Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 24 Mehefin 2004

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Iau, 24ain Mehefin, 2004

Cyngor Sir Ynys Môn

 

Cofnodion y cyfarfod blynyddol a gynhaliwyd ar   24 Mehefin 2004

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorwyr Mrs B. Burns, J. Byast, W. J. Chorlton, J. M. Davies, P. J. Dunning, E. G. Davies, J. A. Edwards, K. Evans, C. Ll. Everett, P. M. Fowlie, D. R. Hadley, D. R. Hughes, Fflur M. Hughes, R. Ll. Hughes, W. I. Hughes, G. O. Jones, H. E. Jones, J. A. Jones, O. G. Jones, A. M. Jones, T. H. Jones, B. Owen, R. L. Owen, R. G. Parry, OBE, D. A. Lewis Roberts, G. W. Roberts OBE, J. A. Roberts, John Roberts, W. T. Roberts, P. S. Rogers, J. Rowlands, E. Schofield, H. Noel Thomas, H. W. Thomas, K. Thomas, John Williams, W. J. Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Rheolwr-gyfarwyddwr

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a'r Amgylchedd)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden)

Cyfarwyddwraig y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro

Pennaeth Gwasanaeth (Polisi)

Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol)

Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol

Cyfreithiwr (RMJ)
Swyddog Cyfathrebu

Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgor.

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

R. Ll. Jones, G. O. Parry, M.B.E., G. A. Roberts.

 

 

 

 

 

Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd E. G. Davies.

 

1

CADEIRYDD

 

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd J. Arwel Roberts yn Gadeirydd Cyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2004/2005.

 

Wrth dderbyn yr anrhydedd o gael ei benodi'n Gadeirydd, talodd y Cynghorydd J. Arwel Roberts deyrnged i'r Cadeirydd a oedd yn ymddeol sef y Cynghorydd Mrs B. Burns ac i Mr. D. Burns am eu hymrwymiad wrth gynrychioli'r Cyngor Sir mewn modd urddasol drwy gydol eu cyfnod yn y swydd.

 

Diolchodd y Cynghorydd Mrs B. Burns, y Cadeirydd a oedd yn ymddeol, i  holl Aelodau a Swyddogion y Cyngor am eu cefnogaeth a'u cydweithrediad yn ystod ei chyfnod yn y swydd.  Diolchodd i'w gwr, Dennis, am ei gefnogaeth trwy gydol ei thymor fel Cadeirydd.  Rhoddodd y Cynghorydd Burns grynodeb o'i dyletswyddau fel Cadeirydd a oedd yn ymwneud â chynrychioli'r Cyngor Sir mewn 255 o wahanol weithgareddau yn ystod y flwyddyn.

 

Llongyfarchodd y Cynghorydd Bob Parry, OBE y Cadeirydd newydd a dymunodd yn dda iddo am y flwyddyn i ddod.  Talodd deyrnged i'r Cadeirydd a oedd yn ymddeol.  Cafodd y cyfle i weithio gyda hi a theithio gyda hi i nifer o seremonïau ac roedd yn ddiolchgar iawn iddi am ei chyfeillgarwch yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.  Hefyd, manteisiodd y Cynghorydd Parry ar y cyfle i ddiolch i aelodau'r Pwyllgor Gwaith am eu teyrngarwch a hefyd i'r swyddogion am eu cymorth yn ystod ei gyfnod fel Arweinydd y Cyngor.

 

2

IS-GADEIRYDD

 

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd John Byast yn Is-Gadeirydd Cyngor Sir Ynys Môn am 2004/2005.

 

 

Diolchodd y Cynghorydd Byast i'r aelodau am eu hyder ynddo a mynegodd ei  fwriad i gydweithredu gyda a chefnogi'r Cadeirydd a oedd newydd ei ethol.

 

 

 

3

CYHOEDDIADAU

 

 

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at farwolaeth yr Henadur John Lazarus Williams, 79 o Lanfairpwll ddydd Sul diwethaf.  Ar ran y Cyngor, cydymdeimlodd yn ddwys gyda'i wraig a'i dair merch.

 

 

 

Fel yr aelod lleol, talodd y Cynghorydd John Arwel Edwards, deyrnged i Mr. Williams.  Ni fu Mr. Williams erioed yn aelod o Gyngor Sir Ynys Môn ond bu'n cynrychioli Cyngor Cymuned Llanfairpwll am y rhan fwyaf o oes yr hen Gyngor Sir Gwynedd.  Bu'n Gynghorydd Sir o'r radd flaenaf a gwnaeth gyfraniad arbennig iawn i fyd addysg.  Roedd o'n fwy na Chyngorydd Sir llwyddiannus, roedd o'n Gymro mawr.  Roedd ei gyfraniad i sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn cael ei defnyddio ym mhob agwedd ar fywyd yn amhrisiadwy ac roedd ei gyfraniad yn fawr i fywyd gwleidyddol yng Nghymru.  Fel y dywedwyd yn yr Herald yr wythnos diwethaf, roed colli 'JL' fel colli rhan o Gymru ei hun.  Ar ran y Cyngor Sir, cydymdeimlodd yn ddwys â'i deulu.

 

 

 

Yn ogystal, cydymdeimlodd y Cadeirydd â theulu'r Cynghorydd G. O. Parry, MBE ar farwolaeth ei frawd-yng-nghyfraith - roedd yr angladd yn cael ei gynnal heddiw.

 

 

 

Safodd yr aelodau a'r swyddogion mewn teyrnged dawel fel arwydd o barch.

 

 

 

Manteisiodd y Cadeirydd hefyd ar y cyfle i  longyfarch y rheini a fu'n llwyddiannus yn Eisteddfod yr Urdd a gynhaliwyd yn ddiweddar ym Môn.  Llongyfarchwyd Lee Roberts, disgybl yn Ysgol Gyfun Llangefni, gafodd ei ddewis i gynrychioli Cymru ym mhencampwriaeth pysgota bras y byd i bobl ifanc yn Croatia y mis Gorffennaf hwn.

 

 

 

Llongyfarchwyd yr holl aelodau a ailetholwyd yn dilyn yr etholiadau llywodraeth leol yn ddiweddar.  Rhoddwyd croeso cynnes i 9 aelod newydd y Cyngor.  Mynegodd y Cadeirydd ei  werthfawrogiad i'r cyn-Gynghorwyr D. D. Evans, Rhian Medi, W. Emyr Jones, a T. Lloyd Hughes am eu blynyddoedd o wasanaeth diflino i'r Cyngor hwn a dymunodd yn dda iddynt am y dyfodol.

 

 

 

4

ARWEINYDD Y CYNGOR

 

 

 

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd W. J. Williams yn Arweinydd y Cyngor.

 

 

 

5

DIRPRWY ARWEINYDD Y CYNGOR

 

 

 

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd G. W. Roberts O.B.E. yn Ddirprwy Arweinydd y Cyngor.

 

 

 

6

DATGANIADAU O DDIDDORDEB

 

 

 

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb gan yr aelodau a ganlyn :-

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Bob Parry O.B.E. ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth partner ei fab yn yr Adran Addysg a Hamdden.  

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd C. L. Everett ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â gwaith ei chwaer yn yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol ac yng nghyswllt ei swydd o fel Clarc Cyngor Tref Caergybi.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd G. W. Roberts OBE ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag  unrhyw eitem o fusnes ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol.  

 

Gwnaeth y Cynghorydd E.  Schofield ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn Oriel Môn ac â chyflogaeth ei wyr yn yr Adran Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd J. Arwel Roberts ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei wraig yn Nholldy Penrhos, Caergybi.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd W. J. Chorlton ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Glyn Jones ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei wraig yn yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Robert Lloyd Hughes ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei fab yn yr Adran Briffyrdd.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Bryan Owen ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw  eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei fab yn yr Adran Datblygu Economaidd.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Keith Evans ddatganiad o ddiddordeb yn eitem 10 y cofnodion hyn - doedd o ddim yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod unrhyw drafodaeth neu bleidlais arni.

 

 

 

7

DIRPRWYAETH GAN YR ARWEINYDD/AELODAETH Y PWYLLGOR GWAITH

 

 

 

Yn unol â Rheol 4.4.1.2 Rheolau Gweithdrefn y Pwyllgor Gwaith, enwodd Arweinydd y Cyngor y canlynol fel yr aelodau yr oedd o wedi eu dewis i wasanaethu ar y Pwyllgor Gwaith ynghyd â'u cyfrifoldebau portffolio :-

 

 

 

Y Cynghorydd W. J. Williams          -     Arweinydd y Cyngor

 

Y Cynghorydd G. W. Roberts OBE     -     Dirprwy Arweinydd y Cyngor, Aelod Portffolio Datblygu Economaidd

 

Y Cynghorydd W. J. Chorlton      -     Aelod Portffolio Tai a Chynllunio

 

Y Cynghorydd D. R. Hughes          -     Aelod Portffolio Hamdden, y Celfyddydau a'r Iaith Gymraeg

 

Y Cynghorydd John Roberts          -     Aelod Portffolio Cyllid a Technoleg Gwybodaeth

 

Y Cynghorydd G. O. Parry MBE     -     Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol ac                                         Iechyd

 

Y Cynghorydd Keith Evans          -     Aelod Portffolio Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo

 

Y Cynghorydd J. M. Davies          -     Aelod Portffolio Addysg a Dysgu Gydol Oes

 

Y Cynghorydd H. Eifion Jones     -     Aelod Portffolio Staff, Polisi a Pherfformiad

 

Y Cynghorydd Hefin W. Thomas     -     Aelod Portffolio Trosedd ac Anrhefn, Gwarchod y                                    Cyhoedd a'r Amgylchedd.

 

 

 

8

COFNODION

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion y cyfarfod eithriadol  o'r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 27 Mai 2004.99

 

(Tud 1 - 9 o’r Gyfrol hon)

 

 

 

9

DIRPRWYIAETHAU A WNAED GAN YR ARWEINYDD

 

 

 

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Rheolwr-gyfarwyddwr yn nodi  newidiadau i'r Cynllun Dirprwyo yng nghyswllt swyddogaethau'r Pwyllgor Gwaith - newidiadau a wnaed gan yr Arweinydd a'r Pwyllgor Gwaith ers y cyfarfod arferol diwethaf (mae Rheol 4.4.1.4 Rheolau Gweithdrefn y Pwyllgor Gwaith - tudalen 131 y Cyfansoddiad yn cyfeirio at hyn).

 

 

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

 

 

 

 

10

CWESTIYNAU A DDERBYNIWYD YN UNOL Â RHEOL 4.1.12.4

 

 

 

Dan Reol 4.1.12.4(ii) y Cyfansoddiad, gofynnodd y Cynghorydd P. S. Rogers y cwestiwn a ganlyn :-

 

 

 

"What power does this Authority have to discipline the Chief Constable of North Wales over his failure to provide acceptable policing for the residents of Ynys Môn ?"

 

 

 

Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr-gyfarwyddwr "This Council has no powers to discipline the Chief Constable of North Wales Police.  Under the Police Act 1996 and the Police (Conduct) (Senior Officers) Regulations 1999 such disciplinary powers are vested in the North Wales Police Authority.  I would refer the Councillor to the Clerk of the North Wales Police Authority - Kelvin Dent at Police Headquarters at Colwyn Bay - I can provide the Councillor with full contact details outside this meeting."

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd P. S. Rogers gwestiwn ategol :-

 

 

 

Gofynnodd i'r Cyngor, "if it did not have any powers, to ensure that the strongest representation was sent to the Police Authority, that for too long the Police Authority had not been active.  He referred to televised comments this week of the Chairman of the Police Authority in that the North Wales Police authority is facing being bottom of the Welsh League.  Councillor Rogers expressed the view that this is not acceptable with the amounts of money being put in, and that a very strong presence on the Police authority is needed, and it should no longer be a "job for the boys" on that Authority.  A very strong voice is needed because areas of Anglesey are not getting fair representation."

 

 

 

Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr-gyfarwyddwr ei  fod yn amharod i gychwyn trafodaeth ar y cwestiwn ategol ond cadarnhaodd ei fod wedi siarad gyda'r Comander Rhanbarthol, y Prif Arolygydd Gareth Pritchard, ar ôl derbyn y prif gwestiwn, a bod y Prif Arolygydd Pritchard yn fwy na pharod i gwrdd â'r Cynghorydd Rogers i drafod y mater.

 

 

 

11

TREFNIADAU SGRIWTINI A THROSOLWG A CHYDBWYSEDD GWELEIDYDDOL

 

 

 

Dywedodd Cyfarwyddwraig y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro bod dau bwrpas i'r adroddiad; y cyntaf oedd cynorthwyo'r Cyngor i adolygu dyfodol y swyddogaeth Sgriwtini a Throsolwg o fewn y Cyngor gan gynnwys yr effaith ar Lwfansau Cyfrifoldeb Arbennig i Aelodau a chanddynt gyfrifoldebau arbennig, a'r ail bwrpas oedd arwain y Cyngor ar y trefniadau cydbwysedd gwleidyddol newydd yn wyneb yr etholiad yn ddiweddar a'r trefniadau newydd arfaethedig ar gyfer sgriwtini.

 

 

 

Cyn ethol y Cyngor newydd, cafwyd trafodaethau rhwng swyddogion ac aelodau'r Cyngor, yn arbennig yn y Panel Moderneiddio a gyfarfu rhwng Tachwedd 2003 ac Ebrill 2004 ac wedi hynny, cafwyd cefnogaeth gan yr aelodau ar draws yr awdurdod i ddisodli'r chwe Phwyllgor Sgriwtini cyfredol gyda model newydd sef un Pwyllgor Sgriwtini a dau bwyllgor trosolwg.  Nodwyd eu maes gwaith yn Atodiad A yr adroddiad i'r Cyngor hwn.

 

 

 

Yn unol â'r Rheoliadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, roedd rhaid i unrhyw awdurdod a oedd yn dymuno gwneud newidiadau i rôl neu strwythur Pwyllgor Sgriwtini a Throsolwg gael caniatâd y Cynulliad i wneud hynny.

 

 

 

Roedd cais am ganiatâd i newid y model  a nodir yn Atodiad A yr adroddiad wedi cael ei anfon i'r Cynulliad ynghyd â chopi o'r adroddiad i'r Cyngor a threfniadau cyfredol yr Awdurdod hwn.  Hefyd, gofynnwyd iddynt wneud penderfyniad ac anfon cadarnhad ysgrifenedig i'r Awdurdod hwn cyn gynted ag y bo modd.

 

 

 

     Yn y cyfamser, rhaid i'r Cyngor barhau yn gyfreithiol i gael rhyw fath o drefniadau sgriwtini oherwydd rhaid cael mecanwaith yn ei le ar gyfer delio gydag unrhyw benderfyniadau a gânt eu galw i mewn cyn adeg rhoddi'r model arfaethedig yn ei le.  Fodd bynnag, oherwydd yr awydd i roddi'r system newydd yn ei lle cyn gynted ag y mae hynny'n ymarferol  ac yn gyfreithiol bosib, doedd dim pwrpas i'r system bresennol barhau heb unrhyw newid hyd oni fyddai hynny'n digwydd.

 

      

 

     Dywedodd Cyfarwyddwraig y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro bod yna deimlad cyffredinol y dylid cyflwyno'r amcanion newydd er nad yw  caniatâd ysgrifenedig hyd yma wedi dod i law.  Fodd bynnag, yn yr amgylchiadau, dywedodd petai'r Cyngor yn penderfynu symud ymlaen cyn cael caniatâd, efallai y byddai'n rhaid ystyried a fyddai'n ddyletswydd ar y Swyddog Monitro i adrodd i'r Cyngor y byddai hynny yn torri'r ddeddfwriaeth ac y gallai hynny ohirio penderfyniad.

 

      

 

     Dywedodd y Swyddog Monitro y byddai'n rhaid iddi wneud y penderfyniad ar y pryd.  Pur anaml mae'n rhaid gweithredu ar y dyletswydd hon a dim ond mewn achosion clir ond roedd hynny'n rhywbeth y byddai'n rhaid i'r Swyddog Monitro ei ystyried fel dyletswydd statudol.

 

      

 

     Yn y cyfamser, roedd y Swyddog Monitro yn cyfeirio at argymhelliad y Rheolwr-gyfarwyddwr i aelodau yn yr adroddiad y dylai'r 6 Bwyllgor Sgriwtini  barhau i fodoli hyd oni fydd caniatâd wedi ei dderbyn gydag aelodaeth â chydbwysedd gwleidyddol yn cael ei gadarnhau a chyda'r arweinyddion grwp yn gwneud yr enwebiadau, ond na fyddai unrhyw gyfarfodydd nac ychwaith unrhyw gadeiryddion neu is-gadeiryddion yn cael eu hethol, nac â'r hawl i dderbyn unrhyw lwfansau hyd oni fyddai caniatâd wedi ei roddi yn y cyfarfod 'arbennig' o'r Cyngor a fydd, fe ragwelir yn cael ei gynnal ar 13 Gorffennaf, oni bai fod penderfyniad yn cael ei alw i mewn.  Yn yr achos hwnnw byddai'n rhaid ethol Cadeirydd ad hoc ar gyfer y cyfarfod hwnnw yn unig.  Nodwyd y trefniadau cydbwysedd gwleidyddol a fyddai mewn bodolaeth o ddiwrnod y cyfarfod hwn hyd oni ddeuai'r trefniadau newydd i rym yn Atodiad B adroddiad y Rheolwr-gyfarwyddwr.  Yn y cyfamser, anogir Llywodraeth Cynulliad Cymru i ymateb yn gyflym.

 

      

 

     Byddai adroddiad yn amlinellu'r sefyllfa gyfredol yn cael ei gyflwyno i'r cyfarfod ar 13 Gorffennaf beth bynnag ond petai caniatâd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn dod i law cyn hynny, yna byddai'r system newydd yn dod i rym yn otomatig o'r adeg honno hyd yn oed petai hynny cyn 13 Gorffennaf.  Roedd y cydbwysedd gwleidyddol a fyddai mewn grym o'r adeg y deuai'r trefniadau newydd yn weithredol wedi ei nodi yn Atodiad C yr adroddiad i'r Cyngor hwn.  Roedd y rhain ychydig yn wahanol i'r tabl yn Atodiad B oherwydd bod y trefniadau sgriwtini newydd yn gostwng cyfanswm nifer y seddi o 128 i 104, felly byddai'r niferoedd a ddyrennir i bob grwp hefyd yn lleihau pro rata.

 

      

 

     Roedd y newidiadau i'r Lwfansau Cyfrifoldeb Arbennig a fyddai mewn grym o adeg gweithredu ar y trefniadau newydd wedi eu dangos yn Atodiad D yr adroddiad i'r Cyngor hwn.  Byddai newid o 6 phwyllgor sgriwtini i 3 Chadeirydd a thri Is-Gadeirydd yn derbyn Lwfansau Cyfrifoldeb Arbennig yn arwain at yr un nifer o lwfansau yn cael eu talu er bod lwfans yr Is-Gadeirydd yn llai na lwfans Cadeirydd.  Oherwydd y bydd y Pwyllgor Gwaith o hyn ymlaen ac arno 10 aelod yn hytrach na 9, byddai angen ethol Cadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Trwyddedu yn y man a'r nifer uchaf o Lwfansau Cyfrifoldeb Arbennig y caniateir eu talu oedd 20.  Petai Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu yn derbyn LCA, yna byddai'n rhaid gwneud i ffwrdd â lwfans arall.  Awgrymod Cyfarwyddwraig y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro mai'r lwfans a delir i Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio fydd y lwfans a fydd yn y dyfodol yn diflannu efallai ond cadarnhaodd mai'r LCA ar hyn o bryd ydi'r rheini a nodir yn Atodiad D, a bod y rheini yn cynnwys lwfans i Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio ac y byddai'n rhaid eu cymeradwyo i gyd.

 

      

 

     O safbwynt cydbwysedd gwleidyddol, cafwyd ar ddeall bod aelodau wedi bod wrthi'n anffurfiol yn trafod pa seddi ddylid eu dyrannu i'r aelodau hynny o'r Cyngor sydd ddim yn aelodau o unrhyw grwp.  Fel y cadarnhawyd mewn adroddiadau blaenorol ar gydbwysedd gwleidyddol, does dim ymrwymiad dan y rheoliadau cydbwysedd gwleidyddol i gynnig unrhyw seddi i aelodau rhydd ar bwyllgorau ond arfer blaenorol y Cyngor hwn er gwaethaf hynny oedd cynnig i aelodau gyfran pro rata o'r seddi er mwyn caniatau iddynt gyfrannu'n llawn at fusnes y Cyngor.  Oherwydd, cafodd y tablau a ymddengys yn Atodiadau B ac C eu paratoi gan gymryd yn ganiataol y byddai'r arfer hwn yn parhau.

 

      

 

     Nid oedd unrhyw reidrwydd yn y Rheoliadau Cydbwysedd Gwleidyddol  ar gyfer y trefniant hwn ac efallai y bydd aelodau yn dymuno trafod beth ddylid ei wneud mewn ymateb i'r adroddiad hwn.  Pe deuir yn amlwg bod y Cyngor yn gyffredinol o'r farn bod yn well ganddynt ddull arall, megis peidio neilltuo unrhyw seddi i aelodau rhydd neu efallai ddyrannu seddi i bwyllgorau sgriwtini ond nid i bwyllgorau eraill, yna byddai'n rhaid i'r Cyngor egluro'n llawn ei gynigion fel y gellid rhoddi sylw pellach i effaith y tablau yn Atodiadau B ac C.

 

      

 

     Argymhellodd Cyfarwyddwraig y Gwasanaethau Cyfreithiol y dylid cyflwyno'r trefniadau sgriwtini newydd dim ond ar ôl derbyn caniatâd er mwyn osgoi sefyllfa lle bod y Cyngor yn torri rheoliadau.

 

      

 

     PENDERFYNWYD

 

      

 

11.1

Bod y trefniadau Sgriwtini a Throsolwg presennol yn 2.6.2 Erthygl 6 y Cyfansoddiad yn cael eu disodli gyda'r model a nodir yn Atodiad A sydd ynghlwm wrth yr adroddiad hwn.

 

      

 

11.2

Bod y trefniadau cydbwysedd gwleidyddol a nodir yn Atodiad C yr adroddiad i'r Cyngor sydd ynghlwm yma yn dod i rym a bod cyfarfodydd rhagarweiniol y pwyllgorau newydd yn cael eu trefni at ddiben ethol Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion ac y bydd y Cadeiryddion a'r Is-Gadeiryddion hyn yn derbyn o ddyddiad eu penodi y lwfansau a nodir yn Atodiad CH yr adroddiad i'r Cyngor ac eithrio'r lwfans i Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a ddaw i ben ar unwaith.

 

 

 

12     RHAGLEN CYFARFODYDD ARFEROL Y CYNGOR

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo'r rhaglen a ganlyn o gyfarfodydd arferol y Cyngor Sir ar gyfer y flwyddyn i ddod :-

 

      

 

     21 Medi 2004 - 2.00 p.m.

 

     9 Rhagfyr 2004 - 2.00 p.m.

 

     3 Mawrth 2005 - 2.00 p.m.

 

     3 Mai 2005 (Cyfarfod Blynyddol) - 2.00 p.m.

 

      

 

     Daeth y cyfarfod i ben am 3.10 p.m.

 

      

 

     Y CYNGHORYDD J. ARWEL ROBERTS

 

     CADEIRYDD