Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 23 Hydref 2012

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Mawrth, 23ain Hydref, 2012

Ynglyn â

Dydd Mawrth 23 Hydref, 2012 am 10:30yb
Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni

Noder: Oherwydd natur rhai o'r dogfennau isod, nid yw pob un yn hollol ddwyieithog nac yn hollol hygyrch i bobl gydag amhariadau gweledol, ac ni fydd modd defnyddio 'darllenwr sgrin' i ddarllen y dogfennau hyn.

Rhaglen

1. Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

2. Derbyn unrhyw Gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor, Aelodau'r Pwyllgor Gwaith neu Bennaeth y Gwasanaethau Tâl

3. Adolygiad Perfformiad y Cynllun Gwella

(a) Adrodd bod y Pwyllgor Gwaith ar 15 Hydref, 2012 wedi penderfynu argymell i'r Cyngor Sir fel a ganlyn :-

  • Nodi sylwadau'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 8 Hydref 2012;
  • Awdurdodi Swyddogion i wneud gwaith pellach ar y Cynllun drafft mewn ymgynghoriad â'r Deilydd Portffolio ac i gyflwyno fersiwn ddiwygiedig o'r Cynllun i'r Cyngor Sir i'w gymeradwyo.

(b) Cyflwyno rhan o gofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 8 Hydref, 2012 yn y cyswllt hwn.
(Papur 'A')

(c) Cyflwyno'r fersiwn ddiwygiedig o'r Cynllun Gwella (dogfen ar wahân).

4. Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - Dogfen Ymgynghori ar adolygu Gwasanaeth

Cyflwyno i'w gymeradwyo, gopi o ymateb arfaethedig y Cyngor (wedi ei baratoi gan y Deilydd Portffolio a'r Cyfarwyddwr Cymuned) i'r ddogfen ymgynghori.
(Papur B)