymeradwywyd, derbynion o werthiant arfaethedig asedau a benthyciadau.  Roedd prosiectau mawr ar gyfer blynyddoedd i ddod yng nghynllun cyfalaf y Cyngor yn cynnwys y Ganolfan Astudiaethau Lleol, Unedau Diwydiannol Penrhos, ail leoli gwasanaethau dydd ar gyfer pobl anabl o Gampws Mona ac aildatblygu posibl ar ysgolion Llangefni.  Roedd y cynllun cyfalaf yn dibynnu ar adnoddau geid o grantiau, o dderbynion cyfalaf rhagweledig, ac ar lefel o fenthyca oedd yn agos i'r lefel a dybiwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol wrth gyfrifo ei gefnogaeth refeniw.

 

      

 

     Mae'r datganiad ariannol yn dangos cyfrifoldeb net wedi ei amcangyfrifo o tua £32.5m yng nghyswllt pensiynau, gostyngiad o lefel £40.9m ar 31 Mawrth 2003, gan adlewyrchu yn bennaf gynnydd yn y farchnad stoc.  Datgelwyd hyn fel nodyn y flwyddyn ddiwethaf ac fe'i cynhwysir yn awr am y tro cyntaf yn y daflen gyfrifon ond nid yw yn cael effaith ar arian dros gefn rhanadwy y Cyngor.  Fe allai'r amlygrwydd cynyddol sy'n cael ei roddi i'r mater hwn, fodd bynnag, gael effaith ar gyllidebau'r dyfodol.

 

      

 

     Roedd y Cyngor wedi gwneud darpariaeth ar gyfer cyfrifoldebau gwybyddus gan sefydlu arian wrth gefn lle'r oedd angen hynny trwy statud, neu lle'r oedd wedi ei glustnodi dan gynlluniau'r Cyngor yn ei glustnodi, neu lle'r oedd yn ddoeth i gyfarfod â risg neu ansicrwydd.  Ar ddiwedd y flwyddyn, roedd arian wrth gefn ysgolion yn £2.0m, roedd arian wrth gefn y Cyfrif Refeniw Tai yn £0.6m a'r Balansau Cyffredinol yn £3.5m.  Fe ddaeth Deddf Llywodraeth Leol 2003 â dyletswydd newydd i adrodd ar ddigonolrwydd arian wrth gefn ac roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn falch o fedru adrodd, tua diwedd y flwyddyn ariannol, fod yr arian wrth gefn rhagamcanedig yn wir yn ddigonol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD :-

 

      

 

Ÿ

Cymeradwyo Datganiad Cyfrifon drafft y Cyngor ar gyfer 2003/04 cyn yr archwiliad a bod awdurdod yn cael ei roddi i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) wneud newidiadau golygyddol bychan i'r ddogfen ac i gywiro unrhyw gam-brintiadau.

 

Ÿ

Datgan gwerthfawrogiad y Cyngor i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol a'i staff am eu gwaith dros y flwyddyn ariannol.

 

 

 

10     AELODAETH Y PWYLLGOR SAFONAU

 

      

 

     Ystyriwyd adroddiad Cyfarwyddwraig Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro (Papur 'D') ynglyn ag aelodaeth y Pwyllgor Safonau.

 

      

 

     PENDERFYNWYD

 

      

 

Ÿ

Y bydd y Pwyllgor Safonau yn cynnwys 5 aelod lleyg ac 1 aelod Cyngor Cymuned yn unig.

 

Ÿ

Bydd yr aelod Cyngor Cymuned hwnnw yn eistedd ar y Pwyllgor Safonau pan fydd yn cyflawni dyletswyddau mewn perthynas â Chynghorau Cymuned ac aelodau Cynghorau Cymuned yn unig.

 

Ÿ

Yn unol â Rheoliad 14 o Reoliadau Ymchwiliad y Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001, gall person sydd yn gwneud sylwadau yn llafar i'r Pwyllgor Safonau gael ei gynrychioli gan gynnwys cynrychiolaeth gyfreithiol.

 

 

 

11     LWFANSAU I GADEIRYDD Y PWYLLGOR TRWYDDEDU

 

      

 

     Adroddwyd gan y Gyfarwyddwraig Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro - Ar 24 Mehefin 2004 fe dderbyniodd y Cyngor adroddiad yn ymwneud ag, inter alia, Lwfansau Cyfrifoldeb Arbennig gan gymeradwyo'r lwfansau oedd yn daladwy trwy gyfeiriad at Restr D yr adroddiad.  Nid oedd y rhestr yn Rhestr D yn cynnwys Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu.  O'r herwydd, fel y gallai Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu dderbyn lwfans roedd yn angenrheidiol i'r Cyngor ychwanegu'r lwfans hwn i'w Gynllun o Lwfansau Aelodau.  Yn ôl y cyfarwyddyd roedd y Pwyllgor Trwyddedu yn cario lwfans band 5 - uchafswm o £5119 yn y flwyddyn bresennol.  Roedd y Cyngor wedi gosod y Lwfansau Cyfrifoldebau Arbennig eraill ar uchafswm eu band.

 

      

 

     PENDERFYNWYD

 

      

 

Ÿ

Bod y Cynllun Lwfansau Aelodau yn cael ei newid i gynnwys lwfans hyd at uchafswm band 5 ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu.

 

Ÿ

Bod Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu â'r hawl o ddyddiad ei h/apwyntiad i dderbyn Lwfans Cyfrifoldeb Arbennig o £5119.

 

 

 

12     ARDAL DDI-ALCOHOL

 

      

 

     Adroddiad y Rheolwr-gyfarwyddwr - Ar 1 Medi, 2001 daeth Adrannau 12 - 16 Deddf Cyfiawnder Troseddol yr heddlu 2001 i rym.  Roedd yn rhoi i Awdurdodau Lleol rym i fabwysiadu'r darpariaethau hyn i gyfyngu ar yfed gwrthgymdeithasol mewn mannau cyhoeddus dynodedig a rhoi grym i'r Heddlu orfodi'r cyfyngiad.  Ar yr un dyddiad daeth Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Yfed Alcohol mewn Mannau Cyhoeddus dynodedig) 2001 i rym oedd yn golygu bod modd i awdurdodau lleol wneud Gorchymyn yn gorfodi cyfyngiadau ar yfed cyhoeddus oherwydd niwsans cysylltiedig neu flinder i'r cyhoedd neu anhrefn.

 

      

 

     Mae'r Partneriaeth Diogelwch Cymunedol wedi derbyn sawl cwyn ynghylch yfed alcohol mewn mannau cyhoeddus yng Nghaergybi trwy'r Pwyllgor Trosedd ac Anhrefn, y Cyngor Tref, Heddlu Gogledd Cymru, aelodau'r gymuned fusnes a'r cyhoedd.  Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dymuno bwrw ymlaen gyda chyfyngiadau ynghylch yfed alcohol mewn ardal diffiniedig yn nhref Caergybi.

 

      

 

     O dan Adran 13 y Ddeddf, gall y Cyngor Sir wneud gorchymyn i gyfyngu ar yfed alcohol mewn ardal ddynodedig ar yr amod bod digon o dystiolaeth bod yfed alcohol yn achosi niwsans neu flinder i'r cyhoedd neu anhrefn.  Mae gan yr Heddlu bwerau newydd dan y ddeddf i ddelio gydag yfed gwrthgymdeithasol mewn mannau a enwir yn y Gorchymyn.

 

      

 

     Yn dilyn proses ymgynghori hir a manwl gyda'r holl bartïon sydd â diddordeb, mae'r Cyngor Sir, ar ran Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ynys Môn, bellach mewn sefyllfa i ystyried gwneud Gorchymyn dan Adran 13 y Ddeddf yn seiliedig ar y wybodaeth yn yr adroddiad.  Roedd yna gostau refeniw unwaith ac am byth ar gyfer y broses ymgynghori a chostau cyfalaf unwaith am byth ar gyfer ymgynghori a gweithredu y broses a amlinellir yn y ddeddfwriaeth.

 

      

 

     PENDERFYNWYD

 

      

 

Ÿ

Bod y Cyngor Sir yn mabwysiadu'n ffurfiol y pwerau a nodir yn Adrannau 12-16 Deddf Cyfiawnder Troseddol yr Heddlu 2001.

 

Ÿ

Bod y Cyngor Sir yn dirprwyo grym i'r Rheolwr-gyfarwyddwr mewn ymgynghoriad gyda'r Aelod Portffolio ar gyfer Trosedd ac Anhrefn, Gwarchod y Cyhoedd a'r Amgylchedd i wneud Gorchymyn Dynodi dan Adran 13 Deddf Cyfiawnder Troseddol a'r Heddlu 2001 ac yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Yfed Alcohol mewn Mannau Cyhoeddus Dynodedig) 2001 yn nhref Caergybi yn unol â'r ardal a nodir yn y cynllun sydd ynghlwm a oedd yn cyd-fynd gyda rhybudd cyhoeddus ond yn amodol ar newidiadau terfynol i'r ffiniau gan y Gyfarwyddwraig Gwasanaethau Cyfreithiol mewn ymgynghoriad gyda'r Heddlu ac ar ôl ystyried yr holl sylwadau a wnaed yn ystod y broses ymgynghori statudol.

 

Ÿ

Bod y Gyfarwyddwraig Gwasanaethau Cyfreithiol yn penodi dyddiad cychwyn y Gorchymyn Dynodi ar ôl i gyfnodau statudol y rhybudd cyhoeddus ddod i ben.

 

Ÿ

Bod y Pwyllgor Gwaith yn ystyried y ffyrdd o dalu am arwyddion i sicrhau fod aelodau'r cyhoedd yn ymwybodol fod cyfyngiadau ar yfed cyhoeddus mewn grym (Para 7.2 o'r adroddiad i'r Cyngor).

 

Ÿ

Yn amodol ar dderbyn ymatebion priodol i'r ymarfer ymgynghori, fod libart Ysgol y  Santes Fair, Caergybi yn cael ei gynnwys o fewn y Gorchymyn Dynodi.

 

 

 

13     CWESTIWN A DDERBYNIWYD DAN REOL 4.1.12.4

 

      

 

     Cyflwynwyd y cwestiwn canlynol gan y Cynghorydd P. S. Rogers :-

 

      

 

     "Ar ba sail y mae'r Cyngor yn teimlo cyfiawnhad am dalu, cyn hyn, i bobl gydag anawsterau dysgu y swm o 80 ceiniog y diwrnod i weithio yng Nghaffi y Tolldy ger Caergybi, ac yn awr i godi £50 y mis neu fwy arnynt am y fraint o gael mynd allan i weithio, hyd yn oed ar Wyliau'r Banc ?"

 

      

 

Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd Goronwy Parry (Aelod Porffolio) :-

 

 

 

"Mae'r taliad o 80c y diwrnod i ddefnyddwyr y tolldy yn un hanesyddol ac fe'i rhoddwyd ar waith yn gyntaf gan yr hen Gyngor Sir Gwynedd.  Ni fwriadwyd ef erioed i fod yn gyflog ond yn hytrach yn gyfraniad bychan mewn cydnabyddiaeth o'r cyfraniad a wnaed gan ddefnyddwyr i'r gweithgareddau sydd yn mynd ymlaen yn y tolldy.  Fe adolygwyd y taliad unwaith gyda golwg ar gynyddu'r swm, ond fe welwyd y byddai gwneud hynny yn cael effaith niweidiol ar hawl y defnyddwyr i fudd-daliadau.

 

 

 

Bydd yr Aelodau eisoes wedi derbyn gan y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Cymdeithasol) ddogfen sydd yn rhoddi amlinelliad byr o bolisi  treuliai'r awdurdod sydd yn dwyn i'ch sylw y ffaith fod yr awdurdod hwn yn un o'r Cynghorau olaf i ehangu'r polisi treuliau i bob grwp client a bod ein treuliau ni ymysg y rhai isaf yng Nghymru.

 

 

 

Mewn ymateb i safbwyntiau a fynegwyd gan rai defnyddwyr a'u cynrychiolwyr, rydym wedi sefydlu Panel sydd yn cynnwys eu cynrychiolwyr a Mencap i ystyried diffinio'r gwasanaeth yn y tolldy ac mewn canolfannau eraill.  Bydd y Panel hwn yn cyfarfod dros y 4 wythnos nesaf a bydd ei argymhellion ar gael, yn y lle cyntaf, i'r Pwyllgor Gwaith.  Rydym wedi cytuno i ohirio unrhyw dreuliau am wasanaethau dydd sydd yn cael eu talu gan y defnyddwyr hynny sy'n cael eu heffeithio yn ystod y cyfnod hwn."

 

 

 

Yn ychwanegol fe ofynnodd y Cynghorydd Rogers :

 

 

 

"Beth oedd cost ariannol y penderfyniad i'r Cyngor ? "

 

 

 

Dywedodd y Deilydd Portffolio (y Cynghorydd G. O. Parry) y byddai'r pwyntiau ychwanegol, yng nghyd-destun ei ymateb cyntaf, ac a godwyd gan y Cynghorydd Rogers,  yn cael eu dwyn i sylw'r Panel y cyfeiriodd ato ac a fyddai'n ymchwilio i'r holl faterion.

 

 

 

14     DIRPRWYAETHAU A WNAED GAN YR ARWEINYDD

 

      

 

     Adroddiad gan y Rheolwr-gyfarwyddwr yn nodi'r newidiadau i'r Cynllun Dirprwyo mewn perthynas â swyddogaethau Gweithredol a wnaed gan yr Arweinydd ers y Cyfarfod Cyffredinol diwethaf (Rheol 4.4.1.4 o'r Rheolau Gweithdrefn Trefniadau Gweithredol - Tudalen 131 y Cyfansoddiad)

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

      

 

     Terfynnwyd y cyfarfod am 3.15 p.m.

 

      

 

     Y CYNGHORYDD J. ARWEL ROBERTS

 

     CADEIRYDD