Cyngor Ymgynghorol Sefydlog at Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CYS) dogfennau , 9 Mawrth 2010

Cyngor Ymgynghorol Sefydlog at Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CYS)
Dydd Mawrth, 9fed Mawrth, 2010

CYNGOR YMGYNGHOROL SEFYDLOG AR ADDYSG GREFYDDOL

CYSAG

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mawrth, 2010

 

YN BRESENNOL:

 

Cynghorydd E.G.Davies (Cadeirydd)

Mr Rheinallt Thomas (Eglwys Bresbyteraidd Cymru) (Is-Gadeirydd)

 

Yr Awdurdod Addysg

 

Cynghorydd Raymond Jones

 

Yr Enwadau Crefyddol

 

Parch.Peter McLean (Yr Eglwys yng Nghymru)

Mrs Catherine Jones (Undeb y Bedyddwyr)

 

Undebau’r Athrawon

 

Mrs Mefys Edwards (UCAC)

Mr Martin Wise (ASCL)

 

Aelodau Cyfetholedig

 

Mrs Helen Roberts (Prifysgol Bangor)

Y Parch. Elwyn Jones (Cyngor yr Ysgolion Sul)

 

 

 

WRTH LAW:

 

Pennaeth Gwasanaeth Addysg

Ymgynghorydd y Dyniaethau (Miss Bethan James)

Swyddog Addysg Uwchradd (Mrs Menai Wyn Jones)

Swyddog Pwyllgor (ATH)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Cynghorwyr P.M.Fowlie, G.O.Jones, Thomas Jones, Mr Stephen Francis Roe, yr Athro Euros Wyn Jones, Mrs Leusa Jones (Athrawes Ymgynghorol Addysg Grefyddol)

 

Croesawodd y Cadeirydd pawb oedd yn bresennol i’r cyfarfod hwn o’r CYSAG.

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Cyflwynwyd a nodwyd yr ymddiheuriadau am absenoldeb a restrwyd uchod.

 

2

DATGAN DIDDORDEB

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

 

3

COFNODION

 

Cyflwynwyd ac arwyddwyd fel rhai cywir, cofnodion cyfarfod blaenorol y Cyngor Ymgynghorol a gynhaliwyd ar 13 Hydref, 2009.

 

 

 

Yn codi - Eitem 3 - Cofnodion

 

 

 

Gofynnodd y Cadeirydd am gadarnhad bod y pecyn CDs ar destun A Jewish Way of Life  wedi’i ddosbarthu i’r ysgolion. Cadarnhaodd Ymgynghorydd y Dyniaethau bod Sefydliad Pears wedi dosbarthu’r CDs ac fe addawodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) y byddai’n ceisio darganfod beth yw hanes y Cds ac os yw’r ysgolion wedi derbyn copi ohono.

 

4

CYMDEITHAS CYSAGau CYMRU

 

 

 

Cyflwynwyd - Cofnodion cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd, 2009 yn Tonypandy.

 

 

 

Fel un o gynrychiolwyr CYSAG Ynys Môn oedd yn bresnnol yn y cyfarfod uchod, fe adroddodd yr Is-Gadeirydd ar rai o brif destunau trafod y cyfarfod yn Tonypandy fel a ganlyn -

 

 

 

Ÿ

Cafwyd cyflwyniad gan Joanne Glenn, sef Pennaeth Uned Strategaeth Cydlyniant Cymunedol Llywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch Strategaeth Cydlyniant Cymunedol Cymru Gyfan. Roedd Ms Glenn wedi esbonio y dylid deall cydlyniant cymunedol fel rhywbeth eang ei ystyr sydd yn cwmpasu nid yn unig ffydd a hil ond sydd hefyd yn ymwneud â datblygu cyd-ddealltwriaeth a pharch, ynghyd â chyfleoedd cyfartal i  hyrwyddo mynediad at wasanaethau. Yr oedd hefyd yn golygu cyfannu, gwerthfawrogi gwahaniaeth a chanolbwyntio ar werthoedd a rennid. Un o amcanion y strategaeth yw mapio cymunedau lleol a chanfod beth yw pryderon pobl ac yn y cyswllt hwn, cydnabuwyd y byddai gan bob ardal yng Nghymru ei phroblemau ei hun. Roedd pob Awdurdod Lleol yng Nghymru wedi derbyn copi o’r Strategaeth hon. Bu i Ms Glenn hefyd gyfeirio at yr adborth mewn perthynas â’r bennod ar ddysgu, oedd yn cynnwys pwyslais ar ddysgu gydol oes, yr angen i athrawon ddeall ystyriaethau cydlyniant a chyfraniad Addysg Grefyddol tuag ato, a hefyd swyddogaeth ysgolion mewn perthynas ag addysgu diwylliannau eraill a lleihau tensiynau.

 

 

 

Aeth yr Is-Gadeirydd rhagddo i esbonio bod Ms Glenn wedyn cyflwyno agwedd benodol ar gydlyniant o dan gynllun CONTEST  sy’n amcanu at leihau’r peryglon i’r Deyrnas Unedig a’i buddiannau dramor gan derfysgaeth ryngwladol. Un o bedair ffrwd gwaith y cynllun CONTEST yw  atal unigolion rhag dod yn derfysgwyr a rhag cefnogi eithafiaeth dreisgar a bod hynny’n cael ei wneud  trwy is-gynllun PREVENT. Nod yr is-gynllun yw gweithio’n erbyn ideoleg eithafol ar ei amryfal weddau, a chefnogi a grymuso cymunedau wrth iddynt ymwneud ag eithafwyr. Bu i Ms Glenn hefyd sôn am sut y gallai cyrff CYSAGau chwarae rhan mewn cydlyniant cymunedol trwy hybu Addysg Grefyddol, trwy edrych ar broblemau lleol o safbwynt Addysg Grefyddol a chyfrannu at y drafodaeth ar brosiect PREVENT. Dywedodd yr Is-Gadeirydd y bu trafodaeth gynhwysfawr a bywiog yn y cyfarfod yn Tonypandy ar faterion yn codi o’r cyflwyniad hwn gan gynnwys yr awgrymiad ynghylch cael TGAU mewn Efrydiau Islamaidd. Roedd yna deimlad yn y cyfarfod bod y prosiectau hyn yn gor-ganolbwyntio ar y ffydd Foslemaidd a bod angen ehangu eu ffocws.  Ond swm a sylwedd y mater yw bod yna gyllid gwerth £2m ar gael i’w rannu rhwng bob sir yng Nghymru ar gefn y Strategaeth hon ac mai’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ym mhob sir sy’n gyfrifol am benderfnyu sut mae’r Awdurdod Addysg yn gwario’r arian hwn.

 

 

 

Soniodd Ymgynghorydd y Dyniaethau bod yr arian yn gyfraniad at gefnogi prosiectau fydd yn dod â chymunedau ynghyd nid yn unig o berspectif crefydd a ffydd ond hefyd yn yr ystyr bod yna gymodi rhwng y cenhedloedd, er enghraifft, rhwng y to hen a’r to ifanc. Rhoddodd wybod i aelodau’r CYSAG yn ogystal bod yna brosiect peilot ar y gweill i gefngoi athrawon uwchradd yn bennaf a fydd yn rhoi arweiniad i athrawon ynglyn â sut i ymdrin â phynciau llosg a phynciau sensitif ar lawr y dosbarth yn ymwneud â Hanes megis yr Holocost  a difrodi’r Twin Towers ar “9/11” trwy weithred terfysgol.  Mae’r prosiect sydd  eisoes ar waith yn Lloegr am gael ei dreialu yng Nghymru o dan y  teitl, “ Atgyfnerthu” ac mae’n gyfrwng i athrawon ddatblygu a miniogi eu sgiliau wrth ymdrin â materion anodd ar lawr y dosbarth. Rhaid cofio bod plant yn aml yn dod i’r ysgol gyda’u rhagfarnau eu hunain y maent wedi eu codi o’r cartref neu o’r wasg ac nad oes ganddynt o reidrwydd y sgiliau meddwl beirniadol i fynegi barn bersonol am faterion llosg. Cyn y Nadolig bu i athrawon Hanes ac athrawon Addysg Grefyddol gyd-weithio i ystyried sut orau i gyflwyno pwnc megis yr ymosodiad ar y Twin Towers i ddisgyblion o fewn y dosbarth. Mae gofyn i  athrawon fod yn sensitif mewn amgylchedd dosbarth wrth ddelio gyda syniadau  a chredoau disgyblion, gyda gwerthoedd eu teuluoedd a hefyd gyda gwerthoedd eu cymunedau boed rheini’n seciwlar neu’n grefyddol. Fodd bynnag, dywedodd yr Ymgynghorydd Dyniaethau ei bod yn edrych ymlaen at weld y prosiect hwn yn cael ei weithredu er mwyn meithrin sgiliau addysgu athrawon  ar lefel y dosbarth gan hyderu hefyd y bydd ysgolion lleol yn fodlon gweithredu fel ysgolion peilot gan bod y prosiect yn rhan o’r cyd-destun Medrau Meddwl.

 

 

 

Ÿ

Aeth yr Is-Gadeirydd ymlaen i gyfeirio at ail gyflwyniad cyfarfod Tonypandy gan Tania ap Sion, Cyfarwyddwr Gweithredol Canolfan y Santes Fair ym Mangor. Ei thestun hi oedd Ategu Addysg Grefyddol yn Llyfrgell Deiniol Sant a chyflwyniad ffeithiol ei gynnwys ydoedd yn amlinellu cyfraniad aml agweddog y Ganolfan i faes Addysg Grefyddol. Cafwyd  trydydd cyflwyniad gan Mary Parry ar thema, Doliau Persona. Mewn anerchiad diddordol iawn, dangosodd Ms Parry sut y gwenir defnydd cynyddol o  ddoliau persona yn y Cyfnod Sylfaen i gynorthwyo disgyblion archwilio materion o bwys neu o bryder iddynt megis hiliaeth, bwlio, cyfeillion, babanod newydd ac ati. Rhoddir nodweddion a phersonoliaethau i’r doliau ac fe ellir eu haddasu i gwrdd ag anghenion y cyd-destun lleol ac i ddynodi gwahanol ffydd. Ceir adnoddau i gyd-fynd â’r doliau persona, sef fideo a llyfr cymorth, Persona Dolls in Action a llyfrynnau eraill. Dygodd yr Is-Gadeirydd sylw’r aelodau hefyd at y ffaith bod casgliad defnyddiol iawn o ddeunyddiau Addysg Grefyddol ar wefan GDC Cymru gan gynnwys cyfraniadau gan Mary Parry.

 

 

 

Ÿ

Dywedodd yr Is-Gadeirydd ei fod wedi crybwyll yng ngyfarfod blaenorol y CYSAG bod yna ddadansoddiad am gael ei wneud o lefelau presenoldeb y siroedd yng nghyfarfodydd Cymdeithas CYSAGau Cymru dros gyfnod o dair blynedd. Mae’r wybodaeth wedi’i choladu bellach a’i chyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ac heb gynnwys yr ymgynghorwyr yn yr ystadegau, gellir adrodd bod 13 sir gyda phresenoldeb gyson neu wedi colli 1 cyfarfod yn unig; mae 4 sir wedi colli 3 cyfarfod; mae 3 sir wedi colli 4 cyfarfod ac ond dwy sir, sef Sir Benfro a Merthyr sydd wedi bod â diffyg presenoldeb mewn cyfarfodydd.

 

 

 

Ÿ

Yn olaf, dywedodd yr Is-Gadeirydd bod Cymdeithas CYSAGau Cymru wedi cyhoeddi rota o leoliadau ar gyfer ei gyfarfodydd o 2011 hyd at 2017. Bydd Ynys Môn yn croesawu’r Gymdeithas yn yr Haf, 2011 ac fe olyga hyn waith paratoadol  yn cynnwys pennu dyddiad cyfleus ar gyfer y cyfarfod, trefnu lleoliad a  lluniaeth a sicrhau bod yna gyfleusterau parcio addas.

 

 

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Is-Gadeirydd am ei grynodeb o uchafbwyntiau trafod cyfarfod Tonypandy. Yng nghyswllt y cyflwyniad gan Joanne Glenn, tynnodd y Pennaeth Gwasanaeth Addysg sylw’r CYSAG at y ffaith y cafodd yr Awdurdod Addysg ei arolygu mewn  pum maes yn Nhachwedd, 2009 gan gynnwys ym maes Cynhwysiad, ac mi roedd yna feirniadaeth gan yr Arolygwyr nad yw’r Awdurdod yn adrodd mor dda ag y gallai am berfformiad grwpiau o blant ac o dan y pennawd hwn gellir cynnwys lleiafrifoedd ethnig. Er bod canran fach iawn o boblogaeth Môn yn hannu o gefndir ethnig lleiafrifol, mae gwybodaeth dda gan yr Awdurdod ynghylch y grwp hwn  ac fe ddylid adrodd ar berfformiad yr unigolion hynny o gefndir ethnig lleiafrif. Awgrymodd yn ogystal bod y CYSAG yn gofyn i Gyd-Gysylltydd y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ym Môn am wybodaeth ynglyn â beth yw cyfran Môn o’r £2m sydd ar gael ar sail Cymru i gefnogi prosiectau cydlyniant cymunedol o dan Strategaeth Cydlyniant Cymunedol Llywodraeth y Cynulliad, a beth yw’r defnydd bwriedig ar gyfer y grant hwn. Roedd aelodau’r CYSAG yn gefnogol i’r awgrym yma. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) hefyd bod angen sefydlu pwy fydd yn cynrychioli’r CYSAG yng Nghyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru yn Abertawe ar 18 Mawrth. Cytunwyd byddai’r Cadeirydd, yr Is-Gadeirydd ac Ymgynghorydd y Dyniaethau yn mynychu’r cyfarfod hwn.

 

 

 

Penderfynwyd -

 

 

 

Ÿ

Nodi cynnwys cofnodion cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd yn Tonypandy ar 13 Tachwedd, 2009.

 

Ÿ

Gofyn i’r Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) gynnal ymholiadau gyda Chyd-Gysylltydd Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ynys Môn i ganfod beth yw cyfran Ynys Môn o’r grant i hyrwyddo cynlluniau cydlyniant cymunedol o dan Strategaeth Cydlyniant Cymunedol Llywodraeth y Cynulliad ynghyd â sut y bwriedir ei ddefnyddio.

 

Ÿ

Nodi mai’r Cadeirydd, yr Is-Gadeirydd ac Ymgynghorydd y Dyniaethau fydd yn cynrychioli’r CYSAG yng nghyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru yn Aberatwe ar ddydd Iau, 18 Mawrth, 2010.

 

 

 

5

AROLYGIADAU YSGOLION

 

 

 

Cyflwynwyd - Gwybodaeth dan Adran 28, Deddf Addysg 2005, am gynnwys y rhannau perthnasol hynny o adroddiadau arolygu mewn perthynas â’r ysgolion a nodir isod -

 

 

 

Ÿ

Ysgol Gynradd Bodedern

 

 

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) bod proffil graddau’r ysgol yn gyfuniad o radd 2 a gradd 3. Gan na chawsai Addysg Grefyddol ei arolygu fel pwnc y tro hwn cyflwynir sylwadau’r Arolygydd mewn perthynas â Chwestiwn Allweddol 3, sef  Pa mor dda y mae profiadau dysgu yn cwrdd ag anghenion a didordebau dysgwyr a’r gymuned ehangach. Mae’r Arolygydd yn sylwi bod yr ysgol yn cydymffurfio â’r gofyn statudol i gynnal addoliad ar y cyd yn ddyddiol a bod profiadau dysgu da yn hyrwyddo datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol y disgyblion yn effeithiol.

 

 

 

Ÿ

Ysgol Gynradd Henblas

 

 

 

Dyfarnwyd cyfuniad o raddau 1 a 2 i Ysgol Henblas ar draws y saith cwestiwn allweddol a barn yr Arolygwyr yw ei bod yn ysgol dda ac iddi nifer o ragoriaethau. Gan mai arolygiad byr oedd hwn, ni fu’r tîm arolygu yn arolygu’r safonau a gyflawnir mewn pynciau unigol yn achos yr ysgol hon ychwaith. Yng nghyswllt Cwestiwn Allweddol 3 felly, dywed yr Arolygydd bod yr ysgol yn cydymffurfio gyda’r gofyn statudol i gynnal cyd-addoliad dyddiol a bod y staff yn hybu datblygiad ysbrydol y disgyblion yn rhagorol drwy wersi Addysg Grefyddol a thrwy addoliadau ar y cyd. Ychwanega bod yr ysgol hefyd yn hybu datblygiad moesol, cymdeithasol a diwylliannol y disgyblion yn rhagorol.

 

 

 

Ÿ

Ysgol Niwbwrch

 

 

 

Dygodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) sylw’r aelodau at y ffaith bod yr arolygiad a gawsai Ysgol Niwbwrch wedi’i gynnal yn unol â’r drefn arolygu newydd a bod yr ysgol gyda’r cyntaf i dreilau’r dull newydd hwn. O dan y drefn newydd, yn lle arfarnu perfformiad yr ysgol yn erbyn 7 cwestiwn allweddol, caiff perfformiad yr ysgol ei fesur yn erbyn 3 cwestiwn allweddol yn ymwneud â Pha mor dda yw’r canlyniadau; Pa mor dda yw’r ddarpariaeth a Pha mor dda yw’r arweinyddiaeth a’r rheolaeth. Mae’r arolygwyr hefyd yn rhoi barn gyffredinol ar berfformiad presennol yr ysgol a’i rhagolygon ar gyfer gwella. Defnyddir graddfa pedwar pwynt ar gyfer yr arfarniadau hyn sef Rhagorol, Da, Digonol ac Anfoddhaol. Yn achos Ysgol Niwbwrch, barn gyffredinol yr Arolygwr yw bod yr ysgol yn un dda a bod ei rhagolygon ar gyfer gwella hefyd yn dda. O dan bennawd yr Amgylchedd Dysgu (a fernir yn dda) o dan Gwestiwn Allwedol 2, ceir sylwadau sy’n berthnasol i Addysg Grefyddol ac i faes diddordeb y CYSAG. Dywed yr Arolygwr bod datblygiad ysbrydol y disgyblion yn dda a bod ystod eang y profiadau dysgu yn rhoi llawer o gyfleoedd da i ddisgyblion fyfyrio, holi a rhyfeddu. Ymhelaetha trwy ddweud bod sesiynau addoli’r bore yn cael eu cynnal mewn awyrgylch priodol o barchedigaeth a pharch a’u bod yn effeithiol o ran helpu i ddatblygu agweddau ysbrydol, moesol a chymdeithasol y disgyblion.

 

 

 

Ÿ

Ysgol Uwchradd Bodedern

 

 

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) at broffil graddau arbennig o gryf Ysgol Uwchradd Bodedern a gynhwysai 4 gradd 1 a thri gradd 2. Mewn perthynas â Chwestiwn Allweddol 3 - Pa mor dda y mae profiadau dysgu yn cwrdd ag anghenion a diddordebau dysgwyr a’r gymuned ehangach, barn yr Arolygwr yw bod perfformiad yr ysgol yn dda gyda nodweddion rhagorol. Fel enghraifft dywed yr Arolygwr bod gan yr ysgol raglen addysg bersonol a chymdeithasol strwythuredig o ansawdd da sy’n cyfrannu’n dda at ddatblygiad cymdeithasol y disgyblion. Sonia hefyd bod gwasanaethau ysgol bedair gwaith yr wythnos a’r elfen o addoli ar y cyd yn y grwpiau tiwtor a’r clybiau boreol yn caniatau i’r holl ddisgyblion a myfyrwyr ddatblygu’n ysbrydol. Ymhlith y rhagoriaethau noda’r Arolygwr ddatblygiad moesol y disgyblion ac mae’n sylwi yn ogystal ar eu cwrteisi a’u parodrwydd i helpu’i gilydd o’u gwirfodd.

 

 

 

Roedd aelodau’r CYSAG wedi’u bodloni gan yr adroddiadau uchod fel tystiolaeth o berfformaid gadarn yr ysgolion mewn perthynas ag agweddau Addysg Grefyddol. Roeddent yn barod i’w derbyn ac i ofyn i’r Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) gydnabod y cyflawniad trwy’r llythyr o ddiolch arferol.

 

 

 

Penderfynwyd -

 

 

 

Ÿ

Derbyn y wybodaeth mewn perthynas â chyflawniad y pedair ysgol a nodir yng nghyswllt agweddau Addysg Grefyddol.

 

Ÿ

Gofyn i’r Pennaeth Gwasanaeth (Addysg):

 

Ÿ

gyfleu diolchiadau’r CYSAG mewn llythyr at y Penaethiaid, a hefyd

 

Ÿ

gofyn iddynt ddarparu copi o’r hunan-arfarniad Addysg Grefyddol diweddaraf.

 

 

 

6

ADDYSG GREFYDDOL YN Y CYFNOD SYLFAEN

 

      

 

     Rhoddodd Ymgynghorydd y Dyniaethau gyflwyniad gweledol eang a chynhwysfawr yn ymwneud â’r dulliau a’r ymagwedd tuag at addysgu Addysg Grefyddol yn y Cyfnod Sylfaen sy’n cymryd arno ffurf y testun - Pobl, Credoau a Chwestiynau.

 

      

 

     Mae rhai o’r pwyntiau y bu i Ymgynghorydd y Dyniaethau gyfeirio atynt wedi’u nodi isod -

 

      

 

Ÿ

Blaenoriaethau presennol yn cynnwys codi ymwybyddiaeth o ofynion Maes Llafur Cytun Môn a Gwynedd a chynllunio gweithgareddau dysgu sy’n datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a’r sgiliau sy’n berthnasol i destun, Pobl, Credoau a Chwestiynau.

 

Ÿ

Y ddogfennaeth berthnasol y canolbwyntiwyd arnynt sy’n cwmpasu, Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd, Dysgu Tu Allan i’r Dosbarth, Chwarae a Dysgu Gweithredol; Addysgu ar gyfer Datblygiad Cynaladwy a Dinasyddiaeth Byd Eang ynghyd â’r Fframwaith Sgiliau ar gyfer Dysgu Plant 3 -19 oed.

 

Ÿ

Cyflwyno’r testun trwy ddefnyddio cyfryngau megis gwneud defnydd o arteffactau; cynnal ymweliadau; gwrando ar storiau crefyddol; creu arddangosfeydd dosbarth; mynegi ymatebion perthnasol a gwneud defnydd o adnoddau.

 

Ÿ

Datblygu rhaglenni hyfforddiant i ymateb i’r Maes Llafur Cytun ar destunau defnyddio llyfr stori; defnyddio’r gornel chwarae a theganau’r Byd Bach; a mynegi ymatebion personol.

 

Ÿ

Cynllunio cyfleoedd - defnyddio calendr a digwyddiadau tymhorol  i lunio cyfleoedd dysgu   megis yn y Gwanawyn ceir Sul y Mamau, diwrnod coffau Santes Dwynwen, Dydd Gwyl Ddewi a’r Pasg; yn yr Haf ceir Sul y Tadau; daw’r Hydref  a’r Cynhaeaf a’r Nadolig a Gwyl Divali.

 

Ÿ

Llunio cyfleodd allan o sbardun - rhoddwyd fel enghraifft stori Salamatu a Kandoni ar goll  (gan Steve Brace) sef stori am ferch fach yn wlad Ghana sy’n gofalu am afr sy’n myd ar goll. Dangosodd yr Ymgynghorydd trwy gyfrwng grid ym mha ffordd mae’r stori hon yn rhoi cyfle i’r athro/awes ddatblygu ystod o sgiliau yn ymwneud  â datblygu iaith, llythrennedd a chyfathrebu; amrywiaeth diwylliannol a chreadigol; datblygu’r Gymraeg; datblygiad corfforol; datblygiad cymdeithasol, gwybodaeth a dealltwriaeth o’r byd. O safbwynt y testun penodol, Pobl, Credoau a Chwestiynau mae’r stori yn dangos tad y ferch fach yn addoli mewn mosg sy’n rhoi cyfle i sôn am addoli mewn mosg, am arferion moslemaidd, am fasnach deg a gweithgareddau Oxfam.Yn yr achos hwn bu i’r ysgol godi arian i brynu gafr i deulu yn Ghana. Enghraifft unigryw yw hwn o sut mae un ysgol wedi defnyddio cnewyllyn o stori ac wedi gwau cyfleoedd dysgu eang allan ohoni.

 

Ÿ

Addysgu a Dysgu Effeithiol - defnyddiwyd fformat y pyramid sy’n adlewyrchu egwyddorion sylfaenol y Cyfnod Sylfaen er mwyn paratoi canllawiau i’r Maes Llafur Cytun. Ar waelod y pyramid ceir darpariaeth barhaus sylfaenol yn cwmpasu ardaloedd sydd ar gael drwy gydol y flwyddyn; mae ail haen y pyramid yn ymwneud â Chyfoethogi’r Ddarpariaeth, sef cyfoethogi’r ddarpariaeth trwy ychwanegu at y ddarpariaeth barhaus i greu cyfleoedd dysgu ychwanegol; ac mae’r drydedd haen yn canolbwyntio ar Dasgau Ffocws sef gweithgareddau penodol wedi’u cynllunio.

 

Ÿ

Doliau Persona - defnyddir y rhain i arddangos credoau ac amrywiaeth diwylliannaol ac  i feithrin amgyffred o broblemau bywyd. Maent hefyd yn gyfrwng effeithiol iawn ar gyfer chwalu syniadau am stereoteip.

 

Ÿ

Cyfeiriwyd at lu o ddeunyddiau ategol sydd ar gael i gynorthwyo athrawon gyda chyflwyno Addysg Grefyddol yn y Cyfnod Sylfaen ac fe gylchredwyd rhai esiamplau er sylw’r aelodau.

 

Ÿ

Soniwyd am Ysgol Bro Tryweryn fel yr un gyntaf i gael ei harolygu o dan y Maes Llafur Cytun newydd ac mae’r casgliadau yn rhai cadarnhaol iawn o safbwynt cyrhaeddiad plant yn y Cyfnod Sylfaen yn nhermau eu haeddfedrwydd a’u hyder, eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r maes.

 

 

 

Diolchodd y Cadeirydd yn fawr i Ymgynghorydd y Dyniaethau am gyflwyniad diddorol a dywedodd bod lle i werthfawrogi’r cyfoeth o adnoddau sydd ar gael yn awr ar gyfer plant yn astudio Addysg Grefyddol ar wahanol lefelau.

 

 

 

Penderfynwyd nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd a diolch i Ymgynghorydd y Dyniaethau am y cyflwyniad.

 

 

 

7

MATERION ERAILL YN CODI

 

      

 

Ÿ

Dywedodd  Ymgynghorydd y Dyniaethau wrth yr aelodau y byddai’n cael sgwrs gyda Mr Iwan Roberts o ESTYN y mae ganddo gyfrifoldeb am Addysg Grefyddol ynglyn ag unrhyw bryderon sydd gan athrawon yn y maes. Gofynnodd i’r athrawon hynny sy’n aelodau o’r CYSAG gysylltu â hi os oeddent yn teimlo bod ganddynt unrhyw fater y deisyfent iddi ei godi gyda Mr Iwan Roberts.

 

Ÿ

Dygodd yr Is-Gadeirydd sylw at y ffaith yr anfonwyd llythyr at Anne Keen, Prif Arolygydd ESTYN yn gofyn am gadarnhad y bydd elfennau addoli ar y cyd ac Addysg Grefyddol statudol yn cael ystyriaeth teilwng o dan y drefn arolygu newydd. Dywedodd hefyd bod Mudiad Addysg Grefyddol Cymru wedi ariannu cyfieithydd gwasanaethau uwchradd ers rhai blynyddoedd bellach a bod yna gonsyrn wedi’i fynegi nad yw rhai ysgolion yn ymwybodol bod yr adnodd hon ar gael. Roedd taflen wybodaeth i godi ymwybyddiaeth o’r ddarpariaeth wedi’i pharatoi ac yn barod i’w dosbarthu i ysgolion uwchradd.

 

 

 

8

DYDDIADAU CYFARFODYDD Y CYSAG AM Y FLWYDDYN I DDOD

 

      

 

     Nodwyd byddai cyfarfodydd y CYSAG yn cael eu cynnal ar y dyddiadau a’r amseroedd a ganlyn yn ystod y flwyddyn i ddod -

 

      

 

     Dydd Llun, 7 Mehefin, 2010; dydd Llun, 12 Hydref, 2010, a dydd Llun, 7 Chwefror, 2011.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cynghorydd E.G.Davies

 

        Cadeirydd