Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 21 Hydref 2003

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Mawrth, 21ain Hydref, 2003

CYFARFOD ARBENNIG O GYNGOR SIR YNYS MÔN

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Hydref, 2003.  

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Mrs. B. Burns - Cadeirydd y Cyngor Sir

 

Y Cynghorydd J. Arwel Roberts - Is-Gadeirydd y Cyngor Sir

 

Y Cynghorwyr W.J. Chorlton, E.G. Davies, J.M. Davies,

D.D. Evans, Keith Evans, C.Ll. Everett, P.M. Fowlie,

D.R. Hughes, Fflur M. Hughes, Dr. J.B. Hughes,

R.Ll. Hughes, W.I. Hughes, G.O. Jones, H. Eifion Jones,

O. Glyn Jones, O. Gwyn Jones, R.Ll. Jones, W.E. Jones,

R.L. Owen, G.O. Parry MBE, R.G. Parry OBE,

G.W. Roberts OBE, G. Allan Roberts, John Roberts,

W.T. Roberts, Elwyn Schofield, Hefin W. Thomas,

Keith Thomas, W.J. Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Rheolwr-gyfarwyddwr

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a'r Amgylchedd)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol)

Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro

Pennaeth Gwasanaeth (Polisi)

Cyfreithiwr (MJ)

Swyddog Pwyllgor (MEH)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr John Byast, J. Arwel Edwards, Richard Jones OBE, Rhian Medi, Gwyn Roberts, John Rowlands, G. Alun Williams, John Williams.

 

 

 

 

Rhoes y Cadeirydd groeso i Aelod newydd Ward Aberffraw a Maelog, y Cynghorydd O. Glyn Jones i'r cyfarfod a dymunodd yn dda iddo.

 

1

DATGANIADAU O DDIDDORDEB

 

Cafwyd datganiadau o ddiddordeb gan yr Aelodau a ganlyn yng nghyswllt Eitem 3 - Trefniadau Balans Gwleidyddol y tu mewn i'r Cyngor a gadawsant y cyfarfod am y drafodaeth.

 

Y Cynghorwyr W.J. Chorlton, J.M. Davies, Keith Evans, Dr. J.B. Hughes, G.O. Jones,

O. Gwyn Jones, G.O. Parry MBE, R.G. Parry OBE, G.W. Roberts OBE, Elwyn Schofield.

Gwnaeth y Cynghorydd Bob Parry, OBE ddatganiad o ddiddordeb mewn unrhyw eitem ar y rhaglen a allai gyffwrdd â chyflogi partner ei fab yn yr Adran Addysg.   

 

Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd G.W. Roberts OBE mewn unrhyw eitem ar y rhaglen a allai gyffwrdd â chyflogi ei ferch yn yr Adran Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol.

 

Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd G. Allan Roberts yng nghyswllt unrhyw eitem ar y rhaglen a allai gyffwrdd â chyflogi ei fab-yng-nghyfraith yn yr Adran Gyllid.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Keith Thomas ddatganiad o ddiddordeb yng nghyswllt unrhyw eitem ar y rhaglen a allai gyffwrdd â chyflogi ei frawd yn yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd W.J. Chorlton ddatganiad o ddiddordeb yng nghyswllt unrhyw eitem ar y rhaglen a allai gyffwrdd â chyflogi ei ferch yn yr Adran Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol.

 

 

 

Gwnaed datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd R.Ll. Hughes mewn unrhyw eitem ar y rhaglen a allai gyffwrdd â chyflogi ei fab yn yr Adran Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo.  Hefyd gwnaeth ddatganiad yng nghyswllt Eitem 6 - Ffordd Gyswllt Cae Sêl, Llangefni a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth arni.

 

 

 

Gan y Cynghorydd O. Glyn Jones cafwyd datganiad o ddiddordeb ar Eitem 6 - Ffordd Gyswllt y Cae Sêl, Llangefni a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth arni.

 

 

 

2

TREFNIADAU BALANS GWLEIDYDDOL YN Y CYNGOR

 

 

 

Cyflwynwyd adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) a'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro yn dilyn penderfyniad a wnaed yn ddiweddar i sefydlu Pwyllgor Trwyddedu ac yn sgil ethol Mr. O. Glyn Jones fel Aelod newydd Ward Aberffraw a Maelog.

 

 

 

PENDERFYNWYD

 

 

 

Ÿ

nodi trefniadau newydd ar gyfer balans gwleidyddol a nifer y seddi a neilltuwyd i bob Grwp ac i'r Aelod Rhydd dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.

 

 

 

Ÿ

cytuno ar nifer gron y seddi i'w rhoddi i'r aelod rhydd.

 

 

 

Ÿ

gofyn i arweinyddion y Grwpiau am restr enwau cynrychiolwyr eu grwpiau ar bob Pwyllgor gan gynnwys y Pwyllgor Trwyddedu a'u cyflwyno i'r Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgorau cyn gynted ag y bo'n bosib.

 

 

 

3

CYDNABYDDIAETH AM WASANAETH HIR

 

 

 

Cyflwynwyd - adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro ar y pwnc uchod.

 

 

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro, yn dilyn cyfnod ymgynghori helaeth rhwng y Cynulliad Cenedlaethol ac awdurdodau lleol, bod rheoliadau wedi cael eu llunio sydd yn caniatáu i awdurdodau lleol yng Nghymru roddi cydnabyddiaeth am wasanaeth hir i Gynghorwyr sydd wedi rhoi gwasanaeth o'r fath ac sydd wedi datgan eu bod yn bwriadu ymddeol cyn etholiadau 2004.  Bydd raid i'r rheini sy'n derbyn taliad fod wedi rhoi o leiaf 15 mlynedd o wasanaeth gydag awdurdod lleol yng Nghymru (heb gynnwys cynghorau tref a chymuned) erbyn 9 Mai 2003.  Gallai hynny gynnwys rhannau o flynyddoedd wedi eu cyfansymio, ond ni fydd yn cynnwys unrhyw gyfnodau pryd yr oedd Cynghorwyr wedi eu hatal.  Roedd meini prawf cymhwyso eraill wedi'u rhestru yn yr adroddiad.

 

 

 

Cynigiwyd ac eiliwyd bod y Cyngor yn gwrthod rhoddi cydnabyddiaeth am wasanaeth hir i gynghorwyr.

 

 

 

Dan Reolau Gweithdrefn y Cyngor, Rhif 18.5 cytunwyd i gofnodi'r bleidlais ar y pwnc.  

 

 

 

Fel hyn yr aeth y bleidlais:-

 

 

 

O blaid y cynnig - sef gwrthod tâl fel cydnabyddiaeth am wasanaeth hir

 

 

 

Y Cynghorwyr Mrs. B. Burns, E.G. Davies, D.D. Evans, C.Ll. Everett, P.M. Fowlie,

 

D.R. Hughes, Fflur M. Hughes, R.Ll. Hughes, W.I. Hughes, Glyn Jones,

 

H. Eifion Jones, R.Ll. Jones, W.E. Jones, R.L. Owen, G. Allen Roberts,

 

J. Arwel Roberts, John Roberts, W.T. Roberts, Hefin W. Thomas, Keith Thomas.

 

Cyfanswm 20

 

 

 

 

 

Yn erbyn y cynnig                                         Dim

 

Ymatal                                              Dim

 

 

 

Cafodd y cynnig ei gario.

 

 

 

PENDERFYNWYD gwrthod cynnig tâl am wasanaeth hir.

 

 

 

4

ETHOLIAD - 2004

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr-gyfarwyddwr bod y Cynulliad a'r Comisiwn Etholiadol wedi penderfynu ar broses o ymgynghori gyda'r awdurdodau lleol i ohirio cynnal etholiadau lleol a drefnwyd ar gyfer 6 Mai 2004 a'u cael i gyd-ddigwydd gydag Etholiad Senedd Ewrop - etholiad i'w gynnal ar 10 Mehefin, 2004.  Hefyd roedd y Cynulliad yn dymuno cael sylwadau yr Awdurdodau Lleol ar y Mesur Etholiadau Lleol a Senedd Ewrop (Peilot) - mesur lle cynigir sefydlu cynllun peilot i bleidleisio trwy'r post i holl etholwyr Cymru.

 

 

 

PENDERFYNWYD gofyn i'r Rheolwr-gyfarwyddwr roddi gwybod i'r Cynulliad ac i'r Comisiwn Etholiadol bod y Cyngor hwn:-

 

 

 

4.1

yn cytuno, mewn egwyddor, i ohirio'r etholiadau lleol a oedd i'w cynnal ar 6 Mai, 2004 a'u trefnu i gyd-ddigwydd gydag Etholiad Senedd Ewrop ar 10 Mehefin, 2004.

 

 

 

4.2

ddim yn cytuno i gyflwyno cynllun peilot arbrofol i bleidleisio trwy'r post yng Nghymru yn yr etholiadau sydd ar y gweill i lywodraeth leol ac i Senedd Ewrop.

 

   

 

5

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD - Eitem 6 Ffordd Gyswllt, Cae'r Sêl, Llangefni

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd G.O. Parry MBE, a oedd gwir angen cau'r wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod, a hynny oherwydd diddordeb y cyhoedd yng Nghynllun Ffordd Gyswllt y Cae Sêl.  Oherwydd bod cyfeiriad yn yr adroddiad at fanylion cyllidol y cynllun yng nghyswllt corff ac eithrio'r Cyngor ei hun rhoes y Swyddog Monitro gyngor i drafod yr eitem heb y wasg a'r cyhoedd yn bresennol.  

 

 

 

(Gofynnodd y Cynghorydd C.L. Everett am gofnodi ei siom oherwydd codi cwestiynau ar yr egwyddor dan Eitem 6 (Ffordd Gyswllt y Cae Sêl, Llangefni) o gau'r cyhoedd a'r wasg allan o'r cyfarfod ac roedd yn dymuno dadgysylltu ei hun oddi wrth y drafodaeth).

 

 

 

Cynigiwyd ac eiliwyd bod Eitem 6 - Ffordd Gyswllt y Cae Sêl Llangefni yn cael ei thrafod heb y wasg a'r cyhoedd yn bresennol.  

 

 

 

Ar ôl trafodaeth cytunwyd, dan Reol Gweithdrefn 18.5 y Cyngor, i gofnodi'r bleidlais.

 

 

 

Dyma'r bleidlais:-

 

 

 

O blaid y cynnig

 

 

 

Y  Cynghorydd Mrs. B. Burns, W.J. Chorlton, E.G. Davies, J.M. Davies, C.Ll. Everett,

 

D.D. Evans, Keith Evans, P.M. Fowlie, D.R. Hughes, Fflur M. Hughes, Dr. J.B. Hughes, W.I. Hughes, G.O. Jones, H. Eifion Jones, R.Ll. Jones, W.E. Jones,  R.G. Parry OBE, G.W. Roberts, J. Arwel Roberts, W.T. Roberts, Elwyn Schofield, Hefin W. Thomas,

 

Keith Thomas, W.J. Williams.                          Cyfanswm 24

 

 

 

Yn erbyn y cynnig

 

 

 

Y Cynghorwyr R.L. Owen, John Roberts, G.O. Parry MBE     Cyfanswm 3

 

 

 

Ymatal                                         Dim

 

 

 

Cafodd y cynnig ei gario.

 

 

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r cymal canlynol:-

 

 

 

"Dan Adran 100 (A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y  tebygrwydd y câi gwybodaeth eithriedig ei datgelu, gwybodaeth a ddiffinnir ym Mharagraff  8, 9 a 10, Atodlen 12A i'r Ddeddf honno."

 

 

 

6

FFORDD GYSWLLT, CAE'R SÊL, LLANGEFNI

 

 

 

6.1

Cyflwynwyd - adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo) a'r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) ar y sefyllfa ac yn gofyn am arian i fwrw ymlaen gyda'r cynllun.  Roedd yr adroddiad wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith ar 14 Hydref, 2003.

 

 

 

6.2

Cyflwynwyd - y dyfyniad canlynol o gofnodion y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 14 Hydref, 2003:-

 

 

 

"Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo) yn rhoddi i'r Pwyllgor Gwaith y manylion diweddaraf ar y sefyllfa gyfredol yng nghyswllt y gorwariant a ragwelir ar Gynllun Ffordd Gyswllt Llangefni.

 

 

 

Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo) bod y Ffordd Gyswllt yn rhan o Strategaeth Datblygu a Cludiant Integredig ehangach a fabwysiadwyd gan y Cyngor ac y byddai'n gwella'r modd y rheolir traffig yng nghanol y dref ac yn gwella'r amgylchedd a diogelwch cerddwyr.  

 

 

 

Cododd nifer o faterion mewn perthynas â tir a bu hynny'n destun trafodaeth rhwng y Cyngor ac amryw bartïon.  Prynwyd eiddo ac roedd eiddo'n cael ei ail-leoli fel rhan o'r Cynllun gan greu costau sylweddol hyd yma a chan ymrwymo costau hefyd.

 

 

 

Tyfodd y Cynllun yn un cymhleth iawn a gofynnwyd nifer o gwestiynau yn ystod y drafodaeth a ddilynodd.

 

 

 

Mynegodd yr Aelodau eu pryder ynghylch y ffigwr y daethpwyd iddo gan y Prisiwr Dosbarth yng nghyswllt iawndal Rheol 5 a chytunwyd y dylai'r Aelod Portffolio dros Briffyrdd a Thrafnidiaeth ynghyd â'r Aelod Portffolio dros Eiddo ofyn am gyfarfod gyda'r Prisiwr Dosbarth i drafod y ffigwr hwn ymhellach.

 

 

 

Nid oedd cwblhau'r cynllun yn rhannol yn opsiwn a gwnaed bob ymdrech i gael cyfraniad ychwanegol gan Safeway Stores ccc., ond ni chafwyd llwyddiant.  Pery'r ymdrechion i gael y cyfraniad uchaf posib gan Safeway Stores ccc., a chyrff cyllido eraill megis Awdurdod Datblygu Cymru.  Gwneir pob ymdrech hefyd yn ystod y broses adeiladu i ostwng y costau.  Mae gwariant ac ymrwymiad ariannol eisoes wedi'i wneud ac er bod hwnnw o fewn y gyllideb sydd ar gael, mae'n amlwg na fydd yn ddigon i gwblhau'r cynllun.

 

 

 

Ystyriwyd dwy opsiwn sef:

 

 

 

Ÿ

naill ai symud ymlaen gyda'r prosiect neu

 

Ÿ

dwyn y cynllun i ben ar ôl symud adeilad A.

 

 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyllid Corfforaethol y byddai'n rhaid i'r Cyngor gwrdd â diffyg sylweddol yn y naill amgylchiad neu'r llall, diffyg a fyddai y tu allan i'r fframwaith cyllidebol ac o'r herwydd bydd raid i'r Pwyllgor Gwaith mofyn cymeradwyaeth y Cyngor Sir llawn cyn rhyddhau unrhyw arian cyfalaf ychwanegol (i'w ddwyn ymlaen o'r dyraniad ar gyfer 2004/05).  Mae'n anorfod, na fydd cynlluniau eraill yn mynd yn eu blaenau yn sgil cymeradwyo'r gwariant ychwanegol, fodd bynnag, roedd y Cyfarwyddwr yn cefnogi parhau gyda'r cynllun fel yr opsiwn gorau i'r Cyngor yn yr amgylchiadau fel ag y maent."

 

 

 

PENDERFYNWYD :-

 

a.  rhoddi'r awdurdod i werthu y budd rhyddfreiniol yn y tir sy'n angenrheidiol i symud Eiddo A (ym amodol ar gael caniatâd cynllunio);

 

 

 

b.  trafod ildio'r tir gan "B",  y tir sy'n angenrheidiol i symud "A";

 

 

 

c.  gwrthod y cais i werthu'r budd rhyddfreiniol yn safle eiddo "B", ond cynnig prydles newydd dros gyfnod hwy ar weddill y tir y mae "B" yn ei ddal ar ôl cwblhau y gwaith ar benderfyniad "B" uchod ac yn ôl telerau y bydd y Swyddogion perthnasol yn cytuno arnynt;

 

 

 

ch. cymeradwyo cyfarfod rhwng y Prisiwr Dosbarth, y Deilydd Portffolio Trafnidiaeth a Chludiant a'r Deilydd Portffolio Eiddo fel bod modd cael rhagor o drafodaethau ar y swm y cytunwyd arno dan Reol 5 - Iawndal;

 

 

 

d.  argymell i'r Cyngor Sir bod y gwaith yn mynd yn ei flaen ar Ffordd Gyswllt Llangefni a bod cyllid cyfalaf yn cael ei glustnodi i'r pwrpas fel a amlinellwyd yn yr adroddiad a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith;

 

 

 

dd. rhoi gwybod i'r Cyngor Sir am y rhesymau y tu cefn i'r penderfyniad uchod, sef hwyluso'r broses o adeiladu Ffordd Gyswllt er lles tref Llangefni. "

 

 

 

Wedyn cafwyd gan y Deilydd Portffolio Priffyrdd a Thrafnidiaeth adroddiad cryno ar gefndir cynllun Ffordd Gyswllt y Cae Sêl ac ar y sefyllfa bresennol yng nghyswllt y rhagamcan o'r gorwariant.

 

 

 

Roedd yr Aelodau'n pryderu'n fawr iawn ynghylch gorwariant ar y cynllun a'r posibilrwydd y bydd raid gohirio neu ddileu cynlluniau cyfalaf eraill.  Ar ôl trafodaeth faith PENDERFYNWYD symud ymlaen gyda chynllun Ffordd Gyswllt Llangefni a gofyn i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) ymchwilio i'r posibilrwydd o ryddhau arian o'r derbynion cyfalaf neu o'r cronfeydd canolog i gwrdd â gorwariant y cynllun.  

 

 

 

Y CYNGHORYDD MRS. B. BURNS

 

CADEIRYDD