Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 31 Mai 2007

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Iau, 31ain Mai, 2007

CYFARFOD ARBENNIG O GYNGOR SIR YNYS MÔN

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 31 Mai 2007 (10:00am)  

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd W. J. Williams MBE - Cadeirydd

Y Cynghorydd John Roberts (Is-Gadeirydd)

 

Y Cynghorwyr Mrs B. Burns MBE, John Byast, W. J. Chorlton,

E.G. Davies, J. M. Davies, J. A. Edwards, C. Ll. Everett,

P. M. Fowlie, D. R. Hadley, D. R. Hughes, W. I. Hughes,

Eric Jones, G. O. Jones, H. E. Jones, J. A. Jones, R. Ll. Jones,  D. A. Lewis Roberts, R. L. Owen, G. O. Parry MBE,

Bob Parry OBE, G. Winston Roberts OBE, J. Arwel Roberts,

P. S. Rogers, J. Rowlands, H. W. Thomas, K. Thomas,

J. Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Rheolwr-gyfarwyddwr

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden)

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol

Pennaeth Gwasanaeth (Polisi)

Cyfreithiwr i'r Swyddog Monitro (RMJ)

Swyddog Cyfathrebu

Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgor

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr P. J. Dunning, K. Evans, Fflur. M. Hughes,

R. Ll. Hughes, A. Morris Jones, O. Glyn Jones, T. H. Jones,

Bryan Owen, W. T. Roberts, E. Schofield, G. Allan Roberts.

 

 

 

 

Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd John Roberts.

 

1

DATGANIADAU O DDIDDORDEB

 

Gwnaeth y Cynghorydd C L Everett ddatganiad o ddiddorddeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Bersonel.

 

Gwnaeth y Cynghorydd G O Parry MBE ddatganiad o ddiddorddeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ddwy ferch yn yr Adran Gyllid.

 

Gwnaeth y Cynghorydd W J Williams MBE ddatganiad o ddiddorddeb mewn perthynas ag Eitem 4 y cofnodion hyn (cyfeiriad at lwfansau sy’n daladwy i Gadeirydd ac Is-Gadeirydd y Cyngor Sir) ac nid oedd yn bresennol am y drafodaeth nac am y pleidleisio ar yr eitem.

 

Gwnaeth y Cynghorydd W J Chortlon ddatganiad o ddiddorddeb mewn perthynas ag Eitem 4 y cofnodion hyn (Para 6.3 y Rhestr) ac ni chymerodd ran yn y drafodaeth nac yn y pleidleisio ar yr eitem.  Hefyd gwnaeth ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferched yn yr Adran Gwasanaethau Amgylcheddol a'r Adran Addysg.

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd John Roberts ddatganiad o ddiddorddeb mewn perthynas ag Eitem 4 y cofnodion hyn (cyfeiriad at lwfansau sy’n daladwy i Gadeirydd ac Is-Gadeirydd y Cyngor Sir) ac nid oedd yn bresennol am y drafodaeth nac am y pleidleisio ar yr eitem.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd K Thomas ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei frawd yn yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol.  

 

 

 

 

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd R Ll Jones ddatganiad o ddiddorddeb mewn perthynas ag Eitem 4 y cofnodion hyn (Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio) ac nid oedd yn bresennol am y drafodaeth nac am y pleidleisio ar yr eitem.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd G W Roberts OBE ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag  unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd P M Fowlie yn dymuno nodi bod pob un o’r 40 Cynghorydd ar y Cyngor Sir gyda diddordeb yn Eitem 4 y cofnodion hyn (Lwfansau i Aelodau).

 

 

 

(Nodwyd yn y cyfarfod fod eithriad dan 5.1.3.6 ar Dudalen 207A Cyfansoddiad y Cyngor sef “Gall Aelodau gymryd nad oes ganddynt ddiddordeb personol mewn mater i’r graddau y mae a wnelo’r mater hwnnw â swyddogaeth yr Awdurdod yng nghyswllt lwfans neu bensiwn sy’n daladwy dan Adran 18 Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.”)

 

 

 

1

DERBYN UNRHYW GYHOEDDIADAU GAN Y CADEIRYDD, ARWEINYDD, AELODAU’R PWYLLGOR GWAITH NEU BENNAETH Y GWASANAETH TÂL

 

 

 

Llongyfarchwyd Manon Wyn Williams, o Ros-meirch, Llangefni ar ennill y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Gaerfyrddin am ddrama 40 munud dan y teitl “Câr Dy Gymydog”.

 

 

 

Hefyd llongyfarchwyd Glesni Rhys Jones o Ysgol Gynradd Bodedern a oedd yn ail yn y solo Blwyddyn 2 a rhai ieuangach, a hefyd llongyfarchwyd pawb o’r Ynys, a oedd, hyd yma, wedi derbyn gwobrau am eu perfformiadau ar y llwyfan.

 

 

 

Soniodd y Cadeirydd bod Eisteddfod Môn newydd ddathlu ei phen-blwydd yn gant oed a llongyfarchodd y trefnwyr a’r pwyllgorau lleol ar eu gwaith yn sicrhau llwyddiant yr Eisteddfod.

 

 

 

Rhoes y Cynghorydd R L Owen ei longyfarchiadau i Wayne Hennessey 20 oed o Fiwmares ar ennill ei gap cyntaf fel Golgeidwad i Gymru yn y gêm gyfartal 2-2 gyda Seland Newydd dydd Sadwrn diwethaf.  Ar hyn o bryd roedd Wayne yn dysgu ei grefft gyda Wolverhampton Wanderers. Gofynnwyd i’r Cadeirydd ysgrifennu ato i’w longyfarch.

 

 

 

Ar ran y y Cyngor cydymdeimlodd y Cadeirydd gyda’r Cynghorydd Bryan Owen ar golli ei fam yng nghyfraith a hefyd y  Cynghorydd W T Roberts ar golli ei chwaer.

 

 

 

Safodd yr Aelodau a’r Swyddogion mewn tawelwch fel arwydd o barch.

 

 

 

Achubodd yr Arweinydd ar y cyfle i longyfarch y Cyngor Sir ar sicrhau gostyngiad o 5000 o ddiwrnodau yn nifer y dyddiau o waeledd gan y staff.

 

 

 

Hefyd cyfeiriodd at ddatganiad a wnaeth y Cyngor hwn yn ddiweddar yn mynegi cefnogaeth i Wylfa B.  Yn y Papur Gwyn a gyhoeddwyd gan yr Adran Fasnach a Diwydiant ym Mai 2007 dan y teitl “Meeting the Energy Challenge”, roedd Wylfa wedi’i restru fel yr wythfed lleoliad o ran blaenoriaeth ar restr o 14 o safleoedd niwcliar i bwrpas datblygu adweithydd.  Papur trafodaeth oedd hwn i bwrpas ymgynghori arno am gyfnod o bum mis cyn i’r Llywodraeth benderfynu a oedd am gefnogi ynni niwcliar ai peidio.

 

 

 

Gofynnodd yr Arweinydd i’r Cyngor gefnogi’r Cadeirydd yng nghyswllt ysgrifennu at Grwp Cydranddeiliaid Safle’r Wylfa yn pwyso ar y Grwp hwn hefyd i wneud cyhoeddiad cyffelyb o gefnogaeth i Wylfa B.

 

 

 

PENDERFYNWYD rhoi’r awdurdod i’r Cadeirydd ysgrifennu at Grwp Cydranddeiliaid Safle’r Wylfa yn y cyswllt hwn.  

 

 

 

(Roedd y Cynghorwyr J Byast a G O Jones yn dymuno nodi yn y cofnodion nad oeddent wedi bod yn rhan o’r drafodaeth nac o’r pleidleisio ar yr eitem.  Dymuniad y Cynghorydd J A Edwards oedd nodi nad oedd wedi pleidleisio ar y mater).

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd C Ll Everett i Adran berthnasol y Cyngor sicrhau y bydd y fflag las a ddyfarnwyd yn ddiweddar i Draeth y Newry, Caergybi yn cael ei gosod mewn lle amlwg ar y safle.

 

 

 

2

RHEOLI PERFFORMIAD - DATBLYGU POLISI - DATBLYGU STRATEGOL A SGRIWTINI TREFNIADOL

 

 

 

Cyflwynwyd - Adroddiad y Rheolwr-gyfarwyddwr ar newidiadau arfaethedig i drefniadau Llywodraeth Gorfforaethol y Cyngor a hynny’n cynnwys trefniadau sgriwtini a rheoli perfformiad.

 

 

 

Yn Atodiad 1 ynghlwm wrth yr adroddiad i’r cyfarfod hwn roedd strwythur amlinellol yn cynnwys argymhellion i newid strwythur y Pwyllgorau.

 

 

 

Ÿ

Trefniadau Rheoli Perfformiad

 

 

 

Yn 2004, sefydlodd y Cyngor Banel Rheoli Perfformiad i oruchwylio Rheoli Perfformiad ar sail Gorfforaethol.  Roedd yr aelodau’n cynnwys yr Aelod Portffolio dros Lywodraethu Corfforaethol, Aelodau Etholedig eraill o’r Pwyllgorau Sgriwtini a Throsolwg a’r Tîm Rheoli Corfforaethol.  Er bod y Panel hwn wedi bod yn goruchwylio paratoad y Cynllun Gwella Blynyddol a monitro’r targedau yn y cynllun wedi hynny, mae wedi creu haen arall o reoli perfformiad ac i raddau, mae wedi gwneud yn aneglur yr atebolrwydd ynghylch cyfrifoldeb am fonitro perfformiad wrth gymryd i ystyriaeth rôl y Prif Bwyllgor Sgriwtini y mae ei friff yn cynnwys gwneud y Pwyllgor Gwaith yn atebol am berfformiad.  

 

 

 

Argymhellwyd bod y Panel Perfformiad yn cael ei ddisodli gan gyfarfodydd monitro perfformiad chwarterol rhwng deilyddion portffolio a chyfadrannau i fonitro targedau allweddol a risgiau yn fwy rheolaidd ac ar sail fwy strwythuredig.  Mae’r dull hwn hefyd yn ceisio annog prif-ffrydio diwylliant rheoli perfformiad yn y Cyngor.

 

 

 

Ÿ

Trefniadau Sgriwtini a Throsolwg

 

 

 

Er bod y ddarpariaeth eisoes yn y Rheolau Gweithdrefn Sgriwtini, caiff cylch gorchwyl y Prif Bwyllgor Sgriwtini ei grynhoi yn Atodiad 2.  Cynigir y dylai sgriwtineiddio perfformiad fod yn elfen reolaidd o gyfrifoldebau’r Pwyllgor ac mai prif gyfrifoldeb y ddau Bwyllgor Trosolwg fydd datblygu ac adolygu polisïau.

 

 

 

Argymhellwyd y dylai’r Cyngor gymeradwyo cylch gorchwyl y Prif Bwyllgor Sgriwtini.

 

 

 

Ÿ

Fframwaith Archwilio a Sicrwydd Risg

 

 

 

Agwedd hanfodol o gryfhau llywodraethu corfforaethol ydi Archwilio a Rheoli Risg.  Mae cylch gorchwyl y Pwyllgor Archwilio wedi cael ei ymestyn i sicrhau rhagor o eglurder a ffocws ar fframweithiau archwilio a sicrwydd (Atodiad 3).

 

 

 

Yn ychwanegol at hyn, argymhellwyd sefydlu dau is-bwyllgor i ddelio gyda llywodraethu a rheoli risg a chanolbwyntio ar y cwsmer gan adrodd yn uniongyrchol i’r Pwyllgor Archwilio.  (Atodiad 4 & 5).

 

 

 

Argymhellwyd hefyd y dylai’r Cyngor gymeradwyo cylch gorchwyl diwygiedig y Pwyllgor Archwilio a’r bwriad i sefydlu Is-Bwyllgor Llywodraethu a Rheoli Risg a Chanolbwyntio ar y Cwsmer (Is-Bwyllgor Cwynion a Chanmol).

 

 

 

Ÿ

Rhaglen Ddatblygu ar gyfer Aelodau a Swyddogion.

 

 

 

Ers mis Mawrth, cynhaliwyd nifer o seminarau i godi ymwybyddiaeth ar Lywodraethu Corfforaethol a Rheoli Risg ar gyfer aelodau a swyddogion gyda chefnogaeth hwylusydd allanol.  Yn codi o’r seminarau hyn, bwriadwyd cyflwyno rhaglen datblygu hyfforddiant ar sail barhaus i aelodau a swyddogion yn ystod y 12 mis nesaf gyda chefnogaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

 

 

 

 

 

Ÿ

Cefnogaeth gan Swyddogion

 

 

 

Bydd cyflwyno trefniadau diwygiedig yn y modd a amlinellir uchod yn golygu y bydd angen cefnogaeth briodol ar lefel swyddogion.  Roedd y Rheolwr-gyfarwyddwr yn bwriadu adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Gwaith yn o fuan ynglyn â’r mater hwn.

 

 

 

Ar ôl gyrru’r rhaglen allan, cyflwynodd y swyddogion atodiad arall i’r Cyngor Sir ei ystyried sef y newidiadau a ganlyn i baragraff 4.2 (iii) yr adroddiad:-

 

 

 

(a)  yn derbyn yr argymhelliad i sefydlu dau is-bwyllgor fydd yn adrodd i’r Pwyllgor Archwilio, sef yr Is-Bwyllgor Llywodraethu a Rheoli Risg a’r Is-Bwyllgor Canolbwyntio ar y Cwsmer (Atodiadau 4 a 5) ond bod aelodaeth y ddau Is-Bwyllgor yn 5 aelod gyda chydbwysedd gwleidyddol a phwer gan y ddau i gyfethol hyd at 2 unigolyn a’r dewis hwn yn cael ei wneud gan y ddau Is-Bwyllgor.  Ni fuasai aelod cyfetholedig â’r hawl i bleidleisio.

 

 

 

(b)  yn cymeradwyo cylch gorchwyl y Pwyllgor Archwilio a chan gynnwys cylch gorchwyl yr Is-Bwyllgor Llywodraethu a Rheoli Risg a’r Is-Bwyllgor Canolbwyntio ar y Cwsmer fel y manylwyd ar hynny yn Atodiadau 4 a 5.

 

 

 

Cynigiwyd ac eiliwyd bod y Pwyllgor Archwilio yn cyfarfod yn amlach, h.y. bob dau fis.  (Yn yr adroddiad dywedwyd y dylai’r Pwyllgor Archwilio gyfarfod o leiaf 3 gwaith y flwyddyn).

 

 

 

Yma holodd yr Arweinydd a oedd unrhyw gostau ychwanegol i’r Cyngor Sir ac os oedd a fuasent yn cael eu talu gan yr Adran?

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr-gyfarwyddwr y buasai costau ad-drefnu a chryfhau y swyddogaeth sgriwtini yn mynd yn erbyn cyllideb ei Adran ef.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a:-

 

 

 

Ÿ

Cymeradwyo’r cylch gorchwyl diwygiedig ar gyfer y Prif Bwyllgor Sgriwtini fel y manylwyd ar hynny yn Atodiad 2 yr adroddiad.

 

 

 

Ÿ

Cymeradwyo’r cylch gorchwyl diwygiedig ar gyfer y Pwyllgor Archwilio fel y manylwyd ar hynny yn Atodiad 3 yr adroddiad.

 

 

 

Ÿ

Derbyn yr argymhelliad i sefydlu dau is-bwyllgor a fydd yn adrodd i’r Pwyllgor Archwilio, sef yr Is-Bwyllgor Llywodraethu a Rheoli Risg a’r Is-Bwyllgor Canolbwyntio ar y Cwsmer, fel y manylwyd ar hynny yn Atodiadau 4 a 5 yr adroddiad.  Bydd cylch gorchwyl y Pwyllgor Archwilio yn cynnwys cylchoedd gorchwyl y ddau Is-Bwyllgor fel y manylwyd ar hynny yn Atodiadau 4 a 5 yr adroddiad.  Bydd 5 aelod yr un ar y ddau Is-Bwyllgor gyda chydbwysedd gwleidyddol (ac i’w tynnu o’r Rhiant Bwyllgor) a bod y mater o gyfethol hyd at ddau unigolyn (heb yr hawl i bleidleisio) i’r Is-Bwyllgorau hynny yn cael ei adolygu rywbryd eto.

 

 

 

Ÿ

Yn lle’r Panel Perfformiad cael cyfarfodydd Rheoli Perfformiad chwarterol fel y manylwyd ar hynny ym mharagraff 3.4 yr adroddiad.

 

 

 

Ÿ

Cyflwyno rhaglen barhaus o hyfforddiant i aelodau a staff fel y manylwyd ar hynny ym mharagraff 3.13 yr adroddiad.

 

 

 

Ÿ

Nodi y telid  costau o gyllideb Adran y Rheolwr-gyfarwyddwr.    

 

 

 

4

LWFANSAU AELODAU

 

 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) - Bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ddiweddar wedi cyflwyno Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau)(Cymru) 2007, ac yn codi o waith ymgynghori a gychwynnwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn 2005.  Y ddarpariaeth bennaf oedd sefydlu Panel Taliadau Annibynnol i Gymru a fuasai’n argymell y cyfraddau uchaf bosib yng nghyswllt Lwfansau Aelodau am 2008-09.

 

      

 

     Yr oedd, fodd bynnag, rai newidiadau yn weithredol o 1 Mehefin 2007.  Y newidiadau â’r potensial o gael effaith ar gynghorau sir a chynghorau bwrdeistrefol sirol yn 2007 yw:-

 

      

 

Ÿ

cynyddu uchafswm y lwfans i Gadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu;

 

 

 

Ÿ

caniatáu i’r lwfans ychwanegol sy’n cael ei dalu i’r Dirprwy Arweinydd gael ei rannu ymysg mwy nag un Dirprwy Arweinydd, lle ceir hynny;

 

 

 

Ÿ

ni ddylid talu lwfansau yn ystod cyfnod o waharddiad neu waharddiad rhannol;

 

 

 

Ÿ

y dylai cynlluniau ddarparu ar gyfer adennill gordaliadau;

 

 

 

Ÿ

bod raid i gynlluniau nodi amser pendant ar gyfer cyflwyno hawliadau.

 

 

 

Roedd y rheoliadau blaenorol yn caniatáu uchafswm uwch dan Fand 4 i Gadeiryddion Pwyllgorau Sgriwtini, Trosolwg a Chynllunio gyda ffigwr is dan Fand 5 i Gadeiryddion Pwyllgorau eraill.  Roedd y Newidiadau yn awr yn ychwanegu Pwyllgor Trwyddedu at y rhestr o’r rhai y gellir dyfarnu’r raddfa uwch iddynt.  Byddai bod yn gyson yn hyn o beth yn awgrymu y dylid diwygio’r cynllun er mwyn talu’r raddfa uwch i Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu.

 

 

 

Roedd manylion am lwfansau cyfrifoldebau arbennig yr Awdurdod yn ymddangos yn yr adroddiad hwn.

 

 

 

Roedd cynigion y Rheolwr-gyfarwyddwr yn rhagweld codi statws y Pwyllgor Archwilio, pwyllgor nad oes lwfans yn daladwy iddo ar hyn o bryd.  Er mwyn adlewyrchu’r statws hwn yn y cynllun lwfans, byddai’n bosib talu lwfans Band 5 i Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio.  O dan y cynllun presennol byddai hyn yn cyfyngu’r nifer o lwfansau a delir i arweinyddion y grwpiau eraill.

 

 

 

Byddai lwfans Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio ar Fand 5 yn parhau i fod yn is na’r lwfans Band 4 a delir i Gadeiryddion Pwyllgorau Sgriwtini, Trosolwg, Cynllunio (yn amodol ar y  penderfyniadau uchod) a’r Pwyllgor Trwyddedu.  Petai’r Cyngor yn dymuno mynd gam ymhellach i godi statws y Pwyllgor Archwilio efallai bod hynny’n bosib trwy geisio caniatâd i Fand 4 ond gallai hynny arwain at ostyngiad cyfatebol yn y lwfansau mewn man arall.

 

 

 

Hefyd roedd y Rheolwr-gyfarwyddwr yn cynnig y dylid sefydlu  is-bwyllgorau newydd dan y Pwyllgor Archwilio.  Os ydyw Cadeiryddion y Pwyllgorau hyn yn cael lwfansau bydd yn angenrheidiol edrych am ostyngiadau yn rhywle arall.  Y cam amlwg fuasai tynnu ymaith y lwfansau oddi ar Is-Gadeirydd y Pwyllgorau Sgriwtini a Throsolwg er mwyn cadw cyfanswm y niferoedd o fewn yr uchafswm o 20.

 

 

 

Gofynnodd yr Arweinydd am sylwadau’r Cyngor ynghylch y lwfansau hynny sy’n cael eu talu i Gadeirydd ac Is-Gadeirydd y Cyngor Sir.

 

 

 

(Ar yr adeg benodol hon, gadawodd y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd eu cadeiriau a gadael y siambr.  Yn y cyfamser cadeiriwyd y cyfarfod gan Arweinydd y Cyngor).

 

 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd C L Everett at y lwfansau a delir i Gadeirydd ac Is-Gadeirydd y Cyngor o’u cymharu gyda’r lwfansau i Gadeirydd y Prif Bwyllgor Sgriwtini.  Dywedodd bod modd iddynt hwy fynychu rhwng 200-300 o achlysuron dinesig bob blwyddyn.  Ni theimlai bod y lwfans yn ddigon uchel yn wyneb eu dyletswyddau a chynigiodd godi lwfans y Cadeirydd i £7,000 (ar hyn o bryd £5,000) a chodi lwfans yr Is-Gadeirydd i £5,000 (ar hyn o bryd £3,000) a bod hyn yn dal i fod yn llai na’r swm a delir i Gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini / Trosolwg.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) bod y ddau lwfans hyn yn cael eu talu dan Adrannau 22 a 24 Deddf Llywodraeth Leol 1972 ac o’r herwydd yn wahanol i’r lwfansau eraill a delir i aelodau.

 

 

 

 

 

 

 

Hyd at 2000, roedd lwfans £4,000 yn cael ei dalu i’r Cadeirydd a £1,500 i’r Is-Gadeirydd.  Ar ôl i’r Pwyllgor Gwaith ystyried y mater ar 27 March ac 17 Ebrill, 2000 gostyngwyd y cyfraddau hyn i £3,000 a £1,000.

 

 

 

Ar ôl addasu ar gyfer chwyddiant, roedd lwfansau 2003-04 yn £3,068 a £1,023.

 

 

 

Os oedd y Cyngor yn dymuno ystyried y lwfansau i’r Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd, roedd yn rhaid cofio mai’r unig hawl statudol oedd yr hawl honno i dalu lwfansau i gwrdd â chostau’r swydd.  Nid oedd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol unrhyw dystiolaeth ynghylch yr arian a wariwyd yn uniongyrchol gan y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd a rhoes gyngor mai mater i’r Cyngor oedd ystyried beth oedd y pwysau arnynt a pha gostau oedd yn rhesymol.  

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd P M Fowlie i’r Cyngor ystyried cynyddu lwfansau cynhaliaeth a lletya i Aelodau a Swyddogion ar fusnes y Cyngor, ac yn enwedig gan fod raid aros dros nos yng Nghaerdydd a Llundain.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd H E Jones am roddi sylw i gyfraddau y lwfans teithio.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd yr Arweinydd bod hwn yn gwestiwn teg a bod rhai staff - rhai gyda theuluoedd ifanc - yn ei chael hi’n anodd mynychu cyfarfodydd ac weithiau yn gwneud hynny ar eu colled.

 

 

 

Aeth yr Arweinydd ymlaen i ofyn i'r Cyngor am yr hawl i weithredu fel bod modd i Arweinyddion y Grwpiau Gwleidyddol drafod y mater gyda’r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) a Phennaeth y Gwasanaethau Corfforaethol gyda golwg ar gynyddu’r lwfansau dan sylw.  Hefyd, mewn cyfarfod o’r fath, roedd angen ystyried y ffigwr ar gyfer lwfansau teithio.

 

 

 

(A)  PENDERFYNWYD derbyn y newidiadau a ganlyn i Gynllun Lwfansau’r Aelodau:-

 

 

 

Ÿ

Talu’r raddfa uwch i Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu (Band 4) ond peidio â chaniatáu lwfans i’r Is-Gadeirydd.

 

 

 

Ÿ

Na ddylid talu’r lwfansau yn ystod cyfnodau o waharddiad neu waharddiad rhannol.

 

 

 

Ÿ

Mewn ymateb i’r newid yn statws y Pwyllgor Archwilio, bod Cadeirydd y Pwyllgor hwnnw yn derbyn lwfans Band 5.

 

 

 

Ÿ

Talu lwfans Band 4 i Brif Arweinydd y Grwp Gwrthbleidiol yn unig - ei roddi i Arweinydd y grwp mwyaf sydd heb aelod ar y Pwyllgor Gwaith.

 

 

 

Ÿ

Na ddylid talu lwfans i arweinyddion y grwpiau bychain.

 

 

 

Ÿ

Gofyn i Lywodraeth Cynulliad Cymru ystyried cynyddu’r tâl i Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio o Fand 5 i Fand 4.

 

 

 

Ÿ

Bod y cyfan o’r lwfansau uchod yn cael eu talu ar y ddealltwriaeth na fydd cyfanswm y lwfansau cyfrifoldebau arbennig yn mynd y tu draw i 20 (Mae’r lwfansau a delir i Gadeirydd ac Is-Gadeirydd y Cyngor Sir yn daladwy dan ddarpariaethau gwahanol).

 

 

 

Ÿ

Mabwysiadu’r cynllun diwygiedig a gyflwynwyd yn adroddiad y Swyddog ac yn weithredol o 1 Mehefin, 2007 ymlaen.  

 

 

 

(B)  PENDERFYNWYD:-

 

 

 

Ÿ

Dyrannu symiau £7,500 a £5,000 i Gadeirydd ac Is-Gadeirydd y Cyngor Sir yn y drefn hon, a

 

 

 

Ÿ

Bod y symiau hyn yn dod i rym ar 1 Mehefin, 2007 a’u bod, yn y dyfodol, yn cael eu diwygio yn ôl yr un raddfa fynegeiol â’r lwfans sylfaenol.

 

 

 

Ÿ

Rhoi’r hawl i weithredu i’r Arweinyddion Grwpiau, mewn ymgynghoriad gyda’r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) a Phennaeth y Gwasanaethau Corfforaethol i ystyried lwfansau cynhaliaeth, llety dros nos a theithio y Cyngor.

 

 

 

 

 

 

 

      

 

      

 

      

 

     Daeth y cyfarfod i ben am 11:00  a.m.  

 

      

 

      

 

     Y Cynghorydd W J Williams, MBE

 

     Cadeirydd