Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 21 Rhagfyr 2006

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Iau, 21ain Rhagfyr, 2006

CYNGOR SIR YNYS MÔN

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar   21 Rhagfyr, 2006

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd W. J. Williams MBE - Is-Gadeirydd yn y Gadair

 

Y Cynghorwyr J. M. Davies, P. J. Dunning, E. G. Davies, J. Arwel Edwards, Keith Evans, P. M. Fowlie, D. R. Hadley, D. R. Hughes, Mrs Fflur M. Hughes, W. I. Hughes, H. Eifion Jones, J. Arthur Jones, O. Glyn Jones, A. M. Jones, R. Ll. Jones, Bryan Owen, R. L. Owen, G. O. Parry MBE, Bob Parry OBE, D. A. Lewis-Roberts, G. W. Roberts OBE, John Roberts, P. S. Rogers, Hefin W. Thomas, John Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Y Rheolwr-gyfarwyddwr

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Gwasanaethau Amgylcheddol a Thechnegol),

Cyfarwyddwr Cyfreithiol a Gwasanaethau Pwyllgor/Swyddog Monitro,

Pennaeth Gwasanaeth (Polisi),

Cyfreithiwr i'r Swyddog Monitro (RJ)

Swyddog Pwyllgor (JMA).

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr Mrs B. Burns MBE, J. Byast, R. Ll. Hughes, G. O. Jones, T. H. Jones, G. Allan Roberts, W. T. Roberts, J. Rowlands, E. Schofield, K. Thomas.

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

 

 

Cyn dechrau ar raglen y cyfarfod, dywedodd y Cynghorydd Fflur Hughes ei bod yn siomedig iawn o sylwi, a hynny am y tro cyntaf ers iddi hi fod yn aelod o'r Cyngor, nad oedd neb yn rhoddi gweddi ar ddechrau'r Cyngor Sir, yn arbennig o ystyried ein bod yn nhymor ewyllys da.  O ddwyn mewn cof y ffordd y bu i'r Cyngor Sir gynnal ei weithgareddau yn y cyfarfod diwethaf roedd yn credu y byddai gweddi wedi bod yn fwy priodol nag erioed.  Cynigiodd fod pob un oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn adrodd Gweddi'r Arglwydd.  Cytunodd y Cadeirydd i'r cais.

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Nid oedd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan nag aelod na swyddog yng nghyswllt unrhyw eitem ar y rhaglen.

 

2

DERBYN DATGANIADAU GAN Y CADEIRYDD, ARWEINYDD, AEODAU'R PWYLLGOR GWAITH NEU BENNAETH Y GWASANAETHAU TÂL

 

Nid oedd unrhyw ddatganiadau.

 

3

CAIS AM GYFARFOD ARBENNIG O'R CYNGOR SIR

 

Yn unol â pharagraff 4.1.3 (iv) o Gyfansoddiad y Cyngor (Tudalen 91), roedd y Cadeirydd wedi galw cyfarfod arbennig o'r Cyngor yn dilyn cais i wneud hynny oedd wedi ei arwyddo gan 11 o aelodau'r Cyngor.

 

Roedd y cais yn darllen fel a ganlyn :-

 

 

"Yr ydym ni yr enwebiadau isod yn gofyn am gyfarfod brys arbennig o'r Cyngor Sir i drafod cwestiyna ofynnwyd gan y Cynghorydd Peter Rogers ac a wrthodwyd gan y Cadeirydd yn y cyfarfod gynhaliwyd ar Ragfyr 14eg 2006".

 

 

 

Roedd y Cais, dyddiedig 14 Rhagfyr 2006 wedi ei arwyddo gan y Cynghorwyr :

 

Peter S. Dunning, J. Arwel Edwards, P. M. Fowlie, Fflur M. Hughes, Aled Morris Jones, O. Glyn Jones, R. L. Owen, Bob Parry OBE, G. O. Parry MBE, P. S. Rogers, Keith Thomas.

 

 

 

Cyn gwahodd y Cynghorydd Peter Rogers i gyflwyno'i gwestiwn cyntaf, fe ofynnodd y Cadeirydd i'r Swyddog Monitro annerch y cyfarfod. Roedd y Swyddog Monitro yn dymuno rhannu cyngor yr oedd wedi ei roddi i'r Cynghorydd Rogers ar 12 Rhagfyr 2006 a hefyd i Arweinydd y Cyngor.

 

 

 

Tynnodd sylw at y canlynol :

 

 

 

Mae'r hawl i ofyn cwestiynau mewn Cyfarfodydd o'r Cyngor yn hawl i ofyn cwestiwn i Aelodau'r Cabinet ac i Gadeiryddion y Pwyllgorau ac mae'n adlewyrchu atebolrwydd yr unigolion hynny am y meysydd gwaith y maent yn gyfrifol amdanynt.

 

 

 

Mae cwestiwn 1 yn cyfeirio at yr Ymddiriedolaeth Elusennol sydd yn entiti cyfreithiol ar wahân i'r Cyngor ac nid oes gan Arweinydd y Cyngor unrhyw gyfrifoldeb am yr Ymddiriedolaeth mwy nag oes gan unrhyw Gynghorydd arall.  Yn ychwanegol, nid yw'r Arweinydd yn gyfrifol am benodi Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth, sy'n cael ei ethol gan yr Ymddiriedolaeth ei hun.

 

 

 

Cyngor y Swyddog Monitro i'r Arweinydd oedd fod y cwestiwn yn disgyn y tu allan i gylch y weithdrefn geir yn y Cyfansoddiad ac nad oedd angen iddo ymateb.  

 

 

 

Dywedodd y swyddog hefyd fod gwahaniaeth sylfaenol o fewn y gyfraith rhwng methdaliad personol a derbynyddiaeth gorfforaethol neu ddiddymiad ac y dylid bod yn ofalus pan yn gwneud honiadau o'r fath.  Nid yw'r hyn ddywedir mewn cyfarfodydd o'r Cyngor yn destun braint absoliwt ond yn hytrach fraint amodol sy'n golygu, os caiff ei herio,  y bydd yn rhaid i aelodau sefydlu bod ganddynt sail resymol dros wneud honiadau o'r fath.  Pebai gan y Cynghorydd Rogers bryderon ynglyn â rheolaeth yr Ymddiriedolaeth, dywedodd y Swyddog Monitro y dylai'r pryderon hynny gael eu cyfeirio at y Comisiwn Elusennol.

 

 

 

Ar bwynt o Drefn, cwestiynodd y Cynghorydd J. A. Jones briodoldeb y cwestiwn gan ei fod yn teimlo nad oedd yn cydymffurfio gyda Chymal 4.1.12.2(iv) o Gyfansoddiad y Cyngor.  Roedd yn teimlo nad oedd gan y Cyngor unrhyw gyfrifoldeb am yr Ymddiriedolaeth.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Rogers yn ystyried fod yr hyn yr oedd wedi ei glywed gan y Swyddog Monitro yn rhywbeth pellgyrhaeddol oedd yn cydnabod cyfrifoldebau cyfreithiol ac ariannol aelodau'r Ymddiriedolaeth.  Roedd yn ystyried fod y mater yn un manwl a dyrys, a byddai'n gadael hynny oll i'r aelodau.

 

 

 

Yng ngoleuni'r cyngor uchod, gofynnodd y Cadeirydd i'r Cynghorydd Rogers a oedd yn dymuno cario ymlaen gyda Chwestiwn 1.  Dywedodd y byddai'n herio'r dehongliad cyfreithiol a'i fod yn dymuno symud ymlaen.  Ailadroddodd y Cynghorydd J. A. Jones ei sylwadau blaenorol bod raid i'r cwestiwn fod yn un perthnasol i gyfrifoldebau'r Cyngor ac awgrymodd y dylai'r Cynghorydd Rogers roi ei gwestiwn naill ai i'r Ymddiriedolaeth neu i'r Comisiwn Elusennol.  Dywedodd y Swyddog Monitro y gallai'r Cynghorydd Rogers ofyn y cwestiwn ond mai ei chyngor hi i Arweinydd y Cyngor oedd nad oedd raid iddo ateb.

 

 

 

1.  Rhoddodd Arweinydd y Cyngor wahoddiad i'r Cynghorydd Rogers gyflwyno ei gwestiwn cyntaf, sef :-

 

 

 

Am resymau da iawn, nid yw'r gyfraith yn caniatáu i bobl sy'n fethdalwyr fod Ymddiriedolwyr ar Elusennau.  Yn dilyn chwaliad cwmni adeiladu'r Cynghorydd Hefin Thomas gyda dyledion honedig dros £350,000 a effeithiodd ar fusnesau ledled yr Ynys, ydi penodi'r Cynghorydd Thomas yn Gadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn yn benodiad diogel o safbwynt cyfreithiol ac a ydych wedi mofyn cyngor cyfreithiol ?

 

 

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei fod yn credu mai'r cwmni oedd wedi mynd yn Fethdalwr ac nid yr unigolyn ac yr oedd yn derbyn y cyngor cyfreithiol ac yn teimlo ei bod yn bwysig fod yr aelodau oedd yn bresennol yn deall pwysigrwydd yr Ymddiriedolaeth a'r Cyngor Sir.  Roedd felly am dderbyn cyngor cyfreithiol ac nid oedd yn barod i ateb Cwestiwn 1.

 

 

 

Diolchodd y Cynghorydd Rogers i'r Arweinydd am ei ymateb cynhwysfawr.  Gofynnodd a fyddai'r Arweinydd yn cytuno, ar sail yr hyn oedd wedi ei glywed yng nghyfarfod heddiw, y dylid cymryd camau yn erbyn y Cynghorydd Hefin Thomas i'w symud o bob swydd o gyfrifoldeb, h.y. fel Deilydd Portffolio, o fewn 7 diwrnod.  Os na fyddai hynny'n cael ei wneud roedd yn bwriadu galw cyfarfod arbennig arall o'r Cyngor.  Dywedodd y byddai'n disgwyl derbyn llythyr gan y Rheolwr-gyfarwyddwr o fewn y 7 diwrnod nesaf a fyddai'n dangos fod yr Arweinydd yn gweithredu yn unol  â dymuniad y Cynghorydd Rogers neu fe fyddai'n galw am gyfarfod arbennig arall i ofyn i'r Cynghorydd Thomas gael ei symud ymaith o'i holl swyddogaethau ar y Cyngor h.y. fel Deilydd Portffolio oherwydd y gwarth yr oedd wedi ei ddwyn ar bawb.

 

 

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei fod wedi rhoddi ei ateb a bod pawb oedd yn bresennol yn hollol ymwybodol fod y cwestiwn yn cael ei ofyn yn y lle anghywir.

 

 

 

2.  Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd Rogers i ofyn ei Ail Gwestiwn sef :

 

 

 

AT Y CYNGHORYDD HEFIN THOMAS, CADEIRYDD YMDDIRIEDOLAETH ELUSENNOL YNYS MÔN -

 

 

 

Yn wyneb y ffaith bod eich cyn gwmni adeiladu, Cefni (Pentraeth) Cyf. wedi ei diddymu gyda dyledion dros oddeutu £350,000 gan effeithio ar nifer o fusnesau lleol, ydych chi'n gwerthfawrogi peth mor ansensitif ym marn trethdalwyr Ynys Môn oedd i chi dderbyn cadeiryddiaeth Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn ?

 

 

 

Cyn i'r Cynghorydd Hefin Thomas ymateb, dywedodd y Swyddog Monitro nad oedd yn awgrymu fod y cwestiwn yn un amhriodol gan ei bod yn deall fod y Cynghorydd Thomas yn bwriadu ymateb, ond, fel rhywbeth i'w ystyried yn y dyfodol, y fforwm cywir i gwestiwn o'r fath fyddai'r Ymddiriedolaeth Elusennol.  Nid oedd y cwestiwn yn cael ei ofyn i'r Cynghorydd Thomas fel aelod o'r Pwyllgor Gwaith ond yn hytrach fel Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth Elusennol ac felly nid oedd yn disgyn o fewn rheolau gweithdrefn y Cyngor.  Roedd am roi cyngor y dylai cwestiynau o'r fath gael eu gofyn ym Mhwyllgorau'r Ymddiriedolaeth yn y dyfodol.

 

 

 

Diolchodd y Cynghorydd Hefin Thomas i'r Cynghorydd Rogers am y cwestiwn.  Roedd yn fwy na pharod i sefyll o flaen yr aelodau gan iddo gael ei ethol yn Gadeirydd yr Ymddiriedolaeth gan yr aelodau ac roedd yr aelodau yn eu tro wedi cael eu hethol gan y Trethdalwyr.  Roedd wedi ei ethol yn Gadeirydd gyda mwyafrif da ac roedd yn teimlo'n gyfforddus wrth dderbyn y swyddi.

 

 

 

Gofynnwyd i'r Cynghorydd Rogers a oedd yn dymuno gofyn cwestiwn atodol.  Diolchodd i'r Cynghorydd Thomas am ei ymateb a chytunodd ei fod wedi ei ethol yn ddemocrataidd, ond byddai'r cwestiwn yn cael ei ofyn unwaith yn rhagor i'r aelodau mewn 7 diwrnod ac fe fyddai'r bleidlais wedi ei chofnodi er mwyn i'r Trethdalwyr weld pwy oedd yn cefnogi'r fath benodiad.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Fowlie, fel un o'r rhai oedd wedi gofyn am y cyfarfod arbennig, am ganiatâd i siarad.  Gwrthodwyd ei gais.  Ailadroddodd y Cynghorydd A. M. Jones ei gais fod unrhyw gyngor cyfreithiol sy'n cael ei roddi i unrhyw unigolyn yn cael ei wneud yn hysbys, yn ysgrifenedig, i'r holl aelodau cyn y cyfarfod o'r Pwyllgor perthnasol.

 

 

 

3.  Rhoddodd y Cadeirydd wahoddiad i'r Cynghorydd Rogers gyflwyno ei drydydd cwestiwn sef :

 

 

 

AT Y CYNGHORYDD HEFIN THOMAS, AELOD PORTFFOLIO CYNLLUNIO

 

 

 

1.  Wrth edrych yn ôl, a ddylech chi fod wedi datgan diddordeb yn y Pwyllgor Cynllunio ar 6.4.2005 ar gais 22C169 oedd yn tynnu'n groes i'r polisi pryd y bu i chi siarad ar a chefnogi'r cais a gymeradwywyd ?

 

 

 

Diolchodd y Cynghorydd Thomas i'r Cynghorydd Rogers am ei gwestiwn a dywedodd mai ei ateb oedd Na.  Dywedodd y Cynghorydd Rogers ei fod yn teimlo fod yna ddiddordeb y dylid bod wedi ei ddatgan ac y byddai'n mynd â'r mater hwn ymhellach mewn ffyrdd eraill.  

 

 

 

Cafwyd cyngor gan y Swyddog Monitro yng nghyswllt yr agweddau cyfreithiol i'r cwestiwn a dywedodd nad oedd unrhyw beth yn y Côd sy'n gwahardd i aelod bleidleisio ar gais cynllunio a gyflwynir gan gyd aelod o Grwp neu  Parti, neu gan berthynas i rywun o'r un grwp neu parti.  Roedd y Swyddog Monitro'n derbyn y gallai fod yna resymau eraill dros ddatgan diddordeb a pheidio â chymryd rhan, megis cyfeillgarwch personol.  Ond i hynny gyfateb i dorri'r Côd, byddai raid i'r berthynas fod yn fwy na dim ond cyd-aelodaeth o'r un Grwp neu Barti Gwleidyddol.

 

 

 

2.  Wedi i chi gefnogi'r cais cynllunio uchod sef 22C169, siaradodd y Cynghorydd John Arthur Jones i gefnogi'r cais a chynigiodd y Cynghorydd David Lewis-Roberts y dylid ei gymeradwyo.  Gan fod y cais yn un gan ferch cyd-aelod o'ch grwp, yr Annibynwyr Radicalaidd, ydych chi'n meddwl eich bod chi wedi torri côd ymddygiad y Cyngor mewn unrhyw fodd ?

 

 

 

Diolchodd y Cynghorydd Thomas i'r Cynghorydd Rogers am ei gwestiwn a chyfeiriodd ef at yr ateb roddwyd i gwestiwn tebyg i'r Cynghorydd John Arthur Jones yng nghyfarfod y Cyngor gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2006 lle'r oedd y Cynghorydd R. L. Owen ac A. M. Jones wedi cefnogi cais gan fab y Cynghorydd T. H. Jones sydd yn yr un Grwp a hwythau.  Dywedodd ei fod yn amlwg nad oedd y Cynghorydd Rogers wedi gofyn yr un cwestiwn iddynt hwy.  Fodd bynnag, roedd yn barod i ateb y cwestiwn.  Dywedodd nad oedd wedi torri unrhyw Gôd ac na ddylai fod wedi datgan diddordeb.

 

 

 

Mewn ymateb, dywedodd y Cynghorydd Rogers nad oedd yn hollol yr un fath â'r cwestiwn godwyd gan y Cynghorydd J. A. Jones.   Roedd hyn yn ymwneud â phob aelod o Barti'r Annibynwyr Radicalaidd.  Gofynnodd sut roedd cymaint o'r Annibynwyr Radicalaidd ar y Pwyllgor Cynllunio ac roedd o'r farn fod hyn yn groes i reolau'r Cyngor.

 

 

 

Ar bwynt o Drefn, roedd y Cynghorydd Hadley, fel Aelod o'r Pwyllgor Cynllunio, yn dymuno egluro ei fod ef yn aelod digyswllt ac roedd am i aelodau'r Cyngor fod yn hollol ymwybodol o hyn.

 

 

 

     Ar bwynt o Drefn, cytunodd y Cadeirydd i ganiatáu i'r Cynghorydd Aled Morris Jones gyflwyno eglurhad personol.  Dywedodd y Cynghorydd Jones ei fod yn ceisio ystyried pob cais cynllunio yn ôl Polisi, er mwyn bod o gymorth i bawb ar yr Ynys, a hynny heb bigo a dewis pwy sy'n cael caniatâd cynllunio.  Cyfeiriodd at gais cynllunio mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn Llanddona a chyfaddefodd fod aelodau'r wrthblaid wedi cerdded allan o'r Pwyllgor Cynllunio gan eu bod yn teimlo nad oeddynt yn cael chwarae teg yn y cyfarfodydd Cynllunio.  Roedd yn gwrthwynebu'r ffaith fod gan y Grwp Radicalaidd ddau aelod pan nad oedd ganddynt hawl  ond i un ac roedd Môn Ymlaen yn gwrthod datrys yr anghytundeb.  Gwrthododd y Cadeirydd i faterion cynllunio gael eu trafod a symudwyd ymlaen.

 

      

 

     Dywedodd y Cadeirydd y byddai'n caniatáu i'r Cynghorydd J. A. Jones roddi eglurhad personol gan iddo gael ei enwi gan gyd Gynghorydd.  Rhoddodd wahoddiad i aelodau'r wasg a'r cyhoedd fynychu cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio i weld sut yr oedd yr aelodau'n pleidleisio, yn arbennig aelodau Grwp Plaid Cymru pan fo cais yn cael ei gyflwyno gan aelod o Blaid Cymru.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Fowlie i'r Cadeirydd egluro pam fod y Cynghorydd Hadley wedi cael caniatâd i siarad tra i ganiatâd gael ei wrthod iddo ef wneud hynny.  Dywedodd y Cadeirydd mai mater o eglurhad personol oedd hynny.  Rhoddwyd caniatâd i'r Cynghorydd Fowlie roddi ei eglurhad ynglyn â phaham yr oedd eisiau siarad.  Mynegodd ei siom fod y cyfarfod hwn wedi ei alw ac y dylid bod wedi delio gyda'r mater yn y cyfarfod ar 14 Rhagfyr.  Gofynnodd i'r Cadeirydd sicrhau, yng ngoleuni'r ffaith fod y wasg a'r cyhoedd yn bresennol, fod cwestiynau'n cael eu rhoi yn llawn.  Dywedodd y Cadeirydd y byddai'n cadw ar Reolau Sefydlog y Cyngor.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Hefin Thomas yn dymuno ymateb i'r cwestiwn atodol.  Eglurodd nad oedd yn aelod o'r Pwyllgor Cynllunio, ac nad yw Cadeirydd y Cyngor chwaith yn aelod o'r Pwyllgor Cynllunio.  Roedd hyn yn wir ar adeg y cais cynllunio y cyfeirir ato gan y Cynghorydd Rogers.  Eglurodd y Cynghorydd Thomas nad oedd ond dau aelod o'r Grwp Annibynwyr Radicalaidd ar y Pwyllgor Cynllunio a'i fod ef yn bresennol yn y Pwyllgor, fel yr Aelod Lleol, yn cyflwyno cais yn ei etholaeth ei hun.  Nid oedd wedi cynnig y cais.  Ni allai fod wedi gwneud hynny gan nad oedd yn aelod o'r Pwyllgor.  Roedd wedi siarad o blaid y cais ac eistedd i lawr.  Roedd aelodau'r Pwyllgor Cynllunio wedi dod i benderfyniad ynglyn â'r cais.  

 

      

 

     Pe câi'r cofnodion eu siecio byddent yn dangos fod y Cynghorydd Thomas wedi pleidleisio yn y Pwyllgor Cynllunio meddai'r Cynghorydd Rogers.

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Thomas a fyddai'r Cynghorydd Rogers yn barod i dynnu ei ddatganiad yn ôl os profir fod y datganiad yn anghywir.

 

      

 

     Symudodd y Cadeirydd y drafodaeth ymlaen at y cwestiwn nesaf.

 

      

 

4

AT Y CYNGHORYDD D. LEWIS-ROBERTS, CADEIRYDD Y PWYLLGOR TROSOLWG POLISI DATBLYGU, GWASANAETHAU SYLFAENOL AC ADNODDAU -

 

      

 

     Cyfeiriaf at y cyfarfod diwethaf o'r Cyngor pryd godais bryderon ynghylch y ffaith nad oeddech yn addas i Gadeirio'r Pwyllgor Trosolwg Polisi, Datblygu Gwasanaethau Sylfaenol ac Adnoddau am eich bod yn defnyddio llythrennau ar ôl eich enw ar bapur pennawd y Cyngor nad oedd gennych yr hawl iddynt.

 

      

 

     Wedi hynny, bu i chi gyflwyno rhyw fath o ddogfennau i argyhoeddi'r Swyddog Monitro ei bod hi'n briodol i chwi i'w defnyddio.  Yna, ysgrifennodd hi at yr holl Gynghorwyr yn cadarnhau hynny.  Fedrwch chi gadarnhau fod Mr. David Oliver o NAEA wedi ysgrifennu atoch ar 14 Mehefin a 3 Hydref ynghylch, gan ddefnyddio ei eiriau ef, defnyddio llythrennau heb ganiatâd ac yn gofyn iddo roi'r gorau i'w defnyddio.  Yn dilyn galwad ffôn a wnaed gennych i Mr. Oliver ym mis Hydref, dywedwyd wrthych eto nad oeddech mwyach yn aelod ac y dylech gydymffurfio gyda'i gais.

 

      

 

     Cadarnhaodd y Cynghorydd D. Lewis-Roberts ei fod wedi cymhwyso ac wedi pasio'r holl arholiadau perthnasol ar 19 Awst 1980.  Roedd ganddo Dystysgrif i gadarnhau hynny. Ei rif aelodaeth fel Aelod Cysylltiol yw 016708.  Roedd y Cynghorydd Lewis-Roberts yn credu fod y Swyddog Rhyddid Gwybodaeth wedi cadarnhau hyn yn ysgrifenedig, i'r Cynghorydd Rogers ar 26 Hydref 2006.

 

      

 

     Yn ei gwestiwn atodol, cyfeiriodd y Cynghorydd Rogers at y ffaith fod y Cynghorydd Lewis-Roberts wedi cymhwyso yn 1980.  Dywedodd fod y meini prawf ar gyfer aelodaeth yn rhai cadarn iawn a bod yn rhaid i aelodau gyfarfod â'r safonau angenrheidiol bob blwyddyn.  Methodd y Cynghorydd Lewis-Roberts wneud hyn yn ôl y Swyddog Cydymffurfiaeth, Mr. David Oliver.  Cyhuddodd y Cynghorydd Lewis-Roberts o roi gwybodaeth anghywir i'r Cyngor ac i'r Swyddog Monitro.

 

      

 

     Yn ei ymateb fe ddywedodd y Cynghorydd Lewis-Roberts :-

 

      

 

Ÿ

ei fod yn teimlo fod y Cynghorydd Robers yn ceisio pardduo ei enw

 

Ÿ

fod y Cynghorydd Rogers yn gwastraffu arian y trethdalwyr

 

Ÿ

nad oedd neb wedi derbyn y cynnig, anfonwyd gan y Swyddog Rhyddid Gwybodaeth i berson annibynnol edrych ar y dystysgrif.

 

 

 

Roedd y Swyddog Cydymffurfiaeth wedi cadarnhau nad oedd ei gofnodion yn mynd yn ôl ymhellach na 3 blynedd  ac y byddai'n cyfeirio'r mater i'r Adran Safonau Masnach ymchwilio iddo.  Roedd Ymchwiliad yr Adran wedi dod i'r casgliad nad oedd yn ymddangos fod unrhyw drosedd wedi chyflawni gan nad ydyw mewn unrhyw fasnach na busnes.  Cadarnhaodd y Cynghorydd Lewis-Roberts iddo gysylltu â'r Gymdeithas trwy lythyr yn 1995/6 yn dweud wrthynt ei fod wedi ymddeol ond nid oedd wedi derbyn ateb ganddynt.  Dywedodd y gallai'r aelodau oedd yn bresennol yn y cyfarfod gadarnhau iddo fod, ar un adeg, yn werthwr tai ac nad oedd unrhyw fwriad i dwyllo nac i gamarwain neb.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Lewis-Roberts ei fod yn falch iawn o fod yn Gadeirydd y Pwyllgor Trosolwg Polisi Datblygu, Gwasanaethau Sylfaenol ac Adnoddau ac o'r gwaith ardderchog sy'n cael ei wneud gan Aelodau a Swyddogion y Pwyllgor hwnnw.  Dywedodd nad oedd wedi gwneud unrhyw beth o'i le ac nad oedd wedi dweud celwyddau.

 

 

 

5

Gwahoddwyd  y Cynghorydd Rogers gan y Cadeirydd i ofyn ei 5ed Cwestiwn.

 

      

 

     AT YR ARWEINYDD -

 

      

 

     Yn wyneb y wybodaeth yr wyf wedi ei darparu yn y cwestiwn blaenorol i'r Cynghorydd David Lewis-Roberts, ydych chi'n meddwl bellach bod y Cynghorydd Lewis-Roberts yn berson addas i gadeirio'r Pwyllgor Trosolwg ?

 

     Diolchodd yr Arweinydd i'r Cynghorydd Rogers am ei gwestiwn.  Dywedodd i'r un cwestiwn gael ei ofyn iddo ar 19 Chwefror 2006 ac o glywed yr hyn oedd wedi ei ddweud yng nghyfarfod y dydd heddiw, ac o glywed yr hyn oedd wedi ei ddarllen allan, cadarnhaodd fod ei ateb yn parhau yr un a'i fod yn fodlon gyda'r Cynghorydd David Lewis-Roberts.  

 

      

 

     Roedd y Swyddog Monitro'n gwerthfawrogi fod yr Arweinydd wedi ateb y cwestiwn, ond byddai o fudd ar gyfer y dyfodol iddi roddi cyngor ar gwestiwn 5.  Roedd yr Arweinydd wedi arfer ei ddisgresiwn i ateb y cwestiwn ond nid oedd ganddo unrhyw awdurdod dros y materion a grybwyllwyd.  Nid yw'r Cynghorydd David Lewis-Roberts yn aelod o'r Pwyllgor Gwaith, ac nid yw, felly, wedi ei ddewis gan yr Arweinydd, ac nid yw chwaith yn aelod o'r un grwp gwleidyddol â'r Arweinydd.  Roedd y Cynghorydd Lewis-Roberts wedi ei benodi yn aelod o'r Pwyllgor Trosolwg o dan reolau cydbwysedd gwleidyddol, fel un a enwebwyd gan y Grwp y mae'n perthyn iddo a'i benodi wedi hynny i fod yn Gadeirydd Pwyllgor gan y Pwyllgor ei hun. Roedd yr holl faterion hynny yn disgyn y tu allan i gylch gorchwyl yr Arweinydd ac fe fyddai wedi bod yn hollol resymol iddo beidio ateb y cwestiwn.

 

      

 

     Atebodd y Cynghorydd Rogers gan ddweud ei fod yn teimlo i'r Swyddog Monitro wneud pwynt da yng nghyswllt y cydbwysedd gwleidyddol ond roedd am ddadlau nad oes unrhyw gydbwysedd gwleidyddol gan fod Cadeirydd pob un o'r Pwyllgorau Sgriwtini yn aelodau o'r Grwp sy'n rheoli.  Dywedodd mai'r Arweinydd sy'n dweud pwy yw'r Cadeirydd i fod a phwy sy'n cael y swyddi gyda thâl ar y Cyngor.  Gofynnodd am i'r Arweinydd fynd i'r afael â hyn a sicrhau fod y cydbwysedd gwleidyddol yn cael ei ddeall a bod gan y Cyngor Bwyllgorau Sgriwtini iawn.  

 

      

 

     Ymatebodd yr Arweinydd gan ddweud na allai ddeall sut y gellid ei gyhuddo ef o ddewis Cadeiryddion y Pwyllgorau pan nad oedd yn aelod ohonynt.  Ymhellach i hyn, roedd y Cynghorydd Rogers wedi gofyn iddo fod a gofal o bethau, ond dywedodd ei fod ef, fel Arweinydd, â gofal o bethau.  Ni allai ddeall y cwestiwn a roddwyd gan y Cynghorydd Rogers.

 

      

 

     Diolchodd y Cynghorydd G. O. Parry MBE i'r Cadeirydd am gadeirio'r cyfarfod ac i'r Swyddog Monitro am y cyngor cyfreithiol.  Mynegodd ei siom nad oedd y cwestiynau hyn wedi eu trafod yn unol â'r cais wnaed yn wreiddiol gan y byddai hynny wedi arbed llawer o amser ac o arian.

 

      

 

     Daeth y Cadeirydd â'r cyfarfod i ben trwy ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb oedd yn bresennol.

 

      

 

      

 

     Y CYNGHORYDD W. J. WILLIAMS

 

     IS-GADEIRYDD YN Y GADAIR