Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 27 Mai 2004

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Iau, 27ain Mai, 2004

CYNGOR SIR YNYS MÔN

Cofnodion y cyfarfod arbennig ar 27 Mai 2004

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Mrs B. Burns (Cadeirydd)

 

Y Cynghorydd J. Arwel Roberts (Is-Gadeirydd)

 

Y Cynghorwyr W. J. Chorlton, J. M. Davies, J. A. Edwards, D. D. Evans, C. Ll. Everett, P. M. Fowlie, D. R. Hughes, Dr. J. B. Hughes, R. Ll. Hughes, T. Ll. Hughes, W. I. Hughes, Glyn Jones, G. O. Jones, H. E. Jones, O. Gwyn Jones, R. Ll. Jones, Rhian Medi, R. L. Owen, G. O. Parry, MBE, R. G. Parry, OBE, G. W. Roberts, OBE, Gwyn Roberts, John Roberts, W. T. Roberts, J. Rowlands, E. Schofield, G. Alun Williams, John Williams, W. J. Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Rheolwr-gyfarwyddwr

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a'r Amgylchedd)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo)

Cyfarwyddwraig Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro

Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio)

Pennaeth Gwasanaeth (Eiddo)

Pennaeth Gwasanaeth (Hamdden a'r Gymuned)

Pennaeth Gwasanaeth (Polisi)

Uwch Swyddog Cynllunio (ME)

Swyddog Cyfathrebu

Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgor

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr J. Byast, E. G. Davies, K. Evans, Ff. M. Hughes, W. E. Jones, G. Allan Robets, H. W. Thomas, K. Thomas.

 

 

 

 

 

Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd John Roberts.

 

1

DATGANIADAU O DDIDDORDEB

 

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb gan yr Aelodau canlynol :-

 

Gwnaeth y Cynghorydd Bob Parry O.B.E. ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth partner ei fab yn yr Adran Addysg a Hamdden.  

 

Gwnaeth y Cynghorydd C. L. Everett ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei chwaer yn yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol a hefyd yng nghyswllt ei waith fel Clarc i Gyngor Tref Caergybi.

 

Gwnaeth y Cynghorydd G. O. Parry MBE ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem  ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Gyllid.

 

Gwnaeth y Cynghorydd G. W. Roberts OBE ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag  unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol.  

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd E.  Schofield ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Addysg a Hamdden a chyflogaeth ei wyr yn yr Adran Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd J. Arwel Roberts ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem  ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei wraig yn Nholldy Penrhos, Caergybi.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd W. J. Chorlton ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem  ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Glyn Jones ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei wraig yn Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Robert Lloyd Hughes ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei fab yn yr Adran Briffyrdd.

 

 

 

2

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

 

 

 

Ar ran yr holl aelodau a'r holl swyddogion yn bresennol mynegodd y Cadeirydd ei chydymdeimlad dwys gyda'r Cynghorydd O. Gwyn Jones a'i deulu ar golli ei wraig Eluned yn ddiweddar.  Roedd y gynulleidfa a ddaeth i'r angladd yn dyst i'w chyfraniad i'w theulu a hefyd i'w chymuned.  Aeth y Cadeirydd rhagddi i fynegi cydymdeimlad gyda'r holl aelodau hynny o'r staff a oedd wedi cael profedigaeth ers cyfarfod diwethaf y Cyngor hwn.

 

 

 

Safodd yr aelodau a'r swyddogion mewn tawelwch fel arwydd o barch.

 

 

 

Llongyfarchwyd Aina Jasmin Dolexal, disgybl yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy ar ennill ysgoloriaeth i Goleg Prifysgol Cymru, Bangor ym mis Medi 2004.  Hefyd llongyfarchwyd Sion Keirhas o Lannerch-y-medd, disgybl 16 oed o Ysgol uwchradd Bodedern, am ddylunio a chynhyrchu ei fersiwn ei hun o'r gêm boblogaidd 'Monopoly' a chynnwys yn y gêm enwau lleoedd yn Ynys Môn.

 

 

 

Dymunwyd yn dda iawn i blant o Fôn a fuasai'n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd ar Gae y Primin yr wythnos ddilynol.  Yn yr un modd dymunodd yn dda i'r bobl ifanc hynny oedd yn sefyll arholiadau yn ystod y dyfodol agos.

 

 

 

Llongyfarchwyd Mr. Medwyn Williams, Llanfair-pwll ar yr anrhydedd fawr a ddaeth i'w ran pan enillodd y nawfed medal aur mewn olyniaeth yn Sioe Flodau Chelsea.  At hynny enillodd Wobr y Llywydd am y casgliad gorau o lysiau yn y sioe, y cyntaf erioed o Gymru i ennill y fath anrhydedd.

 

 

 

Gwahoddwyd holl Aelodau'r Cyngor a'r staff i ymweld â phabell y Cyngor yn yr Eisteddfod.

 

 

 

Wedyn diolchodd y Cadeirydd i'r Cynghorwyr a ganlyn a oedd yn bwriadu ymddeol fel Cynghorwyr cyn etholiadau'r Cyngor - Cynghorwyr a oedd rhyngddynt wedi rhoddi 111 o flynyddoedd o wasanaeth i lywodraeth leol :-

 

 

 

Y Cynghorydd G. Alun Williams

 

Ers 1961 roedd y Cynghorydd Williams wedi rhoddi 43 blynedd o wasanaeth i lywodraeth leol gan ddechrau gyda Chyngor Sir Ynys Môn y bu'n Gadeirydd iddo yn 1969-71; wedyn symud i Gyngor Gwynedd rhwng 1974-1996, ac yn Gadeirydd y Cyngor hwnnw yn 1990-91 ac yn olaf symud i Gyngor Sir Ynys Môn yn 1996.

 

 

 

Y Cynghorydd O. Gwyn Jones

 

Ymunodd y Cynghorydd Jones â'r hen Gyngor Bwrdeistref yn 1976 gan Gadeirio nifer fawr o'i bwyllgorau yn ystod y cyfnod a hefyd bu'n Faer y Cyngor hwnnw rhwng 1994-95.  Hefyd bu'r Cynghorydd Jones yn Ddeilydd Portffolio ar y Pwyllgor Gwaith.

 

 

 

Y Cynghorydd Gwyn Roberts

 

Bu'r Cynghorydd Roberts yn Gynghorydd ar yr hen Gyngor Bwrdeistref ers 1984, yn Gadeirydd sawl Pwyllgor ac yn Gadeirydd y Cyngor Sir rhwng 1997-98.

 

 

 

Y Cynghorydd Dr. J. B. Hughes

 

Gwasanaethodd y Cynghorydd Hughes ar Gyngor Gwynedd o 1981 i 1996 ac yna ar y Cyngor hwn ers 1999.  Ar Gyngor Gwynedd bu'n Gadeirydd sawl Pwyllgor a hefyd bu'n aelod o Bwyllgor Gwaith y Cyngor hwn.

 

------------------------------------------------

 

 

 

Ar ran y Cyngor Sir cyflwynodd y Cadeirydd i'r Aelodau uchod bowlenni grisial ac arnynt wedi ei ysgythru logo'r Cyngor i gofio am eu gwasanaeth clodwiw i lywodraeth leol.

 

 

 

Yn olaf achubodd y Cadeirydd ar y cyfle i ddymuno'n dda iawn i aelodau'r Cyngor a oedd yn wynebu etholiadau.

 

 

 

PENDERFYNWYD cofnodi gwerthfawrogiad a diolch y Cyngor i'r pedwar Cynghorydd am wasanaeth gwerthfawr i lywodraeth leol a hefyd i'r Cymunedau dros y blynyddoedd.

 

 

 

3

COFNODION

 

 

 

Cyflwynwyd a derbyniwyd, cofnodion y cyfarfod o'r Cyngor Sir a gynhaliwyd  ar y ddydiad canlynol :-

 

 

 

4 Mawrth, 2004                                        Tud  1 - 22

 

 

 

4

COFNODION PWYLLGORAU

 

 

 

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, ac i gymeradwyo'r argymhellion lle bo raid, gofnodion y  cyfarfodydd o'r Pwyllgorau isod ar y dyddiadau a ganlyn:-

 

 

 

4.1

PWYLLGOR PENODI a gynhaliwyd ar

 

20,  Chwefror, 2004                                   Tud 23 - 23

 

 

 

4.2

CYSAG a gynhaliwyd ar

 

23 Chwefror, 2004                                   Tud 24 - 29

 

 

 

4.3

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

a gynhaliwyd ar 3 Mawrth 2004                              Tud 30 - 43

 

 

 

4.4

PWYLLGOR PENODI a gynhaliwyd

 

ar 8 Mawrth 2004                                   Tud 44 - 44

 

 

 

4.5

PWYLLGOR SGRIWTINI AMGYLCHEDD

 

A CHLUDIANT a gynhaliwyd ar 11 Mawrth, 2004                    Tud 45 - 51

 

 

 

4.6

CYD-BWYLLGOR AAA a gynhaliwyd ar 12 Mawrth, 2004          Tud 52 - 56

 

 

 

4.7

PWYLLGOR ARCHWILIO a gynhaliwyd ar

 

23 Mawrth, 2004                                   Tud 57 - 61

 

4.8

PWYLLGOR SGRIWTINI ADDYSG GYDOL OES

 

A DIWYLLIANT a gynhaliwyd ar 25 Mawrth, 2004               Tud 62 - 69

 

 

 

4.9

PWYLLGOR SGIWTINI DATBLYGU ECONOMAIDD a         

 

gynhaliwyd ar 30 Mawrth, 2004                              Tud 70 - 75

 

 

 

Yn codi :-

 

 

 

Eitem 3 - Cofnodion - Datblygu Sgiliau

 

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd G. W. Roberts, OBE, a oedd yr Arweinydd wedi ysgrifennu at Gynulliad Cymru ynghylch y posibilrwydd o symud swyddfeydd y Cynulliad i Ynys Môn a gofyn hefyd a oedd dirprwyaeth wedi ymweld â Chaerdydd ai peidio yng nghyswllt hyn.  Wedyn gofynnodd beth oedd y sefyllfa ddiweddaraf ynghylch codi bloc o swyddfeydd preifat ar dir ger y Ganolfan Fenter, Kingsland, Caergybi.

 

Yn ei ymateb dywedodd yr Arweinydd iddo ysgrifennu at y Gweinidog Cyntaf, Rhodri Morgan, sawl gwaith ar y mater hwn.  Yn y cyfamser daeth cyhoeddiad fod Conwy wedi cael y swyddfeydd.  Yn ei ymateb ysgrifennodd i fynegi siom y Cyngor hwn gyda'r penderfyniad oherwydd mai Môn oedd yr unig Sir yng Nghymru heb swyddfeydd i'r Cynulliad na chorff yn derbyn nawdd y Cynulliad.  O'r herwydd nid oedd angen i ddirprwyaeth ymweld â Chaerdydd.  Ar 12 Mai, 2004 cyflwynwyd adroddiad i gyfarfod arbennig o'r Pwyllgor Sgriwtini Datblygu Economaidd ynghylch y datblygiad yn Kingsland, Caergybi.  Câi adroddiad ar y pwnc ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith yn y man.

 

Wedyn gofynnodd y Cynghorydd G. W. Roberts OBE am gopïau o'r ohebiaeth ar y ddau bwnc ynghyd â chopi o bolisi'r Cyngor yng nghyswllt prynu tir a'i werthu.

 

Addawodd yr Arweinydd gyflwyno'r wybodaeth hon iddo gyda'r amod na châi papurau cyfrinachol yng nghyswllt Kingsland, Caergybi eu rhyddhau.

 

 

 

4.10

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

a gynhaliwyd ar 7 Ebrill 2004                              Tud 76 - 92

 

 

 

4.11

PWYLLGOR SGRIWTINI ADNODDAU'R CYNGOR

 

a gynhaliwyd ar 22 Ebrill, 2004                              Tud 93 - 96

 

 

 

4.12

PWYLLGOR SGRIWTINI CYMUNEDAU IACH

 

A DIOGEL a gynhaliwyd ar 29 Ebrill, 2004                    Tud 97 - 101

 

 

 

4.13

PWYLLGOR SGRIWTINI CYNHWYSIAD

 

CYMDEITHASOL  a gynhaliwyd ar 29 Ebrill, 2004               Tud 102 - 104

 

 

 

4.14

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

a gynhaliwyd ar 5 Mai, 2004                              Tud 105-119

 

 

 

4.15

PWYLLGOR SGRIWTINI ADNODDAU'R CYNGOR

 

a gynhaliwyd ar 11 Mai, 2004                              Tud 120- 121

 

 

 

4.16

PWYLLGOR SGRIWTINI DATBLYGU

 

ECONOMAIDD a gynhaliwyd ar 12 Mai, 2004                    Tud 122 - 126

 

 

 

Yn codi -

 

 

 

Eitem 3 - Cofnodion - Twnnel Penmaen-bach, Conwy.

 

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd H. Eifion Jones a oedd yr Arweinydd wedi cydymffurfio ai peidio gyda chais y Pwyllgor Sgriwtini i ysgrifennu at Gynulliad Cymru i fynegi pryderon oherwydd y gwaith ar yr A55 ym Mhenmaen-bach, Conwy ac effaith drychinebus hynny ar fasnach dwristiaeth yr Ynys.

 

Yn ei ymateb dywedodd yr Arweinydd iddo ysgrifennu at Gynulliad Cymru ar y pwnc hwn ond heb dderbyn ateb hyd yma.

 

Mewn ymateb cynigiodd y Cynghorydd W. J. Williams fod yr Arweinydd unwaith eto yn ysgrifennu at Gynulliad Cymru i fynegi pryderon y Cyngor hwn oherwydd yr oedi gyda'r gwaith a dwyn sylw at y ffaith nad oedd y Cyngor wedi derbyn ymateb i'r llythyr gwreiddiol.

 

Cytunodd yr Arweinydd i ysgrifennu.

 

 

 

 

4.17

CYD-BWYLLGOR RHEOLI ALWMINIWM MÔN

 

a gynhaliwyd ar 14 Mai, 2004.                                Tud 9 - 11 o’r Gyfrol hon

 

 

 

4.18

PWYLLGOR GWAITH a gynhaliwyd ar y dyddiadau isod:-

 

 

 

4.18.1          26 Ionawr 2004                              Tud      127 - 148

 

4.18.2          20 Chwefror 2004                         Tud      149 - 156

 

4.18.3          3 Mawrth 2004                              Tud     157 - 170

 

4.18.4          31 Mawrth 2004                              Tud     171 - 188

 

4.18.5          26 Ebrill 2004                              Tud     189 - 197

 

4.18.6          10 Mai 2004                              Tud       198 - 207

 

 

 

     Yn codi o'r cofnodion - Eitem 4 - Strategaeth Fuddsoddi Flynyddol 2004/05

 

'Argymell i'r Cyngor Sir ei fod yn cymeradwyo'r Strategaeth Fuddsoddi Flynyddol                ar gyfer 2004/05 i ddisodli'r strategaeth interim a gymeradwywyd ar 4 Mawrth 2004.

 

 

 

     Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) fel y cafodd ei gyflwyno i'r                Pwyllgor Gwaith.

 

 

 

PENDERFYNWYD ardystio argymhelliad y Pwyllgor Gwaith 10 Mai 2004, mewn perthynas â hyn.

 

 

 

4.18.7

18 Mai 2004                                                Cyfrol y Cyngor

 

                                                  21.09.2004

 

Yn codi o'r cofnodion:-                                                                                      tud 91 - 105

 

 

 

Eitem 3 - Cynllun Gwella 2004/05

 

Argymell i'r Cyngor Sir:-

 

 

 

1.     'derbyn yr amserlen  ddiwygiedig ar gyfer cynhyrchu'r Cynllun Gwella;

 

 

 

2.     rhoi awdurdod i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo, mewn ymgynghoriad gyda'r Arweinydd, i barhau a bwrw ymlaen gyda'r gwaith o gwblhau'r Cynllun Gwella (fel sydd wedi ei nodi ym mharagraff 4.1 yr adroddiad i'r Pwyllgor hwn)

 

 

 

3.     bod y Cyngor yn derbyn a mabwysiadu'r Fframwaith Cynllunio Corfforaethol (Atodiadau 1 & 2 yr Adroddoad i'r Pwyllgor hwn)

 

 

 

4.     dan y pennawd 'Gwella trwy Adfywio Cymunedau' yn Atodiad 2 y Fframwaith Cynllunio Corfforaethol y cyfeirir ato uchod, newid y frawddeg olaf i ddarllen fel a ganlyn:-

 

 

 

     'Datblygu diwylliannau a diogelu'r Iaith Gymraeg mewn cymunedau.'

 

 

 

5.     bod ymateb y Cyngor  i'r Asesiad Gwella Corfforaethol (AGC) yn cael ei ymgorffori yn y Cynllun Gwella.

 

 

 

6.     derbyn y Fframwaith Rheoli Perfformiad (Atodiad 3 yr adroddiad i'r Pwyllgor hwn) mewn egwyddor  yn amodol ar ddatblygu ymhellach ac egluro'r cyfrifoldebau ar lefel Gorfforaethol a lefel Gwasanaeth.

 

 

 

7.     nodi y bydd adroddiad pellach ar Gytundebau Polisi yn cael eu cyflwyno i'rPwyllgor Gwaith yn gynnar ym mis Gorffennaf 2004."

 

 

 

     Cyflwynwyd -  adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth fel y cafodd ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith.

 

 

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r Pwyllgor Gwaith ac i'r Swyddogion perthnasol am eu gwaith gan ychwanegu y buasai'n rhaid galw cyfarfod arbennig o'r Cyngor Sir ganol Gorffennaf i gwblhau gwaith ar y cynllun cyn ei gyflwyno i Gynulliad Cymru.

 

 

 

PENDERFYNWYD cadarnhau argymhellion y Pwyllgor Gwaith ar 18 Mai 2004, fel y cyfeirir atynt uchod, ond gyda'r diwygiad a ganlyn i argymhelliad rhif 4 uchod :-

 

 

 

'Diogelu a datblygu'r Iaith Gymraeg a datblygu diwylliannau yn y cymunedau'.

 

 

 

5

CYFARWYDDYD CYNLLUNIO ATODOL - TAI FFORDDIADWY

 

      

 

     Cyflwynwyd -  adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a'r Amgylchedd) ar Gyfarwyddyd Cynllunio Atodol - Tai Fforddiadwy.

 

      

 

     Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a'r Amgylchedd) fod holl aelodau'r Cyngor Sir wedi derbyn gwahoddiad i drafod cynnwys y Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol yn Ebrill ar ôl ymgynghori ar fersiwn ddrafft ohono.

 

      

 

     Wedyn cyflwynwyd adroddiad ar y Cyfarwyddyd i'r Pwyllgor Gwaith ac ar ôl iddo ef wneud newidiadau yng nghyswllt 'cysylltiadau lleol cryf', argymhellwyd ei fabwysiadu.  Ynghlwm roedd copi yn dangos y newidiadau a gyflwynwyd ers paratoi'r fersiwn ddrafft - atodiad fel rhan o'r adroddiad i'r Cyngor hwn.

 

      

 

     PENDERFYNWYD mabwysiadu'r Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol ar Dai Fforddiadwy a bod Panel Sgriwtini yn cael ei sefydlu i fonitro y broses o weithredu ar y polisïau.

 

      

 

6     IS-DDEDDFAU'R ARFORDIR

 

      

 

     Adroddwyd -  bod y Pwyllgor Gwaith, ar 3 Mawrth 2004, ar ôl ystyried adroddiad ar Ffioedd a Thaliadau Arforol ac Adolygiad o'r Polisi ar gyfer Badau Dwr Pwrsonol, wedi argymell i'r Cyngor Sir 'y dylid cynnal adolygiad cynhwysfawr o Is-ddeddfau'r Arfordir.'

 

      

 

     Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo) - Bod Cynllun Badau Dwr Personol y Cyngor wedi ei adolygu gan y Pwyllgor Sgriwtini Amgylchedd a Chludiant ar 21 Ionawr, 2004 ac wedyn gan y Pwyllgor Gwaith ar 3 Mawrth 2004.  Yn y broses hon rhoddwyd sylw i Is-ddeddfau Diogelwch Arfordirol a'r angen i'w hadolygu.

 

      

 

     Ar ôl ymgynghori gydag Adain Gyfreithiol y Cyngor a chyd a Gynulliad Cymru yng nghyswllt y bwriad i gyflwyno ardal newydd gydag is-ddeddfau yn Afon Menai daeth yn amlwg nad oedd modd diwygio'r cyfryw is-ddeddfau heb hefyd ddiwygio ac adolygu eu cynnwys.  

 

      

 

     Ers blwyddyn neu ddwy, cododd pryderon yng nghyswllt twf a datblygiad gweithgareddau newydd megis syrffio barcud, hwylio ar y tir, zap cats etc., gweithgareddau heb gyfeiriad atynt yn yr Is-ddeddfau presennol.  O'r herwydd roedd posibilrwydd fod yma wrthdaro gyda gweithgareddau eraill megis ymdrochi a'r defnydd hefyd a wneir o'r traeth gan deuluoedd a phlant.

 

      

 

     Gyda golwg ar roddi sylw i'r materion hyn ac ehangu ardal yr Is-ddeddfau awgrymwyd fod y Cyngor yn gwneud arolwg llawn o Is-ddeddfau'r Arfordir yn unol ag Adran 3.2.2.3.1.1 Cyfansoddiad y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD

 

Ÿ

Bod y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo) yn cynnal arolwg manwl ar yr Is-ddeddfau Arfordirol er mwyn hyrwyddo diogelwch y cyhoedd a rheoli'r traethau.

 

Ÿ

Dylid, fel rhan o'r arolwg hwn, rhoddi sylw i bryderon y Cynghorydd G. O. Parry, MBE, ynghylch diogelu stoc y pysgod ar yr arfordir, y Lasinwen etc., oherwydd fod pysgotwyr masnachol yn ecsbloetio adnoddau, gan wneud mawr ddrwg i'r pysgotwyr lleol ac i'r diwydiant twristiaeth yn gyffredinol.

 

 

 

7

CYNLLUN I GANIATAU I'R CYHOEDD SIARAD YN Y PWYLLGOR CYNLLUNIO

 

      

 

     Cyflwynwyd -  adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio) ar drefniadau newydd arfaethedig i ganiatáu i'r cyhoedd siarad mewn cyfarfodydd o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

      

 

     Dywedwyd bod y Cyngor Sir ar 11 Rhagfyr 2003 wedi mabwysiadu nifer o argymhellion gan Weithgor a sefydlwyd i adolygu'r Rheolau Gweithdrefn Materion Cynllunio.  Er bod y Cyngor gyda pheth amheuon ynghylch caniatáu i'r cyhoedd siarad yn y Pwyllgor roedd yn fodlon gwneud ymchwil i'r dadleuon o blaid ac yn erbyn.

 

      

 

     Yn ôl arolwg a gynhaliwyd ym mis Hydref 2003 yng nghyswllt y cyhoedd yn siarad yn yr awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru (Atodiad 'A' ynghlwm wrth yr adroddiad i'r Cyngor hwn) gwelwyd fod 9 ohonynt yn caniatáu i'r cyhoedd siarad.  Yn ôl yr ymchwil gwelwyd fod manteision mewn caniatau iddynt siarad am gyfnod arbrofol ond i'r broses gael ei rheoli yn iawn.  Yn ôl profiad roedd yn rhaid sicrhau fod rhai darpariaethau hanfodol yn eu lle cyn y gallai'r system weithio yn effeithiol.  Un o'r rhain oedd sicrhau Cadeiryddiaeth gref yn unol â phrotocol cytunedig;  hefyd roedd angen cefnogaeth weinyddol ddigonol a'r staff perthnasol  yn gweithio fel tîm gan roddi gwybod i'r cyhoedd am eu swyddogaeth nhw trwy daflen.

 

      

 

     Amgaewyd y dogfennau a ganlyn gyda'r papurau a gyflwynwyd i'r Cyngor hwn :-

 

      

 

     Atodiad 'B' - Protocol i'r Cyhoedd siarad yn y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

 

      

 

     Atodiad 'C' - Diagram yn dangos manylion y broses weinyddol

 

      

 

     Atodiad 'CH' - Newidiadau arfaethedig i Reolau Gweithdrefn Materion Cynllunio Cyfansoddiad y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y mater ac ailgyflwyno i'r Cyngor Sir yn dilyn yr etholiadau  ym mis Mehefin.

 

      

 

8     DIRPRWYAETHAU A WNAED GAN YR ARWEINYDD

 

      

 

     Adroddiad gan y Rheolwr-gyfarwyddwr yn nodi'r newidiadau i'r Cynllun Dirprwyo mewn perthynas â swyddogaethau Gweithredol a wnaed gan yr Arweinydd a'r Pwyllgor Gwaith ers y cyfarfod Cyffredin diwethaf (Rheol 4.4.1.4 o'r Rheolau Gweithdrefn Trefniadau Gweithredol - tudalen 131 y Cyfansoddiad).  

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi'r cynnwys.

 

      

 

9     CWESTIYNAU A DDERBYNIWYD DAN REOL 4.1.2.4

 

      

 

     Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau.

 

      

 

10     CAIS I GOFRESTRU GRINIAU NEWYDD I BENTREF / TREFI NEU DIR COMIN - DIRPRWYO GRYM

 

      

 

     Cyflwynwyd adroddiad gan y Gyfarwyddwraig Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro - Yn dweud bod penderfynu ar gais i gofrestru grîn newydd mewn tref neu bentref neu dir comin newydd yn weithgaredd rheoliadol o ran natur ac yn debygol o fod yn fater o gonsýrn cyhoeddus sylweddol yng nghyffiniau safle y cais.  O'r herwydd tybiwyd mai priodol dirprwyo penderfyniad ar gais dan Reoliad 6 i Bwyllgor yn hytrach nag i swyddog, er y byddai dirprwyo i swyddog yn bosibl yn gyfreithiol.

 

      

 

     Ac eithrio mewn amgylchiadau cyfyngedig, rhai nad ydynt yn debygol o godi yn ymarferol, nid yw'r grym i benderfynu ar gais dan Reoliad 6 yn un y gellir ei ddirprwyo i Bwyllgor Gwaith y Cyngor am ei fod yn rheoliadol ei natur.  

 

      

 

     Bwriadwyd i Bwyllgor Cynllunio a Gorchmynion y Cyngor fod yn gorff gwneud penderfyniadau yng nghyswllt penderfyniadau rheoliadol y mae gofyn i aelodau eu gwneud.  O'r herwydd argymhellwyd fod y grym i benderfynu ar geisiadau dan Reoliad 6 hefyd yn cael ei ddirprwyo gan y Cyngor llawn i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a bod unrhyw ofynion gweinyddol pur dan Reoliad 6 - sef yr anghenion hynny nad yw Rheoliad 5 yn cyffwrdd â nhw - yn cael eu dirprwyo i'r Gyfarwyddwraig Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro.

 

      

 

     PENDERFYNWYD

 

      

 

     Dirprwyo gwaith y Cyngor o benderfynu ar geisiadau dan Reoliad 6, Rheoliadau Cofrestru Comin (Tir Newydd) 1969 i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

      

 

     Dirprwyo i'r Gyfarwyddwraig Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro yr angen i gopïo pob gwrthwynebiad i'r ymgeisydd wedi i'r cyfnod gwrthwynebu ddod i ben.

 

      

 

     ----------------------------------------------------

 

      

 

     Yma achubodd Arweinydd y Cyngor ar y cyfle i ddiolch i'r Cadeirydd am ei gwaith trwy'r flwyddyn ac am ei ffordd unigryw o arwain y Cyngor.  Yn ei chyfnod yn y swydd rhoes urddas i'r Cyngor ac am hyn roedd yr aelodau yn wirioneddol ddiolchgar.

 

      

 

     Yn ogystal diolchodd i aelodau'r Cyngor am gefnogaeth trwy'r flwyddyn gan ddymuno i'r rheini oedd yn ymddeol bob dymuniad da am y dyfodol.

 

      

 

     Wedyn cefnogodd y Cynghorydd John Roberts ysbryd geiriau'r Arweinydd gan ddiolch i'r Cadeirydd am ei dull arbennig o arwain a rheoli cyfarfodydd y Cyngor.

 

      

 

     Yn olaf diolchodd y Cadeirydd i'r aelodau am eu geiriau caredig ac am eu cefnogaeth yn ystod y flwyddyn.

 

      

 

     Daeth y cyfarfod i ben am 3.35 p.m.

 

      

 

      

 

     Y CYNGHORYDD MRS B BURNS

 

     CADEIRYDD