Cyngor Ymgynghorol Sefydlog at Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CYS) dogfennau , 13 Chwefror 2006

Cyngor Ymgynghorol Sefydlog at Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CYS)
Dydd Llun, 13eg Chwefror, 2006

CYNGOR YMGYNGHOROL SEFYDLOG AR ADDYSG GREFYDDOL

 

COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 13 CHWEFROR, 2006

 

yn breSENNOL:

Cynghorydd E.G.Davies (Cadeirydd)

 

Cynghorwyr Mrs B.Burns MBE, P.M.Fowlie, G.O.Jones.

 

Yr Enwadau Crefyddol

Parch. Tegid Roberts (Yr Eglwys yng Nghymru)

Mrs Sheila Dunning (Yr Eglwys Babyddol Rufeining)

Mr Stephen Francis Roe (Yr Eglwys Fethodistaidd)

Mrs Catherine Jones (Undeb y Bedyddwyr)

 

Undebau'r Athrawon

Mrs Heledd Hearn (Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgol Feistri/Undeb yr Athrawesau)

Miss Mefys Jones (Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru)

Mr John Wyn Jones (SHA)

 

Aelod Cyfetholedig

Mrs Helen Jones

 

 

WRTH LAW:

Swyddog Addysg (Uwchradd) (Mr Gwyn Parri)

Ymgynghorydd y Dyniaethau (Miss Bethan James)

Athro Ymgynghorol Addysg Grefyddol (Mr Paul Mathews Jones)

Swyddog Pwyllgor (ATH)

 

 

YMDDIHEURIADAU:

Mr Rheinallt Thomas (Eglwys Bresbyteraidd Cymru), Miss Jane Richards (Undeb Cenedlaethol yr Athrawon)

 

 

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd gyda thristwch at brofedigaeth y Cynghorydd Gwilym O.Jones a gollodd ei frawd yn ddiweddar, y Parch.Idwal Wyn Jones.Ar ran aelodau'r CYSAG, cydymdeimlodd yn ddwys gyda'r Cynghorydd Gwilym O.Jones a'i deulu ar eu colled.

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i Mrs Helen Jones a oedd y bresennol fel aelod cyfetholedig; i Mr Paul Mathews Jones, a benodwyd yn athro ymgynghorol Addysg Grefyddol rhan amser yn yr Hydref, 2005 ac i Mr Gwyn Parri, Swyddog Addysg Uwchradd a fyddai'n arwain mewn cyfarfodydd CYSAG yn y dyfodol.

 

Rhoddodd Mr Gwyn Parri wybod i'r CYSAG y byddai'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden yn parhau fel Clerc swyddogol y CYSAG ond ei fod wedi dirprwyo'r swyddogaeth honno mewn cyfarfodydd iddo ef fel swyddog addysg uwchradd.Nododd ei fod yn edrych ymlaen at gael cyd-weithio gydag aelodau'r Cyngor Ymgynghorol.

 

1

DATGAN DIDDORDEB

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd ac arwyddwyd fel rhai cywir, cofnodion cyfarfod blaenorol y CYSAG a gynhaliwyd ar 3 Hydref, 2005.

 

Yn codi -

 

 

 

2.1

Eitem 5 - Adroddiad Blynyddol CYSAG Ynys Môn

 

 

 

Cadarnhaodd y Swyddog Addysg (Uwchradd) fod copiau o fersiwn derfynol Adroddiad Blynyddol CYSAG Ynys Môn wedi cael eu cylchredeg yn unol â'r rhestr ddosbarthu.

 

 

 

2.2

Eitem 9.2 - Ysgol Uwchradd David Hughes

 

 

 

Dygwyd sylw at y cyfeiriad o dan y pennawd uchod i benderfyniad y CYSAG i ail-fabwysiadu'r Maes Llafur Cytun Lleol cyfredol a gofynnwyd a fyddai yna gopiau o'r Maes Llafur yn cael eu cynhyrchu o'r newydd yn sgîl y penderfyniad hwn, ac yng ngoleuni'r ffaith fod yna brinder copiau erbyn hyn yn Adran Addysg Prifysgol Cymru Bangor yn benodol.

 

 

 

Rhoddwyd ystyriaeth i'r ffaith fod yna ddiffyg copiau o'r Maes Llafur Cytun ac yn dilyn trafodaeth fanwl ynglyn â'r ffordd orau a mwyaf cost-effeithiol o oresgyn hyn, roedd consensws y dylid ymdrechu i gynhyrchu copi electronig yn ddarostyngedig ar adnabod y sawl a gynhyrchodd y fersiwn bapur gwreiddiol.Cytunodd Ymgynghorydd y Dyniaethau i wneud ymholiadau ynglyn â'r mater.

 

 

 

Penderfynwyd y dylid cynhyrchu copi electronig o'r Maes Llafur Cytun Lleol cyfredol i ymateb i'r gofyn parhaus amdano gan nodi y bydd Ymgynghorydd y Dyniaethau yn ymdrin â'r mater.

 

 

 

3

CYMDEITHAS CYSAGau CYMRU

 

 

 

Cafwyd adborth ar lafar o gyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd yng Nghasnewydd ar 19 Hydref, 2005.

 

 

 

Adroddodd y Swyddog Addysg (Uwchradd) fod Is-Gadeirydd y CYSAG ynghyd ag Ymgynghorydd y Dyniaethau wedi bod yn bresennol yn y cyfarfod uchod a bod yr Is-Gadeirydd wedi nodi'r prif faterion trafod fel a ganlyn:

 

 

 

Ÿ

cafwyd datganiad gan y Cadeirydd ar thema - Ni ddylai'r greadigaeth wthio'r creadwr i'r cefndir (creation should never upstage the creator);

 

Ÿ

cafwyd cyflwyniad diddorol gan Mr Chris Owen, Pennaeth Ysgol Bassaleg ar Addysg Grefyddol statudol Blwyddyn 12 a 13;

 

Ÿ

nodwyd bod y trefniadau ar gyfer Cynhadledd Arbennig Cymdeithas CYSAGau Cymru ac ACCAC yn Llandrindod wedi'u cadarnhau;

 

Ÿ

cafwyd cyflwyniad caboledig gan Gavin Craigen ar destun y dimensiwn byd-eang o fewn Addysg Grefyddol.

 

 

 

Penderfynwyd nodi'r wybodaeth a diolch i'r Is-Gadeirydd am yr adborth.

 

 

 

4

ADRODDIAD CYNNYDD : HYDREF - RHAGFYR, 2005

 

 

 

Bu i'r Athro Ymgynghorol Addysg Grefyddol adrodd ar ei waith yn ystod ei dymor cyntaf yn y swydd dros gyfnod yr Hydref, 2005.

 

 

 

Rhoddodd yr Athro Ymgynghorol Addysg Grefyddol wybod i'r CYSAG ei fod wedi mwynhau'r misoedd cyntaf yn ei swydd ac roedd yn gwerthfawrogi ansawdd y gefnogaeth a ddarperir gan y tîm ymgynghorol yn ogystal â'r safonau uchel yn ysgolion Môn oedd yn eu tro yn tystio at ragoriaeth y gefnogaeth honno.

 

 

 

Crynhodd brif weithgareddau'r tymor fel a ganlyn -

 

 

 

Ÿ

darparu Cwrs Consortiwm ar destun Technoleg Gwybodaeth ac Addysg Grefyddol gan gynnwys dulliau dysgu digidol a pharatoi adnoddau digidol i'w rhannu gydag adrannau. Rhoddir pob anogaeth i athrawon greu eu deunyddiau gwreiddiol ei hunain er mwyn osgoi problemau yng nghyswllt gofynion hawlfraint;

 

Ÿ

nôd ac  amcanion Hyfforddiant mewn Swydd yn Ynys Môn -

 

 

 

Ÿ

codi ymwybyddiaeth o'r modd gall y defnydd o Dechnoleg Gwybodaeth gyfoethogi addysg a dysgu er enghraifft y byrddau gwyn rhyngweithiol;

 

Ÿ

datblygu sgiliau athrawon gan roddi pwyslais arbennig ar drin data a chyplysu Technoleg Gwybodaeth gyda'r defnydd o drin data a rhifedd;

 

Ÿ

adolygu'r defnydd o feddalwedd Addysg Grefyddol;

 

Ÿ

trafod dulliau dysgu a gweithgareddau trwy ddefnyddio Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu;

 

 

 

Dangoswyd clip fideo o seremoni priodas a grewyd i'w ddefnyddio fel adnodd dysgu gwreiddiol ym maes Addysg Grefyddol.

 

 

 

Ÿ

darparu cefnogaeth arolygiad i ysgolion;

 

Ÿ

pennu blaenoriaethau ar gyfer 2006 fydd yn cwmpasu codi safonau CA4 fel rhan o raglen HMS; hunan-arfarnu; asesu ar gyfer dysgu, ynghyd ag asesu CA3.Ystyriaeth bellach fydd i ba raddau fydd y gwaith gyda CA3 yn cyd-glymu gyda chodi safonau yn CA4.

 

 

 

Diolchwyd i'r Athro Ymgynghorol Addysg Grefyddol am gyflwyniad cytbwys a mynegwyd gwerthfawrogiad o'r gefnogaeth a roddir i ysgolion y sir gan y tîm o ymgynghorwyr ac athrawon ymgynghorol.

 

 

 

Penderfynwyd diolch i'r Athro Ymgynghorol Addysg Grefyddol am y cyflwyniad ynglyn â gweithgareddau'r Hydref, 2005 a nodi'r wybodaeth.

 

 

 

5

PROSIECT TECHNOLEG GWYBODAETH A CHYFATHREBU AC ADDYSG GREFYDDOL (UWCHRADD)

 

 

 

Rhoddodd Miss Mefys Jones gyflwyniad ynglyn â'r uchod.

 

 

 

Cyfeiriodd Miss Mefys Jones at brif elfennau'r prosiect fel a ganlyn:

 

 

 

Ÿ

bu'n ymhel â'r prosiect fel aelod o dîm oedd yn ymwneud â byrddau gwyn rhyngweithiol;

 

Ÿ

dewisiwyd fel maes ffocws uned o waith TGAU yn gysylltiedig â Christnogaeth gan ganolbwyntio ar addoliad Cristnogol, ac fe ddefnyddiwyd y rhaglen fel adnodd ategol i ddulliau addysgu traddodiadol ac i gyfoethogi'r profiad dysgu;

 

Ÿ

dechreuir trwy gynnal sesiwn drafod gyda'r disgylion i ganfod beth yw eu dealltwriaeth o addoliad - yna eir ymlaen i gynnal amryw o dasgau aml-synhwyrol megis chwarae cerddoriaeth draddodiadol emyn a cherddoriaeth o'r siartiau gyda naws grefyddol iddi, a gofyn i'r disgyblion ddisgrifio eu teimladau mewn ymateb i'r profiad, ac yna eistedd mewn tawelwch;

 

Ÿ

fel rhan o'r uned ar addoliad cristnogol, edrychir yn fanwl ar yr amryw ffyrdd o addoli a gofynnir i'r disgyblion mynegi eu barn trwy gyfrwng y Bwrdd Gwyn rhyngweithiol - rhoddir pwyslais cynyddol ar allu disgyblion i fynegi barn ac i gyfleu safbwyntiau yn glir ac yn ddeallus.Cyflwynir clipiau sain o ffurfiau o addoli gan gwahanol enwadau crefyddol ac fe ellir cyflwyno clipiau fideo hefyd yn enwedig os ydynt yn wreiddiol ac nad oes cwestiwn ynglyn â hawlfraint yn codi yn eu cylch;

 

Ÿ

gofynnir i'r disgyblion feddwl am y gwahanol fathau o weddi - diolchgarwch, eiriolaeth, moliant a chyffesu - trafodir rhain a'r diffiniad ohonynt gan gyflwyno enghreifftiau o'r gweddiau ar waith yn y byd cyfoes.Cyflwynir lluniau o unigolion yn gweddio gan ddangos testun y weddi a gofyn wedyn i'r disgyblion geisio adnabod y weddi sydd ar waith ac i ddefnyddio'r termau cywir er mwyn dangos eu bod yn deall yr hyn a gyflwynir;

 

Ÿ

caiff y disgyblion gyfle hefyd i drafod pwrpas darllen y Beibl, pwrpas pregeth a phwrpas emynau yn y weithred o addoli.Elfen newydd yn y maes llafur yw'r cysyniad o Gyffes Ffydd a gofynnir nifer o gwestiynau ynghylch hyn;

 

Ÿ

ar ddiwedd yr uned cynhwysir crynodeb o gwestiynau arholiad blynyddoedd cynt sydd yn ddefnyddiol iawn;

 

Ÿ

pwysleisir na ddefnyddir y dull rhyngweithiol hwn ar gyfer pob uned o waith - rhaid cael amrywiaeth mewn dulliau dysgu er mwyn sicrhau cyfranogiad a diddordeb disgyblion yn y wers.

 

 

 

Diolchodd aelodau'r CYSAG i Miss Mefys Jones am gyflwyniad diddorol a dadlennol a mynegwyd gobaith  byddai defnyddio dulliau addysgu newydd o'r fath yn ysbarduno diddordeb o'r newydd yn y pwnc.Yn dilyn hyn gofynnwyd am i ystadegau manwl gael eu cadw ynglyn â'r nifereodd sydd yn dilyn y pwnc yn bresennol a'r niferoedd fydd yn dewis astudio'r pwnc i bwrpas eu cymharu gyda'r niferoedd a ddilynodd y pwnc mewn blynyddoedd cynt er mwyn gweld a yw'r dulliau newydd o'i addysgu yn cael effaith o ran gwneud y pwnc yn fwy deniadol.

 

 

 

Nododd y Swyddog Addysg (Uwchradd) bod y dulliau dysgu a ddisgrifir fel rhan o'r prosiect uchod yn cyfoethogi'r broses o addysgu. Bu cryn ymdrech ar hyd y blynyddoedd i godi proffil Addysg Grefyddol o fewn y cwrwicwlwm ac mae'r ddelwedd gyfoes a ddaw i ran y pwnc trwy ddefnyddio Technoleg Gwybodaeth i'w addysgu yn gam positif i'w wneud yn atyniadol fel dewis i ragor o ddisgyblion.

 

 

 

Cytunwyd bod y dulliau dysgu rhyngweithiol newydd yn cyfoethogi profiadau dysgu ac yn cyfrannu tuag at godi safonau ond nodwyd hefyd bod yna nifer o ystyriaethau perthynol eraill ynghlwm wrth  ddewis pwnc. Nodwyd yn ogystal fod ffigyrau ynglyn â'r nifer sydd yn dewis dilyn Astudiaethau Crefyddol hyd at lefel TGAU a thu hwnt yn cael eu cadw gan Cynnal ac yn cael eu cyflwyno i'r CYSAG yn flynyddol.

 

 

 

Penderfynwyd -

 

 

 

5.1

Diolch i Miss Mefys Jones am ei chyflwyniad mewn perthynas â Phrosiect TGCh ac Addysg Grefyddol, a nodi'r wybodaeth;

 

5.2

Nodi dymuniad y CYSAG bod ystadegau yn cael eu cadw ynglyn â'r nifereodd sydd yn dilyn Addysg Grefyddol yn bresennol, a'r niferoedd fydd yn dewis astudio'r pwnc i bwrpas eu cymharu gyda'r niferoedd a'i ddilynodd mewn blynyddoedd cynt er mwyn canfod a yw cyflwyno dulliau addysgu rhyngweithiol newydd ynghyd â ffactorau eraill yn gwneud gwahaniaeth i boblogrwydd y pwnc gyda disgyblion.

 

 

 

6

HYFFORDDIANT MEWN SWYDD

 

 

 

Cyflwynwyd - Adroddiad gan Ymgynghorydd y Dyniaethau ynglyn â Hyfforddiant mewn Swydd yn ystod 2005/06.

 

 

 

Cyfeiriodd Ymgynghorydd y Dyniaethau at y prif bwyntiau fel a ganlyn -

 

 

 

Ÿ

bod y rhaglen hyfforddi gogyfer athrawon yr Awdurdod yn bwysig fel ffordd o sicrhau bod athrawon yn cael gwybodaeth am ddatblygiadau newydd, rhannu arferion da a chydweithio i ddatblygu strategaethau dysgu ac addysgu a deunyddiau pwrpasol;

 

Ÿ

anelir at sicrhau bod y rhaglen yn ymateb i anghenion ysgolion ac athrawon trwy ymgynghori gyda phenaethiaid, athrawon a thiwtoriaid proffesiynol yn yr ysgolion;

 

Ÿ

mae penaethiaid cynradd ac uwchradd y sir wedi cytuno i gau yr ysgolion am ddau ddiwrnod er mwyn cynnal cyrsiau hyfforddiant ysgol ganolig neu fel consortiwm;

 

Ÿ

ni ddewisiwyd Addysg Grefyddol fel prif faes ffocws y cyrsiau clwstwr yn ystod y flwyddyn - bu i athrawon cynradd yn hytrach ganolbwyntio ar y cyfnod sylfaen newydd;

 

Ÿ

cynhelir cwrs HADA ar ôl gwyliau hanner tymor mis Chwefror, sef cwrs Dyniaethau 5 diwrnod sydd yn cynnwys diwrnod o gwrs ar ddatblygu Iaith trwy Addysg Grefyddol;

 

Ÿ

yng nghyswllt y sector uwchradd, bu i 11 athro/awes o Fôn fynychu cwrs TGCh mewn gwersi AG a chynhelir cwrs ar godi safonau Addysg Grefyddol ac Astudiaethau Crefyddol CA4 ar 17 Chwefror;

 

Ÿ

ymhlith yr awgrymiadau gogyfer bwydlen rhaglen hyfforddi 2006/07 byddir yn eu cyflwyno gerbron y panelau sydd yn gwneud penderfyniadau ynglyn ag HMS fydd yng nghyswllt y cynradd - cynllunio sut mae gwyliau mawr Cristnogol yn cael eu cyflwyno i ddosbarthiadau, siarad ac ysgrifennu am grefydd (targed cyrhaeddiad 3);  ac yng nghyswllt yr uwchradd - asesu ar gyfer dysgu, arweiniad ar y cylch dysgu, a gofynion cyffredin a medrau allweddol fydd yn cael sylw mwy blaenllaw yng nghwricwlwm cendlaethol newydd 2007/08. At hynny, derbyniwyd copi o CD Rom a baratowyd gan yr Eglwys yng Nghymru ar gyfer ei hysgolion ar destun yr Esgob William Morgan;

 

Ÿ

llwyddwyd hefyd gyda chais am gyllid prosiect gogyfer Addysg Grefyddol statudol ôl-16.

 

 

 

     Diolchwyd i Ymgynghorydd y Dyniaethau am ei hadroddiad a mynegwyd gwerthfawrogiad cyffredinol o'r gwaith a'r sylw manwl a roddir i lunio rhaglen hyfforddiant mewn swydd i athrawon y sir.Gwnaed sylw yn y cyswllt hwn fod cyflwyno'r cyfnod sylfaen newydd yn gyfle i hyrwyddo'r cyswllt rhwng y cyfnodau newydd hyn ac Addysg Grefyddol a dangos sut y gellir datblygu'r gwahanol elfennau trwy Addysg Grefyddol a manteisio ar y cyfle i hyrwyddo Addysg Grefyddol yn y cyfnod cynnar.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn adroddiad Ymgynghorydd y Dyniaethau ynglyn â Hyfforddiant mewn Swydd 2005/06, a nodi ei gynnwys.

 

      

 

7

AROLYGIADAU YSGOLION

 

      

 

7.1

Cyflwynwyd - Gwybodaeth ynglyn â chynnwys adroddiadau yn dilyn arolygiad dan Adran 10 (ac Adran 23 lle bo'n berthnasol) o Ddeddf Arolygu 1996 mewn Addysg Grefyddol a materion perthynol mewn perthynas ag Ysgol Gymuned Carreglefn, Ysgol Gymuned Bryngwran ac Ysgol Gymuned Rhosybol.

 

      

 

     Rhoddodd Ymgynghorydd y Dyniaethau wybod i'r CYSAG fod y wybodaeth uchod yn adlewyrchu'r drefn arolygu newydd o arolygu yn yr ystyr mai ond yn Ysgol Gymuned Carreglefn y cafodd Addysg Grefyddol fel pwnc ei arolygu y tro hwn.Dynodwyd Gradd 2 i'r pwnc yn CA1 gyda'r sylw fod yna nodweddion da a dim diffygion pwysig, tra dynodwyd Gradd 1 i CA2 ac fe farnodd yr Arolygwr fod safon y pwnc yn y Cyfnod hwn yn dda gyda rhai nodweddion rhagorol.Yn achos Ysgol Gymuned Bryngwran ac Ysgol Gymuned Rhosybol gwneir sylwadau i'r perwyl fod yna nodweddion rhagorol yng nghyswllt cynnydd y disgyblion yn eu medrau personol, cymdeithasol, ysbrydol a moesol, a bod addoliadau ar y cyd, ymweliadau gwaith maes a phrofiadau dysgu eang eraill a ddarperir i'r disgyblion yn hyrwyddo eu datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol yn llwyddiannus.

 

      

 

     Nododd yr Ymgynghorydd fod yna le i ymfalchïo yng nghyraeddiadau'r dair ysgol uchod.

 

      

 

7.2     Cyfeiriodd Ymgynghorydd y Dyniaethau yn benodol at y drefn arolygu newydd ac at ddymuniad y CYSAG i barhau i fonitro safonau Addysg Grefyddol yn ysgolion y sir - gwnaed hyn yn y gorffennol trwy gyfrwng adroddiadau arolygiad ond o dan y drefn newydd o blith yr ysgolion hynny fydd yn destun arolygiad mewn unrhyw flwyddyn ni fydd Addysg Grefyddol o reidrwydd ymhlith y pynciau a gaiff eu harolygu.Yng ngoleuni hynny, lluniwyd pro forma un dudalen ar gyfer y sector cynradd ac ar gyfer y sector uwchradd gall ysgolion ei gyflwyno sydd yn adlewyrchu ymarfer hunan arfarnu'r ysgol ei hun.Mae'r cylch hunan arfarnu uwchradd llawn yn ymestyn dros 6 blynedd ac mae'n broses sy'n cynhyrchu cryn ddogfennaeth - cytunwyd mai crynodeb fydd yn cael ei gyflwyno gerbron y CYSAG fydd yn cyfeirio at Addysg Grefyddol,  Astudiaethau Crefyddol a datblygiad moesol ac ysbrydol y disgyblion.Hefyd, cytunwyd byddai'n dderbyniol gan y CYSAG dderbyn y wybodaeth yn ystod blwyddyn yr arolygiad yn hytrach nag yn ystod tymor yr arolygiad.Hyderir y llwyddwyd trwy drefn o'r fath i gwrdd â phwrpasau'r CYSAG heb osod baich ormodol ar ysgolion.

 

      

 

     Yn y drafodaeth ddilynol codwyd pwynt ynglyn ag amseriad ac at y ffaith na fydd Addysg Grefyddol o reidrwydd yn cael sylw o fewn cylch hunan arfarnu 6 mlynedd yr uwchradd yn yr un flwyddyn y cynhelir arolygiad allanol, a bod angen nodi hyn.

 

      

 

     Penderfynwyd nodi'r wybodaeth ynglyn â chyraeddiadau Ysgol Gymuned Carreglefn, Ysgol Gymuned Bryngwran ac Ysgol Gymuned Rhosybol ym maes Addysg Grefyddol gan ofyn i'r Swyddog Addysg (Uwchradd) ysgrifennu at y dair ysgol i gyfleu i'w staff a'u disgyblion werthfawrogiad y CYSAG o'u hymrechion a'i falchder ynglyn â'u cyflawniad.

 

      

 

      

 

8

AELODAETH

 

      

 

     Cadarnhawyd yn ffurfiol enwebiad y Parch. Elwyn Jones yn aelod cyfetholedig o CYSAG i olynu'r Parch. Aled Davies fel cynrychiolydd Cyngor yr Ysgolion Sir.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

9

DYDDIADAU O BWYS

 

      

 

     Cyflwynwyd er gwybodaeth i'r  CYSAG - ddyddiadau o bwys yng nghalendar y misoedd nesaf fel a ganlyn :

 

      

 

     7 Ebrill, 2006 - Cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru ym Margam.

 

      

 

     Nodwyd bod y Cadeirydd yn bwriadu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

 

      

 

     20 Mai, 2006 - Cynhadledd arbennig Cymdeithas CYSAGau Cymru ac ACCAC yn Llandrindod gyda Gweinidog Addysg Llywodraeth y Cynulliad yn siaradwraig wâdd.

 

      

 

     Nodwyd bod yna wahoddiad i CYSAG Môn anfon 4 aelod a hyd at 12 athro/awes i'r gynhadledd uchod a bod Ymgynghorydd y Dyniaethau a'r Athro Ymgynghorol Addysg Grefyddol ill dau yn bwriadu bod yn bresennol ynddi.Gofynnwyd i aelodau'r CYSAG ystyried a fyddent yn dymuno mynychu'r achlysur ac os felly, eu bod yn cyflwyno unrhyw enwebiadau i'r Swyddog Addysg (Uwchradd) mewn da bryd.

 

      

 

     Codwyd pwynt ynglyn â'r anhawster o geisio cael cynifer o gynrychiolwyr at ei gilydd i fynychu achlysur o'r fath ar y penwythnos,  a gofynnwyd i'r Cadeirydd godi'r mater yn y cyfarfod.

 

      

 

     23 Mehefin, 2006 - Cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru yng Nghaernarfon.

 

      

 

     Nodwyd bod y Cadeirydd a'r Swyddog Addysg (Uwchradd) yn bwriadau bod yn bresennol yn y cyfarfod.

 

      

 

10

GOHEBIAETH

 

      

 

     Nodwyd nad oedd unrhyw ohebiaeth wedi'i dderbyn oedd angen ystyriaeth benodol gan y CYSAG.

 

      

 

11

CYFARFODYDD Y CYSAG AM Y FLWYDDYN I DDOD

 

      

 

     Ystyriwyd a chytunwyd y byddai cyfarfodydd y CYSAG am y flwyddyn i ddod yn cael eu cynnal ar y ddyddiadau a'r amseroedd a ganlyn:

 

      

 

     dydd Llun, 12 Mehefin, 2006 am 2 o'r gloch y prynhawn;

 

     dydd Llun, 9 Hydref, 2006 am 2 o'r gloch y prynhawn;

 

     dydd Llun, 5 Chwefror, 2007 am 2 o'r gloch y prynhawn.

 

      

 

      

 

      

 

              E.G.Davies

 

              Cadeirydd