Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 23 Medi 2003

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Mawrth, 23ain Medi, 2003

CYNGOR SIR YNYS MÔN

 

COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 23 medi 2003

 

yn breSENNOL:

Y Cynghorydd Mrs B. Burns (Cadeirydd)

 

Y Cynghorydd J. A. Roberts (Is-Gadeirydd)

 

Y Cynghorwyr J. M. Davies, E. G. Davies, J. A. Edwards, K. Evans, C. L. Everett, P. M. Fowlie, Ff. M. Hughes, D. R. Hughes, Dr. J. B. Hughes, T. Ll. Hughes, W. I. Hughes, G. O. Jones, H. E. Jones, R. Jones OBE, R. Ll. Jones, W. E. Jones, Rhian Medi, R. L. Owen, G. O. Parry MBE, R. G. Parry OBE, G. A. Roberts, G. W. Robets OBE, J. Roberts, W. T. Roberts, J. Rowlands, E. Schofield, G. A. Williams, J. Williams, W. J. Williams.

 

 

WRTH LAW:

Rheolwr-gyfarwyddwr

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a'r Amgylchedd)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden)

Cyfarwyddwraig Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro

Pennaeth Gwasanaeth (Eiddo)

Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) (JHJ)

Cydgysylltydd Diogelwch yn y Gymuned

Swyddog Cyfathrebu

Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgor

 

 

YMDDIHEURIADAU:

Y Cynghorwyr J. Byast, W. J. Chorlton, D. D. Evans, R. Ll. Hughes, O. G. Jones, Gwyn Roberts, H. W. Thomas, Keith Thomas.

 

Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd G. O. Jones.

 

Rhoes y Cadeirydd groeso cynnes i Mr. Richard Brunstrom, Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru ac i'r Prif Arolygwr Mr. Gareth Pritchard (newydd ei benodi yn Gomander Rhanbarthol - y Gorllewin).

 

1

CYFLWYNIAD GAN BRIF GWNSTABL HEDDLU GOGLEDD CYMRU

 

Dywedodd y Prif Gwnstabl mai ei ddyletswydd fel Prif Gwnstabl chwe sir Gogledd Cymru oedd darparu gwasanaeth heddlu cyflawn ac i'r diben hwnnw roedd yn rhaid iddo rannu ei gyllideb o £100m yn gytbwys dros y meysydd allweddol a ganlyn :-

 

Ÿ

Rhoddi sicrwydd i bobl

Ÿ

Ymateb i argyfyngau

Ÿ

Bod ar gael

Ÿ

Ymgyrchu yn erbyn troseddau

 

Ei amcan heddiw oedd siarad am wasanaeth heddlu yn y gymuned.  Cyfaddefodd bod yr heddlu wedi colli cysylltiad dros yr 20 mlynedd diwethaf gyda'r gymuned trwy roddi gormod o bwyslais ar batrolio yng ngheir yr heddlu.

 

Buasai Rheolwyr y Bît Gymunedol yn rhan annatod o'r cymunedau lleol a gofynnid iddynt gytuno i wasanaethu ar y bît am gyfnodau hir - cyfnodau o flynyddoedd nid misoedd.  Câi proffil bît ei lunio mewn ymgynghoriad gyda'r Cyngor Sir a chyrff eraill â diddordeb - sef modd o roddi disgrifiad cywir o'r bît a'i phroblemau.  Hefyd câi cynllun gweithredu ei lunio a data-bas o gysylltiadau cymunedol, sef unigolion blaenllaw yn y gymuned yr oedd gofyn i'r heddlu gadw mewn cyswllt cynlluniedig gyda nhw.  Y bwriad oedd cael 150 o Reolwyr Bît Cymunedol erbyn 31 Mawrth 2004 yn gweithio ar draws Gogledd Cymru.

Roedd syniad y Wardeiniaid Achrededig yn un newydd ac i'w briodoli i syniad y llywodraeth am y rhaglen diwygio'r heddlu.  Buasai'r Wardeiniaid Achrededig dan reolaeth yr Awdurdod Lleol neu fenter breifat.  Os oedd y Prif Gwnstabl yn credu eu bod o safon foddhaol gallai wedyn ganiatáu i'r unigolion dan sylw gael rhai pwerau heddlu cyfyngedig, megis gweithredu ar gosbau penodol am seiclo ar lwybrau, yr hawl i ofyn am enw a chyfeiriad unigolyn a fo'n ymddwyn mewn ffordd wrthgymdeithasol, delio gydag yfed alcohol mewn mannau cyhoeddus, cymryd baco oddi ar bobl ifanc, delio gyda cherbydau wedi eu gadael etc.

 

Aeth y Prif Gwnstabl yn ei flaen i ddweud y rhoddid 15 o Reolwyr Bît Cymunedol i Ynys Môn erbyn diwedd Mawrth 2004.

 

Roedd gan Gaergybi 4 o Reolwyr Bît Cymunedol yn gweithio yn yr ardal, dau yng nghanol y dref, dau yn gweithio o Orsaf Heddlu y Fali.  Hefyd buasai Rheolwr yn dechrau gweithio yn Llangefni ar 13 Hydref.  Roedd Rheolwr eisoes wedi ei benodi i Benllech ac un arall yn dechrau gweithio yn ardal Cemaes ar 4 Tachwedd.  Eisoes roedd un Rheolwr Bît yn Amlwch a châi un arall ei neilltuo i'r Gaerwen o 27 Hydref ymlaen.

 

Roedd Swyddog eisoes yn gweithio ym Mhorthaethwy a'r cylch a Rheolwr Bît arall yn cychwyn ym Miwmares ar 4 Tachwedd.  Câi rhagor o swyddogion eu penodi i orllewin yr Ynys a bydd Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru yn ymgynghori gyda chyrff â diddordeb yng nghyswllt union leoliad y swyddogion.

 

Cafodd y Prif Gwnstabl a'r Prif Arolygydd wedyn gyfle i ymateb i nifer o gwestiynau o'r llawr gan aelodau'r Cyngor.

 

 

 

Ar y diwedd crynhodd y Cadeirydd ei gwerthfawrogiad i'r Prif Gwnstabl a'r Prif Arolygydd Gareth Pritchard am roddi o'u hamser i fynychu cyfarfod y Cyngor a hefyd am fod mor barod i ymateb i gwestiynau yr aelodau.  Rhoes wahoddiad arall iddynt fynychu'r Cyngor yn y dyfodol i roddi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau am y cynnydd wrth fynd i'r afael â phryderon y cymunedau yng nghyswllt troseddau.

 

 

 

2

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

 

 

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb gan yr Aelodau canlynol :-

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Bob Parry, OBE ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth partner ei fab yn yr Awdurdod Addysg Lleol.  Yn ogystal, gwnaeth ddatganiad o ddiddordeb yng nghyswllt Eitem 2 (Tudalen 196 Cyfrol y Cyngor), arhosodd yn y cyfarfod ond ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth nac yn y  bleidlais arni.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd C. L. Everett  ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei fab yn yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd G.O. Parry MBE ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Gyllid.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd G.W. Roberts OBE ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd R. L. Owen ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas at Eitem 2 (Tudalen 196 Cyfrol y Cyngor), arhosodd yn y cyfarfod ond ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth nac yn y  bleidlais arni.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd W. Emyr Jones ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas at Eitem 2 (Tudalen 196 Cyfrol y Cyngor), arhosodd yn y cyfarfod ond ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth nac yn y  bleidlais arni.

 

Gwnaeth y Cynghorydd G. Allan Jones ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei fab-yng-nghyfraith yn yr Adran Gyllid.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd R. Jones OBE ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei  nai fel Rheolwr Menter Môn.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Rhian Medi ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas â'r eitemau isod, ac roedd yn fodlon gadael y cyfarfod petai trafodaeth arnynt :-

 

 

 

Ÿ

Eitem 1 o gofnodion y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 6 Mai 2003 (am) (Tudalen 2 Cyfrol y Cyngor)

 

Ÿ

Eitemau 10, 18 a 20 o gofnodion y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 28 Ebrill 2003 (Tudalennau 157 - 166 Cyfrol y Cyngor)

 

Ÿ

Eitem 2 o gofnodion y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 27 Mai 2003 (Tudalen 177 Cyfrol y Cyngor)

 

Ÿ

Eitem 1 o gofnodion y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2003 (Tudalennau 229 Cyfrol y Cyngor)

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd E. Schofield ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn Oriel Môn a chyflogaeth ei wyr yn yr Adran Briffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd J. Arwel Roberts ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei wraig yn Nholldy Penrhos, Caergybi.

 

 

 

3

DERBYN UNRHYW GYHOEDDIADAU GAN Y CADERIYDD, YR ARWEINYDD, AELODAU'R PWYLLGOR GWAITH NEU BENNAETH Y GWASANAETH TALEDIG

 

 

 

Rhoes y Cadeirydd ei llongyfarchiadau a'i dymuniadau gorau i'r rhai a ganlyn :-

 

 

 

Ÿ

Michelle Thomas o Ganolfan Hamdden Plas Arthur a wahoddwyd i fynychu treialon i fod yn rhan o dîm Hoci Prydain a fydd yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd, Athen 2004.

 

Ÿ

19 o fechgyn Academi Dan 13 Ynys Môn a fydd yn mynd gyda dau oruchwyliwr i'r Eidal ar 19 Medi ar drip 4 diwrnod.  Ar y trip hwnnw byddant yn ymuno â sesiynau hyfforddi Tîm Ieuenctid Juventus a sgwadiau y tîm cyntaf.  Hefyd câi bechgyn Ynys Môn hyfforddiant gan hyfforddwyr o'r Eidal.  Roedd tair gêm wedi eu trefnu, ac un yn erbyn Clwb Pêl-droed Juventus dan 13.

 

Ÿ

Adam Knight a Nick Jones sy'n gweithio yng Nghanolfan Hamdden Caergybi am gynnig cymorth wrth achub dyn a lewygodd yn ystod gêm pêl-droed.  Rhoddwyd cusan bywyd i'r unigolyn a defnyddiwyd peiriant "defibrillator" i adfer curiad y galon.

 

Ÿ

Rhoddwyd llongyfarchiadau i'r rheini a fu'n llwyddiannus yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Meifod, yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Gymru yn Llanelwedd ac yn Sioe Môn.

 

Ÿ

Ac ar nodyn hapus iawn rhoddwyd llongyfarchiadau i'r bobl ifanc hynny a fu'n llwyddiannus yn eu harholiadau.  Cafodd Ynys Môn ganlyniadau rhagorol a rhoes y Cadeirydd ei llongyfarchiadau i'r disgyblion, i'r athrawon ac i'r Adran Addysg.  Hefyd dymunwyd yn dda i'r myfyrwyr hynny a oedd ar eu diwrnod cyntaf heddiw yn y colegau.

 

Ÿ

Yn olaf cydymdeimlodd y Cadeirydd gyda'r aelodau a'r swyddogion hynny a oedd wedi cael profedigaeth ers y cyfarfod diwethaf o'r Cyngor hwn.

 

 

 

Rhoes y Cynghorydd Elwyn Schofield, y Deilydd Portffolio Adnoddau Dynol ei longyfarchiadau i'r staff a fu'n llwyddiannus mewn arholiadau gyrfaol gyda'r awdurdod hwn.

 

 

 

4

CWESTIYNAU A DDERBYNIWYD YN UNOL Â RHEOL 4.1.12.4

 

 

 

4.1

O dan Reol Gweithdrefn y Cyngor Rhif 4.1.12.4 derbyniwyd y cwestiwn canlynol gan y Cynghorydd H. E. Jones :-

 

 

 

"Mynydd Parys

 

 

 

Mae hi yn dri mis bellach ers i’r Cyngor drafod cyllid ychwanegol ar gyfer y cynllun pwmpio ac ers iddo roi awdurdod i’r Arweinydd mewn perthynas â’r mater.

 

 

 

Er ein bod ni’n hynod falch gyda’r gwaith a wnaed, ni chafwyd adroddiad gan yr Arweinydd i’r aelodau ar y canlyniad terfynol.  Mae hyn er gwaethaf dau addewid a wnaed yng nghyfarfodydd Arweinyddion y Grwpiau.

 

 

 

Gan gyfeIrio at benderfyniad y Cyngor, hoffwn ofyn felly i’r Arweinydd roi adroddiad llawn i’r cyngor Sir ar y mater hwn, gan gynnwys pa gamau a gymerwyd ers y cyfarfod diwethaf, y canlyniadau a’r cyfanswm costau i’r Cyngor ynghyd ag unrhyw gymorth ariannol a gafwyd gan ffynonellau allanol, gan gynnwys unrhyw delerau ac amodau".

 

 

 

Er bod cyfrifon terfynol y cynllun yn dal i gael eu paratoi roedd yr Arweinydd yn medru cyflwyno'r wybodaeth a ganlyn :-

 

 

 

"Daeth tri chorff cyhoeddus ynghyd i gyllido'r gwaith angenrheidiol, y Cyngor Sir yn darparu £120,000, Awdurdod Datblygu Cymru yn darparu £255,000 ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn darparu £25,000.

 

 

 

Dechreuodd y gwaith pwmpio ar 7 Ebrill 2003.  Gorffennwyd y gwaith ar gael gwared o'r argau tanddaearol yn ystod yr wythnos yn dechrau 21 Gorffennaf 2003.  Wedyn gwnaed gwaith adfer dan y contract yn unol â gofynion y contract a chwblhawyd y gwaith ar y safle yn ystod yr wythnos yn dechrau 11 Awst 2003.

 

 

 

I gyd pwmpiwyd oddeutu 274,000 metr ciwbig o ddwr o'r mynydd (60 miliwn o alwyni).  Hefyd amcangyfrifiwyd bod 25,000 metr ciwbig (5 miliwn o alwyni) wedi eu draenio trwy dyllau a yrrwyd i mewn i'r argau yn ystod rhannau olaf y gwaith cyn dymchwel yr argau yn llwyr.  Roedd yr amcangyfrif gwreiddiol i'r dwr yn y mynydd yn 50,000 metr ciwbig (11 miliwn o alwyni).

 

 

 

Trwy gydol y cynllun roeddid yn cadw golwg ar lefelau'r dwr mewn mannau amrywiol yn y mynydd a gellir bod yn sicr iawn nad oes rhagor o argaeau nac o strwythurau yn dal dwr yn ôl y tu mewn i dwnelau'r mynydd.  Ers cwblhau'r gwaith mae Grwp Tanddaearol Parys wedi ymweld â'r twnelau tanddaearol nifer o weithiau i gael golwg ar rannau o'r gwaith nad oedd modd eu cyrraedd o'r blaen.  Hyd yma ni chafwyd adroddiadau negyddol.

 

 

 

Ar ôl symud yr argau mae'r mynydd bellach yn draenio'n naturiol trwy'r twnnel i Afon Goch (Gogledd).  O'r herwydd rydwyf yn derbyn cyngor nad oes risg bellach o lifogydd oherwydd dwr yn cronni y tu mewn i'r mynydd."

 

 

 

Wedyn gofynnwyd y cwestiynau ategol a ganlyn gan y Cynghorydd H. Eifion Jones.

 

 

 

"Rydym i gyd yn gwerthfawrogi'r gwaith a wnaed ym Mynydd Parys ond bod angen eglurhad ar y materion a ganlyn :-

 

 

 

Yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor Sir rhoddwyd awdurdod i'r Arweinydd drefnu fel bod dirprwyaeth o'r Cyngor yn ymweld â'r Cynulliad i gael rhagor o gyllid.  Hoffwn wybod pa bryd y cafwyd y cyfarfod.  Hefyd yn y cyfarfod diwethaf, dywedwyd bod gwaith yn cael ei wneud ar dir preifat ac ymddengys bod £120,000 o arian trethdalwyr wedi ei wario ar y cynllun hwn.  Pa gamau a gymerwyd i hawlio'r arian yn ôl oddi ar y perchennog tir ?

 

 

 

Yn olaf, hoffwn wybod beth yw'r manylion am y telerau y mynodd Awdurdod Datblygu Cymru arnynt yng nghyswllt y £90k y cytunwyd arno ers mis Mehefin.  Dywedwyd bod y £90k yn dod o arian yr economi ym Môn - cymryd darn o'r arian hwnnw.  Os ydyw hyn yn gywir a ydyw'r Arweinydd wedi trafod hyn gydag aelodau'r Pwyllgor Gwaith a hefyd gyda'r Deilydd Portffolio.  Os nad yw hyn yn gywir pa dystiolaeth ysgrifenedig sydd ar gael i'r aelodau yng nghyswllt unrhyw delerau ac amodau ?"

 

 

 

Yn ei ymateb dywedodd yr Arweinydd nad oedd dirprwyaeth wedi ymweld â Chaerdydd a hynny oherwydd bod cyfarfod wedi ei gynnal, ar ôl cyfarfod y Cyngor, gyda Chadeirydd Awdurdod Datblygu Cymru.  Ar y pryd roedd Sue Essex, Gweinidog Cyllid Llywodraeth Leol a'r Gwasanaethau Cyhoeddus yn ymweld â'r swyddfeydd hyn a gofynnwyd am gyfarfod gyda hi yng Nghaerdydd i drafod y pwnc.  Wedyn trosglwyddodd y mater i Carwyn Jones, Gweinidog yr Amgylchedd, Cynllunio a'r Cefn Gwlad ac ef wedyn yn ei yrru ymlaen at Andrew Davies y Gweinidog Datblygu Economaidd a Chludiant ac yn y diwedd landiodd yn ôl ar ddesg Sue Essex.  Rhoes hi gyllid ychwanegol i'r Cyngor trwy goffrau Awdurdod Datblygu Cymru.  O'r herwydd nid oedd angen mynd i lawr i Gaerdydd.

 

      

 

     Yng nghyswllt y tir preifat roedd y swyddogion yn cynnal trafodaethau gyda pherchennog y tir yng nghyswllt y taliad a hefyd roedd Adran Gyfreithiol y Cyngor yn rhan o'r trafodion.

 

      

 

     Roedd arian Awdurdod Datblygu Cymru wedi ei dynnu o danwariant y llynedd.  Hyd y gwn nid oedd telerau nac amodau ynghlwm - doedd dim modd iddynt wario'r arian a chymerwyd ef o'r tanwariant.

 

      

 

  4.2     O dan Reol Gweithdrefn y Cyngor Rhif 4.1.12.4 derbyniwyd y cwestiwn canlynol gan y Cynghorydd J Roberts :-

 

      

 

4.2.1     Beth yw’r cynlluniau ar gyfer rheoli’r Adran Dai?

 

      

 

     Yn ddiweddar yr oedd bwriad i uwchraddio dwy swydd, tra yn dal i gadw’r swydd o Bennaeth Gwasanaeth Tai ar y sefydliad.

 

      

 

     Fel Arweinydd y Grwp Annibynnol mae gennyf wrthwynebiad i hyn ar y sail nad oedd cystadleuaeth agored i fod am y swyddi.  Trwy’r Pwyllgor Sgriwtini Cynhwysiad Cymdeithasol fe wahoddwyd y Pwyllgor Gwaith i ailystyried ac fe ddiddymwyd y bwriad.

 

      

 

     Beth yw y bwriad bellach ?

 

      

 

     Ar ran y Deilydd Portffolio, a oedd wedi ymddiheuro am ei absenoldeb, rhoes yr Arweinydd yr ateb a ganlyn, sef "ar ôl derbyn cyfeiriad yn ôl o'r Pwyllgor Sgriwtini Cynhwysiad Cymdeithasol ar 25 Mehefin penderfynodd y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 14 Gorffennaf i beidio â gwneud penderfyniad ar yr adeg benodol honno i ymestyn y strwythur staff i'r gwasanaeth tai".  Ychwanegodd fod bwriad i hysbysebu swydd y Pennaeth Gwasanaeth (Tai) yn ystod yr wythnosau nesaf.

 

      

 

4.2.2     Ffyrdd heb eu mabwysiadu ar Stadau Tai Cyngor

 

      

 

     Pa gynlluniau sydd gan yr Adran i ddod â’r ffyrdd uchod ar dir o eiddo’r Cyngor i fyny i safon i gael eu mabwysiadu?”

 

      

 

     Ar ran y Deilydd Portffolio, a oedd wedi ymddiheuro, rhoes y Cadeirydd yr ateb a ganlyn :-

 

      

 

1)     "Roedd arolwg ar 350 o stadau tai y Cyngor ar yr Ynys wedi canfod 19 o ffyrdd heb eu mabwysiadu a 55 arall lle'r roedd rhannau o'r ffyrdd yn unig wedi eu mabwysiadu.

 

2)     Amcangyfrif rhwng £4,000 a £30,000 y stad i gyrraedd safonau mabwysiadu.

 

3)     Buasai'n rhaid rhaglennu'r gwaith hwn i mewn i gynllun busnes y stoc dai.

 

4)     Defnyddir Cynlluniau Gwaith Strydoedd Preifat pan yn briodol o gofio bod tai wedi eu gwerthu."

 

      

 

5

COFNODION

 

      

 

     Cadarnhawyd, fel rhai cywir, gofnodion o gyfarfodydd y Cyngor Sir fel a ganlyn:

 

      

 

     6 Mai (am) Cyfrol y Cyngor 23.09.2003, tudalennau 1 - 5

 

     6 Mai (pm)  tudalennau 13 - 15 o’r Gyfrol hon

 

     18 Mehefin 2003 Cyfrol y Cyngor 23.09.2003, tudalennau 6 - 11

 

     YN CODI O'R COFNODION:-

 

     Cofnodion 6 Mai 2003 (am) - Eitem 6 - Trafodaeth ar gyflwr yr ardal (tudalen 4, Cyfrol y Cyngor)

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd G. O. Parry MBE beth oedd y sefyllfa yng nghyswllt addewid yr Arweinydd a'r Rheolwr-gyfarwyddwr i drefnu trafodaeth gyhoeddus ar y pwnc erbyn diwedd mis Mehefin.

 

      

 

     Yn ei ymateb dywedodd yr Arweinydd fod penderfyniad wedi ei wneud i beidio â chael trafodaeth ar gyflwr yr ardal heddiw gan fod y Prif Gwnstabl yn ymweld â'r Cyngor a hefyd oherwydd y nifer fawr o eitemau ar agenda y dydd.  O'r herwydd ceid y drafodaeth yng nghyfarfod chwarterol nesaf y Cyngor Sir ac yn y cyfamser buasai'r Arweinydd yn ystyried y posibilrwydd o gael cyfarfod cyhoeddus yn ystod yr wythnos Plant a Phobl Ifanc a fydd yn dechrau ar 13 Hydref 2003.

 

      

 

6

COFNODION PWYLLGORAU

 

      

 

     Cyflwynwyd er gwybodaeth, ac ar fabwysiadu'r argymhellion lle bo riad, gofnodion cyfarfodydd y Pwyllgorau isod a gynhaliwyd ar y dyddiadau a nodir :-

 

 

 

6.1

PWYLLGOR RHEOLI CANOLFAN J E O’TOOLE gynhaliwyd ar 30 Ebrill 2003

 

Tudalen 12 - 14

6.2

PWYLLGOR SGRIWTINI ADDYSG A HAMDDEN gynhaliwyd ar 6 Mai 2003

 

Tudalen 15

6.3

PWYLLGOR SGRIWTINI ADNODDAU’R CYNGOR gynhaliwyd ar 6 Mai 2003

   

Tudalen 16

6.4

PWYLLGOR SGRIWTINI AMGYLCHEDD A CHLUDIANT gynhaliwyd ar 6 Mai 2003

 

Tudalen 17

6.5

PWYLLGOR ARCHWILIO gynhaliwyd ar 6 Mai 2003

 

Tudalen 18

6.6

PWYLLGOR SGRIWTINI CYNHWYSIAD CYMDEITHASOL gynhaliwyd ar 6 Mai 2003

 

Tudalen 19

6.7

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION gynhaliwyd ar 6 Mai 2003

   

Tudalen 20

6.8

PWYLLGOR SGRIWTINI DATBLYGU ECONOMAIDD gynhaliwyd ar 6 Mai 2003

 

Tudalen 21

6.9

PWYLLGOR SGRIWTINI CYMUNEDAU IACH A DIOGEL gynhaliwyd ar 6 Mai 2003

 

Tudalen 22

6.10

PWYLLGOR PENODIADAU gynhaliwyd ar  6 Mai 2003

 

Tudalen 23

6.11

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION gynhaliwyd ar 7 Mai 2003

   

Tudalen 24 - 32

6.12

PWYLLGOR SGRIWTINI DATBLYGU ECONOMAIDD a gynhaliwyd ar 19 Mai 2003

 

Tudalen 33 - 37

 

Yn codi o'r cofnodion :-

 

Eitem 7 - Uned Datblygu Economaidd - Prosiectau/ Blaenoriaethau Allweddol - Penderfyniad 7.3 System Gyflym

 

Nododd y Cynghorydd H. Eifion Jones nad oedd y system gyflym i bwrpas ystyried ceisiadau cynllunio economaidd wedi ei throsglwyddo i gyfarfod Gorffennaf y Pwyllgor Sgriwtini Datblygu Economaidd.  Gofynnodd am roddi yr eitem ar raglen cyfarfod cyffredin nesaf y Pwyllgor hwn.

 

Rhoes Is-Gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini a Datblygu Economaidd, y Cynghorydd J. Arwel Edwards sicrwydd y câi'r mater ei drosglwyddo i'w ystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 17 Tachwedd 2003.

 

6.13

PWYLLGOR SGRIWTINI CYMUNEDAU IACH A DIOGEL a gynhaliwyd ar 20 Mai 2003

   

Tudalen 38 - 43

 

Yn codi o'r cofnodion

   

Eitem 6 - Prosiect Camerâu Goruchwylio - Camerâu Symudol

   

Gofynnodd y Cynghorydd H. Eifion Jones pa bryd yr oeddid yn bwriadu cyflwyno Camerâu Goruchwylio symudol yn Ynys Môn.

    

Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr-gyfarwyddwr y rhoesai i'r Cynghorydd Jones ateb ysgrifenedig llawn ar y pwnc.

 

6.14

 

PWYLLGOR ARCHWILIO gynhaliwyd ar 29 Mai 2003

 

Tudalen 44 - 52

 

 

 

Yn codi o'r cofnodion

Eitem 1 - Datganiad o Ddiddordeb

 

Penderfynwyd nodi bod y datganiad o ddiddordeb a wnaeth y Cynghorydd W. T. Roberts yn cyfeirio at Ysgol Llanbedr-goch ac nid at Ysgol Llandrygarn fel a nodwyd yn y cofnodion.

   

 

6.15

PWYLLGOR SGRIWTINI ADNODDAU’R CYNGOR gynhaliwyd ar 30 Mai 2003

 

Tudalen 53 - 57

6.16

PWYLLGOR SGRIWTINI CYNHWYSIAD CYMDEITHASOL gynhaliwyd ar 3 Mehefin 2003

 

Tudalen 58 - 62

6.17

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION gynhaliwyd ar 4 Mehefin 2003

 

Tudalen 63 - 73

6.18

CYD-BWYLLGOR ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG gynhaliwyd ar 13 Mehefin 2003

 

Tudalen 74 - 81

6.19

PWYLLGOR SGRIWTINI ADDYSG A HAMDDEN gynhaliwyd ar 19 Mehefin 2003

 

Tudalen 82 - 94

 

Yn codi o'r cofnodion :-

Eitem 2 - Cofnodion - Cyllid Chweched Dosbarth

 

Holodd y Cynghorydd G. O. Jones beth oedd y sefyllfa ddiweddaraf yng nghyswllt trefniadau ELWa i gyllido addysg chweched dosbarth ym mhum ysgol uwchradd yr Ynys.

 

Yn ei ymateb dywedodd y Deilydd Portffolio, y Cynghorydd E. G. Davies bod hwn yn fater o bryder i'r awdurdod a bod ELWa yn y broses o lunio fformiwla.  Roeddid yn gobeithio y ceid ateb boddhaol yn y diwedd.

   

6.20

PWYLLGOR SGRIWTINI CYNHWYSIAD CYMDEITHASOL gynhaliwyd ar 25 Mehefin 2003

 

Tudalen 95 - 96

6.21

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION gynhaliwyd ar 2 Gorffennaf 2003

   

Tudalen 97 - 105

6.22

PWYLLGOR SGRIWTINI AMGYLCHEDD A CHLUDIANT gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2003

Tudalen 106-111

6.23

PWYLLGOR SGRIWTINI DATBLYGU ECONOMAIDD gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2003

 

Tudalen 112-120

6.24

PWYLLGOR SGRIWTINI ADNODDAU’R CYNGOR gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2003

 

Tudalen 121-124

6.25

PWYLLGOR SGRIWTINI CYMUNEDAU IACH A DIOGEL gynhaliwyd ar 22 Gorffennaf 2003

 

Tudalen 125-136

6.26

PWYLLGOR SGRIWTINI CYNHWYSIAD CYMDEITHASOL gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf 2003

 

Tudalen 137-141

6.27

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION gynhaliwyd ar 30 Gorffennaf 2003

 

Tudalen 142-156

6.28

PWYLLGOR GWAITH gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-

 

 

 

 

 

6.28.1     28 Ebrill 2003

 

6.28.2     1 Mai 2003

 

6.28.3     27 Mai 2003

 

Tudalen 157-166

 

Tudalen 167-175

 

Tudalen 176-194

 

 

Yn Codi :

 

Eitem 19 - Cynllun Dirprwyo Materion Cynllunio (Tudalen 188 Cyfrol y Cyngor)

 

PENDERFYNWYD cadarnhau argymhelliad y Pwyllgor Gwaith, sef bod y Cyngor yn mabwysiadu'r newidiadau canlynol i Gyfansoddiad y Cyngor yng nghyswllt cynllun dirprwyo materion cynllunio :-

 

"Cynnwys paragraff sy'n rhoddi grym i'r Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio, mewn ymgynghoriad gyda'r Aelod Portffolio ar gyfer Cynllunio a Datblygu Economaidd, i ymateb i  ymgynghori  gyda chyrff allanol ynghylch materion cynllunio.

 

Bod paragraff 3.5.3.15(5)(i) y Cyfansoddiad yn cael ei ddiwygio er mwyn peidio â dirprwyo'r ceisiadau a ganlyn i'r Swyddogion:

 

Ÿ

      Ceisiadau yr ystyrir eu bod yn tynnu'n groes i'r Cynllun Datblygu lle mae argymhelliad i gymeradwyo'r cynnig.

 

Ÿ

     Ceisiadau a gyflwynir gan aelodau'r Cyngor neu swyddogion y Cyngor a allai gael eu gweld fel bod yn rhan o brosesu ac/neu o benderfynu ar geisiadau cynllunio (h.y. staff a gyflogir yn y Gwasanaeth Cynllunio, Rheolwr-gyfarwyddwr, Cyfarwyddwyr Corfforaethol, Penaethiaid Gwasanaeth a Swyddogion eraill sy'n rhan reolaidd o'r system gynllunio - e.e. priffyrdd a draenio, cyfreithiol, iechyd yr amgylchedd, swyddogion tai, datblygu economaidd neu berthnasau agos (gwyr/gwragedd/partneriaid, rhieni, plant, brodyr a chwiorydd)

 

Adolygu'r sefyllfa mewn chwe mis."

 

 

 

6.28.4   9 Mehefin 2003

Tudalen 195-203

 

 

Yn codi o'r cofnodion :-

 

Eitem 2 - Arena Arddangosfeydd a Digwyddiadau Gogledd-Orllewin Cymru - Cae Sioe Mona

 

Gofynnodd y Cynghorydd G. Alun Williams pa bryd y cafodd y cytundeb rhwng y Cyngor Sir a Chymdeithas Amaethyddol Môn ei lofnodi.

 

 

6.28.5     30 Mehefin 2003

Tudalen 204-216

 

 

Yn codi o'r cofnodion

 

Eitem 11 - Deddf Trwyddedu 2003 - Goblygiadau Adnoddau Cyllidol a Staffio i Awdurdodau Lleol (Tudalen 213 Cyfrol y Cyngor)

 

Gofynnodd y Cynghorydd H. Eifion Jones a fuasai rhagor o arian yn dod o goffrau'r llywodraeth ganolog neu o goffrau'r Cynulliad i gwrdd â chostau gweithredu ar y ddeddfwriaeth newydd.  Hefyd gofynnwyd a oedd yr Aelod Cynulliad Lleol a'r Aelod Seneddol wedi codi'r mater ar ran y Cyngor a beth oedd eu hymateb nhw.

 

Mewn ymateb dywedodd yr Arweinydd na fuasai rhagor o arian ar gael.  Roedd y pwnc wedi ei drafod rhwng Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Llywodraeth Ganolog a'r Cynulliad a hefyd yng Nghynhadledd Flynyddol y Gymdeithas Llywodraeth Leol yn Harrogate yn ddiweddar.  Ni chafwyd ymateb gan y naill na'r llall o'r Aelodau ar y pwnc.

 

 

 

 

6.28.6     7 Gorffennaf 2003

 

6.28.7     14 Gorffennaf 2003

 

6.28.8     28 Gorffennaf 2003

 

Tudalen 217-223

 

Tudalen 224-227

 

Tudalen 228-253

 

Yn Codi :-

Eitem 12 - Pwyllgor Trwyddedu (Tudalen 243 Gyfrol y Cyngor

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) bod angen diwygio y Cynllun Lwfansau i Aelodau (Rhan 6 y Cyfansoddiad) cyn gweithredu ar argymhelliad y Pwyllgor Gwaith i sefydlu Pwyllgor Trwyddedu.

 

Roedd tabl ynghlwm wrth yr adroddiad i'r Cyngor yn ailddatgan beth oedd y lwfansau perthnasol oedd yn daladwy yn 2003-04 (ar ôl uwchraddio yn ôl y gyfradd berthnasol) ac ychwanegu'r swm a argymhellwyd i'r Pwyllgor Trwyddedu.  Buasai'r arian yn ddaladwy o ddyddiad penodi Cadeirydd.  Fel sy'n wir am yr holl Lwfansau Cyfrifoldeb Arbennig, dim ond un lwfans sy'n daladwy i unrhyw Gynghorydd unigol.

 

PENDERFYNWYD

 

Ÿ

Cadarnhau argymhelliad y Pwyllgor Gwaith i gymryd y camau a ganlyn er mwyn cydymffurfio gyda gofynion y Ddeddf Drwyddedu :-

 

Ÿ

Sefydlu Pwyllgor Trwyddedu gyda chydbwysedd gwleidyddol ac yn cynnwys 15 aelod.

 

Ÿ

Yn 3.4 ychwanegu at y Cyfansoddiad (tudalen 43 ymlaen) y geiriau ychwanegol a ganlyn :

 

     "3.4.10 Pwyllgor Trwyddedu

 

     15* o Aelodau gyda chydbwysedd gwleidyddol

 

1)     Delio gyda'r holl faterion sydd yn ymwneud â chyflawni swyddogaethau trwyddedu yr Awdurdod fel y cânt eu diffinio gan Ddeddf Trwyddedu 2003 (sydd ddim yn cynnwys apeliadau - y Pwyllgor Apeliadau sy'n gyfrifol am y rheini ar hyn o bryd).

      

2)     Sefydlu un neu ragor o Is-Bwyllgorau ac arnynt 3 aelod o'r Pwyllgor Trwyddedu.

      

3)     Trefnu i Is-Bwyllgor ddelio gydag unrhyw un o'i swyddogaethau.  Trefnu i Swyddog o'r Cyngor gyflawni unrhyw un o'i swyddogaethau (ac eithrio pan fo gwrthwynebiadau neu sylwadau ynghylch cais".

 

     *  Yn unol ag Adran 6 Deddf Trwyddedu 2003, bydd raid i'r Pwyllgor Trwyddedu gynnwys o leiaf 10 ond dim mwy na 15 aelod o'r Cyngor.

 

Ÿ

Gohirio, tan fis Mai/Mehefin nesaf, penderfynu a fydd Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu yn derbyn Lwfans Cyfrifoldeb Arbennig a'i peidio, hyd nes sefydlu beth fydd y gwaith y bydd raid iddo ei wneud a hyd nes cael gwybod faint o gyfarfodydd a gynhelir yn ystod y flwyddyn ariannol.

 

 

      

 

7

DIRPRWYAETHAU WNAETHPWYD GAN YR ARWEINYDD

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd er gwybodaeth adroddiad gan y Rheolwr-gyfarwyddwr ar y newidiadau a gyflwynwyd i'r cynllun dirprwyo yng nghyswllt swyddogaethau gweithredol - newidiadau a wnaed gan yr Arweinydd ers y cyfarfod ym mis Hydref diwethaf.

 

      

 

8

PWYLLGOR SAFONAU - PENODI AELOD O'R CYNGOR SIR

 

      

 

     Dywedodd y Gyfarwyddwraig Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro - yn dilyn marwolaeth y diweddar Cynghorydd R. J. Jones bod sedd wag ar gyfer Cynghorydd Sir ar y Pwyllgor Safonau.

 

      

 

     Mae 9 Aelod ar y Pwyllgor Safonau oherwydd i'r Cyngor ddewis y rhif hwn gan fod y ddeddfwriaeth yn dweud bod raid i'r aelodaeth fod rhwng 5 a 9.  Mae'r 9 aelod yn cynnwys :-

 

      

 

     5 Aelod Annibynnol,

 

     1 Aelod Cyngor Cymuned,

 

     3 Chynghorydd Sir (yr aelodau ar hyn o bryd yw'r Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes a'r Cynghorydd G. Allan Roberts).

 

      

 

     Os yw cyfanswm nifer yr aelodau ar Bwyllgor Safonau yn odrif dywed y Rheoliadau bod raid i'r mwyafrif o'r rhif hwnnw fod yn Aelodau Annibynnol.

 

      

 

     Dywed y Rheoliadau hefyd "Rhaid i gyfnod swydd aelod o Bwyllgor Safonau i awdurdod sy'n aelod o'r awdurdod hwnnw beidio â bod yn fwy na - phedair blynedd, neu na'r cyfnod tan yr etholiadau llywodraeth leol cyffredin i'r awdurdod lleol hwnnw sy'n dod nesaf ar ôl penodi'r person hwnnw yn aelod o Bwyllgor Safonau'r awdurdod hwnnw, p'un bynnag yw'r byrraf".

 

      

 

     Am hynny, bydd y Cynghorydd a benodir yn gwasanaethu tan yr etholiad sydd i'w gynnal ym mis Mai 2004.

 

      

 

     Gellir penodi unrhyw Cynghorydd heblaw am yr Arweinydd, ond yn cynnwys un aelod o'r Pwyllgor Gwaith.  Dywed y Rheoliadau na chaniateir i aelodaeth Pwyllgor Safonau awdurdod lleol sy'n ymarfer trefniadau gweithredol gynnwys mwy nag un aelod sydd hefyd yn aelod o Bwyllgor Gwaith yr awdurdod hwnnw.  Nid oedd balans gwleidyddol yn berthnasol yn yr achos hwn

 

      

 

     Gofynnodd yr Aelodau am adroddiad cyn yr etholiadau i awdurdodau lleol ym Mai/Mehefin 2004 yn nodi a fydd cynrychiolwyr y Cyngor â chynrychiolaeth ai peidio ar y Pwyllgor Safonau.  Hefyd dylai adroddiad o'r fath gyfeirio at drefniadau sydd yn eu lle ar y pryd gan awdurdodau lleol eraill yng Nghymru.

 

      

 

     PENDERFYNWYD :-

 

      

 

a.     Penodi'r Cynghorydd R. L. Owen fel cynrychiolydd y Cyngor i'r sedd wag ar Bwyllgor Safonau Cyngor Sir Ynys Môn.

 

      

 

b.     Gofyn i Gyfarwyddwraig Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro y Cyngor gynnal arolwg ar aelodaeth y Pwyllgor Safonau a chyflwyno adroddiad ar y pwnc i'r Cyngor cyn etholiadau Llywodraeth Leol Mai/Mehefin 2004.  Bydd arolwg o'r fath yn cynnwys manylion am y trefniadau sydd gan awdurdodau lleol eraill yng Nghymru.

 

 

 

9

ADRODDIAD BLYNYDDOL RHEOLI TRYSORLYS

 

      

 

     Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) - Bod raid cyflwyno adroddiad blynyddol i'r Cyngor llawn ar reoli'r Trysorlys erbyn 30 Medi - mae'r gofynion hyn yn ymddangos dan y Côd Ymarfer newydd ar Reoli'r Trysorlys yn y Gwasanaethau Cyhoeddus a hefyd yn y Rheolau Gweithdrefn Cyllidol 6.1.3 a fabwysiadwyd gan y Cyngor yn unol â gofynion cyfryw gôd.   

 

      

 

     Roedd yr adroddiad a'r papurau i'r Cyngor hwn wedi eu hystyried a'u derbyn gan y Pwyllgor Gwaith ar 30 Mehefin 2003 a chan Bwyllgor Sgriwtini Adnoddau'r Cyngor ar 17 Gorffennaf 2003.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad Blynyddol ar Reoli'r Trysorlys.

 

      

 

10

DATGANIAD CYFRIFON 2002/04

 

      

 

     Cyflwynwyd i'w fabwysiadu, cyn ei archwilio, Ddatganiad Cyfrifon y Cyngor am 2002/03.

 

      

 

     Adroddwyd - Bod y Datganiad Cyfrifon yn egluro cyllid Cyngor Sir Ynys Môn yn ystod blwyddyn ariannol 2002/03 a'r sefyllfa ariannol ar ddiwedd y flwyddyn honno.  Roedd yn dilyn safonau cyfrifeg ac o'r herwydd yn dechnegol mewn rhannau.  Roedd rhagair gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) yn crynhoi'r prif nodweddion.

 

      

 

     Caniataodd cyllideb refeniw 2002/03 rhywfaint o dwf mewn gwasanaethau, wedi ei ariannu yn rhannol trwy gynnydd mewn grantiau y Cynulliad Cenedlaethol (net o drosglwyddiad ELWa) ac yn rhannol trwy gynnydd yn y Dreth Gyngor.

 

      

 

     Yn ystod y flwyddyn cynyddwyd gwariant oherwydd y cynnydd sylweddol yn y niferoedd o leoliadau all-sirol costus ar gyfer Addysg a'r Gwasanaethau Cymdeithasol.  Gwnaed darpariaethau ar gyfer y gwaith i leihau y risg posibl i ddiogelwch y cyhoedd ym Mynydd Parys, ar gyfer hawliadau yn erbyn y Cyngor yn ymwneud â diffyg atgyweirio tai, ac ar gyfer barn yn neddfwriaeth Iechyd Meddwl sy'n effeithio pob awdurdod gwasanaethau cymdeithasol.  Roedd canlyniadau gwell ar gyllidebau llog ac apeliadau treth llwyddiannus ar eiddo y Cyngor yn gwella y sefyllfa yn ei chyfanrwydd.  Roedd patrwm o danwariant yn erbyn y gyllideb mewn rhai gwasanaethau, yn adlewyrchu yn rhannol oedi mewn eitemau twf,  ac yn arwain at gynnydd mewn cronfeydd gwasanaeth.

 

      

 

     Roedd y rhaglen waith a gwblhawyd yn y flwyddyn yn sylweddol uwch nag yn 2001/02 oherwydd effaith y cynlluniau oedd yn llithro o flynyddoedd cynharach ac oherwydd nifer y prosiectau a gynorthwyir gan grant.  Roedd y cynlluniau grant yn cynnwys dau brosiect a gyllidir gan Amcan Un: Mônsafle (cynllun isadeiladwaith economaidd) a Mônfenter (cynllun grantiau busnes) ynghyd â chynllun mawr i ehangu defnydd camerâu goruchwylio.  Rhoddwyd cymeradwyaeth yn ystod y flwyddyn i brosiect mawr arall i'w gyllido gan grant Amcan Un a grantiau eraill, sef Cyswllt Môn, cynllun i sicrhau gwasanaeth band llydan i'r Ynys.  Y prosiect mwyaf a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn oedd yr ysgol gynradd newydd ym Modedern.

 

      

 

     Roedd ymrwymiadau cyfalaf o £4.6 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn.  Cadwyd £4.1 miliwn wrth gefn ar gyfer yr ymrwymiadau hyn a phrosiectau eraill a raglennwyd i'r dyfodol.  Cyllidir yr ymrwymiadau sy'n weddill o grantiau sydd wedi eu cymeradwyo neu o hawl benthyca.

 

      

 

     O dan Gôd Ymarfer newydd CIPFA ar Reoli Trysorlys yn y Gwasanaethau Cyhoeddus, mabwysiadodd y Cyngor gymalau allweddol, Ddatganiad Polisi Rheoli Trysorlys a Strategaeth Rheoli Trysorlys.  Roedd benthyciadau allanol net y Cyngor ar ddiwedd y flwyddyn yn uwch na'r flwyddyn flaenorol, sef £98 miliwn.  Yn ystod y flwyddyn, troswyd £3.5 miliwn o gyfradd llog sefydlog i amrywiol, a benthycwyd £11.0 miliwn yn unol â rheoliadau credyd a Strategaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor.  Derbyniodd y Cyngor hefyd gyfraniadau eraill i gefnogi ei raglen gyfalaf.

 

      

 

     Roedd y sefyllfa gyllidol ar 31 Mawrth 2003 yn dangos amcangyfrif atebolrwydd net o £40.90 miliwn yng nghyswllt pensiynau, sef codiad o'r £19.49 miliwn y gwnaed ail ddatganiad yn ei gylch ar 31 Mawrth 2002 - ac yn bennaf yn adlewyrchu'r cwymp yn y farchnad cyfranddaliadau.  Nid oedd y swm wedi ei gynnwys yn y fantoleb ac ni chai effaith ar gronfeydd y Cyngor ond efallai y bydd y pwyslais cynyddol ar y pwnc hwn yn cael effaith ar gyllidebau'r dyfodol.

 

      

 

     Mae'r Cyngor wedi darparu ar gyfer rhwymedigaethau gwybyddus ac wedi sefydlu cronfeydd wrth gefn lle mae'n ofynnol dan ddeddf gwlad, ar gyfer ymrwymiadau ac wedi eu clustnodi ar gyfer cynlluniau.  Mae'r balansau cyffredinol sy'n weddill yn fesur o'r adnoddau wrth gefn sydd heb eu hymrwymo, rhai sydd gan y Cyngor ar gyfer digwyddiadau annisgwyl.  Roedd y balansau cyffredinol hyn yn £3.697 miliwn ar ddechrau'r flwyddyn.  Gan adlewyrchu datblygiadau'r flwyddyn, lleihaodd y balansau ychydig i £3.645 miliwn ar 31 Mawrth 2003, ond maent yn agos o hyd at nod tymor hir y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD :-

 

      

 

Ÿ

Mabwysiadu fersiwn ddrafft y Cyngor o'r Datganiad Cyfrifon am 2002/03 cyn eu harchwilio, ac yn amodol ar unrhyw gywiriadau i gamgymeriadau argraffu.

 

 

 

Ÿ

Diolch ar ran y Cyngor i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol ac i'w staff am eu llafur dros y flwyddyn ariannol.

 

      

 

     Daeth y cyfarfod i ben am 4.00 p.m.

 

      

 

     MRS B BURNS

 

     CADEIRYDD