|
|
Dywedodd y Rheolwyr Buddsoddi bod y portffolio yn dangos
dychweliad o +6.7%, yn erbyn meincnod o +8.7%. Gwerth y
gronfa ar gau’r farchnad ar 30 Mehefin, 2009 oedd
£11,040.500. Gwerth y gronfa ar hyn o bryd oedd
£12,665.946. Roedd y gronfa wedi tanberfformio ei
feincnod y chwarter hwn -2.0%; roedd y portffolio wedi
tanberfformio ar ddechrau rali a gafwyd yn y farchnad tua mis
Mawrth ac Ebrill, wrth i gwmnïau mewn trafferthion wneud
enillion cadarn. Bu’r farchnad yn mynd trwy gyfnod o
ail brisio; bydd yn fuan yn symud tuag at gwmnïau gydag
enillion cadarn a thwf.
|
|
|
|
|
|
Dywedodd y Trysorydd fod ganddo bryderon bod y portffolio
wedi perfformio yn llawer is na’r meincnod yn ystod yr ail
chwarter. Nododd mai un o’r materion yr oedd
wedi’i godi yn y cyfarfod diwethaf oedd buddsoddiad mewn
‘Deunyddiau Sylfaenol’; roedd hwn yn sector oedd wedi
gwneud yn arbennig o dda yn y marchnadoedd yn y chwarter diwethaf
ac roedd y portffolio yn arbennig o ysgafn o ran ei daliadau yn y
sector hwnnw. Roedd yr Ymddiriedolaeth wedi cael ei gadael ar
ôl ac allan o’r rali yn y cyfranddaliadau hynny.
Yn ystod y chwarter hwn eto, mae ‘Deunyddiau
Sylfaenol’ wedi gwneud yn dda ac mae’r Ymddiriedolaeth
yn parhau i fod yn ysgafn o ran ei ddaliadau yn y sector ac unwaith
yn rhagor wedi colli allan ar wneud enillion. Dywedodd Mr
Marcus Pakenham bod prisiau uchel i lawer o’r cwmniau
‘Deunyddiau Sylfaenol’. Roedd y portffolio wedi
perfformio’n well na’r farchnad gyda rhai o’i
chyfranddaliadau eraill.
|
|
|
|
|
|
Nododd Mr H Eifion Jones mai twf difidend sy’n
greiddiol i’r Ymddiriedolaeth Elusennol.
Edrychai’r portffolio fel pe bai’n ysgafn o ran
cwmniau ariannol a chwmniau deunyddiau sylfaenol. Dywedodd Mr
Marcus Pakenham iddynt werthu rhai o’r stociau yn
‘Cyfleustodau’ a ‘Nwyddau Treuliedig’ ond
mae’r portffolio’n dal i fod yn ysgafn o ran cwmniau yn
y sector ‘Ariannol’. Gofynnodd Mr Jones os oedd
bod o dan bwysau mewn cwmniau ‘Ariannol’ yn beth da.
Ateb Mr Pakenham oedd mai gwerth y stociau unigol a’u
hachos busnes sy’n siapio llawer ar y portffolio.
Nododd bod HSBC yn ystyried bod y buddsoddiadau’n rhai
da a’u bod yn dod a dychweliadau da i’r Ymddiriedolaeth
a hynny er gwaethaf eu bod yn ysgafn o ran cwmniau
‘Deunyddiau Sylfaenol’ a chwmniau
‘Ariannol’.
|
|
|
|
|
|
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.
|
|
|
|
|
|
Yn dilyn trafodaeth ar yr Adroddiad Chwarterol gyda
chynrychiolwyr HSBC Global Asset Management (DU) Cyf, roedd yr
Aelodau am fynegi eu consyrn oherwydd bod y portffolio wedi
tanberfformio ei feincnod yn sylweddol iawn am ail
chwarter.
|
|
|
|
|
|
CYTUNWYD i ofyn i’r Trysorydd ysgrifennu i
gynrychiolwyr rheolwyr HSBC Global Asset Management (DU) Cyf yn
mynegi pryderon y Pwyllgor oherwydd bod y portffolio wedi
tanberfformio a hefyd ei bryder ynglyn â’r dewis o
stoc.
|
|
|
|
|
|
EITEMAU A GYMERWYD YN BREIFAT
|
|
|
|
|
4
|
TIR YM MHORTH AMLWCH - CAIS I’W
DDEFNYDDIO
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - adroddiad gan y Trysorydd yng nghyswllt yr
uchod.
|
|
|
|
|
|
Dywedodd y Trysorydd bod tir yr Elusen ym Mhorth Amlwch
wedi’i ddynodi gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol fel ased
treftadaeth ac amwynder cyhoeddus. Er ei fod yn cynnwys ochr
orllewinol yr harbwr, tir agored ydyw gan mwyaf. Roedd cais
wedi’i dderbyn gan grwp lleol, trwy’r aelod lleol, yn
gofyn am ganiatâd i gael defnyddio’r tir i bwrpas creu
cyfleuster seiclo oddi ar y ffordd. Fe fyddai’r cynnig,
mae’n debyg, yn cydfynd â bwriadau elusennol yr
Ymddiriedolaeth ac nid yw’n anghyson gyda’r dynodiad
wnaed o’r tir fel amwynder cyhoeddus. Gofyn y
mae’r ymgeiswyr am ganiatâd i ddefnyddio’r tir ar
y sail y byddant hwy’n gwneud y gwaith paratoadol sy’n
angenrheidiol ar gyfer y cyfleuster seiclo ac yn ei gynnal
a’i gadw. Mae’r aelod lleol yn cefnogi’r
fenter.
|
|
|
|
|
|
Y prif bwyntiau i’w hystyried yw’r risgiau
a’r cyfrifoldebau fyddai’n disgyn ar yr Ymddiriedolaeth
Elusennol wrth roi caniatâd i’w ddefnyddio i’r
pwrpasau hynny. Mae’r ymgeiswyr wedi dweud y byddent yn
gallu cael eu hyswiriant atebolrwydd cyhoeddus eu hunain yng
nghyswllt rheoli, trefnu ac arolygu’r cyfleusterau.
Byddai’n rhaid sicrhau bod y rhain yn amodau o fewn
unrhyw ganiatâd a roddir.
|
|
|
|
|
|
|
|
Mae’n hysbys ddigon bod y tir wedi’i lygru,
gyda’r rhan fwyaf ohono yn hen safle tipio gwastraff trefol.
Fe gadarnhaodd astudiaeth lygru a wnaed yn 1996 bod yna
wahanol lygrwyr ar y safle. Roedd yr adroddiad yn argymell na
ddylid datblygu’r safle (gan y byddai’n golygu costau
gwrth-lygru enfawr). Yr opsiwn gorau fyddai gadael y safle
fel ag y mae, fel llecyn agored, a pheidio gwneud fawr o ddim i
darfu ar wyneb y tir gan y gallai hynny ddod a mwy o lygrwyr
i’r wyneb. Fe soniwyd am y materion hyn gyda’r
ymgeiswyr ac mewn ymateb maent yn barod i gyfyngu ar unrhyw
fynediad i’r traciau sydd yno’n barod i rai dros dop yr
hen dip, a llecyn coediog i’r de o’r safle, nad yw, fe
gredir, ar ben y tip. Gwelir mai ymdrech sydd yma i leihau
unrhyw risg o darfu ar unrhyw dir llygredig. Mae’n
bosib lleihau’r risg o ryddhau unrhyw lygredd ond ni ellir
symud ymaith pob risg yn gyfan gwbl. Trwy roi caniatâd
i weithgaredd o’r fath, byddai’r Ymddiriedolaeth
Elusennol yn derbyn y risg fechan hon. Yn 2004 fe roddodd y
Pwyllgor ganiatâd i deulu dyn lleol osod carreg goffa iddo ar
y safle. Cafodd materion tebyg yn ymwneud â mynediad i
lefydd llygredig eu hystyried bryd hynny hefyd, ond fe wnaed y
penderfyniad, fodd bynnag, i ganiatau i’r gofeb gael ei
lleoli ar y safle.
|
|
|
|
|
|
Roedd Mr R Dylan Jones, yr aelod lleol yn cefnogi’r
cais ac yn croesawu’r defnydd arfaethedig o’r tir.
Nododd bod grant Datblygu Chwaraeon Cymru wedi’i
sicrhau i brynu beiciau i’w defnyddio ar y trac
hwn.
|
|
|
|
|
|
Roedd Mr E Schofield yn cefnogi’r cais ond nododd y
dylai termau ac amodau’r proses o reoli’r risg
i’r Ymddiriedolaeth Elusennol fod ar gael i’r Pwyllgor
cyn rhoddi unrhyw ganiatâd i fynd ar y safle.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Ÿ
|
derbyn yr adroddiad a chaniatau’r cais i greu
cyfleuster seiclo oddi ar y ffordd, yn amodol ar dermau ac amodau
i’w drafftio gan y Swyddogion gyda’r bwriad o
reoli’r risg i’r Ymddiriedolaeth Elusennol a hefyd
atebolrwydd cyhoeddus.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
bod Aelodau’r Pwyllgor yn derbyn copi o’r
termau a’r amodau cyn y rhoddir caniatâd i fynd ar y
safle.
|
|
|
|
|
5
|
TIR YN RHOS-GOCH - DIWEDDARIAD
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - adroddiad gan y Trysorydd ynglyn
â’r uchod.
|
|
|
|
|
|
Dywedodd y Trysorydd bod y Pwyllgor wedi derbyn cyngor yn
ei ddau gyfarfod diwethaf ynglyn â’r awgrym o blannu
coedwig ddail-llydan ar ran o’r safle. Roedd y Syrfewyr
a apwyntiwyd gan yr Ymddiriedolaeth wedi’u gwahodd i fynegi
barn ynglyn â sut y byddai hyn yn cael effaith ar werth y
safle ac ar unrhyw obeithion i’w werthu. Roedd y
Prisiwr yn awr wedi ymateb fel a ganlyn:-
|
|
|
|
|
|
“.....
In my opinion any proposals which increases public access to the
site could potentially be detrimental to any future
sale.
|
|
|
|
|
|
As I read the plans, there would be two new
footpaths and the landscaped area would remain in the control of
the Trust rather than any prospective purchaser.
|
|
|
|
|
|
Whilst, this might not concern some purchasers, who
may also consider the extra tree planting as beneficial, I can see
that some would find it a disincentive - in my opinion it could
deter some purchasers and would not act as a major factor, in the
purchase decision, of those who would consider it
favourably.
|
|
|
|
|
|
On that basis, on balance, I would not recommend
that the Trust proceed with this project if it is being measured on
purely commercial grounds. Any major purchaser would seek to
have as few constraints as possible on any development and this
project would create a ‘problem’ to be overcome, for
many end users.”
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Roedd yr ymateb hwn wedi’i drafod gyda Chadeirydd yr
Ymddiriedolaeth Elusennol a Chadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor
hwn ac fe gytunwyd bryd hynny y dylai’r mater gael ei ddwyn
gerbron y Pwyllgor hwn.
|
|
|
|
|
|
PENDERFYNWYD derbyn cyngor y Prisiwr a pheidio
â symud ymlaen gyda’r awgrym i blannu coedwig coed
dail-llydan ar ran o safle Rhos-goch.
|
|
|
|
|
|
Dywedodd y Trysorydd ei fod ar hyn o bryd yn ceisio trefnu
cyfarfod gyda Phrisiwr apwyntiedig yr Ymddiriedolaeth a hefyd gydag
Adrannau Eiddo a Datblygu Economaidd y Cyngor Sir, er mwyn
“rhoi drosodd” y brîff marchnata ar gyfer y tir
yn Rhos-goch ac i rannu syniadau ar ddatblygiadau cyfredol allai
gael effaith ar y defnydd wneir o’r safle.
|
|
|
|
|
|
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Datblygu Economaidd) bod
yna ddiddordeb yn y safle gan rai yn y sector ynni a hynny’n
gysylltiedig â’r bwriadau yng nghyswllt Wylfa B.
Roedd cwmniau eraill wedi dangos diddordeb ar gyfer twrbinau
gwynt ac ynni amlddefnydd. Fodd bynnag, nid yw’r rhain
yn gynigion pendant am safle Rhos-goch ar hyn o bryd. Nododd
y Swyddog ymhellach os oedd yr Ymddiriedolaeth yn dymuno i’r
Adain Datblygu Economaidd farchnata’r safle’n
rhagweithiol, yna’n amlwg fe fyddai yna gostau yn
gysylltiedig â hynny.
|
|
|
|
|
|
Croesawu’r diddordeb hwn oedd yn cael ei ddangos yn
y safle wnaeth Mr Schofield a chefnogi yn llawn y dylsai’r
safle gael ei farchnata mewn ffordd rhagweithiol. Nododd y
Trysorydd y byddai’n rhaid sicrhau gwasanaeth Syrfewr os
derbynnir bid am y safle. Nododd y dylid gosod swm o arian ar
y naill ochr ar gyfer marchnata o’r fath. Nododd y
Pennaeth Gwasanaeth (Datblygu Economaidd) bod yr Adain Datblygu
Economaidd wedi bod yn ymchwilio i mewn i farchnata’r safle
ar lafar a thrwy basio’r neges ymlaen o’r naill
i’r llall ac roedd hynny wedi bod yn fuddiol. Fodd
bynnag, os oedd yr Ymddiriedolaeth Elusennol yn dymuno apwyntio
asiant i farchnata’r safle, fe allent hwy ymchwilio i mewn i
gostau gwneud apwyntiad o’r fath. Nododd Mr Schofield
bod gan yr Adain Economaidd y cysylltiadau iawn ar gyfer
marchnata’r safle ac fe ddylai gwybodaeth ynglyn
â’r safle gael ei dosbarthu trwy Lywodraeth Cynulliad
Cymru ac ni fyddai hyn yn costio gormod.
|
|
|
|
|
|
PENDERFYNWYD rhoi awdurdod i’r Adain Datblygu
Economaidd farchnata safle Rhos-goch.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|