Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 27 Medi 2012

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Iau, 27ain Medi, 2012

Ynglyn â

Dydd Iau 27 Medi, 2012 am 2:00yp
Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni

Noder: Oherwydd natur rhai o'r dogfennau isod, nid yw pob un yn hollol ddwyieithog nac yn hollol hygyrch i bobl gydag amhariadau gweledol, ac ni fydd modd defnyddio 'darllenwr sgrin' i ddarllen y dogfennau hyn.

Rhaglen

1. Cofnodion

Cyflwyno i'w cadarnhau a'u llofnodi, gofnodion y cyfarfodydd o'r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau isod:-

2. Datganiadau o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

3. Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor, Y Bwrdd Comisiynwyr neu'r Pennaeth Gwasanaeth Taledig

4. Cwestiynau a gafwyd yn unol a rheol 4.1.12.2.1

Dim.

5. Cofnodion er gwybodaeth - Bwrdd Cynaliadwyedd

Cyflwyno er gwybodaeth, gofnodion y cyfarfodydd o'r Bwrdd Cynaliadwyedd a gynhaliwyd ar y dyddiadau isod:-

6. Cyflwyno Deisebau

Yn unol â Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad, bydd y Prif Weithredwr yn cyflwyno'r deisebau isod i'r Cadeirydd:-

  • Deiseb yn gwrthwynebu codi tyrbinau gwynt masnachol yn ardaloedd Llanfechell a Mynydd Mechell
  • Deiseb i ailagor toiledau ar y traeth yng Nghemaes
  • Deiseb o blaid parc i blant ym Malltraeth

7. Adroddiad Blynyddol Rheoli Trysorlys 2011-12

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth Dros Dro (Adnoddau)
(Papur F)

8. Datganiad Cyfrifon 2011-12

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth Dros Dro (Adnoddau)
(Papur FF) Dogfen ar wahân- Gweler uchod yn 'Dogfennau i'w lawrlwytho'

9. Canllawiau Cynllunio Atodol: Adroddiad ar werthusiad o gymeriad Ardal gadwraeth Porthaethwy

(a) Adrodd bod y Bwrdd Comisiynwyr, yn y cyfarfod ar 3 Medi 2012, wedi penderfynu argymell i'r Cyngor Sir ei fod yn “cymeradwyo Gwerthusiad Cymeriad Ardal Gadwraeth Porthaethwy i'w fabwysiadu fel Canllawiau Cynllunio Atodol.”

(b) Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd) fel y cafodd ei gyflwyno i'r Bwrdd Comisiynwyr ar 3 Medi 2012.
(Anfonwyd copi eisoes at bob Aelod gyda'r papurau ar gyfer cyfarfod y Bwrdd Comisiynwyr ar 3 Medi 2012).

10. Cynllun Rheoli Asedau Eiddo a TGch Corfforaethol

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Eiddo)
(Papur G)

11. Cynigiad a dderbyniwyd yn unol â rheol 4.1.2.2.12 y Cyfansoddiad

Cyflwyno'r Rhybudd o Gynigiad isod gan y Cynghorwyr Aled Morris Jones a Selwyn Williams:-

“Rydym ni, sydd wedi arwyddo isod, yn annog Cyngor Sir Ynys Môn i ymchwilio i'r posibilrwydd o wneud cais i gynnal Gemau'r Ynysoedd yn wyneb llwyddiant Llundain 2012. Dylai'r Cyngor achub ar y cyfle i ddod â digwyddiad chwaraeon mawr i Ynys Môn, a fydd yn dod ag etifeddiaeth barhaus i Ynys Môn a Chymru gyfan.”

Rhoi sylw i'r uchod.

12. Pumed Adroddiad Gwaith Chwarterol y Comisiynwyr

(a) Bydd y Comisiynydd Mick Giannasi yn rhoi cyflwyniad byr ar y 5ed Adroddiad Chwarterol.
(Mae copi o'r 5ed Adroddiad Chwarterol eisioes wedi'i anfon at yr Aelodau a'r Swyddogion trwy e-bost)

13. Adnewyddiad Democrataidd

a) Bydd y Prif Weithredwr yn cyfeirio at y datganiad a wnaed gan y Gweinidog ar gyfer Llywodraeth Leol a Chymunedau ar 25 Medi 2012.
b) Cyflwyno adroddiad llafar gan y Prif Weithredwr ar argymhellion y Panel Cydnabyddiaeth.

14. Dogfen Ymgynghorol - Adolygiad o wasanaeth Betsi Cadwaladr

Cyflwyniad gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Bydd cyfle ar gyfer sesiwn holi ac ateb byr i'r Aelodau.

[Mae'r copi o'r ddogfen ymgynghorol ar gael i'w gweld yn www.bcuhnjointhedebate@wales.nhs.uk yn yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol neu yn Lolfa'r Aelodau].