Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 27 Hydref 2009

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Mawrth, 27ain Hydref, 2009

CYFARFOD ARBENNIG O GYNGOR SIR YNYS MÔN

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Hydref 2009 (10:30am)

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd O. Glyn Jones - Cadeirydd

Y Cynghorydd Selwyn Williams - Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr W.J. Chorlton, E. G. Davies, Lewis Davies, Jim Evans, Keith Evans,  C. Ll. Everett, K. P. Hughes,  W. I. Hughes, W. T. Hughes, Eric Jones, H. Eifion Jones, Raymond Jones, R. Dylan Jones, R.  Ll. Jones, T. H. Jones, Aled Morris Jones, Clive McGregor,  Bryan Owen, J. V. Owen, R.L. Owen, Bob Parry OBE,  G.O. Parry MBE, Eric Roberts, P. S. Rogers, E. Schofield, Hefin W. Thomas, Ieuan Williams. John Penri Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid),

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol)

Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol)

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol,

Swyddog Rheoli Datblygu (EGJ)

Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgorau,

Swyddog Cyfathrebu.

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr   P. M. Fowlie, D. R. Hughes, Ff. M. Hughes, R. Ll. Hughes, T. Ll. Hughes, G. W. Roberts OBE

 

 

 

 

 

Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd Aled Morris Jones

 

1

DATGAN DIDDORDEB

 

Gwnaeth y Cynghorydd A. Morris Jones ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas â'r cyfeiriad a wnaed at y Gwasanaeth Prydau Ysgol dan Eitem 3 y cofnodion hyn, ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r bleidlais ar y mater.

 

Gwnaed datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorwyr W. J. Chorlton, E. G. Davies, A. Morris-Jones, O. Glyn Jones, R. L. Owen a H. W. Thomas mewn perthynas ag eitem 6 y cofnodion hyn ac nid oeddent yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r bleidlais.

 

2

DERBYN UNRHYW GYHOEDDIADAU GAN Y CADEIRYDD, YR ARWEINYDD, AELODAU O'R PWYLLGOR GWAITH NEU'R PENNAETH GWASANAETH TÂL

 

Estynnodd y Cadeirydd ei ddymuniadau gorau i Mrs May Schofield am adferiad llawn a buan.

 

Achubodd ar y cyfle hefyd i ddiolch i Mr. Richard Parry Jones am ei waith fel Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro ers Ebrill 2009.

 

Achubodd y Cynghorydd W. J. Chorlton ar y cyfle i ddiolch i Mr. Richard Parry Jones yn y cyswllt hwn.

 

 

 

3

CYNLLUN GWELLA

 

 

 

Adroddwyd - Bod y Pwyllgor Gwaith, ar ôl rhoi sylw i'r uchod yn ei gyfarfod ar 20 Hydref 2009, wedi penderfynu fel a ganlyn:-

 

 

 

" Nodi sylwadau'r Prif Bwyllgor Sgriwtini a gynhaliwyd ar 12 Hydref, 2009, ac ymateb fel a ganlyn:-

 

 

 

Risgiau 

 

 

 

1.  Derbyn yr angen i gynnwys cyfeiriad at y Stad Mân-ddaliadau dan Rheoli Asedau.  

 

 

 

2.  Peidio â chynnwys Rheoli'r Fflyd fel risg gorfforaethol ond nodi bod angen gwneud rhagor o waith yn yr Awdurdod ar faterion rheoli fflyd.  

 

 

 

3.  Nodi sylwadau'r Pwyllgor bod angen ymrwymiad i fabwysiadu'r Cynllun Datblygu Lleol erbyn dechrau 2011.  

 

 

 

Data Perfformio 

 

 

 

1.  Derbyn y sylwadau ar yr angen i gynnwys data ar absenoldeb oherwydd salwch dan Atodiad 3 (Canlyniadau Dangosyddion Craidd 08/09) yn fersiwn derfynol y Cynllun.  

 

 

 

2.  Derbyn yr angen i drafod y ganran o gwynion gorfodaeth a gafodd eu datrys yn ystod y flwyddyn cyn pen 12 wythnos i'w derbyn fel rhan o’r rhaglen waith.  

 

 

 

Cyffredinol 

 

 

 

1.  Y byddai’r rhestr o asedau yn cael sylw dan Gynllun Rheoli Asedau'r Cyngor.  

 

 

 

2.  Derbyn yr angen i gynnwys cyfeiriad at effaith y dirwasgiad economaidd ar risgiau'r Cyngor.  

 

 

 

3.  Nodi y bydd Pwyllgor Gwaith yn ystyried 'y statws dynodiad arbennig' fel mater ar wahân i'r Cynllun Gwella.  

 

 

 

4.  Nodi'r pryder ynghylch mynediad i dai fforddiadwy i bobl ifanc a bod y Pwyllgor Gwaith yn rhoi sylw i hynny.  

 

 

 

Ÿ

Nodi’r materion a godwyd mewn cyfarfodydd cyhoeddus ynghylch materion yn y Cynllun Gwella a chyfeirio atynt yn y ddogfen.  

 

 

 

Ÿ

Nodi y dylid rhoi rhagor o sylw i’r materion a godwyd yn y cyfarfodydd cyhoeddus fel rhan o’r  gwaith ar flaenoriaethau tymor canol y Cyngor.  

 

 

 

Ÿ

Cadarnhau'r risgiau a nodwyd ac argymell i'r Cyngor Sir y dylid rhoi awdurdod i'r Aelod Portffolio ar gyfer Llywodraethu Corfforaethol, mewn ymgynghoriad gyda'r Pennaeth Gwasanaeth (Polisi), roi trefn derfynol ar y Cynllun erbyn 31 Hydref 2009."

 

 

 

(a)  Cyflwynwyd - Adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) fel y cafodd ei gyflwyno i'r Prif Bwyllgor Sgriwtini a gynhaliwyd ar 12 Hydref, 2009.

 

 

 

(b)  Cyflwynwyd er gwybodaeth, gofnodion y cyfarfod o'r Prif Bwyllgor Sgriwtini a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2009 ynghyd â'r sylwadau a wnaed gan y cyhoedd ynghylch blaenoriaethau'r Cynllun Gwella yn dilyn cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus a gafwyd yn ddiweddar.

 

 

 

Mynegodd y Cynghorwyr C. Ll. Everett, Rhian Medi a P.S. Rogers eu pryder bod y Pwyllgor Gwaith wedi penderfynu peidio â chynnwys rheoli'r fflyd fel risg Gorfforaethol ond nodi bod angen gwneud rhagor o waith ar faterion rheoli'r fflyd.  Gofynnodd y tri i'r Pwyllgor Gwaith roi sylw difrifol i'r mater.

 

 

 

Yn ei ymateb, dywedodd yr Arweinydd bod materion rheoli fflyd yn rhan o'i gyfrifoldebau portffolio ef ac ‘roedd yn ymwybodol iawn o'r angen i gwrdd â thargedau o fewn cyfnod byr o amser.  ‘Roedd yn gobeithio y gellid dwyn y mater i ben cyn diwedd y flwyddyn galendr.  Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd o'r llawr, byddai'n gofyn i Gyfarwyddwyr Corfforaethol sicrhau bod gweithwyr yn cofnodi manylion yn eu llyfrau log ar gyfer pob taith a bod pawb sy'n defnyddio eu ceir i wneud gwaith y Cyngor yn rhoi manylion am eu trwyddedau, yswiriant a dogfennau MOT i'r Cyngor.

 

 

 

_________________________

 

 

 

Mynegwyd pryder gan y Cynghorydd H. Eifion Jones na lwyddwyd i gwrdd â thargedau salwch staff llynedd.  A fyddai'r Cyngor yn cwrdd â'r targed eleni?

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Ieuan Williams, sef yr Aelod Portffolio, nad oedd y ffigyrau ganddo ar hyn o bryd ond y byddai'n rhoi’r wybodaeth hon i bob aelod o'r Cyngor.

 

 

 

_________________________

 

 

 

Holodd y Cynghorydd H. Eifion Jones a oedd yna strategaeth neu bolisi i roi sylw i'r nifer o gartrefi gweigion ar yr Ynys (700)?

 

 

 

Ymatebodd y Cynghorydd W. I. Hughes, sef yr Aelod Portffolio, trwy ddweud bod tai rhent ar gael yn y sector preifat ar gyfer pobl ddigartref a bod hynny wedi arbed oddeutu £200k llynedd.  Nid oedd llety gwely a brecwast yn dderbyniol i blant a theuluoedd.  Dywedodd bod oddeutu 207 o dai ar gael gan landlordiaid ond bod y ffigyrau hyn yn gallu amrywio.

 

 

 

Ymatebodd y Cynghorydd H. Eifion Jones mai tai preifat oedd y ffigwr o 700 yr oedd wedi cyfeirio ato.  Pe bai modd rhoi rhai o'r tai hyn yn ôl ar y farchnad agored byddai hynny o fudd i bobl sy'n chwilio am gartrefi.

 

 

 

_________________________

 

 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd H. Eifion Jones at y prosiect Môn Menai a holodd faint o swyddi yr oedd wedi ei greu a beth fyddai eu prosiect nesaf?

 

 

 

Yn ei ymateb, dywedodd y Cynghorydd B. Owen fod y Cyngor, trwy Môn Menai, wedi llwyddo i ddenu cyllid a oedd wedi bod o fudd economaidd i'r Ynys.  Nid oedd unrhyw fanylion ynghylch faint o swyddi a gafodd eu creu oherwydd nad oedd Môn Menai yn monitro'r manylion hyn. Roedd y buddsoddiad cyfan yn mynd ar yr isadeiledd.  

 

 

 

_________________________

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd H. Eifion Jones am adroddiad i'r Pwyllgor Gwaith ac i'r Cyngor Sir ar y sefyllfa ariannol.  Heb y rhan honno o'r darlun roedd yn anodd cadarnhau a oedd y Cynllun Gwella yn gyflawn.

 

 

 

Ymatebodd y Cynghorydd Ieuan Williams, yr Aelod Portffolio, fod y sefyllfa ariannol wedi ei chynnwys yn y Cynllun Gwella a darllennodd y rhan berthnasol i'r Cyngor.

 

 

 

_________________________

 

 

 

Mynegodd y Cynghorydd W. J. Chorlton ei bryder ynghylch diffyg gwybodaeth mewn perthynas â swm o £2m a gymerwyd o'r arian wrth gefn a hefyd swm o £200k o arian wrth gefn tuag at y Stad Mân-ddaliadau.  Fel un a fu'n Aelod Portffolio ar gyfer materion Rheoli Fflyd, ‘roedd yn ystyried mai Adran y Trefniant Llafur Uniongyrchol yn y Gaerwen ddylai fod yn ymwneud â'r mater hwn.  Yn yr adran honno ‘roedd yr arbenigedd, y gweithdy a’r mecanyddion.

 

 

 

Ymatebodd yr Arweinydd trwy ddweud bod angen i'r adrannau lynu wrth yr egwyddorion pwrcasu pan maent yn prynu cerbydau ac felly sicrhau arbedion gwirioneddol i gyllideb yr Awdurdod.

 

 

 

_________________________

 

 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd P. S. Rogers at y sefyllfa druenus yr oedd y Stad Mân-ddaliadau ynddi.  Roedd yn ymwybodol bod y cais am £5m o gyllid Ewropeaidd ar gyfer gwaith atgyweirio wedi ei wrthod. Roedd yn credu bod angen i'r Cyngor gymryd camau ar unwaith i roi sylw i dorri amodau yn y cytundebau tenantiaeth.  Nid oedd yn credu bod y galw-i-mewn i'r Prif Bwyllgor Sgriwtini wedi gwneud ei waith, yn yr ystyr bod yr Aelod Portffolio, y Cynghorydd Schofield, wedi cymryd drosodd y cyfarfod yn llwyr.

 

 

 

Yn ei ymateb roedd y Cynghorydd Schofield yn croesawu sylwadau'r Pwyllgor Sgriwtini y dylid cynnwys Mân-ddaliadau mewn rhaglen rheoli asedau.  Yn anffodus, etifeddwyd hanes o esgeulustod yn yr Awdurdod o ran y Stad Mân-ddaliadau. Roedd y Pwyllgor Gwaith wedi cydnabod bod gwir angen rhoi sylw i'r broblem benodol hon yn sgil ei gyfrifoldeb fel landlord.  Roedd Mân-ddaliadau yn un o'r gwasanaethau a allai fod yn hunangyllidol oherwydd ei fod yn cynhyrchu incwm gros o £400k y flwyddyn.  Fodd bynnag, dros y blynyddoedd dim ond hanner y swm hwnnw oedd wedi bod ar gael tuag at waith cynnal. Nid oedd yr arian hwn yn ddigon i oresgyn y broblem ac felly roedd angen sicrhau derbyniadau cyfalaf trwy werthu Mân-ddaliadau pan oeddent yn dod ar gael ac yn unol â'r polisi cyfredol.  Nid oedd yn derbyn y sylw a wnaed nad oedd y Pwyllgor Gwaith yn effro i'r broblem.  Byddai swm o £200k a derbyniadau cyfalaf yn sgil gwerthu Mân-ddaliadau yn golygu yn awr y gallai'r Cyngor fwrw ymlaen i unioni’r sefyllfa.

 

 

 

_________________________

 

 

 

Aeth y Cynghorydd P. S. Rogers ymlaen i godi'r contract prydau ysgol.

 

 

 

(Gwnaed datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd Aled Morris Jones a gadawodd y Siambr)

 

 

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Cynghorydd Rogers nad oedd y mater yr oedd ef wedi ei godi yn rhan o'r Cynllun Gwella ac na fyddai'n derbyn unrhyw gwestiynau arno.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd H. W. Thomas yn barchus i'r Aelod Portffolio ar gyfer Mân-ddaliadau a fyddai'n fodlon edrych ar y polisi ar gyfer cael gwared ar Fân-ddaliadau ac ystyried a fyddai'n ddigonol i ddarparu cyllid i wella'r stad.  Cyfeiriodd hefyd at y risg na fyddai modd cwblhau'r Cynllun Datblygu Lleol oherwydd prinder staff.

 

 

 

Ymatebodd y Cynghorydd R. G. Parry OBE, yr Aelod Portffolio, y bwriedir cwblhau'r Cynllun Datblygu Lleol.  Nid oedd y Prif Swyddog a oedd yn delio gyda’r Cynllun Datblygu Lleol yn gyflogedig gan y Cyngor hwn bellach ac nid oedd y swydd wedi ei llenwi.  Roedd yr Adran yn edrych ar ffyrdd eraill o gwblhau'r Cynllun Datblygu Lleol trwy gydweithio gyda Chyngor Gwynedd.  Os oes angen, gwneir penodiad dros dro ac fe wneir penderfyniad yn y cyswllt hwn cyn diwedd y flwyddyn.  Y gobaith oedd cwblhau'r cynllun rhyw dro yn y flwyddyn nesaf.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd K. P. Hughes i'r Pwyllgor Gwaith gynghori'r Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro i edrych ar bob Adran yn y Cyngor i sichrau eu bod yn effeithlon ac yn darparu gwerth am arian.  Byddai'r cyhoedd yn gweld wedyn bod y Cyngor wedi rhoi trefn ar ei dy ei hun.

 

 

 

PENDERFYNWYD

 

 

 

Ÿ

Cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Gwaith a rhoi awdurdod i'r Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) mewn ymgynghoriad gyda'r Aelod Portffolio ar gyfer Llywodraethu Corfforaethol,  gwblhau'r cynllun erbyn y dyddiad cau, sef 31 Hydref 2009.

 

 

 

Ÿ

Rhoi gwybod i Arweinwyr Grwpiau am unrhyw newidiadau sylweddol i'r ddogfen cyn ei chyflwyno i Gynulliad Cymru.

 

 

 

4

Y BWRDD ADFER

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro ei fod, yn y cyfarfod o'r Cyngor Sir ar 15 Medi 2009, wedi rhoi gwybod i'r Cyngor bod y Gweinidog newydd gyhoeddi'r 'Cylch Gorchwyl ac Arferion Gweithio ar gyfer y Bwrdd Adfer'. Amlinellwyd cynnwys y ddogfen yn y cyfarfod hwnnw ac roedd copi wedi ei ddiweddaru ynghlwm yn Atodiad 1 o'r adroddiad.

 

      

 

     Ers hynny roedd y Bwrdd wedi cael ei gyfarfod cyntaf ar 2 Hydref 2009 ac fe gyfarfu yn answyddogol wedyn gydag ystod o aelodau'r Cyngor, Uchel Swyddogion a Chadeirydd y Pwyllgor Safonau.  

 

      

 

     Ar ôl pob cyfarfod o'r Bwrdd byddai Cadeirydd y Bwrdd, Elan Closs Stephens, yn ysgrifennu at y Gweinidog ar gyfer Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol ac yn cyflwyno adroddiad iddo. Roedd llythyr y Cadeirydd a'r adroddiad cyntaf i'w weld yn Atodiad B ac Atodiad C yr adroddiad a oedd gerbron y Cyngor heddiw.

 

      

 

     Roedd cyfarfod cyntaf y Bwrdd yn canolbwyntio ar sut y byddai'r Bwrdd yn gweithredu ac ar y rolau a'r cyfrifoldebau cyn iddo ddechrau mynd ati i fonitro a chynorthwyo gyda'r gwaith adfer.

 

      

 

     Dygwyd sylw'r aelodau at arferion gweithio'r Bwrdd Adfer:-

 

      

 

Ÿ

byddai'r Bwrdd yn cyfarfod yn breifat ond byddai adroddiad cyhoeddus ar y cyfarfod yn cael ei gyflwyno i'r Gweinidog.

 

 

 

Ÿ

nid oedd gan y Bwrdd unrhyw bwerau i gyfarwyddo'r Cyngor ond, fel Grwp Ymgynghorol allweddol y Gweinidog bydd ganddo, wrth gwrs, effaith sylweddol ar y Cyngor, boed honno'n effaith gadarnhaol iawn neu un negyddol iawn.  Hwn fyddai'r grwp allweddol a fyddai'n dylanwadu ar y Gweinidog ynghylch a fyddai'r Cyngor yn goroesi fel corff annibynnol.

 

 

 

Ÿ

gallai'r Bwrdd wahodd aelodau (a swyddogion) i'w gyfarfodydd i roi tystiolaeth ynghylch cynnydd neu ddiffyg cynnydd.

 

 

 

Ÿ

byddai aelodau'r Bwrdd yn ymweld â'r Cyngor a gallant fynychu cyfarfodydd o bryd i'w gilydd.

 

 

 

Ÿ

byddai'r Bwrdd yn asesu cynnydd yn erbyn cynllun adfer y Cyngor.

 

 

 

Ÿ

byddai'r Bwrdd yn asesu 'cynaliadwyedd' ac roedd hynny'n hollbwysig.  Wrth gwrs, pe bai'r Bwrdd o'r farn nad oedd y gwelliannau o fewn y Cyngor yn rhai cynaliadwy a’r Cyngor yn dychwelyd i ymddygiad y gorffennol, fe allai'r farn honno fod â goblygiadau difrifol i oroesiad y Cyngor fel corff annibynnol.

 

 

 

Roedd y dogfennau hefyd yn ddadlennol yn yr ystyr eu bod yn rhoi i'r Cyngor rhyw deimlad o safbwyntiau cychwynnol y Bwrdd.  Dylai'r Cyngor nodi, gyda pheth pryder, y cafwyd sylw gan Gadeirydd y Bwrdd yn ei gyfarfod cyntaf fod y Cadeirydd yn :-

 

 

 

'certain it will be beneficial from time to time for you [the Ministrer] to remind the Council of your grave concern and ..... the extent of your powers in this intervention!'

 

 

 

Byddai'r Bwrdd Adfer, yn y lle cyntaf, yn canolbwyntio ar drefniadau gwleidyddol y Cyngor a hynny, yn ddiamheuaeth, oherwydd ei bryderon a fynegwyd ym mharagraff 16, fod materion o gwmpas arweinyddiaeth wleidyddol ac ymddygiad yn -

 

 

 

'continues to occur some months after the Auditor General's report'

 

 

 

Nid oedd y pryderon hyn a fynegwyd gan y Bwrdd yn argoeli'n dda i'r Cyngor.  Dylai bod gan y Cyngor ddyhead am newid sydyn a chynaliadwy fel bod modd dirwyn y Bwrdd Adfer i ben cyn i'w gyfnod cychwynnol o ddwy flynedd orffen.

 

 

 

Roedd adferiad llwyddiannus y Cyngor yn fater i'r Aelodau yn unigol ac fel corff. Dygodd y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro sylw'r Cyngor at baragraff 10 yn yr adroddiad ar y cyfarfod cyntaf. ‘Roedd yn glir iddo, o'r trafodaethau a gafodd gyda'r Bwrdd, nad oedd beio problemau'r Cyngor ar 'handful of members' yn ddadl nac yn esgus cynaliadwy.  Byddai'r Bwrdd yn edrych ar y mwyafrif distaw nad ydynt wedi herio gweithgareddau pitw, plwyfol ac weithiau dialgar ychydig o bobl neu, sydd hyd yn oed yn waeth, sydd edi cytuno i gael eu defnyddio neu eu dylanwadu i gefnogi gweithredu o'r fath.  Byddai'r Aelodau yn ymwybodol bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi mynegi pryderon y gall aelodau newydd y Cyngor, dros amser, efelychu ymddygiad rhai o'r aelodau profiadol a hynny'n gwneud drwg i'r Cyngor cyfan.  Roedd hyn yn berygl gwirioneddol i oroesiad y Cyngor.

 

 

 

Dros yr ychydig fisoedd nesaf byddai'r Bwrdd yn canolbwyntio ar yr isod:-

 

 

 

Ÿ

Arsylwi mewn cyfarfodydd gan gynnwys cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio.

 

 

 

Ÿ

Gwahodd pob Arweinydd Grwp i ddod i gyfarfod o'r Bwrdd yn y dyfodol i drafod camau y gallant eu cymryd.

 

 

 

Ÿ

Gwahodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i roi cymorth ar gyfer hyfforddi aelodau.

 

 

 

Ÿ

Ystyried rôl y Pwyllgor Safonau a'r Swyddog Monitro ar sut y gellir cynyddu eu heffaith ymarferol.

 

 

 

Ar yr un pryd byddant hefyd yn dymuno edrych ar nifer o feysydd gwasanaeth.

 

 

 

Ym marn y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro, nid oedd y cynnydd a wnaed hyd yma wedi gwneud argraff dda o gwbl ar y Bwrdd Rheoli, yn arbennig o gofio bod gwraidd y problemau yn y maes ymddygiad personol a chyfrifoldeb personol.

 

 

 

     _________________________

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro wrth y Cyngor ei fod yn paratoi Cynllun Gweithredu ar hyn o bryd a'i bod hi'n hollbwysig bod aelodau yn ymroi i'r Cynllun hwnnw a'r Cynllun Adfer. Roedd yn gwbl glir y byddai'r Bwrdd Adfer yn parhau hyd nes y byddai'n hyderus bod newid cynaliadwy wedi digwydd o fewn y Cyngor.

 

      

 

     Byddai'n ymgynghori gyda staff yn fuan ynghylch ailstrwythuro Adran y Rheolwr-gyfarwyddwr.  Roedd y Rheolwr-gyfarwyddwr i fod i ganolbwyntio ar strategaeth, perfformiad a rheoli enw da.  Nid oedd angen Adran i wneud hynny.  Cynhelid arolwg hefyd ymysg staff i ofyn am eu barn ynghylch sut mae'r Cyngor yn cael ei reoli.

 

      

 

     ‘Roedd angen gwneud llawer iawn o waith ar baratoi cynllun strategol ar gyfer y Cyngor a'i integreiddio yn y broses gyllidebol.  Roedd gwaith da yn cael i wneud o ran ymgysylltu gyda chymunedau ac ‘roedd sesiynau hawl i holi a gafwyd ledled yr Ynys yn ddiweddar wedi bod yn ddefnyddiol iawn yn y cyswllt hwnnw.

 

      

 

     Er gwaethaf enw drwg y Cyngor, roedd llawer iawn o waith da iawn yn cael ei wneud gan weithlu ymroddgar a ffyddlon iawn.  Roedd angen i'r Cyngor ddathlu ei lwyddiannau ac roedd llawer ohonynt.

 

      

 

     Roedd y Cynllun Gweithredu yn debygol o ganolbwyntio ar y 6 maes allweddol isod:-

 

      

 

Ÿ

Cryfhau Llywodraethu - yn arbennig ymddygiad.  Roedd yn debyg ei fod wedi cael mwy o ohebiaeth ynghylch cwynion am aelodau a swyddogion mewn pythefnos nag y byddai'n disgwyl ei gael mewn 12 mis - mwy nag yn unrhyw Gyngor arall yr oedd wedi gweithio ynddo. Roedd yn gobeithio mai ôl effaith hynny oedd llawer o hyn.  Roedd yn rhaid i'r Cyngor hwn reoli ei hun yn hytrach na chael ei reoli'n allanol.  Dyna oedd y nod yr oedd yn rhaid i'r Cyngor hwn ei gyrraedd.  Roedd llawer o Gynghorau eraill wedi llwyddo i wneud hynny'n weddol lwyddiannus.

 

 

 

Cyfeiriodd at y ffaith bod yr Arweinydd wedi gosod esiampl bwysig yn hyn o beth yn ddiweddar, lle gofynnwyd i aelod ymddiheuro ac fe wnaeth. Roedd yn gobeithio bod hynny wedi tynnu llinell o dan y mater.  Roedd hwn yn fater a allai, yn y gorffennol, fod wedi arwain at gyfeiriad i Bwyllgorau, cyrff allanol ac ati.  Roedd hwn yn fan cychwyn eithaf pwysig ac roedd angen ei efelychu ar draws rhannau eraill y Cyngor.

 

 

 

Ÿ

Hyfforddi a datblygu Aelodau a Staff.

 

 

 

Ÿ

Arwain ac ymgysylltu gyda'r Gymuned - ‘roedd yn gwbl hanfodol bod y rheini a oedd yn dal asedau'r Cyngor ar ymddiriedoleth ar ran pobl y Sir yn ymgysylltu'n effeithiol gyda'r cyhoedd o gofio, yn aml iawn, nad oedd pobl yn cymryd rhan yn y broses wleidyddol ddemocrataidd am ba reswm bynnag.

 

 

 

Ÿ

Datblygu arweinyddiaeth fwy effeithiol gan swyddogion - roedd hyn wedi dioddef mewn cyfnod pan nad oedd yr amgylchedd gwleidyddol yn iach.  Roedd hi'n weddol anodd i swyddogion wneud penderfyniadau ac arwain yn gadarn yn absenoldeb arweinyddiaeth wleidyddol gadarn.  Roedd arwyddion o welliant calonogol yn y maes hwnnw.  Nid oedd modd dal swyddogion yn atebol, oni bai fod yna arweinyddiaeth wleidyddol gadarn ac oni bai fod aelodau yn datganoli ac yn dirprwyo awdurdod i'r swyddogion hynny a’u dal yn gwbl atebol wedyn.  Materion gweithredol o ran eu natur oedd rhai o'r materion a drafodwyd heddiw dan y Cynllun Gwella ac ni ddylent erioed fod wedi dod i'r lefel hon o drafodaeth yn y lle cyntaf a dylent fod wedi eu datrys ynghynt o lawer.  Mewn   amgylchedd gwleidyddol cecrus ac o greu hinsawdd lle nad oedd hi'n glir pwy oedd yn gyfrifol, lle nad oedd dealltwriaeth glir o’r llinellau gweithredol/ gwleidyddol, byddai pethau yn torri i lawr rhwng aelodau a swyddogion.

 

 

 

Ÿ

Sicrhau bod y Cyngor yn gweithredu yn fwy fel busnes - roedd y Cyngor hwn yn fusnes mawr ac roedd angen iddo weithredu yn llawer mwy fel busnes ar draws y Cyngor cyfan.

 

 

 

Ÿ

Gwrthdroi'r patrwm perfformio - roedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi honni, o gofio natur gecrus gwleidyddiaeth ym Môn a'r berthynas rhwng Aelodau a Grwpiau Gwleidyddol, bod hynny wedi arwain at arweinyddiaeth wleidyddol wael a rhywfaint o dystiolaeth fod perfformiad yn dirywio yn y Cyngor.  Nid oedd y dystiolaeth yn anorchfygol, ond roedd rhaid i'r Cyngor gymryd sylw o'r rhybuddion hyn a sicrhau ei fod yn gwella perfformiad yn y meysydd hynny.

 

 

 

Trwy roi sylw i'r 6 maes uchod, byddai'r Cyngor yn gallu rhoi sylw i fater yr enw sydd ganddo.

 

 

 

‘Roedd yn amlwg bod y Bwrdd Adfer yn bryderus ynghylch agweddau aelodau unigol.  ‘Roeddent wedi dweud yn glir nad oedd unrhyw gerdyn 'get out of jail' ar gael yma.  Nid dim ond mater o rai aelodau yn camymddwyn ydoedd, ond y lleill oedd wedi caniatau i'r aelodau hynny gamymddwyn. Eglurwyd hyn yn ddiamwys yn yr ohebiaeth gyda'r Gweinidog ac yn wir, yn y sylwadau a wnaed iddo ef fel Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro.

 

 

 

Roedd rhai pethau da iawn yn digwydd yn y Cyngor hwn ac nid oedd yn agos i fod mor ddrwg ag yr oedd yn ymddangos.  Fodd bynnag, ‘roedd yna rai problemau a oedd wedi gwreiddio'n ddyfn ac onid oedd deinameg wleidyddol yn y Cyngor yn newid, byddai'n parhau i gael effaith andwyol ar y sefydliad cyfan a byddai sail i ofnau Swyddfa Archwilio Cymru ynghylch dirywiad yn y gwasanaethau a ddarperir.

 

 

 

Dylai'r Cynllun Strategol ganolbwyntio ar y 1000 o swyddi a gollwyd, y ffaith bod GDP yr Ynys fesul pen o'r boblogaeth ymysg yr isaf yn y Deyrnas Gyfunol gyfan.  Dylid canolbwyntio ar y setliadau grant siomedig sy'n dod o Gaerdydd a’r materion mawr lle etholwyd aelodau i warchod a hyrwyddo budd yr Ynys.  Dyna oedd y math o drafodaeth a ddylai ddigwydd yn Siambr y Cyngor.

 

 

 

Roedd yr arwyddion yn galonogol oherwydd bod argoelion bod pethau yn dechrau gwella.  Fodd bynnag, ‘roedd yn bwysig nad oedd eraill yn peryglu cynnydd.  Dyna allai ddigwydd mewn Cyngor fel hwn.  Cyfrifoldeb pob aelod unigol oedd gwneud yn siwr nad oedd hynny'n digwydd.

 

 

 

Roedd y Bwrdd Adfer am ganolbwyntio ar ddeinameg y Cyngor yn y maes gwleidyddol. Yn y 3-4 mis cyntaf o'u gwaith byddant angen gweld Arweinwyr y Grwpiau unigol, arsylwi mewn cyfarfodydd, ac edrych ar sut ‘roedd y Pwyllgor Cynllunio yn gweithredu.

 

 

 

Manteisiodd yr Arweinydd ar y cyfle i ddiolch i'r Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro am ei sylwadau.  Wrth gwrs, ‘roedd angen gweithio fel tîm er mwyn sicrhau bod y Cyngor hwn yn dod allan o oruchwyliaeth y Bwrdd Adfer.  Roedd y Cyngor hwn yn wynebu problemau ariannol anferth.  Ymbiliodd ar aelodau'r Cyngor i ddarllen y dogfennau a oedd ger eu bron heddiw dro ar ôl tro.  Roedd yna negeseuon grymus iawn yn y dogfennau hynny -rhai yr oedd yn rhaid i'r holl aelodau gymryd sylw ohonynt.

 

 

 

Nid oedd ffordd arall.  Roedd yn rhaid i'r Cyngor hwn gydymffurfio.  Byddai'n cyfarfod gyda Dr. Brian Gibbons, y Gweinidog ar gyfer Llywodraeth Leol yfory.  Roedd yr holl aelodau yn eu swyddi i wasanaethu etholwyr Môn hyd eithaf eu gallu.  Ar y cyfan ‘roedd yn teimlo bod agweddau wedi gwella ond erys rhai eithriadau.  Fel Arweinydd ei grwp, roedd yn mynnu ar ddisgyblaeth yn ei grwp.  Gofynnodd i Arweinyddion y grwpiau eraill hefyd ddangos disgyblaeth o'r fath pan oedd pethau yn dechrau mynd yn flêr.  I'r aelodau hynny nad oeddent mewn grwp, gofynnodd iddynt feddwl am y datganiadau cyhoeddus a oedd yn cael eu gwneud oherwydd bod hynny yr un mor andwyol a chamymddwyn o fewn grwp gwleidyddol.

 

 

 

Diolchodd y Cynghorydd C. Ll. Everett i Mr. Bowles am ei annerchiad.  Awgrymodd y dylai'r Bwrdd Adfer gwrdd yn y swyddfeydd hyn yn hytrach nag oddi ar yr Ynys. Byddai hynny'n rhoi hyder i'r staff a'r aelodau.  Roedd cyfeiriad yn yr adroddiad at gerdded allan o'r Pwyllgor Archwilio. Roedd yr aelod dan sylw wedi ymddiheuro ond nid i'r Cyngor hwn nac i swyddogion yr awdurdod.  Roedd yn falch o weld bod yr Arweinydd wedi disgyblu'r aelod dan sylw (nad oedd yn gallu bod yn bresennol heddiw).  Efallai bod angen symud yn ôl i'r hen system o benodi Maer ar gyfer y Cyngor ac anghofio am y system grwpiau.

 

 

 

Yn ei ymateb dywedodd yr Arweinydd bod yr aelod dan sylw wedi ei sicrhau y byddai'n ymddiheuo’n gyhoeddus am y sylwadau a wnaed yn y cyfarfod hwnnw.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd H. W. Thomas hefyd yn falch o glywed y byddai ymddiheuriad llawn yn cael ei wneud.  Dywedodd wrth yr Arweinydd bod doniau ar bob ochr i'r Siambr ac y dylid defnyddio'r bobl iawn ar gyfer y swyddi iawn.  Roedd yn bwysig cael y tîm cryfaf posib i gwblhau'r gwaith dan sylw.  Gofynnodd yn barchus fod hynny'n cael sylw.

 

 

 

Ymatebodd yr Arweinydd trwy ddweud bod angen harneisio'r holl sgiliau a'r doniau sydd ar gael.

 

 

 

Nid oedd y Cynghorydd K. Evans am i'r Cyngor hwn gael ei ddileu oddi ar y map os nad oedd yn gallu cydymffurfio gyda'r Cynllun Gweithredu.  Nid oedd y Cyngor hwn yn dymuno mynd yn ôl i hen ddyddiau Cyngor Sir Gwynedd a oedd yn gweithredu rhwng 1974 a 1995 pan oedd Ynys Môn yn frawd bach i Sir Gaernarfon ac roedd yn rhaid iddo stryffaglio am friwsion.  Ymbiliodd ar yr aelodau i ddechrau byhafio a gweithio gyda'i gilydd fel yn y dyddiau cyn grwpiau gwleidyddol.  Ffurfiwyd Grwp Menai er mwyn rhoi pob cyngor i Mr. Bowles yn y gwaith caled oedd o'i flaen.  

 

 

 

Dywedodd Y Cynghorydd Jim Evans nad oedd yn deall y cyfeiriad a wnaed dan baragraff 18 yr adroddiad o ran problemau gyda'r Pwyllgor Cynllunio.  Gofynnodd am eglurhad.

 

 

 

Ymatebodd yr Arweinydd bod y Tîm Archwilio Llywodraethu Corfforaethol wedi cael 70 o gwynion ond nid oedd yn hysbys faint o'r cwynion hyn oedd yn ymwneud â'r Pwyllgor Cynllunio.

 

 

 

Diolchodd y Cynghorydd P. S. Rogers i Mr. Bowles am ei adroddiad.  Tynnodd sylw at y cyfeiriad yn yr adroddiad ynghylch rhybuddion difrifol ynghylch goroesiad yr awdurdod hwn fel corff annibynnol.  Ni fu unrhyw welliant yn y Cyngor ers casgliadau Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru.

 

 

 

‘Roedd yn croesawu'r cyfeiriad a wnaed gan Mr. Bowles ac Arweinydd y Cyngor at hunanreoleiddio.  Roedd y feirniadaeth neu’r cwynion a gafwyd am y Pwyllgor Cynllunio yn wir yn ei farn ef.  ‘Roedd yn croesawu'r ffaith bod yr Arweinydd wedi gweithredu yn sgil un o'r aelodau yn taranu allan o'r Pwyllgor Archwilio.  Fodd bynnag, nid oedd yn deall pam bod yr aelod hwnnw wedi cael ei sedd yn ôl ar y Pwyllgor pan oedd wedi ymddiswyddo a cherdded allan.  Dylai'r aelod hwnnw ymddiheuro'n gyhoeddus i bawb am yr hyn a ddywedodd.  Bu cwyn arall yn erbyn yr aelod mewn perthynas â chais yr oedd ef (y Cynghorydd Rogers) wedi ei wneud yn y Pwyllgor Cynllunio fis diwethaf.  ‘Roedd yn gobeithio y byddai'r Arweinydd yn cymryd camau yn y cyswllt hwn hefyd.  ‘Roedd problem hefyd yn y Benllech lle ceisiwyd iawndal ac roedd hynny o ganlyniad i ymyrraeth yr un aelod.

 

 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Rhian Medi at y problemau ieithyddol yr oedd wedi eu codi gyda'r Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro.  Mynegodd bryder ynghylch y perygl y gallai'r Cyngor dychwelyd i'w hen ffyrdd unwaith y bydd gwaith y Bwrdd Adfer wedi dod i ben. Ymbiliodd ar i'r aelodau o'r Cyngor sy'n siarad Cymraeg wneud hynny yng nghyfarfodydd y Cyngor.  Os nad oeddent yn gwneud, ‘roedd perygl y byddai'r Siambr yn cael ei Seisnigeiddio.  Mae'n rhaid i’r holl aelodau yn awr reoli eu hymddygiad yn y siambr a symud i ffwrdd o'r ymosodiadau personol a dialedd y gorffennol.

 

 

 

Diolchodd y Cynghorydd Aled Morris Jones i Mr. Bowles am y ffordd yr oedd wedi crynhoi'r materion yr oedd y Cyngor yn eu hwynebu ac am gyfleu gwir natur y sefyllfa. ‘Roedd yn credu bod y Cyngor hwn wedi newid yn ddramatig ers Mai 2008 oherwydd bod pobl yn awr yn cael y parch yr oeddent yn ei haeddu fel unigolion.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd K. Evans bod y Cyngor yn derbyn yr adroddiad ac Atodiad A yn ei gyfanrwydd, gan gydnabod arwyddocad y cynnwys a chan sicrhau'r Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro a'r Bwrdd Adfer o gefnogaeth ac ewyllys da'r Cyngor yn eu hymdrechion.

 

 

 

Eiliwyd y cynnig gan yr Arweinydd ac fe gafodd ei gario gan y Cyngor.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn cynnwys yr adroddiad.

 

 

 

5

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

 

      

 

     Dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Paragraff 16, Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.

 

      

 

6

AWDURDOD AR GYFER IAWNDAL STATUDOL YN DILYN DIDDYMU CANIATÂD CYNLLUNIO

 

      

 

     Cyflwynwyd - Adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio) a'r Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol.

 

      

 

     Adroddwyd - Bod yr Ombwdsmon ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru, mewn adroddiad dyddiedig 14 Ionawr 2008, wedi argymell fod y Cyngor yn diddymu caniatâd cynllunio penodol ar dir ar yr Ynys.  Rhoddwyd y caniatâd yn 2007 i godi annedd sengl a mynedfa newydd i gerbydau.  

 

      

 

     Canlyniad cwyn a wnaed i'r Ombwdsmon oedd iddo farnu bod y Cyngor wedi camweinyddu yn yr achos ac na ddylai caniatâd fod wedi ei roi.  Rhoddwyd y caniatâd gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (y Pwyllgor) yn ei gyfarfod yn Chwefror 2007, yn groes i argymhelliad ei swyddogion.

 

      

 

     Ym Mai 2008, fe ddirprwyodd y Cyngor llawn y cyfrifoldeb o ystyried adroddiad ac argymhellion yr Ombwdsmon i'r Pwyllgor.  Yn ei gyfarfod ar 16 Mai 2008 fe benderfynodd y Pwyllgor dderbyn yr argymhelliad a diddymu'r caniatâd.

 

      

 

     Ar ôl dilyn y gweithdrefnau statudol fe ddiddymwyd y caniatâd tuag at ddiwedd 2008.

 

      

 

     ‘Roedd swyddogion yn awr yn ceisio awdurdod dirprwyol i setlo'r hawliad am iawndal sy'n codi o ddiddymu'r caniatâd.

 

      

 

     Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol y wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau ar y datblygiadau ers ysgrifennu'r adroddiad.    Rhoddodd yr Aelod Lleol ar gyfer y perchenogion ragor o wybodaeth i'r aelodau ynghylch natur gymhleth y mater hwn.  Y gobaith oedd y gallai'r Cyngor gytuno ar delerau heb orfod mynd i gyflafareddiad.  ‘Roedd yr aelod lleol yn derbyn yr argymhellion a wnaed yn yr adroddiad.

 

      

 

     PENDERFYNWYD

 

      

 

Dirprwyo grym i'r Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol:-

 

 

 

Ÿ

setlo'r hawliad hwn am iawndal statudol sy'n codi o ddiddymu'r caniatâd cynllunio, ar delerau y mae ef yn eu hystyried yn rhai rhesymol ac yn dilyn ymgynghori gyda'r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) a'r Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio).

 

 

 

Ÿ

cymryd unrhyw a phob cam y mae ef yn eu hystyried yn briodol er mwyn amddiffyn buddiannau'r Cyngor wrth geisio setlo'r hawliad am iawndal (megis, ond dim yn gyfyngedig i, ceisio cyngor gan Fargyfreithiwr a gwneud taliad i'r Llys).

 

 

 

(Roedd y Cynghorydd Eirc Jones a T. Jones yn dymuno cofnodi eu bod wedi ymatal eu pleidlais ar y mater hwn).

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12:50pm

 

 

 

Y CYNGHORYDD O. GLYN JONES

 

CADEIRYDD

 

 

 

Y CYNGHORYDD SELWYN WILLIAMS

 

IS-GADEIRYDD