Cyfarfod arbennig o Gyngor Sir Ynys Môn Siambr y Cyngor, Swyddfa'r Sir, Llangefni Dydd Iau, 28 Hydref, 2010 am 3pm
Noder: Oherwydd natur rhai o'r dogfennau isod, nid yw pob un yn hollol ddwyieithog nac yn hollol hygyrch i bobl gydag amhariadau gweledol, ac ni fydd modd defnyddio 'darllenwr sgrin' i ddarllen y dogfennau hyn.
Fe agorir y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd R Dylan Jones.
Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog yng nghyswllt unrhyw eitem o fusnes.
(a) Adrodd bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 26 Hydref 2010 wedi ystyried y mater uchod a bydd copi o'i argymhellion i'r Cyngor Sir yn cael eu rhoi gerbron yn y cyfarfod hwn.
(b) Cyflwyno copi o'r adroddiad gyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 26 Hydref 2010 (Copi wedi'i ddosbarthu i'r holl aelodau fel rhan o bapurau rhaglen y Pwyllgor Gwaith am 26 Hydref)
(a)Cyflwyniad gan Mr. Alan Morris, Swyddfa Archwilio Cymru ar yr uchod.
(b)Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Gyfarwyddwr Dros- dro.
(Papur 'A')
(c) Cyflwyno ymateb y Rheolwr Gyfarwyddwr Dros- dro i'r Asesiad Corfforaethol Cychwynnol.
Ystyried mabwysiadu'r isod:
“Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae modd cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Paragraff 7, Atodlen 12A y Ddeddf a'r Profion Budd y Cyhoedd eithriad ohoniâ€.
(a) Adrodd bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 26 Hydref, 2010 wedi ystyried y mater uchod a bydd copi o'i argymhellion i'r Cyngor Sir yn cael ei roi gerbron y cyfarfod hwn.
(b) Cyflwyno copi o'r adroddiad gyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 26 Hydref 2010. (Copi wedi'i ddosbarthu i'r holl Aelodau fel rhan o bapurau rhaglen y Pwyllgor Gwaith ar 26 Hydref).