Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 30 Mehefin 2009

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Mawrth, 30ain Mehefin, 2009

CYFARFOD CYNGOR SIR YNYS MÔN

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Mehefin 2009

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd O. Glyn Jones - Cadeirydd

Y Cynghorydd Selwyn Williams - Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr W.J. Chorlton, E. G. Davies, Lewis Davies, Barrie Durkin, Jim Evans, Keith Evans,  C. Ll. Everett, D. R. Hughes, Fflur M. Hughes, K. P. Hughes,  R. Ll. Hughes, T. Ll. Hughes, W. I. Hughes, W. T. Hughes, Aled Morris Jones, Eric Jones, Gwilym O. Jones, H. Eifion Jones, Raymond Jones, R. Dylan Jones, R.  Ll. Jones, Clive McGregor,  Rhian Medi, J. V. Owen, R.L. Owen, G.O. Parry MBE, Bob Parry OBE, G. W. Roberts, OBE, P. S. Rogers, E. Schofield, Hefin W. Thomas, Ieuan Williams. John Penri Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid),

Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol)

Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol)

Pennaeth Gwasanaeth (Polisi),

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol

Cyfreithiwr i'r Swyddog Monitro

Swyddog y Wasg

Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgorau.

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr   P. M. Fowlie, T. H. Jones, B. Owen, Eric Roberts, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro

 

 

 

Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd K. P. Hughes.

 

 

1

DATGAN DIDDORDEB

 

Gwnaeth y Cynghorydd W. J. Chorlton ddatganiad o ddiddordeb mewn unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adain Gwasanaethau Amgylcheddol.

 

Gwnaeth y Cynghorydd H. W. Thomas ddatganiad o ddiddordeb mewn unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei fab o fewn yr Awdurdod.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Elwyn Schofield ddatganiad o ddiddordeb mewn unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei wyr yn yr Adran Priffyrdd.

 

Gwnaeth y Cynghorydd G. W. Roberts OBE ddatganiad o ddiddordeb mewn unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Gwasanaethau Amgylcheddol.

 

Gwnaeth y Cynghorydd G.O. Parry MBE ddatganiad o ddiddordeb mewn unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Personel.

 

Gwnaeth y Cynghorwyr C. McGregor, R. G. Parry, OBE, E. Schofield ac Ieuan Williams ddatganiad o ddiddordeb yn eitem 5 y cofnodion hyn ac nid oeddent yn y cyfarfod am y drafodaeth na'r pleidleisio.

 

 

 

 

 

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd A. Morris Jones ddatganiad o ddiddordeb mewn unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei frawd yn yr Adran Addysg.

 

 

 

2

DERBYN UNRHYW GYHOEDDIADAU GAN Y CADEIRYDD, YR ARWEINYDD, AELODAU'R PWYLLGOR GWAITH NEU BENNAETH Y GWASANAETHAU TÂL

 

 

 

Rhoes y Cadeirydd groeso cynnes i'r Cynghorydd W. Thomas Hughes yr aelod newydd i Ward Llanbadrig, a oedd yn mynychu ei gyfarfod cyntaf o'r Cyngor Sir.

 

 

 

Dymunwyd yn dda iawn i Mrs Edyth Harrison o'r Adran Gynllunio a ymddeolodd dydd Gwener diwethaf ar ôl 43 blynedd o wasanaeth i'r Cyngor.

 

 

 

Rhoddwyd llongyfarchiadau i'r rheini oedd yn cystadlu yng Ngemau'r Ynysoedd yn Aland, ac roedd un fedal aur eisoes wedi ei hennill yn y gystadleuaeth saethu - cawn ragor o ganlyniadau gyda hyn.

 

 

 

Rhoddwyd llongyfarchiadau i'r rheini a sicrhaodd bod Ynys Môn y Sir gyntaf yng Nghymru i gael statws Geopark Ewropeaidd.

 

 

 

Dymunwyd yn dda iawn i bawb oedd yn cystadlu yn y Sioe Frenhinol, Sioe Môn a'r Eisteddfod dros yr wythnosau nesaf.

 

 

 

Cydymdeimlwyd gyda theulu Mrs Jackie Roberts, athrawes yn Ysgol y Parc a fu farw ar 6 Mehefin 2009.

 

 

 

Cydymdeimlwyd gyda'r Cynghorydd H. Eifion Jones a'r teulu ar farwolaeth sydyn ei fam-yng-nghyfraith.

 

 

 

Cydymdeimlwyd gyda'r holl aelodau a holl swyddogion y Cyngor a oedd wedi cael profedigaeth.

 

 

 

Safodd yr Aelodau a'r Swyddogion mewn distawrwydd fel arwydd o barch.

 

 

 

Wedyn atgoffwyd yr aelodau gan y Cadeirydd y bydd Diwrnod Lluoedd Arfog yn cael ei gynnal yng Nghaergybi ar ddydd Sadwrn 4 Gorffennaf 2009 ac edrychodd ymlaen at weld pawb yn bresennol.

 

 

 

3

COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL CYMRU - ADOLYGIAD TREFNIADAU ETHOLIADOL YNYS MÔN

 

 

 

Adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol yn nodi bod darpariaeth dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 i Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru adolygu, o bryd i'w gilydd yr ardaloedd Llywodraeth Leol yng Nghymru.

 

 

 

Yn dilyn yr adolygiad cyflwynodd y Comisiwn gynigion i Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer newidiadau sy'n ddymunol er budd sicrhau llywodraeth leol hwylus ac effeithlon.  

 

 

 

Roedd yr arolwg presennol yn cynnwys newid i drefniadau etholiadol prif ardaloedd (Sirol) trwy Gymru gyfan a chan gynnwys adolygiad o'r nifer o gynghorwyr, ffiniau rhanbarthau etholiadol a'u henwau.

 

 

 

Roedd y Comisiwn yn ddiweddar wedi cwblhau adolygiad o gymunedau a wardiau cymunedol ond prin y byddant yn dod ag unrhyw gynigion ymlaen fydd yn newid yr ardaloedd hyn.  

 

 

 

Hefyd roedd y Comisiwn yn gofyn am sylwadau cychwynnol ar ei waith erbyn diwedd Mehefin 2009.  Ond mewn ymateb i gais y Cyngor hwn rhoddwyd rhagor o amser ymateb - tan ddiwedd yr wythnos nesaf.

 

 

 

Bwriad y Comisiwn, yn gynnar yn 2009, yw cyflwyno ei argymhellion terfynol i Lywodraeth Cynulliad Cymru a phobl â diddordeb.  Efallai y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru wedyn yn ystyried yr argymhellion ac unrhyw sylwadau eraill cyn gwneud y penderfyniad terfynol mewn paratoad ar gyfer etholiadau sirol 2012.

 

 

 

Yn dilyn yr uchod roedd cyfle i'r Cyngor ystyried nifer o faterion sy'n codi yn yr adolygiad a chan gynnwys:

 

 

 

Ÿ

Maint y Cyngor:

 

 

 

i.  Roedd cyfarwyddyd Llywodraeth y Cynulliad yn ystyried mai'r nifer ofynol o gynghorwyr ar gyfer rheoli unrhyw sir yn iawn yw 30, gydag uchafswm o 75.

 

 

 

Ÿ

Rhanbarth Etholiadol Un Aelod neu Aml Aelod:

 

 

 

i.  Er bod  y rhanbarthau etholiadol aml-aelod yn fwy cyffredin yn yr ardaloedd trefol, fe ellid eu hystyried ar gyfer y sir hon hefyd.  Fodd bynnag, efallai y bydd aelodau'n dymuno pwysleisio manteision atebolrwydd lleol a chyfrifoldeb yn yr ardaloedd hyn.

 

 

 

Ÿ

Cymhareb Cynghorwyr i Etholwyr:

 

 

 

i.  Mae Cyfarwyddyd Llywodraeth y Cynulliad yn awgrymu bod yn rhaid i nifer o etholwyr fod, cyn agosed ag sy'n bosib, yn debyg ym mob rhanbarth etholiadol o fewn sir er mwyn sicrhau bod yr un gwerth i bob pleidlais.  Yn lleol roedd niferoedd yr etholwyr ym mhob ward yn amrywio o 682 i 1821.

 

 

 

ii.  Roedd y Cyfarwyddyd hefyd yn ystyried y gymhareb cynghorydd i etholwr fel un ddylai fod yn gyson a heb fod yn llai na 1:1750.  Dim ond 4 o'n rhanbarthau sydd ar hyn o bryd yn fwy na'r gymhareb hon.

 

 

 

iii.  Fodd bynnag gyda nifer ofynnol o 30 aelodau byddai ein cymhareb yn 1:1716.

 

 

 

Byddai’r rhanbarthau yn seiliedig ar y wardiau presennol.  Gallai symud wardiau rhwng rhanbarthau effeithio ar gysylltiadau lleol ac ar gymunedau a chynghorau cymuned.

 

 

 

Yn olaf roedd yn rhaid ystyried enwau'r wardiau ac unwaith yn rhagor mae hyn yn codi problemau yn ymwneud â hunaniaeth cymunedau a chysylltiadau hanesyddol.  Efallai buasai'r aelodau yn dymuno gwneud sylwadau ar y mater hwn o gadw enwau wardiau.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth bod Ynys Môn yn dra gwahanol i sawl awdurdod lleol arall a hynny oherwydd natur wledig y lle a'r cymunedau bychain ar draws y cefn gwlad.  Efallai y bydd hyn o gymorth i'r Awdurdod anelu at gadw pethau fel y maent.  Hefyd roedd dros hanner y seddi o fewn 100 neu ddau o bleidleisiau i'r cyfartaledd o 1200. O ran y cysylltiadau lleol mae'n bosib y bydd cyfyngiadau newydd yn torri'r cymunedau presennol a'r hen ardaloedd yn yr Ynys.

 

 

 

Mynegi pryder wnaeth y Cynghorydd Lewis Davies am na chafodd y Cynghorau Cymuned unrhyw wybodaeth am hyn.  

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth bod y Cynghorau Cymuned wedi derbyn yr un wybodaeth â'r Cyngor Sir ond hefyd roedd y Cyngor wedi ysgrifennu at bob Cyngor Cymuned ar yr Ynys yn eu gwadd i fynychu cyfarfod a gafwyd ym mis Mai gyda'r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru - cyfarfod a gafwyd yn Siambr y Cyngor.

 

 

 

Holi a wnaeth y Cynghorydd Rhian Medi sut y cafodd y comisiwn hwn ei sefydlu - pwy oedd yr aelodau, pwy a'u penododd nhw, pwy oeddent yn eu cynrychioli a beth oedd eu hatebolrwydd i'r cymunedau?

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth mai Cynulliad Cymru a benododd y Comisiwn a hynny trwy'r uned apwyntiadau cyhoeddus.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Keith Evans nad oedd Ynys Môn ers tro, wedi derbyn unrhyw newidiadau i nifer y Cynghorwyr (40) ac efallai bod hwn yn nerth i'r Cyngor.  Hefyd teimlai fod y cyhoedd yn hapus gyda'r wardiau a hefyd roedd yr aelodau lleol ar gael iddynt.  Teimlai ef bod raid diystyru y cyfeiriad at ranbarthau etholiadol aml-aelod a bod y Cyngor yn glynu wrth bethau fel y maent.  Nid oedd hi'n bosib cyrraedd cymhareb un aelod i 1750 o etholwyr ac y buasai'r Cyngor hwn yn llawer iawn mwy cyfforddus gyda ffigwr o 1200.  Hefyd credai bod modd i'r awdurdod gyflwyno mân newidiadau i ffiniau rhai trefi ar yr Ynys a gostwng y ffigyrau hyn.  Roedd pob ward yn wahanol, pob un gyda'i nodweddion ei hun, ei hanes a'i threftadaeth ei hun ac ni ddylai'r Cyngor ymyrryd gyda'r pethau hyn.

 

 

 

Soniodd y Cynghorydd C. Ll. Everett mai'r Cynulliad fydd gyda'r gair olaf yng nghyswllt derbyn cynigion y Comisiwn Ffiniau neu beidio a chytunodd gyda'r Cynghorydd Keith Evans y buasai'n well glynu wrth bethau fel y maent am y tro.

 

 

 

Ond roedd newidiadau yn anorfod yn y diwedd meddai'r Cynghorydd H. W. Thomas ac y buasai o fudd i'r Cyngor gyflwyno cynigion synhwyrol i'r Comisiwn - rhai teg a derbyniol i'r Ynys.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd W. J. Chorlton o blaid edrych ar y sefyllfa ac onid oedd y Cyngor yn gwneud rhywbeth yna buasai'r Cynulliad Cymreig yn gorfodi'r newidiadau arno.  Credai y dylai'r Arweinydd sefydlu Panel o 4/5 o aelodau i edrych ar fân newidiadau i rai ffiniau a hynny i sicrhau gwell balans i'r Ynys.

 

 

 

Ni chredai'r Cynghorydd G. W. Roberts OBE bod wardiau aml-aelod yn bosib ond roedd yn cytuno bod raid ceisio cael gwell balans a hefyd ostwng y ffigwr o 1750 i 1300/1400 dyweder.  Roedd yn rhaid i'r Cyngor fod yn realistig a derbyn bod angen gostwng rhywfaint ar nifer y Cynghorwyr.

 

 

 

Soniodd y Cynghorydd A. Morris Jones bod angen rhyw fath o system sy'n rhoddi sylw priodol i'r ardaloedd gwledig a chredai ef y buasai ward aml-aelod yn derbyn y gymuned yr oedd rhywun yn byw ynddi ac wedyn gellid pennu nifer y Cynghorwyr i'r gymuned honno.  Rhywbeth i'r dref oedd ward aml-aelod - nid i eangderau gwledig.

 

 

 

Credai'r Cynghorydd J. Penri Williams bod y system bresennol yn gweithio'n dda ac nid oedd o blaid wardiau aml-aelod ac y buasai o fudd i'r Cyngor lynu wrth un aelod i un ward.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd E. Schofield yn cefnogi'r dadleuon hynny oedd yn cydnabod nad oedd modd glynu wrth bethau fel y maent ond hefyd credai bod modd gostwng y ffigwr o 1750 i lawr i ffigwr derbyniol - dyweder 1400 i'r Ynys.  Hefyd credai fod cytundeb yn y Siambr i wrthod wardiau aml-aelod.  Cefnogai hefyd y syniad y dylai Arweinyddion y Grwpiau gyfarfod ynghyd i drafod y mater a gwadd pa aelod bynnag oedd yn dymuno mynychu i fynegi ei sylwadau.

 

 

 

Roedd yr Arweinydd yn derbyn y dylai'r Cyngor ceisio sicrhau y cedwir un aelod i bob ward ac roedd yn fodlon sefydlu cyfarfod i Arweinyddion y Grwpiau i drafod hyn a chyda golwg ar ymateb i'r Comisiwn ymhen wythnos.  Dywedai y buasai 30 o seddi'n cyfateb i gymhareb 1:1716, tra bo 35 sedd yn cyfateb i gymhareb 1:1470.

 

 

 

Y ffordd orau o symud ymlaen yn ôl y Cynghorydd H. E. Jones fuasai i'r Panel ddisgwyl am adroddiad drafft a wedyn cyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cynulliad Cymru yn ystod y cyfnod ymgynghori o ddau fis.

 

 

 

 

 

 

 

I bwrpas cydymffurfio gyda Chyfansoddiad y Cyngor, awgrymodd y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro y dylai'r Cyngor ddirprwyo'r cyfrifoldeb i Bennaeth y Gwasanaethau Corfforaethol fel gallai gymryd arweiniad y Panel cyn llunio ymateb i'r Comisiwn.

 

 

 

Yn y cyd-destun hwn credai'r Cynghorydd B. Durkin y dylai'r Cyngor gymryd camau pendant a rhoi gwybod i'r Comisiwn am ddymuniadau'r Cyngor hwn cyn cyhoeddi'r fersiwn ddrafft o'r adroddiad.

 

 

 

PENDERFYNWYD

 

 

 

Ÿ

Bod y Cyngor hwn yn gwrthwynebu creu wardiau aml-aelod ond yn hytrach am lynu wrth un aelod i un ward a hynny i hyrwyddo atebolrwydd lleol a chyfrifoldeb hefyd yn y cymunedau.

 

 

 

Ÿ

Fel mater o fyrder rhoi'r awdurdod i'r Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol sefydlu Panel o aelodau i'w gynorthwyo gyda'r gwaith o lunio ymateb i'r Comisiwn Ffiniau gyda'r nod o gael cymhareb 1:1400 i'r Cynghorwyr.

 

 

 

Ÿ

Y rhain fydd Aelodau'r Panel:-

 

 

 

Arweinydd y Cyngor

 

1 Aelod Llafur

 

1 Aelod Plaid Cymru

 

1 Aelod Ceidwadwyr

 

1 Aelod Rhyddfrydwyr

 

1 Aelod Annibynnol

 

1 Aelod Rhydd

 

 

 

 

 

4

TREFNIADAU CYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL

 

      

 

     Yn dilyn yr is-etholiad ar 14 Mai 2009 roedd yn rhaid i'r Cyngor adolygu'r trefniadau cydbwysedd gwleidyddol ar ei Bwyllgorau.

 

      

 

     Ynghlwm wrth yr adroddiad roedd tabl yn dangos cydbwysedd gwleidyddol ar Bwyllgorau'r Cyngor gan gydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth uchod.  Bellach roedd y tabl yn dangos y 4 grwp gwleidyddol o 19, 8, 5 a 5 o Aelodau gyda 3 aelod heb ymaelodi ac yn sefyll ar wahân.

 

      

 

     Achubwyd ar y cyfle i roddi rhagor o sylw i natur pob Pwyllgor o'r Cyngor a rhai sy'n gorfod cael cydbwysedd gwleidyddol.  

 

      

 

     Roedd angen rhannu 120 o seddau.

 

      

 

     Onid oedd y gwaith clandro yn cynhyrchu rhifau cyflawn i'r holl seddi a hefyd i'r seddi ar Bwyllgorau unigol nid oedd modd osgoi ffracsiynau ac o'r herwydd nid oedd modd cydymffurfio yn llwyr nac yn gyflawn.  Ond roedd rhaid ceisio taro ar y cydymffurfiad gorau bosib gyda'r ffigyrau a dilyn yr egwyddorion yn Neddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.

 

      

 

     I'w aelodau ei hun yn unig y gall grwp gwleidyddol ar y Cyngor ddyrannu'r seddi a roddir i'r grwp hwnnw dan y trefniadau cydbwysedd gwleidyddol ac ni all ddyrannu i Gynghorydd y tu allan i'r grwp gwleidyddol hwnnw.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Cyfeiriodd y Cynghorydd E. Schofield at y tabl a baratowyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) lle roedd y Grwp Annibynnwyr Gwreiddiol, ar y Pwyllgor Cynllunio, yn derbyn dyraniad 6.65 a bod angen ei rowndio i 7 ond y ffigwr a roddwyd i'r grwp oedd 6.  Yn yr un modd roedd y grwp wedi cael dwy sedd ar y Panel Penodi i'r Pwyllgor Safonau yn seiliedig ar ffigwr o 1.425.  Ond i gael cysondeb credai mai un sedd yn unig y dylai'r Grwp gael ar y Panel hwnnw.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) nad oedd modd i'r ffigyrau weithio pan oedd rhywun yn rowndio bob tro a bod y ddeddfwriaeth yn mynnu ar gydbwysedd yng nghyfanswm y seddi a bod hynny yn cael blaenoriaeth dros gydbwysedd ar Bwyllgorau unigol.  Ond roedd yn rhaid ceisio cael y cydymffurfiad gorau bosib ar y ffigyrau.

 

      

 

     Yng nghyswllt cael seddi i aelodau rhydd ar bwyllgorau credai'r Cynghorydd P. S. Rogers na ddylai'r Cyngor hwn byth eto ethol Cadeiryddion i Bwyllgorau cyn dyrannu aelodau fesul Grwp Gwleidyddol i'r Pwyllgorau hynny.  Dywedodd bod yr Arweinydd, trwy'r Cynghorydd Tom Jones, wedi cysylltu gyda'r Cynghorydd R. Ll. Jones bedwar diwrnod cyn ethol Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion, gyda golwg ar benodi Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio yn lle'r Cynghorydd Everett.  Aeth ymlaen i sôn na fu unrhyw ymgynghori gydag ef na chyda'r Cynghorydd Keith Evans.

 

      

 

     Fodd bynnag, dywedodd yr Arweinydd bod yr aelodau rhydd wedi cael pob cyfle i fod yn rhan o'r broses ond wedi penderfynu peidio ac o ganlyniad roedd yr Arweinydd wedi penodi aelodau rhydd i'r amryfal Bwyllgorau.  Ni fedrai ar unrhyw gyfrif dderbyn sylwadau yn ei erbyn pan ddywedwyd gan y Cynghorydd Rogers ei fod yn dangos diffyg parch i'r Cyngor.  Hefyd priodol fuasai edrych ar ddatganiadau'r Cynghorydd Rogers dros y misoedd diwethaf.

 

      

 

     Gan rai aelodau cafwyd sylwadau ynghylch didwylledd y Cynghorydd R. Ll. Jones yn derbyn Cadair y Pwyllgor Archwilio.

 

      

 

     Ond roedd sylwadau o'r fath a rhai a wnaed o'r blaen yn ymosodiad ar ei onestrwydd meddai'r Cynghorydd R. Ll. Jones ac er iddo fod yn aelod o'r Cyngor ers 1976 doedd neb erioed o'r blaen wedi bwrw amheuaeth ar ei gymeriad.  Roedd wedi dangos ei ddidwylledd drwy siarad yn erbyn cais cynllunio Ty Mawr ac yn yr un modd roedd wedi pleidleisio yn erbyn y penderfyniad mwyafrifol yn y Pwyllgor Archwilio yng nghyswllt treuliau teithio ac roedd wedi pleidleisio o blaid argymhellion y Cyfarwyddwr Cyllid.  Petai unrhyw Gynghorydd arall yn gwneud cyhuddiadau fel y rhain buasai'n cymryd camau cyfreithiol.

 

      

 

     Yng nghyswllt Cyfansoddiad y Panel Penodi i'r Pwyllgor Safonau roedd y Cynghorydd G. W. Roberts OBE yn derbyn y pwynt a wnaed yn gynharach gan y Cynghorydd E. Schofield - ar hyn o bryd roedd gan Plaid Cymru un aelod a'r Annibynwyr Gwreiddiol ddau aelod a dim cynrychiolaeth o gwbl ar y Panel i unrhyw un o'r Grwpiau yn yr Wrthblaid.

 

      

 

     Gan ei fod wedi ei enwi ynghylch y Pwyllgor Archwilio roedd y Cynghorydd C. Ll. Everett yn dymuno ymateb a dywedodd bod ganddo'r hawl i ymateb dan y Cyfansoddiad.  

 

      

 

     Ond dywedodd y Cadeirydd mai'r cwestiwn gerbron yn unig a gâi ei drafod ac ni fuasai’n caniatáu rhagor o drafodaethau ar benodi Cadeirydd i'r Pwyllgor Cynllunio.

 

      

 

     Ar Fater o Drefn, roedd y Cynghorydd C. Ll. Everett yn dymuno cofnodi yn y cofnodion bod y Cadeirydd wedi gwrthod rhoddi iddo'r cyfle i ymateb ar ôl iddo gael ei enwi yn y Siambr ac felly roedd y Cadeirydd wedi mynd yn groes i reolau'r Cyfansoddiad.

 

      

 

     Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) fod y Cynghorydd G. W. Roberts OBE wedi codi pwynt dilys a hwnnw o bosib yn haeddu sylw.  Ei nod, yn unig, oedd cydymffurfio gyda rheolau dan gyfraith gwlad a thrin pob grwp yn gyfartal.  Yma gwelai ef achos o chwarae teg naturiol a hynny oherwydd bod yr wrthblaid heb lais.  Roedd yn fodlon edrych ar y mater unwaith yn rhagor mewn ymgynghoriad gyda'r Arweinyddion Grwpiau.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd G. W. Roberts OBE y buasai ei Grwp ef yn fodlon gollwng un sedd ar y Pwyllgor Cynllunio i gael sedd ar y Panel Penodi i'r Pwyllgor Safonau.

 

      

 

     Cefnogi hyn a wnaeth y Cynghorydd E. Schofield a chynigiodd y dylid derbyn gweddill y materion cydbwysedd gwleidyddol yn yr adroddiad.

 

      

 

     PENDERFYNWYD

 

      

 

Ÿ

Nodi'r trefniadau newydd ar gyfer cydbwysedd gwleidyddol a nifer o seddi a roddir i bob Grwp a'r Aelodau heb Ymaelodi dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989;

 

 

 

Ÿ

Cytuno bod Grwp yr Annibynnwyr Gwreiddiol yn cadw 7 sedd ar y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ond bod y Grwp hwnnw yn rhyddhau un o'i seddi ar y Panel Penodi i'r Pwyllgor Safonau i Grwp Môn Ymlaen.

 

 

 

Ÿ

Cytuno ar y niferoedd cyflawn o seddi a ddyrenir i'r Aelodau heb Ymaelodi;

 

 

 

Ÿ

Gofyn i'r 3 Aelod heb Ymaelodi benderfynu ymysg ei gilydd ynglyn â pha Bwyllgorau y dymunent fod yn aelodau ohonynt yn unol â'r  trefniadau cydbwysedd gwleidyddol a geir yn yr Adroddiad i'r Cyngor hwn.  Pe baent yn methu dod i gytundeb ynglyn â hyn rhoi awdurdod i Arweinydd y Cyngor benderfynu ar y dyraniadau ac i'r wybodaeth honno wedyn gael ei rhoi i Reolwr y Gwasanaethau Pwyllgor.

 

 

 

 

 

5

ARGYMHELLIAD I'R CYNGOR SIR GAN Y PWYLLGOR ARCHWILIO GYNHALIWYD AR 29 MAI 2009 - COSTAU TEITHIO A CHYNHALIAETH

 

      

 

     YMCHWILIAD ARBENNIG - COSTAU TEITHIO A CHYNHALIAETH AELODAU, IONAWR - CHWEFROR 2009

 

      

 

     Cyn gyflwyno ei Rybudd o Gynigiad, roedd y Cynghorydd W. J. Chorlton am wneud datganiad i'r Cyngor a allai gael effaith ar drafodaeth heddiw.

 

      

 

     Oherwydd difrifoldeb y mater credai'r Grwpiau Gwrthbleidiol bod yr aelodau perthnasol mewn modd difrifol wedi torri rheolau'r Cyfansoddiad ac o'r herwydd rhoddwyd gwybod am y mater i Heddlu Gogledd Cymru i bwrpas cael ymchwiliad manwl a phriodol.  Gofynnodd a oedd hi'n briodol a'i peidio i'r Cyngor drafod y mater heddiw neu a ddylid ei ohirio hyd oni fydd yr Heddlu wedi cwblhau eu hymchwiliadau.

 

      

 

     Credai'r Cynghorydd W. J. Chorlton bod hawliadau camarweiniol a thwyllodrus wedi eu cyflwyno dan system y Cyngor ac yn sicr roeddent yn torri Cyfansoddiad y Cyngor.  Dywedai ef bod y llythyr gan y Cyfarwyddwyr Corfforaethol yn erbyn y llythyr gan y cyn Arweinydd yn cadarnhau beth oedd yn cael ei ddweud.

 

      

 

     Aeth y Cynghorydd W. J. Chorlton ymlaen i ddweud y câi llythyr ei yrru at yr Archwilwyr yn gofyn iddynt edrych ar rai materion penodol.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd A. Morris Jones i'r Cynghorydd Chorlton dynnu ei haeriad yn ôl - haeriad fod twyll wedi digwydd.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Ond wrth ymateb dywedodd y Cynghorydd W. J. Chorlton bod twyll wedi digwydd, sef bod yr aelodau dan sylw wedi hawlio arian dan 'dyletswyddau cydnabyddedig' yn y Cyfansoddiad a rheini heb hawl i wneud hynny.  Beth oedd hyn onid oedd yn dwyll?  Efallai ei fod yn gwbl anghywir ar y mater hwn ac felly buasai'n rhaid iddo godi ar ei draed yng nghyfarfod nesaf y Cyngor ac ymddiheuro.  Roedd yn berffaith fodlon gwneud hynny.

 

      

 

     Gofynnodd y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro i'r Cyngor ystyried awgrym y Cynghorydd Chorlton sef ei bod hi braidd yn gynnar ac felly yn amhriodol i drafod y mater heddiw.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd W. J. Chorlton cafwyd cynnig i ohirio ystyried y mater hyd nes cael canlyniadau'r gwaith ymchwilio gan yr Heddlu a chafodd y cynig hwn ei eilio gan y Cynghorydd H. W. Thomas.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd A. Morris Jones a oedd y mater hwn yn un priodol i'w drosglwyddo i'r Heddlu?

 

      

 

     Wedyn gan y Cynghorydd G. O. Parry MBE cafwyd cynnig i drafod y mater heddiw a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd A. Morris Jones.

 

      

 

     Dan Reol 18.5 y Cyngor cytunwyd i gofnodi'r bleidlais ar y mater.

 

      

 

     O blaid y cynnig gan y Cynghorydd W. J. Chorlton i ohirio'r drafodaeth:-

 

      

 

     O blaid: Y Cynghorwyr W. J. Chorlton, E. G. Davies, K. Evans, C. Ll. Everett, D. R. Hughes, R. Ll. Hughes, W. T. Hughes, H. E. Jones, Raymond Jones, R. Dylan Jones, G. W. Roberts, OBE, P. S. Rogers, H. W. Thomas, J. Penri Williams.

 

     CYFANSWM: 14

 

      

 

     Yn erbyn: Y Cynghorwyr L. Davies, B. Durkin, J. Evans, Ff. M. Hughes, K. P. Hughes, T. Ll. Hughes, W. I. Hughes, A. Morris Jones, Eric Jones, G. O. Jones, O. Glyn Jones, R. Ll. Jones, Rh. Medi, J. V. Owen, R. L. Owen, G. O. Parry, MBE, Selwyn Williams.

 

     CYFANSWM: 17

 

      

 

     Ymatal:  Neb

 

      

 

     Cafodd y cynnig felly ei gario a PHENDERFYNWYD bod y Cyngor yn symud ymlaen i drafod y mater.

 

      

 

     (a)     Rhybudd o Gynigiad

 

      

 

     Cyflwynwyd - Rhybudd o Gynigiad a ganlyn gan y Cynghorydd W. J. Chorlton:-

 

      

 

     "Fel Arweinydd yr Wrth Blaid rydwyf yn gofyn am roddi Rheolau Gweithdrefn y Cyngor o'r neilltu dan Reol 4.1.27.1 Ataliad.  Er mwyn sicrhau y bydd modd cael trafodaeth lawn ac agored ar Eitem 5 Rhaglen y Cyngor 30 Mehefin 2009 Teithio a Chynhaliaeth".

 

      

 

     Cafwyd gwrth-gynnig gan y Cynghorydd B. Durkin i wrthod y cynnig.

 

      

 

     Ni chafodd cynnig wreiddiol y Cynghorydd Chorlton ei gario (19 pleidlais i 12) a PHENDERFYNWYD y dylid symud ymlaen i'r eitem nesaf ar y rhaglen.

 

      

 

     (b)     Dywedwyd bod y Pwyllgor Archwilio yn ei gyfarfod ar 29 Mai, 2009 wedi penderfynu fel a ganlyn:-

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     "Bod y Pwyllgor Archwilio yn derbyn bod y ddwy siwrnai ar 15 Ionawr a 6 Chwefror 2009 gan Aelodau'r Pwyllgor Gwaith fel y'u henwyd wedi gwneud er lles gorau'r Awdurdod a'i fod yn argymell fod costau'r ddwy siwrnai'n cael ei gymeradwyo'n ôl-ddyddiol gan y Cyngor."

 

      

 

     (c)     Cyflwynwyd er gwybodaeth - Dyfyniad o gofnodion y Pwyllgor Archwilio a gyfarfu ar 29 Mai 2009 ac fel y cafodd ei gymeradwyo gan y Pwyllgor hwnnw ar 25 Mehefin 2009.

 

      

 

     (ch)      Cyflwynwyd - adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) ar amgylchiadau ac ar gasgliadau'r ymchwiliad arbennig i gostau teithio a chynhaliaeth yr aelodau ar ôl derbyn haeriadau ynghylch costau teithio rhai aelodau ar siwrneiau penodol i Dde Cymru yn Ionawr a Chwefror 2009.

 

      

 

     Yn groes i argymhelliad y Pwyllgor Archwilio a gafwyd ar 29 Mai 2009 cynigiodd y Cynghorydd R. Ll. Jones (Cadeirydd Pwyllgor Archwilio) bod y Cyngor yn derbyn argymhellion y Cyfarwyddwr Cyllid dan baragraff 5.2 ei adroddiad (bod costau'r siwrnai ar 15 Ionawr 2009 yn gwneud cyfanswm £617.80, plws unrhyw hawliadau heb eu cyflwyno eto ynghylch yr un siwrnai, yn cael ei ganiatáu yn ôl-ddyddiol gan y Cyngor) a than baragraff 5.3 (h.y. bod costau'r siwrnai ar 6 Chwefror 2009 sydd eisoes wedi talu neu y gwnaed ymrwymiad ar eu cyfer gan wneud cyfanswm £654.20 yn cael eu hawlio o lwfansau'r aelodau perthnasol ac na ddylid talu dim yng nghyswllt hawliadau heb eu cyflwyno eto yng nghyswllt y siwrnai hon).

 

      

 

     Aeth y Cynghorydd Jones ymlaen i ddweud y gwyddai fod y symiau a hawliwyd am yr ail siwrnai eisoes wedi eu talu yn ôl i'r Cyngor hyd nes cael canlyniad penderfyniad y Cyngor heddiw.

 

      

 

     Cafodd y cynnig ei eilio gan y Cynghorydd Jim Evans.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Cynghorydd P. S. Rogers at Baragraff 6.5.2 yr adroddiad lle dywedir "dylai aelodau sy’n mynychu cyfarfodydd y tu allan i’r Cyngor Sir rannu cerbydau oni bai iddo gael ei gymeradwyo’n wahanol gan y Rheolwr-gyfarwyddwr".  Aeth ymlaen i sôn bod un o'r aelodau perthnasol wedi teithio i lawr yn ei gar i Dde Cymru a chredai bod hyn yn gyfystyr â diystyru rheolau.  Ni roddwyd sylw o gwbl i hyn yn y Pwyllgor Archwilio.

 

      

 

     Yng nghyswllt y cwestiwn blaenorol a oedd wedi ystyried trosglwyddo'r mater hwn i'r Heddlu a'i peidio dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) ei bod hi'n ddyletswydd dan y Cyfansoddiad i gyfeirio unrhyw fater i'r Heddlu oherwydd y posibilrwydd o gyflawni trosedd petai tystiolaeth prima-facie yn bod ynghylch anghysondebau gydag arian y Cyngor.

 

      

 

     Ar y pryd ni ddaeth i'r casgliad hwn ac roedd yn dal i fod o'r farn nad oedd rhaid cyfeirio'r mater i'r Heddlu.

 

      

 

     Wrth droi at y cwestiwn - a oedd yr aelodau yn fodlon talu'r arian yn ôl - cafodd gyfweliad gyda'r aelodau ac yn y cyfweliad cyntaf roeddent yn fodlon talu'r arian yn ôl petaent wedi hawlio heb hawl i wneud hynny.  Ni wyddai'r aelodau hynny am ganlyniadau'r fersiwn drafft hyd nes gweld y fersiwn honno i gyflwyno sylwadau arni ar 12 Mai 2009 a chafwyd tâl am y ddwy siwrnai gyda llythyr dyddiedig 4 Mehefin 2009 hyd nes cael penderfyniad terfynol y Cyngor Sir.

 

      

 

     Yng nghyswllt teithio gyda char, wrth gwrs nid yw'r Cyngor yn dymuno talu hawliadau i 2-3 aelod sy'n mynychu'r un cyfarfod.  Fodd bynnag, os oedd aelod yn fodlon gwneud y siwrnai mewn car ar ben ei hun a pheidio â hawlio costau teithio yna doedd gan y Cyngor dim hawl i ymyrryd.  Ni chyflwynodd yr aelod gais am y siwrnai.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd H. E. Jones a oedd raid i'r aelodau deithio i lawr mewn tren dosbarth cyntaf i Dde Cymru ar daith ddiawdurdod?  Teimlai fod y Pwyllgor Gwaith wedi treulio gormod o amser uwchben y pwnc ac wrth wneud hynny wedi colli golwg ar y gwaith yr oedd angen ei wneud y tu mewn i'r Cyngor.  Awgrymodd na ddylid talu'r arian yn ôl i'r Cynghorwyr dan sylw a than yr amgylchiadau economaidd presennol a ddylai'r Awdurdod hwn rhoddi caniatâd i deithio ar dren dosbarth cyntaf.

 

     Barnai'r Cynghorydd B. Durkin bod y siwrneiau hyn yn berthnasol oherwydd bod yr unigolion yn chwilio am gyngor ar fater tra difrifol.  Cafwyd cynnig ganddo bod y Cyngor yn derbyn argymhellion y Pwyllgor Archwilio bod cost y ddwy siwrnai yn cael caniatad ôl-ddyddiol gan y Cyngor.  

 

      

 

     Ni chredai'r Cynghorydd H. W. Thomas fod modd i'r Cyngor gyfiawnhau gyrru 5 o bobl ar siwrnai ddi-awdurdod i chwilio am gyngor gan ddau unigolyn ynghylch swydd y cyn Reolwr-gyfarwyddwr.  Onid oedd hi'n rheitiach i'r aelodau hynny ofyn i Far Gyfreithiwr am gyngor. Pam na ddefnyddiodd y rhain y cyfleusterau fidio-gynadleddau yn y Cyngor?  Ni chredai bod y cyngor a roddwyd werth dim - sut a pha werth fuasai i'r Cyngor petai'r cyn Reolwr-gyfarwyddwr wedi cyflwyno apêl?

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd C. Ll. Everett pam nad oedd cyn Ddeilydd Portffolio Cyllid, y Cynghorydd  G. O. Parry MBE wedi bod yn bresennol?  Gan ddilyn y drefn yn Westminster, credai y dylai'r aelodau dan sylw  ystyried eu sefyllfa.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd G. O. Parry, MBE nad oedd yn bresennol gan dybio y medrai'r aelodau dan sylw wneud y penderfyniad a dod ag adroddiad yn ôl i'r Pwyllgor Gwaith.

 

      

 

     Dymunai'r Cynghorydd J. V. Owen ddiolch i'r Cyfarwyddwr Cyllid am ei ddull proffesiynol ac onest o ateb cwestiynau a gyflwynwyd iddo heddiw.  

 

      

 

     Credai ef fod yr aelodau wedi bod yn cyflawni swyddogaeth yn onest a hynny er lles yr Awdurdod a chafwyd cynnig ganddo bod y Cyngor yn derbyn argymhellion y Pwyllgor Archwilio.

 

      

 

     Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric Jones ac awgrymodd ef bod raid trin y mater yn erbyn y cyd-destun cywir ac aeth ymlaen i gyfeirio at lythyr yn y wasg gan y Cynghorydd H. W. Thomas yn ddiweddar - llythyr yn cyfeirio at yr angen i archwilio hawliadau gan Gynghorwyr.  Cytunodd y Cynghorydd Jones gydag ef yn hyn o beth a hoffai petai unrhyw ymchwiliad yn mynd yn ôl dros gyfnod o 3 blynedd.

 

      

 

     Gofynnodd a oedd yr aelodau wedi hawlio costau teithio i fynychu seminarau a drefnwyd gan y Cyngor yn Venue Cymru, Llandudno.  Ar yr achlysur hwnnw trefnwyd bws ond teithiodd llawer o Gynghorwyr yn eu ceir eu hunain.  A gafodd unrhyw un o'r hawliadau hynny eu cymeradwyo gan y Rheolwr-gyfarwyddwr yn unol â gofynion y Cyfansoddiad?

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd H. W. Thomas yn berffaith hapus mynd yn ôl 3-5 mlynedd gyda'r gwaith archwilio ar hawliadau'r Cynghorwyr ac os oedd y Cynghorydd Eric Jones yn fodlon cynnig hyn roedd ef hefyd yn hapus i eilio.

 

      

 

     Wedyn cafwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric Jones.

 

      

 

     Yma dygodd y Cynghroydd W. J. Chorlton sylw'r aelodau at y llythyr dyddiedig 17 Chwefror 2009 oddi wrth Brif Weithredwr Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru at Cynghorydd P. M. Fowlie (Atodiad 3 yr adroddiad) lle cafwyd barn y Gymdeithas bod angen rhagor o eglurhad trwy Reolwr Gwasanaethau Cyfreithiol y Cyngor neu trwy'r Swyddog Monitro.  Credai'r Cynghorydd Chorlton bod yr aelodau yn dewis anwybyddu'r ffeithiau yn yr achos hwn.

 

      

 

     Mewn ymateb mynegodd y Rheolwr-gyfarwyddwr dros dro bryderon oherwydd defnyddio'r gair 'sacio' y Rheolwr-gyfarwyddwr yn y drafodaeth heddiw - doedd neb wedi ei 'sacio'.  Dan y telerau cytundeb y gadawodd y Rheolwr-gyfarwyddwr ei swydd a bod hon yn ffaith o bwys mawr gan fod y wasg yn bresennol yn y cyfarfod heddiw.

 

      

 

     Oherwydd yr adroddiad gan y swyddogion gofynnodd y Cynghorydd W. J. Chorlton i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) a oedd yn dal i fod o'r farn fod yr hawliad cyntaf i Gaerdydd yn dderbyniol?

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) ei fod yn ymwybodol o bopeth perthnasol a roddwyd wedyn yn y llythyr adeg ysgrifennu'r llythyr.  Oherwydd hyn nid oedd wedi newid ei farn ar y mater.

 

      

 

      

 

     Dan ddarpariaethau Rheol 18.5 y Cyngor cytunwyd i gofnodi'r bleidlais ar y mater.

 

      

 

     O blaid y cynnig - h.y. derbyn argymhelliad y Pwyllgor Archwilio bod y Cyngor yn cymeradwyo, yn ôl-ddyddiol, y ddwy siwrnai:-

 

      

 

     O blaid:  Y Cynghorwyr B. Durkin, E. G. Davies, L. Davies, Jim Evans, Ff. M. Hughes, K. P. Hughes, R. Ll. Hughes, T. Ll. Hughes, W. I. Hughes, A. Morris Jones, Eric Jones, G. O. Jones, O. Glyn Jones, Rhian Medi, J. V. Owen, R. L. Owen, G. O. Parry, MBE, J. Penri Williams, Selwyn Williams.

 

      

 

     CYFANSWM:19

 

      

 

     Yn erbyn:  Y Cynghorwyr W. J. Chorlton, C. Ll. Everett, D. R. Hughes, H. E. Jones, R. Ll. Jones, P. S. Rogers, H. W. Thomas.

 

      

 

     CYFANSWM:7

 

      

 

     Ymatal:  Dim.

 

      

 

     Felly PENDERFYNWYD derbyn bod y siwrneiau hynny a ddigwyddodd ar 15 Ionawr a 6 Chwefror 2009 gan aelodau'r Pwyllgor Gwaith a enwyd yn siwrneiau a wnaed er lles yr Awdurdod a chymeradwyo yn ôl-ddyddiol gostau'r ddwy siwrnai.

 

      

 

     Hefyd PENDERFYNWYD -

 

      

 

Ÿ

Bod y swyddogion yn cyflwyno adroddiad i'r Cyngor hwn ar dreuliau'r aelodau dros y 3 blynedd diwethaf.

 

 

 

Ÿ

Bod yr aelodau â'r hawl i deithio ar dren dosbarth cyntaf i gyfarfodydd pryd bynnag y mae'n rhaid i'r Cyngor sicrhau bod rhywun yn mynychu.

 

 

 

 

 

6

RHYBUDD O GYNIGIAD A GYFLWYNWYD YN UNOL Â PHARAGRAFF 4.1.13.1 Y CYFANSODDIAD

 

      

 

     Cyflwynwyd y Rhybudd a ganlyn gan y Cynghorydd C. Ll. Everett:-

 

      

 

     "Pan fo'r Arweinydd / Dirprwy Arweinydd neu unrhyw Ddeilydd Portffolio yn rhoddi cyfarwyddyd / penderfyniad gweithredol i unrhyw swyddog o'r Awdurdod bydd raid ei gyflwyno yn ddieithriaid yn ysgrifenedig trwy e-bost neu lythyr pennawd.  Bydd trefn o'r fath yn sicrhau fod trywydd archwilio a hynny er lles y swyddog a'r aelod."

 

      

 

     Teimlai rhai aelodau fod y Rhybudd hwn yn ail adrodd beth sydd eisoes yn ei le yn yr ystyr bod aelodau yn rheolaidd yn derbyn penderfyniadau a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith a chan Deilyddion Portffolio unigol.  Dim ond ychwanegu at gymhlethdod pethau fuasai'r cynnig hwn ac efallai hefyd y buasai'n arwain at oedi drwy'r Cyngor i gyd.

 

      

 

     Os oedd y cynnig yn cael ei basio heddiw credai'r Cynghorydd E. Schofield y dylai hon fod yn broses ddwy-ffordd a chynnwys cyfeiriad at swyddogion hefyd.

 

      

 

     Eglurodd y Cynghorydd C. Ll. Everett wedyn pam yr oedd wedi cyflwyno Rhybudd o Gynigiad - pan oedd yn Gadeirydd Pwyllgor Archwilio roedd yn ymwybodol bod aelodau o'r Pwyllgor Gwaith wedi rhoddi cyfarwyddiadau os oedd Pennaeth Gwasanaeth neu unrhyw swyddog o'r Awdurdod yn ymgynghori gyda'r Deilydd Portffolio ynghylch ei safbwynt ar bwnc penodol yn taro y gwasanaeth hwnnw, yna fe ddylai'r swyddog dan sylw gael yr hawl i ofyn am i'r cyfarwyddyd neu'r cytundeb / anghytundeb fod yn ysgrifenedig neu ar ffurf e-bost.  Wedyn ceid trwydydd archwilio llawn i ddiogelu'r aelod a'r swyddog.

 

      

 

     Gan yr Arweinydd cafwyd gwelliant sef bod y cynnig yn cynnwys holl aelodau'r Cyngor a holl swyddogion y Cyngor a wedyn buasai pawb yn gwybod beth oedd yn cael ei ofyn, beth oedd yr ymateb pa bryd a gan bwy a phaham.

 

      

 

     Dymuniad y Cynghorydd B. Durkin oedd gohirio ystyried y mater hyd nes cael ymholiadau i sefydlu a oedd y Rhybudd o Gynigiad yn angenrheidiol ai peidio.  

 

      

 

     Pwysleisio a wnaeth y Cynghorydd C. Ll. Everett ei fod yn cyflwyno'r cynigiad fel nad oedd aelodau yn rhan o unrhyw wybodaeth ynghylch ymgynghoriad gan Ddeilydd Portffolio a beth oedd y penderfyniad a wnaed.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd G. W. Roberts OBE bod gan y Pwyllgor Gwaith bob hawl i roddi cyfarwyddyd i'r swyddogion - hon oedd ei ddyletswydd ac i'w chyflawni yr oedden yn cael cyflog.  Roedd y cynnig hwn yn rhoddi diogelwch i aelodau a swyddogion.  Petai pob aelod yn gorfod darparu trywydd papur yna buasai'r system yn amhosib i'w rhedeg a deuai gwaith yr Awdurdod i stop.  Yr unig beth a gyflawnid fuasai creu ymerodraeth bapur.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro bod y Cyfarwyddwyr Cofforaethol yn rhoi cyfarwyddyd i'r staff dan eu rheolaeth ond nid oeddent yn cymryd cyfarwyddyd gan aelodau etholedig na chan Benaethiaid Gwasanaeth.  Roedd y swyddogion yn gweithredu ar benderfyniadau Bwyllgorau, ar benderfyniadau gan y Deilyddion Portffolio dan y pwerau dirprwyol. Hefyd roedd yn tybio bod pob swyddog cyfrifol sy'n gweithio i'r Cyngor yn cadw nodyn ar ffeil pryd bynnag yr oeddent mewn trafodaeth gydag aelod etholedig.  Roedd arfer o'r fath yn un dda ac ni welai sut y gallai'r cynnig gerbron y Cyngor heddiw gryfhau'r ddarpariaeth bresennol sydd eisoes yn y Cyfansoddiad.  Yn wir roedd y system bresennol yn gwbl dryloyw os ydyw'n cael ei gweinyddu'n iawn a chyda cysondeb.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Cynghroydd C. Ll. Everett bod Deilydd Portffolio o bosib wedi cyfrannu neu wedi dylanwadu ar benderfyniad a dyna oedd ganddo dan sylw fel rhan o'r trywydd archwilio.  Gofynnodd i'r Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro gyflwyno iddo dystiolaeth am waith ymgynghori a wnaed gyda Deilyddion Portffolio ac efallai ohirio'r penderfyniad hwn heddiw.

 

      

 

     Pan oedd swyddogion yn cadw nodiadau dywedodd y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro bod pob un ohonynt yn ymwybodol iawn y gallai'r nodiadau fod ar gael dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth - ar gael i ragor o bobl.  Rhan o waith a disgyblaeth swyddog oedd cadw cofnod cywir gan fod yn gwbl ymwybodol bod modd eu ryddhau dan y Ddeddf.  Credai ef bod y trefniadau presennol yn ddigon cadarn ond efallai bod achosion lle na chafodd y drefn hon ei dilyn yn fanwl gywir, ond teimlai bod angen delio gydag enghreifftiau o'r fath wrth i'r rheini godi.

 

      

 

     Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn fodlon tynnu ei welliant yn ôl a chefnogi cais y Cynghorydd B. Durkin bod y drafodaeth ar y pwnc yn cael ei gohirio.

 

      

 

     Cafodd gwelliant y Cynghorydd Durkin i'r cynnig gwreiddiol ei basio (20/12)  a PHENDERFYNWYD gohirio ystyried y mater tan rhyw bryd eto.

 

      

 

     Daeth y cyfarfod i ben am 5:45pm

 

      

 

     Y CYNGHORYDD O. GLYN JONES

 

     CADEIRYDD