Cyngor Ymgynghorol Sefydlog at Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CYS) dogfennau , 7 Chwefror 2005

Cyngor Ymgynghorol Sefydlog at Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CYS)
Dydd Llun, 7fed Chwefror, 2005

CYNGOR YMGYNGHOROL SEFYDLOG AR ADDYSG GREFYDDOL

 

COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 7 CHWEFROR, 2005

 

yn breSENNOL:

Cynghorydd E.G.Davies (Cadeirydd)

 

Cynghorwyr  Mrs B.Burns, G.O.Jones, R.Llewelyn Jones, Bryan Owen, John Williams.

 

Yr Enwadau Crefyddol

Y Parch.Tegid Roberts (Yr Eglwys yng Nghymru)

Mr.Stephen Francis Roe (Yr Eglwys Fethodistaidd)

Mrs Catherine Jones (Undeb y Bedyddwyr)

 

Undebau'r Athrawon

Mrs Heledd Hearn (CGYF/UA)

Miss Jane Richards (UCA)

Mr.John Wyn Jones (CPU)

Miss Mefys Jones (UCAC)

 

Aelod Cyfetholedig

Mrs Jean Pleming

 

 

WRTH LAW:

Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden

Mrs Eleri Moss (Athrawes Ymgynghorol Addysg Grefyddol)

Swyddog Pwyllgor (ATH)

 

 

YMDDIHEURIADAU:

Mr.Rheinallt Thomas (Eglwys Bresbyteraidd Cymru) (Is-Gadeirydd), Y Parch.Irfon Jones (Undeb yr Annibynnwyr Cymraeg), Miss Bethan James (Ymgynghorydd y Dyniaethau), Cynghorydd J.M.Davies (Deilydd Portffolio Addysg)

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

Mr.Gareth Williams (Prif Weithredwr Cwmni Cynnal) (ar gyfer eitem 4)

 

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso cynnes i'r cyfarfod i Mr.Stephen Francis Roe ac i Fiss Mefys Jones a oeddent ill dau yn bresennol am y tro cyntaf mewn cyfarfod o CYSAG Ynys Môn, y naill ar ran yr Eglwys Fethodistaidd a'r llall ar ran Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru.Rhoes groeso hefyd i Mr.Gareth Williams, Prif Weithredwr Cwmni Cynnal a oedd yn bresennol gogyfer eitem 4 ar raglen y cyfarfod.

 

 

1

YMDDIHEURIADAU

      

Cyflwynwyd a nodwyd yr ymddiheuriadau am absenoldeb a restrir uchod.

      

      

2

COFNODION

      

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion cyfarfod blaenorol y Cyngor Ymgynghorol a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd, 2004 - Cyfrol y Cyngor 09.12.2004 - tud 96 - 101

Yn codi -    

      

2.1

Eitem 3.1 - Eitem 6 - Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol - Adroddiad Blynyddol

      

Cadarnhaodd y Cadeirydd byddai'r Athro Leslie Francis yn cyfarch cyfarfod nesaf o'r CYSAG yn awr ar ddyddiad i'w gadarnhau.

      

2.2

Eitem 5 - Safonau Cyrhaeddiad yn yr Arholiadau Allanol 2004

      

2.2.1

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden at gais a wnaed gan y CYSAG yn ei gyfarfod blaenorol am wybodaeth ynglyn â nifer y disgyblion a safodd arholiadau Astudiaethau Crefyddol trwy gyfrwng y Gymraeg, a nododd bod yr ystadegau fel a ganlyn:

 

      

 

     Arholiad Lefel A

 

      

 

     Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch

 

     4 disgybl wedi sefyll yr arholiad trwy gyfrwng y Gymraeg, a 9 disgybl wedi sefyll yr arholiad trwy gyfrwng y Saesneg

 

      

 

     Ysgol Gyfun Llangefni

 

     14 disgybl wedi sefyll yr arholiad trwy gyfrwng y Saesneg

 

      

 

     Ysgol Uwchradd David Hughes, Porthaethwy

 

     2 ddisgybl wedi sefyll yr arholiad trwy gyfrwng y Saesneg

 

      

 

     Ysgol Uwchradd Bodedern

 

     9 disgybl wedi sefyll yr arholiad trwy gyfrwng y Gymraeg

 

      

 

     Cyfanswm o 13 o ddisgyblion wedi sefyll yr arholiad trwy gyfrwng y Gymraeg a 25 o ddisgyblion wedi ei sefyll trwy gyfrwng y Saesneg.

 

      

 

     Arholiad Uwch Gyfrannol

 

      

 

     Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch

 

     7 disgybl wedi sefyll yr arholiad trwy gyfrwng y Gymraeg, a 4 wedi sefyll yr arholiad trwy gyfrwng y Saesneg

 

      

 

     Ysgol Gyfun Llangefni

 

     16 disgybl wedi sefyll yr arholiad trwy gyfrwng y Saesneg

 

      

 

     Ysgol Uwchradd David Hughes, Porthaethwy

 

     2 wedi sefyll yr arholiad trwy gyfrwng y Gymraeg, a 7 wedi sefyll yr arholiad trwy gyfrwng y Saesneg

 

      

 

     Ysgol Uwchradd Bodedern

 

     5 disgybl wedi sefyll yr arholiad trwy gyfrwng y Gymraeg

 

      

 

     Cyfanswm o 14 o ddisgyblion wedi sefyll yr arholiad trwy gyfrwng y Gymraeg a 27 o ddisgyblion wedi ei sefyll trwy gyfrwng y Saesneg.

 

      

 

     Roedd y wybodaeth uchod ar gael yn ysgrifenedig i'r sawl a ddymunai ei gael.

 

      

 

     Penderfynwyd nodi'r ystadegau uchod gan ddiolch i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden am y wybodaeth.

 

      

 

2.2.2     Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden at benderfyniad 5.7 gan y CYSAG o dan y pennawd uchod ynglyn ag effeithiau posib cyllideb newydd ELWa ar grwpiau Astudiaethau Crefyddol ôl-16, a nododd bod hyn yn fater cymhleth. Derbyniwyd cadarnhad bellach o ddyraniad ELWa gogyfer addysg chweched dosbarth ym Môn ac mae'r swm hwnnw £112k yn llai na'r swm a ddyrannwyd y llynedd, er bod nifer y disgyblion sydd yn y chweched dosbarth yn ysgolion uwchradd y sir wedi cynyddu.Bydd y gostyngiad yn y dyraniad yn anorfod yn cael effaith ar natur y ddarpariaeth ac ar allu ysgolion i gynnig amrediad eang o gyrsiau.Roedd yn gonsyrn gan y CYSAG yn ei gyfarfod blaenorol os yw ELWa am symud tuag at gyfundrefn gyfartal o gyllido addysg ôl-16, fod gofyn ar ysgolion i ddarparu profiadau Addysg Grefyddol i'w disgyblion tra nad oes yr un gofyn yn syrthio ar golegau addysg bellach; mae'r gofynion ar ysgolion felly yn uwch a fwy beichus ond nid yw hyn yn cael eu cydnabod yn gyllidol.Rhydd ELWa esboniad trwy nodi fod ei sustem gyllido yn seiliedig ar gredydau a bod nifer disgyblion yn cael eu trosi yn nifer credydau a bod darpariaeth gogyfer Addysg Grefyddol yn gynwysiedig yn yr Uned Addysg Bersonol. Rhaid cofio fod hwn yn gyfnod o drawsnewid i addysg a hyfforddiant ôl-16 ar ôl i'r cyfrifoldeb amdano ddod i ran ELWa ac ni fydd y fformiwla cyllido genedlaethol yn cael ei weithredu'n llawn am 5 mlynedd.Mae o'n fater y dylid cadw gorychwyliaeth arno i'r dyfodol.

 

      

 

     Y pryder penodol o ran Ynys Môn yw bod dyraniad ariannol 2005/06 i'r ysgolion uwchradd gogyfer addysg chweched dosbarth yn llai tra bod nifer y disgyblion yn y chweched dosbarth ar gynnydd.Bu i Brif Weithredwr ELWa ymweld ag Ynys Môn yn ddiweddar i gynnal trafodaeth gydag Arweinydd y Cyngor ac fe fu i'r Awdurdod gyfleu iddo bryd hynny ei bryderon ynglyn ag annhegwch y trefniadau cyllido cyfredol.

 

 

 

Penderfynwyd nodi'r sefyllfa gyfredol ynglyn â threfniadau cyllido newydd ELWa gan ddiolch i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden am y wybodaeth.

 

 

 

2.3     Eitem 9 - Arolygiadau Ysgolion

 

      

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden wybod i'r CYSAG  bod yr Awdurdod wedi cynnal trafodaeth gydag Ysgol Uwchradd Bodedern ynglyn â llunio cynllun ôl arolwg yn dilyn beirniadaeth gan yr Arolygydd o safonau Addysg Grefyddol chweched   dosbarth yr ysgol ynghyd â'r amser sydd yn cael ei neilltuo i'r pwnc, a bod yr ysgol wedi ymateb yn llawn.Yn ogystal gwyntyllwyd y mater mewn Grwp Penaethiaid0 Uwchradd Ynys Môn a rhoddwyd ystyriaeth i ddarpariaeth Addysg Grefyddol a'r amser a ddynodir ar ei gyfer a'r pwysau sydd ar ysgolion yn hyn o beth a bwriedir parhau gyda'r drafodaeth honno.Bydd Ymgynghorydd y Dyniaethau hefyd yn rhoddi0 sylw i'r mater a bernir mai priodol fyddai adrodd yn ôl yn llawn i'r CYSAG ar derfyn y gwaith hwn.

 

      

 

Bydd Ysgol Uwchradd Bodedern yn parhau gyda'r ddarpariaeth Addysg Grefyddol bresennol ac ni fydd yna newid yn y ddarpariaeth ar gyfer Medi 2005.

 

      

 

Penderfynwyd nodi'r sefyllfa a derbyn y wybodaeth a gyflwynwyd ynglyn â chynnydd y gwaith ôl-arolwg yn Ysgol Uwchradd Bodedern.

 

      

 

3

CYMDEITHAS CYSAGau CYMRU

 

      

 

Cyflwynwyd er gwybodaeth aelodau'r CYSAG, gofnodion cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd yng Nghaerffili ar 19 Tachwedd, 2004 ynghyd â'r rhaglen gogyfer cyfarfod nesaf y Gymdeithas i'w gynnal ym Merthyr Tudful ar 25 Chwefror.

 

      

 

Penderfynwyd derbyn y ddogfennaeth a nodi ei chynnwys.

 

           

 

4

TREFN AROLYGU NEWYDD - GOHEBIAETH EGLWYS BRESBYTERAIDD CYMRU

 

      

 

Cyflwynwyd - Gohebiaeth ddyddiedig 11 Tachwedd, 2004 oddi wrth Ysgrifennydd Desg Addysg0 Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn gofyn i'r CYSAG sut y bwriadai weithredu ei ddyletswyddau mewn perthynas â monitro0 Addysg Grefyddol ac Addoli ar y Cyd yn ysgolion y sir yng ngoleuni cyflwyno'r drefn newydd o arolygu ysgolion.Yn y llythyr dywed yr Ysgrifennydd Desg Addysg bod Eglwys Bresbyteraidd Cymru fel enwad wedi ysgrifennu at y Prif Arolygydd ym mis Awst yn gofyn am ei hymateb a bu iddi hi ymateb yn llawn gan gynnig awgrym ymarferol hefyd ynglyn â ffordd bosibl o symud ymlaen.

 

      

 

4.1

Bu i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden amlinellu'r cefndir i'r mater uchod fel a ganlyn:

 

      

 

4.1.1

Mai'r drefn a fabwysiadwyd ym Môn, ac a weithredwyd yn gyson ers 1996 yw i'r CYSAG dderbyn rhannau perthnasol o adroddiadau Arolygiad dan Adran 10 ac Adran 23 lle bo hynny'n berthnasol, o Ddeddf Arolygu Ysgolion 1996.Mae'r rhannau hynny wedi cynnwys yn arferol yr adran benodol ar addysg grefyddol o fewn y cwricwlwm, y rhannau sy'n ymwneud â datblygiad diwylliannol, moesol, ysbrydol a chymdeithasol y disgyblion, ynghyd ag unrhyw brif ganfyddiadau a materion i weithredu arnynt a gofnodwyd gan yr Arolygwr Cofrestredig.

 

4.1.2

Pan fo mater i weithredu arno yn berthnasol i ddyletswyddau a chyfrifoldebau CYSAG, trefnwyd i'r Cynllun Gweithredu Ôl-Arolwg gael ei gyflwyno i'r aelodau, gan adrodd dros gyfnod ar y camau a gymerwyd i ymateb i'r sefyllfa.Yn ystod y cyfnod ers 1996, bu CYSAG yn gohebu'n gyson gydag ysgolion y sir mewn perthynas â'u hadroddiadau arolygiadau - a hynny gan amlaf i'w llongyfarch ar safonau gwaith a'u cyflawniadau neu, mewn lleiafrif o achosion, i gynnig cefnogaeth a chymorth i wella'r ddarpariaeth.

 

4.1.3

O Fedi, 2004, cafwyd newid yn y drefn o arolygu ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig yng Nghymru.Cyflwynwyd proses newydd o hunan arfarniad ysgol statudol, sydd yn rhagflaenu'r arolygiad gan arolygwyr allanol ac sy'n rhan greiddiol bellach o'r broses arolygu ei hun.Yn dilyn hunan arfarniad ysgol, gall ysgol dderbyn un o dri math o arolygiad sef arolwg llawn ar y patrwm traddodiadol, arolwg canolig lle bydd Estyn yn nodi ymlaen llaw'r agweddau sydd i dderbyn sylw, neu arolwg byr fydd yn canolbwyntio ar brif faterion rheolaethol a lle nis adroddir ar ganfyddiadau mewn perthynas â'r pynciau cwricwlwm.

 

4.1.4

Yng ngoleuni'r newid uchod yn y drefn arolygu, gofynnir i aelodau'r CYSAG ystyried sut maent yn dymuno parhau i weithredu eu dyletswyddau monitro addysg grefyddol ac addoli ar y cyd yn yr ysgolion, gan awgrymu eu bod yn ystyried rhoi sylw yn y dyfodol i'r rhannau perthnasol o'r adroddiad hunan arfarniad ysgol gan barhau i dderbyn adroddiadau Adran 10 lle bo hynny'n briodol.

 

      

 

4.2

Bu i Mr.Gareth Williams, Prif Weithredwr Cwmni Cynnal ac Uwch Ymgynghorydd Addysg yr Awdurdod roddi'r cyflwyniad canlynol i'r aelodau ar y drefn hunan-arfarnu ysgol a'r drefn arolygu newydd er mwyn eu cynorthwyo i ystyried sut orau i ymgymryd â'u dyletswyddau monitro at y dyfodol:

 

      

 

4.2.1

Y prif newidiadau rhwng y drefn gynt a'r drefn newydd a gyflwynwyd ym Medi, 2004 yw bod y drefn newydd  -

 

      

 

Ÿ     yn rhoddi rhagor o bwyslais ar brofiadau a chyflawniadau disgyblion;

 

Ÿ     yn rhoddi ffocws cryf ar hunan arfarniad ysgol;

 

Ÿ     yn cyflwyno cyfres o arolygiadau gwahaniaethol, sef byr, safonol a llawn (arferol);

 

Ÿ     yn rhoddi cyfnod rhybudd llai;

 

Ÿ     yn cynnwys enwebai ar bob tîm arolygu;

 

Ÿ     yn arfarnu cymheiriad.

 

      

 

4.2.2

Mae'r drefn newydd o arolygu yn gofyn 7 cwestiwn allweddol fel a ganlyn:

 

      

 

Ÿ     Pa mor dda mae'r dysgwyr yn dysgu - bydd Addysg Grefyddol fel pwnc yn cael ei fesur o dan y cwestiwn hwn;

 

Ÿ     pa mor effeithiol yw'r addysgu a'r asesu;

 

Ÿ     pa mor dda mae'r profiadau dysgu'n bodloni anghenion a diddordebau'r dysgwyr a'r gymuned;

 

Ÿ     pa mor dda yw'r gofal, yr arweiniad a'r gynhaliaeth i ddysgwyr - bydd safon y ddarpariaeth ysbrydol a moesol mewn ysgol yn cael ei fesur yn erbyn y maen brawf yma;

 

Ÿ     pa mor effeithiol yw'r arweinyddiaeth a'r rheolaeth;

 

Ÿ     pa mor dda y mae arweinwyr a rheolwyr yn arfarnu ac yn gwella ansawdd a safonau;

 

Ÿ     pa mor effeithlon yw'r arweinwyr a rheolwyr wrth ddefnyddio adnoddau;

 

Ÿ     y gwellhâd ers yr arolwg diwethaf.

 

      

 

4.2.3

O ran natur yr arolygiadau gwahaniaethol, mae'r arolygiad byr yn gofyn y 7 cwestiwn uchod ond yw'n cyffwrdd ag unrhyw bwnc unigol o gwbl; felly ni fydd yr adroddiad arolwg dilynol yn gwneud unrhyw gyfeiriad at Addysg Grefyddol fel pwnc ond yn hytrach bydd yn cyflwyno trosolwg o'r drefn ysgol gyfan.O dan yr arolwg safonol gofynnir y 7 cwestiwn uchod ac fe roddir sylw i 6 pwnc; Estyn bydd yn dewis y pynciau i'w hystyried ac nid oes gan yr ysgol na'r Awdurdod Addysg fewnbwn yn y dewis. Fe all Addysg Grefyddol gael ei gynnwys ond fe all gael ei hepgor hefyd.Mae'r arolwg llawn yn mesur yr ysgol yn erbyn y 7 cwestiwn allweddol ond mae hefyd yn rhoi sylw i bob pwnc; bernir mai ychydig iawn o'r ysgolion ym Môn fydd yn destun arolwg llawn.

 

4.2.4

Prif ffocws y drefn arolygu newydd fydd profiad a chyflawniadau'r disgyblion ynghyd ag hunan arfarniad fel man cychwyn.Bydd y Tîm Arolygu yn cynnwys arolygydd cofrestredig, arolygydd/arolygwyr tîm, arolygydd lleyg, enwebai ac asesydd cymheiriad.Bydd yr asesydd cymheiriad yn athro/awes llawn amser mewn ysgol arall sydd wedi derbyn hyfforddiant penodol gan Estyn.Daw'r person hwn ag arbenigedd i'r tîm ac fe all yr arbenigedd hwnnw fod mewn Addysg Grefyddol neu unrhyw bwnc arall, ac mae hefyd yn cryfhau proffesiynoldeb y tîm.Mae cael enwebai fel rhan o'r tîm yn rhoi opsiwn i aelod o staff yr ysgol weithio gyda'r tîm arolygu ac mae'n gweithredu fel cyswllt rhwng yr ysgol a'r tîm arolygu.

 

4.2.5

Mae'r Tîm Arolygu yn llunio barn ac yn mesur cyflawniad yn ôl y 5 categori a ganlyn a'r rhain fydd llinyn mesur yr ysgol hefyd yn yr hunan arfarniad:

 

      

 

Ÿ     Da gyda nodweddion rhagorol;

 

Ÿ     nodweddion da a dim diffygion pwysig;

 

Ÿ     nodweddion da yn gorbwyso diffygion;

 

Ÿ     rhai nodweddion da ond diffygion mewn meysydd pwysig;

 

Ÿ     llawer o ddiffygion pwysig.

 

      

 

4.2.6

Bydd adroddiad yr Arolygwr Cofrestredig yn rhoi sylw i'r canlynol-

 

      

 

Ÿ     safonau a gyflawnir gan ddisgyblion;

 

Ÿ     ansawdd yr addysg;

 

Ÿ     datblygiad ysbrydol a moesol y disgyblion;

 

Ÿ     datblygiad cymdeithasol a diwylliannol;

 

Ÿ     arweinyddiaeth a rheolaeth.

 

      

 

4.2.7

Mae Cwmni Cynnal wedi llunio llawlyfr ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd sydd yn cynnig arweiniad iddynt ar sut i fynd ati i gynnal ymarferiad hunan arfarnu a'r math o feini prawf dylent fod yn mesur eu hunain yn eu herbyn.O ran safonau yn y maes addysg grefyddol anogir ysgolion i ofyn a yw disgyblion yn dangos cynnydd da mewn perthynas â datblygiad moesol ac ysbrydol; a roddir cyfleoedd iddynt fyfyrio; a oes yna ddarpariaeth ddigonol gogyfer addoli ar y cyd.Dygir sylw ysgolion yn arbennig at y pwyslais cynyddol a roddir ar natur addolgar addoli ar y cyd.Rhydd yr adran hon o'r llawlyfr gyfle i ysgolion arfarnu eu hunain yn ôl y math o gwestiynau bydd yr arolygwr yn eu gofyn yn yr arolwg ffurfiol, a chredir bod yr ymarferiad hwn yn ddatblygiad cadarnhaol mewn ysgolion a'u bod yn barod ac yn ddigon aeddfed i fesur eu perfformiad eu hunain.

 

4.2.8

O safbwynt Addysg Grefyddol fel pwnc cwricwlaidd, amlinellir cyfres o feini prawf yr awgrymir bod yr ysgol yn mesur ei hun yn eu herbyn ac os gwêl yr ysgol fod yna ddiffygion o fewn ei darpariaeth, yna mae cyfle iddi adnabod a gwirio rheiny.Yn y sector uwchradd, mae'r arweiniad a gynigir gan y llawlyfr hunan arfarnu yn gynhwysfawr ac fe rydd ganllawiau ar gyfer arsylwi mewn gwersi; ar gyfer casglu esiamplau o waith; ar ddefnydd o iaith; ar sicrhau cysondeb trwy'r adran gyfan ac ar drafod gyda disgyblion.

 

4.2.9

Mater i'r CYSAG yw ystyried sut mae am dderbyn gwybodaeth o'r ysgolion er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau monitro addysg grefyddol ac addoli ar y cyd.

 

      

 

Diolchwyd yn fawr i Mr.Gareth Williams am gyflwyniad cynhwysfawr a dadlennol a chroesawyd yn arbennig y llawlyfrau yn cynnig arweiniad i ysgolion ar gyfer cynnal ymarferiad hunan arfarnu yn gysylltiedig ag addysg grefyddol fel tystiolaeth o'r ymrwymiad i'r pwnc, a nododd aelodau'r CYSAG eu bod wedi'u calonogi gan y cyflwyniad a chan wybod  fod yna waith cadarnhaol yn cael ei wneud i gynnal statws addysg grefyddol yn y rhaglen addysgol. Nodwyd hefyd bod y llawlyfrau yn rhoi arweiniad i ysgolion ar feithrin datblygiad ysbrydol a moesol disgyblion a bod yna gyfle i ysgolion felly eu defnyddio i ddylanwadu ar ymddygiad ac ymagwedd disgyblion a thrwy hynny gwyrdroi'r patrwm o ddirywiad moesol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a welir ar gynnydd mewn nifer o gymunedau ar yr Ynys, yn enwedig os caiff disgyblion yr arweiniad hwnnw yn eu blynyddoedd cynnar.Nodwyd hefyd bod diffygion mewn sgiliau rhianta a magwraeth yn ffactorau yn y dirywiad moesoldeb a welir yn y gymdeithas sydd ohoni a bod y gostyngiad yn nylanwad yr ysgolion Sul yn ffactor cyfrannol yn ogystal.Yn dilyn derbyn y cyflwyniad uchod, roedd yr aelodau yn gyffredinol gefnogol i'r cysysniad o hunan arfarnu gan ysgolion ac yn barod i dderbyn cyflwyno'r rhannau perthnasol hynny o adroddiad hunan arfarniad ysgol gerbron y CYSAG fel ffordd o alluogi'r CYSAG i barhau i gyflawni ei ddyletswyddau monitro yn y maes.

 

      

 

O du'r athrawon, croesawyd y strwythur arolygu newydd fel trefn sydd yn tynhau'r broses arolygu yn gyffredinol a nodwyd bod y llawlyfrau cymorth a gynhyrchwyd gan Cynnal yn cynnig arweiniad clir yng nghyswllt  hunan arfarnu ysgol.Caiff y broses hunan arfarnu ei monitro a'i achredu gan Cynnal trwy'r Ymgynghorydd Cyswllt ac mae adroddiadau'r Ymgynghorydd yn cael eu cyflwyno gerbron y cyrff llywodraethu a'r Awdurdod Addysg.Ni welir unrhyw rwystredigaeth o ran cyflwyno rhannau perthnasol o adrodddiadau hunan arfarnu ysgol gerbron y CYSAG a theimlir y byddai hynny yn ddull tryloyw o rannu gwybodaeth gyda'r Cyngor Ymgynghorol.

 

      

 

Awgrymodd cynrychiolydd yr Eglwys yng Nghymru gan fod ysgolion yr Eglwys yn cael eu harolygu'n barod gan Arolygwyr yr Eglwys o dan Adran 23 Deddf Arolygu Ysgolion, gellid ymestyn y gwaith hwnnw i gynnwys holl ysgolion y sir a bod arolygwyr yr Eglwys yn ymgymryd â'r swyddogaeth fonitro yn ysgolion y Sir ar ran y CYSAG.

 

      

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden fod yna nifer o ffactorau i'w hystyried gan gynnwys argaeledd adnoddau ynghyd â barn yr ysgolion.Crynhodd y drafodaeth trwy nodi ei fod yn ymddangos fod yna gonsensws ymhlith aelodau'r CYSAG bod yr awgrym ynglyn â chyflwyno rhannau perthnasol o adroddiad hunan arfarnu ysgol gerbron y CYSAG yn cynnig ffordd ymarferol ymlaen ar gyfer monitro ysgolion mewn modd cytbwys a hynny heb ychwanegu at y baich gwaith sydd eisoes arnynt.Awgrymodd bod yna ymgynghori pellach yn cael ei gynnal gyda grwpiau penaethiaid yn y sector cynradd ac uwchradd yng nghyswllt yr uchod gan gynnwys yn y trafodaethau hynny, gynnig yr Eglwys yng Nghymru i ymgymryd0 â gwaith monitro ysgolion y sir ar ran y CYSAG yn rhinwedd y swyddogaeth arolygu sydd ganddi eisoes mewn perthynas ag ysgolion yr Eglwys.Yn dilyn yr ymgynghori byddid yn dod ag argymhellion pendant gerbron y CYSAG.

 

      

 

Penderfynwyd bod y CYSAG yn cefnogi rhoi sylw yn y dyfodol i'r rhannau perthnasol hynny o adroddiad hunan arfarniad ysgol er mwyn cyflawni ei swyddogaethau monitro addysg grefyddol ac addoli ar y cyd yn ysgolion y sir gan barhau i dderbyn adroddiadau Adran 10 lle bo hynny'n briodol, yn ddarostyngedig i'r ymgynghoriad gyda grwpiau  penaethiaid ysgolion y sir.

 

        

 

5

MAES LLAFUR CYTUN ADDYSG GREFYDDOL

 

      

 

Cyflwynwyd - Adroddiad y Cyfarwyddwr0 Corfforaethol Addysg a Hamdden ynglyn â'r sefyllfa statudol mewn perthynas â chyhoeddi adolygiad o'r Maes Llafur Cytun Addysg 0Grefyddol.

 

      

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden at y prif ystyriaethau fel a ganlyn:

 

      

 

5.1

Bod dyletswydd statudol i adolygu'r Maes Llafur Cytun Addysg Grefyddol o fewn cyfnod pob pump mlynedd.Cyhoeddwyd y Maes Llafur presennol a ddefnyddir yn ysgolion Môn a Gwynedd gan yr awdurdodau yn 1999 ac fe ddylid fod wedi ei adolygu yn ystod 2004.Mae trefn statudol ar gyfer adolygiad o'r fath sy'n cynnwys sefydlu cynhadledd arbennig i roi sylw i'r mater.Yn 1999, sefydlwyd cynhadledd ar y cyd rhwng Awdurdodau Môn a Gwynedd gan y CYSAGau a ffurfiwyd gweithgor tasg o blith swyddogion ac athrawon y ddwy sir i baratoi'r Maes Llafur drafft i'w gymeradwyo gan y Gynhadledd yn dilyn arweiniad gan aelodau'r Gynhadledd.Mae'r Maes Llafur Cytun a luniwyd yn 1999 wedi profi'n llwyddiannus a phoblogaidd gyda'r ysgolion.

 

5.2

Atgoffir aelodau'r CYSAG bod y Symposiwm a gynhaliwyd yn Llandrindod ynghyd â'r ymgynghoriad eang a fu ar ei ganfyddiadau, wedi argymell fod ACCAC yn cymryd camau i lunio Maes Llafur Cenedlaethol a bu CYSAG Ynys Môn yn gefnogol i'r syniad hwn.Byddai felly'n briodol ystyried hynny wrth benderfynu ar y priodoldeb o adolygu'r Maes Llafur presennol.Cysylltiwyd yn anffurfiol gydag ACCAC cyn y cyfarfod hwn o'r CYSAG i ofyn am arweiniad ac i geisio gwybodaeth fwy penodol am fwriadau ACCAC ynglyn â symud tuag at Maes Llafur Cenedlaethol.Yn ei ymateb anffurfiol, bu i ACCAC nodi mai annhebygol y gwelir cyhoeddi Maes Llafur Cenedlaethol yn ystod y ddwy flynedd nesaf.Y cyngor a roddid gan ACCAC i awdurdodau a chyrff CYSAGau mewn sefyllfa  lle bo angen adolygiad pum mlynedd oedd bwrw ymlaen â'r gwaith adolygu gan roi ystyriaeth ofalus i ganllawiau ACCAC ar gyfer llunio Maes Llafur Cytun.Gwelid hynny fel trefniant interim fyddai'n arwain at fwy o gysondeb rhwng awdurdodau ac yn cyfarfod yn rhannol â dyheadau'r Symposiwm.

 

5.3

Yn gyfochrog â'r ystyriaeth i'r Maes Llafur Cytun, mae ACCAC ar hyn o bryd yn y broses o ddiwygio'r Cwricwlwm Cenedlaethol ac mae adolygiad llawn ar y gweill o'r holl bynciau.Dylai unrhyw adolygiad o'r Maes Llafur Cytun hefyd gadw golwg ar ddatblygiadau mewn perthynas â'r cwricwlwm cyfan a byddai'n ddelfrydol i'r ddau fater gael sylw ar yr un pryd.

 

5.4

Er mwyn cydymffurfio â'r gofynion statudol, argymhellir fod CYSAG yn ystyried y priodoldeb o sefydlu Cynhadledd Maes Llafur0 Cytun i drafod y mater ac o ystyried y cydweithio agos sydd rwng Môn a Gwynedd, ei fod yn gwneud hynny ar y cyd.Byddai'n briodol i'r Gynhadledd ystyried tri opsiwn sef:

 

      

 

5.4.1

cynnal adolygiad llawn o'r Maes Llafur Cytun gyda'r bwriad o'i lunio o'r newydd yn gyfan gwbl;

 

5.4.2

penderfynu ail fabwysiadu'r Maes Llafur presennol am y tro gyda'r bwriad o'i adolygu'n bellach pan fydd y sefyllfa genedlaethol yn gliriach;

 

5.4.3

adolygu'r Maes Llafur presennol drwy ddefnyddio fframwaith ACCAC a'i addasu fel0 bo'r gofyn.

 

      

 

Gofynnwyd a ragwelir bydd y gwaith o adolygu'r Maes Llafur yn dasg feichus ynteu ai mater yw o'i fân ddiwygio.At hynny, pam bod angen ei ddiwygio os yw yn llwyddiannus ac yn boblogaidd gan ysgolion.

 

      

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden mewn ymateb y byddai llunio Maes Llafur newydd yn ei gyfanrwydd yn dasg o bwys. Ar y llaw arall fe ellir diweddaru'r Maes Llafur presennol i adlewyrchu datblygiadau cyfoes a byddid yn ffafrio'r opsiwn hwn.Fodd bynnag, mater i'r Tasglu athrawon a swyddogion fydd ystyried hyn.

 

      

 

Roedd aelodau'r CYSAG yn gytun byddai'n ymarferol diweddaru'r Maes Llafur i gymryd i ystyriaeth ddatblygiadau diweddar yn y maes a nodwyd bod iaith a therminoleg yn newid a bod angen i'r Maes Llafur adlewyrchu hynny.Cefnogwyd sefydlu Tasglu swyddogion ar y cyd gyda Gwynedd i ymgymryd â'r gwaith paratoadol gogyfer cynnull Cynhadledd Maes Llafur Cytun.

 

      

 

Penderfynwyd cymeradwyo sefydlu Cynhadledd Maes Llafur Cytun i ystyried y mater a bod  Gweithgor Tasg o blith swyddogion ac athrawon Môn a Gwynedd yn cael ei ffurfio i ymgymryd â'r gwaith paratoadol gogyfer y Gynhadledd.

 

      

 

6

DEUNYDDIAU ASESU DEWISOL ACCAC

 

      

 

Rhoes yr Athrawes Ymgynghorol Addysg Grefyddol gyflwyniad i aelodau'r CYSAG ar ddeunyddiau dewisol ACCAC Addysg Grefyddol gogyfer CA2 a CA3, gan nodi bod llawer o waith wedi mynd i mewn i gynhyrchu'r deunyddiau a bod yna cryn ddisgwyliad amdanynt.

 

      

 

Ceir pedair uned yn CA2 yn ymwneud â'r themau canlynol -

 

      

 

Ÿ

Addoliad gyda'r ffocws ar Shabbat yr Iddewon;

 

Ÿ

Byd Naturiol;

 

Ÿ

Dathliadau gan gyfeirio'n arbennig at Wyl y Pasg;

 

Ÿ

Awdurdod - Llyfrau Sanctaidd.

 

      

 

     ynghyd â phedair uned yn CA3 yn ymwneud â'r themau canlynol -

 

      

 

Ÿ     Addoliad - Gwasanaeth y Cymun Sanctaidd;

 

Ÿ     Pererindod - yr Hajj;

 

Ÿ     Dathliadau;

 

Ÿ     Cwestiynau sylfaenol megis beth yw bod yn ddynol.

 

      

 

Rhaid cofio mai deunyddiau dewisol yw'r uchod ac nad oes rheidrwydd ar ysgolion i'w defnyddio.Mewn sesiynau Hawl a Haeddiant diweddar trafodwyd eu pwrpas a nodwyd eu bod yn cyfrannu at godi safonau, eu bod yn darparu tystiolaeth o gyrhaeddiad disgybl ar unrhyw adeg; gall athrawon eu defnyddio i ddarparu eu deunyddiau eu hunain; maent yn rhoi cyfle i ddisgyblion gymeryd rhan yn y broses asesu ac i fynegi barn ar eu gwaith eu hunain ac maent yn gymorth i adrannau ddatblygu nodweddion sy'n cael eu nodi gan Estyn fel arfer da mewn Addysg Grefyddol.

 

      

 

O ran yr uned yn CA2 sydd yn ymdrin ag addoliad o safbwynt Shabbat yr Iddewon cymerir yn ganiataol fod y disgyblion yn ymwybodol o gefndir y Shabbat a'i arwyddocad a bod addysgu am y pwnc wedi digwydd.Asesir gwybodaeth trwy ymatebion llafar ac ysgrifenedig ynghyd â gallu disgyblion i ddisgrifio ac egluro credoau.Fel rhan o'r astudiaeth gofynnir i ddisgyblion ystyried beth sydd yn digwydd ar y Shabbat, pam mae'r diwrnod yn arwyddocaol a pham mae dydd gorffwys yn bwysig.Mae gofyn i ddisgyblion wedyn lunio poster yn dangos beth maent wedi ei ddysgu am y Shabbat ac mae'r dasg hon yn gofyn iddynt gynllunio ac mae'n fodd o asesu eu creadigrwydd, eu dychymyg a'u sgiliau arlunio yn ogystal â'u gwybodaeth am y pwnc.Lluniwyd taflen hefyd sydd yn cynorthwyo disgyblion wedyn i asesu eu poster ac i ystyried sut y gallent fod wedi gwella arno, beth sydd yn dda amdano ac ati.

 

      

 

O ran arwyddocad y Shabbat, defnyddir arteffactau a gwrthrychau arbennig i ddangos i ddisgyblion pam mae'r diwrnod yn bwysig yn y bywyd Iddewig, ac o ran pwysigrwydd dydd gorffwys, gofynnir i ddisgyblion ystyried yr achlysuron hynny lle mae neilltuo amser arbennig  yn bwysig iddynt hwy a thrwy hynny i gael ymdeimlad o bwysigrwydd y Shabbat i'r Iddewon.

 

      

 

O ddod at CA3, mae'r gwaith yn ymwenud ag addoliad yn y cyfnod hwn yn canolbwyntio ar y Cymun Sanctaidd Cristnogol ac fe ddisgwylir i ddisgyblion wneud cywaith swmpus ar y cymun yn ogystal ag ymateb i gwestiynau yn y modd arferol.Mae'r Uned yn disgwyl fod gan ddisgyblion wybodaeth gefndirol a'u bod yn gwybod beth yw arwyddocad y Swper Olaf, beth yw arwyddocad a swyddogaeth gwahanol arteffactau a'u bod yn gyfarwydd ag addoldai.Fel rhan o'r gwaith astudio gofynnir i ddisgyblion ystyried beth sydd yn digwydd mewn Gwasanaeth Cymun Sanctaidd ac mae disgwyl iddynt edrych ar y Swper Olaf a'i berthnasu i'r Cymun.Anogir disgyblion hefyd i ddarganfod ystyr trwy luniau ac fe wneir hyn trwy ddod â lluniau personol i'r dosbarth gan ofyn i'r disgyblion wedyn grynhoi beth mae'r lluniau yn eu dangos yn nhermau cyfeillgarwch, teimlad, unigrwydd ac yn y blaen.Er mwyn datblygu eu dealltwriaeth o ystyr y Swper Olaf, dangosir 4 llun gwahanol o'r Swper Olaf gan arlunwyr gwahanol ac fe ofynnir i ddisgyblion ystyried pa fath syniadau crefydd mae'r lluniau yn eu dangos; beth yw'r symbolau yn y lluniau; beth mae'r lluniau yn ei ddweud am gredo'r artist unigol, beth maent yn ei ddangos mewn perthynas â chyfeillgarwch a theimladau cyffelyb ac mae'r ymarfer hwn yn herio'r disgybl i edrych yn fanwl ar y lluniau ac i'w hystyried mewn dyfnder ac i ddarganfod ynddynt syniadau, teimladau ac ystyr sydd yn mynd tu hwnt i arwynebedd y pictiwr ei hun.

 

      

 

Diolchwyd i'r Athrawes Ymgynghorol Addysg Grefyddol am roddi rhagflas diddorol iawn o ddeunyddiau asesu dewisol ACCAC yn y maes.

 

      

 

Penderfynwyd diolch i'r Athrawes Ymgynghorol Addysg Grefyddol am ei chyflwyniad gan nodi'r datblygiadau mewn perthynas â deunyddiau asesu dewisol Addysg Grefyddol ACCAC.

 

      

 

1

AROLYGIADAU YSGOLION

 

      

 

Cyflwynwyd - Gwybodaeth dan Adran 10 Deddf Arolygu Ysgolion 1996 am gynnwys y rhannau perthnasol hynny o adroddiad arolwg Ysgol Gynradd Llandegfan.

 

      

 

Roedd aelodau'r CYSAG yn gytun fod yr adroddiad yn tystio at safonau arbennig Addysg Grefyddol yn yr ysgol a bod llongyfarchiadau yn ddyledus i staff yr ysgol a'i disgyblion am eu gwaith caled a'u cyflawniad.

 

      

 

Penderfynwyd nodi cynnwys y rhannu perthnasol hynny o adroddiad arolwg Ysgol Gynradd Llandegfan gan ofyn i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden ysgrifennu at yr ysgol i gyfleu i'r staff a'r disgyblion ddiolchiadau'r CYSAG am eu gwaith ac i'w llongyfarch ar eu cyflawniad.

 

      

 

      

 

     Cynghorydd Eurfryn Davies

 

                  Cadeirydd