Cyngor Ymgynghorol Sefydlog at Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CYS) dogfennau , 8 Tachwedd 2004

Cyngor Ymgynghorol Sefydlog at Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CYS)
Dydd Llun, 8fed Tachwedd, 2004

CYNGOR YMGYNGHOROL SEFYDLOG AR ADDYSG GREFYDDOL

 

COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 8 TACHWEDD, 2004

 

yn breSENNOL:

Y Cynghorydd E.G.Davies (Cadeirydd)

 

Mr.Rheinallt Thomas (Eglwys Bresbyteraidd Cymru) (Is-Gadeirydd)

 

Y Cynghorwyr G.O.Jones, Robert Ll.Jones, Bryan Owen, John Williams.

 

Yr Enwadau Crefyddol

Mrs Sheila Dunning (Yr Eglwys Babyddol)

Parch.Gwynfor Williams (Yr Eglwys Fethodistaidd)

Mrs Catherine Jones (Undeb y Bedyddwyr)

 

Undebau'r Athrawon

Mrs Heledd Hearn (NASUWT)

Miss Jane Richards (N.U.T.)

Mr.John Wyn Jones (SHA)

 

WRTH LAW:

Miss Bethan James (Ymgynghorydd y Dyniaethau - Cynnal)

Swyddog Pwyllgor (ATH)

 

 

YMDDIHEURIADAU:

Y Cynghorydd Mrs B.Burns, Y Parch.Tegid Roberts (Yr Eglwys yng Nghymru), Y Parch. Irfon Jones (Undeb yr Annibynnwyr Cymraeg), Mr.Einion Williams (UCAC), Mrs Jean Pleming (Aelod Cyfetholedig), Mr.R.P.Jones (Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden), Mrs Eleri Moss (Athrawes Ymgynghorol Addysg Grefyddol)

 

 

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Cyflwynwyd a nodwyd yr ymddiheuriadau am absenoldeb a restrir uchod.

 

2

DATGAN DIDDORDEB

 

Datganodd Mr.Rheinallt Thomas ddiddordeb yn eitem 7 ar y rhaglen - Adroddiad Blynyddol Mudiad Addysg Gristnogol Cymru am 2003/04 yn rhinwedd ei swydd fel Trysorydd y mudiad.

 

3

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion cyfarfod blaenorol y CYSAG a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf, 2004. (Cyfrol y Cyngor 21 Medi 2004, tud 55)

 

Yn codi -

 

3.1

Eitem 6 - Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol - Adroddiad Blynyddol

 

Rhoddodd y Cadeirydd wybod i'r aelodau fod yr Athro Leslie Francis, Cyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol wedi cytuno i annerch cyfarfod nesaf CYSAG Ynys Môn i'w gynnal ar 7 Chwefror, 2005.

 

3.1

Eitem 9 - Arolygiadau Ysgolion

 

 

 

Yn unol â phenderfyniad y CYSAG yn ei gyfarfod blaenorol, cyflwynwyd - Copi o Gynllun Gweithredu Ôl-Arolwg Ysgol Gymuned Dwyran yn crynhoi y camau a gymerwyd gan yr ysgol mewn ymateb i fater allweddol y dynodwyd bod angen gweithredu arno mewn perthynas â chwrdd yn llawn â gofynion addoli ar y cyd dyddiol.

 

 

 

Penderfynwyd nodi'r wybodaeth a bod y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden yn parhau i fonitro'r Cynllun.

 

 

 

4

CYMDEITHAS CYSAGau CYMRU

 

 

 

Cyflwynwyd - Copi o'r papurau gogyfer cyfarfod nesaf Cymdeithas CYSAGau Cymru i'w gynnal yng Nghaerffili ar 19 Tachwedd, 2004 ynghyd â chofnodion cyfarfod y Gymdeithas a gynhaliwyd yn Llangefni ar 23 Mehefin, 2004.

 

 

 

4.1

Dygwyd sylw at wall yng nghofnodion cyfarfod y Gymdeithas a gynhaliwyd yn Llangefni ar 23 Mehefin, 2004 lle cyfeirir at y Cynghorydd Mrs B.Burns fel "Is-Gadeirydd y CYSAG" lle y dylai ddarllen "Cadeirydd y Cyngor Sir" a gofynnwyd i Mr.Rheinallt Thomas godi'r mater i'w gywiro yng nghyfarfod nesaf y Gymdeithas yng Nghaerffili.

 

4.2

Cyfeiriodd yr Is-Gadeirydd at Adroddiad y Trysorydd a gyflwynwyd i'r cyfarfod a nododd bod yr adroddiad yn argymell codi cyfradd y Tanysgrifiad Blynyddol i'r Gymdeithas o 4% fel bod pob awdurdod yng Nghymru yn talu £335 y flwyddyn.Nodwyd y wybodaeth gan aelodau'r CYSAG.

 

 

 

Penderfynwyd derbyn papurau cyfarfod nesaf Cymdeithas CYSAGau Cymru i'w gynnal yng Nghaerffili ar 19 Tachwedd, 2004 a nodi eu cynnwys.

 

 

 

5

SAFONAU CYRHAEDDIAD YN YR ARHOLIADAU ALLANOL 2004

 

 

 

Cyflwywnyd - Adroddiad gan Ymgynghorydd y Dyniaethau yn amlinellu canlyniadau disgyblion ysgolion y sir mewn arholiadau Astudiaethau Crefyddol yn 2004.

 

 

 

Nododd Ymgynghorydd y Dyniaethau y prif bwyntiau fel a ganlyn:

 

 

 

5.2

O ran arholiadau TGAU mewn Astudiaethau Crefyddol roedd y canlyniadau ar y cyfan yn dda gyda 135 o ymgeiswyr yn ymrannu'n 101 o enethod a 34 o fechgyn, sydd yn sylweddol uwch na chyfanswm ymgeiswyr y flwyddyn flaenorol, sef 87.Cafwyd amrywiaeth fawr o ran nifer yr ymgeiswyr ar sail ysgol unigol o 0 mewn un ysgol i 51 mewn ysgol arall.Roedd canlyniadau'r merched yn rhagori ar ganlyniadau'r bechgyn gyda sgôr gyfartalog y genethod (5.5) yn uwch na'u sgôr yn y pynciau eraill (5.0) a sgôr gyfartalog y bechgyn (4.5) yn cyfateb i'r sgôr gyfartalog yn y pynciau eraill (4.6).

 

5.3

Roedd canlyniadau Lefel A Astudiaethau Crefyddol yn dda eleni ac eto bu cynnydd yn y niferoedd yn sefyll yr arholiad, sef 38 o'i gymharu â 21 yn 2003 yn ymrannu'n 7 o fechgyn a 31 o enethod.Roedd sgôr gyfartalog y pwnc yn 86.3 yn erbyn 84.3 yn y pynciau eraill gyda sgôr gyfartalog y genethod (91.0) yn rhagori ar sgôr gyfartalog y bechgyn (65.7).

 

5.4

Mewn perthynas â chanlyniadau arholiadau Uwch Gyfrannol (AS) 2004, bu 41 o ymgeiswyr yn 35 o enethod a 6 bachgen.Mae'r cyfartaledd sgôr yn y pwnc yn 37.8 sy'n ychydig is na'r sgôr o 41.5 yn y pynciau eraill ac mae sgôr gyfartalog y genethod (35.7) yn ychydig is na'u sgôr yn y pynciau eraill (39.7) tra bod sgôr gyfartalog y bechgyn (50.0) yn cyfateb i'r sgôr gyfartalog yn y pynciau eraill (50.0).

 

 

 

Ychwanegodd Ymgynghorydd y Dyniaethau y credai fod lle i ymfalchio yn y ffaith fod y pwnc mor boblogaidd yn Ynys Môn a bod y canlyniadau yn dda.Dygodd sylw hefyd at y ffaith fod un ysgol yn gwneud darpariaeth gogyfer y Cwrs Byr Astudiaethau Crefyddol a bod 18 o ddisgyblion yn yr ysgol honno wedi dilyn y cwrs.Parthed y Cwrs Uwch Gyfrannol, caiff disgyblion y cyfle i ddewis rhagor o opsiynau yn awr ac mae cyfle iddynt dderbyn cydnabyddiaeth am waith blwyddyn cyn canolbwyntio ar feysydd penodol yn ail flwyddyn y chweched dosbarth, ac fe adlewyrchir hynny yn y canlyniadau fel ag a nodir yng nghymal 5.4 uchod.

 

 

 

Yn y drafodaeth ddilynol codwyd cwestiwn ynglyn â'r nifer sydd yn sefyll yr arholiadau trwy gyfrwng y Gymraeg a gofynnwyd i Ymgynghorydd y Dyniaethau ymchwilio i mewn i hynny ac adrodd yn ôl gyda'r wybodaeth.Holwyd hefyd ynglyn â'r rhesymau pam mae bechgyn yn gollwng y pwnc yn gynharch na'r merched gydag ond 7 o fechgyn yn sefyll yr arholiad Lefel A o'i gymharu â 31 o ferched.

 

 

 

Ymatebodd Ymgynghorydd y Dyniaethau bod ysgolion yn darparu bwydlen eang iawn o bynciau ôl-16 bellach a bod yna ddadl o du'r ffaith fod rhai pynciau wedi'u strwythuro'n well ar gyfer dulliau bechgyn o ddysgu, h.y. eu bod yn fwy ymarferol eu cynnwys.Dywed dadl arall fod bechgyn yn ei chael yn anos na merched i fynd i'r afael ag Addysg Grefyddol oherwydd fod y pwnc yn rhoi pwyslais ar ddadansoddi teimladau ac emosiwn ac ar ysbrydolrwydd sydd yn tynnu'n groes i natur bragmataidd bechgyn o feddwl ac ymdrin â phethau.

 

 

 

Nodwyd bod y ffaith fod llai o fechgyn yn dilyn Astudiaethau Crefyddol hyd at lefel uwch yn nodwedd hir sefydlog sydd yn cael ei hail-adrodd ar lefel cenedlaethol ac nad oes modd ei phriodoli i unrhyw reswm unigol.

 

 

 

Nodwyd hefyd ei fod yn berthnasol ystyried y nifer o fechgyn sydd yn dilyn Astudiaethau Crefyddol mewn colegau addysg bellach nad yw'n gynwysiedig yn yr ystadegau uchod.Yn y cyswllt hwn gofynnwyd a ystyrir fod y niferoedd sydd yn dilyn y pwnc yn ddigonol i ddiogelu ei ddyfodol yng ngoleuni trefniadau cyllido Elwa ar gyfer addysg ôl-16.

 

 

 

Cytunwyd fod y pwynt uchod yn un dilys a pherthynol a'i fod yn fater fu'n destun trafodaeth lawn gan y CYSAG peth amser yn ôl yng nghyd-destun cyrsiau AS.Nodwyd nad yw'n bosibl cyplysu dosbarthiadau 6ed isaf a 6ed uchaf gyda'i gilydd oherwydd natur y cyrsiau, felly er mwyn sicrhau hyfywdra'r pwnc yn y chweched dosbarth mae'n rhaid cael nifer digonol i greu grwp Cymraeg a grwp Saesneg Lefel A ynghyd â grwp Cymraeg a grwp Saesneg Uwch Gyfrannol.Y pryder ar y pryd oedd y byddai yna danseilio statws pynciau lleiafrifol yn y chweched dosbarth.O ystyried ansicrwydd parhaol y sefyllfa awgrymwyd y byddai'n fanteisiol gofyn i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden ymchwilio i mewn i effeithiau posibl cyllideb newydd Elwa ar grwpiau Astudiaethau Crefyddol ôl-16 ac adrodd yn ôl i gyfarfod nesaf y CYSAG pryd bydd y dangosydd o gyllideb Elwa yn debygol o fod yn hysbys i'r Cyngor Sir.

 

 

 

Penderfynwyd -

 

 

 

5.5

Derbyn adroddiad Ymgynghorydd y Dyniaethau ynglyn â chanlyniadau disgyblion y sir mewn arholiadau allanol yn ystod 2004, gan ddiolch i staff yr ysgolion a'u disgyblion am eu gwaith a'u hymroddiad.

 

5.6

Gofyn i Ymgynghorydd y Dyniaethau ganfod nifer y disgyblion a safodd arholiadau Astudiaethau Crefyddol trwy gyfrwng y Gymraeg ac adrodd yn ôl i'r CYSAG.

 

5.7

Gofyn i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden ymchwilio i mewn i effeithiau posibl cyllideb newydd Elwa ar grwpiau Astudiaethau Crefyddol ôl-16 ac adrodd yn ôl i gyfarfod nesaf y CYSAG.

 

 

 

6

DATBLYGIAD YSBRYDOL DISGYBLION YNYS MÔN

 

 

 

Rhoddodd Ymgynghorydd y Dyniaethau gyflwyniad ar yr ystyriaethau ynghlwm wrth ddatblygiad ysbrydol disgyblion ysgolion y sir.

 

 

 

Amlinellodd Ymgynghorydd y Dyniaethau gefndir yr uchod trwy nodi fod Prif Arolygydd Estyn yn cyhoeddi adroddiad blynyddol ar safonau addysg yng Nghymru ar sail y wybodaeth a ddaw o arolygiadau ysgolion.Bu i Brif Weithredwr Cynnal wneud sylw yn ei adroddiad blynyddol ar y Gwasanaeth Addysg ym Môn am 2003/04 nad oedd yr arfarniad o ddatblygiad ysbrydol disgyblion Ynys Môn cystal â'r cyfryw safonau ar lefel Cymru ac er y dyfarnwyd yr agwedd hon o addysg disgyblion Ynys Môn yn dda neu'n dda iawn mewn dros hanner yr ysgolion a arolygwyd yn y flwyddyn honno, roedd y ffaith bod y gweddill wedi'u dyfarnu'n foddhaol yn unig yn fater i roddi sylw iddo.Pwysleisiodd Ymgynghorydd y Dyniaethau mai ond carfan fechan o ysgolion y cyfeirir atynt, sef 8 neu 9 ysgol.

 

 

 

Aeth Ymgynghorydd y Dyniaethau rhagddi i esbonio'r gwahanol ffyrdd a ddefnyddir i feithrin ysbrydolrwydd disgyblion fel a ganlyn:

 

 

 

6.1

Wrth gyfeirio at ddatblygu ysbrydolrwydd disgybl, golygir ei annog i feddwl am, ac i wneud synnwyr o brofiadau bywyd, megis rhyfeloedd, argyfyngau, dioddefaint ac yn y blaen.Hybir gallu disgyblion i ddatblygu atebion i gwestiynau sylfaenol megis a oes bywyd ar ôl marwolaeth, beth sydd yn iawn, pam yr wyf i yma?, beth yw pwrpas bywyd? Golyga hefyd annog plentyn i ddatblygu cred bersonol a gwerthfawrogi bod gan eraill efallai gred gwahanol.

 

6.2

Agwedd arall ar ysbrydolrwydd yw bod â'r gallu i brofi rhyfeddod a dirgelwch ac mae athrawon yn gwneud gwaith da iawn gyda disgyblion i'w cael i ymateb i'r profiad o harddwch a rhyfeddod, a bod yn ymwybodol o ddirgelwch bywyd a'r greadigaeth.

 

6.3

Mae'n bwysig bod plant yn gallu gwneud synnwyr o berthynas ddynol, nid yn unig ar lefel teulu, ffrindiau a chymdogion ond ar lefel pentref, gwlad a dinasyddiaeth byd eang.Mae'n bwysig eu bod hefyd yn gallu gwneud synnwyr o'r berthynas gyda Duw a pharchu fod rhai unigolion wedi magu perthynas gyda Duw mewn gwahanol ffordd. Yn ogystal, anogir disgyblion i ymateb i brofiadau sydd yn eu herio.

 

6.4

Rhan o gyfraniad allweddol Addysg Grefyddol i'r cwricwlwm a hefyd i wasanaethau eraill yw annog disgyblion yn y pen draw i fod yn nyrsys, yn ofalwyr, yn athrawon, yn weithwyr cymdeithasol ac yn feddygon a thrwy llwybrau gyrfaol o'r fath bod yn gefn ac yn gysur i eraill hyd yn oed os nad oes ganddynt eu cred personol eu hunain.

 

6.5

Mae'r Maes Llafur Cytun yn cynnig arweiniad i athrawon ynglyn â chyflwyno Addysg Grefyddol a thrwy hynny, hyrwyddo datblygiad ysbrydol a moesol disgyblion.Ymwna Addysg Grefyddol a â pherthnasedd â phobl eraill; â phrofiadau sylfaenol bywyd megis marwolaeth a dioddefaint.Mae hefyd yn gysylltiedig â'r angen i ymchwilio am ystyr a phwrpas mewn bywyd.

 

6.6

Mae'r gwaith cefnogol a wneir gan Cynnal yn cynnwys rhoi sylw ym mhob cwrs hyfforddi i Darged Cyrhaeddiad 3 sydd yn ymwneud â gwerthuso ac ymateb i grefydd a phrofiadau bywyd a dangos sgiliau dehongli, cwestiynu a thrafod.Mae ymweliadau ysgol diweddar wedi canolbwyntio yn arbennig ar yr agwedd hon o'r addysgu.Anogir gwneud defnydd o"amser cylch" ac o fedrau meddwl er mwyn annog disgyblion i fynegi barn ac i drafod cwestiynau mawr bywyd.

 

 

 

Diolchwyd i Ymgynghorydd y Dyniaethau am gyflwyniad diddorol a meddylgar a gwnaethpwyd y sylw ei fod bellach yn ddisgwyliad gan Estyn bod datblygiad ysbrydol, moesol a diwylliannol disgyblion yn cael ei weithredu trwy'r ysgol gyfan trwy gyfrwng pob pwnc ac na fod yr agwedd hon o addysgu plant yn cael ei gyfyngu i Addysg Grefyddol yn unig.

 

      

 

     Penderfynwyd diolch i Ymgnghorydd y Dyniaethau am ei chyflwyniad gan nodi'r wybodaeth ynglyn â datblygiad ysbrydol disgyblion Ynys Môn.

 

      

 

7

MUDIAD ADDYSG GRISTNOGOL CYMRU

 

      

 

     Cyflwynwyd - Adroddiad Blynyddol Mudiad Addysg Gristnogol Cymru am y flwyddyn 2003/04.

 

      

 

     Rhoddodd yr Is-Gadeirydd wybod i aelodau'r CYSAG am gyhoeddiadau Mudiad Addysg Gristnogol Cymru gogyfer ysgolion ar destunau yn ymwneud ag Addysg Grefyddol a nododd bod y mudiad bob tro yn agored i dderbyn awgrymiadau ynglyn â deunyddiau yn y Gymraeg a'r Saesneg all fod o gymorth i ysgolion wrth addysgu'r pwnc.

 

      

 

     Roedd aelodau'r CYSAG yn gytun fod y Mudiad yn cyflawni gwaith cefnogol gwerthfawr a mynegasant eu cefnogaeth iddo.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn Adroddiad Mudiad Addysg Gristnogol Cymru am 2003/04 a nodi ei gynnwys.

 

      

 

8

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYSAG YNYS MÔN

 

      

 

     Cyflwynwyd - Adroddiad Blynyddol drafft CYSAG Ynys Môn am y flwyddyn 2003/04.

 

      

 

     Awgrymwyd y diwygiadau canlynol i'r adroddiad:

 

      

 

8.1

Newid y cyfeiriadau trwy'r adroddiad at "Miss Heledd Hearn" i ddarllen "Mrs Heledd Hearn";

 

8.2

dileu cymal 2.3.2. yn y fersiwn Gymraeg sydd yn cael ei ail adrodd;

 

8.3

newid pwynt bwled 7 cymal 3.3 sy'n darllen roedd sgôr gyfartalog y pwnc ychydig yn na phynciau eraill i ddarllen roedd sgôr gyfartalog y pwnc ychydig yn uwch na phynciau eraill;

 

8.4

cywiro'r achos o gamsillafu'r gair disgyblion ym mhwynt bwled olaf cymal 2.3.3 y fersiwn Gymraeg;

 

8.5

cywiro'r achos o gamdreiglo'r gair cyfraniad yng nghymal 2.5 y fersiwn Gymraeg;

 

8.6

dileu'r cyfeiriad at Mr.Rheinallt Thomas fel Cadeirydd Cymdeithas CYSAGau Cymru yng nghymal 4.1 fersiwn Saesneg yr adroddiad;

 

8.7

ychwanegu enw'r Cynghorydd G.O.Jones at restr cynrychiolwyr yr Awdurdod Addysg Lleol yng nghymal 5.1 fersiwn Saesneg yr adroddiad a dileu enw'r Cynghorydd R.J.Jones yn y Gymraeg a'r Saesneg.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn fersiwn ddrafft Adroddiad Blynyddol CYSAG Ynys Môn am 2003/04 yn ddarostyngedig i'r diwygiadau a nodir uchod.

 

      

 

9

AROLYGIADAU YSGOLION

 

      

 

     Cyflwynwyd - Gwybodaeth o dan Adran 10 Deddf Arolygu Ysgolion 1996 am gynnwys y rhannau perthnasol hynny o adroddiadau arolwg mewn perthynas ag Ysgol Gynradd Llanfawr; Ysgol Y Borth; Ysgol Rhosneigr; Ysgol Gynradd Kingsland; Ysgol Gymraeg Morswyn ac Ysgol Uwchradd Bodedern.

 

      

 

     Gwnaed y sylwadau canlynol ar y wybodaeth a gyflwynwyd uchod:

 

      

 

9.1

Nodwyd bod yna sawl cyfeiriad at arwynebolrwydd ymwybyddiaeth disgyblion o grefyddau eraill a gofynnwyd a oedd hwn yn fater i bryderu yn ei gylch.

 

      

 

     Ymatebodd Ymgynghorydd y Dyniaethau fod y pwynt hwn yn un cyffredinol o safbwynt y sector cynradd a nododd er fod athrawon yn hyderus wrth addysgu Cristnogaeth nid ydynt bob amser mor hyderus wrth addysgu agweddau o grefyddau eraill.Er mwyn ymateb i hyn cynhaliwyd cwrs hyfforddi gogyfer athrawon yn ddiweddar o dan arweiniad athrawes sydd wedi arbenigo mewn addysgu Iddewiaeth ac Hindwiaeth.Hefyd, yn ystod y cyrsiau hyfforddi 5 diwrnod ceisir trefnu ymweliad â sefydliadau addoli crefyddau eraill megis y Mosg ym Mangor neu'r Synagog yn Lerpwl.Yn ogystal, mae adroddiadau arolygiadau yn ddiweddar yn cyfeirio'n aml at y defnydd o arteffactau fel nodwedd i'w chanmol ac ymatebwyd yn y cyrsiau hyfforddi i hyn trwy gynnig arweiniad ar eu cynnwys mewn gwersi.Mae prynu arteffactau crefyddol yn gostus yn arbennig i ysgol llai ei maint a manteisir felly ar gasgliadau yn yr ysgolion uwchradd ac ar wasanaeth benthyg y Ganolfan Addysg Grefyddol ym Mangor.

 

9.2

Cyfeiriwyd gydag anfodlonrwydd at anghysondeb rhai o sylwadau'r arolygwyr yn enwedig mewn perthynas â'r Maes Llafur Cytun Lleol a gwybodaeth o grefyddau eraill, a nodwyd bod arolygwyr mewn rhai achosion yn canmol yr ysgol am ddilyn y Maes Llafur Cytun yn  dda tra'n beirniadau'r ysgol wedyn am arwynebolrwydd y wybodaeth sydd gan ddisgyblion grefyddau eraill a bod yna ddiffyg o ran cymharu Cristnogaeth â chrefyddau eraill.Mae'r Maes Llafur Cytun Lleol yn cynghori bod disgyblion yn astudio un crefydd arall ond nid mwy na dau i ddyfnder ym mhob cyfnod allweddol ond nid yw yn gofyn iddynt gymharu na chyferbynnu crefyddau.

 

9.3

Nodwyd gyda phryder bod yr arolygydd wedi dyfarnu safonau Addysg Grefyddol 6ed dosbarth yn Ysgol Uwchradd Bodedern yn anfoddhaol, a'i fod wedi nodi ymhlith diffygion eraill yn y maes yn y cyfnod hwn, bod y ddarpariaeth ar gyfer y pwnc yn gyfyngedig.

 

      

 

     Nododd cynrychiolydd SHA a Phennaeth Ysgol Uwchradd Bodedern y dymunai ymateb i'r adroddiad arolygiad yn ymwneud ag Addysg Grefyddol yn yr ysgol fel a ganlyn:

 

      

 

9.3.1

Bod yr ysgol yn llunio cynllun gweithredu mewn ymateb i'r adroddiad arolygiad a byddai hwnnw yn y lle cyntaf yn fater trafod gan y corff llywodraethu.

 

9.3.2

Mai detholiad bychan 5 tudalen allan o adroddiad 68 tudalen a gyflwynir gerbron y CYSAG uchod ac mae'r detholiad hwnnw yn cyfleu darlun anghynrychioladol o

 

      

 

     wendidau a beirniadaeth.Mae'n cyfeirio at safonau yn Addysg Grefyddol (y pwnc statudol di-gymhwyster) a safonau yn Astudiaethau Crefyddol (y pwnc a ddilynir hyd at lefel cymhwyster TGAU, Lefel A ac Uwch Gyfrannol) ond nid yw'n cynnwys dyfarniad yr arolygwr o safon yr addysgu, sef gwaith yr athrawon.

 

9.3.3

O ran Addysg Grefyddol statudol roedd yr arolygwr o'r farn bod safonau yn CA3 yn dda a'r addysgu hefyd yn dda; yn CA4 roedd y safonau yn dda a'r addysgu yn dda iawn.O ran Astudiaethau Crefyddol dyfarnwyd y safonau yn CA4 yn dda a'r addysgu yn dda iawn ac yn CA5 roedd y safonau yn dda a'r addysgu yn dda.Un agwedd a gafodd ei beirniadu oedd Addysg Grefyddol yn CA5 a chyfrifoldeb y Pennaeth Ysgol a'r corff llywodraethu yw hynny.

 

9.3.4

Fodd bynnag, nid yw'r rhesymau am y feirniadaeth hon yn eglur oherwydd bu'r ysgol yn destun arolygiad yn 1997 ac ni fu beirniadaeth o Addysg Grefyddol yn y cyfnod  bryd hynny.Ers 1997, nid yw'r swyddogion addysg na'r ymgynghorwyr addysg wedi nodi bod y ddarpariaeth yn annerbyniol a bernir bod nifer o ysgolion ar draws Cymru yn yr un sefyllfa, o'r safbwynt nad ydynt yn cynnig mwy o ddarpariaeth nag Ysgol Uwchradd Bodedern.

 

9.3.5

At hynny, mae yna fygythiad cyllidol o du Elwa i'r chweched dosbaeth.Fe all symudiad i orfodi disgyblion 16-19 ddilyn cwrs Addysg Grefyddol dwys yn yr ysgol eu gyrru i golegau addysg bellach lle nad oes unrhyw ddarpariaeth ar gyfer Addysg Grefyddol na gwasanaethau boreol.Nid oes gwarantu ychwaith y bydd Elwa yn barod i gyllido  ysgolion am gyflwyno Addysg Grefyddol fel pwnc gyrfaol, ac ymhellach nid yw'r cwricwlwm fel ag y mae yn caniatau cyflwyno pwnc arall.

 

      

 

     Cafwyd trafodaeth ddilynol ynglyn â'r tensiynau rhwng y gofyn ar ysgolion i ddarparu Addysg Grefyddol statudol chweched dosbarth a gallu ysgolion i gwrdd â'r gofynion yn llawn o ran amser a chyllid.Nododd Ymgynghorydd y Dyniaethau yn y cyswllt hwn bod Ymgynghorwyr Addysg Cymru yn gohebu gydag Elwa mewn perthynas â chael esboniad o'r gyllideb gogyfer dosbarthiadau chweched dosbarth.

 

      

 

     Dygodd y Cadeirydd sylw'r CYSAG at yr angen i enwebu cynrychiolydd o blith Undebau'r Athrawon i fynychu cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru yng Nghaerffilli ar 19 Tachwedd yn lle Mrs Heledd Hearn a oedd yn methu â bod yn bresennol oherwydd ymrwymiadau yn yr ysgol ar y diwrnod hwnnw.

 

      

 

     Nodwyd ei bod yn gynyddol anodd i rhyddhau athrawon i fynychu cyfarfodydd o'r fath oherwydd ymrwymiadau dysgu a byddai'r sefyllfa yn dwysau yn 2005 gyda chyflwyniad yr amodau gwaith newydd.Cytunwyd y byddai cynrychiolydd o blith aelodau Undebau'r Athrawon ar y CYSAG yn mynychu'r cyfarfod pe byddai'n bosib.

 

      

 

     Penderfynwyd -

 

      

 

9.4

Derbyn yr adroddiadau arolwg mewn perthynas â'r ysgolion a nodwyd, a nodi eu cynnwys.

 

9.5

Bod copi o Gynllun Ôl-Arolwg Ysgol Uwchradd Bodedern yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y CYSAG.

 

      

 

                         Cynghorydd E.G.Davies

 

                                                                         Cadeirydd