|
|
|
Ÿ
|
sicrhau datrysiad tâl derbyniol sy’n cyd-fynd
gyda’r strwythur tâl am allu fel y cytunwyd
eisoes.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
cyfyngu, i’r graddau y mae hynny’n ymarferol,
ar y nifer o swyddi cylchoedd coch a chylchoedd gwyrdd.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
dangos, yn ymarferol, bod y Cyngor yn cwrdd
â’i ddyletswyddau statudol o ran tâl cyfartal am
waith o werth cyfartal.
|
|
|
|
|
Cyfeiriwyd at y dadansoddiad risg a oedd yn
ceisio egluro’r risgiau a manteision cymeradwyo ac / neu
methu gweithredu o ran y cynigion a gyflwynir yn awr.
|
|
Ynghlwm wrth adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth
(Gwasanaethau Corfforaethol) roedd y Cytundeb arfaethedig a oedd yn
cynnwys yr holl elfennau y penderfynwyd arnynt trwy drafodaethau
manwl gyda’r undebau llafur cydnabyddedig. Ystyriwyd
bod y cynnwys yn cynrychioli’r canlyniad gorau posib y mae
modd ei gael trwy drafodaeth, gan gydnabod yr amgylchiadau ariannol
heriol y mae’r Cyngor Sir yn eu hwynebu dros yr ychydig
flynyddoedd nesaf. Wrth gyflwyno’r set o gynigion a
nodir yn y cytundeb, atgoffwyd aelodau’r Panel, unwaith y
bydd y cytundeb wedi’i gymeradwyo’n lleol, fe gaiff ei
archwilio gan swyddogion cyfreithiol cenedlaethol yr Undebau Llafur
fel bod modd iddynt wneud sylwadau arno. Wedi hynny cynhelir
pleidlais leol ymysg aelodau’r tri undeb llafur.
|
|
|
|
Dygwyd sylw aelodau’r Panel yn benodol
at:-
|
|
|
|
Ÿ
|
Strwythurau Graddio arfaethedig
|
|
|
Ÿ
|
Symud i fyny’r raddfa yn seiliedig ar
allu
|
|
|
Ÿ
|
Canlyniadau Arfarnu Swyddi a Goblygiadau’r Llinell
Dâl
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Taliadau am fod ar alwad
|
|
|
Ÿ
|
Cymorth i weithwyr unigol gan gynnwys diogelu tâl a
thelerau ac amodau
|
|
|
|
|
Er nad yw’r Cynllun Gweithredu
wedi’i gwblhau’n derfynol, mae cytundeb mewn egwyddor,
i ddyddiad y gweithredu ffurfiol ar gyfer y cytundeb, sef 1 Ionawr
2010.
|
|
|
|
Nodwyd hefyd y byddai Trefn Apelio ar gyfer
sialensiau ar ddwy lefel:-
|
|
|
|
Ÿ
|
Adolygiad Anffurfiol a ddylai sicrhau bod modd delio
gyda’r rhan fwyaf o gamgymeriadau / addasiadau yn gyfeillgar
a’u datrys, gan ostwng felly nifer gwrandawiadau apêl
ffurfiol diangen neu amhriodol.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Apêl ffurfiol lle bydd penderfyniad terfynol yn cael
ei wneud.
|
|
|
|
|
Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ar nifer o
faterion gan gynnwys y cytundeb arfaethedig, ac argymhellwyd fel a
ganlyn:-
|
|
|
|
Ÿ
|
rhaid gweithredu cynllun gwerthuso cyson;
|
|
|
Ÿ
|
dylid egluro’n ddiamwys na fydd swyddogion yn symud
i fyny’r raddfa heb dystiolaeth bod gwerthusiad wedi’i
wneud;
|
|
|
Ÿ
|
rhaid adolygu’n rheolaidd unrhyw ychwanegiadau
marchnad a gynigir;
|
|
|
Ÿ
|
teithio busnes - gofynnwyd i’r Pennaeth Gwasanaeth
(Gwasanaethau Corfforaethol) geisio aildrafod un rhan o’r
cynigion
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Asesiad o’r Effaith ar
Gydraddoldebau
|
|
|
|
|
Cafwyd cyflwyniad ac adroddiad gan Mr G Pearce
o Link Consultants ar yr Asesiad o Effaith ar Gydraddoldebau.
Nododd bod Link Consultants wedi bod yn gweithio gyda nifer o
awdurdodau lleol yng Nghymru mewn perthynas â’r broses
arfarnu swyddi. Nododd mai pwrpas ei adroddiad oedd
asesu’r effaith ar gender sy’n codi o gynigion y Cyngor
gan roi sylw i nifer o faterion gan gynnwys:-
|
|
|
|
Ÿ
|
Y dewis o’r cynllun arfarnu;
|
|
|
Ÿ
|
Y broses arfarnu swyddi;
|
|
|
Ÿ
|
Y strwythur tâl a graddfeydd arfaethedig;
|
|
|
Ÿ
|
Bwlch tâl rhwng y ddau ryw;
|
|
|
Ÿ
|
Dadansoddiad agosrwydd.
|
|
|
|
|
Ystyrir bod y
cynllun CJC a ddefnyddiodd Cyngor Sir Ynys Môn yn
cydymffurfio gyda’r meini prawf
a sefydlwyd yn wreiddiol gan y Comisiwn
Cyfleon Cyfartal (sydd bellach yn rhan o’r
Comisiwn
|
|
Cydraddoldebau a
Hawliau Dynol) ar gyfer arfarnu swyddi’n ddiduedd.
Mae’n amlwg bod y
|
|
trefniadau a
sefydlwyd yn lleol wedi’u datblygu ar y cyd gyda’r
undebau llafur gan gymryd i
|
|
ystyriaeth yr
arweiniad a’r egwyddorion yng nghynllun CJC.
|
|
|
|
Datblygwyd cyfres o strwythyrau tâl a
graddfeydd arfaethedig a gafodd eu harfarnu wedyn o ran eu heffaith
ar staff a fforddiadwyaeth. Mae’r strwythur a gynigir
yn ostyngiad sylweddol yn nifer y graddfeydd unigol o gymharu
â’r strwythur graddio cyfredol.
|
|
|
|
Cyflwynodd gyfres o ddadansoddiadau a oedd yn
cadarnhau darlun cadarnhaol o’r cynigion, o ran
cydraddoldebau. Roedd yn ymarfer da a llwyddiannus iawn o ran
moderneiddio strwythur tâl yr awdurdod yn y modd a ragwelwyd
gan y cyflogwyr cenedlaethol ar gychwyn Statws Sengl.
|
|
|
|
O ran y cynigion cyffredinol casglodd fel a
ganlyn:-
|
|
|
|
Ÿ
|
mae’r strwythur graddio arfaethedig yn briodol ac
mae’n cynnwys graddfeydd cynyddrannol ar gyfer yr holl
weithwyr lle nad yw hyd y raddfa yn fwy na phum cam cynyddrannol ac
mae’n seiliedig ar linellau graddfeydd cyson. Nid oes
unrhyw bwyntiau gorgyffwrdd yn y strwythur.
|
|
|
Ÿ
|
Mae defnyddio cynllun arfarnu swydd CGC yn gyson
gyda’r canlyniadau a ddisgwylir. Fe gafodd ei weithredu
yn gyson â’r egwyddorion yng nghanllawiau’r
CGC.
|
|
|
Ÿ
|
y canran gyffredinol o gylchoedd coch yn seiliedig ar
dâl sylfaenol yw 18.50% a bydd cyfran fwy o weithwyr
gwrywaidd yn cael eu gwarchod. Mae nifer y gweithwyr a
warchodir yn gyson gyda’r gyfran gyffredinol yn y gweithlu yn
seiliedig ar gender.
|
|
|
Ÿ
|
bydd y rhan fwyaf o weithwyr yn gweld cynnydd yn eu
huchafswm tâl o gymharu â’r strwythur
cyfredol.
|
|
|
Ÿ
|
mae’r bwlch tâl rhwng y ddau ryw yn
gyffredinol yn sylweddol, sef 24.95%, ond bydd hyn yn gostwng yn
seiliedig ar y cynigion. Bydd hyn yn gostwng ymhellach hefyd
wrth i weithwyr symud tuag at frig y raddfa dâl newydd.
Mae gostyngiad sylweddol yn y bwlch tâl rhwng y ddau
ryw ar lefel graddfeydd unigol o ganlyniad i’r strwythur
newydd, ac nid oes raid ymchwilio ymhellach na dadansoddi mwy ar
unrhyw raddfa unigol. Pwysleisiodd nad yw’r bwlch
tâl sylweddol yn codi o’r cynigion, ond mae’n
rhan annatod o gyfansoddiad y gweithlu.
|
|
|
Ÿ
|
mae lleoliad y llinellau graddfeydd yn cael effaith ar
weithwyr benywaidd a gwrywaidd o ran y rheini sy’n agos
i’r raddfa uwchben neu islaw.
|
|
|
|
|
Agweddau Ariannol yr Adolygiad Tâl a
Graddfeydd
|
|
|
|
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol
(Cyllid) adroddiad i’r Panel ar agweddau ariannol yr
Adolygiad Tâl a Graddfeydd.
|
|
|
|
Adroddwyd bod ymarfer modelu tâl manwl
wedi’i gynnal gan ddefnyddio’r pecyn meddalwedd
Northgate Arinso (Link) a oedd yn cynnwys y mwyafrif llethol
o’r swyddi a arfarnwyd gan y Cynllun Arfarnu Swyddi.
Mae’n cynnwys swyddi fel yr oeddynt ar 31 Mawrth 2007,
ar sail “cyn gorbenion” a heb gynnwys lwfansau.
Mae’r strwythyrau arfaethedig wedi’u modelu ar
sail swyddi ac Amser Llawn Cyfatebol.
|
|
|
|
O ganlyniad i’r ymarfer arfarnu swyddi,
mae rhai newidiadau sylweddol yn nhrefn ranc swyddi, gan fod nifer
o grwpiau mawr yn mynd i fyny’r drefn. Hyn sy’n
gyrru rhan o’r cynnydd yn y costau. Mae 16% o’r
unigolion yn y model yn cael gwarchodaeth cyflog.
|
|
|
|
Mae dyluniad y strwythur newydd hefyd yn cael
effaith ar symud i fyny’r raddfa fesul increment; mae llawer
o hen swyddi maniwal ar gyflogau ‘spot’ yn cael eu
cymhathu i raddfeydd 4 neu 6 phwynt; mae rhai graddfeydd gyrfa hir
yn cael eu cymhathu i mewn i raddfa 6 phwynt; mae lefelau mynediad
yn cael eu chwyddo o bwynt 4 i bwynt 10 mewn rhai
achosion.
|
|
|
|
Mae trosiant staff dan y strwythur cyfredol
bron â bod yn wastad, gyda nifer fawr o staff ar ben uchaf y
raddfa a chyda symudiad cynyddrannol yn cael ei gydbwyso gan
ddechreuwyr newydd. Mae’r twf ar gyfartaledd yn llai na
0.5% y flwyddyn. Bydd y newid hwn yn dod â’r
cylchoedd gwyrdd (50% o’r staff) i waelod eu graddfa,
sy’n cyfateb i lefelau uchel o symudiad cynyddrannol am y pum
mlynedd nesaf - neu 9.49% fel cyfanswm.
|
|
|
|
Oherwydd nad yw lwfansau wedi’u cynnwys
yn y prif ymarfer modelu tâl, bu raid eu hystyried ar
wahân. Fel rhan o’r Adolygiad Tâl a
Graddfeydd hwn, mae’r Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol
wedi bod yn trafod nifer o newidiadau gyda’r Undebau.
Mae’r newidiadau arfaethedig i’w gweld yn y
cytundeb drafft. Nodwyd bod gan yr isod effaith
ariannol:-
|
|
|
|
Ÿ
|
Lwfansau Amrywiadwy -
Cynhaliwyd ymarfer i nodi unrhyw lwfansau sy’n cydnabod
dyletswyddau neu gyfrifoldebau sy’n cael eu sgorio yn y
broses Arfarnu fel nad ydynt yn cael eu cyfrif ddwywaith. Mae
bron i bob un o’r lwfansau amrywiol wedi’u cadarnhau.
Telir llawer o’r rhain i swyddi yn y maes gofal sydd yn
y cylchoedd gwyrdd. Rhagwelir cynnydd mewn costau yn y maes
hwn.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Lwfansau Sefydlog - Mae
yna nifer gymharol fechan o lwfansau sefydlog
perthnasol.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Amodau Gwasanaeth - Mae
ymarfer ar wahân ar amodau gwasanaeth yn arwain at nifer o
newidiadau sy’n anodd i’w hasesu. Gwelwyd bod
rhai cynigion yn rhy ddrud ac fe’u tynnwyd o’r
ddogfen.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Amodau Gwasanaeth - Goramser - Bydd trafod contract ‘unrhyw bum diwrnod
allan o saith’ yn cyfyngu’r amgylchiadau lle bydd raid
talu goramser ar gyfraddau premiwm.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Lwfansau Defnyddiwr Car -
Er nad yw hwn yn rhan greiddiol o’r pecyn tâl,
mae’r lwfansau defnyddiwr car wedi’u defnyddio fel rhan
o’r pecyn recriwtio / cadw ac, am nifer o resymau, mae angen
rhesymoli’r trefniadau cyfredol.
|
|
|
|
|
Nodwyd mai’r prif feysydd risg ariannol
yn yr ymarfer hwn yw:-
|
|
|
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Methiant i ragamcanu costau yn gywir
|
|
|
Ÿ
|
Effeithiau’r system newydd nad oes modd eu
rhagweld
|
|
|
Ÿ
|
Yr angen i dalu ychwanegiad marchnad i gadw/ recriwtio
staff
|
|
|
Ÿ
|
Methiant i gytuno ar ddyddiad gweithredu
|
|
|
Ÿ
|
Methiant i gytuno / gorfodi
|
|
|
|
|
Mae’r awdurdod wedi neilltuo adnoddau
ers nifer o flynyddoedd tuag at gostau cyffredinol yr adolygiad
tâl a graddfeydd; gan gynnwys costau gweinyddol, cost y
graddfeydd tâl newydd ac unrhyw warchodaeth ac ôl
dâl. Ar 31 Mawrth, 2009 y cyllid a oedd wedi cronni ac
sydd ar gael ar gyfer arfarnu swyddi a thâl cyfartal yw
£1.8m. Mae £0.7m ychwanegol hefyd ar gael eleni
ac mae wedi’i gynnwys yn y gyllideb sail i’r dyfodol
(2% o’r bil tâl perthnasol, gan adael 2% o’r bil
tâl uchel reolwyr ar gyfer ymarfer Hay). Daeth yn
gynyddol amlwg y bydd angen i’r Panel ddefnyddio rhywfaint
o’r £1.2m y flwyddyn o dwf sydd wedi’i adeiladu
i’r strategaeth ariannol tymor canol; rhagwelwyd hyn eisoes a
gall y Panel ofyn am ragor o gyllid sydd wedi ei ddirprwyo
i’r Pwyllgor Gwaith. Y nod yw cyllido costau gwarchod
ac ôl dâl o’r gronfa sydd wedi hel gyda chostau
parhaus yn cael eu cyllido o’r cyllidebau blynyddol. Yn
ôl y rhagdybiaethau cyfredol, mae’r gwariant unwaith ac
am byth yn fwy na’r hyn sydd yn y gronfa wrth gefn.
Fodd bynnag, oherwydd bod y cyfnod cymhathu yn weddol rhad,
mae’n bosib defnyddio’r arian wrth gefn na chafodd ei
wario eleni. Mae angen £240k ychwanegol fel eitem
unwaith ac am byth o dwf y flwyddyn nesaf.
|
|
|
|
Gellir cyllido’r costau a fodelwyd yn y
Strategaeth Ariannol Tymor Canol a gyhoeddwyd. Fodd bynnag,
maent yn tueddu i roi straen ar dwf a ragwelir yn y Strategaeth.
Mae pryderon ynghylch y twf arfaethedig yn dibynnu ar sicrhau
arbedion sylweddol bob blwyddyn. ?
|
|
|
|
Bydd cyflwyno cynllun symud i fyny’r
raddfa yn seiliedig ar allu yn lleddfu’r gost. ? Ni
fydd effaith lawn y lleddfu hwn ar gael tra bydd staff swyddi
cylchoedd coch a staff swyddi cylchoedd gwyn sy’n cael eu
cymhathu ar ben neu yn agos i frig y raddfa yn aros yn eu swyddi
cyfredol. Bydd symud i fyny sy’n seiliedig ar allu
hefyd yn golygu bod y cynllun cyfredol o symud i fyny fesul
increment (neu daliadau unwaith ac am byth) ar ôl cwblhau
cyrsiau hyfforddi’n llwyddiannus yn rhywbeth y gellir ei
gwtogi neu ei ddwyn i ben. Newid o strwythur tâl gyda
graddfeydd hir a graddfeydd cyswllt i strwythur sydd yn seiliedig
ar raddfeydd pedwar neu chwe phwynt yn dod â nifer o faterion
eraill yn ei sgil. Bydd angen adolygu fesul achos i sicrhau
bod y swyddi hyn a’r bobl sy’n gwneud y swyddi yn cael
eu trin yn briodol.
|
|
|
|
Nid yw gweithredu’r strwythur newydd ond
y cam cyntaf gyda gweithredu canlyniadau’r adolygiad.
Bydd eu sefydlu ar y rhestr gyflogau yn her. Bydd
newidiadau i reoli staff, dirprwyo cyllidebau ac ati hefyd yn
golygu buddsoddiad sylweddol yn y fframwaith newydd. O
ganlyniad bydd angen:-
|
|
|
|
Ÿ
|
Rhoi strwythur newydd ar y gyflogres;
|
|
|
Ÿ
|
Gweithredu meddalwedd AD gan gynnwys system
galluoedd;
|
|
|
Ÿ
|
Sicrhau system werthuso safonol ar draws yr
awdurdod;
|
|
|
Ÿ
|
Sicrhau hyfforddiant priodol ar gyfer rheolwyr;
|
|
|
Ÿ
|
Adolygu trefniadau dirprwyo ar gyfer cyllidebau
staffio;
|
|
|
Ÿ
|
Ailymweld ag asesiadau ariannol o opsiynau cydweithredu ac
allanoli.
|
|
|
|
|
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)
nad yw cylch gorchwyl y Panel hwn yn rhoi awdurdod iddo ymrwymo
cyllidebau ychwanegol ac eithrio i’r graddau y mae pwerau
dirprwyol penodol yn bodoli. Y Cyngor Sir sydd gyda’r
grym i ymrwymo adnoddau i’r dyfodol gyda dirprwyaeth
gyfyngedig, o fewn y strategaeth gyllidebol, i’r Pwyllgor
Gwaith. Rhagwelwyd tra’n gosod y gyllideb am eleni, y
byddai angen i’r Pwyllgor wneud penderfyniadau a
fyddai’n cynyddu bil tâl yr Awdurdod, a gwnaed hawliau
dirprwyo penodol i’r Panel. Yn ei gyfarfod ar 5 Mawrth,
2009 penderfynodd y Cyngor Sir:-
|
|
|
|
“2(dd) am y cyfnod hyd at 31
Mawrth, 2012, dirprwyo i’r Pwyllgor Gwaith y pwerau a
ganlyn:-
|
|
|
|
(i) pwerau i wneud ymrwymiadau
newydd o gyllidebau refeniw blynyddol y dyfodol hyd at uchafswm
£1.2m bob blwyddyn yn Nhabl B, gan gydymffurfio gyda
fframwaith gyllidebol.
|
|
|
|
a
|
|
|
|
2(e) “dirprwyo i’r Panel
Cyflogau a Graddfeydd am Flwyddyn Ariannol 2009/10 y pwer i wyro
o’r ddarpariaeth ar gyfer Arfarnu Swyddi a Chostau
Cyflogaeth, ac os bydd raid, gofyn am y symiau am y blynyddoedd
dilynol - rhai a ddirprwywyd i’r Pwyllgor Gwaith yn (dd)(i)
uchod. “
|
|
|
|
Gan fod y cynllun a gynigir yn gofyn am gyllid
ychwanegol sylweddol yn y dyfodol, bydd angen i’r Panel wneud
argymhelliad i’r Pwyllgor Gwaith i ryddhau cyllid.
|
|
|
|
Ar ôl ystyried yr adroddiadau a’r
cyflwyniadau gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid), y Pennaeth
Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) a Mr Pearce o Link
Consultants,
|
|
|
|
PENDERFYNWYD:-
|
|
|
|
4.1
|
cymeradwyo’r Ddogfen Cytundeb mewn egwyddor, yn
amodol ar unrhyw addasiadau a sicrhawyd gan y Pennaeth Gwasanaeth
(Gwasanaethau Corfforaethol), trwy drafodaeth bellach gyda’r
Undebau Llafur ynghylch materion teithio busnes.
|
|
|
|
|
4.2
|
ceisio cyllid ychwanegol gan y Pwyllgor Gwaith y
caniatawyd ar ei gyfer yn y Cynllun Ariannol Tymor Canol fel yr
amlinellir yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol fel bod modd
gweithredu’r cytundeb arfaethedig o fewn cynlluniau
cyllidebol yr awdurdod.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Y CYNGHORYDD IEUAN
WILLIAMS
|
|
CADEIRYDD
|
|
|