Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 23 Mehefin 2005

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Iau, 23ain Mehefin, 2005

Cyfarfod Arbennig o Gyngor Sir Ynys Môn

 

Cofnodion y cyfarfod gynhaliwyd 23 Mehefin, 2005

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd J. Byast (Cadeirydd)

 

Y Cynghorwyr Mrs B. Burns, W.J. Chorlton, E.G. Davies,

J.M. Davies, P.J. Dunning, J.A. Edwards, C.Ll. Everett,

P.M. Fowlie, D.R. Hughes, Fflur M. Hughes, R.Ll. Hughes,

W.I. Hughes, A.M. Jones, G.O. Jones, H.E. Jones,

J.A. Jones, O.G. Jones, R.Ll. Jones, T.H. Jones,

D.A. Lewis-Roberts, Bryan Owen, R.L. Owen,

G.O. Parry MBE, R.G. Parry OBE, G.A. Roberts,

G. Winston Roberts OBE, J. Arwel Roberts, John Roberts,

W.T. Roberts, P.S. Rogers, H. Noel Thomas, H.W. Thomas,

J. Williams, W.J. Williams MBE.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Rheolwr-gyfarwyddwr

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a'r Amgylchedd)

Pennaeth Gwasanaeth (Polisi)

Pennaeth Gwasanaeth (Addysg)

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro

Cyfreithiwr (RMJ)

Swyddog Cysylltiadau

Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgor

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr John Rowlands (Is-Gadeirydd)

C.L. Everett, K. Evans, D.R. Hadley, E. Schofield, K. Thomas.

 

 

 

 

 

Agorwyd y cyfarfod trwy weddi gan y Cynghorydd John Roberts.

 

1

DATGANIADAU O DDIDDORDEB

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan nag Aelod na Swyddog.

 

2

I DDERBYN UNRHYW GYHOEDDIADAU GAN Y CADEIRYDD, ARWEINYDD, AELODAU'R PWYLLGOR GWAITH NEU BENAETHIAID GWASANAETH

 

Estynnwyd dymuniadau gorau am adferiad llwyr a buan i'r Cynghorydd Elwyn Schofield yn dilyn ei arhosiad yn yr ysbyty yn ddiweddar.

 

Ymestynnodd y Cadeirydd ar ran y Cyngor ei longyfarchiadau i'r Cynghorydd W.J. Williams ar yr anrhydedd o dderbyn MBE yn rhestr anrhydeddau pen-blwydd y Frenhines.

 

 

Hefyd llongyfarchodd ieuenctid Ynys Môn oedd wedi cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghanolfan y Mileniwm Caerdydd yn ddiweddar ac estynnwyd llongyfarchiadau arbennig i'r rhai oedd yn fuddugol.  

 

 

 

Llongyfarchiadau hefyd i Mr Medwyn Williams, Llanfairpwll am ennill ei ddegfed Medal Aur yn Sioe Flodau RHS Chelsea yn ddiweddar.  Roedd Medwyn hefyd wedi ennill y stondin gorau yn y sioe y flwyddyn diwethaf ac wedi penderfynu mai'r flwyddyn hon fyddai ei flwyddyn olaf o gystadlu yn Chelsea.  Byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Cyngor Sir i gyfleu llongyfarchiadau i Medwyn a'i wraig Gwenda am eu llwyddiant dros y blynyddoedd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Estynnwyd llongyfarchiadau hefyd i'r holl aelodau o'r staff oedd wedi ennill cymwysterau amrywiol yn ystod y flwyddyn.  Nid yw dilyn cwrs tra'n gweithio'r 'run pryd yn beth hawdd ac roeddynt i'w llongyfarch am eu dyfal barhad.  Ar ddiwedd y dydd, roedd cymwysterau o'r fath yn galluogi staff i wella ansawdd y gwasanaeth ac mae hynny yn holl bwysig os yw'r Cyngor hwn am fod yn awdurdod o "ansawdd".

 

 

 

 

 

3

CYNLLUN GWELLA 2005/2006

 

 

 

Adroddwyd - Fod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 13 Mehefin, 2005, yn dilyn ystyried yr uchod wedi penderfynu fel a ganlyn:-

 

 

 

"Penderfynwyd argymell i'r Cyngor Sir:-

 

 

 

Ÿ

Ei fod yn derbyn a mabwysiadu Cynllun Gwaith Corfforaethol 2005/06 (Atodiad 2).

 

Ÿ

Ei fod yn derbyn ac yn mabwysiadu y Cynllun Gwaith yng nghyswllt risgiau gwasanaeth a risgiau corfforaethol (Atodiad 3) (yn amodol ar gwblhau manylion - yn ymwneud â dyrannu adnoddau a cherrig milltir yn seiliedig ar benderfyniad y Pwyllgor Gwaith yng nghyswllt dyrannu arian Grant Cymell Perfformiad.

 

Ÿ

Ailddrafftio geiriad tudalen 11 (yr ail golofn) Atodiad 2, i ddarllen fel a ganlyn dan y pennawd 'Gweithredu' :-

 

"Cyflwyno a chefnogi gweithgareddau yn seiliedig ar y Gymuned"

 

Ÿ

Cyflwyno sylwadau'r Prif Bwyllgor Sgriwtini a'r Bartneriaeth Strategol Sirol i'r Cyngor Sir ar 23 Mehefin.

 

Ÿ

Bod y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) mewn ymgynghoriad gyda'r Arweinydd a'r Deilydd Portffolio Polisi, Perfformiad a Staff yn cael awdurdod i gwblhau'r Cynllun erbyn 30 Mehefin, 2005."

 

 

 

Adroddwyd - Fod y Prif Bwyllgor Sgriwtini (16 Mehefin, 2005) a'r Bartneriaeth Strategol Sirol (17 Mehefin, 2005) wedi penderfynu derbyn y Cynllun Gwella am 2005/06 yn cynnwys y gwasanaeth diwygiedig a'r Ardaloedd Risg Corfforaethol a'r Gweithrediadau Gwella.  Roedd y Prif Bwyllgor Sgriwtini hefyd wedi penderfynu y dylid gofyn i'r Pwyllgor Gwaith fel rhan o'r ymgynghori ar y Cynllun Gwella, i ailystyried fel blaenoriaeth y cynnig i leihau'r gyllideb ar gyfer canolfannau cymunedol.

 

 

 

Cyflwynwyd er gwybodaeth - Cynllun Gwella y Cyngor am 2005/06 ynghyd ag atodiad diwygiedig ar Ardaloedd Risg Gwasanaeth a Chorfforaethol a gweithrediadau gwella oedd yn cymryd i ystyriaeth benderfyniad y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 13 Mehefin, 2005.

 

 

 

Cafwyd sesiwn o holi ac ateb yn dilyn ar gynnwys y Cynllun Gwella.  Tynnwyd sylw a phryder arbennig at benderfyniad y Pwyllgor Gwaith i leihau y gyllideb i Ganolfannau Cymuned Ysgolion o £40,000.  Awgrymwyd y byddai tynnu ymaith y sybsidi hwn er iddo gael ei gymeradwyo trwy broses gyllidebol y Cyngor yn creu cryn dipyn o ansicrwydd ynglyn â defnydd y cyfleusterau cymunedol, ac fe wnaeth yr Arweinydd wrth ymateb, ddweud y byddai yn gwrando ac yn nodi'r pryderon a'i fod eisoes wedi cytuno i dderbyn dirprwyaeth o Gynrychiolwyr Cynghorau Cymuned i drafod eu pryderon ynglyn â hyn.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr-gyfarwyddwr fod pob un o'r 22 Awdurdod Unedol yng Nghymru i fod trwy statud i gynhyrchu Cynllun Gwella blynyddol sydd yn gosod allan amcanion, blaenoriaethau a thargedau ar gyfer gwybodaeth gwella a pherfformiad.  Dyddiad cyhoeddi pob Cynllun Gwella a'r crynodeb cyhoeddus ohonynt oedd 30 Mehefin, 2005.

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiynau ynglyn â Gorsaf Bwer yr Wylfa, hysbysodd y Rheolwr-gyfarwyddwr y Cyngor fod yr Awdurdod Datgomisiynu Niwcliar, Corff Llywodraethol a ffurfiwyd yn ddiweddar, yn gyfrifol am y broses ddatgomisiynu, a'u bod yn trafod yn llawn gyda chydranddeiliaid eraill y Cyngor.  Cynghorodd ei bod yn gynamserol i barhau gyda dadl ar y mater hwn hyd y byddai

 

 

 

gwybodaeth bellach ar gael yn dilyn canlyniadau astudiaeth effaith economeg cymdeithasol ar y broses ddatgomisiynu sydd i'w wneud yn fuan o dan nawdd yr Awdurdod Datgomisiynu Niwcliar.

 

 

 

PENDERFYNWYD

 

 

 

Ÿ

Cymeradwyo cynnwys Cynllun Gwella'r Cyngor am 2005/06.

 

 

 

Ÿ

Bod awdurdod yn cael ei roddi i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd a'r Deilydd Portffolio - Perfformiad Polisi a Phersonel i gwblhau'r Cynllun erbyn 30 Mehefin, 2005.

 

 

 

 

 

Terfynwyd y cyfarfod am 11:20 a.m.

 

 

 

 

 

Y CYNGHORYDD JOHN BYAST

 

CADEIRYDD